Cofnodion Cyfarfod Bwrdd Coleg Ceredigion a gynhaliwyd - 7fed Mawrth 2024
Introduction
Yn bresennol:
-
Mr John Edge (Cadeirydd)
-
Mr Eifion Griffiths (Enwebai PCYDDS)
-
Dr Andrew Cornish (Pennaeth)
Yn gwasanaethu:
-
Mr Damion Gee (Ysgrifennydd y Cwmni a Chlerc i’r Bwrdd)
-
Mr Martin Davies (Cyfieithydd)
Cadarnhaodd y Clerc fod cworwm yn y cyfarfod. Cychwynnodd cyfarfod y Bwrdd am 15:34.
Eitem agenda |
Prif bwyntiau trafod |
|
1 |
Llywodraethu’r Cyfarfod |
|
24/01/1.1 Ymddiheuriadau am absenoldeb a datganiadau o fuddiannau |
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mr John Williams (Staff CC). Ni dderbyniwyd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant pellach yn ychwanegol at y rheiny oedd eisoes gan Glerc y Bwrdd. |
|
24/01/1.2 Cymeradwyo cofnodion ANGHYFYNGEDIG y cyfarfod diwethaf: 7 Rhagfyr 2023 |
CADARNHAODD y Bwrdd gofnodion ANGHYFYNGEDIG cyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ddydd Iau 7fed Rhagfyr 2023 fel cofnod cywir. |
|
24/01/1.3 Materion sy’n codi a phwyntiau gweithredu nas cwmpaswyd mewn mannau eraill ar yr agenda |
Doedd dim unrhyw faterion yn codi. |
|
2 |
Materion i Drafod a / neu Gymeradwyo |
|
24/02/2.1 Materion ar agenda Bwrdd Coleg Sir Gâr ar 7fed Mawrth 2024 sy’n ymwneud â Choleg Ceredigion (Llafar) |
||
24/02/2.2 Materion eraill yn ymwneud â Choleg Ceredigion |
NODODD y Bwrdd fod y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol wedi ymweld â’r Coleg a oedd yn cynnwys trafodaeth ar sefyllfa’r Coleg o fewn Ceredigion mewn perthynas â’r fargen Tyfu Canolbarth Cymru. Tynnwyd sylw at gyfleusterau’r Coleg ac roedd yn gyfarfod cadarnhaol iawn. Ymddengys bod Tyfu Canolbarth Cymru yn canolbwyntio ar ddau opsiwn, cyfuno rhai dosbarthiadau’r chweched mewn ysgolion ac opsiwn arall sy’n cynnwys y Coleg. Disgwylir gohebiaeth bellach ynglŷn â hyn ond mae cynnydd da yn cael ei wneud. Mae prosiectau SPF yn datblygu gyda rhai prosiectau Lluosi yn cael eu cyflawni. |
|
24/02/2.3 Ymsuddiant ym Maes Parcio Campws Aberteifi (Diweddariad)
|
DERBYNIODD y Bwrdd ddiweddariad am yr ymsuddiant ar Gampws Aberteifi. NODWYD:
|
|
3 |
Materion i’w Cymeradwyo* |
|
24/03/3.1 |
Doedd dim materion i’w cymeradwyo. |
|
4 |
Materion er Gwybodaeth** |
|
24/04/4.1 |
Doedd dim materion er gwybodaeth |
|
5 |
Unrhyw Fater Arall |
|
24/05/5.1 |
Is-Ganghellor Newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. NODODD y Pwyllgor fod Is-ganghellor newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Gwerthu Tir ym Mhrifysgol Aberystwyth NODODD y Pwyllgor fod y tir sy’n eiddo i Brifysgol Aberystwyth o amgylch safle Coleg Ceredigion yn Aberystwyth ar werth o hyd. |
|
6 |
Datganiadau o Fuddiant |
|
24/06/6.1 I gadarnhau unrhyw wrthdaro buddiannau a all fod wedi codi yn ystod y cyfarfod |
||
7 |
Dyddiad y cyfarfod nesaf |
|
24/07/7.1 Dyddiad y cyfarfod nesaf |
Dydd Iau 27 Mehefin 2024 yn Y Man a’r Lle, Aberteifi, 3.30pm |
Daeth y cyfarfod i ben am 15:43.