|
Eitem agenda
|
Prif bwyntiau trafod
|
Cam gweithredu/penderfyniad
|
1
|
Llywodraethu’r Cyfarfod
|
|
|
|
23/17/1.1
Ymddiheuriadau am absenoldeb a datganiadau o fuddiannau
|
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:
- Mrs Abigail Salini
- Mr Mike Theodoulou
- Ms Tracy Senchal
- Miss Jenna Loweth (Cynrychiolydd Myfyrwyr - Llywydd Myfyrwyr 2023/2024)
- Mr Louis Dare (Staff CSG)
Ni dderbyniwyd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant.
|
|
|
23/17/1.2
Cymeradwyo cofnodion CYFYNGEDIG ac ANGHYFYNGEDIG y cyfarfod
diwethaf: 29ain Mehefin 2023
|
CADARNHAODD y Bwrdd gofnodion CYFYNGEDIG ac ANGHYFYNGEDIG y cyfarfod
a gynhaliwyd ddydd Iau 29ain Mehefin 2023 fel cofnod cywir.
|
|
|
23/17/1.3
Materion sy’n codi a phwyntiau gweithredu nas cwmpaswyd mewn mannau eraill ar yr agenda
|
Nid oedd unrhyw faterion yn codi o’r cofnodion.
|
|
|
23/17/1.4
Cofnodion cyfarfod Bwrdd Coleg Ceredigion: 29ain Mehefin 2023
(Er gwybodaeth yn unig)
|
Gwnaeth y Bwrdd DDERBYN a NODI cofnodion cyfarfod Bwrdd Coleg Ceredigion a gynhaliwyd ddydd Iau 29ain Mehefin 2023.
|
|
2
|
Materion i Drafod a / neu Gymeradwyo
|
|
|
|
23/18/2.1
Cynllun Gweithredu Treigl Bwrdd CSG
|
Nododd y Pwyllgor fod yr holl gamau gweithredu wedi’u cyflawni.
|
|
|
23/18/2.2
Alltro Ariannol Drafft 22 - 23
(lefel uchel)
Diweddariad ar y Gyllideb (Llafar)
|
DERBYNIODD y Bwrdd Alldro Ariannol Drafft 2022 - 2023. NODWYD:
- Mae dadansoddiad o’r arian parod yn dangos sefyllfa gadarnhaol.
- Mae balansau arian parod Diwedd y Flwyddyn ar gyfer y Grŵp AB (31ain Gorffennaf 2023) yn dangos £19.915m yn erbyn £19,409m o’r flwyddyn flaenorol. Gyda gwahaniaethau o ran amseru a grantiau a dderbyniwyd wedi’u tynnu allan o’r ffigurau, mae hwn yn dangos ffigur arian parod gwirioneddol o £17,091m, gwelliant o £1.691m.
- Mae gwarged/diffyg y Grŵp AB (addasiad heblaw am arian parod cyn FRS102) yn dangos gwelliant o £909k, heblaw am R/D a £738k ar ôl R/D.
- Roedd peth darpariaeth wedi’i chynnwys nad oedd angen ei rhyddhau ac mae hyn yn rhoi hwb i’r sefyllfa arian parod.
- Gofynnwyd cwestiwn am swyddogaeth Cyllid Cadw’n Gynnes. Dywedwyd wrth y cyfarfod bod hwn ar gyfer helpu mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw trwy gynnig cyfle i bobl ddod i’r coleg i gael te/coffi a chynhesrwydd.
- Trafodwyd rhagolwg 5-mlynedd diwygiedig y gellid ei gyflwyno i’r Pwyllgor Adnoddau, Gwytnwch a Phartneriaethau.
Gofynnodd y Cadeirydd i unrhyw drafodaeth ar gyllid 2023/2024 gael ei hintegreiddio i eitem 2.7.
|
Cam Gweithredu: Prif Swyddog Gweithredu (COO) i gyflwyno rhagolwg pum mlynedd i’r Pwyllgor Adnoddau, Gwytnwch a Phartneriaethau.
|
|
23.18/2.3
Recriwtio
- Recriwtio 23/24 (sefyllfa bresennol) a’r Effaith ar y Gyllideb
- Niferoedd Cofrestru AB
- Niferoedd Cofrestru AU
|
DERBYNIODD ac YSTYRIODD y Bwrdd y ffigurau recriwtio ar gyfer 2023/2024 a NODWYD:
- Ymgyrch recriwtio lwyddiannus iawn gydag ymagwedd coleg cyfan. Dymunai’r Pennaeth gofnodi’r ymdrech ragorol mae’r holl staff wedi’i gwneud i sicrhau’r canlyniad hwn.
- Roedd hyn yn rhan o gynllun 24-mis.
- Mae’r Coleg wedi cyrraedd y lefelau targed chwyddedig cychwynnol gan gyrraedd y targed o 100%.
- Mae AB lawn amser wedi dangos gwelliant sylweddol ar y llynedd, ond er bod hyn yn newyddion da iawn (y lefel uchaf mewn blynyddoedd), nid yw’n glir a fyddwn yn cyrraedd ein targed gan Lywodraeth Cymru yn y cyfrifiad 56-diwrnod.
- AB ran-amser - mae ychydig o bryder yma: cyflawnwyd 94% yn 22/23 yn erbyn targed o 97.5% (i sicrhau dim adfachu). Mae angen sicrhau bod y gweithgarwch yn cael ei yrru hyd at yr isafswm sydd ei angen yn 2023/24.
- Mae AU lawn amser yn parhau i ostwng o’r naill flwyddyn i’r llall (322 yn erbyn 347 cyn i rai adael). Wedi dweud hynny, paratowyd y gyllideb ar sail gostyngiad a byddwn yn agos at gyrraedd y targed. Mae Rh-A ychydig yn well (348 yn erbyn 333) a dylai fod yn fwy na’r targed. Yn gyffredinol, caiff y gostyngiad mewn LlA ei wrthbwyso gan y cynnydd mewn Rh-A gan arwain at sefyllfa niwtral.
- Yn 2022/23 roedd DSW £1m yn brin o gyflawni’r contract. Rhagdybir gwerth contract tebyg ar gyfer 2023/24 – mae angen adolygu’r sefyllfa hon ar frys i geisio aildyfu’r ddarpariaeth yn gyflym. Bydd dadansoddiad manylach yn cael ei roi ger bron cyfarfod y pwyllgor Adnoddau, Gwytnwch a Phartneriaethau ym mis Tachwedd. Fel y cyfryw, rhoddir statws Coch i’r risg.
- Holwyd cwestiwn ynghylch y ffaith bod niferoedd DSW yn is a llai o gyllid. Nododd y Bwrdd fod hon yn broblem yn y sector a bu gostyngiad mewn niferoedd tua diwedd y flwyddyn academaidd ddiwethaf a oedd yn annisgwyl, yn enwedig mewn prentisiaethau digidol. Bydd mwy o fonitro yn cael ei wneud eleni.
- Mae PLA hefyd yn gryf a bydd yn mynd y tu hwnt i’r targed. Mae ein cyllideb yn rhagdybio y bydd cais llwyddiannus am £0.9m ychwanegol yn ystod y flwyddyn, ond does dim sicrwydd o hyn ar hyn o bryd. Efallai bydd yn rhaid i hyn leihau yn ail-ragolwg 1.
- Mae rhaglenni 14-19 Ysgolion yn parhau i recriwtio’n dda ac mae recriwtio yn unol â disgwyliadau. Mae incwm yn adlewyrchu costau uniongyrchol yn y maes hwn.
- Er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r diffygion uchod, mae’r Coleg wedi ceisio lleihau cyllidebau staffio rhan-amser lle bynnag y bo modd trwy wella effeithlonrwydd wrth gyflwyno.
- Cadw dysgwyr yw’r her nesaf.
- Bydd cyrraedd y targed yn arwain at gynnydd mewn cyllid yn y blynyddoedd i ddod o dan y model ariannu presennol.
- Cyfanswm y myfyrwyr a recriwtiwyd yw 3225 gydag amcangyfrif o 3032 ar ôl i rai adael.
- Mae gwaith yn cael ei wneud i gynyddu fframweithiau peirianneg er mwyn mwyafu effeithlonrwydd contractau gan fod hwn yn faes blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
Categori
|
Targed neu Gyllideb
|
Myfyrwyr a gafwyd (27/09/23)
|
Rhagolwg £ Hydref 2023
|
Amcangyfrif o’r rhai fydd yn gadael
|
Noder
|
|
|
|
|
|
|
Myfyrwyr AB llawn amser
|
3067
|
3225
|
|
3032
|
Amcangyfrifir bydd 6% yn gadael
|
Cyllid AB Llawn Amser
|
£ 17,496,786
|
|
£17.5 M
|
|
Incwm wedi’i sicrhau - dim adfachu, ond goblygiadau yn y tymor hwy
|
Cyllid AB Rhan-amser
|
£ 3,412,432
|
|
£3.4 M
|
|
Rhywfaint o risg yn gysylltiedig â chyrraedd y targed, ond does dim pryderon hyd yma
|
PLA AB
|
£ 883,222
|
|
£0.9M
|
|
Hyderus i gyrraedd : Ond mae’r gyllideb yn rhagdybio £ 0.75 m ychwanegol
|
Ymgodiadau AB
|
£ 3,672,616
|
|
£3.7M
|
|
Incwm wedi’i sicrhau - ond £ 0.4 m o bontio ; daw i ben yn 23/24
|
|
|
|
|
|
|
Addysg Uwch lawn amser
|
308
|
322
|
£2.72 M
|
303
|
Ychydig o dan y targed
|
Addysg Uwch ran-amser
|
300
|
348
|
£1.25 M
|
327
|
Ychydig dros y gyllideb o ran Rh-A
|
Cyllid Addysg Uwch
|
£ 3,969,600
|
|
£3.97 M
|
|
Ar y trywydd iawn yn gyffredinol
|
|
|
|
|
|
|
DSW - (contract B-WBL)
|
£ 5,231,995
|
|
£5.2M
|
|
Prin o gyflawni’r contract yn 22/23 : pryder yma - caiff ei nodi yn Ail-ragolwg 1.
|
|
|
|
|
|
|
14-19 (Mynediad Ieuenctid ac Ysgolion)
|
£ 480,000
|
911
|
£0.48M
|
|
Hyderus i gyrraedd
|
Holwyd cwestiwn ynglŷn â chael mynediad i ysgolion a rhannu gwybodaeth rhwng ysgolion ac AB, yn enwedig os oes 6ed dosbarth gan yr ysgolion. NODWYD:
- Mae’r Coleg yn gweithio gydag amrywiol ysgolion mewn nifer o ffyrdd gwahanol megis datblygu partneriaethau gyda Phrifathrawon neu Benaethiaid Blwyddyn, gan eu cefnogi a rhannu cyllid.
- Mae’r Coleg yn gweithio gydag ysgolion i wneud ceisiadau ar y cyd am arian. Un enghraifft oedd cais ar y cyd ag Ysgol y Strade yn 2022 i ddatblygu rhaglen gyflogadwyedd a dwyieithog ar gyfer Cynorthwywyr Cymorth Dysgu.
- Caiff pob llwybr ei archwilio.
Holwyd cwestiwn ynglŷn â pha ganran o gyfranogiad ôl 16 y mae CSG yn cyfrif amdani. NODWYD:
- Nododd y cyfarfod fod CSG yn cyfrif am 58% o’r gyfran o fewn Sir Gaerfyrddin.
- Targed cyfredol y Coleg ei hun yw cael 60% o’r gyfran o’r holl rai sy’n gadael ysgol.
- O safbwynt ADY, mae’r Coleg yn gweithio’n agos gyda phob ysgol, gan gynnwys y rheiny sydd â darpariaeth 6ed dosbarth. O dan y diwygiadau newydd, mae’r Coleg wedi gweld cynnydd mewn myfyrwyr sy’n mynychu â gofynion ADY.
Nododd y Bwrdd fod rhywfaint o gydweithio rhagorol o ran dylunio setiau rhwng PCYDDS (AU) a CSG (AB) gyda’r 2il sesiwn yn cael ei chynnal yfory. Mae hwn yn fan cychwyn gwych ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol o fewn y diwydiannau creadigol.
Holwyd cwestiwn ynglŷn â chofrestru darparwyr gan CTER. Oes yna berygl y bydd darparwyr newydd yn cofrestru ac yn rhoi pwysau ar y cyllid. NODWYD:
- Bod hyn yn bosibilrwydd.
- Mae DSW eisoes yn gystadleuol ac mae’r coleg mewn sefyllfa dda ac mae ganddo enw da.
- Roedd cwestiwn a fyddai hyn yn dod trwy gyllid prif ffrwd, ac os yw hyn yn digwydd, sut y byddai’r cyllid yn cael ei ddosbarthu.
- Bydd rhagor o wybodaeth am hyn yn dod yn amlwg gyda mwy o wybodaeth gan CTER.
|
|
|
23/18/2.4
Adroddiad Ystadau
Trosolwg Cyffredinol 22/23 a Diweddariad MIM
|
DERBYNIODD ac YSTYRIODD y Bwrdd yr Adroddiad Ystadau a oedd yn cynnwys trosolwg cyffredinol o 2022-2023 a diweddariad MIM. NODWYD:
- Daeth cadarnhad yn hwyr ym mis Ionawr bod £10m ychwanegol o gyllid Ôl-groniad Cynnal a Chadw ar gael i’r sector AB. Dyraniad Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion oedd £656k.
- Defnyddiwyd yr arian yn llwyddiannus yn unol ag amodau ariannu a doedd dim adfachu. Rhai o’r prif feysydd yr aethpwyd i’r afael â nhw (mae’r gwariant yn cynnwys dyraniad craidd arferol y coleg).
Campws
|
Disgrifiad
|
Gwariant
|
|
|
|
Y Graig
|
Addasu ystafelloedd i ddarparu gofod addysgu
|
£280,000
|
|
|
|
Aberystwyth, Pibwrlwyd
|
Newid neu adnewyddu cyfarpar boeler
|
£200,000
|
|
|
|
Aberystwyth, Aberteifi, y Graig, Pibwrlwyd
|
Atgyweirio neu roi toeau newydd
|
£80,000
|
|
|
|
Y Graig
|
Rhoi llawr newydd i’r gampfa
|
£150,000
|
|
|
|
Rhydaman, y Graig
|
Addurno ardaloedd addysgu
|
£30,000
|
|
|
|
Aberystwyth
|
Adeiladau cytiau cŵn
|
£50,000
|
|
|
|
Y Gelli Aur
|
Cyfleuster golchi cyfarpar personol, allanol
|
£10,000
|
RAAC
- O ran y sefyllfa gyda RAAC, mae pob coleg AB yn gweithio’n agos gyda LlC drwy Golegau Cymru. Mae 23 o adeiladau gan Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion a godwyd yn ystod y llinell amser a “ddrwgdybir” ar gyfer defnyddio RAAC yn gyffredin. Mae contractwr wedi’i benodi i gynnal yr arolwg i benderfynu a yw’r coleg mewn perygl.
Holwyd cwestiwn ynglŷn ag yswiriant o ran RAAC a’r sefyllfa pe byddai’n rhaid rhoi’r gorau i ddefnyddio adeiladau. NODWYD:
- Os bydd problemau a byddai’n rhaid rhoi’r gorau i ddefnyddio adeiladau, yna mae gan y Coleg gynllun parhad busnes i ddelio ag amgylchiadau
- Mae’r cwmni yswiriant yn ymwybodol o’r sefyllfa ond nid yw’n siŵr ar hyn o bryd o’r sefyllfa os bydd RAAC yn bresennol.
Ymsuddiant Aberteifi
- Mae angen un arolwg arall ar yr ymsuddiant ar gampws Aberteifi ac yna gellir cymryd camau i liniaru’r risg. Mae’r cwmni yswiriant yn ymwybodol o’r sefyllfa hon a byddant yn cael y wybodaeth ddiweddaraf pan dderbynnir yr adroddiad terfynol a rhoddir cynllun ar waith i liniaru’r broblem.
Prifysgol Aberystwyth - Gwerthu Tir
- Roedd y tir o amgylch campws Aberystwyth ar werth bellach. Mae’r opsiynau ar gyfer y Coleg fel a ganlyn:
- Dod o hyd i safle arall.
- Parhau ar y safle a chael cysylltiadau cyfleustodau uniongyrchol a delio â’r sefyllfa wrth i ddatblygiad yr ardal o amgylch fynd rhagddo.
- Cadarnhawyd eglurder ynghylch y ffiniau yn Aberystwyth ac mae’r Coleg yn berchen ar y maes parcio gyferbyn ag adeilad y campws.
Model Buddsoddi Cydfuddiannol
- Cytunodd Bwrdd y Coleg a’r Pwyllgor Ystadau ar y Cyd a gynhaliwyd ar 21ain a 29ain Mehefin 2023 yn y drefn honno, y gallai adolygiad ffurfiol Cam 1 MIM gychwyn, gan gydnabod y byddai costau cysylltiedig.
- Mae Achos Amlinellol Strategol (SOC) y Coleg, a oedd yn cadarnhau’r dull dau safle ym Mhibwrlwyd a’r Drindod, wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.
- Yn dilyn hynny, cymeradwywyd y Cais am Brosiect Newydd (NPR) yn ffurfiol gan Gwmni Partneriaeth Addysg Cymru (WEPCo) ar 21ain Awst 2023.
- Mae gweithrediadau Cam 1 wedi dechrau. Mae ymweliadau safle wedi’u cynnal gyda chynrychiolwyr WEPCo ynghyd â thrafodaethau cychwynnol.
- I bob pwrpas, dyma gam dichonoldeb y broses, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Coleg ar sail ymyrraeth 65/35%. Cymerir tua 6 mis i wneud hyn a bydd yn canolbwyntio’n bennaf ar:
- WEPCo yn penodi tîm dylunio amlddisgyblaethol i wneud y gwaith.
- Cynnal adolygiad Cam 2 RIBA (Dylunio Cysyniad).
- Cyflwyniad Cam 1 WEPCo gyda chymeradwyaeth y Coleg.
- Y Coleg yn cwblhau’r Achos Busnes Amlinellol (OBC) a’i gyflwyno i’w gymeradwyo.
- Grŵp Craffu Achosion Addysg a Phanel Buddsoddi mewn Addysg Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol.
- Y Gweinidog Addysg yn cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol.
- Cymeradwyo Cam 1 yn gyffredinol.
Symud ymlaen:
- Newid allweddol yn y Strategaeth
- Oherwydd y dirwedd ariannol waethygol a pharhaus yn wir y mae’r coleg a’r Brifysgol yn ei hwynebu, cytunwyd ar y cyd y dylid bellach newid yr adeiladu arfaethedig ar gampws Ffynnon Job o safle PCYDDS i safle Pibwrlwyd h.y. i gyd ar un safle.
- Mae’r dull hwn yn rhoi’r model ariannol mwyaf effeithlon i’r coleg sef:
- Mae’n anochel y bydd cost yr adeiladu yn llai gan arwain at ostyngiad yn y tâl blynyddol - gallai gostyngiad mewn costau arolygon yn unig ddod i gyfanswm o £200k.
- Mae isadeiledd ystâd y coleg i bob pwrpas yn lleihau o 2 gampws yn hytrach nag 1 sy’n caniatáu ar gyfer llawer mwy o arbedion o ran costau rhedeg gweithredol.
- Mae WEPCo ar hyn o bryd yn gweithio ar gyfrifiad diwygiedig.
- Mae gan y Prif Swyddog Gweithredu gyfarfod ar 10fed Hydref i drafod newid posibl i’r SOC.
Holwyd cwestiwn ynglŷn â sut byddai’r newid hwn yn y strategaeth yn effeithio ar y cyfleusterau a’r hyn y byddai’r Coleg yn ei ildio. NODWYD:
- Ni fyddai’r newid yn effeithio ar y cynllun strategol a’r datblygiad.
- Ni fydd y newid yn arwain at ildio unrhyw beth.
- Gellir cyflawni’r targedau trwy adeiladu ar un safle.
Holwyd cwestiwn ynghylch pa mor hyderus yw’r Coleg na fydd LlC yn stopio prosiectau MIM oherwydd y sefyllfa economaidd. NODWYD:
- Dyrannwyd £600m i WEPCo.
- Bydd y newid yn ein prosiect yn helpu i leihau costau gyda newid yn y briff ac arbedion posibl o ran Ffynnon Job.
- Mae’r Coleg yn hyderus y bydd prosiectau MIM yn parhau.
CYMERADWYODD y Bwrdd fynd ati i fabwysiadu’r dull diwygiedig at MIM yn seiliedig ar brosiect un safle ym Mhibwrlwyd.
|
Cam Gweithredu: Y Clerc i anfon yr argymhelliad i newid strategaeth MIM i Bwyllgor Ystadau PCYDDS a Chyngor PCYDDS i’w gymeradwyo gan yr Aelodau.
|
|
23/18/2.5
Adolygu Cymwysterau - Adroddiad Llawn
|
DERBYNIODD a THRAFODODD y Bwrdd yr adolygiad o gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru. NODWYD:
- Mae’r adroddiad yn cynnwys 33 o argymhellion sy’n dod o dan 2 bortffolio gweinidogol, sef addysg a’r economi.
- Mae’r adroddiad yn rhychwantu nifer fawr o feysydd a sefydliadau gan gynnwys AU, AB, Dosbarthiadau’r 6ed, DSW, Gyrfa Cymru, Colegau Cymru, Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Estyn.
- Nid oedd yn glir pwy fydd yn gyfrifol am ddatblygu’r strategaeth hon. Tybir mai Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud hyn mewn rhyw ffurf. Mae cryn amser eto cyn y bydd CTER yn gallu goruchwylio’r strategaeth hon a chymryd perchnogaeth.
- Tynnwyd sylw at rai o’r argymhellion a restrwyd fel rhai pwysig:
- Dim strategaeth genedlaethol ar gyfer cymwysterau galwedigaethol.
- Gofynion diwydiant yn y dyfodol.
- Data cyrchfannau, a yw’r rhaglenni galwedigaethol yn arwain at y swyddi angenrheidiol?
- Byddai lleoliadau gwaith ar gyfer pob dysgwr lefel 3 yn brosiect mawr i ymgymryd ag ef a byddai’r adnoddau a fyddai eu hangen yn sylweddol.
- Deuoliaeth parch a deall cymwysterau galwedigaethol a’r effaith ar yr economi.
- Roedd arweiniad annibynnol ar gyfer pobl ifanc 14-16 oed yn ffactor allweddol wrth ddewis cymwysterau galwedigaethol fel llwybr gyrfa pwysig a phroffidiol.
- Mae’r Gymraeg yn her bwysig.
- Datblygu DSW hyd at lefel 6.
- Nid oedd yn ymddangos bod cyfathrebu â dysgwyr i’w weld yn yr adroddiad ac nid oedd yr amgyffrediad o gymwysterau galwedigaethol yn cael sylw mewn gwirionedd.
- Bydd baromedr sgiliau ar gael cyn bo hir i dynnu sylw at fylchau sgiliau yn y rhanbarth a matsio ag anghenion cyflogwyr. Caiff hyn ei arwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin a gobeithio bydd yn nodi lle gall y Coleg gymryd rhan i lenwi’r bwlch sgiliau.
- Datganodd y Pennaeth ddiddordeb mewn sgiliau a thalent gyda’i swydd newydd fel Uwch Swyddog Adrodd (SRO) ar brosiect sgiliau a thalent o fewn Bargen Ddinesig Bae Abertawe.
|
|
|
23/18/2.6
Adroddiad y Pennaeth
|
DERBYNIODD y Bwrdd adroddiad y Pennaeth.
Adolygiad Addysg Ôl-16 (Ceredigion):
- Adolygiad dan arweiniad Awdurdod Addysg Lleol.
- Adroddiad sy’n canolbwyntio ar ysgolion nad yw’n cynnwys cyfeirio at Golegau AB.
- Mae un pennaeth a restrir yn tynnu sylw at gynnal a gwella safonau uchel yn gyffredinol mewn ysgolion, ond nid oes sôn am golegau AB ar gyfer sgiliau galwedigaethol neu DSW.
- Mae’r adroddiad yn rhestru 4 opsiwn yng nghyd-destun yr egwyddorion a nodwyd, gan restru manteision ac anfanteision pob un:
- Cynnal y sefyllfa bresennol, datblygu’r sefyllfa bresennol, darpariaeth mewn rhai ysgolion ac un ganolfan.
- Mae’r adroddiad hwn wedi mynd at grŵp craffu’r AALl ac mae ar gael i’r cyhoedd.
- Bydd yn ddiddorol gweld beth sy’n datblygu yma.
Y Cronfeydd Ffyniant Cyffredin (Sir Gaerfyrddin):
Mae’r Coleg wedi derbyn prosiectau gwerth cyfanswm o £8,730,954.
Rydym wrth ein bodd â’r canlyniad hwn.
- Mae’r Ganolfan Rhagoriaeth ar gyfer Technolegau Gwyrdd yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn llwyddiannus. Roedd gormod o lawer wedi gwneud cais, ac yn dilyn proses asesu fanwl, cynnig y grant SPF yw £539,149.
- Cais ‘Sgiliau 24’ y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer grant SPF o £2,890,244.
- Mae cais ‘Lluosi 24’ y Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi bod yn llwyddiannus. Roedd gormod wedi gwneud cais, ac yn dilyn proses asesu fanwl, cynnig y grant SPF oedd £5,301,560.
Cronfeydd Ffyniant Cyffredin (Ceredigion)
- Ailadroddodd y Coleg y cynigion a amlinellwyd uchod ar gyfer lluosi ond nid oedd yn llwyddiannus.
Roedd penodiadau a strwythur y Coleg yn fanwl.
Addysgu a Dysgu:
Cynhaliwyd Gŵyl Ymarfer lwyddiannus arall ym mis Gorffennaf 2023.
- 2 ddiwrnod - 1 diwrnod ar-lein ac 1 diwrnod Wyneb yn Wyneb
- 241 aelod staff wedi cadarnhau eu bod yn bresennol
- 98 gweithdy unigol ar gael
- 4 sesiwn lansio dan arweiniad tîm Adran Weithredol y Coleg
- 4 Siaradwr Gwadd Allanol o AoC Research Further
- 4 Coleg yn rhannu gwaith ymarferwyr fel rhan o Brosiect Cydweithredol Cronfa Dysgu Proffesiynol LlC (Coleg Sir Gâr/Ceredigion, Penybont, Coleg Sir Benfro a Choleg Gwent)
- 4 gweithdy ‘Hanesion Taith’ yn rhannu gwaith ymchwil o ymweliadau rhyngwladol gan gynnwys y Ffindir, Fienna, yr Eidal, Fietnam a Barcelona.
- Roedd y ffair gysylltiedig yn cynnwys Arddangosfa Llyfrau Academaidd i archebu copïau prawf, Cyfnewid Llyfrau, Cyfnewid Planhigion a cherddoriaeth fyw gan fyfyrwyr.
Rhestrwyd canlyniadau Safon Uwch a Lefel UG gan ddangos canlyniadau rhagorol.
|
|
3
|
Materion i’w Cymeradwyo*
|
|
|
|
23/19/3.1
Cadeirydd Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg.
|
Diolchodd y Cadeirydd i Jacqui Kedward am ddod yn Gadeirydd cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg ar 14eg Medi 2023.
CYMERADWYODD y Bwrdd yr argymhelliad gan y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu y dylai Jacqui Kedward gymryd swydd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg.
|
|
4
|
Materion er Gwybodaeth**
|
|
|
|
23/20/4.1
Cwynion, Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth, Ceisiadau Gwrthrych am Wybodaeth
|
DERBYNIODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr adroddiad blynyddol yn rhoi manylion gwerth 3 blynedd o ddata ar Gwynion, Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a Cheisiadau Gwrthrych am Wybodaeth
NODWYD bod un achos wedi cynhyrchu 5 SAR sydd yn cymryd llawer o amser ac yn dreth ar adnoddau. Holwyd cwestiwn yn gofyn a oedd gan y coleg bolisi cwynion blinderus. Ymchwilir i hyn.
|
Cam Gweithredu: Is-bennaeth Cynllunio, Dysgwyr a Chyfathrebu i ystyried polisi cwynion blinderus y Coleg.
Cam Gweithredu: Jacqui Kedward i anfon ymlaen enghraifft o bolisi cwynion blinderus.
|
|
23/20/4.2
Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg a gynhaliwyd ar 14 Medi 2023
|
DERBYNIODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg a gynhaliwyd ar 14eg Medi 2023.
|
|
|
23/20/4.3
Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethiant a gynhaliwyd 21 Medi 2023
|
DERBYNIODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethiant a gynhaliwyd ar 21ain Medi 2023.
NODWYD bod y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethiant yn gweithio ar ddod o hyd i Gadeirydd newydd ar gyfer y Bwrdd ac y byddai ymgyrch recriwtio ar gyfer Llywodraethwyr yn dechrau.
|
|
|
23/20/4.4
Detholiad o gofnodion cyfarfod Pwyllgor Craffu Grŵp PCYDDS 16 Mehefin 2023
|
DERBYNIODD a NODODD y Bwrdd y detholiad o gofnodion cyfarfod Pwyllgor Craffu Grŵp PCYDDS a gynhaliwyd ar 16eg Mehefin 2023.
|
|
|
23/20/4.5
Cystadleuwyr Rownd Derfynol UK Skills
|
NODODD y Bwrdd y bydd rowndiau terfynol adeiladu yn cael eu cynnal ym Manceinion a Milton Keynes lle bydd y Coleg yn cystadlu. Cynhelir y rhain dros gyfnod o bythefnos yn cychwyn ar 13eg Tachwedd 2023. Mae’r ddau goleg wedi uno eleni felly bydd yr holl fedalau’n cael eu cyfrif fel un sefydliad.
|
|
|
23/204.6
Adroddiad Pwyllgor Blynyddol y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethiant
|
DERBYNIODD a NODODD y Bwrdd Adroddiad Pwyllgor Blynyddol y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethiant.
|
|
|
23/20/4.7
Mynychwyr Pwyllgor Sefydlog PCYDDS
|
DERBYNIODD a NODODD y Bwrdd Fynychwyr Pwyllgor Sefydlog PCYDDS.
|
|
|
23/20/4.8
Adolygiad o Effeithiolrwydd Llywodraethiant
|
DERBYNIODD a NODODD y Bwrdd gynllun gweithredu’r Adolygiad o Effeithiolrwydd Llywodraethiant a luniwyd yn dilyn trafodaethau 1:1 Llywodraethwyr gyda’r Cadeirydd.
|
|
|
23/20/4.9
Calendr Digwyddiadau
|
DERBYNIODD a NODODD y Bwrdd y calendr digwyddiadau ar gyfer 2023/2024. Gall llywodraethwyr gael mynediad i hwn a dangos eu bwriad i fod yn bresennol mewn digwyddiadau penodol.
|
|
5
|
Unrhyw Fater Arall
|
|
|
|
23/21/5.1
|
Gofynnwyd i’r Llywodraethwyr a’r Swyddogion lenwi’r ffurflenni canlynol os oeddent yn berthnasol a heb wneud hynny’n barod:
- Ffurflen Datganiadau o fuddiant.
- Ffurflen Cod Ymddygiad
- Ffurflen monitro Cydraddoldeb ac amrywiaeth llywodraethwyr
- Holiadur sgiliau a phrofiad llywodraethwyr
NODODD y Bwrdd fod safle Llywodraethiant Google y Llywodraethwyr wedi mynd yn fyw yn gynharach heddiw a byddai gwybodaeth ynghylch mynediad i hwn yn cael ei dosbarthu.
Gofynnwyd i’r Llywodraethwyr ymgymryd â rhai o’r rhaglenni hyfforddiant a rhoi adborth i’r Clerc ynglŷn â’r rhain.
Rhoddwyd gwybod i’r Bwrdd, oherwydd ymddiswyddiadau diweddar o’r Bwrdd, bod swydd wag ar gyfer llywodraethwr cyswllt ADY. Nodwyd bod sylw’n cael ei roi i’r mater hwn.
NODODD y Bwrdd fod y ddau gynrychiolydd dysgwyr ar gyfer y Pwyllgor Dysgwyr a Safonau a’r Pwyllgor Adnoddau, Gwytnwch a Phartneriaethau heb eu penodi o hyd. Mynegwyd bod angen cael cadarnhad o’r cynrychiolwyr dysgwyr hyn ar frys.
|
Cam Gweithredu: Y clerc i ddosbarthu gwybodaeth am fynediad i safle llywodraethiant Google y Llywodraethwyr.
|
6
|
Datganiadau o Fuddiant
|
|
|
|
23/22/6.1
I gadarnhau unrhyw wrthdaro buddiannau a all fod wedi codi yn ystod y cyfarfod.
|
Ni dderbyniwyd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant pellach yn ystod y cyfarfod.
|
|
7
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf
|
|
|
|
23/23/7.1
Dyddiad y cyfarfod nesaf
|
Dydd Iau 7fed Rhagfyr 2023 yn Ystafell Gynadledda Campws y Graig yn dechrau am 16:00.
|
|