Skip page header and navigation

Introduction

Yn bresennol:
  • Mr John Edge (Cadeirydd)

  • Mrs Abigail Salini (Is-gadeirydd)

  • Ms Erica Cassin

  • Mr Alan Smith

  • Ms Jacqui Kedward

  • Mr Ben Francis [ar-lein]

  • Mr Mike Theodoulou [gadawodd y cyfarfod am 17:27]

  • Mr Huw Davies

  • Dr Andrew Cornish (Pennaeth)

  • Ms Tracy Senchal

  • Mrs Sharron Lusher

  • Mr Rhys Taylor

  • Mr Louis Dare (Staff CSG)

  • Mr John Williams (Staff CC)

  • Ms Hannah Freckleton (Llywydd Undeb y Myfyrwyr 2024/2025)

Rheolwyr y Coleg:
  • Mrs Amanda Daniels (Is-bennaeth Cwricwlwm, Sgiliau ac Ansawdd)

  • Mr Ralph Priller (Prif Swyddog Gweithredu)

  • Mrs Vanessa Cashmore (Is-bennaeth Cynllunio, Dysgwyr a Chyfathrebu)

Yn gwasanaethu:
  • Mr Damion Gee (Ysgrifennydd y Cwmni a Chlerc i’r Bwrdd)

  • Mr Martin Davies (Cyfieithydd)

Gwesteion:
  • Yr Athro Elwen Evans KC (Is-Ganghellor, PCYDDS)

  • Ms Sarah Clark (Ysgrifennydd y Brifysgol/Clerc y Cyngor, PCYDDS) 

Cadarnhaodd y Clerc fod cworwm yn y cyfarfod.

Cychwynnodd y cyfarfod am 16:00.

Croesawodd y Cadeirydd ac aelodau’r Bwrdd Mrs Sharron Lusher, Mr Rhys Taylor a Ms Hannah Freckleton i’r Bwrdd.  Gwnaed cyflwyniadau o amgylch y bwrdd.

 

Eitem agenda 

Prif bwyntiau trafod

Cam gweithredu/penderfyniad

1

Llywodraethu’r Cyfarfod

   
 

24/16/1.1

Ymddiheuriadau am absenoldeb a datganiadau o fuddiannau

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Datganodd Mrs Sharron Lusher fuddiant mewn dwy eitem yn Adroddiad y Pennaeth, y mae hi wedi ymgynghori arnynt. Yr adolygiad cyflogau staff a chynllun strategol Medr oedd y rhain.

 
 

24/16/1.2

Coleg Ceredigion

Cymeradwyo cofnodion anghyfyngedig y cyfarfod  Diwethaf: 27 Mehefin 2024

Coleg Sir Gâr

Cymeradwyo cofnodion anghyfyngedig y cyfarfod  Diwethaf: 27 Mehefin 2024

CADARNHAODD y Bwrdd gofnodion ANGHYFYNGEDIG cyfarfod Bwrdd Coleg Ceredigion a gynhaliwyd ar ddydd Iau, 27ain Mehefin 2024, fel cofnod cywir.

CADARNHAODD y Bwrdd gofnodion ANGHYFYNGEDIG cyfarfod Bwrdd Coleg Sir Gâr a gynhaliwyd ar ddydd Iau, 27ain Mehefin 2024, fel cofnod cywir.

 
 

24/16/1.3

Materion yn ymwneud â Choleg Ceredigion

Doedd dim materion nad oeddent eisoes wedi’u cynnwys yn yr agenda yn ymwneud â Choleg Ceredigion.

 
 

24/16/1.4

Materion sy’n codi a Phwyntiau Gweithredu nas cwmpaswyd mewn mannau eraill ar yr agenda.

  • Cynllun Gweithredu Treigl Bwrdd CSG CC

Nododd y Pwyllgor fod yr holl gamau gweithredu o fewn y raddfa amser berthnasol wedi’u cyflawni.

  • Roedd Rhys Taylor wedi cytuno’n garedig i ymgymryd â’r rôl Llywodraethwr Cyswllt ADY.
Cam Gweithredu: Clerc i drefnu bod Rhys Taylor yn cwrdd â’r Tîm ADY.

2

Materion i Drafod a/neu Gymeradwyo

   
 

24/17/2.1

Adborth ar Ymgynghoriad Strategaeth gan Undeb y Myfyrwyr

Cyflwynodd Llywydd Undeb y Myfyrwyr, Ms Hannah Freckleton, adborth gan Undeb y Myfyrwyr ar y Cynllun Strategol i’r Bwrdd.  Cyflwynwyd hwn yn Gymraeg.  NODWYD:

  • Tynnwyd sylw at y ffaith bod cydweithio, cymuned a chynwysoldeb yn bwysig o fewn y pwrpas. Cryfhau’r gymuned yn y Coleg.  Roedd y dysgwyr yn gwerthfawrogi’r pwyslais ar ailadeiladu’r hyn a gollwyd oherwydd pandemig COVID-19.
  • Yn y weledigaeth, er bod y dysgwyr yn cydnabod manteision amgylcheddol dull digidol 100%, maen nhw hefyd yn ymwybodol o’r heriau y gall hyn eu cyflwyno, felly byddai’n well cael cydbwysedd rhwng adnoddau digidol ac adnoddau papur.
  • Teimlai’r dysgwyr y dylai ‘dysgwyr wrth galon’ gael ei flaenoriaethu cyn ‘bod yn enwog fel canolfan rhagoriaeth’.
  • Yn y gwerthoedd, teimlai’r dysgwyr y dylid cynnwys “Bod yn Chwilfrydig”.
  • Yn y blaenoriaethau strategol, tynnodd y dysgwyr sylw at bwysigrwydd yr iaith Gymraeg, diwylliant a threftadaeth Cymru gan nodi y dylid dathlu a gwerthfawrogi pob diwylliant.
  • Mae angen cefnogi defnyddio’r Gymraeg yn y coleg, a theimlid nad yw hi’n cael ei defnyddio ddigon, yn aml gyda dysgwyr yn ddihyder.   Roedd angen rhoi pwyslais ar “geisio (a defnyddio’r Gymraeg)”.

Gofynnodd Llywydd Undeb y Myfyrwyr i’r Bwrdd sut y gallwn bwysleisio defnyddio’r Gymraeg yn y Coleg.  Rhannodd y Bwrdd yn bum grŵp i drafod a chofnodi syniadau ynghylch sut y gallai’r Coleg bwysleisio defnyddio’r Gymraeg yn y pwnc penodol a roddwyd iddynt.   Byddai’r syniadau hyn yn cael eu cymryd ymaith, eu coladu a rhoddir adborth arnynt mewn cyfarfod yn y dyfodol.

Diolchodd y Bwrdd i Hannah Freckleton am ei chyflwyniad rhagorol.

 
 

24/17/2.2

Cynllun Strategol 2024 - 2030

DERBYNIODD ac YSTYRIODD y Bwrdd bumed iteriad y Cynllun Strategol ar gyfer 2024 - 2030.  NODWYD:

  • Roedd y Prif Weithredwr wedi cyfarfod â chynrychiolwyr Undeb y Myfyrwyr i drafod y Cynllun Strategol, ac roeddent wedi cynnig syniadau ac adborth rhagorol.
  • Mae’r Gymraeg fel blaenoriaeth strategol yn treiddio trwy bopeth mae’r Coleg yn ei wneud, a’r pwynt olaf ar yr agenda oedd helpu i gyfeirio lle gellir cynnwys pwyslais ar y Gymraeg yn y cynllun strategol.
  • Mae’r cynllun strategol drafft wedi bod gerbron yr Undebau, ac maen nhw wedi cyfrannu.
  • Gofynnwyd i’r Bwrdd godi unrhyw faterion neu bryderon ynghylch y Cynllun Strategol ac am fewnbwn pellach.
  • Anfonir y Cynllun Strategol drafft at yr holl staff a dysgwyr cyn bo hir i gael adborth ar hyd mis Tachwedd, a bydd y drafft terfynol yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd i’w gadarnhau yng nghyfarfod y Bwrdd ar 12fed  Rhagfyr 2024.  
  • Unwaith y bydd hwn wedi’i gadarnhau, bydd y Cynllun Strategol newydd yn cael cyhoeddusrwydd, a bydd y Coleg yn cydweithio â chwmni marchnata allanol i gyfathrebu’r cynllun hwn yn effeithiol i bobl a chyrff mewnol ac allanol.
  • Gofynnwyd i aelodau’r Bwrdd ganolbwyntio ar, a rhoi adborth i’r Prif Weithredwr, ar y flaenoriaeth strategol - “ffyniant economaidd a chymdeithasol” ac i ystyried a oedd hyn yn ddigon cryf.

Roedd adborth gan y Bwrdd yn gadarnhaol, gydag ychydig o gwestiynau.

Gofynnwyd a oedd y cynllun yn rhy “holl-gynhwysfawr” a pha ddewisiadau a wnaed ynghylch meysydd i beidio â’u cynnwys, i ddangos bod blaenoriaethu sylweddol wedi’i wneud.   NODWYD bod hyn yn anodd ei ateb; fodd bynnag, un maes oedd digidoleiddio.  Mae angen hyn, ond tynnodd adborth gan y dysgwyr sylw at yr angen i gael cydbwysedd rhwng gwaith digidol a gwaith papur.  Mae hyn yn gofyn y cwestiwn, a oes angen i’r Coleg fod mor uchelgeisiol yn y maes hwn?   Roedd ehangder y cynllun yn sylweddol. Fodd bynnag, roedd y cynllun yn cwmpasu pum mlynedd ac roedd yn uchelgeisiol.  Bydd cynllun gweithredol ar gael oddi tano, a fydd yn cael ei ddiweddaru wrth i’r cynllun ddatblygu tuag at y bumed flwyddyn.  

Gofynnodd un sylw a oedd modd crynhoi ffocws y weledigaeth, rhywbeth yr oedd rhai o aelodau’r Bwrdd yn ei ystyried braidd yn hir.

Dywedodd aelod o’r Bwrdd, pan aeth ati i ddarllen y cynllun, nad oedd yn gwneud i’r darllenydd deimlo bod hwn yn ymwneud â Choleg Sir Gâr yn benodol.  Roedd y cynnwys yn rhagorol ac, er ei fod yn anodd e gyflawni, dylid ei ystyried i weld a ellid adnabod y coleg yn well ynddo.

Nododd aelod o’r Bwrdd ei fod, wrth ddarllen y cynllun, wedi ei ddarllen fel cynllun pum mlynedd, a bydd angen i’r ddogfen weithio fod yn hyblyg ac ymateb wrth fynd i’r afael â’r blaenoriaethau.  Roedden nhw’n teimlo bod y cynllun yn briodol ac yn ei weld fel dogfen weithio.

Gofynnodd aelod o’r Bwrdd a oes lle i adolygu a mireinio’r cynllun a chysylltu ag ysgolion uwchradd lleol ac a ellid cytuno ar rai blaenoriaethau ar y cyd a chydweithio.   NODWYD y byddai hyn yn cael ei ystyried.

Dywedodd aelod o’r Bwrdd y gellid ystyried ffordd o fynegi sut yr hoffem i’r Coleg edrych a’r hyn yr hoffem iddo gyflawni ymhen pum mlynedd er mwyn helpu i osod y blaenoriaethau.   NODWYD y byddai KPIs a cherrig milltir yn cael eu hystyried, a byddai’r sylwadau hyn yn cael eu cadw mewn cof a’u trafod.

 

 

24/17/2.3

Adroddiad y Pennaeth

DERBYNIODD y Bwrdd Adroddiad y Pennaeth.  NODWYD:

Llywodraeth Cymru:

  • Roedd cabinet newydd wedi’i ffurfio yn Llywodraeth Cymru.  Mae’r prif swyddi’n ymwneud ag addysg ôl-16 yn cynnwys:
  • Y Prif Weinidog: Eluned Morgan
  • Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Huw Irranca-Davies
  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Lynne Neagle
  • Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch: Vikki Howells
  • Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: Jack Sargeant
  • Ymwelodd y Dirprwy Brif Weinidog â’r Gelli Aur ym mis Medi i weld y gwaith ymchwil sy’n cael ei wneud ar y campws.
  • Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ffurfio adran newydd sy’n gyfrifol am Addysg Drydyddol (TED).

Medr:

  • Lansiwyd Medr yn swyddogol ar 1af Awst 2024.
  • Ar hyn o bryd mae Medr yn ymgynghori ar ei gynllun strategol, gyda’r ymgynghoriad yn cau ar 25ain Hydref 2024.

Adolygiad o Addysg Ôl-16 yng Ngheredigion:

  • Bydd yr adroddiad swyddogol yn cael ei drosglwyddo i aelodau’r Bwrdd pan fydd ar gael.
  • Tynnodd yr adolygiad cychwynnol sylw at bedwar opsiwn posibl, gyda dau o’r opsiynau hyn yn cael eu hystyried ymhellach.
  • Un opsiwn fyddai datblygu’r sefyllfa bresennol yng Ngheredigion.  Yn gyntaf, byddai darpariaeth ôl-16 yn parhau ar y chwe safle presennol. Byddai’r chwe Bwrdd Llywodraethu presennol yn parhau â’u rolau presennol o ran llywodraethu hyd at 16 oed ond byddent yn cytuno â’r Awdurdod Lleol i ffurfio Bwrdd Strategol a fyddai’n rheoli cyllideb ôl-16 yr Awdurdod, sicrhau trefniadau addas ar gyfer cynllunio cwricwlwm ar y cyd, ac yna’n comisiynu’r ddarpariaeth gan yr ysgolion, e-sgol, a phartneriaid eraill.
  • Derbyniwyd a thrafodwyd manteision ac anfanteision yr opsiwn hwn.

  [Gadawodd Mike Theodoulou y cyfarfod - 17:27]

Dysgwyr:

  • Roedd y cyfarfod yn falch iawn o dderbyn gwybodaeth am y dysgwyr sy’n cynrychioli’r Coleg yng nghystadlaethau Cenedlaethol WorldSkills y DU a chystadlaethau SkillBuild ym mis Tachwedd 2024.  Cynhelir y rhain ym Manceinion a Milton Keynes, yn y drefn honno.
  • Cymru fydd yn cynnal Rowndiau Terfynol Cenedlaethol 2025, sy’n cynnig cyfle gwych.
  • Dylid rhoi cydnabyddiaeth i’r dysgwyr hyn.  Cytunwyd ysgrifennu atynt i’w llongyfarch ar eu llwyddiant.  
  • Nododd y Bwrdd fod digwyddiadau dathlu’n cael eu cynnal a bod croeso i aelodau’r Bwrdd eu mynychu.  Byddai gwybodaeth yn cael ei hanfon am y digwyddiadau hyn.
Cam Gweithredu: Y clerc i drefnu, ar ran y bwrdd, bod llongyfarchiadau’n cael eu hanfon at y dysgwyr sydd wedi ennill lle yng nghystadlaethau World Skills y DU a SkillBuild.
 

24/17/2.4

Modelu Busnes y Coleg

Gwnaeth y Bwrdd DDERBYN Modelu Busnes y Coleg 2024/2025.  NODWYD:

  • Roedd yr adroddiad yn cwmpasu pedwar prif faes: cyd-destun, heriau, yr hyn rydym wedi’i wneud, a’r ffocws ar gyfer 2024-2026.
  • Cyd-destun:
  • Cefnlen ariannol heriol ledled Cymru.
  • Gostyngiad o 14% mewn prentisiaethau.
  • Ffioedd myfyrwyr AU heb gynyddu.
  • Cynnal a chadw’r Ystad.
  • Heriau:
  • Llywodraeth Newydd – beth fydd hyn yn newid?
  • Etholiadau’r Senedd yn 2025.
  • Dyfodiad Medr - methodoleg ariannu newydd a/neu reoleiddio.
  • Bil ADY
  • Dyraniadau cyllid.
  • Beth ydyn ni wedi’i wneud (a byddwn yn parhau i’w wneud):
  • Cynllun Strategol - camau breision tuag at gyflawni’r blaenoriaethau strategol.
  • Patrwm hanesyddol o reoli arian a risg yn dda iawn.
  • Wedi defnyddio cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn dda iawn i gefnogi dysgwyr a gwneud arbedion.
  • Wedi gwneud newidiadau angenrheidiol i weithrediadau yn sgil COVID a chyfnodau dilynol o galedi.
  • Wedi hybu a llwyddo i ad-drefnu’r ystad yn Sir Gaerfyrddin erbyn 2028.
  • Sicrhau bod gweithrediadau bob amser yn effeithiol ac effeithlon - yn canolbwyntio ar y dysgwyr.
  • Ffocws ar 2024-2026 (meysydd i’w hystyried):
  • Ni fydd hyn yn hawdd - mae mesurau torri costau blaenorol wedi gwneud y Coleg yn ddarbodus.
  • Costau staff (Diswyddiadau gwirfoddol a gorfodol).
  • Cludiant myfyrwyr (tacsis a bysiau - a fydd hyn yn effeithio ar recriwtio?).
  • Incwm masnachol - trwy farchnadoedd y DU a marchnadoedd rhyngwladol (bydd angen adnoddau ychwanegol ar y ddau).
  • Daw cost meddalwedd a gweithredu yn sgil digidoleiddio prosesau ymhellach. 
  • Cau neu gau campysau’n rhannol - mae hyn yn heriol yn wleidyddol, ac mae amseru yn hollbwysig - effeithio ar recriwtio.
  • Lleihau peidio â thalu - ond mae angen gweithredu o hyd.
  • Rhoi rhai o swyddogaethau’r Coleg ar gontract allanol - rhaid i’r rhain fod yn ddewisiadau rhatach gydag o leiaf yr un ansawdd.
  • Uno - creu mwy o arbedion maint a’r gallu i amsugno pwysau o ran costau  presennol ac yn y dyfodol.

[Ms Hannah Freckleton (Llywydd Undeb y Myfyrwyr 2024/2025) (gadawodd y cyfarfod am 17:37]

Gwnaed sylw bod cyrff hyd braich eraill yn cael eu gwthio i rannu adnoddau, caffael, y gyflogres, a gwasanaethau, a gofynnwyd a ellid edrych ar hyn yn fanylach. NODWYD bod y Coleg yn gweithio o fewn strwythur y grŵp ac yn rhannu rhai gwasanaethau, fel swyddog caffael. Mae’r Coleg eisoes wedi dechrau gweithio gyda Choleg Sir Benfro ar gaffael ym mis Awst.  Mae meysydd eraill yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.

Gofynnwyd a oedd P&L yn ôl maes, h.y. AB ac AU. A oes rhai rhannau o gynnig y Coleg sy’n fwy proffidiol nag eraill? NODWYD mai’r ateb yw oes, er ei fod yn gymhleth i’w gael yn gywir gydag addysgu AB ac AU sy’n croesi ar draws ei gilydd a llawer o feysydd lle mae cwricwlwm cymysg.  Mae maint grwpiau yn allweddol, a gall weithio’n anffafriol gyda nifer fawr o ddysgwyr yn gofyn am fwy o staff.  Os bydd rhai dysgwyr yn rhoi’r gorau iddi, gall hyn effeithio ar sefyllfa ariannol cwrs sydd â phresenoldeb da.

Gofynnwyd cwpwl o gwestiynau: beth fyddai’r diffyg derbyniol mwyaf ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, a beth yw’r camau nesaf?   NODWYD bod y Coleg ar hyn o bryd yn gweithio ar ddiffyg o £2 miliwn ac mae’n edrych i geisio dileu cymaint o’r diffyg hwn ag sy’n bosibl, sy’n heriol.  O ran y camau nesaf, dylai’r dyraniadau cyllid fod ar gael ym mis Ionawr 2025 a byddant yn sbardun allweddol wrth benderfynu pa benderfyniadau y mae’n rhaid eu gwneud.   Mae niferoedd recriwtio’r Coleg wedi bod yn gadarnhaol; gobeithio y bydd hyn yn helpu i sbarduno incwm ariannu.  

 
 

24/17/2.6

Materion Ariannol

  1. Drafft o Alldro Ariannol 23-24 (lefel uchel)
  2. Diweddariad ar Gyllideb 24-25 (Llafar)

DERBYNIODD ac YSTYRIODD y Bwrdd alldro ariannol drafft 2023/2024.  NODWYD:

  • Canlyniadau arian parod a gwarged lefel uchel.  Mae’r rhain yn amodol ar archwiliad allanol, a ddechreuodd ar Hydref 7fed ac sy’n rhedeg am bedair wythnos. Cyflwynir manylion a dadansoddiad pellach yng nghyfarfod y Pwyllgor Adnoddau, Gwytnwch a Phartneriaethau ym mis Tachwedd, ac yna i’r Bwrdd yng nghyfarfod mis Rhagfyr.   
  • Ar gyfer y Grŵp AB, roedd y gyllideb ar gyfer colled o £89k sydd wedi dod i mewn ar golled o £54k, gwelliant o £35k.
  • Ar gyfer Coleg Sir Gâr, roedd y gyllideb ar gyfer colled o £92k sydd wedi dod i mewn ar enillion o £90k, gwelliant o £182k.
  • Ar gyfer Coleg Ceredigion, roedd y gyllideb ar gyfer enillion o £3k sydd wedi dod i mewn ar enillion o £144k, gostyngiad o £147k.
  • Dangosodd dadansoddiad o’r arian parod fod y gwir arian parod agoriadol ar £17,091k gyda’r gwir arian parod terfynol yn £17,363k – gwelliant o £272k.

DERBYNIODD ac YSTYRIODD y Bwrdd y Diweddariad ar y Gyllideb.  NODWYD:

  • Mae’n gynnar iawn ar gyfer yr ailragolwg cyntaf (i’w gyflwyno yng nghyfarfod mis Chwefror y pwyllgor Adnoddau a chyfarfodydd dilynol y Bwrdd).  Ar hyn o bryd, er bod rhai symudiadau disgwyliedig, mae’r sefyllfa net a ragwelir yn parhau’n ddigyfnewid:

£’000 

Diffyg yn y Gyllideb:            (2,121)

Arian parod terfynol            15,159

Symud o ran Arian Parod    (1,803)

  • Bydd y dyraniadau cyllid AB ar gyfer 2025/2026 yn hollbwysig wrth lywio’r broses o wneud penderfyniadau yn 2024/2025. Dylai’r rhain fod yn hysbys yn gynnar y flwyddyn nesaf.
 
 

24/17/2.7

Recriwtio 24/25

  1. Recriwtio 24/25 (sefyllfa bresennol a’r Effaith ar y Gyllideb)
  2. Niferoedd cofrestru ar gyfer AB ac AU

DERBYNIODD ac YSTYRIODD y Bwrdd y sefyllfa recriwtio bresennol, yr effaith ar y gyllideb, a’r niferoedd cofrestru ar gyfer AB ac AU.  NODWYD:

  • Mae AB lawn amser wedi parhau’n gymharol fywiog ac ychydig yn uwch na’r llynedd, ac er bod hyn yn newyddion da iawn (y lefel uchaf mewn blynyddoedd), nid yw’n glir a fyddwn yn cyrraedd ein targed gan Lywodraeth Cymru yn y cyfrifiad 56-diwrnod.
  • 3039 o fyfyrwyr AB Lawn amser yw’r targed, gyda 3287 wedi cofrestru gyda’r Coleg ar hyn o bryd.  Mae’r amcangyfrif o’r nifer fydd yn rhoi’r gorau iddi yn nodi gostyngiad i tua 3024.
  • Ar hyn o bryd, does dim meysydd pryder sylweddol o ran AB ran-amser: cyflawnwyd 98.7% yn 2023/2024 o’i gymharu â tharged o 97% (i sicrhau dim adfachu).  Nid oes unrhyw arwydd na fydd 100% o’r targed yn cael ei gyflawni eto eleni.
  • Mae AU lawn amser yn parhau i ostwng o’r naill flwyddyn i’r llall (306 yn erbyn 322 cyn i rai adael).  Wedi dweud hynny, paratowyd y gyllideb ar sail gostyngiad, ac fel y cyfryw,  byddwn yn agos at gyrraedd y targed. Mae cyflogaeth ran-amser hefyd yn is na nifer y llynedd (318 yn erbyn 348), ac er bod y gyllideb wedi darparu ar gyfer gostyngiad, mae’n bosib y bydd angen addasiadau pellach.
  • Dangosodd DSW welliant yn erbyn y targed yn 2023/2024. Rhagdybir gwerth contract tebyg ar gyfer 2024/2025.
  • Mae PLA yn gryf, a byddwn yn mynd y tu hwnt i’r targed. Mae’r dyraniad yn rhan o’r pot cyllido rhan-amser o eleni ymlaen.
  • Mae rhaglenni 14-19 Ysgolion yn parhau i recriwtio’n dda, ac mae recriwtio yn unol â disgwyliadau.  Mae’r incwm yn adlewyrchu costau uniongyrchol yn y maes hwn.
  • Mae’r cynllun a’r strategaeth recriwtio wedi talu ar eu canfed dros y ddwy flynedd ddiwethaf.    Mae niferoedd AU wedi gostwng, er bod hyn yn unol â thueddiadau cenedlaethol.
  • Roedd y Prif Weithredwr yn dymuno cofnodi ei ddiolch i’r holl staff am eu hymdrech enfawr a’u gwaith rhagorol wrth recriwtio a chadw dysgwyr.

Gofynnwyd cwestiwn ynghylch maint cyfran y Coleg o’r farchnad cyn-covid o gymharu â’r ffigurau cyfredol.   NODWYD bod y niferoedd bron yn ôl i’r niferoedd cyn-covid.  Roedd cyfran y farchnad tua 57% i 58% ac roedd tua 2% yn wahanol i cyn-covid.     Mae dilyniant a chadw dysgwyr yn fewnol wedi gwella dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.  Mae gwybodaeth arolwg diweddar o ddisgyblion blwyddyn 10 yn dangos tuedd genedlaethol gydag adeiladu fel yr opsiwn gyrfa uchaf, a gwelwyd hyn yn y Coleg eleni gyda chynnydd o 23% mewn dysgwyr.   Ymddengys bod agweddau yn newid, a’r cyfeiriad teithio.   Mae canlyniadau TGAU bellach yn dychwelyd i lefelau cyn-covid.

 
 

24/17/2.8

Diweddariad PCYDDS - Is-Ganghellor (Llafar)

DERBYNIODD y Bwrdd ddiweddariad llafar gan Is-ganghellor PCYDDS.  
 

24/17/2.9

Adroddiad Ystadau

Adroddiadau ategol ychwanegol er gwybodaeth:

  • Briff Cysyniad Dylunio Cychwynnol Pibwrlwyd
  • Ymsuddiant Aberteifi 

DERBYNIODD ac YSTYRIODD y Bwrdd yr adroddiad ystadau.  NODWYD:

Model Buddsoddi Cydfuddiannol

  • Yn dilyn cymeradwyo’r Achos Amlinellol Strategol fel rhan o’r cyflwyniad Model Buddsoddi Cydfuddiannol ar gyfer Pibwrlwyd, mae gwaith bellach yn mynd rhagddo i baratoi’r Achos Busnes Amlinellol (OBC), y mae David Swallow Consulting wedi’i gomisiynu i’w gefnogi. Disgwylir i hyn gael ei gwblhau erbyn mis Chwefror 2025.
  • Mae Cais am Brosiect Newydd wedi’i gymeradwyo gan Gwmni Partneriaeth Addysg Cymru (WEPCo) a Llywodraeth Cymru.
  • Er mwyn llywio’r Achos Busnes Amlinellol, mae’r gwaith ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar Gam 1 yr Adolygiad, sef cam dichonoldeb y broses i bob pwrpas.  Mae Llywodraeth Cymru a’r Coleg yn ei gyllido ar sail ymyrraeth 65/35%.
  • Bydd yr uchod yn bwydo i mewn i gyflwyniad Cam 1 WEPCo ac Achos Busnes Amlinellol y Coleg.
  • Bydd hyn yn cymryd tua 6 mis i’w wneud.

Cynllun Datblygu Lleol

  • Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyflwyno’r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig a dogfennau cysylltiedig i Lywodraeth Cymru a Phenderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru. Disgwylir i ymchwiliad gael ei gynnal erbyn diwedd 2024.
  • Y ffocws ar hyn o bryd yw rhoi’r holl wybodaeth briodol i Swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin am y Model Buddsoddi Cydfuddiannol, Gwarediadau a gofynion Datblygu Lleol.  Mae hyn yn hollbwysig, o ystyried natur gydgysylltiedig pob agwedd a’r angen i wneud y gorau o’r cyfle.

Gwaredu Tir a Marchnata

  • Derbyniwyd cyflwyniad ar y cyd gan Dandara a’r grŵp Pobl, a chafodd Penawdau’r Telerau drafft ar gyfer elfen breswyl y cynnig eu drafftio i gam datblygedig Yn ddiweddar mae Dandara wedi cadarnhau eu bod yn tynnu eu gweithgareddau busnes yn ôl o ranbarth Cymru, felly mae’r grŵp Pobl wedi cytuno i fwrw ymlaen â chaffael y dyraniad cyfan ar yr un telerau. Ar hyn o bryd mae’r agwedd hon yn cael ei hadolygu.
  • O ran yr elfen fasnachol, ni fydd hyn yn cael ei gwblhau tan ganlyniad Cais Cyn-Cynllunio Aldi (cytundeb cau allan wedi’i ymestyn i 30ain Hydref 2024) a’r adolygiad strategol parhaus gyda’r partner datblygu posibl CPG.
  • Argymhellir bod y Coleg yn:
  • Symud ymlaen yn syth i ddrafftio Achos Busnes Amlinellol y Model Buddsoddi Cydfuddiannol.
  • Dod â thrafodaethau Penawdau’r Telerau i ben gyda’r grŵp Pobl - yn amodol ar ganlyniad y trafodaethau 3ydd parti.   
  • Parhau â’r trafodaethau mewn perthynas â’r elfen gwaredu masnachol.
  • Parhau i ymateb i ofynion y Cyngor Sir sy’n gysylltiedig â pharatoi’r Cynllun Datblygu Lleol.

Ymsuddiant campws Aberteifi

  • O’r diwedd mae gan y Coleg adroddiad gyda chostau dangosol ar gyfer datrys y broblem ymsuddiant ar gampws Aberteifi: tua £1.3m.  
  • Mae’r Coleg wedi edrych ar opsiynau posibl ac, ar y cam hwn, byddai’n cynnig y camau gweithredu canlynol:
  • Gwneud dim a monitro’r sefyllfa’n fanwl i weld a yw’r sefyllfa’n gwaethygu.  Ar hyn o bryd, mae’n ymddangos bod y symud wedi stopio. Mae’r ardal yr effeithir arni wedi’i hynysu, a gall y coleg weithredu’n effeithiol, h.y., heb unrhyw effaith negyddol sylweddol.
  • Parhau i drafod gyda’n hyswirwyr. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gwbl eglur, ac mae’n annhebygol y byddai’r gwaith yn cael ei yswirio - ond efallai y bydd datrysiad “rhannol”.  Fodd bynnag, gallai gael effaith negyddol ar ddyfynbrisiau yswiriant yn y dyfodol.
  • Gwneud yr eitem hon yn brif flaenoriaeth ar gyfer unrhyw “ôl-groniad o waith cynnal a chadw wedi’i ariannu” sylweddol y gallwn ei wneud yn y dyfodol.
  • Ariannu’r gwaith o’n cronfeydd wrth gefn - os daw’r broblem yn un ddifrifol. 
 
 

24/17/2.10

Adnewyddu cyfnod Ymddiriedolwr Erica Cassin

DERBYNIODD y Bwrdd wybodaeth am adnewyddu cyfnod Ymddiriedolwr Erica Cassin.  NODWYD:

  • Daw cyfnod pedair blynedd gyntaf Erica Cassin fel Llywodraethwr Coleg Sir Gâr i ben ar 10fed Rhagfyr 2024, cyn cyfarfod y Bwrdd ym mis Rhagfyr (Rhagfyr 12, 2024).
  • Mae’r Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu yn argymell i’r Bwrdd y dylid cymeradwyo Erica Cassin i wasanaethu am ail gyfnod o bedair blynedd gan ddechrau ar 10fed Rhagfyr 2024.
  • Mae Erica Cassin wedi cadarnhau ei bod yn barod i wasanaethu am gyfnod o bedair blynedd arall.

CYMERADWYODD y Bwrdd Erica Cassin i wasanaethu am ail gyfnod o bedair blynedd gan ddechrau ar 10fed Rhagfyr 2024.

Cam Gweithredu:  Clerc i ddiweddaru Siart Gantt yr Ymddiriedolwyr gydag ail gyfnod Erica Cassin o bedair blynedd.

3

Materion i’w Cymeradwyo*

   
 

4/18/3.12

Doedd dim materion i’w cymeradwyo.

 

4

Materion er Gwybodaeth**

   
 

24/19/4.1

Cwynion, Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth, Ceisiadau Gwrthrych am Wybodaeth

DERBYNIODD y Bwrdd er GWYBODAETH ddiweddariad ar Gwynion, Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth, Ceisiadau Gwrthrych am Wybodaeth  
 

24/19/4.2

Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg a gynhaliwyd ar 19eg Medi 2024

DERBYNIODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg a gynhaliwyd ar 19eg Medi 2024.

 
 

24/19/4.3

Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 3ydd Hydref 2024 

DERBYNIODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 3ydd Hydref 2024.  
 

24/19/4.4

Ymatebion Holiadur Datblygu’r Bwrdd

(i) Siartiau a Sylwadau

DERBYNIODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr ymatebion i holiadur Datblygu’r Bwrdd, gan gynnwys siartiau a sylwadau.  

5

Unrhyw Fater Arall

   
 

24/20/5.1

Doedd dim unrhyw fater arall.

 

6

Datganiadau o Fuddiant

   
 

24/21/6.1

I gadarnhau unrhyw wrthdaro buddiannau a all fod wedi codi yn ystod y cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant pellach yn ystod y cyfarfod.

 

7

Dyddiad y cyfarfod nesaf

   
 

24/22/7.1

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Dydd Iau, 12fed Rhagfyr 2024, yn yr Ystafell Actif 5 x 30, Campws Pibwrlwyd yn dechrau am 16:00.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 18:21.