Policy
-
Cyflwynodd Deddf Cydraddoldeb 2010 Ddyletswydd Cydraddoldeb sengl yn y Sector Cyhoeddus (y PSED), i ddisodli’r dyletswyddau presennol ar sail hil, anabledd a rhyw. Mae’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu mewn cyflogaeth, addysg a darparu nwyddau a gwasanaethau mewn perthynas â naw Nodwedd Warchodedig sydd fel a ganlyn:
- Oedran
- Anabledd
- Ailbennu rhywedd
- Priodas a pherthynas sifil
- Beichiogrwydd a mamolaeth
- Hil
- Crefydd neu gred
- Rhyw
- Cyfeiriadedd Rhywiol
Pan fyddwn yn ystyried sut yr ydym yn hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol â’r rheiny nad ydynt, mae angen i ni hefyd:
- Ddileu neu leihau anfanteision a brofir gan bobl oherwydd eu nodweddion gwarchodedig.
- Cymryd camau i ddiwallu anghenion pobl o grwpiau gwarchodedig lle mae’r rhain yn wahanol i anghenion pobl eraill.
- Annog pobl â nodweddion gwarchodedig i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus neu mewn gweithgareddau eraill lle mae eu cyfranogiad yn anghymesur o isel.
Nod y ddyletswydd cydraddoldeb newydd yw sicrhau bod cydraddoldeb yn cael ei brif ffrydio i’n gwaith bob dydd ac y dylai hyn yn ei dro arwain at wasanaethau yn cael eu darparu’n fwy priodol a chanlyniadau sy’n ystyried cefndir unigolion. Mae’r ddyletswydd yn adeiladu ar y ddyletswyddau blaenorol o ran rhywedd, hil ac anabledd. Mae’n cynrychioli newid sylweddol mewn ymagwedd, o fframwaith cyfreithiol a oedd yn dibynnu ar bobl unigol yn gwneud cwynion am wahaniaethau, i gyd-destun lle mae’r sector cyhoeddus yn dod yn asiant rhagweithiol o ran newid.
Mae’r llywodraeth a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) wedi ei gwneud yn glir bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus brif ffrydio cydraddoldeb yn eu swyddogaethau mewnol ac allanol, ac mae’r ddyletswydd yn darparu mecanwaith ar gyfer mynd i’r afael â gwahaniaethu sefydliadol mewn polisïau, arferion a gweithdrefnau.
Mae Coleg Sir Gâr / Coleg Ceredigion wedi ymrwymo i egwyddorion hyn o brif ffrydio cydraddoldeb ac i’r newidiadau deddfwriaethol hyn. Rydym yn deall ac yn credu y bydd prif ffrydio materion cydraddoldeb yn sicrhau ein bod yn cyflawni ein nodau mewn ffordd fwy ystyrlon, a fydd yn cyrraedd pob grŵp yn ein cymuned yn fwy effeithiol.
Ym mis Ebrill 2011, rhoddwyd Dyletswydd Cydraddoldeb Sengl y Sector Cyhoeddus ar waith fel rhan o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan roi cyfres o ddyletswyddau penodol yn eu lle fel sail i’r ddyletswydd gyffredinol y mae’n rhaid i ni ei dilyn.
Y rhain yw:
- cyhoeddi amcanion cydraddoldeb erbyn 2 Ebrill 2014 gan eu hadolygu bob 4 blynedd;
- cyhoeddi datganiad yn nodi’r camau y mae wedi cymryd neu bwriadu eu cymryd er mwyn cyflawni pob amcan ac amserlen o ran cyflawni;
- monitro cynnydd ac effeithiolrwydd y camau a gymerwyd;
- nodi, chwilio am wybodaeth y gellir ei defnyddio i fesur a yw’r ddyletswydd gyffredinol yn cael ei chyflawni ai chyoeddi lle bo’n briodol;
- cynnal a chyhoeddi asesiadau effaith sy’n dangos sut mae ei bolisïau a’i arferion presennol ac arfaethedig yn effeithio ar allu’r sefydliad i gydymffurfio â’r ddyletswydd gyffredinol;
- yn flynyddol, casglu a chyhoeddi data penodol am weithwyr drwy gyfeirio at nodweddion gwarchodedig;
- hybu dealltwriaeth gweithwyr o’r dyletswyddau cyffredinol a phenodol.
-
- Parch
- Undod
- Proffesiynoldeb
Er bod ein Cynllun Gweithredu yn dilyn Blaenoriaethau Strategol PCYDDS rydym yn wynebau heriau amrywiol o ran cydraddoldeb a’r ddyletswydd gyffredinol.
Yr heriau hyn yw:
- Casglu data a monitro’r effaith.
- Dathlu a datblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ein cymunedau.
- Iechyd a Lles ein cymunedau
- Cefnogi gwneud ‘Cymru yn wrth-hiliol erbyn 2030’
- Gweithredu’r ddeddf ADY.
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015)
Wrth baratoi’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol hwn - ymgynghorir á:
- Y Corff Llywodraeth
- Yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth
- Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
- Grŵp Gweithredol y Coleg
- Undebau (NEU, NASUWT, UCU, Unison)
- Staff
- Undeb y Myfyrwyr
-
BYDDWN NI’N:
- Ceisio casglu holl ddata myfyrwyr a staff am eu nodweddion gwarchodedig drwy:
- Gasglu gwybodaeth staff adeg recriwtio a chynefino a gofyn i bob aelod o staff gwblhau gwybodaeth ar ‘my view’.
- Annog pob myfyriwr i gwblhau gwybodaeth wrth gofrestru ac ar prospect ar hyd y flwyddyn.
Bydd hyn wedyn yn ein galluogi i ddarparu diweddariadau blynyddol ar bob lefel o’r sefydliad ynghylch y canlynol:
-
Demograffeg y gweithlu i ddeall anghenion ein staff yn well er mwyn rhoi’r cymorth â’r datblygiadau cywir ar waith i staff.
Mae angen i hyn ymwneud yn ôl nodwedd warchodedig â:
- Math o gontract
- Swydd
- Mynediad i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
- Rhesymau dros adael
- Disgybla a chwyno
-
Demograffeg poblogaeth y myfyrwyr i ddeall anghenion ein myfyrwyr yn well er mwyn rhoi’r cymorth â’r datblygiadau cywir ar waith i fyfyrwyr.
Mae angen i hyn ymwneud â:
- Chofrestru
- Presenoldeb
- Cyrhaeddiad
- Llwyddiant
- Disgyblu / Gwaharddiadau
- Gwasanaethau cefnogi a gynigir.
- Edrych yn fanwl ar yr wybodaeth er mwyn llwyddo gwasanaethau a chynigion cwricwlwm yn well gan gynnwys ar lefel cyfadran o fewn y PRB.
- Y tîm ADY i ddadansoddi data cwblhau ar gyfer myfyrwyr ag ADY a nodwyd a rhoi datblygiad proffesiynol neu gyfleoedd priodol ar waith i gefnogi gwell cyfraddau cwblhau.
- Cynhyrchu adroddiad cydraddoldeb blynyddol, sy’n monitro’r cynllun gweithredu.
- Ceisio casglu holl ddata myfyrwyr a staff am eu nodweddion gwarchodedig drwy:
-
BYDDWN NI’N:
- Annog cynrychiolaeth ar bob lefel o’r sefydliad a’r gymuned amrywiol rydym yn ei chynrychioli. Mae hyn yn cynnwys cael cynrychiolaeth gwbl amrywiol ar y grwpiau Llywodraeth a Rheoli ledled y coleg.
- Sicrhau bod themâu allweddol yn cael sylw o fewn y rhaglen diwtorial ar gyfer bob blwyddyn, a bod themâu sy’n codi’n naturiol yn cael eu cynnwys yn ystod sesiynau addysgu.
- Sicrhau bod asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb wedi’i gynnal ar unrhyw bolisi newydd / neu ddiweddariad.
- Cyflwyno hyfforddiant wedi’i dargedu ar themâu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y flwyddyn (er enghraifft Iechyd Meddwl 22-23)
- Dod yn Goleg Amser i Siarad.
- Dod yn gyflogwr hyderus o ran anabledd.
- Darparu DPP i’r holl staff ar ragfarn ddiarwybod.
- Ymuno â’r Black Leadership Group a chwblhau Map Ffyrdd sy’n cefnogi targed Llywodraeth Cymru i Gymru ddod yn wrth-hiliol erbyn 2030.
- Cwblhau archwiliad hygyrchedd a fydd yn caniatáu i ni ddiogelu ein hystâd at y dyfodol gan roi sylw penodol i ADY.
- Dod yn goleg Noddfa.
-
BYDDWN NI’N:
- Ymgysylltu â’r grwpiau cymunedol lleol, megis y Black Leadership Group, Eyst, Cydraddoldeb HilioI i Gymru a grwpiau pwrpasol o fewn ein grŵp cymunedol lleol
- Datblygu Cod Ymddygiad y Myfyrwyr a’r polisi disgyblu i gynnwys adrodd am fwlio ac aflonyddu a’u monitro
- Sicrhau bod ein cynnig Darpariaeth Ddysgu Gyffredinol / Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol ar gael ar y wefan ac yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd
- Darparu gwybodaeth i ddarpar staff am y gwasanaethau cefnogi rhagorol sydd ar gael i staff yn y Coleg
- Darparu gwybodaeth i staff yn y cyfnod cynefino am yr holl wasanaethau lles sydd ar gael, a’r holl wasanaethau cefnogi sydd ar gael fel cyflogai
- Gwrando ar adborth staff a dysgwyr ar themâu wrth iddynt ymddangos
- Mae ffordd glir ar gael i staff a myfyrwyr adrodd am unrhyw bryderon ynghylch gwahaniaethu.
-
BYDDWN NI’N:
- Sicrhau bod casglu data yn gywir er mwyn gallu edrych arno yn fanwl.
- Cymryd camau gweithredu priodol mewn perthynas â chasgliadau.
-
BYDDWN NI’N:
- Hyrrwyddo pob cymorth a menter cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar y wefan a thrwy gyfrwngau cymdeithasol, a llwyfannau mewnol
- Creu themâu blynyddol yn seiliedig ar themâu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Cynnig DPP i holl staff y Coleg i sicrhau bod ‘ADY yn gyfrifoldeb i bawb’.