Cofnodion Cyfarfod Bwrdd Coleg Ceredigion a gynhaliwyd - 5ed Hydref 2023
Introduction
Cofnodion Cyfarfod Bwrdd Coleg Ceredigion a gynhaliwyd am 3:30pm ddydd Iau 5ed Hydref 2023, yn yr Ystafell Gynadledda, Campws y Graig
Yn bresennol:
-
Mrs Maria Stedman (Cadeirydd)
-
Mr John Edge (Is-gadeirydd)
-
Mr Eifion Griffiths (Enwebai PCYDDS)
-
Mr John Williams (Staff CC)
-
Dr Andrew Cornish (Pennaeth)
Yn gwasanaethu:
-
Mr Damion Gee (Ysgrifennydd y Cwmni a Chlerc i’r Bwrdd)
-
Mr Martin Davies (Cyfieithydd)
Gwesteion:
- Yr Athro Elwen Evans KC (Is-Ganghellor, PCYDDS)
Cadarnhaodd y Clerc fod cworwm yn y cyfarfod. Cychwynnodd cyfarfod y Bwrdd am 15:34
Eitem agenda |
Prif bwyntiau trafod |
|
1 |
Llywodraethu’r Cyfarfod |
|
23/15/1.1 Ymddiheuriadau am absenoldeb a datganiadau o fuddiannau |
Ni dderbyniwyd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant. |
|
23/15/1.2 Cymeradwyo cofnodion ANGHYFYNGEDIG y cyfarfod diwethaf: 29ain Mehefin 2023 |
CADARNHAODD y Bwrdd gofnodion ANGHYFYNGEDIG y cyfarfod a gynhaliwyd ar Ddydd Iau 29ain Mehefin 2023 fel cofnod cywir. |
|
23/15/1.3 Materion sy’n codi a phwyntiau gweithredu nas cwmpaswyd mewn mannau eraill ar yr agenda |
Doedd dim materion yn codi o’r cofnodion nas cwmpaswyd mewn mannau eraill ar yr agenda. |
|
2 |
Materion i Drafod a / neu Gymeradwyo |
|
23/16/2.1 Materion ar agenda Bwrdd Coleg Sir Gâr ar 5ed Hydref 2023 sy’n ymwneud â Choleg Ceredigion (Llafar) |
Nododd y Pwyllgor fod yr eitemau canlynol ar yr agenda ar gyfer cyfarfod Bwrdd CSG a oedd yn ymwneud â Choleg Ceredigion, sef:
|
|
23/16/2.2 Materion eraill yn ymwneud â Choleg Ceredigion |
Roedd y Pennaeth wedi mynychu cyfarfod Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol a nodwyd a ganlyn:
Roedd y Pennaeth wedi mynychu Cyfarfod Tyfu Canolbarth Cymru a nodwyd a ganlyn:
Nododd y Pwyllgor y byddai’r Pennaeth yn cwrdd ag Elen James, y Cyfarwyddwr Addysg ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion i drafod alinio’r cwricwlwm. Bu’r Pwyllgor yn trafod gwerthu’r tir o amgylch campws Aberystwyth a nodwyd a ganlyn:
Trafodwyd parcio ceir ar gampws Aberteifi, a nodwyd a ganlyn:
Roedd y Pwyllgor yn hapus iawn bod Sam Everton, sydd newydd gael ei enwi’n Ben-cogydd Ifanc y Flwyddyn, yn gweithio allan o gampws Aberteifi a byddai’n teithio i gystadlu ym Monaco ym mis Tachwedd, ble bydd yn cynrychioli ei hun a’r Coleg. |
|
3 |
Materion i’w Cymeradwyo* |
|
23/17/3.1 |
Doedd dim materion i’w cymeradwyo. |
|
4 |
Materion er Gwybodaeth** |
|
23/18/4.1 |
Doedd dim materion er gwybodaeth |
|
5 |
Unrhyw Fater Arall |
|
23/19/5.1 |
Doedd dim unrhyw fater arall. |
|
6 |
Datganiadau o Fuddiant |
|
23/20/6.1 I gadarnhau unrhyw wrthdaro buddiannau a all fod wedi codi yn ystod y cyfarfod |
Ni dderbyniwyd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant pellach yn ystod y cyfarfod. |
|
7 |
Dyddiad y cyfarfod nesaf |
|
23/21/7.1 Dyddiad y cyfarfod nesaf |
Dydd Iau 7fed Rhagfyr 2023 yn Ystafell Gynadledda Campws y Graig yn dechrau am 15:30. |
Daeth y cyfarfod i ben am 15:54