Cynllun Strategol 2022 - 2026
Introduction
-
Yn sgil newidiadau allweddol ym Mholisi Llywodraeth Cymru, gwireddu Brexit a dyfodiad pandemig y Coronafeirws, mae’r Coleg wedi gwneud sawl addasiad i’w Gynllun Strategol presennol. Rydym yn falch iawn o allu rhannu’r newidiadau hyn gyda chi wrth i ni ganolbwyntio ar agenda adnewyddu a diwygio Llywodraeth Cymru yn y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.
Bydd ein pwrpas yn aros yr un fath; i ysbrydoli ein dysgwyr ac i sicrhau bod pob dysgwr yn cyrraedd ei lawn botensial, tra’n ennill rhagoriaeth gyda’n gilydd. Mae’r pandemig wedi cyflymu newid technolegol mewn addysg a gyda’n gilydd rydym wedi croesawu’r heriau hyn, ond mae mwy i’w wneud o hyd. Mae cyflwyno Strategaeth Ddigidol y Coleg yn llwyddiannus wedi rhoi ffocws ychwanegol ar y maes datblygu hwn a byddwn yn parhau i ystyried digideiddio, yn yr ystafell ddosbarth ac ar gyfer effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ein busnes hefyd.
Mae ein blaenoriaethau strategol yn canolbwyntio’n ddiflino ar addysgu, dysgu, profiad dysgwyr, gwytnwch busnes cynaliadwy a gweithio mewn partneriaeth. Bydd yr olaf mor bwysig wrth i ni ystyried ein gwaith partneriaeth yn y gymuned, gan gefnogi cyflogwyr ac unigolion i wella eu sgiliau cyflogaeth a chyflogadwyedd a chynyddu eu gwytnwch mewn byd sy’n newid yn barhaus.
Bydd gwireddu Bil Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER) yn dod â chyfleoedd a heriau hefyd wrth i ni ystyried perthynas waith integredig gyda’r Brifysgol, fel rhan o ddull sector deuol llwyddiannus tuag at addysg. Gan weithio gyda’n gilydd, mae Grŵp PCYDDS mewn sefyllfa gref i fynd i’r afael â’r heriau strategol, ariannol a gweithredol sydd o’n blaenau yn ddiamau, tra’n dod yn ysgogydd pwysig i ddatgloi cyfalaf dynol ac economaidd yn rhanbarthau De-orllewin Cymru a Chanolbarth Cymru.
Mae ein meddyliau olaf yn ymwneud â Brexit, ei effaith ar gyflogwyr a cholli cronfeydd Ewropeaidd i gefnogi ein gwaith. Bydd cefnogi busnes yn hollbwysig yn y misoedd nesaf, fel y bydd y gofal a’r gefnogaeth a rown i’n dysgwyr a’n staff. I bob un ohonom bydd yn bwysig ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau ein bod yn creu diwylliant o ofal, arloesi a phositifrwydd, sydd wedi’i danategu gan y gwerthoedd parch, undod a phroffesiynoldeb.
Mae hwn yn Goleg gwych, dylem i gyd fod yn falch o’n cyflawniadau yn y cyfnod anodd mwyaf diweddar, ond mae’n rhaid i ni nawr edrych ymlaen at y dyfodol a’r llawenydd a’r cyffro a ddaw yn ei sgil.
-
Ysbrydoli
dysgwyrcyflawni
potentsialennill
rhagoriaeth -
Byddwn ni’n:
- rhoi anghenion y dysgwr yn gyntaf;
- diogel, cynhwysol a gofalgar;
- byw yn ôl ein gwerthoedd a’n hymddygiadau;
- rhoi’r profiad gorau i’r dysgwyr, wedi’i gyfoethogi gan dechnoleg ddigidol;
- hwyluso datblygiad personol a dilyniant i ddysgwyr;
- annog chwilfrydedd a chreadigedd mewn addysgu a dysgu;
- datblygu cwricwlwm hyblyg, wedi’i lywio gan gyflogwyr;
- hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru;
- gweithredu rhaglen datblygu gweithlu uchelgeisiol;
- datblygu partneriaethau sy’n effeithio’n gadarnhaol ar ddysgwyr a pherfformiad busnes;
- gwella ein gwytnwch ariannol a’n heffeithlonrwydd;
- cefnogi adfywio a ffyniant yn ein cymunedau; ac yn
- creu amgylchedd cynaliadwy i ddysgwyr fod yn llwyddiannus
-
- Addysgu a dysgu rhagorol
- Profiad dysgwyr ysbrydoledig
- Gwytnwch sefydliadol cynaliadwy
- Gwaith partneriaethau ymrwymedig
-
PARCH
Byddwn ni’n:
- derbyn gwahaniaeth a rhoi cyfle i bawb ffynnu;
- empathig at anghenion ein gilydd;
- cwrtais a charedig i’n gilydd;
- cefnogol ac yn gofalu am ein gilydd;
- barod ac yn fodlon i ymgysylltu’n gadarnhaol.
UNDOD
Byddwn ni’n:
- un tîm gyda set o gyrchnodau cyffredin a chyfeiriad unedig;
- ystyriol o’n hymddygiad a’n hiaith, a’i effaith ar eraill;
- dwyieithog o ran ein cyfathrebu ac ymgysylltu;
- integredig gyda’n cymuned a’n partneriaid;
- tryloyw ym mhob agwedd ar ein gwaith.
PROFFESIYNOLDEB
Byddwn ni’n:
- onest ac yn ymddwyn gyda chywirdeb;
- cael ein gyrru i ddarparu addysg a gwasanaeth cwsmer rhagorol;
- agored i dderbyn safbwyntiau gwahanol sy’n llywio ein penderfyniadau;
- sefydliad dysgu â natur chwilfrydig;
- cynaliadwy yn ein cynllunio a’n darpariaeth.
-
Byddwn ni’n:
- enwog am safonau eithriadol, ymchwil ac arloesi mewn addysgu a dysgu.
- meithrin a herio pob dysgwr i gyflawni ei lawn botensial
- meddu ar ymarferwyr addysgu rhagorol gyda gwybodaeth bynciol a phrofiad ardderchog a chyfoes
- gwella llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol dysgwyr i’w galluogi i ddod yn ddysgwyr annibynnol.
- hybu sgiliau Cymraeg dysgwyr a staff i alluogi cyfathrebu’n effeithiol mewn cymdeithas ddwyieithog.
- datblygu sgiliau entrepreneur a chyflogadwyedd dysgwyr i lwyddo a ffynnu mewn economi fyd-eang
- darparu cwricwlwm cynhwysol, perthnasol ac ysbrydoledig sy’n galluogi dilyniant a chyflogaeth
- darparu cyfleusterau ac adnoddau dysgu o ansawdd uchel yn gyson, gan gynnwys technoleg sy’n benodol i ddiwydiant
- meithrin dysgwyr cyfrifol sy’n cyfrannu’n gadarnhaol at eu cymunedau
-
Byddwn ni’n:
- sicrhau diogelwch, lles a gofal pob dysgwr
- gwerthfawrogi, gwrando ac ymateb i’n dysgwyr
- yrwyddo cynwysoldeb, cydraddoldeb, amrywiaeth, goddefgarwch a pharch
- cyflwyno proses derbyn a chofrestru ddigidol sy’n canolbwyntio ar y dysgwr
- darparu rhaglen gynefino a thiwtorial ysbrydoledig a phwrpasol
- cynnig gweithgareddau cyfoethogi sy’n cefnogi iechyd, lles, chwaraeon, datblygiad ieithyddol a diwylliannol
- ymgorffori’r Gymraeg a phrofiadau diwylliannol ar hyd taith y dysgwr
- sicrhau bod pob dysgwr yn gallu cael mynediad i gyngor gyrfaol addysgiadol a diduedd ac arweiniad cyflogadwyedd
- annog dysgwyr i symud ymlaen i lefelau dysgu uwch, cyflogaeth neu hunangyflogaeth
- dathlu a hyrwyddo dilyniant a llwyddiant dysgwyr a chyn-fyfyrwyr
-
Byddwn ni’n:
- creu diwylliant dwyieithog o gynwysoldeb, arloesi a phositifrwydd yn ein holl waith
- darparu eglurder a ffocws wrth gyfathrebu ein cyfeiriad strategol
- mwyafu perfformiad busnes a chyflawni gwytnwch ariannol
- gweithredu strategaeth recriwtio a marchnata ddiwygiedig
- sicrhau amrywiaeth incwm a datblygiad cynaliadwy
- sefydlu’r Coleg fel amgylchedd dysgu a gwrando
- cynhyrchu rhaglen datblygu gweithlu ddeinamig ar gyfer staff ar bob lefel
- datblygu ystâd sy’n gynaliadwy yn ariannol ac yn amgylcheddol
- creu Coleg a alluogir drwy dechnoleg ar gyfer addysgu, dysgu ac anghenion busnes
- darparu systemau gwybodaeth effeithlon, effeithiol a diogel
- datblygu strategaethau sy’n brwydro yn erbyn effeithiau ôl-COVID ac ôlBrexit yng Nghymru
-
Byddwn ni’n:
- gweithio gyda’r Brifysgol i sefydlu arferion gwaith a strwythurau Grŵp PCYDDS sy’n ategu ac yn gwella gwaith Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER);
- gweithio ar draws Grŵp PCYDDS i sefydlu cwricwlwm integredig, dwyieithog a llwybrau ymchwil, gan gynnwys datblygu Prifysgol Dechnegol i Gymru;
- cydweithio ag Ysgolion, Colegau, Prifysgolion a chyflogwyr i hwyluso cyflawniad dysgwyr, pontio a dilyniant;
- sefydlu’r Coleg fel partner dewisol ar gyfer cyflogwyr, gydag enw da am ragoriaeth mewn hyfforddiant a datblygu sgiliau yn y dyfodol;
- bod yn bartner gwerthfawr gyda’r ansawdd uchaf i’w broffilio yng nghonsortiwm dysgu seiliedig ar waith B-wbl;
- bod yn bartner allweddol ym mentrau Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Thyfu Canolbarth Cymru, gan gyfrannu’n effeithiol at y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol (RSPs) yn y ddau ranbarth;
- sefydlu partneriaethau strategol i ddatblygu cwricwlwm a phrofiad y Gymraeg i ddysgwyr;
- gweithio’n agos gyda Llywodraeth Genedlaethol a Lleol i alinio’r Coleg â blaenoriaethau cenedlaethol a rhanbarthol;
- datblygu cynllun ar gyfer ymgysylltu â phartneriaethau rhyngwladol
-
- canlyniadau dysgwyr o’u cymharu â meincnodau cenedlaethol
- dilyniant dysgwr i ddysgu pellach neu waith
- llwyddiannau cyn-fyfyrwyr
- llwyddiant mewn cystadlaethau sgiliau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol
- canlyniadau adborth dysgwyr
- cyfranogiad mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg/dwyieithog
- cysondeb perfformiad ar draws meysydd cwricwlwm
- gwobrau ac anrhydeddau rhanbarthol a chenedlaethol
- canlyniadau adborth staff
- recriwtio i dargedau
- amrywiadau o ran incwm
- gwytnwch ariannol a chynhyrchu arian parod
- buddsoddiad adnoddau