Skip page header and navigation

Introduction

Yn bresennol:
  • Mrs Maria Stedman (Cadeirydd)

  • Mr John Edge (Is-gadeirydd)

  • Dr Andrew Cornish (Pennaeth)

  • Ms Erica Cassin [ar-lein]

  • Mr Delwyn Jones

  • Mr Alan Smith

  • Mr Ben Francis [cyrhaeddodd am 16:12]

  • Ms Jacqui Kedward

  • Mr John Williams (Staff CC)

  • Mr Eifion Griffiths (Enwebai PCYDDS)

  • Dr Peter Spring (Enwebai PCYDDS) [ar-lein]

  • Mr Mike Theodoulou

  • Ms Tracy Senchal

  • Miss Jenna Loweth (Cynrychiolydd Myfyrwyr - Llywydd Myfyrwyr 2023/2024)

  • Mr Louis Dare (Staff CSG)

Rheolwyr y Coleg:
  • Mrs Amanda Daniels (Is-bennaeth Cwricwlwm, Sgiliau ac Ansawdd)

  • Mrs Vanessa Cashmore, (Is-bennaeth Cynllunio, Dysgwyr a Chyfathrebu)

  • Mr Ralph Priller (Prif Swyddog Gweithredu)

  • Mrs Julia Green (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Profiad Dysgwyr) [ar-lein]

Yn gwasanaethu:
  • Mr Damion Gee (Ysgrifennydd y Cwmni a Chlerc i’r Bwrdd)

  • Mrs Catrin Llwyd (Cyfieithydd)

Gwesteion:
  • Yr Athro Elwen Evans KC (Is-Ganghellor, PCYDDS)

  • Ms Rebecca Doswell, (Dirprwy Ysgrifennydd y Brifysgol / Clerc y Cyngor, PCYDDS)

Cadarnhaodd y Clerc fod cworwm yn y cyfarfod. Cychwynnodd y cyfarfod am 16:00.

 

 

Eitem agenda 

Prif bwyntiau trafod

Cam gweithredu/penderfyniad

1

Llywodraethu’r Cyfarfod

   
 

23/24/1.1

Ymddiheuriadau am absenoldeb a datganiadau o fuddiannau

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:

  • Mrs Abigail Salini
  • Mr Huw Davies

Ni dderbyniwyd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant pellach yn ychwanegol at y rheiny oedd eisoes gan y Clerc.

 
 

23/24/1.2

Cymeradwyo cofnodion CYFYNGEDIG ac ANGHYFYNGEDIG y cyfarfod diwethaf: 

5ed Hydref 2023

CADARNHAODD y Bwrdd gofnodion CYFYNGEDIG ac ANGHYFYNGEDIG cyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ddydd Iau 5ed Hydref 2023 fel cofnod cywir.

 
 

23/24/1.3

Cofnodion cyfarfod Bwrdd Coleg Ceredigion: 5ed Hydref 2023

(Er gwybodaeth yn unig)

Gwnaeth y Bwrdd DDERBYN a NODI cofnodion cyfarfod Bwrdd Coleg Ceredigion a gynhaliwyd ddydd Iau 5ed Hydref 2023.

 
 

23/24/1.4

Materion sy’n codi a phwyntiau gweithredu nas cwmpaswyd mewn mannau eraill ar yr agenda

  • Cynllun Gweithredu Treigl Bwrdd CSG

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o’r cofnodion.

Nododd y Pwyllgor fod yr holl gamau gweithredu o fewn y raddfa amser berthnasol wedi’u cyflawni.

 

2

Materion i Drafod a / neu Gymeradwyo



 
 
 

23/25/2.1

Perfformiad Ariannol 22/23 a Chymeradwyo Datganiadau Ariannol

 

  • Taflen Flaen - trosolwg
  • Trosolwg o berfformiad 22/23
  • Datganiadau Ariannol Coleg Sir Gâr - i’w cymeradwyo 
  • Datganiadau Ariannol Coleg Ceredigion - i’w cymeradwyo
  • Llythyr Cynrychiolaeth Coleg Sir Gâr - i’w gymeradwyo
  • Llythyr Cynrychiolaeth Coleg Ceredigion - i’w gymeradwyo

DERBYNIODD a CHYMERADWYODD y Bwrdd Berfformiad Ariannol a Datganiadau (2022/23) ar gyfer Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion.  NODWYD:

  • Canlyniad gweddol dda ar gyfer y flwyddyn; yn arbennig o ystyried bod y coleg wedi ymgymryd ag ymarfer ailstrwythuro i ailfantoli’r cyfrifon ar gyfer 23/24. 
  • Grŵp AB - Gwarged ar gyfer y flwyddyn o £1,776k yn erbyn gwarged a ragwelwyd o £868k.
  • Ar gyfer Coleg Sir Gâr - Gwarged o £1,284k yn erbyn gwarged a ragwelwyd o £640k - gwelliant o £644k.
  • Ar gyfer Coleg Ceredigion - Gwarged o £492k yn erbyn gwarged a ragwelwyd o £228k - gwelliant o £264k.
  • Roedd y prif ffrydiau incwm ar gyfer y Grŵp AB yn cynnwys:
    • Incwm AB (£30,008m)
    • Dysgu Seiliedig ar Waith (£4,219m)
    • Addysg Uwch (£3,898m)
    • Masnachol (£165k)
  • Dadansoddiad o’r arian parod ar gyfer y Grŵp AB:
    • Cyflawnwyd £506k, o gymharu â rhagolwg o -£4,009m.
    • Cyflawnwyd balans arian parod terfynol o £19,915m, o gymharu â rhagolwg o £15,400m.
    • Y sefyllfa arian parod go iawn yw £17,091m ar ôl adfachu cyllid grant ychwanegol.
  • Roedd y fantolen yn dangos bod y sefyllfa bensiwn ar gyfer y ddau Goleg wedi symud o ecwiti net negyddol i gadarnhaol wedi’i ysgogi gan enillion enfawr ym mhrisiad y cynllun pensiwn.  Drwy ymgynghori ag archwilwyr a PCYDDS ni fydd yr ased yn cael ei gydnabod, a bydd yr enillion pensiwn yn cael eu capio ar ddim.
  • Mesur hylifedd cadarnhaol iawn i’r Grŵp AB yn 2.4 (CSG 2.4 a CC 2.7).
  • Bydd derbyn mwy o ddysgwyr AB yn 2023/2024 yn cael effaith gadarnhaol ar gyllid AB er na fydd hyn yn cael ei brofi yn y flwyddyn gyfredol oherwydd y model ariannu sy’n gweithio ar gylch tair blynedd.

[Mr Ben Francis yn cyrraedd - 16:12] 

  • Cyflwynwyd dadansoddiad manwl a oedd yn sail i’r cyfrifon i’r Pwyllgor Adnoddau, Gwytnwch a Phartneriaethau a buont yn craffu arno ac roeddent yn ystyried bod y cyfrifon yn gadarnhaol iawn. 

Holwyd cwestiwn ynghylch a oedd datganiad yn cadarnhau sefyllfa’r Colegau fel busnesau gweithredol wedi’i gynnwys yn y datganiad cyfrifon.  NODWYD bod datganiad yn tynnu sylw at y ffaith bod y Colegau yn fusnesau gweithredol wedi’i gynnwys yn y datganiad cyfrifon ac adroddiad yr archwilwyr allanol.

  • Diolchwyd i Mr Ralph Priller a’i dîm am eu rheolaaeth ariannol a’r cyflwyniad manwl o’r cyfrifon.

CYMERADWYODD y Bwrdd y Datganiadau Ariannol a’r Llythyrau Cynrychiolaeth ar gyfer Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion hefyd. CYTUNODD y Cadeirydd i lofnodi’r cyfrifon ar gyfer cyfnod ariannol 2022/23.

 
 

22/25/2.2

Archwiliad 22/23 

  • Taflen Flaen - trosolwg
  • Adroddiad Archwiliad Allanol KPMG (Gwybodaeth a chefnogaeth Datganiadau Ariannol)
  • Adroddiad Blynyddol Archwiliad Mewnol Mazars a barn 

I gefnogi’r Datganiadau Ariannol, DERBYNIODD ac YSTYRIODD y Bwrdd 

Adroddiad yr Archwilydd Allanol 2022/23. NODWYD bod y Datganiadau Ariannol yn amodol ar archwiliad allanol a bod yr adroddiad a gyflwynwyd yn cadarnhau canlyniadau’r archwiliad.  Adroddiad archwilio cadarnhaol ac ni nodwyd unrhyw broblemau arwyddocaol.

DERBYNIODD ac YSTYRIODD y Bwrdd Adroddiad Blynyddol yr Archwiliad Mewnol ar gyfer 2022/23. NODWYD:

  • Mae swyddogaeth yr Archwiliad Mewnol yn fesur rheoli ariannol hollbwysig ac annibynnol o fewn y sefydliad, ac mae’n canolbwyntio ar feysydd allweddol fel y’u pennir gan y cynllun/strategaeth archwilio.
  • Roedd yr adroddiad blynyddol yn crynhoi’r gweithgareddau ar gyfer y flwyddyn ac yn rhoi barn ynghylch a oedd gan y sefydliad fesurau rheoli a llywodraethiant effeithiol ar waith yn ystod y flwyddyn.
  • Roedd yr adroddiad yn gadarnhaol ac ni nodwyd unrhyw faterion o bwys.
  • Cyflwynwyd dadansoddiad manwl a oedd yn sail i’r archwiliadau i’r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg a buont yn craffu arno ac roeddent yn fodlon â’r canlyniadau. 


 
 

23/25/2.3

Cyflogadwyedd ac Entrepreneuriaeth - Trafodaeth/Syniadau/Adborth

  • Adroddiad Effaith Byddwch yn Uchelgeisiol
  • Gwobrau Beacon

DERBYNIODD a THRAFODODD y Bwrdd Adroddiad Effaith Rhaglen Byddwch yn Uchelgeisiol y Coleg a fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.  NODWYD:

  • Byddwch yn Uchelgeisiol yw rhaglen entrepreneuraidd a chyflogadwyedd y Coleg.
  • Roedd yr Adran Weithredol yn dymuno casglu adborth gan aelodau’r Bwrdd ynghylch sut y gellid datblygu’r rhaglen Byddwch yn Uchelgeisiol a syniadau a barn aelodau’r Bwrdd ynghylch y sgiliau cyflogadwyedd a fyddai’n ddymunol yn eu meysydd arbenigedd hwy.
  • Gofynnwyd dau gwestiwn i aelodau’r Bwrdd eu trafod a rhoi adborth arnynt yn ystod y cyfarfod:
  • Yn eich barn chi, beth yw’r sgiliau allweddol sydd eu hangen ar bobl ifanc i lwyddo yn y byd gwaith?  Defnyddiwch eich profiad a’ch gwybodaeth.
  • Nodwch unrhyw fylchau y gallwch eu gweld yn y rhaglen Byddwch yn Uchelgeisiol. Allwch chi awgrymu unrhyw welliannau neu ddatblygiadau.
  • Cafwyd trafodaeth fer yn dilyn y sesiwn adborth hon oedd yn cwmpasu pwyntiau amrywiol a fyddai’n cael eu hystyried gyda’r wybodaeth a gyflwynwyd a’u defnyddio i ddatblygu’r rhaglen Bod yn Uchelgeisiol ymhellach.
  • Mae dysgwyr yn cael eu cefnogi mewn amrywiol ffyrdd i sefydlu eu busnesau eu hunain a’r llynedd sefydlwyd 34 o fusnesau cofrestredig o dan y rhaglen.
  • O fewn y rhaglen Byddwch yn Uchelgeisiol, cymerir rhan ymarferol yn  Rhaglen World Skills er mwyn datblygu sgiliau galwedigaethol o’r radd flaenaf.

Holwyd cwestiwn ynghylch a yw’r rhaglen Byddwch yn Uchelgeisiol yn canolbwyntio ar y myfyrwyr o fewn y Coleg neu a yw’n ymestyn y tu hwnt i fyfyrwyr y dyfodol.  NODWYD bod cyllid y rhaglen hon ar gyfer rhyngweithio gyda myfyrwyr presennol y Coleg.  Defnyddir straeon llwyddiant o’r rhaglen gyda llysgenhadon sydd wedi bod yn llwyddiannus o garfanau blaenorol y Rhaglen yn siarad â myfyrwyr presennol ac yn eu helpu.

  • Roedd y Bwrdd yn falch iawn o glywed bod y Rhaglen Byddwch yn Uchelgeisiol wedi cyrraedd rhestr fer rownd derfynol Gwobrau Cenedlaethol Beacon (Gwobr Rhagoriaeth mewn Gyrfaoedd a Menter y Cwmni Gyrfaoedd a Menter) gyda’r seremoni wobrwyo ym mis Chwefror 2024.
 
 

23/25/2.4

Diweddariad Byr ar y Gyllideb - syniadau presennol

DERBYNIODD y Bwrdd ddiweddariad ar y gyllideb ariannol ar gyfer 2023/24.   NODWYD:

  • Ychydig iawn o newid i’r gyllideb ers yr adroddwyd arni i’r Bwrdd yn ei gyfarfod diwethaf, a chyfarfodydd dilynol y Pwyllgorau RR&P ac A&RM.
  • Y targed oedd cyrraedd gwarged o £50k ar gyfer 2023/24 ar gyfer y Grŵp AB.
  • Y senario waethaf fyddai -£700k a allai olygu gostyngiad o hyd at £1m mewn arian parod.   Caiff hyn ei wrthbwyso gan y Coleg yn dod i mewn i’r flwyddyn mewn sefyllfa gref gyda sefyllfa arian parod o £1.7m yn uwch na’r hyn a gyllidebwyd ar ei gyfer.   Dros gyfnod o ddwy flynedd yn dilyn y senario waethaf yn 2023/24, byddai’r ffigwr arian parod yn dal i fod yn uwch na’r hyn a ragwelwyd ar ddechrau 2021/2022.
  • Mae gwaith yn dal i gael ei wneud ar nifer o ffactorau gan gynnwys dysgu seiliedig ar waith sy’n ffactor sylweddol yn y gyllideb lle mae gostyngiad o £600k wedi’i ragdybio ar hyn o bryd. 
  • Roedd y gyllideb a gyflwynwyd ar ‘lefel uchel’ ac yn rhoi arwydd o’r hyn a all ymddangos yn yr RF1 a fydd yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor RR&P ym mis Chwefror 2024.
  • Mae gwybodaeth ddiweddar yn nodi na fydd unrhyw newid pellach gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24.
  • Mewn perthynas â 2024/25, nid yw’r ffigurau yn ymwneud â chyllid yn hysbys eto hyd nes bydd y gyllideb ddrafft wedi’i chwblhau gan Lywodraeth Cymru y’i disgwylir yn yr wythnos sy’n cychwyn 19eg Rhagfyr 2023.  
  • Mae arwyddion yn awgrymu y bydd yn gyfnod heriol yn ariannol i’r sector AB yng Nghymru.
 
 

23/25/2.5

Diweddariad MIM

Diweddariad RAAC

Gwaredu tir - Pibwrlwyd

DERBYNIODD a THRAFODODD y Bwrdd ddiweddariad ar y MIM.  NODWYD:

  • Cytunwyd ar y cyd rhwng PCYDDS a Choleg Sir Gâr bod yr adeiladu arfaethedig ar gampws Ffynnon Job bellach wedi’i newid o safle PCYDDS i’r safle ym Mhibwrlwyd h.y. y cyfan ar un safle.    Mae’r dull hwn yn rhoi’r model ariannol mwyaf effeithlon i’r coleg sef:
  • Mae’n anochel y bydd cost yr adeiladu yn llai gan arwain at ostyngiad yn y tâl blynyddol - gallai gostyngiad mewn costau arolygon yn unig ddod i gyfanswm o £200k.
  • Mae isadeiledd ystâd y coleg i bob pwrpas yn lleihau o ddau gampws yn hytrach nag un sy’n caniatáu ar gyfer llawer mwy o arbedion o ran costau rhedeg gweithredol.
  • Cyflwynwyd y papur “amrywiad” i’r SOC i Lywodraeth Cymru a chafodd ei adolygu ganddi.  Yn anffodus, roedd y tîm adolygu MIM a’r ymgynghorwyr yn teimlo, o ystyried y newid, y maent yn tybio ei fod yn sylweddol, bod angen i’r coleg gyflwyno SOC newydd a bydd yn disodli’r cynnig presennol.  Mae hyn er mwyn darparu trywydd archwilio sy’n cynnig gwahanu rhwng y timau dan sylw.
  • Dechrau mis Chwefror 2024 yw’r dyddiad arfaethedig ar gyfer cyflwyno’r SOC diwygiedig.

Holwyd cwestiwn ynghylch a oes unrhyw risg i’r cyfle a’r cyllid ar gyfer y prosiect hwn gydag ailgyflwyno’r SOC.  NODWYD bod yr arian wedi’i sicrhau a bod y Coleg wedi derbyn gwybodaeth na fyddai’r cyllid mewn perygl. Mae ar gau ar gyfer unrhyw geisiadau am brosiectau pellach.

Holwyd cwestiwn ynghylch a oes angen i’r Bwrdd gymeradwyo’r SOC diwygiedig ac a oedd hyn yn debygol o achosi oedi.  NODWYD nad yw’r SOC manwl wedi’i gymeradwyo gan y Bwrdd hyd yn hyn ond bod yr egwyddor o fwrw ymlaen â’r broses MIM wedi’i phasio.    Mae opsiynau gan y Coleg o hyd i dynnu ei hun yn ôl o’r prosiect o fewn ffrâm amser cam un. 

DERBYNIODD y Bwrdd ddiweddariad ynglŷn â’r sefyllfa gyda RAAC o fewn y Coleg.  NODWYD:

  • Yn dilyn arolygon, cadarnhawyd nad oes gan Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion unrhyw RAAC o fewn yr adeiladau.
  • Rhoddwyd gwybod i Lywodraeth Cymru am hyn.
  • Bydd y risg hon sy’n gysylltiedig â RAAC nawr yn cael ei thynnu oddi ar y Gofrestr Risg.

DERBYNIODD a THRAFODODD y Bwrdd ddiweddariad ar y sefyllfa o ran gwaredu tir ar Gampws Pibwrlwyd.  NODWYD:

  • Mae pedwar datganiad o ddiddordeb cryf wedi dod i law ar hyn o bryd.
  • Roedd y Coleg wedi derbyn cefnogaeth ragorol gan gydweithwyr o fewn PCYDDS, yn enwedig Emyr Jones.  Diolchodd y Bwrdd i Is-Ganghellor PCYDDS a gofynnwyd iddi ddiolch i’r unigolion perthnasol.
  • Nododd y Bwrdd fod Cadeirydd CSG wedi diolch i PCYDDS yng nghyfarfod eu Pwyllgor Ystadau yn gynharach y diwrnod hwnnw am y cyngor a’r cymorth a gafwyd.
 
 

23/25/2.6

Codiad Cyflog 23/24

DERBYNIODD y Bwrdd ddiweddariad o ran y sefyllfa gyda chodiad cyflog 2023/2024.  NODWYD:

  • Roedd y Bwrdd wedi delio â’r penderfyniad hwn dros negeseuon e-bost.   Proseswyd y penderfyniad drwy’r cyfrwng hwn er mwyn sicrhau bod unrhyw benderfyniad ynghylch codiad cyflog, os cytunwyd arno, yn gallu cael ei brosesu a’i roi ar waith ym mis Rhagfyr, gan roi gwybod i staff am hyn cyn y Nadolig
  • Roedd y penderfyniad yn CYMERADWYO codiad cyflog o 5% wedi’i ôl-ddyddio i 1af Awst 2023.
  • Fel cyflogwr sy’n cefnogi gweithredu’r cyflog byw, bydd y cynnydd diweddaraf yn swm y cyflog byw (gwnaed cyhoeddiad ym mis Hydref 2023) yn cael ei fabwysiadu gan y Coleg a’i ôl-ddyddio i 1af Awst 2023.
  • Dywedwyd wrth staff am hyn ac mae wedi cael ei groesawu.
 
 

23/25/2.7

Adroddiad y Pennaeth

DERBYNIODD y Bwrdd adroddiad y Pennaeth. 

Adolygiad o Addysg Ôl-16 yng Ngheredigion:

  • Yn dilyn cyfarfod llwyddiannus gyda Chydweithwyr yn yr adran addysg yng Ngheredigion, mae’r broses o rannu gwybodaeth am gofrestriadau a dyblygu ar draws y Sir wedi dechrau.  Bwriedir cynnal cyfarfod arall ym mis Ionawr 2024.
  • Yn fewnol, mae gan y Coleg Grŵp Gorchwyl a Gorffen bach sy’n edrych ar strategaeth Twf / Cyfathrebu, gan edrych yn benodol ar Geredigion. Mae ymgysylltu â chyflogwyr yn uchel ar y rhestr flaenoriaethau.
  • David Price sy’n bennaeth bellach ar y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol (RLSP) yng Ngheredigion.
  • Mae’r Pennaeth i fod i gwrdd cyn hir â’r Cyfarwyddwr Addysg i drafod ADY, Dysgu Oedolion yn y Gymuned a Chludiant.

 

Ymweliad Cymru Fyd-eang â Baden Württemberg yn yr Almaen

  • Arweiniodd y Pennaeth ymweliad gan gynrychiolwyr AB ac AU o Gymru.
  • Mae Llywodraeth Cymru a Cymru Fyd-eang wedi nodi Baden-Wurttemberg fel gwladwriaeth â blaenoriaeth yn yr Almaen i ddatblygu cysylltiadau mewn addysg bellach ac uwch.
  • Prif amcanion yr ymweliad:
  • ymgysylltu â budd-ddeiliaid allweddol yn rhanbarth B-W.
  • archwilio meysydd ar gyfer cydweithio posibl yn y maes modurol rhwng sefydliadau addysg yng Nghymru a B-W.
  • ennill dealltwriaeth o’r diwydiant modurol yn Baden-Wurttemberg a’r cydweithredu rhwng addysg uwch ac addysg bellach a diwydiant yn y rhanbarth.
  • ennill dealltwriaeth o’r hyfforddiant a’r prentisiaethau sydd ar gael yn y diwydiant modurol yn B-W er mwyn llywio gweithgarwch yng Nghymru.
  • ennill dealltwriaeth o sut mae darparwyr galwedigaethol yn gweithio gyda’r gadwyn gyflenwi.
  • ennill dealltwriaeth o sut mae darparwyr a chyflenwyr yn cysylltu â sgiliau gwyrdd mewn gweithgynhyrchu ac yn bodloni gofynion carbon sero net.
  • Tynnodd y Pennaeth sylw at y ffordd yr oedd addysg, diwydiant a’r llywodraeth ranbarthol i gyd yn gweithio’n gydlynol i ddatblygu’r economi yn Baden Württemberg.  Caiff hyn ei weinyddu a’i ddatblygu trwy gwmni ambarél sy’n cwmpasu’r tri seilwaith.
  • Roedd llythyr wedi’i anfon at Weinidog yr Economi yn dilyn yr ymweliad a disgwylir ymateb.
  • Nodwyd bod strwythur system ysgolion uwchradd yr Almaen gydag arbenigedd mewn pynciau academaidd, peirianegol neu alwedigaethol yn effeithiol wrth helpu myfyrwyr i ddilyn eu cyrchnodau gyrfa a helpu i ysgogi’r economi.  

Cynhadledd Colegau Cymru

  • Daeth y gynhadledd â budd-ddeiliaid allweddol, addysgwyr ac arweinwyr diwydiant o bob rhan o Gymru a thu hwnt ynghyd i ddangos gwerth addysg bellach.  
  • Edrychodd y gynhadledd i’r dyfodol, gan archwilio cylch gwaith cynlluniau Llywodraeth Cymru i edrych o’r newydd ar y ffordd mae addysg ôl-16 yn cael ei rheoli a’i chyflwyno yng Nghymru, yn unol â’i gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Cymru gryfach, decach a gwyrddach. 
  • Prif Anerchiad - Gweinidog y Gymraeg ac Addysg - Jeremy Miles AS.  

Cystadleuaeth World Skills

  • Cynhaliwyd Rowndiau Terfynol Cenedlaethol y DU ym Manceinion a Milton Keynes ym mis Tachwedd 2023. Mae’n bleser gan Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion rannu’r enillwyr canlynol yn y DU :

Osian James 

Aur

Gwaith Saer

Steffan Thomas

Aur

Gwaith Asiedydd

Ella Clements

Arian

Gwasanaethau Bwyty

Menna Isaac ac

Amelia Whittal-Williams

Efydd

Technegydd Cyfrifyddu 

Katy Law

Efydd

Gwasanaethau Bwyty

Emily Keane

Canmoliaeth Uchel

Gwasanaethau Bwyty

  • Tynnodd y Pennaeth sylw at ymdrech ac ymroddiad staff y Coleg wrth gefnogi dysgwyr i gyrraedd y safonau o’r radd flaenaf hyn mewn hyfforddiant galwedigaethol a sgiliau technegol.
  • Y gobaith oedd y byddai rhai o’r enillwyr yn cael eu dewis i gynrychioli Tîm Prydain Fawr yng nghystadlaethau World Skills a gynhelir yn Léon ym mis Medi 2024.
  • Nododd y Bwrdd fod Delme Harries Collins, er nad oedd wedi ennill medal yn y gystadleuaeth datblygu gwefannau, wedi’i ddewis ar gyfer carfan y DU.

Pen-cogydd Ifanc Gorau yng Nghymru a’r Byd

  • Enwyd Sam Everton, darlithydd arlwyo Coleg Ceredigion, yn ‘Ben-cogydd Ifanc Gorau’ Cymru yng nghystadleuaeth Young Chef Young Waiter y Byd 2023 yn Abertawe.
  • Bu Sam, sydd hefyd yn ben-cogydd rhan-amser ym mwyty Y Seler yn Aberaeron, yn cystadlu yn erbyn pen-cogyddion eraill o ledled Cymru yn y rownd ranbarthol.
  • Nod cystadleuaeth Young Chef Young Waiter y Byd, a sefydlwyd ym 1979, yw hyrwyddo gyrfaoedd ym maes lletygarwch, ac mae’n agored i bob pen-cogydd a gweinydd proffesiynol o dan 28 oed sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.
  • O ganlyniad i lwyddiant Sam, aeth i’r Ffeinal Fawr ym Monaco, gyda’i gydweithwraig Carys Webster (y Grove yn Arberth), lle gyda’i gilydd daethant  yn 3ydd yn y Byd, gyda Sam yn ennill statws pen-cogydd gorau ymhlith yr holl gystadleuwyr.
  • Unwaith y bydd lluniau swyddogol wedi’u rhyddhau, bydd y Coleg yn hyrwyddo llwyddiant Sam.

Ar ran y Bwrdd, byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu llythyr llongyfarch i enillwyr World Skills a Sam Everton.

Llythyr Gwahoddiad Tîm Jwdo Addasol Prydain Fawr

  • Mae Jimmy Staveley, sy’n fyfyriwr yn y Coleg ac yn chwaraewr jwdo addasol llwyddiannus, wedi cael gwahoddiad i ymuno â Thîm Jwdo Addasol Prydain Fawr i gymryd rhan yn Japan ym mis Ebrill 2024.
  • Mae’n rhaid i Jimmy godi £2500 i ymgymryd â’r daith ac mae wedi dod at y Coleg yn gofyn a fyddai’r Coleg yn fodlon helpu tuag at y daith neu gyda’r cit.
  • Bydd y Coleg yn helpu Jimmy gyda rhywfaint o’r cit ond penderfyniad y Bwrdd yw os y gellir cynnig unrhyw fwrsariaeth ariannol.

Gofynnwyd a oedd unrhyw gynsail wedi’i osod yn y gorffennol ynghylch myfyrwyr yn gofyn am nawdd neu fwrsariaeth ariannol.  NODWYD bod myfyrwyr yn cael eu hannog i gysylltu â’r Bwrdd dim ond os yw’r Coleg yn teimlo efallai bod unigolyn yn dod o gefndir difreintiedig ac ni fyddai’n gallu cyflawni ei gyrchnod heb gymorth gan y Coleg.    Mae angen sicrhau gofyniad i ddilyn arfer gyffredin a meini prawf i alluogi ymdrin â phob cais yn gyfartal ac yn deg.   O ran ceisiadau’n ymwneud â chwaraeon, byddai angen i’r myfyriwr fod ar lefel ryngwladol.

Holwyd cwestiwn ynghylch a oedd gan y Coleg arian a ellid ei ddefnyddio ar gyfer y mathau hyn o geisiadau yn ymwneud â nawdd a bwrsariaethau.   NODWYD bod gan y Coleg arian ar gael y gellid ei roi tuag at y mathau hyn o geisiadau. 

Holwyd cwestiwn ynghylch a fyddai logo’r Coleg yn cael ei arddangos ar git cystadlu petaent yn cael eu noddi neu’n cael eu cynorthwyo gyda bwrsariaeth.  NODWYD y byddai’r logo yn cael ei arddangos ar git cystadlu ac mae’n arferol i gystadleuwyr arddangos logos eu noddwyr.

Holwyd cwestiwn ynghylch a oedd y myfyriwr wedi cael cymorth neu gyngor gan ffynonellau ariannu eraill megis arian cyfatebol neu arian tyrfa.  NODWYD nad oedd hyn yn hysbys ond byddai’n cael ei drafod gyda’r myfyriwr.

CYMERADWYODD y Bwrdd mewn egwyddor i gefnogi Jimmy Staveley gyda manylion ffurfiol ar ddyrannu nawdd a bwrsariaethau i’w cadarnhau.   Byddai hyn yn cael ei roi gerbron cyfarfod nesaf y Bwrdd neu, yn dibynnu ar raddfeydd amser o ran y cais hwn, efallai y gofynnir yn gynt am benderfyniad trwy e-bost.  

  • Byddai’r Pennaeth a’r Clerc yn gweithio ar fanylion y meini prawf ac arfer gyffredin mewn perthynas â rhoi nawdd a bwrsariaethau. 

Gwobrau Brin Isaac

  • Nododd y Bwrdd mai cyn-fyfyrwyr Coleg Sir Gâr oedd y ddau brif enillydd yn y Gwobrau Brin Isaac diweddar gydag Emma Finucane yn ennill Tlws Brin Isaac ac Amy Cole yn ennill Cwpan Walter Hughes.  Mae’r ddwy yn bencampwyr byd mewn beicio trac ar hyn o bryd ac yn glod iddyn nhw eu hunain, Cymru a’r Coleg.

Cam Gweithredu: Cadeirydd i ysgrifennu llythyr llongyfarch i enillwyr World Skills a Sam Everton.

Cam Gweithredu: Y Pennaeth a’r Clerc i weithio ar fanylion y meini prawf ac arfer gyffredin mewn perthynas â rhoi nawdd a bwrsariaethau i fyfyrwyr. 

 

23/25/2.8

Adroddiad Is-ganghellor PCYDDS

DERBYNIODD y Bwrdd ddiweddariad llafar gan Is-ganghellor PCYDDS. NODWYD:

  • Mae’r Is-ganghellor yn mwynhau gweithio gyda’r Pennaeth a Thîm CSG yn fawr iawn ac yn gweld y berthynas rhwng y sefydliadau yn un arwyddocaol.
  • Mae PCYDDS wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda CSG i ddatblygu ffordd ymlaen yn enwedig gyda chwestiynau ynghylch CTER a sut y bydd hyn yn effeithio ar y sefydliadau.   Dull o gydweithredu â’r Coleg er mwyn gwneud y mwyaf o gyfleoedd sydd wrth wraidd y berthynas.
  • Mae rhai newidiadau strwythurol wedi’u rhoi ar waith yn PCYDDS gyda phenodi COO newydd yn ddiweddar.
 

3

Materion i’w Cymeradwyo*

   
 

23/26/3.1

Datganiad Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl Blynyddol 2022/23

DERBYNIODD ac YSTYRIODD y Bwrdd y Datganiad Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl Blynyddol (2022/2023).  

CYMERADWYODD y Bwrdd y datganiad, gan awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi’r datganiad ar ran Bwrdd CSG.

 
 

23/26/3.2

Adroddiad Llywodraethu Blynyddol 2022/23

DERBYNIODD a CHYMERADWYODD y Bwrdd yr Adroddiad Llywodraethu Blynyddol 2022/23. 

 
 

23/26/3.3

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg 2022/2023

DERBYNIODD a CHYMERADWYODD y Bwrdd Adroddiad Blynyddol y  Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg i’r Bwrdd 2022/23.

 
 

23/26/3.4

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Dysgwyr a Safonau i’r Bwrdd 2022/2023

DERBYNIODD a CHYMERADWYODD y Bwrdd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Dysgwyr a Safonau i’r Bwrdd 2022/23.

 
 

23/26/3.5

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Adnoddau, Gwytnwch a Phartneriaethau i’r Bwrdd 2022/2023

DERBYNIODD a CHYMERADWYODD y Bwrdd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Adnoddau, Gwytnwch a Phartneriaethau i’r Bwrdd 2022/2023.

 
 

23/26/3.6

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu i’r Bwrdd 2022/2023.

DERBYNIODD a CHYMERADWYODD y Bwrdd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu i’r Bwrdd 2022/23.

 
 

23/26/3.7

Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Taliadau

DERBYNIODD a CHYMERADWYODD y Bwrdd Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Taliadau.

 
 

23/26/3.8

Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu

DERBYNIODD a CHYMERADWYODD y Bwrdd Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu.

 
 

23/26/3.9

Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg

DERBYNIODD a CHYMERADWYODD y Bwrdd Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg 

 
 

23/26/3.10

Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Adnoddau, Gwytnwch a Phartneriaethau 

DERBYNIODD a CHYMERADWYODD y Bwrdd Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Adnoddau, Gwytnwch a Phartneriaethau.

 

4

Materion er Gwybodaeth**

   
 

23/27/4.1

Trosolwg byr: prif risgiau ar hyn o bryd - eitem barhaus: fel y trafodwyd ac a adolygwyd yng nghyfarfodydd yr A&RMC (er y prif risgiau yn unig)

DERBYNIODD y Bwrdd er GWYBODAETH ddadansoddiad ac olrhain y risgiau parhaus presennol gan nodi bod pob un wedi’i raddio’n ganolig.

 
 

23/27/4.2

Cadeirydd y Bwrdd - Diweddariad yn dilyn cyflwyno ar gyfer cydsynio gan Gyngor PCYDDS.

DERBYNIODD a NODODD y Bwrdd ohebiaeth oddi wrth PCYDDS fod caniatâd wedi’i roi gan yr Aelod yng Nghyfarfod Cyngor PCYDDS ddydd Iau 23ain Tachwedd 2023 i benodi John Edge yn Gadeirydd Coleg Sir Gâr o 1af Ionawr 2024.   Fel Cadeirydd Coleg Sir Gâr, bydd John Edge hefyd yn dod yn Gadeirydd Coleg Ceredigion.

Cadarnhaodd PCYDDS hefyd, gyda John Edge yn dod yn Gadeirydd, ei fod hefyd wedi’i gymeradwyo fel aelod annibynnol o Gyngor PCYDDS.

Diolchodd y Bwrdd i John Edge am gymryd swydd y Cadeirydd mewn cyfnod y disgwylir iddo fod yn gyfnod o drawsnewid pwysig iawn i’r Coleg dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

 

 
 

23/27/4.3

Swydd Wag Is Gadeirydd 

NODODD y Bwrdd, o’r 1af Ionawr 2024 fod yr Is Gadeirydd presennol yn ymgymryd â rôl Cadeirydd y Bwrdd.  Rhoddodd hyn gyfle i ystyried y swydd wag a fydd yn rôl allweddol yn natblygiad strategol y Bwrdd a’r Coleg.

 

Gwahoddwyd aelodau’r Bwrdd sydd â diddordeb i gysylltu â’r Cadeirydd neu’r Clerc i drafod ymhellach.

 
 

23/27/4.4

Lleoliad ar gyfer Cyfarfod y Bwrdd ar 7fed Mawrth 2024

 

NODODD y Bwrdd fod galluoedd hybrid addas bellach ar gael er mwyn caniatáu i’r rheiny sy’n mynychu cyfarfodydd y Bwrdd ar-lein gymryd rhan yn effeithiol.  Cynhelir Cyfarfod nesaf y Bwrdd felly ddydd Iau 7fed Mawrth 2024  yn Adeilad IQ (PCYDDS) yn SA1.   Diolchwyd i Rebecca Doswell o PCYDDS am drefnu hyn.  Bydd hyn yn cynnig cyfle i’r Bwrdd brofi cyfleuster SA1 a chael ymdeimlad o’r  hyn y gallai’r datblygiad MIM ei gynnig i ddysgwyr gan gynnwys tynnu sylw at feysydd cydweithio rhwng PCYDDS a’r Coleg.

Cam Gweithredu: Clerc i nodi’r llywodraethwyr hynny sy’n dymuno cael tro o gwmpas SA1 cyn cyfarfod y Bwrdd ym mis Mawrth.

 

23/27/4.5

Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Dysgwyr a Safonau a gynhaliwyd ar 26 Hydref 2023 

DERBYNIODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Dysgwyr a Safonau a gynhaliwyd ar 26ain Hydref 2023.

 
 

23/27/4.6

Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Adnoddau, Gwytnwch a Phartneriaethau a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2023  

DERBYNIODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor yn dilyn  cyfarfod y Pwyllgor Adnoddau, Gwytnwch a Phartneriaethau a gynhaliwyd ar  9fed Tachwedd 2023. 

 
 

23/27/4.7

Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2023

DERBYNIODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg a gynhaliwyd ar 21ain Tachwedd 2023.

 
 

23/27/4.8

Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 23ain Tachwedd 2023

DERBYNIODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 23ain Tachwedd 2023.

 
 

23/27/4.9

Canlyniadau UK Skills Tachwedd 23

DERBYNIODD y Bwrdd er GWYBODAETH y canlyniadau sgiliau ar gyfer Cystadleuaeth World Skills.   NODWYD bod Coleg Sir Gâr/Coleg Ceredigion yn yr ail safle yn y tabl pwyntiau medalau ar gyfer Cymru, ychydig y tu ôl i Goleg Sir Benfro.  Roedd hwn yn ganlyniad da iawn i sefydliadau Gorllewin Cymru.

 

5

Unrhyw Fater Arall

   
 

23/28/5.1

Safle Google y Llywodraethwyr

Atgoffwyd y Bwrdd i roi gwybod i’r Clerc os oedd ganddynt unrhyw broblemau o ran cael mynediad i safle google y Llywodraethwyr.

 
 

23/28/5.2

Ymddeoliad y Cadeirydd

Diolchodd y Bwrdd yn ddiffuant i Maria Stedman am ei gwaith, ei hymroddiad a’i harweiniad fel Cadeirydd dros yr wyth mlynedd ddiwethaf a chyflwynwyd arwyddion o ddiolchgarwch i Maria.

 

6

Datganiadau o Fuddiant

   
 

23/29/6.1

I gadarnhau unrhyw wrthdaro buddiannau a all fod wedi codi yn ystod y cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant pellach yn ystod y cyfarfod.

 

7

Dyddiad y cyfarfod nesaf



 
 
 

23/30/7.1

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Dydd Iau 7fed Mawrth 2024 yn Adeilad IQ (PCYDDS) yn SA1 i gychwyn am 16:00.

 

Daeth y cyfarfod i ben am: 18:06.