Skip page header and navigation

CompTIA Diogelwch+ (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

  • Ar-Lein
Cwrs hyfforddi 5 diwrnod o hyd dan arweiniad hyfforddwr

Mae’r Cwrs Ardystio CompTIA Security+ yn rhaglen sy’n arwain y diwydiant a gynlluniwyd i roi’r wybodaeth a’r sgiliau hanfodol i chi sydd eu hangen i ragori yn y dirwedd ddiogelwch TG gymhleth sydd ohoni heddiw. Mae’r cwrs hwn yn darparu sylw cynhwysfawr i bynciau megis diogelwch rhwydweithiau, bygythiadau a gwendidau, rheoli mynediad, rheoli hunaniaethau, a chryptograffeg.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Pellter
Hyd y cwrs:
Cwrs hyfforddi 5 diwrnod o hyd dan arweiniad hyfforddwr

Cysylltwch am brisiau (Cyllid ar Gael)

Achrededig:
CompTIA logo

Disgrifiad o'r Rhaglen

I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.

Yn ogystal, rhaid i chi fod:

●    yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu

●    yn hunangyflogedig neu

●    yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)

Does dim cap cyflogau o ran cyllid ar gyfer y cwrs hwn.

Mae’r hyfforddwyr ymrwymedig a phrofiadol yn rhoi profiadau dysgu rhyngweithiol, real sydd yn ddiddorol a hefyd yn effeithiol. Mae’r model ystafell rithwir yn meithrin amgylchedd cymunedol, gan annog cydweithrediad a chyfranogiad gweithredol, sy’n gallu gwella eich dysgu’n sylweddol.

Nid yw ardystiad CompTIA Security+ yn unig yn dilysu eich hyfedredd technegol; mae hefyd yn arddangos eich ymrwymiad i gynnal y safonau diogelwch uchaf yn eich arfer proffesiynol.

Mae’r Cwrs Ardystio CompTIA Security+ yn gweddu’n ddelfrydol i weithwyr proffesiynol TG sy’n anelu at adeiladu sylfaen gref mewn arferion seiberddiogelwch. Mae hyn yn cynnwys gweinyddwyr rhwydweithiau, ymgynghorwyr diogelwch, peirianwyr diogelwch ac archwilwyr TG.

Mae’n ased amhrisiadwy hefyd i unrhyw un sy’n dyheu am lansio ei yrfa diogelwch TG. Mae’r cwrs yn gweithredu fel carreg sarn i ardystiadau seiberddiogelwch lefel uwch, gan ei wneud yn ddewis doeth i weithwyr proffesiynol uchelgeisiol.

Bydd cwblhau’r Dystysgrif CompTIA Security+ hon yn llwyddiannus yn galluogi dysgwyr i chwilio am rolau swyddi amrywiol gan gynnwys fel Technegydd Cymorth TG, Uwch Gymorth TG, Dadansoddwr Seiberddiogelwch, Dadansoddwr Diogelwch Gwybodaeth a Dadansoddwr Diogelwch Rhwydwaith.

Cyllid CDP

Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.

Cyllid ReAct+

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.