Skip page header and navigation

Coleg Ceredigion - Adroddiad Blynyddol 2024

Datganiad Budd Cyhoeddus

Amcanion Elusennol

Amcan y Coleg yw darparu addysg bellach ac uwch ac (yn unol ag unrhyw ymgynghoriad gyda’r awdurdod lleol perthnasol) addysg uwchradd (yn unol â’r diffiniad ym mhob achos yn adran 18(1) o Ddeddf Addysg Uwchradd 1992 (neu unrhyw amnewidiad ohono) ar gyfer budd cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

Mae’r ymddiriedolwyr wedi ystyried y canllawiau budd cyhoeddus wrth wneud penderfyniadau. 

Cyflawni’r amcanion elusennol  
Cyflawni’r amcanion elusennol  

Mae’r buddiolwyr yn briodol i’r amcanion gan mai’r myfyrwyr o fewn y sector addysg bellach, uwch ac eilradd (sector ddigonol o’r cyhoedd i gyflenwi’r prawf lles cyhoeddus) yw’r buddiolwyr uniongyrchol. 

Derbyniadau

Mae’r Coleg yn gweithredu polisi derbyn cynhwysol. Fodd bynnag, mae gan rai rhaglenni ofynion mynediad penodol sy’n cael eu hadolygu’n flynyddol a’u cyhoeddi ym mhrosbectws y Coleg.

Cefnogaeth i Fyfyrwyr/Bwrserí/Ysgoloriaethau

Mae gan fyfyrwyr yn y Coleg yr hawl i ymgeisio am amrywiol becynnau cefnogaeth ac ariannu yn yr un modd ag unrhyw un sy’n astudio o fewn addysg bellach neu uwch yng Nghymru. 

Gall myfyrwyr addysg bellach rhwng 16 a 19 oed ymgeisio am Lwfans Cynhaliaeth Addysg a gall myfyrwyr 19 + ymgeisio am Grant Dysgu’r Cynulliad. Mae bwrsarïau eraill ar gael hefyd o fewn y Coleg ar gyfer myfyrwyr addysg bellach ac uwch yn unol â chymhwysedd.

Mae Cronfeydd Ariannol Wrth Gefn hefyd ar gael o fewn y Coleg a gall myfyrwyr wneud cais am gymorth wrth astudio. 

Ehangu Cyfranogiad

Mae gan y Coleg amrywiaeth eang o addysg academaidd a galwedigaethol a rhaglenni hyfforddi.    Amrywia’r rhain o gyn-mynediad i lefel 5. Mae hefyd yn darparu ar gyfer disgyblion ysgol 14-16 oed sy’n mynychu’r Coleg a dysgwyr sy’n oedolion. Cynigia’r Coleg ddarpariaeth ar draws dau gampws ac yn y gweithle. 

Ymgysylltu â’r Gymuned

Mae’r Coleg yn cynnig cyfleusterau eraill sydd ar gael ar gyfer staff, myfyrwyr ac aelodau o’r cyhoedd. 

Trwy orchymyn y Bwrdd

Adroddiad Strategol

  • Cafodd Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Ceredigion ei sefydlu yn unol â Deddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch 1992 er mwyn cynnig addysg a hyfforddiant yng Ngholeg Ceredigion, sy’n goleg addysg bellach dwyieithog gyda champysau yn Aberystwyth ac Aberteifi.

    Ar 31 Rhagfyr 2013 daeth Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Ceredigion (Diddymu) 2013 i rym. Diddymodd y gorchymyn hwn y gorfforaeth addysg bellach a sefydlwyd gynt gan drosglwyddo’i holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau i’r Cwmni Coleg Ceredigion newydd (corfforedig ar 9 Hydref 2013).  Daeth Gorchymyn Coleg Ceredigion (Sefydliadau Dynodedig mewn Addysg Bellach) 2013 i rym ar yr un diwrnod gan sefydlu Coleg newydd oedd yn cael ei weinyddu gan gwmni cofrestredig, cyfyngedig trwy warant. Roedd y cwmni Coleg Ceredigion newydd hwn yn is-gwmni dan berchnogaeth gyflawn Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant tan y 1af o Awst 2017 pan drosglwyddwyd perchnogaeth i Goleg Sir Gâr, is-gwmni arall i Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant. 

  • Prif weithgareddau’r Coleg yw darparu a chynnal addysg a hyfforddiant, o fewn coleg addysg bellach gwledig, dwyieithog ar gampysau yn Aberystwyth ac Aberteifi.

    Mae pellter o 40 milltir rhwng y ddau gampws. Prif ddalgylch y coleg yw sir Geredigion ond mae’r coleg hefyd yn denu nifer sylweddol o fyfyrwyr o rannau o Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Phowys.

    Mae gan y Coleg drosiant blynyddol o tua £ 6.6m ac mae’n cyflogi o gwmpas 130 o staff gyda thua 70 ohonynt yn cael eu cyflogi’n llawn amser. Bob blwyddyn, mae tua 900 o ddysgwyr yn cofrestru yn y coleg. Mae’r cyfanswm hwn yn cynnwys tua 600 o ddysgwyr llawn amser, gyda’r mwyafrif ohonynt yn adawyr ysgol o’r deg ysgol uwchradd yn nalgylch y coleg (y saith ysgol uwchradd yng Ngheredigion ynghyd â’r ysgolion uwchradd sydd wedi’u lleoli ym Machynlleth, Castell Newydd Emlyn a Chrymych). 

    Yn ôl cyfrifiad 2021, roedd poblogaeth Ceredigion yn 71,500. Gyda 40 person i bob cilometr sgwâr, mae’r ardal yn un o’r ardaloedd â’r dwysedd poblogaeth lleiaf yng Nghymru. Yn unol â gweddill Cymru, mae 25.7% o’r boblogaeth yn 65 oed neu’n hŷn. Rhagwelir y bydd y nifer o rai 16-19 oed o fewn y sir yn gostwng yn ystod y 10 mlynedd nesaf.  Yn sgil hynny, mae’r coleg yn ystyried y duedd ddemograffig hon yn ddifrifol iawn wrth wneud unrhyw benderfyniad yng nghyswllt cwricwlwm y Coleg. Yn ôl Cyfrifiad 2021, mae 47.35% o boblogaeth Ceredigion yn siarad Cymraeg, mewn cymhariaeth â 17.8% yng ngweddill Cymru. 

  • Mae’r boblogaeth wedi’i gwasgaru ar hyd a lled trefi bychain, pentrefi a phentrefannau’r sir.  Aberystwyth yw’r dref fwyaf o lawer, gyda phoblogaeth breswyl o dros 18,000, sy’n cynyddu i tua 25,000 yn ystod adeg tymor y brifysgol. Aberteifi yw’r dref fwyaf nesaf gyda phoblogaeth o 4,000 ac yna Llanbedr-Pont-Steffan gyda phoblogaeth breswyl o 2,000, sydd hefyd yn cynyddu yn ystod adeg tymor y brifysgol.  Aberaeron yw’r bedwaredd dref ar y rhestr yn ôl maint gyda phoblogaeth o 1,500. Lleolir campysau Coleg Ceredigion felly yn nwy dref fwyaf y sir. 

    Gwan yw cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus Ceredigion. Mae gwasanaethau bws digonol i’w cael ar hyd rhai o’r prif lwybrau ond mae trafnidiaeth gyhoeddus yn her i lawer o gymunedau.  Ni fyddai modd i lawer o ddysgwyr fynychu Coleg Ceredigion heb ddibynnu ar eu trafnidiaeth breifat eu hunain neu ar y gwasanaeth bws. 

    • Ysbrydoli dysgwyr

    • cyflawni potentsial

    • ennill rhagoriaeth

  • Byddwn ni’n: 

    • rhoi anghenion y dysgwr yn gyntaf; 
    • diogel, cynhwysol a gofalgar; 
    • byw yn ôl ein gwerthoedd a’n hymddygiadau; 
    • rhoi’r profiad gorau i’r dysgwyr, wedi’i gyfoethogi gan dechnoleg ddigidol; 
    • hwyluso datblygiad personol a dilyniant i ddysgwyr; 
    • annog chwilfrydedd a chreadigedd mewn addysgu a dysgu; 
    • datblygu cwricwlwm hyblyg, wedi’i lywio gan gyflogwyr; 
    • hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru; 
    • gweithredu rhaglen datblygu gweithlu uchelgeisiol; 
    • datblygu partneriaethau sy’n effeithio’n gadarnhaol ar ddysgwyr a pherfformiad busnes; 
    • gwella ein gwytnwch ariannol a’n heffeithlonrwydd; 
    • cefnogi adfywio a ffyniant yn ein cymunedau; ac yn 
    • creu amgylchedd cynaliadwy i ddysgwyr fod yn llwyddiannus
  • PARCH
    Byddwn ni’n:
    • derbyn gwahaniaeth a rhoi cyfle i bawb ffynnu; 
    • empathig at anghenion ein gilydd; 
    • cwrtais a charedig i’n gilydd; 
    • cefnogol ac yn gofalu am ein gilydd; 
    • barod ac yn fodlon i ymgysylltu’n gadarnhaol.
       
    UNDOD
    Byddwn ni’n:
    • un tîm gyda set o gyrchnodau cyffredin a chyfeiriad unedig; 
    • ystyriol o’n hymddygiad a’n hiaith, a’i effaith ar eraill; 
    • dwyieithog o ran ein cyfathrebu ac ymgysylltu; 
    • integredig gyda’n cymuned a’n partneriaid; 
    • tryloyw ym mhob agwedd ar ein gwaith.
       
    PROFFESIYNOLDEB
    Byddwn ni’n:
    • onest ac yn ymddwyn gyda chywirdeb; 
    • cael ein gyrru i ddarparu addysg a gwasanaeth cwsmer rhagorol; 
    • agored i dderbyn safbwyntiau gwahanol sy’n llywio ein penderfyniadau; 
    • sefydliad dysgu â natur chwilfrydig; 
    • cynaliadwy yn ein cynllunio a’n darpariaeth.
    • Addysgu a dysgu rhagorol

    • Profiad dysgwyr ysbrydoledig

    • Gwytnwch sefydliadol cynaliadwy

    • Gwaith partneriaethau ymrwymedig

  • Dyma amcanion ariannol y Coleg: 

    • llwyddo i sicrhau gwarged gweithredu blynyddol (a ddiffinnir fel gwarged cyn costau pensiwn heblaw am arian parod FRS 102) a llif arian cadarnhaol 
    • amrywio llif arian a lleihau dibyniaeth ar gyllid craidd 
    • cynhyrchu lefelau digonol o arian parod i gefnogi sylfaen asedau’r Coleg 
    • sicrhau sefyllfa hylifedd tymor byr llewyrchus 
    • cyllido buddsoddiad cyfalaf parhaus 

    Mae’r Datganiad Incwm Cynhwysfawr ar gyfer y cyfnod wedi’i gynnwys ar dudalen 28.  Nodir uchafbwyntiau’r cyfnod yn y cyswllt hwn isod: 

    • Mae’r cyfanswm incwm ar gyfer y cyfnod wedi lleihau i tua £ 6.6 miliwn (2023: £6.9 miliwn).Mae cynnal lefel sylweddol o drosiant yn tanlinellu llwyddiant parhaol y Coleg o safbwynt addysg bellach. Mae amrywiadau o safbwynt trosiant yn anorfod, ac yn gallu cael eu dylanwadau’n fawr gan lefel y gwaith prosiect a wneir.
    • Mae costau staff fel canran o gyfanswm yr incwm wedi parhau ar 67.5%. Mae nifer cyfartalog y staff yn ôl Cyfwerth ag Amser Llawn (FTE) a gyflogir yn gyson â’r flwyddyn flaenorol. Cynyddodd costau gweithredol eraill ychydig fel canran o gyfanswm yr incwm o 22 % i 27 % o ganlyniad i gostau adeiladau uwch.
    • Y diffyg ar gyfer y flwyddyn oedd £1,000 (2023: gwarged o £307,000). 
    • Mae’r sefyllfa hylifedd yn parhau i fod yn gyson gyda’r flwyddyn flaenorol. Mae’r gymhareb asedau tymor byr i gredydwyr dyledus yn disgyn o fewn un flwyddyn yn 2.63 (2023: 2.65).
    • Mae asedau net wedi lleihau £0.15 miliwn i £3.344 miliwn cadarnhaol. Am wybodaeth bellach ynglŷn â’r safonau cyfrifyddu a ddefnyddiwyd i greu’r datganiadau ariannol yma, gweler Datganiad o’r Prif Bolisïau Cyfrifyddu a Thechnegau Amcangyfrif ar dudalen 30.
    • Ychwanegwyd grantiau cyfalaf penodol er mwyn hybu effeithiolrwydd a darparu amgylchedd dysgu safonol yn unol â Chynllun Strategol y Coleg. 
    • Adolygwyd y ddarpariaeth ar gyfer pensiynau uwch yn ystod y cyfnod ac amcangyfrifwyd mai’r balans oedd ei angen ar gyfer 31 Gorffennaf 2024 oedd £240,000 (2023: £250,000).
  • Rheolaeth o lif arian, bancio, trafodion marchnad arian a chyfalaf yw rheolaeth y Trysorlys; rheolaeth effeithlon o’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r gweithgareddau hynny; a’r nod o sicrhau’r perfformiad gorau posib sy’n gyson â’r risgiau hynny. 

    Mae gan y Coleg bolisi ar wahân ar gyfer rheoli’r trysorlys

    Caiff benthyciadau tymor byr at ddibenion refeniw dros dro eu hawdurdodi gan y Swyddog Cyfrifyddu. Yn achos pob benthyciad arall, mae angen cadarnhad y Gorfforaeth yn unol â gofynion y Memorandwm Ariannol. 

  • Mae sefyllfa llif arian gweithredol y coleg ar gyfer y flwyddyn yn swm negyddol o £0.232m.  Gostyngodd y balansau arian parod cyffredinol o £1.882m i £1.650m. Mae’r Coleg yn dymuno parhau i gronni balansau arian parod i ariannu datblygiadau cyfalaf sydd wedi eu cynllunio ar gyfer y dyfodol.  Er mwyn cyflawni hyn, mae’r Coleg wedi parhau i hybu effeithiolrwydd o safbwynt yr addysg a’r hyfforddiant a gyflwynir.  Cyflawnwyd hyn drwy adolygu darpariaeth y cwricwlwm yn drylwyr, effeithiolrwydd dosbarthiad adnoddau, a’r gwerth am arian gorau wrth brynu nwyddau a gwasanaethau, a’r un yw’r bwriad i’r dyfodol.  Ymhellach, mae’r Coleg yn parhau i geisio a datblygu ffynonellau incwm eraill.  Mae ail-fuddsoddiad sylweddol o ran ystadau, peiriannau a chyfarpar y Coleg yn sicrhau fod gan y dysgwyr ddarpariaeth o ansawdd i’w helpu yn eu proses addysgol. Nod y Coleg yw cadw o leiaf ddau fis o wariant mewn cronfeydd arian parod wrth gefn bob amser.

  • Ceir cwricwlwm amrywiol i gyflenwi dyheadau’r dysgwyr.   Mae’r cwricwlwm yn eang, yn hyblyg, yn gydlynol, ac yn hybu datblygiad.   Fe’i cyflwynir mewn amrywiol ffyrdd sy’n gweddu i anghenion y dysgwyr.   Ceir pwyslais galwedigaethol cryf a chaiff pob Maes Pwnc Sector eu cynrychioli yn y Coleg.  

    Caiff y cwricwlwm ei lunio a’i adolygu mewn partneriaeth â budd-ddeiliaid y Coleg, y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol (RLSP), Cynghorau Sgiliau Sector, rhwydweithiau 14-19, y Grŵp ACL, Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, diwydiant, byd busnes a chyflogwyr lleol.   Ategir hyn gan ddefnyddio data arsyllfa sgiliau a ddarperir trwy’r RLSP.    

    Mae gan y Coleg Bwyllgor Cwricwlwm ac Ansawdd, sy’n adrodd i Gorff Ymgynghori Cwricwlwm a Safonau’r Bwrdd.  Mae hwn yn cynnig ffocws ar gyfer trafodaeth ar bolisïau cwricwlwm ac ansawdd a materion datblygu.

    Mae amrediad o opsiynau ar gael ar bob lefel sy’n cynnig amrywiaeth a dewis i ddysgwyr.  Cynigia rhaglen Mynediad Ieuenctid y Sir hefyd ddewis cwricwlwm arall rhannol lawn amser yn y Coleg, ar gyfer y rhai sy’n cael anhawster neu sydd wedi eu heithrio o ysgolion lleol. Mae’r cwricwlwm a gynigir gan y Coleg wedi’i achredu bron yn llwyr, gan gynnig cyfleoedd i ddysgwyr ennill cymwysterau ffurfiol.    

    Cynigir amrediad o ddarpariaethau achrededig pellach i ddysgwyr er mwyn cefnogi dysgu.  Gall dysgwyr hefyd gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau sy’n cyfoethogi eu hastudiaethau yn cynnwys profiadau sy’n gysylltiedig â gwaith, prosiectau byw, ymweliadau addysgiadol, ymweliadau tramor, gwaith amgylcheddol, siaradwyr gwadd, celfyddydau cymunedol, gwaith gwirfoddol a chodi arian.  

  • Mae gan y Coleg drefniadau partneriaeth ardderchog sy’n cyfrannu at gwricwlwm a phrofiad dysgu wedi eu cyfoethogi.   

    O 31ain Rhagfyr 2013, daeth y Coleg yn rhan o grŵp Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, gan gynyddu’r cyfleoedd ar gyfer dysgwyr a rhannu gwybodaeth, profiad ac adnoddau. Ar 1af Awst 2017, trosglwyddwyd perchnogaeth i Goleg Sir Gâr, sydd hefyd yn is-gwmni i Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant. 

    Mae’r coleg wedi chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu Partneriaethau gydag amrywiaeth eang o bartneriaid o fewn Ceredigion ar lefel ranbarthol.  Ymgymerir â rhywfaint o’r gwaith hwn gan rwydweithiau megis y Rhwydwaith 14-19, Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, Partneriaeth Dysgu Rhanbarthol, a Phartneriaeth ACL Ceredigion. Digwydd rhywfaint o’r gwaith gyda gwahanol sefydliadau Addysg Bellach ac Addysgu Uwch, y Consortiwm Dysgu Seiliedig ar Waith B-WBL, asiantaethau gwirfoddol, statudol ac arbenigol, y Bartneriaeth Adfywio ac economaidd leol. 

  • Dylid nodi fod adran nesaf yr adroddiad yn ymdrin â pherfformiad ansawdd, mesurau ac ystadegau sy’n adlewyrchu cyfuniad o ddata ar gyfer Coleg Sir Gâr a’i is-gwmni Coleg Ceredigion. Coleg Sir Gâr yw’r mwyaf o bell ffordd o ran pwysoli, gyda throsiant o tua £ 46 m o’i gymharu â £6 m ar gyfer Coleg Ceredigion (8,500 o fyfyrwyr o’i gymharu â thua 1,300 o fyfyrwyr yn ôl eu trefn). 

    Ym mis Mai 2022 croesawodd y Coleg Estyn a gynhaliodd arolygiad o’i ddarpariaeth addysg bellach.  Roedd y fframwaith arolygu yn cwmpasu 5 prif faes: Dysgu; Llesiant ac Agweddau at Ddysgu; Profiadau Addysgu a Dysgu; Gofal, Cymorth ac Arweiniad; ac Arweinyddiaeth a Rheoli. Er nad yw Estyn yn darparu canlyniadau wedi’u graddio mwyach, roedd y canlyniad cyffredinol ar gyfer y Coleg yn gadarnhaol iawn.    Mae’r nodweddion da a nodwyd yn yr adroddiad yn cynnwys:

    • “Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu cefnogi’n dda yn ystod eu cyfnod yn y coleg.” 
    • “Mae’r coleg wedi ymgorffori ethos cadarnhaol yn llwyddiannus wedi’i seilio ar werthoedd parch, undod a phroffesiynoldeb.” 
    • “Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn siarad yn gadarnhaol am eu profiadau yn y coleg.”
    • “Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn datblygu medrau ymarferol cymwys ac mae llawer yn cysylltu theori ag arfer yn llwyddiannus.”
    • “Mae gan y coleg systemau ar waith i gynorthwyo dysgwyr yn eu dealltwriaeth o sut i gadw’n ddiogel a diogelu.”
    • “Mae bron pob un o’r athrawon yn adnabod eu dysgwyr yn dda ac yn meithrin perthnasoedd sy’n annog ac yn cynorthwyo dysgwyr i wneud cynnydd.”
    • “Mae’r rhan fwyaf o athrawon yn datblygu medrau digidol yn fedrus yn eu pynciau galwedigaethol neu academaidd.”
    • “Mae dysgwyr yn arddangos lefelau uchel o gymhwysedd gan ddefnyddio platfformau digidol i storio, cofnodi, trefnu ac olrhain eu dysgu eu hunain.”   
    • “Lle bo’n briodol, mae athrawon yn cefnogi medrau Cymraeg dysgwyr trwy sgwrsio â nhw yn ystod dosbarthiadau.”
    • “Mae’r Coleg wedi datblygu partneriaethau cryf ag ysgolion lleol ar gyfer darpariaeth 14-16.”
    • “Ar draws bron pob un o’r cyrsiau, mae dysgwyr yn elwa ar lwybrau dilyniant clir i’r lefel nesaf neu i ddysgu yn y gwaith, addysg uwch neu gyflogaeth.”
    • “Mae’r pennaeth wedi gosod gweledigaeth sy’n llywio blaenoriaethau strategol y coleg yn dda.”
    • “Mae uwch reolwyr a rheolwyr canol yn dangos dealltwriaeth glir ynglŷn â sut maent yn cefnogi nod y coleg i gyflwyno ‘‘profiadau dysgu ysbrydoledig’’.
    • “Yn ystod y pandemig, un o gryfderau penodol y coleg oedd ei ymrwymiad i wella medrau staff addysgu a staff cymorth i’w galluogi i gynorthwyo dysgwyr yn effeithiol i ddatblygu medrau digidol cryf ac aros ar eu cyrsiau.”
    • “Mae uwch dîm rheoli’r coleg wedi bod yn effeithiol yn gwella’r profiadau dysgu a’r deilliannau mewn campysau sy’n tanberfformio.” “Ymatebont yn gyflym a rhoi gweithdrefnau gwella ansawdd trylwyr ar waith.”
    • “Mae gan y coleg systemau sicrhau ansawdd cynhwysfawr ac mae’n casglu ystod eang o ddata.”

    Mae’r argymhellion ar gyfer gwelliant parhaus yn cynnwys:

    1. Gwneud defnydd gwell o’r data helaeth sydd gan y coleg i fireinio gwerthuso effaith y ddarpariaeth a’r mentrau ymhellach.
    2. Cryfhau strategaethau i wella dealltwriaeth dysgwyr o radicaleiddio ac eithafiaeth.
    3. Sicrhau bod medrau rhifedd a medrau mathemategol ehangach dysgwyr yn cael eu datblygu’n llawn i fynd i’r afael â’r bylchau yn eu medrau.

    Adroddiad Estyn Mai 2022

    https://www.estyn.gov.wales/provider/f0009005

  • Addysg Bellach 

    Mae ‘mesurau perfformiad cyson cenedlaethol’ (CPM) 2022/23 Llywodraeth Cymru ar gyfer AB yn dangos cyfraddau cwblhau ar bob lefel y ddarpariaeth ar/neu’n uwch na’r cymharydd cenedlaethol, ac eithrio Lefel 3. Mae cwblhau’n llwyddiannus ar bob lefel y ddarpariaeth yn is na’r cymharydd cenedlaethol, ac eithrio Lefel 1. Bydd blaenoriaethu canlyniadau cwblhau llwyddiannus yn brif amcan i’r coleg eleni.

      2021/22 2022/23
      Llwyddiannus Cwblhau’n Llwyddiannus Llwyddiannus Cwblhau’n Llwyddiannus
    Rhaglenni Galwedigaethol Coleg Sir Gâr Canlyniadau Cendlaethol Coleg Sir Gâr Canlyniadau Cendlaethol Coleg Sir Gâr Canlyniadau Cendlaethol Coleg Sir Gâr Canlyniadau Cendlaethol
    Lefel  3 87% 87% 74% 74% 87% 88% 76% 79%
    Mynediad Lefel 3 71% 78% 69% 70% 83% 75% 62% 68%
    Lefel 2 86% 82% 72% 72% 86% 85% 71% 76%
    Lefel 1 84% 81% 76% 76% 84% 83% 77% 77%
    Mynediad/Cyn-mynediad 93% 84% 70% 76% 88% 86% 78% 80%

    *Nid yw’r canlyniadau ar gyfer 2023/24 wedi’u dilysu a’u cyhoeddi eto gan Lywodraeth Cymru.

    Darperir y canlyniadau ar gyfer cymwysterau academaidd yn y tabl isod. 

    Canlyniadau Lefel UG (% y Graddau a Ddyfarnwyd)
    Blwyddyn A A-E
    2024 CSG 21.0% 92.0%
    Cymharydd Cenedlaethol  19.8% 89.3%
    Canlyniadau Safon Uwch (% y Graddau a Ddyfarnwyd)
    Blwyddyn A* A*-A A*-E
    2024 CSG 6.0% 25.0% 91.0%
    Cymharydd Cenedlaethol  6.6% 24.6% 89.3%
    2021 CSG 24.7% 96.0%   2021 CSG 13.1% 36.3% 100.0%
    Cymharydd Cenedlaethol  37.1% 96.7%   Cymharydd Cenedlaethol  21.3% 48.3% 99.1%

    Roedd y canlyniadau cyffredinol yn 2024 ar gyfer UG (A-E) a Safon Uwch (A*-E) yn rhagorol ac yn uwch na’r cymharydd cenedlaethol heblaw am ganran yr A* a ddyfarnwyd ar gyfer Safon Uwch, sydd ar 6%, ychydig yn is na’r cymharydd cenedlaethol o 6.6%.

    Blwyddyn Prentisiaethau Sylfaen Prentisiaethau Prentisiaethau Uwch Cyfanswm
    2019/20 56% 57% 39% 54%
    2020/21 81% 73% 87% 79%
    2021/22 71% 80% 89% 78%
    2022/23 77% 63% 64% 71%

    *Nid yw’r canlyniadau ar gyfer 2023/24 wedi’u dilysu a’u cyhoeddi eto gan Lywodraeth Cymru.

    Roedd 2022/23 yn flwyddyn heriol i DSW gyda gostyngiad mewn perfformiad mewn prentisiaethau a phrentisiaethau uwch. Fodd bynnag, mae amcanestyniad cynnar ffigurau ar gyfer 2023/24 yn galonogol iawn.

  • Perfformiad Addysg Uwch (2021 - 2024) (%)
    Blwyddyn Llawn Amser Rhan Amser
    2021/22 88% 86%
    2022/23 75% 84%
    2023/24 78% 78%

    Yn hanesyddol, mae myfyrwyr addysg uwch wedi perfformio’n dda iawn yn gyson ar draws darpariaeth llawn amser a rhan-amser. Fodd bynnag, gwelodd blwyddyn academaidd 2022/23 ostyngiad anarferol, yn arbennig yng nghyfraddau llwyddiant myfyrwyr llawn amser. Mae’r data ar gyfer 2023/24, yn seiliedig ar ganlyniadau amcangyfrifedig, yn dangos sefydlogi posibl, er nad ar y lefelau uchel a welwyd yn 2021/22.

  • Mae’r Coleg yn ymrwymedig i gyflawni’r gorau ar gyfer ei ddysgwyr. Mae’n deall bod pob dysgwr yn dysgu yn ei ffordd unigryw ei hun, ac mae’n ymroddedig i ddarparu profiadau dysgu sy’n ennyn diddordeb, sy’n arloesol ac a gefnogir yn dda fel y gall pob dysgwr ffynnu a llwyddo. Mae Strategaeth Addysgu a Dysgu’r Coleg wedi’i chynllunio i rymuso staff i roi cyfle i bob un dysgwr gael llwyddo. Mewn byd sy’n newid yn barhaus, mae’n hanfodol meithrin gwytnwch ymhlith staff a dysgwyr ill dau er mwyn sicrhau eu bod yn barod i wynebu heriau’r dyfodol. 

    Mae ymagwedd y Coleg tuag at addysgu a dysgu, a phrofiad y dysgwr wedi’u tanategu gan ei ymrwymiad i’r holl:

    • staff yn cael eu grymuso i danategu eu dewisiadau addysgeg trwy brosesau sy’n seiliedig ar ymchwil weithredu.
    • amgylcheddau addysgu a dysgu sydd wedi’u galluogi’n ddigidol ac yn arloesol.
    • staff yn cael eu cefnogi i gael mynediad i uwchsgilio’r diwydiant er mwyn meithrin a gwella eu proffesiynoldeb deuol.
    • staff wedi’u hyfforddi a’u cefnogi i greu amgylcheddau cynhwysol a grymusol yn seiliedig ar ddiwylliant o hyfforddi.

    Mae’r Coleg yn darparu cefnogaeth bwrpasol wedi’i theilwra ar gyfer yr holl ddysgwyr a staff. Cafodd y pwyslais sylweddol ar hyfforddiant, ysgogi a chefnogi staff ei gydnabod yn 2017 pan enillodd Coleg Sir Gâr Wobr Beacon Cymdeithas y Colegau (Association of Colleges Beacon Award) am ragoriaeth wrth ddatblygu staff; yn 2019 pan dderbyniodd Wobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol (Princess Royal Training Award) ac yn fwy diweddar, yn 2022, pan dderbyniodd Wobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol eto. 

    Mae staff yn ymgysylltu’n weithredol ag ymrwymiad cryf y Coleg i ddatblygiad proffesiynol parhaus, ac yn elwa ohono, a adlewyrchir yng nghanlyniadau dysgwyr a chanlyniadau arolygon dysgwyr. Yn sylfaen i’r broses hon, yw gwaith hunanasesu pob athro wrth ystyried eu perfformiad yn erbyn meini prawf perfformiad allweddol, sy’n helpu i greu proffil addysgu personol sy’n nodi meysydd penodol i’w datblygu. Ar ôl cyfnod o weithredu, caiff y broses hunanasesu ei hailadrodd i alluogi cymorth wedi’i deilwra a gwelliant parhaus.

    Mae Tîm Addysgu a Dysgu’r Coleg yn darparu cefnogaeth ardderchog a hyfforddiant wedi’i deilwra ar gyfer aelodau newydd o staff, myfyrwyr TAR a’r staff dysgu hynny sydd angen cefnogaeth gyda rhai elfennau o’u gwaith. Caiff rhagoriaeth mewn addysgu ei werthfawrogi a’i ddathlu’n fawr trwy gyfrwng seremoni wobrwyo addysgu a dysgu flynyddol. 

  • Mae’r Coleg yn ymroddedig i feithrin amgylchedd iach sy’n gwella lles dysgwyr a staff hefyd.  Mewn ymateb i anghenion cynyddol, mae wedi cynyddu’r ffocws ar les ac iechyd meddwl. Mae cyfnodau cynefino, tiwtorial a gweithgareddau hyrwyddo wedi gwella dealltwriaeth dysgwyr o les yn llwyddiannus, gan adlewyrchu blaenoriaeth y Coleg ar sicrhau eu diogelwch, gan gynnwys diogelwch ar-lein.

    Mae’r coleg yn darparu cefnogaeth arbenigol ragorol o ran lles personol ac iechyd meddwl. Mae gweithdrefn atgyfeirio ac asesu newydd wedi’i chyflwyno, sy’n canolbwyntio ar sicrhau bod dysgwyr yn derbyn y gefnogaeth iawn ar yr adeg iawn. Caiff dysgwyr sy’n wynebu rhwystrau sylweddol i ddysgu  eu cyfeirio at wasanaethau mentora a chwnsela. Mae adborth dysgwyr yn gadarnhaol, gyda chefnogaeth y tîm lles yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu myfyrwyr i aros mewn addysg a llwyddo, er eu bod yn aml yn wynebu heriau personol sylweddol.
    Mae pwyslais cryf ar gydraddoldeb ac amrywiaeth yn sicrhau bod yr holl ddysgwyr a staff yn cael eu trin â pharch. Cynyddwyd ymwybyddiaeth ymysg y ddau grŵp yn effeithiol drwy amrywiaeth o gyfryngau a gweithgareddau sy’n cael eu harddangos mewn mannau amlwg ar hyd a lled y campysau.

    Mae mesurau effeithiol yn eu lle i ddiogelu plant ac oedolion agored i niwed gyda chefnogaeth polisïau a gweithdrefnau clir.  Mae neges ‘byddwch saff’ y coleg yn pwysleisio hawliau pob dysgwr i fod yn rhydd rhag bwlio ac aflonyddu, gyda chamau pendant yn cael eu cymryd i atal ymddygiad o’r fath. Caiff diogelwch ar-lein ei gefnogi’n dda hefyd trwy weithgarwch hyrwyddo a thiwtorial pwrpasol.

  • Yn 2023/24, ffocws yr arolwg llais y dysgwr blynyddol addysg bellach oedd mesur canfyddiad y dysgwyr o addysgu a dysgu. At ei gilydd, mae canfyddiad y dysgwyr mewn perthynas â’u profiadau addysgu a dysgu yn rhagorol. Caiff gwella’r gyfradd ymateb ar gyfer dysgwyr galwedigaethol ei flaenoriaethu eleni.

    Arolwg Llais y Dysgwr (Addysgu a Dysgu) 2023/24 Lefel UG a Safon Uwch   Galwedigaethol
    Cyfradd Ymateb 85% 68%
    Cwestiwn Cyfradd Bodlonrwydd Ymateb yn seiliedig ar % y Dysgwyr a holwyd Cyfradd Bodlonrwydd Ymateb yn seiliedig ar % y Dysgwyr a holwyd
    Rwy’n teimlo bod fy ngwersi wedi’u cynllunio’n dda. 98% 100% 91% 100%
    Rwy’n teimlo fy mod yn cael fy herio a fy ymestyn yn fy ngwersi ac mae gen i gyfleoedd i wella a dysgu. 96% 100% 90% 100%
    Rwy’n teimlo bod amrywiaeth o dasgau yn fy ngwersi sy’n cadw fy niddordeb. 89% 100% 87% 100%
    Mae fy ngwersi’n dechrau gyda gweithgaredd i wneud i mi feddwl ac yn gorffen gyda gweithgaredd i fyfyrio ar yr hyn rwyf wedi’i ddysgu. 83% 100% 75% 100%
    Mae fy nhiwtor yn ystyried fy anghenion dysgu unigol yn dda wrth gynllunio a chyflwyno fy ngwersi. 92% 100% 92% 100%
    Mae tasgau anodd yn cael eu rhannu’n gamau llai. 93% 100% 88% 100%
    Defnyddir technoleg yn dda yn fy ngwersi sy’n fy helpu i ddysgu. 92% 100% 93% 100%
    Mae athrawon yn gofyn cwestiynau i’m hannog i gymryd rhan mewn gwersi. 96% 100% 93% 100%
    Pan fo angen, caiff ymddygiad gwael ei herio gyda pharch a phositifrwydd yn y dosbarth. 96% 100% 91% 100%
    Rwy’n cael cyfleoedd i ddefnyddio adborth athrawon a gweithgareddau hunanwerthuso er mwyn fy helpu i wella fy ngwaith. 95% 100% 93% 100%
    Rwy’n cael cyfleoedd i weithio gyda fy nghyd-ddysgwyr ac i roi adborth i’n gilydd ar ein gwaith. 92% 100% 93% 100%
    Rwy’n cael fy annog yn rheolaidd i osod targedau ac adolygu fy nghynnydd. 90% 100% 89% 100%
    Rwy’n cael adborth rheolaidd â ffocws i’m helpu i wella fy ngwaith. 93% 100% 91% 100%
    Rwy’n derbyn gwaith wedi’i farcio’n brydlon ac rwy’n gwybod ble i chwilio am fy adborth a’m graddau. 94% 100% 89% 100%
    Mae gan fy athrawon ddisgwyliadau uchel ohonof ac rwy’n teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi a’m herio i wneud fy ngorau bob amser. 96% 100% 92% 100%
    Rwy’n mwynhau dysgu ac yn cael fy ysbrydoli i lwyddo 92% 100% 91% 100%
  • Mae myfyrwyr Addysg Uwch yn eu blwyddyn astudio olaf wedi parhau i ymateb yn dda i’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, ac yn hanesyddol mae sgorau bodlonrwydd myfyrwyr rhagorol wedi’u cyflawni mewn addysgu, dysgu a phrofiadau cyffredinol yn y coleg. Erys bodlonrwydd myfyrwyr yn uchel, gyda chyfradd bodlonrwydd cyffredinol o 85%. Er gwaethaf gostyngiadau bach, mae sgorau bodlonrwydd yn parhau yn rhagorol ac yn uwch na chyfartaleddau PCYDDS a Sector Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru yng nghategorïau allweddol yr arolwg: Adnoddau Dysgu; (93%); Cymorth Academaidd (91%); Asesu ac Adborth (90%); Addysgu (93%); a Chyfleoedd Dysgu (90%).


    Boddhad Cyffredinol (%)
    Sefydliad/Blwyddyn CSG (2022) CSG (2023)* CSG (2024)* UWTSD HEIs (Wales)
    Canran 77% 87% 85% 83% 80%
    Addysgu (%)
    Sefydliad/Blwyddyn CSG (2022) CSG (2023)* CSG (2024)* UWTSD HEIs (Wales)
    Canran 85% 97% 93% 89% 86%
    Asesu ac Adborth (%)
    Sefydliad/Blwyddyn CSG (2022) CSG (2023)* CSG (2024)* UWTSD HEIs (Wales)
    Canran 82% 95% 90% 87% 80%
    Cefnogaeth Academaidd (%)
    Sefydliad/Blwyddyn CSG (2022) CSG (2023)* CSG (2024)* UWTSD HEIs (Wales)
    Canran 83% 97% 91% 89% 86%
    Trefniadaeth a Rheolaeth (%)
    Sefydliad/Blwyddyn CSG (2022) CSG (2023)* CSG (2024)* UWTSD HEIs (Wales)
    Canran 78% 86% 79% 81% 76%
    Adnoddau Dysgu(%)
    Sefydliad/Blwyddyn CSG (2022) CSG (2023)* CSG (2024)* UWTSD HEIs (Wales)
    Canran 90% 90% 93% 86% 87%
    • Datblygu Cymhwyster y Fagloriaeth Gymreig ar Lefel 3 
    • Datblygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ymhellach
    • Cynnal ac amrywio portffolio’r cwricwlwm ar draws amrywiol sectorau 
    • Datblygu mwy o hyfforddiant masnachol 
    • Datblygu strategaethau i ymdopi â phwysau nawdd cyhoeddus 
    • Gwella, rhesymoli a datblygu ystâd mewn partneriaeth â PCYDDS a’r Cyngor Sir. 
    • Hyrwyddo’r agenda cynaladwyedd ar gyllideb gyfyngedig. 
  • Mae’r Coleg yn gweithredu fframwaith rheoli risg a rheolaeth fewnol gadarn fel y disgrifir yn y datganiad llywodraethiant corfforaethol isod.  Cefnogir hwn gan raglen rheoli risg benodol. 

    Mae’r pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg yn ymgymryd ag adolygiad cynhwysfawr o bob risg posib sy’n wynebu’r Coleg, sy’n cael eu cofnodi wedyn yng nghofrestr risg y Coleg a’u sgorio yn unol â matrics penodol sy’n adnabod y tebygrwydd o’r risgiau yma’n digwydd, a’r effaith posib ar y Coleg petaent yn digwydd.  Rhaid i’r pwyllgor wedyn ganfod systemau, gweithdrefnau a dulliau rheoli y gellir eu mabwysiadu i leihau’r risgiau er mwyn sicrhau y gellir eu rheoli ar lefel dderbyniol. 

    Ymdrinnir â phwnc rheoli risgiau ym mhob cyfarfod o’r pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg, sy’n adrodd eu canfyddiadau’n achlysurol i’r Bwrdd. 

    Caiff arolwg blynyddol ei gynnal er mwyn sicrhau effeithiolrwydd y system rheoli risgiau a chaiff unrhyw wendidau eu hadnabod a’u cywiro. 

    Isod, ceir amlinelliad o rai o’r prif risgiau sy’n wynebu’r Coleg yn y dyfodol rhagweladwy. Nid yw pob un o fewn rheolaeth y Coleg.  Gall ffactorau eraill, heblaw’r rhai a restrir isod, gael effaith andwyol ar y Coleg. 

    1. Lleihad yn nhermau real yng nghyllid y llywodraeth 

    Mae’r Coleg yn dibynnu ar gyllid gan y llywodraeth, ac mae’r hinsawdd gyfredol yn golygu fod yna bwysau parhaus ar y ffrwd incwm yma.  

    Caiff y risg ei lleihau mewn nifer o ffyrdd:

    • Ymdrech ar y cyd, ysfa a ffocws ar greu sylfaen incwm mwy amrywiol;  
    • Ffocws penodol ar ansawdd er mwyn sicrhau safon cyflwyniad uchel ym mhob agwedd o addysg a hyfforddiant; 
    • Cynnal nifer y myfyrwyr sy’n cofrestru ar gyfer addysg uwch.  Mae’r Coleg eisoes yn cynnig darpariaeth sylweddol o gyrsiau addysg uwch; 
    • Gweithio’n agos gyda grŵp PCYDDS a Choleg Sir Gâr i gysoni gweithrediadau ac osgoi dyblygu gyda’r nod o leihau costau;   
    • Gwaith yr Uned Datblygu Busnes sydd â phrif nod o adeiladu ffrwd incwm masnachol cynaliadwy nad yw’n dibynnu ar gyllid oddi wrth y llywodraeth; 
    • Canolbwyntio ar sectorau blaenoriaeth sy’n debygol o ddenu cyllid cyhoeddus; 
    • Tyfu a datblygu darpariaeth ddysgu seiliedig ar waith y Coleg; ac
    • Adeiladu partneriaethau gydag ysgolion a busnesau  
    1. Methiant i recriwtio a chadw myfyrwyr 

    Bydd demograffeg ac amgylchedd newidiol lle credir bod cystadleuaeth yn dwysáu yn anorfod yn ei gwneud hi’n fwy anodd i recriwtio a chadw myfyrwyr.  Gallai hyn gael effaith ar bob ffynhonnell ariannol. 

    Gellir lleihau’r risg fel a ganlyn: 

    • Gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion; 
    • Ymdrech farchnata â ffocws; 
    • Ffynonellau incwm amrywiol;
    • Partneriaethau gyda busnesau lleol a chyrff perthnasol eraill; 
    • Sicrhau cyflwyno addysg a hyfforddiant o safon uchel; 
    • Strwythurau cefnogi dysgwyr er mwyn sicrhau fod dysgwyr yn cael eu cefnogi ar hyd y daith; 
    • Canolbwyntio ar ddatblygiad drwy’r lefelau. 
    1. Amodau Economaidd Cyffredinol: Costau cynyddol a phwysau cyflogau

    Mae’r coleg yn mynd ati i edrych ar weithrediadau i sicrhau parhad llyfn gweithrediadau yn ogystal â gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod heriol parhaus hwn. 

  • Mae’r Coleg yn gallu cadarnhau nad yw’r targed o adennill costau cyn costau rhwymedigaeth budd diffiniedig wedi’i gyflawni o ganlyniad i gostau heblaw cyflogau uwch na’r disgwyl. Gyda gwir alldro cyn costau rhwymedigaeth budd diffiniedig heblaw am arian parod diffyg o £147,000 (22/23: gwarged o £431,000). Y diffyg ar gyfer y flwyddyn wedi costau rhwymedigaeth budd diffiniedig yw £(1,000) (gwarged o £307,000 yn 22/23), gydag addasiadau heblaw am arian parod yn (£146,000) (22/23: £124,000).  Sylwch fod yr uchod yn cynnwys tâl o £22,000 ar gyfer costau ailstrwythuro eithriadol.

    Mae niferoedd myfyrwyr wedi parhau i fod yn weddol fywiog yn ystod y flwyddyn, gyda chyfanswm niferoedd dysgwyr AB lawn amser fwy neu lai yn unol â lefelau’r flwyddyn flaenorol.

    Mae’r Coleg yn parhau i sicrhau safonau uchel o safbwynt ansawdd yr addysgu a dysgu, ac wedi derbyn adroddiad Estyn da adeg yr arolwg diwethaf (gweler Adroddiad Strategol). Yn yr un modd, mae adroddiadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr fel arfer yn dangos lefelau boddhad uchel ymysg y myfyrwyr. 

    Cafodd yr adroddiad hwn ei gymeradwyo gan y bwrdd ar 12fed Rhagfyr 2024 a’i lofnodi ar ran y bwrdd gan: 

    Llofnod

    Mr John Edge

    Cyfarwyddwr

Adroddiad y Cyfarwyddwyr

  • Mae’r cyfarwyddwyr yn cyflwyno eu hadroddiad a datganiadau ariannol y Cwmni wedi eu harchwilio ar gyfer diwedd y flwyddyn 31ain Gorffennaf 2024.    

    Canlyniadau a datblygiadau i’r dyfodol

    Nodir canlyniadau’r flwyddyn, strategaeth a datblygiadau’r Cwmni i’r dyfodol yn yr Adroddiad Strategol ar dudalennau 3 i 14.  

    Buddrannau

    Mae’r Cwmni’n gyfyngedig drwy warrant.  Nid oes unrhyw fuddrannau wedi eu talu nac yn cael eu hargymell ar gyfer diwedd y flwyddyn 31 Gorffennaf 2024.

    Ymgynghorwyr proffesiynol
    • Archwilydd allanol:    KPMG LLP, Caerdydd
    • Archwilydd mewnol:    Mazars LLP, Bryste
    • Banciwr:        Barclays Bank Plc, Abertawe
    • Cyfreithwyr:        Eversheds, Hepworth & Chadwick, Caerdydd
    Cyfarwyddwyr

    Dyma gyfarwyddwyr y Cwmni oedd yn weithredol yn ystod y flwyddyn a hyd at y dyddiad y llofnodwyd y datganiadau ariannol, oni nodir yn wahanol:

    Cyfarwyddwyr               
    • Mrs Maria Stedman *#    Wedi ymddiswyddo 2il Ionawr 2024 
    • Mr John Edge *# (Cadeirydd)
    • Mr Eifion Griffiths *#
    • Mr Richard John Williams *# 
    • Mr Andrew Cornish *#

    (* Cyfarwyddwyr anweithredol)
    (# Ymddiriedolwyr)

  • Mae gan y cyfarwyddwyr fantais o indemniad sy’n ddarpariaeth indemniad trydydd parti cymwys fel y’i diffinnir gan adran 234 o Ddeddf Cwmnïau 2006. Roedd yr indemniad yn bodoli trwy gydol y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ac mae’n dal mewn bodolaeth ar ddyddiad llofnodi’r datganiadau ariannol yma. 

  • Mae’r Coleg yn dilyn y Cod Arfer Taliadau Gwell (Better Payments Practice Code) wrth ymdrin â’i gyflenwyr.  Dyma bedair prif egwyddor y cod: 

    • cytuno ar delerau talu ar ddechrau unrhyw fargen a glynu wrth y telerau hynny; 
    • egluro’r gweithdrefnau talu wrth gyflenwyr; 
    • talu biliau yn unol ag unrhyw gytundeb a wnaed gyda’r cyflenwr, neu’n unol â’r gyfraith; a 
    • hysbysu cyflenwyr yn ddi-oed os oes yna anghytundeb ynglŷn ag anfoneb a setlo’r mater cyn gynted â phosib o dderbyn ymateb ffafriol.

    Mae Deddf Talu Dyledion Masnachol yn Hwyr (Llog) 1998, sy’n weithredol ers 1 Tachwedd 1998, yn gofyn i Golegau, yn absenoldeb cytundeb i’r gwrthwyneb, dalu cyflenwr o fewn 30 diwrnod naill ai o ddarparu’r nwyddau neu’r gwasanaethau neu’r dyddiad y derbyniwyd yr anfoneb. 

  • Mae’r Coleg yn buddsoddi’n gyson yn y gwaith o gynnal a chadw’r ystâd trwy gyfrwng rhaglenni cynnal a chadw blynyddol sy’n cael eu gweinyddu yn ystod misoedd yr haf.  Mae cyllidebau blynyddol yn cynnwys dyraniadau ar gyfer gwaith o’r fath. 

  • Mae’r Coleg wedi ymrwymo i sicrhau cydraddoldeb cyfleoedd ar gyfer pawb sy’n dysgu ac yn gweithio yma.  Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi’n gadarnhaol y gwahaniaethau mewn hil, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, crefydd neu gred ac oed. Rydym yn ymdrechu’n daer iawn i ddileu amodau sy’n rhoi pobl dan anfantais ac rydym yn gweithredu yn erbyn rhagfarn. Mae’r modd y mae’r polisi hwn yn derbyn adnoddau, yn cael ei weithredu a’i fonitro yn cael ei gynllunio.

    Mae Polisi Cydraddoldeb Strategol y Coleg, er yn gyffredinol berthnasol i weithwyr cyflogedig, yr un mor berthnasol i unigolion anabl gan y byddai’r Coleg yn darparu hyfforddiant, datblygiad gyrfa a chyfleoedd ar gyfer dyrchafiad, sydd, cyn belled â phosibl, yn union yr un fath â’r rhai ar gyfer gweithwyr cyflogedig eraill.

  • Mae gan y Coleg nifer o fudd-ddeiliaid.   Mae’r rhain yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:   

    • Fyfyrwyr;
    • Cyrff ariannu’r sector addysg; 
    • Staff;  
    • Cyflogwyr lleol (gyda chysylltiadau penodol);
    • Awdurdodau lleol;
    • Partneriaethau Mentrau Lleol (LEPs);
    • Y gymuned leol;
    • Sefydliadau Addysg Bellach eraill;
    • Undebau llafur; a
    • Chyrff proffesiynol.

    Mae’r Coleg yn cydnabod pwysigrwydd y berthynas â’r budd-ddeiliaid yma ac yn cyfathrebu’n gyson â nhw trwy gyfrwng cyfarfodydd a gwefan y Coleg. 

  • Mae’r Coleg yn darparu gwybodaeth yn systematig i weithwyr cyflogedig a staff ynglŷn â materion o bwys iddynt, gan drafod yn gyson â nhw neu â’u cynrychiolwyr, er mwyn gallu ystyried eu barn wrth wneud penderfyniadau sy’n debygol o effeithio arnynt. 

    Cynigia strwythur y pwyllgorau y cysylltiadau cyfathrebu ffurfiol fel sy’n briodol o wahanol gategorïau cyflogaeth staff a myfyrwyr.  Caiff cyfranogiad gweithwyr cyflogedig a myfyrwyr eu hannog yn y Coleg, gan fod cyflawni ymwybyddiaeth gyffredin ar ran yr holl weithwyr cyflogedig a myfyrwyr o’r ffactorau ariannol ac economaidd sy’n effeithio ar y Coleg ac yn chwarae rôl flaenllaw yn y broses o wneud penderfyniadau.   

  • Mae’n ofynnol i’r Cyfarwyddwyr gyflwyno datganiadau ariannol wedi eu harchwilio ar gyfer pob blwyddyn ariannol o dan y gyfraith cwmnïau.  Mae’r Cyfarwyddwyr yn gyfrifol am baratoi’r Adroddiad Strategol, Adroddiad y Cyfarwyddwyr, y Datganiad Budd Cyhoeddus a’r Datganiad o Lywodraethiant Corfforaethol a Rheolaeth Fewnol a’r datganiadau ariannol yn unol â chyfraith a rheoliadau sy’n gymwys.  

    Yn unol â thelerau ac amodau’r Memorandwm Ariannol rhwng Llywodraeth Cymru â’r sefydliadau addysg bellach, mae’n ofynnol i’r Cyfarwyddwyr baratoi datganiadau ariannol ac adolygiad gweithredol ac ariannol ar gyfer pob blwyddyn ariannol yn unol â’r Datganiad o’r Arfer a Argymhellir – Cyfrifyddu ar gyfer Addysg Bellach ac Uwch, y Cyfarwyddyd Cyfrifon ar gyfer Colegau Addysg Bellach yng Nghymru ac Egwyddorion Cyfrifyddu Derbyniol Cyffredinol y DU, gan gynnwys FRS 102, y Safon Adrodd Ariannol sy’n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon. O dan gyfraith cwmnïau, rhaid i’r Cyfarwyddwyr beidio â chymeradwyo’r datganiadau ariannol oni bai eu bod yn fodlon eu bod yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa’r Coleg a’i elw neu golled am y cyfnod hwnnw.

    Trosglwyddwyd y gwaith o reoleiddio’r sector Addysg Bellach yng Nghymru o Lywodraeth Cymru i Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ar 1 Awst 2024. Mae’r Cod Ymarfer Archwilio, y Cyfarwyddyd Cyfrifon ar gyfer Colegau Addysg Bellach yng Nghymru 2023/24 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru (“Cyfarwyddyd Cyfrifon 2023/24”) a’r Cod Rheoli Memorandwm Ariannol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn parhau yn eu lle hyd nes y cânt eu disodli gan gyhoeddiadau dilynol Medr. O ystyried y trosglwyddiad hwn, dylid darllen unrhyw gyfeiriadau at Lywodraeth Cymru yn ein hadroddiad fel cyfeiriad hefyd at Medr.

    Wrth lunio’r datganiadau ariannol, mae’n ofynnol i’r Cyfarwyddwyr: 

    • ddewis polisïau cyfrifyddu addas ac yna eu defnyddio’n gyson 
    • gwneud dyfarniadau ac amcangyfrifon sy’n rhesymol a darbodus;
    • datgan os ydynt wedi dilyn safonau cyfrifyddu perthnasol y DU, yn unol ag unrhyw ymadawiadau perthnasol a ddatgelir ac a eglurir yn y datganiadau ariannol;
    • asesu gallu’r Coleg i barhau yn fusnes gweithredol, gan nodi’r rhagdybiaethau ategol allweddol neu gamau lliniarol, fel sy’n briodol (sy’n gorfod bod yn gyson â datgeliadau eraill yn y cyfrifon); a 
    • defnyddio’r sail gyfrifo busnes gweithredol heblaw eu bod naill ai’n bwriadu dirwyn y Coleg i ben neu i beidio â gweithredu, neu os nad oes unrhyw ffordd realistig arall o osgoi gwneud hynny.

    Disgwylir hefyd i’r Cyfarwyddwyr lunio Adroddiad Aelodau sy’n disgrifio’r hyn y mae’n ceisio’i gyflawni a sut mae cyflawni hynny, yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â statws cyfreithiol a gweinyddol y Coleg. 

    Mae’r Cyfarwyddwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion cyfrifyddu digonol sy’n ddigon i ddangos ac egluro trafodion y Coleg ac sy’n datgelu, gyda chywirdeb rhesymol ar unrhyw adeg, sefyllfa ariannol y Coleg ac sy’n eu galluogi i sicrhau bod y datganiadau ariannol yn cael eu paratoi yn unol â deddfwriaeth berthnasol gan gynnwys Deddf Cwmnïau 2006, Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 a Deddf Elusennau 2011, a safonau cyfrifyddu perthnasol. Maent yn gyfrifol am y cyfryw reolaeth fewnol ag y maent yn barnu sy’n angenrheidiol i alluogi paratoi datganiadau ariannol sy’n rhydd o gamddatganiadau materol, boed hynny oherwydd twyll neu gamgymeriad. Maent yn gyfrifol am gymryd camau sy’n rhesymol agored iddynt er mwyn diogelu asedau’r Coleg a rhwystro a chanfod twyll ac unrhyw afreoleidd-dra arall.

    Cyfrifoldeb y Cyfarwyddwyr yw cynnal a chadw ei wefan(nau), a’i chywirdeb; nid yw’r gwaith a wneir gan archwilwyr yn cynnwys ystyriaeth o’r materion hyn, ac o’r herwydd, nid yw’r archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw newidiadau a all fod wedi digwydd i’r datganiadau ariannol ers iddynt gael eu cyflwyno’n wreiddiol ar y wefan. Gall deddfwriaeth yn y Deyrnas Unedig sy’n ymwneud â llunio a lledaenu gwybodaeth am ddatganiadau ariannol wahaniaethu oddi wrth ddeddfwriaeth mewn awdurdodaethau eraill. 

    Mae’r Cyfarwyddwyr yn gyfrifol am sicrhau fod gwariant ac incwm yn cael eu defnyddio i’r dibenion a nodwyd gan Lywodraeth Cymru a bod trafodion ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.  Ymhellach, maent yn gyfrifol am sicrhau fod cyllid gan Lywodraeth Cymru, ac unrhyw arian cyhoeddus arall, yn cael ei ddefnyddio’n unol â’r Memorandwm Ariannol gyda Llywodraeth Cymru ac unrhyw amodau eraill y gellir eu mabwysiadu’n achlysurol gan Lywodraeth Cymru neu unrhyw gyllidwr cyhoeddus arall. Rhaid i’r Cyfarwyddwyr sicrhau fod dulliau rheoli ariannol a rheolaethol yn weithredol er mwyn diogelu arian y cyhoedd ac eraill gan sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n gywir. Ymhellach, y Cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am sicrhau bod adnoddau a gwariant y Coleg yn cael ei reoli’n economaidd effeithiol ac yn effeithlon rhag i’r manteision sy’n deillio o ddefnyddio cyllid cyhoeddus Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill gael eu peryglu.   

  • Carbon Emissions Data

    Data allyriadau nwyon tŷ gwydr a defnydd ynni’r DU ar gyfer y cyfnod 1 Awst 2023 tan 31ain Gorffennaf 2024: 

      Blwyddyn Gyfredol
    Defnydd ynni i gyfrifo allyriadau (kwh) 851,410
    Allyriadau Cwmpas 1 mewn tunnelli metrig Co2e  
    - Nwy 90
    - Trafnidiaeth dan berchnogaeth 4
    Cyfanswm Cwmpas 1 94
    Allyriadau Cwmpas 2 mewn tunnelli metrig Co2e  
    - Trydan 84
    Allyriadau Cwmpas 3 mewn tunnelli metrig Co2e  
    - Teithio busnes - cerbydau sy’n eiddo i weithwyr cyflogedig  10
    Cyfanswm Gros allyriadau mewn tunnelli Co2e 188
    Cymhareb dwyster tunnelli Co2e fesul myfyriwr 0.179
  • Rydym wedi dilyn canllawiau Adrodd Amgylcheddol Llywodraeth Ei Fawrhydi 2019.  Rydym hefyd wedi defnyddio Protocol Adrodd Nwyon Tŷ Gwydr – Safonau Corfforaethol ac wedi defnyddio ffactorau trosi Llywodraeth y DU 2024 ar gyfer Adroddiadau Cwmnïau. 

  • Y gymhareb mesur dwyster a ddewiswyd yw cyfanswm yr allyriadau gros mewn tunelli metrig Co2e fesul disgybl, y gymhareb a argymhellir ar gyfer y sector.

  • Gosodwyd mesuryddion clyfar ym mhob safle.  Gosodwyd bylbiau golau arbed ynni (LEDs) gymaint â phosib ac mae teithiau staff wedi lleihau yn sgil y pwyslais ar gynnal cyfarfodydd rhithiol a defnyddio meddalwedd megis Teams neu Google Meet.  Mae’r coleg wedi buddsoddi’n helaeth mewn cyfleusterau storio beiciau ac mae’n gweithredu Cynllun Beicio i’r Gwaith i annog y dull glanach ac iachach hwn o deithio i’r coleg. Mae mannau gwefru EV (Cerbydau Trydan) hefyd wedi’u gosod ar ein dau gampws. 

  • Mae pob person oedd yn gyfarwyddwyr ar yr adeg pan gafodd Adroddiad y Cyfarwyddwyr ei gymeradwyo, wedi cadarnhau, cyn belled ag yr oeddent yn ymwybodol, nad oes unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol  (h.y. gwybodaeth sydd ei hangen ar archwilydd y cwmni yng nghyswllt llunio ei adroddiad), nad oedd archwilwyr y cwmni’n ymwybodol ohono, ac mae’r cyfarwyddwyr wedi cymryd pob cam posib a gofynnol er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth berthnasol ac i sicrhau fod archwilwyr y cwmni’n ymwybodol o’r wybodaeth honno.

  • Yn unol ag Adran 487 Deddf Cwmnïau 2006, ystyrir bod yr archwilydd wedi’i ailbenodi ac felly y bydd KPMG LLP yn parhau i wneud y gwaith. 

  • Ym mis Awst 2024, cymerodd MEDR (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil), corff hyd braich newydd, gyfrifoldeb dros ariannu a goruchwylio addysg drydyddol ac ymchwil.

    Cymeradwywyd trwy orchymyn y Cyfarwyddwyr ar 12fed Rhagfyr 2024 a’i lofnodi ar ei ran gan:

    Llofnodwyd:

    Mr John Edge

    Cyfarwyddwr

Datganiad Llywodraethiant Corfforaethol a Rheolaeth Fewnol

  • Mae’r Coleg yn darparu gwybodaeth yn systematig i weithwyr cyflogedig a staff ynglŷn â materion o bwys iddynt, gan drafod yn gyson â nhw neu â’u cynrychiolwyr, er mwyn gallu ystyried eu barn wrth wneud penderfyniadau sy’n debygol o effeithio arnynt. 

    Cynigia strwythur y pwyllgorau y cysylltiadau cyfathrebu ffurfiol fel sy’n briodol o wahanol gategorïau cyflogaeth staff a myfyrwyr.  Caiff cyfranogiad gweithwyr cyflogedig a myfyrwyr eu hannog yn y Coleg, gan fod cyflawni ymwybyddiaeth gyffredin ar ran yr holl weithwyr cyflogedig a myfyrwyr o’r ffactorau ariannol ac economaidd sy’n effeithio ar y Coleg ac yn chwarae rôl flaenllaw yn y broses o wneud penderfyniadau.

  • Rhestrir enwau Bwrdd y Cyfarwyddwyr ar dudalen 15.  Cyfrifoldeb y cyfarwyddwyr yw cyflwyno barn annibynnol yng nghyswllt materion yn ymwneud â strategaeth, perfformiad, adnoddau a safonau ymddygiad. Mae’r Cwmni’n cydnabod, fel cwmni sy’n gyfrifol am gyllid cyhoeddus a phreifat, fod ganddo gyfrifoldeb penodol dros ddilyn y safonau uchaf o safbwynt llywodraethiant corfforaethol bob amser. 

    Mae’r Bwrdd yn derbyn gwybodaeth gyson ac amserol yn ymwneud â pherfformiad ariannol cyffredinol y Cwmni, yn ogystal â gwybodaeth bellach megis perfformiad yn erbyn targedau ariannol, gwariant cyfalaf arfaethedig, materion yn ymwneud â safonau a phersonél megis iechyd a diogelwch a materion amgylcheddol. Mae’r Bwrdd yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn. 

    Cynhalia’r Cwmni ei fusnes trwy gyfrwng nifer o bwyllgorau.  Mae gan bob pwyllgor gylch gorchwyl sydd wedi ei gymeradwyo gan y Bwrdd.  Y pwyllgorau dan sylw yw Chwilio a Llywodraethu; Tâl; Cwricwlwm y Dysgwr a Sgiliau; Safonau; Adnoddau ac Ymgysylltu â Busnes; ac Archwilio a Rheoli Risg. 

    Mae’r pwyllgorau’n cynnwys cyfarwyddwyr ac aelodau cyfetholedig a ddewiswyd gan y pwyllgor chwilio a llywodraethu sy’n cynnwys cyfarwyddwyr yn unig – ar sail y wybodaeth, y sgiliau a’r profiad y gallant ei gynnig i’r pwyllgor perthnasol. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, nid yw’r aelodau cyfetholedig yn gyfarwyddwyr y Cwmni. Rhaid i bob penderfyniad a wneir gan y pwyllgorau gael eu cymeradwyo’n ffurfiol maes o law gan y Bwrdd. 

    Gweithreda’r pwyllgorau ar sail ymgynghorol gan adrodd yn uniongyrchol i Fwrdd y Cyfarwyddwyr.  Bydd cadeirydd bob pwyllgor yn gyfarwyddwr gweithredol o leiaf. Nodir manylion yn ymwneud â chyfansoddiad bob pwyllgor o dan y penawdau perthnasol isod.  Caiff agendâu ffurfiol, papurau ac adroddiadau eu dosbarthu i aelodau’r pwyllgorau a’r cyfarwyddwyr mewn da bryd, cyn y cyfarfodydd. Darperir deunydd briffio ar sail ad-hoc. 

    Mae elfen anweithredol annibynnol gref yn perthyn i’r Bwrdd ac nid oes unrhyw unigolyn na grŵp yn dominyddu’r broses benderfynu.  Ystyria’r Cwmni fod pob aelod anweithredol yn annibynnol ar reolwyr ac yn rhydd o unrhyw berthynas fusnes neu arall, a allai amharu’n ymarferol wrth iddynt ddod i benderfyniadau annibynnol. 

    Ceir rhaniad cyfrifoldeb clir yn rôl y Cadeirydd (cyfarwyddwr anweithredol) a’r Pennaeth (cyfarwyddwr gweithredol) sydd ar wahân. 

    Mae Bwrdd Coleg Ceredigion yn cwrdd yn rheolaidd, ond yn bennaf, ymdrinnir ag eitemau i’w hystyried yng nghyfarfodydd Bwrdd Coleg Sir Gâr (fel y rhiant-gwmni uniongyrchol).

  • Ystyrir unrhyw benodiadau newydd i’r Bwrdd gan y Bwrdd cyfan.  Y pwyllgor Chwilio sy’n gyfrifol am ddewis ac enwebu unrhyw aelod newydd i’r Bwrdd ystyried. Y Bwrdd sy’n gyfrifol am sicrhau fod hyfforddiant addas yn cael ei ddarparu yn ôl yr angen. 

  • Trwy gydol y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2024, roedd pwyllgor Chwilio’r Sefydliad yn cynnwys pedwar aelod o Fwrdd y Cyfarwyddwyr. Cyfrifoldebau’r pwyllgor yw gwneud argymhellion i’r Bwrdd o ran dewis cyfarwyddwyr ac aelodau cyfetholedig, ac ar faterion llywodraethu. 

  • Mae’r pwyllgor, sy’n cynnwys tri Chyfarwyddwr, yn pennu tâl ac amodau cyflogaeth deiliaid uwch swyddi, gan gynnwys y pennaeth. Ceir manylion tâl ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2024 yn nodyn 6 y datganiadau ariannol. 

  • Pedwar aelod sy’n perthyn i’r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg. Gweithreda’r pwyllgor yn unol â chylch gorchwyl ysgrifenedig wedi’i gymeradwyo gan y Bwrdd. 

    Mae’r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg yn cyfarfod yn dymhorol ac yn cynnig fforwm adrodd yn ôl i archwilwyr datganiad ariannol mewnol y Sefydliad, sy’n ymwneud â’r pwyllgor ar gyfer trafodaethau annibynnol heb bresenoldeb rheolwyr y Sefydliad. Mae’r pwyllgor hefyd yn derbyn ac yn ystyried adroddiadau oddi wrth Lywodraeth Cymru sy’n effeithio ar fusnes y Sefydliad.

    Archwilydd mewnol y Cwmni sy’n gyfrifol am fonitro systemau rheoli mewnol, trefniadau rheoli risg a phrosesau llywodraethu yn unol â’r cynllun mewnbwn y cytunwyd arno, a chyflwyno’u canfyddiadau i reolwyr a’r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg.

    Y rheolwyr sy’n gyfrifol am weithredu argymhellion yr archwiliad y cytunwyd arnynt, ac mae’r archwilydd mewnol yn cynnal adolygiad dilynol cyfnodol er mwyn sicrhau fod y fath argymhellion yn cael eu gweithredu. 

    Mae’r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg hefyd yn cynnig cyngor i’r Cwmni ynglŷn â phenodiad archwilwyr mewnol a datganiadau ariannol, a’r tâl ar gyfer gwaith archwilio a heb fod yn waith archwilio. 

  • Wyth aelod sy’n perthyn i’r Pwyllgor Adnoddau a Datblygu Busnes.  Gweithreda’r pwyllgor yn unol â chylch gorchwyl ysgrifenedig wedi’i gymeradwyo gan y Bwrdd. 

    Mae’r pwyllgor yn cwrdd yn dymhorol er mwyn adolygu pob agwedd ar gynllunio a defnyddio adnoddau yn y Cwmni.  Gall hyn gynnwys pennu cyllidebau, cyfrifon rheoli ac ariannol, y trysorlys a buddsoddiadau, adnoddau dynol, a datblygu’r ystâd a chynnal a chadw. 

  • Wyth aelod sy’n perthyn i’r pwyllgor Dysgwyr, Cwricwlwm a Sgiliau yn ogystal â’r pwyllgor Safonau. Gweithreda’r pwyllgorau yn unol â chylch gorchwyl ysgrifenedig wedi’i gymeradwyo gan y Bwrdd.   

    Mae’r pwyllgorau’n cwrdd yn dymhorol i adolygu pob agwedd o ddarpariaeth y cwricwlwm, cyflwyniad a pherfformiad y Cwmni. 

  • Cwmpas cyfrifoldeb

    Yn y pen draw, y cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am systemau rheolaeth fewnol y Sefydliad ac am adolygu eu heffeithiolrwydd. Serch hynny, cynlluniwyd y fath system i reoli yn hytrach na dileu’r risg o fethiant i gyflawni amcanion busnes, a dim ond sicrwydd rhesymol yn hytrach nac absoliwt yn erbyn camddatganiad materol neu golled y gellir ei roi.

    Mae’r Bwrdd wedi dirprwyo cyfrifoldeb dyddiol o gynnal system reolaeth fewnol gadarn sy’n cefnogi cyflawniad polisïau, nodau ac amcanion y Sefydliad i’r pennaeth, gan ddiogelu’r arian cyhoeddus a’r asedau y maent hwy’n bersonol gyfrifol amdanynt, yn unol â’r cyfrifoldebau a roddwyd iddynt yn y Memorandwm Ariannol rhwng Coleg Ceredigion a Llywodraeth Cymru.  Y pennaeth sydd hefyd yn gyfrifol am hysbysu’r Bwrdd ynglŷn ag unrhyw wendidau neu fethiannau materol o safbwynt rheolaeth fewnol. 

    Diben y system rheolaeth fewnol 

    Cynlluniwyd y system rheolaeth fewnol i gadw lefelau risg yn rhesymol yn hytrach na dileu risg yn llwyr o safbwynt methu i gyflawni polisïau, nodau ac amcanion; dim ond sicrwydd rhesymol o effeithiolrwydd yn hytrach nag absoliwt y gellir ei gynnig felly. Seilir y system rheolaeth fewnol ar broses barhaus a gynlluniwyd i adnabod a blaenoriaethu’r risgiau i gyflawni polisïau, nodau ac amcanion y Sefydliad, gwerthuso’r tebygrwydd o wireddu’r risgiau hynny a’u heffaith, a’u rheoli’n effeithiol, yn effeithlon ac o safbwynt economaidd. Mae’r system rheolaeth fewnol wedi bod yn weithredol yng Ngholeg Ceredigion yn ystod y flwyddyn sy’n gorffen 31 Gorffennaf 2024 a hyd at ddyddiad cymeradwyo’r adroddiad blynyddol a’r datganiadau ariannol. 

    Capasiti i ddelio â risgiau

    Adolygwyd y prif risgiau sy’n wynebu’r Sefydliad gan y Bwrdd, yn ogystal â’r rheolaethau gweithredu, ariannol a chydymffurfio sydd wedi cael eu gweithredu i leihau’r risgiau hynny. Cred y Bwrdd fod yna broses ffurfiol barhaus ar gyfer adnabod, gwerthuso a rheoli’r risgiau sylweddol sy’n wynebu’r Sefydliad, wedi bod yn weithredol yn ystod y flwyddyn sy’n gorffen 31 Gorffennaf 2024 a hyd at ddyddiad cymeradwyo’r adroddiad blynyddol a’r datganiadau ariannol.  Caiff y broses hon ei hadolygu’n gyson gan y Bwrdd. 

    Y fframwaith risgiau a rheolaeth 

    Seilir y system reolaeth fewnol ar fframwaith o wybodaeth reoli gyson, gweithdrefnau gweinyddol yn cynnwys gwahanu dyletswyddau, a system ddirprwyo ac atebolrwydd.  Mae hyn yn cynnwys, yn enwedig: 

    • Systemau cyllidebu cynhwysfawr gyda chyllideb flynyddol, sy’n cael ei hadolygu a’i chytuno gan y Bwrdd; 
    • Adolygiadau cyson gan y pwyllgor ymgynghori a’r Bwrdd o adroddiadau ariannol cyfnodol a blynyddol, sy’n cymharu’r perfformiad ariannol â’r rhagolygon; 
    • Gosod targedau er mwyn mesur perfformiad ariannol ac ati;
    • Canllawiau clir ar gyfer rheoli buddsoddiad cyfalaf; a
    • Mabwysiadu disgyblaethau rheoli prosiect ffurfiol, os yn briodol. 

    Mae Coleg Ceredigion yn gweithio’n agos gyda chwmni o archwilwyr proffesiynol er mwyn darparu gwasanaeth archwilio mewnol, sy’n gweithredu’n unol â gofynion Llywodraeth Cymru. Caiff gwaith y gwasanaeth archwilio mewnol ei lywio gan ddadansoddiad o’r risgiau sy’n wynebu’r Sefydliad a chaiff cynlluniau ar gyfer archwiliad mewnol blynyddol eu seilio ar y dadansoddiad hwn.  Caiff y dadansoddiad risg a’r cynlluniau archwilio mewnol eu hardystio gan y Bwrdd yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg. Mae’r archwilydd mewnol yn llunio adroddiad ar gyfer y Corff Llywodraethu yn ymwneud â gweithgaredd archwilio mewnol y Sefydliad o leiaf unwaith y flwyddyn.  Mae’r adroddiad yn cynnwys barn annibynnol yr archwilydd mewnol ynglŷn a digonolrwydd ac effeithiolrwydd system rheolaeth risg, rheolyddion a phrosesau llywodraethiant y Sefydliad. 

    Yr archwilydd allanol sy’n cynnal yr archwiliad o’r datganiadau ariannol blynyddol ac yn adrodd yn ôl ar y canfyddiadau i’r pwyllgor. Mae’r archwilwyr mewnol ac allanol yn elfennau allweddol o’r broses Archwilio a Rheoli Risg ac yn feysydd cyfrifoldeb allweddol i’r pwyllgor.

    Adolygu effeithiolrwydd 

    Y pennaeth sy’n gyfrifol am adolygu effeithiolrwydd y system rheolaeth fewnol.  Seilir ei adolygiad o effeithiolrwydd y system rheolaeth fewnol ar: 

    • waith yr archwilydd mewnol; 
    • gwaith yr uwch reolwyr o fewn y Sefydliad, sy’n gyfrifol am ddatblygu a chynnal y fframwaith rheoli mewnol; a
    • sylwadau a wnaed gan archwilydd datganiadau ariannol y Sefydliad ac archwilydd Llywodraeth Cymru yn eu llythyron rheoli ac adroddiadau eraill. 

    Cynghorwyd y pennaeth ynglŷn â goblygiadau canlyniad eu hadolygiadau o effeithiolrwydd y system rheolaeth fewnol gan y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg, sy’n arolygu gwaith yr archwilydd mewnol, a chynllun i ymdrin â gwendidau a sicrhau bod gwelliant parhaus o fewn y system yn weithredol.

    Mae’r uwch dîm rheoli’n derbyn adroddiadau sy’n cyfeirio at brif ddangosyddion perfformiad a risg gan ystyried materion rheolaethol posib y tynnwyd eu sylw atynt gan fecanweithiau rhybudd cynnar, sydd wedi eu hymgorffori o fewn yr adrannau a’u hatgyfnerthu gan hyfforddiant ymwybyddiaeth risg.  Mae’r uwch dîm rheoli a’r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg hefyd yn derbyn adroddiadau cyson gan yr archwilydd mewnol, sy’n cynnwys argymhellion ar gyfer gwelliant.  Caiff rôl y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg yn y cyswllt hwn ei chyfyngu i adolygiad lefel uchel o drefniadau rheolaeth fewnol.  Mae agenda’r Bwrdd yn cynnwys eitem gyson er mwyn ystyried risgiau a rheolaeth ac mae’n derbyn adroddiadau ynglŷn â hynny oddi wrth y tîm uwch reolwyr a’r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg.  Mae’r pwyslais ar ganfod y raddfa berthnasol o sicrwydd ac nid yn unig adrodd drwy eithriad.  Yn ystod cyfarfod Rhagfyr 2024, bydd y Bwrdd yn cynnal ei asesiad blynyddol ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben ar 31 Gorffennaf 2024 drwy ystyried dogfennaeth gan yr uwch dîm rheoli a’r archwilydd mewnol, gan ystyried digwyddiadau ers 31 Gorffennaf 2024 hefyd.

    Yn seiliedig ar gyngor y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg a’r Pennaeth, mae’r Bwrdd o’r farn fod gan y Cwmni fframwaith llywodraethiant a rheolaeth risg ddigonol ac effeithiol, a’i fod wedi cyflawni ei gyfrifoldebau statudol o safbwynt “defnydd effeithiol ac effeithlon o adnoddau, solfedd y sefydliad a’r corff a diogelu eu hasedau”. 

  • Mae’r Corff Llywodraethu wedi ystyried ei gyfrifoldebau o ran hysbysu Llywodraeth Cymru ynglŷn ag afreoleidd-dra materol, amhriodoldeb, a methiant i gydymffurfio â thermau ac amodau cyllido, yn unol â’r memorandwm a’r cytundebau sy’n bodoli rhwng y Coleg a Llywodraeth Cymru.    Fel rhan o’n hystyriaeth ni, rydym wedi rhoi sylw dyledus i ofynion y memorandwm a’r cytundebau ariannol gyda Llywodraeth Cymru. 

    Rydym yn cadarnhau ar ran y Corff Llywodraethu, wedi dyddiad yr ymchwiliad, a hyd eithaf ein gwybodaeth, ein bod yn gallu adnabod unrhyw anghysondebau neu ddefnydd amhriodol o gyllid gan y Coleg, neu unrhyw ddiffyg cydymffurfiaeth faterol gyda thermau ac amodau ariannu yn unol â’r memorandwm a’r cytundebau sy’n bodoli rhwng y Coleg a Llywodraeth Cymru. 

    Rydym yn cadarnhau na chafwyd unrhyw enghreifftiau o afreoleidd-dra materol, amhriodoldeb neu ddiffyg cydymffurfio hyd yn hyn.  O ddarganfod unrhyw enghreifftiau o’r fath wedi dyddiad y datganiad hwn, hysbysir Llywodraeth Cymru o hynny. 

  • Caiff gweithgareddau’r Coleg, yn ogystal â ffactorau sy’n debygol o effeithio ar ei ddatblygiad a’i berfformiad i’r dyfodol eu nodi yn yr Adroddiad Strategol. Cyflwynir sefyllfa ariannol y Coleg, ei lif arian, hylifedd a’i fenthyciadau yn y Datganiadau Ariannol a’r nodiadau atodedig. 

    Lluniwyd y datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol y mae’r cyfarwyddwyr yn ystyried i fod yn addas am y rhesymau canlynol. 

    Mae’r Cyfarwyddwyr wedi llunio rhagolygon llif arian ar gyfer cyfnod o 12 mis o ddyddiad cymeradwyo’r datganiadau ariannol yma. Wedi adolygu’r rhagolygon hyn, mae’r Cyfarwyddwyr o’r farn, o ystyried anawsterau difrifol ond credadwy, yn cynnwys effaith arfaethedig yr argyfwng ynni ac argyfwng costau byw, bydd gan y Coleg gronfeydd digonol i fodloni ei rwymedigaethau wrth iddynt ddod yn ddyledus dros gyfnod o 12 mis o ddyddiad cymeradwyo’r datganiadau ariannol yma (y cyfnod asesu busnes gweithredol). 

    O ganlyniad, mae’r cyfarwyddwyr yn hyderus fod gan y Coleg adnoddau digonol i barhau i gwrdd â’i rwymedigaethau wrth iddynt ddod yn ddyledus o fewn o leiaf 12 mis i ddyddiad cymeradwyo’r datganiadau ariannol ac felly mae’n parhau i fabwysiadu’r sail busnes gweithredol wrth lunio’r datganiadau ariannol. 

    Hyfforddiant a Datblygiad - Bwrdd y Cyfarwyddwyr a Phenaethiaid Llywodraethu

    Ymgymerwyd â nifer o sesiynau hyfforddi mewnol yn ystod y flwyddyn.

    Adolygiad Allanol – Llywodraethu

    Cynhelir adolygiad allanol o Lywodraethu o leiaf unwaith bob 3 blynedd. Cynhaliwyd yr adolygiad diweddaf gan y Tîm Archwilio Mewnol - Mazars LLP - ym mis Mai 2022. 

    Trwy orchymyn y Bwrdd

    Mr John Edge                            

    Cyfarwyddwr

ADRODDIAD YR ARCHWILYDD ANNIBYNNOL I AELODAU COLEG CEREDIGION

  • Rydym wedi archwilio datganiadau ariannol Coleg Ceredigion (y “Coleg”) ar gyfer diwedd y flwyddyn 31 Gorffennaf 2024 sy’n cynnwys y Datganiad Incwm Cynhwysfawr, Datganiad o Newid mewn Cronfeydd Wrth Gefn, Mantolen, Datganiad Llif Arian a nodiadau perthnasol, yn cynnwys y Datganiad o’r Prif Bolisïau Cyfrifyddu a Thechnegau Amcangyfrif. 

    Yn ein barn ni, mae’r datganiadau ariannol:  

    • yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa’r Coleg ar 31 Gorffennaf 2024 ac o’i warged ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny; 
    • wedi eu paratoi’n gywir yn unol â safonau cyfrifyddu’r DU, yn cynnwys FRS 102 Y Safon Adrodd Ariannol sy’n berthnasol yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon; ac
    • maent wedi eu paratoi yn unol â gofynion Ddeddf Cwmnïau 2006.    
  • Cynhaliwyd ein harchwiliad yn unol â Safonau Cyfrifyddu Rhyngwladol (DU) (“SCRh (DU)”) a’r gyfraith berthnasol.  Disgrifir ein cyfrifoldebau isod.  Rydym wedi cyflawni ein cyfrifoldebau moesol, yn annibynnol o’r Coleg yn unol â gofynion moesol y DU yn cynnwys Safon Foesol y FRC.  Credwn fod y dystiolaeth a gasglwyd gennym yn ystod ein harchwiliad yn ddigonol ac yn addas ar gyfer llunio barn. 

  • Mae’r Cyfarwyddwyr wedi llunio datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol am nad ydynt yn bwriadu diddymu’r Coleg na dirwyn ei weithrediadau i ben, ac oherwydd eu bod wedi dod i’r casgliad fod sefyllfa ariannol y Coleg yn golygu fod hyn yn realistig.  Daethant i’r casgliad hefyd nad oes unrhyw ansicrwydd perthnasol a allai fod wedi dwyn amheuaeth sylweddol ynglŷn â’i allu i barhau fel busnes gweithredol am o leiaf blwyddyn o ddyddiad cymeradwyo’r datganiadau ariannol (“y cyfnod busnes gweithredol”). 

    Yn ein gwerthusiad o gasgliadau’r Cyfarwyddwyr, ystyriwyd y risgiau cynhenid i fodel busnes y Coleg, a dadansoddi sut y gallai’r risgiau hynny effeithio ar adnoddau ariannol y Coleg neu ei allu i barhau i weithredu dros y cyfnod busnes gweithredol. 

    Ein casgliadau ar sail y gwaith hwn:

    • rydym o’r farn fod defnydd y Cyfarwyddwyr o sail busnes gweithredol ar gyfer cyfrifyddu wrth baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol;  ac
    • nid ydym wedi nodi, ac rydym yn cytuno ag asesiad y Cyfarwyddwyr, nad oes ansicrwydd perthnasol sy’n gysylltiedig â digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu’r Coleg i barhau’n fusnes gweithredol am y cyfnod busnes gweithredol. 

    Serch hynny, gan na allwn ragweld pob digwyddiad neu amodau i’r dyfodol a chan y gall digwyddiadau dilynol arwain at ganlyniadau sy’n anghyson â dyfarniadau a oedd yn rhesymol ar yr adeg y cawsant eu gwneud, nid yw’r casgliadau uchod yn warant y bydd y Coleg yn parhau i weithredu. 

  • Nodi ac ymateb i risgiau o gamddatganiad perthnasol oherwydd twyll

    Er mwyn nodi risgiau o gamddatganiad sylweddol oherwydd twyll (“risgiau twyll”) rydym wedi asesu digwyddiadau neu amodau a allai ddangos cymhelliad neu bwysau i gyflawni twyll neu roi cyfle i gyflawni twyll.  Roedd ein gweithdrefnau asesu risg yn cynnwys:

    • Holi Cyfarwyddwyr, y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg, yn ogystal ag a ydynt yn gwybod am unrhyw dwyll gwirioneddol, amheuaeth o dwyll neu dwyll honedig.
    • Darllen cofnodion cyfarfodydd Bwrdd y Cyfarwyddwr a’r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg.
    • Defnyddio gweithdrefnau dadansoddol i nodi unrhyw berthnasoedd anarferol neu annisgwyl.

    Gwnaethom gyfleu risgiau twyll a nodwyd drwy’r tîm archwilio a gwnaethom barhau’n effro i unrhyw arwyddion o dwyll drwy gydol yr archwiliad. 

    Fel sy’n ofynnol gan safonau archwilio, rydym yn cyflawni gweithdrefnau i fynd i’r afael â’r risg y bydd rheolwyr yn diystyru rheolaethau a’r risg y gall rheolwyr fod mewn sefyllfa i wneud cofnodion cyfrifyddu amhriodol.   Yn yr archwiliad hwn ni wnaethom nodi risg o dwyll yn ymwneud â chydnabod refeniw oherwydd y meini prawf cydnabod refeniw nad ydynt yn gymhleth, sy’n cyfyngu ar y cyfle i drin refeniw yn dwyllodrus.

    Ni wnaethom nodi unrhyw risgiau twyll ychwanegol.

    Wrth bennu’r gweithdrefnau archwilio, gwnaethom ystyried canlyniadau ein gwerthusiad o rai o reolaethau rheoli risg twyll ar draws y Coleg. 

    Hefyd, gwnaethom gyflawni gweithdrefnau gan gynnwys: 

    • Nodi cofnodion dyddlyfrau i’w profi ar sail meini prawf risg a chymharu’r cofnodion a nodwyd â dogfennau ategol. Roedd y rhain yn cynnwys dyddlyfrau a gofnodwyd i gyfrifon nad oeddent yn cael eu defnyddio’n aml a chofnodion dyddlyfrau heb eu mantoli. 

    Nodi ac ymateb i risgiau camddatganiad materol yn ymwneud â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau

    Nodwyd meysydd o gyfreithiau a rheoliadau y byddai’n rhesymol disgwyl iddynt gael effaith faterol ar y datganiadau ariannol o’n profiad masnachol ac un y sector yn gyffredinol a thrwy drafod gyda’r Cyfarwyddwyr (fel sy’n ofynnol gan safonau archwilio), a thrafod gyda’r Cyfarwyddwyr y polisïau a’r gweithdrefnau ynghylch cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau.   

    Gwnaethom gyfleu cyfreithiau a rheoliadau a nodwyd ledled ein tîm a pharhau’n effro i unrhyw arwyddion o beidio â chydymffurfio drwy gydol yr archwiliad.   

    Mae effaith bosibl y cyfreithiau a’r rheoliadau hyn ar y datganiadau ariannol yn amrywio’n sylweddol.

    Yn gyntaf, mae’r Coleg yn ddarostyngedig i gyfreithiau a rheoliadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y datganiadau ariannol gan gynnwys deddfwriaeth adrodd ariannol (gan gynnwys deddfwriaeth cwmnïau cysylltiedig a deddfwriaeth addysg bellach cysylltiedig, gan gynnwys y Cyfarwyddyd Cyfrifon ar gyfer Colegau Addysg Bellach yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru), deddfwriaeth elw dosbarthadwy a deddfwriaeth pensiynau  ac aseswyd graddau’r cydymffurfio â’r cyfreithiau a’r rheoliadau hyn fel rhan o’n gweithdrefnau ar yr eitemau cysylltiedig ar y datganiad ariannol.     

    Yn ail, mae’r Coleg yn ddarostyngedig i lawer o gyfreithiau a rheoliadau eraill lle gallai canlyniadau methu â chydymffurfio gael effaith faterol ar symiau neu ddatgeliadau yn y datganiadau ariannol, er enghraifft trwy osod dirwyon neu ymgyfreitha. Fe wnaethom nodi’r meysydd canlynol fel y rheiny sydd fwyaf tebygol i gael effaith o’r fath: iechyd a diogelwch, cyfreithiau diogelu data, a chyfraith cyflogaeth, gan gydnabod natur gweithgareddau’r Coleg.  Mae safonau archwilio yn cyfyngu’r gweithdrefnau archwilio gofynnol i nodi achosion o ddiffyg cydymffurfio â’r cyfreithiau a’r rheoliadau hyn i holi’r Cyfarwyddwyr ac archwilio gohebiaeth reoleiddiol a chyfreithiol, os oes o gwbl. Felly, os na fydd achos o dorri rheoliadau gweithredol yn cael ei ddatgelu i ni neu os nad yw’n amlwg mewn gohebiaeth berthnasol, ni fydd archwiliad yn canfod y torri rheolau hynny.

    Cyd-destun gallu’r archwiliad i ganfod twyll neu dorcyfraith neu dorri rheoliad

    Oherwydd cyfyngiadau cynhenid archwiliad, mae perygl anochel nad ydym efallai wedi canfod rhai camddatganiadau materol yn y datganiadau ariannol, er ein bod wedi cynllunio a chyflawni ein harchwiliad yn briodol yn unol â safonau archwilio. Er enghraifft, po fwyaf yw’r pellter rhwng y cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau o’r digwyddiadau a’r trafodion a adlewyrchir yn y datganiadau ariannol, lleiaf oll yw’r tebygrwydd y byddai’r gweithdrefnau cyfyngedig sy’n ofynnol gan safonau archwilio yn ei nodi. 

    Yn ogystal, yn yr un modd ag unrhyw archwiliad, roedd risg uwch o beidio â chanfod twyll, gan y gall twyll gynnwys cydgynllwynio, ffugio, hepgoriadau bwriadol, camliwio, neu ddiystyru rheolaethau mewnol.  Mae ein gweithdrefnau archwilio wedi’u cynllunio i ganfod camddatganiad perthnasol. Nid ydym yn gyfrifol am atal diffyg cydymffurfio na thwyll ac ni ellir disgwyl i ni ganfod diffyg cydymffurfio â’r holl gyfreithiau a rheoliadau.

  • Mae’r Cyfarwyddwyr yn gyfrifol am y wybodaeth arall, sy’n cynnwys y Datganiad Budd Cyhoeddus, yr Adroddiad Strategol, Adroddiad y Cyfarwyddwyr, a’r Datganiad o Lywodraethiant Corfforaethol a Rheolaeth 
    Fewnol. Nid yw ein barn ar y datganiadau ariannol yn cynnwys y wybodaeth arall, ac yn unol â hynny, nid ydym yn mynegi barn fel archwilwyr nac, ac eithrio fel y nodir yn benodol isod, yn rhoi unrhyw fath o sicrwydd yn ei chylch.       

    Ein cyfrifoldeb yw darllen y wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw’r wybodaeth honno, yn seiliedig ar ein gwaith yn archwilio’r datganiadau ariannol, wedi’i chamddatgan yn faterol neu’n anghyson â’r datganiadau ariannol neu’r wybodaeth a gawsom yn sgil archwilio. Yn seiliedig ar y gwaith hwnnw’n unig: 

    • nid ydym wedi canfod unrhyw gamddatganiadau materol yn y wybodaeth arall;  
    • yn ein barn ni, mae’r wybodaeth a roddwyd yn yr Adroddiad Strategol ac yn Adroddiad y Cyfarwyddwyr ar gyfer y flwyddyn ariannol yn gyson â’r datganiadau ariannol; ac
    • yn ein barn ni, mae’r adroddiadau hynny wedi’u llunio’n unol â Deddf Cwmnïau 2006. 
  • Yn unol â’r Ddeddf Cwmnïau 2006 mae’n ofynnol i ni adrodd i chi, os, yn ein barn ni:   

    • nad yw’r cofnodion cyfrifyddu sydd wedi eu cadw gan y Coleg yn ddigonol, neu os nad yw’r ffurflenni sy’n ddigonol ar gyfer ein harchwiliad wedi eu derbyn o’r adrannau na fuom yn ymweld â nhw; neu  
    • nad yw’r datganiadau ariannol y Coleg yn cyd-fynd â’r cofnodion a’r ffurflenni cyfrifyddu; neu
    • nad yw rhai datgeliadau o dâl Cyfarwyddwyr a bennir gan y gyfraith wedi eu gwneud; neu   
    • nad ydym wedi derbyn yr holl wybodaeth ac esboniadau angenrheidiol ar gyfer ein harchwiliad.   
      Nid oes gennym unrhyw beth i’w adrodd yn y cyswllt hwn.   
  • Fel yr eglurir yn llawnach yn eu datganiad ar dudalen 18, y Cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am: lunio’r datganiadau ariannol a bod yn hyderus eu bod yn rhoi darlun gwir a theg; rheolaeth fewnol i’r graddau sy’n angenrheidiol i’w galluogi i lunio datganiadau ariannol sy’n rhydd o gamddatganiad materol, boed hynny yn sgil twyll neu gamgymeriad; asesu gallu’r Coleg i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu, fel sy’n berthnasol, materion yn ymwneud â busnes gweithredol; a defnyddio’r sail cyfrifyddu busnes gweithredol heblaw eu bod naill ai’n bwriadu dirwyn y Coleg i ben neu i beidio â gweithredu, neu os nad oes unrhyw ffordd realistig arall o osgoi gwneud hynny. 

  • Ein hamcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynglŷn ag os yw’r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o gamddatganiadau materol, boed hynny ar sail twyll neu gamgymeriad, ac i gynnig ein barn yn adroddiad yr archwilydd. Mae sicrwydd rhesymol yn gyfystyr â lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw’n gwarantu fod archwiliad wedi’i gynnal yn unol â ISA (DU) bob amser yn darganfod camddatganiad materol pan fydd yn bodoli. Gall camddatganiadau ddigwydd yn sgil twyll neu gamgymeriad ac fe’u hystyrir yn berthnasol, yn unigol neu ar y cyd, os gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a gymerir ar sail y datganiadau ariannol.   

    Mae disgrifiad llawnach o’n cyfrifoldebau i’w weld ar wefan yr FRC: www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities

  • Mae angen i ni adrodd ar y materion canlynol yn unol â Chod Ymarfer Archwilio Addysg Bellach 2015 (a ddaeth i rym 1 Awst 2014) (“Cod Ymarfer Archwilio”) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn sgil Deddf Dysgu a Sgiliau 2000. 

    Trosglwyddwyd y gwaith o reoleiddio’r sector Addysg Bellach yng Nghymru o Lywodraeth Cymru i Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ar 1 Awst 2024. Mae’r Cod Ymarfer Archwilio, y Cyfarwyddyd 

    Cyfrifon ar gyfer Colegau Addysg Bellach yng Nghymru 2023/24 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru (“Cyfarwyddyd Cyfrifon 2023/24”) a’r Cod Rheoli Memorandwm Ariannol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn parhau yn eu lle ar ddyddiad ein hadroddiad. O ystyried y trosglwyddiad hwn, dylid darllen unrhyw gyfeiriadau at Lywodraeth Cymru yn ein hadroddiad fel cyfeiriad hefyd at Medr.

    Yn ein barn ni, ym mhob ffordd sylweddol: 

    • mae arian a wariwyd o grantiau Llywodraeth Cymru a chronfeydd eraill o ba bynnag ffynhonnell a weinyddwyd gan y Coleg at ddibenion penodol wedi’u cymhwyso’n briodol at y dibenion hynny ac, os yw’n briodol, wedi eu rheoli yn unol â phob deddfwriaeth berthnasol; 
    • mae arian a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru (a chyrff eraill a chronfeydd cyfyngedig os yn briodol) wedi ei ddefnyddio’n unol â’r Memorandwm Ariannol rhwng Llywodraeth Cymru a sefydliadau addysg bellach; ac
    • mae’r datganiadau ariannol yn bodloni gofynion y Cyfarwyddyd Cyfrifon 2023/24. 
  • Cyflwynir yr adroddiad hwn i aelodau’r Coleg yn unig, fel corff, yn unol â Phennod 3 o Ran 16 o Ddeddf Cwmnïau 2006 a pharagraff 56(b) o Erthyglau Cymdeithasu’r Coleg. Cynhaliwyd ein gwaith archwilio er mwyn i ni allu hysbysu aelodau’r Coleg o’r materion hynny y mae’n ofynnol i ni eu datgan wrthynt mewn adroddiad archwilydd ac nid ar gyfer unrhyw ddiben arall. I’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, nid ydym yn derbyn nac yn cymryd cyfrifoldeb dros unrhyw un heblaw’r Coleg ac aelodau’r Coleg, fel corff, am ein gwaith archwilio, am yr adroddiad hwn, nac am y farn yr ydym wedi’i ffurfio.   

    Rees Batley (Uwch Archwilydd Statudol) 

    o blaid ac ar ran KPMG LLP, Archwilydd Statudol 

Datganiad o Incwm Cynhwysfawr

  • Datganiad Incwm a Gwariant (£000)
      Nodiadau 2024 (£000) 2023 (£000)
    Incwm      
    Grantiau cyrff ariannu  2 5,989 6,293
    Ffioedd dysgu a chontractau addysg 3 134 137
    Grantiau a chontractau eraill 4 0 78
    Incwm arall 5 465 402
    Cyfanswm incwm   6,588 6,910
           
    Gwariant      
    Costau staff 6 4,469 4,633
    Costau gweithredu eraill  7 1,783 1,519
    Dibrisiant 9 462 426
    Llog a chostau ariannol eraill  8 (125) 25
    Cyfanswm gwariant   6,589 6,603
           
    Gwarged/(diffyg) cyn enillion a cholledion eraill    (1) 307
    Gwarged/(diffyg) ar gyfer y flwyddyn   (1) 307
    Cynnydd actiwaraidd (colled) yng nghyswllt y cynllun pensiwn     16 (146) 3,294
    Cyfanswm incwm cynhwysfawr/(costau) am y flwyddyn   (147) 3,601
           
    Cynrychiolwyd gan:      
    Incwm cynhwysfawr anghyfyngedig/(costau)   (147) 3,601

    Deillia bob swm o weithrediadau parhaus. 

    Mae’r nodiadau a gynhwysir ar dudalennau 32-53 yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol. 

Datganiad o Newidiadau mewn Cronfeydd wrth Gefn

  • Datganiad Cronfeydd wrth Gefn (£000)
     

    Incwm ac Gwariant Cyfrif

    £’000

    Ailbrisio Cronfa

    £’000

    Cyfanswm

    £’000

    Balans ar 1 Awst 2022 1,126 1,110 2,236
    Gwarged o’r cyfrif incwm a gwariant 307 - 307
    Incwm cynhwysfawr arall  3,294 - 3,294
    Trosglwyddiad rhwng cronfeydd ailbrisio ac incwm a gwariant  43 (43) -
    Cynnydd/colled actiwaraidd yng nghyswllt y cynllun pensiwn (2,346) - (2,346)
      2,424 1,067 3,491
           
    Balans ar 31 Gorffennaf 2023 2,424 1,067 3,491
    Diffyg o’r cyfrif incwm a gwariant  (1) - (1)
    Incwm cynhwysfawr arall  (146) - (146)
    Trosglwyddiad rhwng cronfeydd ailbrisio ac incwm a gwariant  43 (43) -
      (104) (43) (147)
    Balans ar 31 Gorffennaf 2024 2,320 1,024 3,344

    Mae’r nodiadau a gynhwysir ar dudalennau yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol. 

Mantolen

  • Statement of Financial Position (£000)
      Nodiadau 2024 (£000) 2023 (£000)
    Asedau sefydlog      
    Asedau sefydlog diriaethol 9 4,154 4,298
           
    Asedau cyfredol       
    Stociau   6 6
    Masnach a symiau derbyniadwy eraill 10 51 143
    Arian parod a chyfwerth ag arian parod 14 1,650 1,882
        1,707 2,031
           
    Llai:  Credydwyr: symiau dyledus o fewn blwyddyn  11 (1,707) (2,031)
    Asedau/rhwymedigaethau cyfredol net   (650) (766)
    Cyfanswm asedau   5,211 5,563
           
    Llai: Credydwyr - symiau dyledus wedi mwy na blwyddyn  12 (1,627) (1,822)
           
    Darpariaethau      
    Gwarged(diffyg) budd diffiniedig  16 - -
    Darpariaethau eraill  13 (240) (250)
           
    Cyfanswm asedau net   3,344 3,491
           
    Cronfeydd anghyfyngedig       
    Cyfrif incwm a gwariant    2,320 2,424
    Cronfa ailbrisio   1,024 1,067
    Cyfanswm cronfeydd anghyfyngedig, fel cyfanswm o’r cronfeydd wrth gefn    3,344 3,491

    Mae’r datganiadau ariannol ar dudalennau 28 i 53 wedi eu cymeradwyo a’u hawdurdodi ar gyfer eu cyhoeddi gan y Bwrdd ar 12fed Rhagfyr 2024 a’u harwyddo ar ei ran ar y dyddiad hwnnw gan: 

    Cadeirydd - Mr John Edge

    Cyfarwyddwr: - Mr Andrew Cornish

Datganiad Llif Arian

  •   Nodiadau

    2024

    £000

    2023

    £000

    Mewnlif/(all-lif) arian parod o weithgareddau gweithredol 
    Gwarged/(diffyg) am y flwyddyn   (1) 307
    Addasiad ar gyfer eitemau heblaw am arian parod: 
    Dibrisiant   462 426
    (Cynnydd)/Lleihad mewn dyledwyr    92 742
    Cynnydd/(Lleihad) mewn credydwyr sy’n ddyledus o fewn blwyddyn    (135) 77
    Cynnydd/(Lleihad) mewn credydwyr sy’n ddyledus wedi blwyddyn    (208) (221)
    Cynnydd/(Lleihad) mewn darpariaethau    (10) (66)
    Costau pensiwn yn llai cyfraniadau taladwy    (146) 124
    Addasiad ar gyfer buddsoddi neu ariannu gweithgareddau
    Llog a dderbyniwyd   (79) (23)
    Llog i’w dalu   - -
    Llif arian net o weithgareddau gweithredu    (25) 1,366
     
    Llif arian o weithgareddau buddsoddi 
    Llog a dderbyniwyd   79 23
    Taliadau a wnaed i brynu asedau sefydlog    (318) (254)
    Grantiau a dderbyniwyd    32 159
        (207) (72)
     
    Cynnydd mewn arian parod a chyfwerth ag arian parod yn ystod y flwyddyn   (232) 1,294
    Arian parod a chyfwerth ag arian parod ar ddechrau’r flwyddyn   14 1,882 588
    Arian parod a chyfwerth ag arian parod ar ddiwedd y flwyddyn  14 1,650 1,882

    Mae’r nodiadau a gynhwysir yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol. 

Nodiadau ar y datganiadau ariannol

  • Cwmni cyfyngedig trwy warrant wedi’i ymgorffori a’i leoli yn y Deyrnas Unedig yw Coleg Ceredigion. 

    Defnyddiwyd y polisïau cyfrifyddu canlynol yn gyson wrth ymdrin ag eitemau sy’n cael eu hystyried yn berthnasol yng nghyswllt y datganiadau ariannol. 

    Sail llunio

    Lluniwyd y datganiadau ariannol canlynol yn unol â’r Ddeddf Cwmnïau, Datganiad o’r Arferion a Argymhellir:Cyfrifyddu ar gyfer Addysg Bellach ac Uwch 2019 (y SORP AB AU 2019), y Cyfarwyddyd Cyfrifon ar gyfer Colegau Addysg Bellach yng Nghymru 2023/24 ac yn unol â’r Safon Adrodd Ariannol 102 - “Y Safon Adrodd Ariannol sy’n berthnasol yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon” (FRS 102).  Mae’r Coleg yn endid budd cyhoeddus ac mae felly wedi cymhwyso’r gofynion budd cyhoeddus perthnasol yn unol ag FRS 102.

    Mae llunio datganiadau ariannol yn unol ag FRS 102 yn gofyn am ddefnyddio amcangyfrifon cyfrifyddu beirniadol. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r rheolwyr arfer barn wrth gymhwyso polisïau cyfrifyddu’r Coleg.

    Sail cyfrifyddu

    Caiff y datganiadau ariannol eu llunio yn unol â’r confensiwn cost hanesyddol fel y’i haddaswyd trwy ddefnyddio prisiadau blaenorol fel cost dybiedig wrth drosglwyddo i FRS 102 ar gyfer rhai asedau anghyfredol. Cafodd y rheolau cyfrifyddu a nodir isod eu defnyddio’n gyson. 

    Busnes gweithredol

    Caiff gweithgareddau’r Coleg, yn ogystal â ffactorau sy’n debygol o effeithio ar ei ddatblygiad a’i berfformiad i’r dyfodol eu nodi yn yr Adroddiad Strategol.  Cyflwynir sefyllfa ariannol y Coleg, ei lif arian, hylifedd a’i fenthyciadau yn y Datganiadau Ariannol a’r nodiadau atodedig. 

    Cyfanswm yr asedau net ar 31 Gorffennaf 2024 oedd £3,344k Lluniwyd y datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol y mae’r cyfarwyddwyr yn ystyried i fod yn addas am y rhesymau canlynol. 

    Mae’r Cyfarwyddwyr wedi llunio rhagolygon llif arian ar gyfer cyfnod o 12 mis o ddyddiad cymeradwyo’r datganiadau ariannol yma. Wedi adolygu’r rhagolygon hyn, mae’r Cyfarwyddwyr o’r farn, o ystyried anawsterau difrifol ond credadwy, yn cynnwys effaith arfaethedig yr argyfwng ynni ac argyfwng costau byw, bydd gan y Coleg gronfeydd digonol i fodloni ei rwymedigaethau wrth iddynt ddod yn ddyledus dros gyfnod o 12 mis o ddyddiad cymeradwyo’r datganiadau ariannol yma (y cyfnod asesu busnes gweithredol).  O ganlyniad, mae’r Cyfarwyddwyr wedi llunio’r datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol.

    Cydnabyddiaeth incwm

    Mae grantiau refeniw’r Llywodraeth yn cynnwys grantiau cylchol corff cyllido a grantiau eraill a rhoddir cyfrif amdanynt yn unol â’r model cronni a ganiateir gan FRS 102.  Caiff grantiau cylchol cyrff cyllido eu mesur yn ôl y symiau a dderbynnir bob blwyddyn.  Amcangyfrifir unrhyw dan neu uwch gyflawniad, ei addasu ar gyfer a’i adlewyrchu yn lefel y grant cylchol a gydnabyddir yn y cyfrif incwm a gwariant. 

    Cydnabyddir grantiau (yn cynnwys grantiau ymchwil) o ffynonellau heblaw’r llywodraeth mewn incwm pan fydd gan y Coleg hawl i‘r incwm a bod amodau cysylltiedig â pherfformiad wedi’u bodloni. Cydnabyddir incwm a dderbyniwyd cyn i amodau cysylltiedig â pherfformiad gael eu bodloni fel incwm gohiriedig o fewn credydwyr ar y fantolen a’i ryddhau fel incwm o fodloni’r amodau. 

    Caiff grantiau cyfalaf y Llywodraeth eu cyfalafu, eu cadw fel incwm gohiriedig a’u cydnabod fel incwm yn ystod oes ddefnyddiol ddisgwyliedig yr ased, yn unol â’r model cronni a ganiateir gan FRS 102.  Cydnabyddir grantiau cyfalaf eraill fel incwm pan fydd hawl gan y Coleg i’r arian o fodloni unrhyw amodau cysylltiedig â pherfformiad. 

    Caiff incwm o ffioedd dysgu ei nodi fel gros o unrhyw wariant nad yw’n ostyngiad ac a gydnabyddir yn y cyfnod y’i derbynnir.

    Caiff incwm o gontractau a gwasanaethau eraill a dderbyniwyd eu cynnwys i’r graddau y mae’r contract neu’r gwasanaeth dan sylw wedi ei gwblhau.   Yn gyffredinol, mae hyn yn cyfateb i swm y gwariant perthnasol a wnaed yn ystod y flwyddyn ac unrhyw gyfraniadau cysylltiedig tuag at gostau gorbenion. 

    Caiff pob incwm o flaendaliadau tymor byr eu credydu i’r cyfrif incwm a gwariant yn ystod y cyfnod y caiff ei ennill ar sail dderbyniadwy.

    Cyfrifyddu ar gyfer buddion ôl-gyflogaeth 

    Mae buddion ôl-gyflogaeth ar gyfer gweithwyr cyflogedig y Coleg yn cael eu darparu yn bennaf gan y Cynllun Pensiwn Athrawon (CPA) a Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL).  Cynlluniau buddion diffiniedig yw’r rhain, sy’n cael eu hariannu’n allanol a’u contractio allan o’r Ail Bensiwn Gwladol. 

    Cynllun heb ei ariannu yw’r CPA.  Caiff cyfraniadau i’r CPA eu cyfrif er mwyn lledaenu cost pensiynau dros gyfnod bywyd gwaith gweithwyr cyflogedig yn y Coleg yn y fath fodd fel bod y gost pensiwn yn ganran sylweddol ar lefel y gyflogres oed pensiwn cyfredol ac yn y dyfodol.  Pennir y cyfraniadau gan actiwarïaid cymwys ar sail prisiadau sy’n defnyddio’r dull darpar fudd.   Cynllun aml-gyflogwr yw’r CPA ac ni all y Coleg nodi ei gyfran o asedau a rhwymedigaethau sylfaenol y cynllun ar sail gyson a rhesymol.   Caiff y CPA felly ei drin fel cynllun cyfraniadau diffiniedig a chaiff y cyfraniadau eu nodi fel cost yn y datganiad incwm ar gyfer y cyfnodau pan fydd gweithwyr cyflogedig mewn cyflogaeth.

    Cynllun wedi’i ariannu yw CPLlL.  Caiff asedau CPLlL eu mesur trwy gyfrwng gwerthoedd cau teg.  Mesurir rhwymedigaethau CPLlL trwy ddefnyddio’r dull rhagamcanu credyd uned wedi’i ostwng ar y gyfradd enillion cyfredol ar fond corfforaethol o ansawdd uchel o derm ac arian cyfredol cyfatebol i’r rhwymedigaethau.  Ceir y prisiadau actiwaraidd o leiaf bob tair blynedd a’u diweddaru ar bob dyddiad mantolen. Y symiau a godir ar warged gweithredu yw’r costau gwasanaeth cyfredol a chostau cyflwyno’r cynllun, newidiadau i fuddion, setliadau a chwtogiadau.    Fe’u cynhwysir fel rhan o gostau staff.  Caiff y llog net ar yr atebolrwydd/ased budd diffiniedig net hefyd ei gydnabod yn y Datganiad Incwm Cynhwysfawr ac mae’n cynnwys y gost llog ar y rhwymedigaeth budd diffiniedig a’r incwm o log ar asedau’r cynllun, wedi’i gyfrifo trwy luosi gwerth teg asedau’r cynllun ar ddechrau’r cyfnod yn ôl y gyfradd a ddefnyddir i ostwng y rhwymedigaethau budd.  Cydnabyddir y gwahaniaeth rhwng y llog ar incwm ar asedau’r cynllun â’r gwir adenillion ar asedau’r cynllun yn yr incwm cynhwysfawr arall. Caiff enillion a cholledion actiwaraidd eu cydnabod yn syth yn yr incwm cynhwysfawr arall.  Pan fydd cyfrifiad yn arwain at ased net, mae cydnabod yr ased wedi’i gyfyngu i’r graddau y gall y Coleg adennill y gwarged, naill ai drwy lai o gyfraniadau yn y dyfodol neu drwy ad-daliadau o’r cynllun, ac o’r herwydd, mae terfyn uchaf yr asedau wedi’i gymhwyso gan leihau’r gwarged i DIM.

    Buddion cyflogaeth tymor byr 

    Cydnabyddir buddion tymor byr megis cyflog ac absenoldeb ag iawndal (tâl gwyliau) fel cost yn ystod y flwyddyn y mae’r gweithwyr cyflogedig yn gwasanaethu’r Coleg.  Caiff unrhyw fuddion sydd heb eu defnyddio eu cronni a’u mesur fel swm ychwanegol y mae’r Coleg yn disgwyl ei dalu o ganlyniad i’r hawl nas defnyddiwyd. 

    Pensiynau Uwch

    Caiff cost wirioneddol unrhyw bensiwn uwch cyfredol i gyn aelod o staff ei dalu’n flynyddol gan y coleg.  Bydd y Coleg yn talu amcangyfrif o’r gost ddisgwyliedig yn y dyfodol o unrhyw gynnydd ym mhensiwn parhaus cyn aelod o staff yn llawn yn ystod y flwyddyn y bydd yr aelod staff yn ymddeol.   Yn ystod y blynyddoedd canlynol, codir tâl ar ddarpariaethau yn y fantolen gan ddefnyddio’r daenlen pensiwn uwch a ddarperir gan y cyrff cyllido.

    Asedau Anghyfredol – Asedau diriaethol sefydlog 

    Caiff asedau diriaethol sefydlog eu nodi fel cost/cost yn llai dibrisiad cronedig a cholledion amhariad cronedig. Caiff eitemau asedau sefydlog penodol sydd wedi eu hailbrisio i werth teg ar neu cyn dyddiad trosglwyddo SORP AB AU 2015, eu mesur ar sail cost dybiedig, sef y swm wedi ailbrisio ar ddyddiad yr ailbrisiad hwnnw. 

    Tir ac adeiladau

    Caiff adeiladau rhydd-ddaliad eu dibrisio ar sail llinell syth dros eu cyfnod oes ddefnyddiol o 50 mlynedd.   Ni chaiff tir rhydd-ddaliad ei ddibrisio. Pan gaiff tir ac adeiladau eu prynu gyda chymorth grantiau penodol, maent yn cael eu cyfalafu a’u dibrisio fel yr uchod.  Yn hanesyddol, mae gwelliannau pellach i adeiladau wedi eu dibrisio dros gyfnod o 10 mlynedd neu dros oes economaidd ddefnyddiol yr ased.  Caiff y grantiau perthnasol eu credydu i gyfrif incwm gohiriedig o fewn credydwyr a’u rhyddhau i’r cyfrif incwm a gwariant dros gyfnod oes economaidd ddefnyddiol yr ased perthnasol ar sail systematig gyson â’r polisi dibrisio.  Caiff yr incwm gohiriedig ei glustnodi rhwng credydwyr sy’n ddyledus o fewn blwyddyn a’r rhai sy’n ddyledus wedi mwy na blwyddyn.   

    Cynhelir adolygiad o amhariad ar ased sefydlog os yw digwyddiadau neu newidiadau mewn amgylchiadau yn awgrymu efallai na fydd modd adennill swm cario unrhyw ased sefydlog. 

    O fabwysiadu FRS 102, dilynodd y Coleg y ddarpariaeth drawsnewidiol i gadw gwerth llyfr tir ac adeiladau, a ail-brisiwyd yn 1996, fel cost dybiedig, ond nid i fabwysiadu polisi ailbrisio’r eiddo yma yn y dyfodol. 

    Asedau sydd wrthi’n cael eu hadeiladu

    Caiff asedau sydd wrthi’n cael eu hadeiladu eu cyfrif ar gost, yn seiliedig ar werth tystysgrifau penseiri a chostau uniongyrchol eraill, a gafwyd hyd at 31 Gorffennaf.  Nid ydynt yn ddibrisiedig nes eu bod yn cael eu defnyddio. 

    Gwariant ar asedau sefydlog cyfredol wedi hynny

    Pan ddigwydd gwariant sylweddol ar asedau diriaethol sefydlog wedi pryniant gwreiddiol caiff ei gyfrif fel incwm yn ystod y cyfnod yr eir iddo, heblaw ei fod yn cynyddu buddion y Coleg i’r dyfodol, ac felly caiff ei gyfalafu a’i ddibrisio ar y sail berthnasol. 

    Cyfarpar

    Caiff cyfarpar sy’n costio llai na £3,000 yr eitem unigol ei ddileu i’r cyfrif incwm a gwariant yn ystod y cyfnod pryniant.  Caiff eitemau grŵp sydd mewn agregau uwchlaw’r trothwy ond heblaw hynny’n unigol, eu hadolygu’n arbennig cyn penderfynu ar y dull.  Caiff cyfarpar wedi’i gyfalafu ei ddibrisio ar sail llinell syth dros weddill cyfnod economaidd defnyddiol ei oes fel a ganlyn: 

    • Cyfarpar cyffredinol -  5% - 25% y flwyddyn
    • Cyfarpar cyfrifiadurol - 20% - 33% y flwyddyn
    • Gosodiadau a ffitiadau - 10% - 25% y flwyddyn
    Asedau ar brydles

    Codir costau mewn perthynas â phrydlesi gweithredu ar sail llinell syth dros dymor y brydles.

    Caiff cytundebau prydles sy’n trosglwyddo pob risg a budd perchnogaeth ased i’r Coleg eu trin fel petai’r ased wedi’i brynu’n llawn. 

    Cydnabyddir asedau a ddelir o dan brydlesi cyllid i ddechrau ar werth teg yr ased ar brydles (neu, os yn is, werth cyfredol isaf y taliadau prydles) ar gychwyn y brydles. Caiff yr atebolrwydd cyfatebol i’r prydleswr ei gynnwys yn y fantolen fel rhwymedigaeth prydles cyllid. Caiff asedau a ddelir o dan brydlesi cyllid eu cynnwys yn yr asedau diriaethol sefydlog a’u dibrisio a’u hasesu ar gyfer colledion amhariad yn yr un modd ag asedau sy’n cael eu perchen. 

    Caiff isafswm taliadau prydles eu dosbarthu rhwng y tâl cyllid a’r lleihad yn yr atebolrwydd sy’n ddyledus.  Caiff costau cyllid eu clustnodi dros gyfnod y brydles yn gymesur â’r elfen gyfalaf sy’n ddyledus. 

    Stocrestrau

    Caiff stocrestrau eu nodi ar eu cost isaf a’u gwerth net gwireddadwy (realisable), sef pris gwerthu yn llai costau cwblhau a gwerthu.  Darperir ar gyfer eitemau darfodedig, diffygiol ac sy’n symud yn araf yn ôl yr angen.

    Arian parod a chyfwerth ag arian parod

    Mae arian parod yn cynnwys arian parod mewn llaw, blaendaliadau ad-daladwy ar alw a gorddrafftiau.  Mae blaendaliadau yn ad-daladwy ar alw os ydynt ar gael yn ymarferol o fewn 24 awr heb gosb.   

    Buddsoddiadau tymor byr hynod hylifol y gellir eu trosi’n rhwydd i symiau hysbys o arian parod sydd â risg ddibwys o newid mewn gwerth yw symiau cyfwerth ag arian parod. Mae buddsoddiad yn gymwys fel cyfwerth ag arian parod pan fydd wedi aeddfedu dros dri mis neu lai o’r dyddiad y’i cafwyd

    Asedau ariannol, rhwymedigaethau ac ecwiti 

    Caiff asedau ariannol, rhwymedigaethau ac ecwiti eu dosbarthu yn unol yn ôl sylwedd rhwymedigaethau cytundebol y cyfrwng ariannol, yn hytrach na ffurf gyfreithiol y cyfrwng ariannol. 

    Dosberthir unrhyw fenthyciadau, buddsoddiadau a blaendaliadau tymor byr a ddelir gan y Coleg fel cyfryngau ariannol sylfaenol yn unol â FRS 102. Caiff y cyfryngau yma eu cofnodi i ddechrau ar bris trafodiad yn llai cost trafodiad (costau hanesyddol).  Mae FRS 102 yn ei gwneud yn ofynnol bod cyfryngau ariannol sylfaenol yn cael eu mesur ar gost amorteiddiedig. 

    Cyfnewid arian tramor

    Caiff trafodion mewn arian tramor eu cofnodi gan ddefnyddio’r gyfradd rheoli cyfnewid ar ddyddiad y trafodiad. Mae asedau a rhwymedigaethau ariannol mewn arian tramor yn cael eu trosi ar y cyfraddau cyfnewid ar ddiwedd y cyfnod ariannol, a chymerir yr holl wahaniaethau cyfnewid sy’n deillio o hynny fel incwm yn ystod y cyfnod y maent yn digwydd. 

    Trethiant

    Ystyrir bod y Coleg yn pasio’r profion a nodir ym Mharagraff 1 Atodlen 6 o Ddeddf Cyllid 2010 a’i fod felly’n cydymffurfio â’r diffiniad o gwmni elusennol i ddibenion treth gorfforaethol yn y DU.  Yn yr un modd, mae’n bosib y gellir eithrio’r Coleg rhag treth mewn perthynas ag enillion neu enillion cyfalaf a dderbynnir o fewn categorïau a gwmpesir gan adrannau 478-488 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 neu Adran 256 o Ddeddf Trethi Enillion Trethadwy 1992, i’r graddau y mae enillion neu enillion o’r fath yn cael eu cymhwyso at ddibenion elusennol yn unig. 

    Mae’r Coleg wedi’i eithrio’n rhannol yng nghyswllt Treth ar Werth. Mae TAW anadferadwy ar fewnbynnau wedi’i gynnwys yng nghostau mewnbynnau o’r fath a’i ychwanegu at gost asedau diriaethol sefydlog, fel sy’n briodol, lle bo’r mewnbynnau eu hunain yn asedau diriaethol sefydlog o ran eu natur.

    Darpariaethau a rhwymedigaethau wrth gefn 

    Cydnabyddir darpariaethau pan fydd gan y Coleg rwymedigaeth gyfreithiol neu adeiladol bresennol o ganlyniad i ddigwyddiad yn y gorffennol, mae’n debygol y bydd angen trosglwyddo budd economaidd i setlo’r rhwymedigaeth a gellir gwneud amcangyfrif dibynadwy o swm y rhwymedigaeth.

    Pan fydd effaith gwerth amser yr arian yn berthnasol, caiff y swm y disgwylir i fod yn ofynnol i setlo’r rhwymedigaeth ei gydnabod yn ôl eu gwerth presennol gan ddefnyddio cyfradd ddisgownt cyn treth.  Cydnabyddir dad-ddirwyn y gostyngiad fel cost ariannol yn y datganiad o incwm cynhwysfawr yn ystod y cyfnod y mae’n digwydd. 

    Digwydd atebolrwydd wrth gefn yn sgil digwyddiad yn y gorffennol sy’n rhoi rhwymedigaeth bosibl i’r Coleg y bydd ei fodolaeth ond yn cael ei gadarnhau o ganlyniad i ddigwyddiadau ansicr yn y dyfodol neu fel arall nad ydynt o fewn rheolaeth lwyr y Coleg. Mae rhwymedigaethau wrth gefn hefyd yn digwydd mewn amgylchiadau lle byddai darpariaeth yn cael ei gwneud fel arall ond ei bod naill ai’n debygol y bydd angen all-lif o adnoddau neu na ellir mesur swm y rhwymedigaeth mewn modd dibynadwy. 

    Ni chaiff rhwymedigaethau wrth gefn eu cydnabod ar y fantolen ond yn hytrach eu datgelu yn Nodiadau’r datganiadau ariannol. 

    Trefniadau asiantaeth

    Gweithreda’r Coleg fel asiant mewn perthynas â chasglu a thalu rhai grantiau cynhaliaeth dewisol.  Caiff taliadau cysylltiedig a dderbynnir gan y cyrff ariannu a thaliadau dilynol i fyfyrwyr eu heithrio oddi wrth incwm a gwariant y Coleg lle mae’r Coleg yn agored i’r risg leiaf neu’n mwynhau’r budd economaidd lleiaf posibl sy’n gysylltiedig â’r trafodiad.  

    Dyfarniadau wrth gymhwyso polisïau cyfrifyddu a ffynonellau allweddol o ansicrwydd amcangyfrif

    Wrth baratoi’r datganiadau ariannol yma, mae’r rheolwyr wedi dod i’r casgliadau isod:

    • Penderfynu os oes yna ddangosyddion amhariad o safbwynt asedau diriaethol y Coleg. Ymysg y ffactorau a ystyriwyd wrth gyrraedd y fath gasgliad roedd hyfywedd economaidd a pherfformiad ariannol tebygol yr asedau i’r dyfodol a lle mae’n rhan o uned gynhyrchu arian fwy, hyfywedd a pherfformiad disgwyliedig yr uned honno.

    Prif ffynonellau eraill ansicrwydd amcangyfrif 

    • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 

    Dibynna gwerth presennol rhwymedigaeth budd diffiniedig Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar nifer o ffactorau sy’n cael eu penderfynu ar sail actiwaraidd gan ddefnyddio nifer o ragdybiaethau.  Mae’r rhagdybiaethau a ddefnyddir i bennu’r gost net (incwm) ar gyfer pensiynau’n cynnwys y gyfradd ddisgownt.  Bydd unrhyw newidiadau yn y rhagdybiaethau yma, fel y nodir yn nodyn 16, yn effeithio ar y swm cario’r rhwymedigaeth pensiwn.   Ymhellach, defnyddiwyd sail rholio ymlaen sy’n rhagweld canlyniadau’r prisiad actiwaraidd llawn diweddaraf a gynhaliwyd ar 31 Mawrth 2022 gan yr actiwari wrth brisio’r rhwymedigaeth pensiwn ar 31 Gorffennaf 2024. Byddai unrhyw wahaniaethau rhwng y ffigyrau ar y sail rholio ymlaen a phrisiad actiwaraidd llawn yn effeithio ar swm cario’r rhwymedigaeth pensiwn. 

    Mae’r cyfarwyddwyr wedi asesu na all y Cwmni adennill y gwarged naill ai drwy lai o gyfraniadau yn y dyfodol neu drwy ad-daliadau o’r cynllun, ac o’r herwydd, mae terfyn uchaf yr asedau wedi’i gymhwyso gan leihau’r gwarged i DIM.

  •  

    2024

    £000

    2023

    £000

    Grantiau cylchol 5,298 5,590
    Dysgu Seiliedig ar Waith 292 292
    Rhyddhau grant cyfalaf gohiriedig:     
    Adeiladau  73 73
    Cyfarpar 136 148
    Grantiau Refeniw Eraill  190 190
      5,989 6,293
  •  

    2024

    £000

    2023

    £000

    Myfyrwyr Addysg Bellach y DU   8 7
    Myfyrwyr Addysg Uwch y DU   - -
    Cyfanswm ffioedd dysgu a dalwyd gan neu ar ran myfyrwyr unigol  8 7
    Contractau Addysg Uwch  - -
    Contractau eraill  126 130
      134 137
  •  

    2024

    £000

    2023

    £000

    Y Comisiwn Ewropeaidd  0 78
  •  

    2024

    £000

    2023

    £000

    Arlwyo a llety  187 159
    Gweithgareddau creu incwm eraill 51 104
    Incwm amrywiol 227 139
      465 402
  • Cyfartaledd y nifer o bersonau (yn cynnwys personél rheoli allweddol) a gyflogwyd gan y Coleg yn ystod y flwyddyn, a ddisgrifiwyd fel bod yn gyfwerth ag amser llawn, oedd: 

     

    2024

    Nifer

    2023

    Nifer

    Adrannau addysgu:     
    Staff addysgu 46 51
    Staff eraill 9 9
      55 60
    Gwasanaethau cefnogi dysgu   3 3
    Gwasanaethau cefnogi eraill  6 7
    Gwasanaethau gweinyddu a chanolog  16 15
    Eiddo 2 2
    Gweithgareddau creu incwm eraill 5 9
    Arlwyo a llety   8 8
      95 104
    Nifer cyfartalog o staff yn ôl nifer y personau    
    Staff addysgu  73 80
    Ddim yn dysgu  58 64
    Cyfanswm 131 144
    Costau staff ar gyfer y personau uchod     
         
    Pae a chyflogau 3,425 3,425
    Costau nawdd cymdeithasol  315 321
    Costau pensiwn eraill 707 802
      4,447 4,575
    Ailstrwythuro Staff 22 58
      4,469 4,633
    Personél Rheoli Allweddol 

    Personél rheoli allweddol yw’r personau hynny â chanddynt awdurdod a chyfrifoldeb dros gynllunio, cyfarwyddo a rheoli gweithgareddau’r Coleg.  Mae personél rheoli allweddol yn cynrychioli aelodau’r tîm rheoli sydd â chyflogau’n fwy na £60,000 y flwyddyn. 

    Nifer y personél rheoli allweddol, Swyddog Cyfrifyddu a staff eraill sy’n derbyn tâl uchel 

     

    2024

    No

    2023

    No

    Nifer y personél rheoli allweddol yn cynnwys y Swyddog Cyfrifyddu oedd:  2 1

    Nifer y personél rheoli allweddol a staff eraill a dderbyniodd enillion blynyddol, ar wahân i gyfraniadau pensiwn ond yn cynnwys buddion ar ffurf nwyddau, o fewn yr ystodau canlynol oedd:

      Rheoli Allweddol Personel   Staff eraill  
     

    2024

    Na

    2023

    Na

    2024

    Na

    2023

    Na

    £60,001 to £65,000 1 0 0 0
    £65,001 to £70,000 0 1 0 0
    £70,001 to £75,000 1 0 0 0

    Mae enillion personél rheoli allweddol yn cynnwys y canlynol: -

     

    2024

    £’000

    2023

    £’000

    Cyflogau 136 67
    Buddion mewn nwyddau  - -
      136 67
    Cyfraniadau pensiwn  33 16
    Cyfanswm enillion 169 83

    Enillion a dalwyd i’r aelod o staff ar y cyflog uchaf (wedi’i gynnwys uchod)

     

    2024

    £’000

    2023

    £’000

    Cyflogau 71 67
    Buddion mewn nwyddau  - -
      71 67
    Cyfraniadau pensiwn  17 16
    Cyfanswm enillion 88 83

    Cafodd £350,000 ei ailgodi gan Goleg Sir Gâr i adennill elfen gostau’r Pennaeth, Is-benaethiaid a’r Cyfarwyddwyr, sydd ar gyflogres Coleg Sir Gâr, ond sy’n treulio amser rhwng Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion.  Mae’r swm a ailgodwyd yn cynnwys £57,910 tuag at dalu cyflog y pennaeth (nid yw wedi’i gynnwys yn y personél allweddol uchod).  Y pennaeth yw’r Swyddog Atebol yn ogystal. Ceir rhagor o fanylion am enillion y pennaeth yn y datgeliadau yn natganiadau ariannol Coleg Sir Gâr.

    Taliadau Diswyddo

    Talodd y coleg 1 taliad diswyddo yn ystod y flwyddyn, a ddatgelir yn y bandiau canlynol:

     

    2024

    Nifer

    £0 - £25,000 1
    £25,001 - £50,000 -
    £50,001 - £100,00 -
    £100,001 - £ 150,000 -
    £150,000 + -
      1

    Wedi’i gynnwys yng nghostau ailstrwythuro staff, mae taliad diswyddo arbennig â chyfanswm o £22,000. 

    Amser cyfleuster undebau llafur

    Mae Rheoliadau’r Undebau Llafur (Gofynion Cyhoeddi Amser Cyfleuster 2017) yn ei gwneud yn ofynnol i’r coleg gyhoeddi gwybodaeth am drefniadau amser cyfleuster ar gyfer swyddogion undebau llafur yn y coleg.

    Nifer y Gweithwyr Cyflogedig a oedd yn swyddogion undeb perthnasol yn ystod 23-24: 2 (Cyfwerth â Llawn Amser (FTE) : 1.99)

      Canran yr amser Nifer y Gweithwyr
    Canran yr amser a dreulir ar amser cyfleuster 0 - 1% -
      1-50% 2
      50-100% -
    Cyfanswm Amser Cyfleuster   £ 8,610

    Cyfanswm y tâl i gynrychiolwyr undeb £ 94,189

      £ 94,189
    Canran y tâl a wariwyd ar amser cyfleuster   9%

    Amser a dreuliwyd ar weithgareddau undeb llafur â thâl fel canran o gyfanswm yr amser cyfleuster â thâl 9 % 

  •  

    2024

    £000

    2023

    £000

    Costau addysgu 378 372
    Costau nad ydynt yn gostau addysgu 951 852
    Eiddo 454 295
      1,783 1,519
    Mae costau gweithredu eraill yn cynnwys:

    2024

    £000

    2023

    £000

    Cyflog archwilydd:  
    Archwiliad datganiadau ariannol 
    30 28
    Llogi asedau dan brydlesi gweithredu  20 20
  •  

    2024

    £000

    2023

    £000

    Costau cyllid pensiynau (nodyn 16) (125) 25
  •  

    Tir ac adeiladau Rhydd-les

    £000

    Cyfarpar

    £000

    Cyfanswm

    £000

    Cost neu brisiad
    Ar 1 Awst 2023 8,136 2,287 10,423
    Ychwanegiadau   318 318
    Gwarediadau - (16) (16)
    Ar 31 Gorffennaf2024 8,136 2,589 10,725
     
    Dibrisiad
    Ar 1 Awst 2023 4,233 1,892 6,125
    Cost ar gyfer y flwyddyn 214 248 462
    Dilëwyd wrth waredu  - (16) (16)
    Ar 31 Gorffennaf 2024 4,446 2,125 6,571
    Gwerth llyfr net ar 31 Gorffennaf 2024 3,690 464 4,154
    Gwerth llyfr net ar 31 Gorffennaf 2023 3,903 395 4,298
  •  

    2024

    £000

    2023

    £000

    Symiau sy’n ddyledus o fewn blwyddyn:
    Symiau masnach derbyniadwy  22 1
    Symiau dyledus oherwydd ymrwymiadau grŵp:  - -
    Blaendaliadau ac incwm cronnus  29 142
    Cyfanswm 51 143

    Mae unrhyw symiau sy’n ddyledus gan ymgymeriad grŵp yn ad-daladwy ar gais ac yn ddi-log.

  •  

    2024

    £000

    2023

    £000

    Symiau masnach taladwy 75 131
    Trethi eraill a nawdd cymdeithasol  73 115
    Croniadau ac incwm gohiriedig 294 299
    Incwm gohiriedig – grantiau cyfalaf y llywodraeth  208 221
    Cyfanswm 650 766
  •  

    2024

    £000

    2023

    £000

    Incwm gohiriedig – Grantiau cyfalaf y llywodraeth 1,626 1,822
  •  

    Pensiynau Uwch

    £000

    Ar 1 Awst 2023  250
    Gwariant yn ystod y flwyddyn (26)
    Trosglwyddwyd o’r cyfrif incwm a gwariant 16
    Ar 31 Gorffennaf 2024 240

    Mae’r ddarpariaeth pensiwn uwch yn ymwneud â chost staff sydd eisoes wedi gadael cyflogaeth y Coleg ac ymrwymiadau ar gyfer costau ad-drefnu na all y Coleg dynnu’n ôl yn rhesymol oddi wrthynt ar ddyddiad y fantolen.    Ail-gyfrifwyd y ddarpariaeth hon yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan y cyrff ariannu.

    Dyma’r prif ragdybiaethau ar gyfer y cyfrifiad hwn:

      2024 2023
    Pris chwyddiant 5.0% 5.0%
    Cyfradd disgownt 2.8% 2.8%
  •  

    Ar 1Awst

    £000

    Ar 31 Gorffennaf

    £000

    Arian parod  1,882 1,650
  • Roedd gan y Coleg leiafswm o daliadau prydles fel prydlesi gweithredu na ellid eu canslo ar 31 Gorffennaf fel a ganlyn: 

     

    2024

    £000

    2023

    £000

    Lleiafswm taliadau prydles sy’n ddyledus i’r dyfodol
    Ar wahân i dir ac adeiladau 
    Ddim yn hwyrach na blwyddyn  16 15
    Yn hwyrach na blwyddyn ond ddim yn hwyrach na phum mlynedd   7 6
      23 21
  • Mae gweithwyr cyflogedig y Coleg yn perthyn i ddau brif gynllun buddion ôl-gyflogaeth:  Cynllun Pensiwn Athrawon Cymru a Lloegr (CPA) ar gyfer staff academaidd a staff cysylltiedig; a Chynllun Pensiwn Dyfed (CPLlL) ar gyfer staff sydd ddim yn dysgu, sy’n cael ei reoli gan Mercer Limited.      Mae’r ddau’n gynlluniau aml-gyflogwr budd diffiniedig. 

    Cyfanswm costau pensiwn ar gyfer y flwyddyn   

    2024

    £000

     

    2023

    £000

    Cynllun Pensiwn Athrawon: cyfraniadau a dalwyd    499   476
    Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol:        
    Cyfraniadau a dalwyd  229   227  
    Cost FRS 102 (28) (146)   124  
    Cost i’r Datganiad Incwm Cynhwysfawr   83   351
    Cost pensiwn uwch i’r Datganiad Incwm Cynhwysfawr    16   (40)
    Cyfanswm Costau Pensiwn ar gyfer y Flwyddyn    598   787

    Cafodd y costau pensiwn eu hasesu yn unol â chyngor actiwarïaid annibynnol cymwys.  Cafodd prisiad actiwaraidd ffurfiol diweddaraf y CPA ei gynnal ar 31 Mawrth 2020 a’r CPLlL ar 31 Mawrth 2022.

    Roedd cyfraniadau o £60,000 (2023: £71,000) yn daladwy i’r cynllun CPA a £Dim (2023: £Dim) yn daladwy i’r cynllun CPLlL ar ddiwedd y flwyddyn ac fe’i cynhwyswyd fel credydwyr.

    CPA (Cynllun Pensiwn Athrawon)

    Mae’r Cynllun Pensiwn Athrawon (CPA) yn gynllun budd statudol, cyfrannol, diffiniedig, sy’n cael ei reoli gan  Reoliadau Cynllun Pensiwn Athrawon 2014.   Mae’r rheoliadau yma’n berthnasol i athrawon mewn ysgolion a sefydliadau addysgol eraill.  Mae aelodaeth yn awtomatig yn achos athrawon a darlithwyr mewn sefydliadau cymwys. Gall athrawon a darlithwyr ddewis i optio allan o’r CPA. 

    Cynllun sydd heb ei ariannu yw’r CPA, ac mae aelodau yn cyfrannu ar sail ‘talu-wrth-fynd’ - caiff y cyfraniadau hyn, ynghyd â’r cyfraniadau hynny a wnaed gan gyflogwyr, eu credydu i’r Trysorlys yn unol â threfniadau a reolir gan y Ddeddf uchod Telir buddion ymddeoliad a buddion pensiwn eraill gan gronfeydd cyhoeddus a ddarperir gan y Senedd.

    Yn unol â’r diffiniadau a nodwyd yn FRS 102 (28.11), cynllun pensiwn aml-gyflogwr yw’r CPA. Ni all y coleg adnabod ei gyfran o asedau a rhwymedigaethau sylfaenol y cynllun.   

    Yn unol â hynny, mae’r coleg wedi manteisio ar eithriad mewn FRS 102 ac wedi cyfrif am ei gyfraniadau i’r cynllun fel petai’n gynllun cyfraniadau diffiniedig.    Mae’r coleg wedi cyflwyno’r wybodaeth uchod sydd ar gael am y cynllun a’r oblygiadau i’r coleg yn nhermau cyfraddau cyfraniadau rhagdybiedig.  

    Cynhelir prisiad y CPA yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus 2013.  Prisiadau sy’n credydu cyfrif pensiwn athrawon â chyfradd enillion go iawn gan dybio bod cyllid yn cael ei fuddsoddi mewn buddsoddiadau tybiannol sy’n creu’r gyfradd enillion go iawn honno.

    Cynhaliwyd adolygiad actiwaraidd diweddaraf y CPA ar 31 Mawrth 2020.  Cyhoeddwyd yr adroddiad prisio gan yr Adran Addysg (yr Adran) ym mis Hydref 2023.  Nododd y prisiad gyfanswm rhwymedigaethau cynllun (pensiynau sy’n cael eu talu ar hyn o bryd a chost amcangyfrifedig buddion yn y dyfodol) ar gyfer gwasanaeth ar y dyddiad dod i rym o £262 biliwn, ac asedau tybiannol (cyfraniadau amcangyfrifedig yn y dyfodol ynghyd â’r buddsoddiadau tybiannol a ddelir ar ddyddiad y prisiad) o £222 biliwn sy’n rhoi diffyg gwasanaeth blaenorol tybiannol o £40 biliwn (o gymharu â £22 biliwn ym mhrisiad 2016).

    O ganlyniad i’r prisiad, bydd cyfraddau cyfraniadau cyflogwyr newydd yn codi i 28.68% o fis Ebrill 2024 (o gymharu â 23.68% yn ystod 2022/23).

    Mae copi llawn o’r adroddiad prisio a’r dogfennau ategol i’w gweld ar wefan Cynllun Pensiwn Athrawon. 

    Talwyd gwerth £499,000 (2023: £476,000) o gostau pensiwn i’r CPA yn ystod y flwyddyn
     

    Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 

    Cynllun budd diffiniedig wedi’i ariannu yw CPLlL, gydag asedau’n cael eu cadw mewn cronfeydd ar wahân a’u gweinyddu gan Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin. Cyfanswm y cyfraniadau a wnaed ar gyfer diwedd y flwyddyn 31 Gorffennaf 2024 oedd £298,000, gyda chyfraniadau’r cyflogwr yn dod i gyfanswm o £230,000 a chyfraniadau’r gweithwyr cyflogedig yn dod i gyfanswm o £68,000.

    Cynhaliwyd y prisiad actiwaraidd llawn olaf ar 31 Mawrth 2022 pan oedd gwerth marchnad asedau’r cynllun yn £3,243 miliwn. Cynrychiolai gwerth actiwaraidd yr asedau 113 % o rwymedigaethau cronedig y gronfa wedi caniatáu am gynnydd mewn enillion i’r dyfodol. Mae hyn yn gyfwerth â gwarged o £372m.

    Yr amcan cyllido fel y nodwyd gan yr FSS yw cyflawni a chynnal lefel gyllido solfedd o 100 % o rwymedigaethau. Yn unol â’r FSS, lle bo diffyg ariannol yn bodoli ar ddiwrnod gweithredu’r prisiad, bydd cynllun adfer diffyg ariannol yn cael ei roi ar waith sy’n gofyn am gyfraniadau ychwanegol i unioni’r diffyg ariannol. Mae’r cyfarwyddwyr wedi asesu na all y Cwmni adennill y gwarged naill ai drwy lai o gyfraniadau yn y dyfodol neu drwy ad-daliadau o’r cynllun, ac o’r herwydd, mae terfyn uchaf yr asedau wedi’i gymhwyso gan leihau’r gwarged i DIM. Ar y prisiad hwn, y cyfnod adfer cyfartalog ar gyfer cyflogwyr sydd â diffyg ariannol yw 9 mlynedd ac ar gyfer cyflogwyr sydd â gwarged, 14 mlynedd (yn amodol ar y byffer gwarged).

    Y gyfradd cyfraniadau y cytunwyd arni ar gyfer y Coleg yn dechrau ar 1 Ebrill 2024 yw 20.2% (2023: 19.7%), a thaliad misol sefydlog o £0 (2023 : £0 y flwyddyn).  Cynhelir prisiad nesaf y cynllun ar 31ain Mawrth 2025 gyda chyfraddau cyfraniadau newydd yn berthnasol o Ebrill 2026.

    Mae’r Trefniad Bandiau Cyfraniadau ar gyfer PRIF Adran y Cynllun ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024 fel a ganlyn:

    Cyflog Pensiynadwy Gwirioneddol    Cyfradd Cyfrannu i’r BRIF Adran  

    Up to £17,600 5.50%
    £17,601 - £27,600 5.80%
    £27,601 - £44,900 6.50%
    £44,901 - £56,800 6.80%
    £56,801 - £79,700 8.50%
    £79,701 - £112,900 9.90%
    £112,901 - £133,100 10.50%
    £133,101 - £199,700 11.40%
    £199,701 and more 12.50%
    Prif Ragdybiaethau Actiwaraidd

    Seilir y wybodaeth ganlynol ar brisiad actiwaraidd llawn o’r gronfa ar 31 Mawrth 2022 a’i ddiweddaru ar gyfer 31 Gorffennaf 2024 gan actwari annibynnol cymwys.

      2024 2023
    Cyfradd cynnydd mewn cyflogau  4.10% 4.20%
    Cynnydd mewn pensiynau i’r dyfodol  2.70% 2.80%
    Cyfraddau disgownt ar gyfer rhwymedigaethau i’r cynllun 4.90% 5.10%
    Rhagdybiaethau chwyddiant (CPI) 2.60% 2.70%
    Rhagdybiaethau Marwolaeth ôl-ymddeol

    Dechrau’r cyfnod:

    • Aelodau sydd heb ymddeol SAPS3 CMI 22 (1.50%) (105% dynion, 97% menywod)
    • Aelodau wedi ymddeol SAPS3 CMI 22 (1.50%) (102% dynion, 97% menywod)

    Diwedd y cyfnod:

    • Aelodau sydd heb ymddeol SAPS3 CMI 23 (1.50%) (103% dynion, 97% menywod)
    • Aelodau wedi ymddeol SAPS3 CMI 23 (1.50%) (100% dynion, 97% menywod)

    Mae’r rhagdybiaethau marwoldeb cyfredol yn cynnwys lwfans digonol ar gyfer gwelliannau i’r gyfradd farwoldeb i’r dyfodol. Dyma’r disgwyliadau oes tybiedig o ymddeol yn 65 oed: 

     

    2024

    blynyddoedd

    2023

    blynyddoedd

    Ymddeol heddiw
    Dynion 21.40 21.40
    Menywod  23.80 23.70
    Yn ymddeol mewn 20 mlynedd  
    Dynion 22.80 22.80
    Menywod  25.60 25.50

    Dyma gyfran y Coleg o’r asedau yn y cynllun a’r cyfraddau enillion disgwyliedig:

      Cyfradd enillion tymor hir disgwyliedig ar 31 Gorffennaf 2024 Gwerth Teg ar 31 Gorffennaf 2024 Cyfradd enillion tymor hir disgwyliedig ar 31 Gorffennaf 2023 Gwerth Teg ar 31 Gorffennaf 2023
        £’000   £’000
    Ecwiti 73.20% 10,173 73.10% 9,428
    Bondiau’r Llywodraeth  0.00% 0 0.20% 26
    Bondiau Eraill 9.30% 1,293 8.50% 1,096
    Adeiladau 10.80% 1,501 13.20% 1,703
    Arian Parod/Arall 6.70% 931 5.00% 645
    Cyfanswm gwerth marchnad yr asedau    13,898   12,898
    Gwir enillion ar asedau’r cynllun    1,206   192

    Mesurwyd y symiau canlynol ar 31 Gorffennaf 2024, 31 Gorffennaf 2023 yn unol â gofynion FRS 102 (sylwch fod IAS 19 wedi’i ddefnyddio i gyfrifo gwerth gwarged pensiynau i’w gydnabod ar y fantolen a ddaeth i’r casgliad y dylai’r gwarged fod yn gyfyngedig i DIM – gweler polisi CPLlL o dan polisïau ar dudalen 33 i gael rhagor o fanylion):

     

    2024

    £000

    2023

    £000

    Gwerth teg asedau’r cynllun  13,898 12,898
    Gwerth cyfredol rhwymedigaethau wedi’u hariannu (10,931) (10,552)
     
    Gwarged/(Diffyg) yn y cynllun 2,967 2,346
    Effaith terfyn uchaf asedau  (2,967) (2,346)
    Ased/(rhwymedigaeth) pensiwn cydnabyddedig             - -
    Gwerth Presennol rhwymedigaeth heb ei hariannu 21 21
    Rhwymedigaeth pensiwn cydnabyddedig 21 21

    Mae’r symiau a gafodd eu cydnabod yn y Datganiad Incwm Cynhwysfawr o safbwynt y cynllun fel a ganlyn:

     

    2024

    £000

    2023

    £000

    Symiau a gynhwyswyd yng nghostau staff 
    Costau gwasanaethau cyfredol  (204) (324)
    Ffi gweinyddu (5) (5)
    Costau cwtogiad  - -
    Costau gweithredol (209) (329)

    Symiau a gafodd eu cynnwys yn y llog a chyllid arall 

    Llog net 125 (25)
    Symiau a gafodd eu cydnabod yn yr Incwm Cynhwysfawr Arall 
    Enillion ar asedau cynllun pensiwn   653 429
    Newidiadau yn y rhagdybiaethau sy’n sylfaenol i werth cyfredol rhwymedigaethau’r cynllun  (199) 2,865
    Effaith terfyn uchaf (600) -
    Y swm a gydnabyddir yn yr Incwm Cynhwysfawr Arall/(cost) (146) 3,294

    Yn y flwyddyn flaenorol cafodd effaith terfyn uchaf yr ased o £2,346,000 ar ased pensiwn CPLlL ei gydnabod yn uniongyrchol mewn ecwiti. Dylai hyn fod wedi cael ei gydnabod o fewn incwm cynhwysfawr  arall.  Gan nad yw’r Cyfarwyddwyr yn ystyried yr effaith ar ddatganiadau ariannol y cyfnod blaenorol yn sylweddol, nid yw’r cymariaethau wedi’u hailddatgan ar gyfer y mater hwn.  Ni chafodd y mater hwn unrhyw effaith ar y diffyg a adroddwyd yn flaenorol am y flwyddyn na chyfanswm yr asedau net.

    Symudiad mewn budd diffiniedig net (rhwymedigaeth)/ased yn ystod y flwyddyn
     

    2024

    £000

    2023

    £000

    (diffyg)/gwarged yn y cynllun ar 1 Awst 2,346 (824)
    Symudiad yn ystod y flwyddyn:    
    Cost gwasanaeth cyfredol  (204) (324)
    Cyfraniadau cyflogwr   230 230
    Elw net ar y (rhwymedigaeth)/ased diffiniedig   125 (25)
    Ffi gweinyddu/costau cwtogiad  (5) (5)
    Ennill(colled) actiwaraidd  454 3,294
    Effaith terfyn uchaf asedau (2,946) (2,346)
     
    Pensiwn budd diffiniedig net (rhwymedigaeth)/ased ar 31 Gorffennaf - -
    Cysoniad Asedau a Rhwymedigaethau
     

    2024

    £000

    2023

    £000

    Newidiadau yng ngwerth cyfredol ymrwymiadau budd diffiniedig 
    Rhwymedigaethau budd diffiniedig ar ddechrau’r flwyddyn  10,552 13,106
    Cost gwasanaeth cyfredol  204 324
    Cost llog 528 454
    Cyfraniadau gan gyfranogwyr y Cynllun  68 69
    Newidiadau mewn rhagdybiaethau ariannol  174 (3,317)
    Newidiadau mewn rhagdybiaethau demograffig (27) (461)
    Profiad (ennill)/colled (48) 751
    Amcangyfrif o’r buddion a dalwyd  (499) (374)
    Cost Gwasanaeth yn y gorffennol  - -
    Rhwymedigaethau budd diffiniedig ar ddiwedd y flwyddyn  10,952 10,552
    Cysoniad asedau 
     

    2024

    £000

    2023

    £000

    Gwerth teg asedau’r cynllun ar ddechrau’r flwyddyn  12,898 1,282
    Llog ar asedau’r cynllun  653 429
    Enillion ar asedau’r cynllun  553 267
    Cyfraniadau cyflogwr  230 230
    Ffi Gweinyddu (5) (5)
    Cyfraniadau gan gyfranogwyr y Cynllun  68 69
    Amcangyfrif o’r buddion a dalwyd  (499) (374)
    Asedau ar ddiwedd y flwyddyn  13,898 12,898
    Gwerth cydnabyddedig asedau’r cynllun  13,898 12,898
    Cysoniad terfyn uchaf asedau 
      £’000
    EffecEffaith y terfyn uchaf - dechrau’r cyfnod (2,367)
    P& L: Llog Net    121
    OCI: Ailfesur ennill/(colled) 479
    Effaith y terfyn uchaf - diwedd y cyfnod (2,967)
    Dadansoddiad Sensitifrwydd
    Eitem datgelu Canolog Sensitifrwydd 1 Sensitifrwydd 2 Sensitifrwydd 3 Sensitifrwydd 4 Sensitifrwydd 4  
        + 0.5 % y flwyddyn disgownt +0.25 % y flwyddyn chwyddiant +0.25 % y flwyddyn twf mewn cyflog Cynnydd 1 flwyddyn mewn disgwyliad oes

    +/-1% newid yn adenillion buddsoddi 2023/24: 

    + 1%

    -1%
      £000 £000 £000 £000 £000 £000 £000
    Rhwymedigaethau 10,952 10,129 11,388 11,011 11,205 10,952 10,952
    Asedau (13,898) (13,898) (13,898) (13,898) (13,898) (14,036) (13,760)
    Diffyg/(Gwarged) ac eithrio effaith terfyn uchaf (2,946) (3,769) (2,510) (2,887) (2,693) (3,084) (2,808)
    Cost gwasanaeth rhagamcanol ar gyfer blwyddyn nesaf 209 183 223 209 214 209 209
    Cost llog net rhagamcanol ar gyfer y flwyddyn nesaf - ac eithrio effaith terfyn uchaf (150) (210) (129) (147) (137) (157) (143)

    “Mae’r fethodoleg ar gyfer cyfrifo’r gyfradd ddisgownt wedi newid o gromlin arenillion mewnol Mercer i Gromlin Arenillion Mercer AA (gyda set ddata estynedig). Cadarnhaodd Mercer yn eu cyngor rhagdybiaethau y byddai’r gyfradd ddisgownt wedi bod 0.1% yn uwch o dan y fethodoleg flaenorol. Yn seiliedig ar y sensitifrwydd a ddatgelwyd ar gyfer y gyfradd ddisgownt, mae’r newid yn y fethodoleg yn cynyddu’r DBO tua £185k.”

    Ar 25 Gorffennaf 2024, gwrthododd y Llys Apêl yr ​​apêl yn achos Virgin Media Limited yn erbyn NTL Pension Trustees II Limited ac eraill. Cyflwynwyd yr apêl gan Virgin Media Ltd yn erbyn agweddau ar ddyfarniad yr Uchel Lys a gyflwynwyd ym mis Mehefin 2023 yn ymwneud â dilysrwydd rhai newidiadau hanesyddol i bensiynau oherwydd y diffyg cadarnhad actiwaraidd sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith.  Cadarnhaodd y Llys Apêl ddyfarniad yr Uchel Lys. Efallai y bydd gan y dyfarniad oblygiadau i gynlluniau buddion diffiniedig eraill y DU. Deellir y gall hyn fod yn gymwys neu beidio i’r CPLlL ac mae Trysorlys EF ar hyn o bryd yn asesu’r goblygiadau i bob cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus.  Nid oes unrhyw wybodaeth bellach ar gael ar hyn o bryd.”

  • Yn sgil natur gweithrediadau’r Coleg a chyfansoddiad y bwrdd llywodraethol sy’n seiliedig ar aelodaeth o blith y cyhoedd yn lleol a sefydliadau sector preifat, mae’n anorfod y bydd trafodion yn digwydd gyda sefydliadau y mae aelod o’r bwrdd llywodraethol yn ymwneud â nhw. Cynhelir unrhyw drafodion sy’n gysylltiedig â sefydliadau o’r fath o hyd braich yn unol â rheoliadau ariannol y Coleg a gweithdrefnau caffael arferol. 

    Cyfanswm y costau a dalwyd i neu ar ran y Llywodraethwyr yn ystod y flwyddyn oedd £Dim; 4 llywodraethwr (2023: £Dim; 4 llywodraethwr).Mae’r swm yma’n cynnwys costau teithio a chynhaliaeth a chostau amrywiol eraill yn sgil mynychu cyfarfodydd Llywodraethwyr ac achlysuron elusennol yn eu rôl swyddogol. 

    Nid oes un o’r Llywodraethwyr wedi derbyn unrhyw enillion nac wedi hepgor taliadau gan y Coleg nac unrhyw un o’i is-gwmnïau yn ystod y flwyddyn (2023: Dim).

    Ymgymerwyd â’r trafodion canlynol yn ystod y flwyddyn a dyma hefyd y balansau a ddelir gyda phartïon cysylltiedig ar ddiwedd y flwyddyn: 

    Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant – Rhiant 

    • Derbyniadwy £Dim (2023 £Dim) 
    • Taladwy £Dim (2023 £Dim) 
    • Cyfanswm Incwm ar gyfer y flwyddyn £60 (2023 £Dim) 
    • Cyfanswm Pryniannau ar gyfer y flwyddyn £Dim (2023 £Dim)

    Coleg Sir Gâr - Aelod o’r Grŵp

    • Derbyniadwy £Dim (2023 £Dim) 
    • Taladwy £Dim (2023 £Dim) 
    • Cyfanswm Incwm ar gyfer y flwyddyn £28,870  (2023 £13,669) 
    • Cyfanswm Pryniannau ar gyfer y flwyddyn £Dim  (2023 £Dim)

    Gwasanaethau Fforwm Cyf  

    •  Cyfanswm Incwm ar gyfer y flwyddyn £23,505 (2023 £29,600) 
    •  Cyfanswm pryniannau yn ystod y flwyddyn £Dim (2023 £Dim)

    Note: Transactions for group companies are for services rendered during the year

  • Y GRONFA ARIANNOL WRTH GEFN 

     

    2024

    £’000

    2023

    £’000

    Balans - cario ymlaen  10 22
    Grant a Dderbyniwyd  94 115
      104 137
    Talwyd i fyfyrwyr    (101) (124)
    Costau gweinyddu  (3) (3)
    Balans heb ei wario hyd at 31 Gorffennaf, yn cynnwys credydwyr  0 10

    Mae grantiau cyrff ariannu ar gael i fyfyrwyr yn unig.  Yn y mwyafrif o achosion, mae’r Coleg yn gweithredu fel asiant talu yn unig.  O dan y fath amgylchiadau, caiff y grantiau a’r taliadau cysylltiedig eu heithrio felly o’r Datganiad Incwm Cynhwysfawr.

  • Prifysgol Cymru:Y Drindod Dewi Sant, Corfforaeth Addysg Uwch yw’r ymrwymiad rhiant eithaf a’r corff rheolaethol. Mae canlyniadau’r Cwmni wedi eu hymgorffori yn natganiadau ariannol cyfunol Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, sy’n ffurfio’r grŵp mwyaf a lleiaf o safbwynt cyfuno datganiadau’r Cwmni, ac mae modd cael copïau o’r cyfeiriad isod: 

    Prifysgol Cymru: 

    • Y Drindod Dewi Sant. 
    • Campws Caerfyrddin
    • Caerfyrddin
    • SA31 3EP