|
Eitem agenda
|
Prif bwyntiau trafod
|
Cam gweithredu/penderfyniad
|
0
|
Materion a Gedwir yn Ôl
|
|
|
|
24/00/0.1
Cymeradwyo Abigail Salini fel Is-gadeirydd
|
DERBYNIODD a CHYMERADWYODD y Bwrdd yr argymhelliad gan y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu y dylid penodi Abigail Salini yn Is-gadeirydd y Bwrdd Llywodraethwyr.
|
Cam Gweithredu: Clerc i ddiweddaru gwybodaeth ar gyfer yr Is-gadeirydd.
|
1
|
Llywodraethu’r Cyfarfod
|
|
|
|
24/01/1.1
Ymddiheuriadau am absenoldeb a datganiadau o fuddiannau
|
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:
- Mr Delwyn Jones
- Mr Ben Francis
- Mr John Williams (Staff CC)
- Mr Mike Theodoulou
- Ms Tracy Senchal
- Ms Jenna Loweth (Myfyrwraig)
- Mrs Vanessa Cashmore, (Is-bennaeth Cynllunio, Dysgwyr a Chyfathrebu)
- Mr Emlyn Dole (Cadeirydd Cyngor PCYDDS)
Ni dderbyniwyd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant pellach yn ychwanegol at y rheiny oedd eisoes gan Glerc y Bwrdd.
|
|
|
24/01/1.2
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod
diwethaf: 7fed Rhagfyr 2023
|
CADARNHAODD y Bwrdd gofnodion ANGHYFYNGEDIG cyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ddydd Iau 7fed Rhagfyr 2023 fel cofnod cywir.
|
|
|
24/01/1.3
Materion sy’n codi a phwyntiau gweithredu nas cwmpaswyd mewn mannau eraill ar yr agenda.
- Cynllun Gweithredu Treigl Bwrdd CSG
|
Doedd dim unrhyw faterion yn codi.
Nododd y Pwyllgor fod yr holl gamau gweithredu o fewn y raddfa amser berthnasol wedi’u cyflawni.
|
|
|
23/01/1.4
Cofnodion cyfarfod Bwrdd Coleg Ceredigion: 7fed Rhagfyr 2023
(Er gwybodaeth yn unig)
|
DERBYNIODD a NODODD y Bwrdd gofnodion cyfarfod Bwrdd Coleg Ceredigion a gynhaliwyd ddydd Iau 7fed Rhagfyr 2023.
|
|
2
|
Materion i Drafod a / neu Gymeradwyo
|
|
|
|
24/02/2.1
Adroddiad y Pennaeth
- (i) Adroddiad y 4Gwlad
- (ii) Blaenoriaethau CTER
- (iii) Blaenoriaethau CTER – Colegau Cymru
- (iv) Blwyddyn Ysgol
- (v) Blwyddyn Ysgol – Ymateb Colegau Cymru
- (vi) Adborth Byddwch yn Uchelgeisiol
- (vii) Datganiad i’r Wasg gan Adam Price AS - Cau Coleg Rhydaman
- (i) Datganiad i’r Wasg
- (ii) Llythyr at Weinidog y Gymraeg ac Addysg
- (iii) Ymateb y Gweinidog
- (iv) Dadansoddeg Fewnol
|
DERBYNIODD y Bwrdd adroddiad y Pennaeth. NODWYD:
Datblygiadau Strategol:
- Mae adroddiad wedi’i gyhoeddi sy’n cymharu polisïau, cyfranogiad ac anghydraddoldebau ar draws tirweddau addysg a hyfforddiant ôl-16 y DU.
- Gwelwyd lefel uchel iawn o gorddi polisïau o fewn Addysg a Hyfforddiant y DU ac mae hyn wedi bod yn niweidiol.
- Mae polisïau addysg a hyfforddiant ar draws y pedair gwlad wedi ymwahanu’n sylweddol a chynyddol, yn enwedig ers datganoli yn 1999.
- Caiff llai o brentisiaethau eu dilyn gan bobl ifanc yng Nghymru a Lloegr nag yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
- Cymru sydd â’r gyfran uchaf o ddisgyblion ‘Nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant’ (NEET).
- Mae pobl ifanc yn fwy tebygol o lawer i fynychu ysgolion yn hytrach na cholegau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
- Mae cyfranogiad mewn Addysg Uwch ymhlith myfyrwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is ar ei uchaf yn Lloegr. Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban bu cyfran gynyddol o gofrestriadau addysg uwch gan fyfyrwyr o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig.
- Ar draws y pedair gwlad, mae merched sy’n gadael yr ysgol yn fwy tebygol o symud ymlaen i Addysg Uwch.
- Mae’r adroddiad yn argymell bod:
- Angen camau gweithredu mwy gweithredol a brys yng Nghymru.
- Mae angen i bolisïau ganolbwyntio mwy ar anghydraddoldebau.
- Mae angen setliad polisïau sefydlog newydd.
- Dylai data ac ystadegau fod yn well, yn fwy cymaradwy ac yn canolbwyntio mwy ar anghydraddoldebau.
- Datganiad Blaenoriaethau CTER.
- Mae hwn yn garreg filltir fawr wrth sefydlu’r sefydliad newydd ac mae’n gam arall tuag at ddull newydd o ymdrin ag addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Nawr bod y comisiwn wedi llunio’r mandad hwn, mae’n rhoi syniad i ni ynglŷn â sut rydym yn siapio ein cynllun strategol wrth symud ymlaen.
- Blaenoriaethau Strategol:
- Datblygu system drydyddol sy’n paratoi dysgwyr ar gyfer economi ddeinamig sy’n newid lle gall pawb ennill y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd a gwaith.
- Cynnal a gwella ansawdd y system drydyddol, parhau a chryfhau gwaith ar ehangu cyfranogiad a chymryd camau i sicrhau system decach a rhagorol i bawb.
- Rhoi’r dysgwr wrth wraidd y system drwy ganolbwyntio ar brofiad dysgwyr yn y system drydyddol a’u lles.
- Sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil fel sefydliad hynod effeithiol sy’n darparu sefydlogrwydd ac arweiniad yn ystod y cyfnod hwn o drawsnewid.
- Newidiadau yn y flwyddyn ysgol.
- Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig newidiadau i’r flwyddyn ysgol gyda gwahanol opsiynau’n cael eu hamlygu.
- Trafodwyd yn fyr yr effaith ar ddyddiadau arholiadau a chanlyniadau TGAU/Safon Uwch, rhieni ac athrawon.
- Datblygu Campws Newydd - Cynllun Cyfathrebu
- Mae cynllun cyfathrebu wedi’i ddatblygu i redeg ochr yn ochr â datblygiad ein campws newydd wrth iddo agosáu at gael ei gymeradwyo. Bydd yn parhau dros y pedair blynedd nesaf.
- Mae cysylltu â Budd-ddeiliaid a Dylanwadwyr Allweddol wedi bod yn flaenoriaeth.
- Cysylltu â Budd-ddeiliaid a Dylanwadwyr Allweddol
- Anerchiadau gan y Pennaeth ar draws y sefydliad cyfan. - Roedd yr anerchiad hwn yn cwmpasu Datblygiad Strategol yr Ystad, gan gynnwys yr adeilad newydd ar safle Caerfyrddin a chau campysau eraill er mwyn cyflawni hyn. Cyflwynwyd yr anerchiad wyneb yn wyneb yn Rhydaman, Ffynnon Job a Phibwrlwyd. Ffrydiwyd ar-lein ar gyfer yr holl staff eraill.
- Tynnwyd sylw staff a budd-ddeiliaid at y gwelliant ym mhrofiad y dysgwr, y sefyllfa ariannol a chynaladwyedd.
- Cyfarfodydd wyneb yn wyneb ag Aelodau’r Senedd
- Adam Price AS (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
- Cefin Campbell AS (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
- Samuel Kurtz AS (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
- Cyfarfodydd gyda’r AALl
- Prif Weithredwr – Wendy Walters
- Cyfarwyddwr Addysg – Gareth Morgans
- Arweinydd y Cyngor – Darren Campbell
- Cynghorwyr Lleol - o Wardiau o gwmpas Rhydaman
- Prifathrawon Pob Ysgol Uwchradd yn Sir Gaerfyrddin
- Cyfarfod gyda Llywodraeth Cymru, Colegau Cymru a Swyddogion WEPCo
- Rhian Edwards – Dirprwy Gyfarwyddwr Addysg Bellach a Phrentisiaethau
- Matt Curtis - Pennaeth Buddsoddi a Datblygu Seilwaith - Cymunedau Dysgu Cynaliadwy
- David Hagendyk – Prif Swyddog Gweithredol Colegau Cymru
- Mae Adam Price AS wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg ac roedd yr ohebiaeth a’r ymateb ar gael i’r Bwrdd eu gweld. Mae deiseb i atal y cau yn Rhydaman sydd ag oddeutu 800 o lofnodion hefyd wedi ei sefydlu gan Adam Price.
- Tynnodd yr Is-Ganghellor sylw at y ffaith fod PCYDDS a CSG yn sefydliadau addysgol a’u bod yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn gynaliadwy yn ariannol ac yn cynnig y cyfleoedd addysgol gorau i bobl. Tynnodd yr Is-Ganghellor sylw at yr ymgynghori â budd-ddeiliaid gwych roedd y Prif Swyddog Gweithredol wedi’i gyflawni nad oedd yn orfodol ond a wnaed yn barchus ac yn sensitif i’r sefyllfa.
- Mae myfyrwyr Campws Rhydaman yn teithio o bob cwr o Sir Gaerfyrddin ac mae cyfran fach o fyfyrwyr yn dod o Rydaman a Dyffryn Aman gyda’r Coleg yn cefnogi Sir Gaerfyrddin gyfan.
- Efallai bod rhywfaint o’r aflonyddwch wedi deillio o gamddehongli, a CHYTUNWYD y byddai’r Is-Ganghellor, y Prif Swyddog Gweithredol a Chadeiryddion PCYDDS a CSG yn cwrdd ag Adam Price AS i drafod y datblygiad hwn.
- Gwobr Beacon - Rownd Derfynol (Cymeradwyaeth Uchel)
- Roedd ein Tîm Byddwch yn Uchelgeisiol yn falch iawn o gyrraedd rownd derfynol Gwobr nodedig y DU mewn Gyrfaoedd a Menter.
- Yn dilyn yr adborth gwerthfawr a dderbyniwyd yn ystod cyfarfod diwethaf y llywodraethwyr, cyflwynwyd ymateb cynhwysfawr sy’n amlinellu’r camau a gymerwyd gan y tîm Byddwch yn Uchelgeisiol i ysgogi gwelliant yn y maes gwaith hwn.
|
Cam Gweithredu: Clerc i hwyluso cyfarfod o’r Is-Ganghellor, y Prif Swyddog Gweithredol a’r Cadeiryddion gydag Adam Price.
|
|
24/02/2.2
Perfformiad Ariannol 23/24
- Ailragolwg 1 (ar Gyfnod 4)
|
DERBYNIODD ac YSTYRIODD y Bwrdd yr adroddiad ar berfformiad ariannol ar gyfer 2023/2024. NODWYD:
- Mae’r holl ffigurau yn gostau pensiwn “nad ydynt yn arian parod” cyn FRS 102.
- Nid oes unrhyw newidiadau sylweddol mawr i sefyllfa’r ailragolwg er ei fod wedi mynd ychydig yn anffafriol.
- Ar gyfer y Grŵp AB: Mae’r ailragolwg presennol (a baratowyd ym mis Tachwedd 23 - cyfnod 4) yn dangos gwaethygiad yn erbyn y gyllideb wreiddiol o £(148)k: Diffyg yn yr ailragolwg o £(98)k yn erbyn gwarged o £50k.
- Ar gyfer Coleg Sir Gâr: Mae’r ailragolwg presennol yn dangos gostyngiad o £(148)k, gyda cholled yn cael ei rhagweld o £(101)k yn erbyn gwarged o £47k.
- Ar gyfer Coleg Ceredigion: Nid oes newid ar y cyfan i’r sefyllfa yn y gyllideb: gwarged o £3k.
- Dangosodd dadansoddiad o ragolwg y balansau arian parod fod yr arian parod yn £16,953k yn erbyn rhagolwg o £15,606k - gwelliant o £1,347k. Yn dilyn addasiadau, y gwir newid yn ffigwr yr arian gweithredol yw gwaethygiad o £(140)k
- Mae prif ysgogwyr y ffigurau hyn fel a ganlyn:
- Mae PLA yn dangos sefyllfa ailragolwg o £884k yn erbyn sefyllfa yn y gyllideb o £1,717k – gostyngiad o £(883)k.
- Mae BWBL yn dangos sefyllfa ailragolwg o £4,601k yn erbyn sefyllfa yn y gyllideb o £5,232k – gostyngiad o £(631)k. Mae gwerth y contract yn unol â’r llynedd, sef £5.2m; ond bydd tangyflwyno yn arwain at ostyngiad mewn cyllid.
- Mae cyfraddau llog y banciau yn dal eu tir ar hyn o bryd ac mae sefyllfa ailragolwg o £500k yn erbyn sefyllfa yn y gyllideb o £250k - gwelliant o £250k.
- Mae arian Y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn dangos sefyllfa ailragolwg o £275k yn erbyn sefyllfa yn y gyllideb o £175k - gwelliant o £100k.
- Mae Darpariaeth AU o £229k a Darpariaeth ESF o £219k sy’n cael eu rhyddhau wedi’u hystyried yn yr ailragolwg.
- Mae costau gwaith cynnal a chadw’r ystad yn yr haf yn dangos sefyllfa ailragolwg o £500k yn erbyn sefyllfa yn y gyllideb o £300k - cynnydd o £200k.
- At ei gilydd, collwyd tua £1m o ddau brif ffrwd incwm sydd wedi’i wrthbwyso gan ddarpariaethau a llog.
- Cadarnhawyd bod Cyllid Ôl-groniad Cynnal a Chadw yn £130k a oedd yn is na’r hyn a obeithiwyd ond a fyddai’n helpu i wella sefyllfa’r gyllideb.
Holwyd cwestiwn ynghylch a oedd y codiadau cyflog wedi’u hymgorffori. NODWYD bod yr holl godiadau cyflog wedi’u hymgorffori yn y ffigurau.
CYMERADWYODD y Bwrdd Ailragolwg 1 (ar Gyfnod 4).
|
.
|
|
24/02/2.3
Blwyddyn ariannol 24/25
- (i) Dyraniadau: LlC
- (ii) Adolygiad sefyllfa Lefel Uchel - (y gyllideb i’w chyflwyno yn y cyfarfod nesaf)
|
DERBYNIODD ac YSTYRIODD y Bwrdd y Dyraniadau Addysg Bellach gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2024/2025. NODWYD:
- Incwm rheolaidd AB yw prif ffrwd incwm y coleg sy’n cyfrif am dros 50% o gyfanswm yr incwm ac felly mae’n sbardun mawr i iechyd ariannol y coleg.
- Mae effaith fawr bosibl gan y dyraniad hwn ar gyllideb y coleg ar gyfer 2024/2025.
- Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi gwneud yn dda oherwydd perfformiad cryf o ran recriwtio a defnyddio AB Ran-amser. Mae nifer o golegau’n wynebu toriadau sylweddol.
- Cyfanswm y dyraniad ar gyfer 2024/2025 yw £26,824k. Cyfanswm dyraniad 2022/2023 oedd £25,710k sy’n dangos amrywiad o £1,114k (4.33%). Hwn oedd yr amrywiad canrannol uchaf o’r holl Golegau AU yng Nghymru.
- Yna, mae’n rhaid ystyried y canlynol:
- Mae codiad o 3.5% gan Lywodraeth Cymru wedi’i gynnwys gan gymryd y bydd codiad cyflog o 3.5% yn berthnasol y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn gost o £997k.
- Mae cyllid PLA wedi cael ei gynnwys yng Nghyllid AB ran-amser gan arwain at ostyngiad o £177k.
- Nid yw cyllid pontio wedi’i gynnwys yn ffigurau LlC sy’n ostyngiad o £407k i’r Coleg.
- At ei gilydd, mae hyn yn arwain at ostyngiad o £467k.
- Mae hyn yn ostyngiad mewn incwm. Fodd bynnag, yn ei gyd-destun o’i gymharu â’r sector AB, mae hon yn sefyllfa ddyraniadau gref.
- NODODD y Bwrdd bwysigrwydd y rhaglen ddiswyddiadau roedd y Coleg wedi ymgymryd â hi y llynedd sydd wedi bod o gymorth aruthrol.
DERBYNIODD ac YSTYRIODD y Bwrdd yr adolygiad sefyllfa lefel uchel ar gyfer 2024/2025 cyn y gyllideb. NODWYD:
- Roedd hwn yn edrych ar sefyllfa bosibl y gyllideb ar gyfer 24/25 o ystyried y ffactorau y gwyddys amdanynt a fydd yn cael effaith. Mae senario gwaethaf posibl lefel uchel iawn wedi’i llunio.
- Mae angen gwneud tipyn mwy o waith i gyrraedd sefyllfa bosibl gryfach, fodd bynnag mae’r data yn darparu’r cyfeiriad rydym yn mynd iddo a does dim amheuaeth y bydd 2024/2025 yn heriol.
- Mae posibilrwydd cryf y gallwn fod mewn sefyllfa gyllidebol “negyddol” o tua £(1.1)m ar gyfer y flwyddyn nesaf.
- Y prif sbardunau fydd y gostyngiad o £(500)k yn y setliad AB, gostyngiad o £(275)k yng ngwarged Y Gronfa Ffyniant Gyffredin, gallai DSW ostwng ymhellach o bosibl, gostyngiad amcangyfrifedig o £(500)k.
- Mae’r ffigurau’n awgrymu lleihad yn yr arian o £(720)k a gyda DSW gallai ostwng i sefyllfa o £15,674k.
- Nid yw’r cynnydd o 5% ym mhensiwn athrawon wedi’i gynnwys gyda’r sector AB gan gymryd y bydd hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae gan y Coleg gronfeydd arian parod wrth gefn sylweddol a gellir cynnal y senario gwaethaf posibl am flwyddyn. Fodd bynnag, os yw’r flwyddyn ganlynol yn edrych yn debyg, yna efallai y bydd angen i’r Coleg ystyried cymryd camau.
Holwyd cwestiwn ynghylch a oes unrhyw gronfeydd eraill neu arbedion eraill y gellir eu gwneud. NODWYD nad oes unrhyw gyfleoedd hawdd eraill ar gyfer arbed costau. Mae cludiant myfyrwyr a ddarperir gan y Coleg yn eitem fawr sy’n bwysig i’r ardaloedd y mae’r Coleg yn eu gwasanaethu. Fodd bynnag, dywedwyd wrth y bwrdd fod yr AALl yn Sir Gaerfyrddin yn ystyried nifer o ffyrdd i arbed costau, ac un ohonynt yw cludiant ôl-16. Byddai’r Coleg yn aros i weld sut mae hyn yn datblygu.
|
|
|
24/02/2.4
Datblygiad Tystysgrifau Galwedigaethol Addysg Uwchradd (TAAU/VCSE) mewn addysg cyn-16
|
DERBYNIODD y Bwrdd gyflwyniad ar y newidiadau a datblygiad TAAU mewn Addysg Cyn-16. NODWYD:
- Daeth y Cwricwlwm i Gymru yn orfodol i Flynyddoedd 7 ac 8 o fis Medi 2023.
- Gwnaeth Cymwysterau Cymru 2 benderfyniad allweddol:
- Byddai’r brand TGAU yn cael ei gadw.
- Byddai cyfres o gymwysterau dwyieithog mewn pynciau cysylltiedig â gwaith a fyddai’n cael eu galw’n TAAU (Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd) ar Lefel 1/Lefel 2 a Sylfaen ar Lefel Mynediad/Lefel 1.
- Roedd llinell amser yn dangos y byddai’r rhain yn dechrau cael eu haddysgu ym mis Medi 2027.
- Roedd y Sector AB wedi mynegi nifer o bryderon, y mae Cymwysterau Cymru wedi ymateb i rai ohonynt a dangoswyd hynny i’r Bwrdd.
- Pryder AB: Diffyg adnoddau arbenigol ac athrawon arbenigol mewn ysgolion
Ymateb Cymwysterau Cymru: Byddwn yn gofyn i’r cymwysterau fod yn rhai y gellir eu haddysgu gan athrawon nad ydynt yn arbenigwyr a chydag adnoddau cyfyngedig. Bwriad y cymwysterau yw rhoi cipolwg ar feysydd diwydiant a rhoi’r cyfle ar gyfer rhai gweithgareddau ymarferol er mwyn ennyn diddordeb y dysgwyr hynny y gall fod yn well ganddynt ddysgu ac asesu mwy ymarferol.
- Pryder AB: Addysgu gwael yn atal dysgwyr rhag dilyn cyrsiau galwedigaethol ôl-16
Ymateb Cymwysterau Cymru: Byddwn yn gofyn i gyrff dyfarnu gynhyrchu canllawiau athrawon ac adnoddau ategol, er mwyn cefnogi profiad dysgu cyfoethog. Bydd hyn yn cynnwys sesiynau hyfforddi. Rhoddir cyhoeddusrwydd i’r cymwysterau newydd ymhell ymlaen llaw er mwyn galluogi ysgolion i gynllunio adnoddau. Bydd y manylebau ar gael 12 mis cyn iddynt gael eu haddysgu gyntaf.
- Pryder AB: Anhoffter o’r teitl (cyn-alwedigaethol) a balans y cymwysterau sydd ar gael ar y gwahanol lefelau - gan barhau’r ‘anghyfartaledd’ rhwng cymwysterau academaidd a chymwysterau galwedigaethol.
Ymateb Cymwysterau Cymru: Enw’r cymwysterau newydd fydd TAAU (Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd) ar lefel 1/2 a Sylfaen ar lefel mynediad/lefel 1. Mae Cymwysterau Cymru o’r farn y bydd hyn yn dod â mwy o gydraddoldeb gweladwy â TGAU.
- Mae cydraddoldeb parch rhwng cymwysterau academaidd a chymwysterau galwedigaethol yn frwydr barhaus. Mae gwahaniaeth rhwng nifer y pynciau TGAU a nifer y pynciau TAAU a gynigir:
- Dysgwyr Mwy Abl - 28 TGAU a 13 TAAU.
- Dysgwyr Llai Abl - 8 TGAU a 15 TAAU.
- Pryderon AB: Mae angen cymwysterau mwy o faint mewn rhaglenni 14-16 AB.
Ymateb Cymwysterau Cymru: Byddwn yn parhau i ganiatáu i gyrff dyfarnu wneud cais am Ddynodi ar gyfer dysgwyr 14-16, ar gyfer y cymwysterau hynny sy’n fwy na TAAU ac sydd angen addysgu a/neu adnoddau arbenigol megis, er enghraifft, y rheiny a ddefnyddir mewn colegau AB ar Brentisiaethau Iau.
- Pryderon AB: Cynnwys yn gorgyffwrdd â chynnwys ôl-16.
Ymateb Cymwysterau Cymru: Byddwn yn gofyn yn benodol i gyrff dyfarnu gysylltu â chynrychiolwyr o golegau addysg bellach i sicrhau bod y TAAU yn darparu dilyniant priodol i astudiaethau ôl-16 dilynol, fel arfer, ond nid bob amser, ar lefel 2.
- Bydd y graddio’n wahanol rhwng TGAU a TAAU gyda TGAU yn defnyddio A*-E a TAAU yn defnyddio Pas, Teilyngdod neu Ragoriaeth.
- Ar hyn o bryd, mae darpariaeth ysgolion y Coleg yn cynnwys 935 o ddisgyblion (14 a 15 mlwydd oed) sy’n dod i adeiladau’r coleg yn wythnosol.
- Mae ystyriaethau CSG/CC yn cynnwys:
- Mae’n debygol y bydd y cymwysterau mwy a ddefnyddir ar gyfer Prentisiaethau Iau yn parhau’n hygyrch – a oes angen i ni ail-lunio ein cynnig i ysgolion?
- A all TAAU a gyflwynir mewn ysgolion roi profiad cadarnhaol iawn i ddysgwyr yn hytrach na phrofiad negyddol a’u hannog i symud ymlaen i Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (VET) - beth yw ein rôl ni yn hyn o beth?
- Os nad oes 900 o ddisgyblion ysgol bellach yn croesi trothwy CSG/CC yn wythnosol, sut ydym i fod yn ddilyniant naturiol nesaf iddynt ac yn goleg AB dewisol y disgyblion?
- Sut allwn ni ddylanwadu ar y cyngor a’r arweiniad a roddir i ddisgyblion ysgol ynglŷn â’r camau nesaf?
- Mynegwyd pryder gan y Bwrdd a gofynnwyd a fyddai ysgolion yn gallu ymdopi â darparu’r cymwysterau hyn.
- Gofynnodd y Bwrdd a oedd cyflogwyr yn deall bod y newid hwn yn digwydd a sut y bydd y rhain yn cyd-fynd â gofynion cyflogwyr.
|
|
|
24/02/2.5
Strategaeth a Datblygiad Ystadau
- (i) Diweddariad MIM
- (ii) Rhaglen Gyfalaf LlC - rhaglen dreigl 9 mlynedd o hyd: Dogfen friffio
- Ceisiadau posibl am gyfalaf
- (iii) Gwaredu tir ym Mhibwrlwyd - diweddariad
- (iv) Diweddariad am ymsuddiant Aberteifi - Crynodeb o’r canfyddiadau
|
DERBYNIODD ac YSTYRIODD y Bwrdd y Strategaeth a Datblygiad Ystadau NODWYD:
Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM)
- Cyflwynwyd yr Achos Amlinellol Strategol (SOC) wedi’i ddiwygio ar 22ain Chwefror 2024.
- Bydd Grŵp Craffu Busnes Llywodraeth Cymru yn adolygu dogfen y SOC ar 14eg Mawrth, yna i’r Panel Buddsoddi mewn Addysg ar 18fed Ebrill, ac yn olaf i’r Gweinidog Addysg ar 3ydd Mai.
- Cais am Brosiect Newydd (NPR) i’w roi i WEPCO erbyn 31ain Mai 2024.
- Yn amodol ar Lywodraeth Cymru yn cymeradwyo’r cyflwyniad SOC newydd a bod WEPCO yn derbyn yr NPR, yna bydd adolygiad Cam 1 yn cychwyn.
Rhaglen Dreigl 9 Mlynedd o Hyd Llywodraeth Cymru - Cyllid Cyfalaf
- Mae Cymunedau Dysgu Cynaliadwy LlC yn gwahodd ceisiadau ar gyfer y rownd nesaf o Gyllid Cyfalaf (adeiladau yn unig). Bu newid yn y dull gweithredu gan fod y ceisiadau bellach yn cwmpasu cyfnod o 9 mlynedd, wedi’i rannu’n 3 cham o 1 i 3, 4 i 6 a 7 i 9 mlynedd.
- Mae’r cyllid ar wahân i MIM ac mae’n seiliedig ar gyfradd cyfrannu o 65/35 h.y. mae’r coleg yn talu 35% o’r cyfanswm gyda’r gweddill yn cael ei dalu drwy grant LlC.
- Mae’r coleg wedi casglu nifer o brosiectau i’w cynnwys yn y cyflwyniad. Un agwedd allweddol ar y meini prawf ariannu yw gwella cyflwr adeiladau o B i B neu hyd yn oed A. O ystyried hyn (mae’r rhan fwyaf o safleoedd CC yn uwch na C), ac oherwydd y trafodaethau sy’n mynd rhagddynt ar fentrau ehangach ledled y sir ynghylch safleoedd Ceredigion, mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar safleoedd y Graig a’r Gelli Aur yng Ngholeg Sir Gâr.
- Cyfanswm cost y prosiectau a nodwyd yw £18m gyda’r gost i’r coleg tua £6.3m.
Cynllun Datblygu Lleol (LDP)
- Mae’r Coleg yn parhau i weithio gyda’r Cyngor mewn perthynas â cham paratoi’r LDP. Cyflwynwyd gwybodaeth yn ffurfiol yn ystod canol mis Ionawr 2024, yn amlinellu manylion hyfywedd yn seiliedig ar ddrafft y Prif Gynllun.
- Cytunwyd ar Ddatganiad Tir Cyffredin (SoCG) rhwng y ddau barti a disgwylir y bydd y Cyngor yn cyflwyno’r CDLl Drafft i Lywodraeth Cymru erbyn Ebrill 2024.
Gwaredu Tir a marchnata Safle Pibwrlwyd
- Daeth y gwaith marchnata ar y cyfle safle ehangach yr ymgymerwyd ag ef gan Savills i ben ar 31ain Ionawr 2024.
- Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb gan nifer o ddatblygwyr, gyda thrafodaethau ac ymweliadau safle wedi eu cynnal.
- Derbyniwyd 8 cais.
- Ystyrir bod hwn yn ymateb cadarnhaol iawn gan y farchnad ac mae maint a phwysigrwydd y partïon â diddordeb yn adlewyrchu marchnadwyedd y safle o ran denu datblygwyr allweddol i Gaerfyrddin, lle yn hanesyddol y pellaf i’r gorllewin y maent wedi bod yn mynd yw Abertawe.
- Yn dilyn adolygiad llawn o’r ceisiadau, penderfynwyd gwahodd yr holl geisiadau i gyflwyno eu cynigion i’r tîm prosiect sy’n cynnwys cynrychiolwyr y Coleg, y Brifysgol a Savills. Bydd hyn yn digwydd yn gynnar ym mis Mawrth 2024.
- Unwaith y bydd wedi’i nodi, bydd yr hybwr safle llwyddiannus yn dechrau adolygiad o’r cynnig am y safle i fwydo i mewn i broses barhaus y CDLl a gwaredu safle Aldi.
Gwerthu Aldi
- Mae gwaith yn mynd rhagddo ar ddarparu gwybodaeth bellach i’r Cyngor i lywio eu Cais Cyn-Cynllunio.
Ymsuddiant Aberteifi
- Derbyniwyd adroddiad sy’n fanwl iawn ac yn dechnegol ei natur. Cyflwynwyd cyfres o argymhellion o ran datrysiadau posibl, ond mae angen trafodaeth bellach gyda’r contractwr i drosi’r canfyddiadau i “iaith syml (laymen’s terms)”, gan dynnu sylw at fanteision ac anfanteision pob opsiwn ac i ganfod a phennu costau posibl.
|
|
|
24/02/2.6
Ymestyn Tymor Llywodraethwr - Huw Davies
|
YSTYRIODD y Bwrdd ymestyniad i Dymor Deiliadaeth Llywodraethwr ar gyfer Huw Davies am gyfnod o un flwyddyn ychwanegol. NODWYD:
- Huw Davies yw Cadeirydd y Pwyllgor Adnoddau, Gwytnwch a Phartneriaethau ac mae ei dymor fel Llywodraethwr yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd gyfredol.
- Huw Davies yw’r unig arbenigwr ariannol gweithredol ar y Bwrdd ac yn y ddwy ymgyrch recriwtio llywodraethwyr ddiwethaf nid yw’r sgiliau hyn wedi bod yn rhan o set sgiliau yr ymgeiswyr.
- Doedd dim Cadeirydd naturiol ar gyfer y Pwyllgor Adnoddau, Gwytnwch a Phartneriaethau ac argymhellodd y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu y dylai Huw Davies aros ymlaen am flwyddyn academaidd arall i roi mwy o amser i’r Coleg recriwtio’r set sgiliau hon. Byddai hyn yn sicrhau nad oes bwlch mewn sgiliau ariannol sy’n hynod bwysig yn yr hinsawdd economaidd bresennol.
- Mae’r erthyglau cymdeithasu yn cynnwys goddefeb ar gyfer ymestyn tymor Llywodraethwr os oes angen.
- Diolchodd y Bwrdd i Huw am ei holl waith yn y Pwyllgor RRP a’i gynnig caredig i barhau.
CYMERADWYODD y Bwrdd ymestyniad i dymor Huw Davies fel Llywodraethwr am gyfnod o un flwyddyn ychwanegol.
|
|
|
24/02/2.7
Penodi Dau Lywodraethwr
- (i) Sharron Lusher
- (ii) Rhys Taylor
|
YSTYRIODD a CHYMERADWYODD y Bwrdd argymhelliad gan y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu y dylid penodi Sharron Lusher a Rhys Taylor yn Llywodraethwyr Coleg Sir Gâr. Roedd hyn yn amodol ar ddau eirda boddhaol; gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS); a chwblhau ffurflen datganiad o fuddiant.
|
Cam Gweithredu: Clerc i gysylltu â Sharron Lusher a Rhys Taylor a dechrau’r broses gynefino ar gyfer Llywodraethwyr.
|
|
24/02/2.8
Datblygiad y Bwrdd
- Taflen (copïau wedi’u hargraffu i’w dosbarthu yn y cyfarfod)
|
Trafodwyd ffyrdd o gynyddu cyfleoedd ac ymgysylltiad aelodau’r Bwrdd a chael gwerth ychwanegol o’u profiadau amrywiol. Cyflwynwyd rhestr o syniadau gyda sgôr defnyddioldeb i aelodau’r Bwrdd a gofynnwyd i’r Llywodraethwyr fynd â’r rhestr hon i ffwrdd ac i roi adborth am y syniadau hyn ac unrhyw syniadau eraill oedd ganddynt i wneud cynnydd o ran datblygiad a gwelliant parhaus y Bwrdd.
|
Cam Gweithredu: Llywodraethwyr i roi adborth i’r Clerc am y syniadau o ran datblygu’r Bwrdd.
|
|
24/02/2.9
Diweddariad PCYDDS (Llafar)
|
Rhoddodd Is-Ganghellor PCYDDS ddiweddariad i’r Bwrdd a NODWYD:
- Mae sefyllfa ariannol y sector yn anoddach nag y mae llawer o bobl yn sylweddoli.
- Mae model cyllido cyfredol Addysg Uwch yn anghynaliadwy.
- Nid yw ffioedd o £9250 wedi cynyddu ers sawl blwyddyn a gyda chwyddiant a chostau, mae hyn bellach yn cyfateb i tua £5600.
- Mae angen dull gweithredu gwahanol o ran sut mae AU yn rheoli ei hasedau.
- Mae sicrhau bod strwythur y Grŵp yn helpu PCYDDS a CSG yn hanfodol.
- Mae’r ffocws ar gyflawni’r diben addysgol craidd.
- Mae model cynllunio busnes newydd yn cael ei ddatblygu a’i roi ar waith er mwyn sicrhau bod hwn mor gadarn â phosibl.
- Mae COO bellach yn ei swydd yn y Brifysgol.
|
|
3
|
Materion i’w Cymeradwyo*
|
|
|
|
24/03/3.1
Cynllun Gwaith y Pwyllgor A&RM
|
CYMERADWYODD y Bwrdd Gynllun Gwaith y Pwyllgor A&RM.
|
|
|
24/03/3.2
Cynllun Gwaith y Pwyllgor RR&P
|
CYMERADWYODD y Bwrdd Gynllun Gwaith y Pwyllgor RR&P.
|
|
|
24/03/3.3
Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Dysgwyr a Safonau
|
CYMERADWYODD y Bwrdd Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Dysgwyr a Safonau
|
|
|
24/03/3.4
Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Arolygu MIM
|
CYMERADWYODD y Bwrdd Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Arolygu MIM
|
|
4
|
Materion er Gwybodaeth**
|
|
|
|
24/04/4.1
Llythyr Diolch Jimmy Staveley
|
DERBYNIODD y Bwrdd lythyr diolch gan Jimmy Staveley.
|
|
|
24/04/4.2
Cynnydd Gweithredol y Dangosfwrdd - Diweddariad (O Gyfarfod y Pwyllgor L&S)
|
NODODD y Bwrdd fod datblygiad y dangosfwrdd yn mynd rhagddo’n dda gyda’r rhan fwyaf o adroddiadau ar gael a gwaith yn mynd rhagddo i gael y wybodaeth sy’n weddill.
|
|
|
24/04/4.3
Swydd Wag Llywodraethwr Cyswllt ADY
- Disgrifiad Rôl Llywodraethwr Cyswllt ADY
|
NODODD y Bwrdd fod gan y Coleg swydd wag ar gyfer Rôl Llywodraethwr Cyswllt ADY. Mae’r swydd hon yn un statudol ac yn bwysig iawn o fewn y Coleg. Dosbarthwyd disgrifiad o’r rôl, a gofynnwyd i’r Llywodraethwyr ystyried ymgymryd â’r rôl hon.
|
Cam Gweithredu: Llywodraethwyr i ystyried Rôl Llywodraethwr Cyswllt ADY.
|
|
24/04/4.4
Hyfforddiant Llywodraethwyr Colegau Cymru
|
DERBYNIODD y Bwrdd wybodaeth am ddwy sesiwn hyfforddi i Lywodraethwyr sy’n cael eu darparu gan Golegau Cymru.
- Cyllid AB - Mark Jones, Prif Weithredwr Coleg Gŵyr Abertawe / Cadeirydd Pwyllgor Cyfarwyddwyr Cyllid Colegau Cymru - Dydd Mawrth, 19eg Mawrth, 5-6pm
- ADY - Chris Denham, Arweinydd Trawsnewid ADY AB - Dydd Mawrth, 16eg Ebrill, 5-6pm
|
|
|
24/04/4.5
Calendr Digwyddiadau - Digwyddiadau sydd ar Ddod
- 14eg Mawrth Gwobrau Ysbrydoli Sgiliau
- 11eg Mehefin Gwobrau Cyflawni Rhagoriaeth Coleg Ceredigion
- 20fed Mehefin Gwobrau Cyflawni Rhagoriaeth Coleg Sir Gâr
|
DERBYNIODD y Bwrdd wybodaeth am ddigwyddiadau sydd ar ddod a gynhelir gan y Coleg. Byddai’r Clerc yn tynnu sylw at y digwyddiadau hyn wrth i’w dyddiad agosáu a’r gobaith oedd y byddai’r Llywodraethwyr yn gallu mynychu’r digwyddiadau hyn.
|
|
|
24/04/4.6
Calendr Cyfarfodydd wedi’i Ddiweddaru
- Cinio/Gweithgaredd yng Nghyfarfod Aberteifi
|
NODODD y Bwrdd y calendr cyfarfodydd wedi’i ddiweddaru. Bellach trefnwyd cynnal cyfarfod y Bwrdd ym mis Mehefin ar Gampws Aberteifi a’r gobaith oedd cael aelodau’r Bwrdd at ei gilydd i gael cinio cyn y cyfarfod hwn.
|
|
|
24/04/4.7
Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Dysgwyr a Safonau a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2024
|
DERBYNIODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Dysgwyr a Safonau a gynhaliwyd ar 26ain Ionawr 2024.
|
|
|
24/04/4.8
Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Adnoddau, Gwytnwch a Phartneriaethau a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2024
|
DERBYNIODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Adnoddau, Gwytnwch a Phartneriaethau a gynhaliwyd ar 8fed Chwefror 2024.
|
|
|
24/04/4.9
Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2024
|
DERBYNIODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg a gynhaliwyd ar 20fed Chwefror 2024.
|
|
|
24/04/4.10
Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2024
|
DERBYNIODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 28ain Chwefror 2024.
|
|
|
24/04/4.11
Detholiad o gofnodion cyfyngedig cyfarfod Cyngor PCYDDS 24 Tachwedd 2022
|
DERBYNIODD a NODODD y Bwrdd y detholiad o gofnodion cyfyngedig cyfarfod Cyngor PCYDDS a gynhaliwyd ar 24ain Tachwedd 2022.
|
|
|
24/04/4.12
Detholiad o gofnodion cyfyngedig cyfarfod Cyngor PCYDDS 26 Ionawr 2023
|
DERBYNIODD a NODODD y Bwrdd y detholiad o gofnodion cyfyngedig cyfarfod Cyngor PCYDDS a gynhaliwyd ar 26ain Ionawr 2023.
|
|
|
24/04/4.13
Detholiad o gofnodion cyfyngedig cyfarfod Cyngor PCYDDS 06 Mawrth 2023
|
DERBYNIODD a NODODD y Bwrdd y detholiad o gofnodion cyfyngedig cyfarfod Cyngor PCYDDS a gynhaliwyd ar 6ed Mawrth 2023.
|
|
|
24/04/4.14
Detholiad o gofnodion cyfarfod Cyngor PCYDDS 30 Mawrth 2023
|
DERBYNIODD a NODODD y Bwrdd y detholiad o gofnodion cyfarfod Cyngor PCYDDS a gynhaliwyd ar 30ain Mawrth 2023.
|
|
|
24/04/4.15
Detholiad o gofnodion cyfyngedig cyfarfod Cyngor PCYDDS 30 Mawrth 2023
|
DERBYNIODD a NODODD y Bwrdd y detholiad o gofnodion cyfyngedig cyfarfod Cyngor PCYDDS a gynhaliwyd ar 30ain Mawrth 2023.
|
|
|
24/04/4.16
Detholiad o gofnodion cyfyngedig cyfarfod Cyngor PCYDDS 06 Gorffennaf 2023
|
DERBYNIODD a NODODD y Bwrdd y detholiad o gofnodion cyfyngedig cyfarfod Cyngor PCYDDS a gynhaliwyd ar 6ed Gorffennaf 2023.
|
|
|
24/04/4.17
Detholiad o gofnodion cyfyngedig cyfarfod Cyngor PCYDDS 27 Medi 2023
|
DERBYNIODD a NODODD y Bwrdd y detholiad o gofnodion cyfyngedig cyfarfod Cyngor PCYDDS a gynhaliwyd ar 27ain Medi 2023.
|
|
|
24/04/4.18
Detholiad o gofnodion cyfarfod Cyngor PCYDDS 27 Medi 2023
|
DERBYNIODD a NODODD y Bwrdd y detholiad o gofnodion cyfarfod Cyngor PCYDDS a gynhaliwyd ar 27ain Medi 2023.
|
|
|
24/04/4.19
Detholiad o gofnodion cyfarfod Craffu Grŵp PCYDDS 30 Mehefin 2023
|
DERBYNIODD a NODODD y Bwrdd y detholiad o gofnodion cyfarfod Craffu Grŵp a gynhaliwyd ar 30ain Mehefin 2023.
|
|
|
24/04/4.20
Detholiad o gofnodion cyfyngedig cyfarfod Cyngor PCYDDS 23 Tachwedd 2023
|
DERBYNIODD a NODODD y Bwrdd y detholiad o gofnodion cyfyngedig cyfarfod Cyngor PCYDDS a gynhaliwyd ar 23ain Tachwedd 2023.
|
|
|
24/04/4.21
Detholiad o gofnodion cyfarfod Cyngor PCYDDS 23 Tachwedd 2023
|
DERBYNIODD a NODODD y Bwrdd y detholiad o gofnodion cyfarfod Cyngor PCYDDS a gynhaliwyd ar 23ain Tachwedd 2023.
|
|
5
|
Unrhyw Fater Arall
|
|
|
|
24/05/5.1
|
Doedd dim unrhyw fater arall.
|
|
6
|
Datganiadau o Fuddiant
|
|
|
|
24/06/6.1
I gadarnhau unrhyw wrthdaro buddiannau a all fod wedi codi yn ystod y cyfarfod.
|
Ni dderbyniwyd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant pellach yn ystod y cyfarfod.
|
|
7
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf
|
|
|
|
24/07/7.1
Dyddiad y cyfarfod nesaf
|
Dydd Iau 27 Mehefin 2024, Y Man a’r Lle, Aberteifi, 4pm.
|
|