Skip page header and navigation

CompTIA A+ (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

  • Ar-Lein
Cwrs hyfforddi 5 diwrnod o hyd dan arweiniad hyfforddwr

CompTIA A+ (Computing Technology Industry Association) yw’r ardystiad sy’n arwain y diwydiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol TG.  Gydag ardystiad CompTIA A+, gallwch fod yn hyderus bod gennych y wybodaeth a’r sgiliau i lunio, cynnal, datrys problemau a chefnogi unrhyw amgylchedd cyfrifiadurol.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Pellter
Hyd y cwrs:
Cwrs hyfforddi 5 diwrnod o hyd dan arweiniad hyfforddwr

Cysylltwch am brisiau (Cyllid ar Gael)

Achrededig:
CompTIA logo

Disgrifiad o'r Rhaglen

I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.

Yn ogystal, rhaid i chi fod:

●    yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu

●    yn hunangyflogedig neu

●    yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)

Does dim cap cyflogau o ran cyllid ar gyfer y cwrs hwn.

Mae’r cwrs ystafell ddosbarth rithwir dan arweiniad hyfforddwr yn eich galluogi i ennill eich ardystiad CompTIA A+ heb orfod mynychu dosbarthiadau corfforol.  Mae’r ystafelloedd dosbarth rhithwir yn darparu’r un cyfarwyddyd ac ardystiad o ansawdd â chyrsiau ystafell ddosbarth traddodiadol gyda chyfleustra a hyblygrwydd ychwanegol.

Rydym yn darparu amrywiaeth o adnoddau i’n myfyrwyr megis profion ymarfer a deunyddiau astudio.  Mae gennym hefyd hyfforddwyr profiadol wrth law sydd ar gael i ateb unrhyw gwestiynau a darparu cefnogaeth barhaus trwy gydol y cwrs.

Gyda’r cwrs CompTIA rhithwir, gallwch astudio o gysur eich cartref neu weithle eich hun - unrhyw bryd, unrhyw le!  Felly pam aros?  Ewch ati i ardystio heddiw a chychwyn ar eich taith i ddod yn weithiwr proffesiynol TG cymwys.

Mae cwrs ardystio CompTIA A+ yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno lansio gyrfa yn y sector technoleg gwybodaeth (TG).  Waeth beth fo’ch cefndir neu lefel eich profiad, mae’r cwrs hwn yn garreg sarn tuag at yrfa werth chweil a llewyrchus mewn TG.

Mae achrediadau CompTIA yn cael eu cydnabod fel ardystiadau sy’n arwain y diwydiant ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno lansio gyrfa TG lwyddiannus.  Gall pasio eich arholiadau ardystio CompTIA agor amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa yn y sector TG.

Cyllid CDP

Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.

Cyllid ReAct+

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.