Skip page header and navigation

Introduction

Yn bresennol:
  • Mr John Edge (Cadeirydd)

  • Abigail Salini (Is-gadeirydd)

  • Mr Eifion Griffiths (Enwebai PCYDDS)

  • Dr Andrew Cornish (Pennaeth)

  • Mr John Williams (Staff CC)

Yn gwasanaethu:
  • Mr Damion Gee (Ysgrifennydd y Cwmni a Chlerc i’r Bwrdd)

  • Mr Martin Davies (Cyfieithydd)

Cadarnhaodd y Clerc fod cworwm yn y cyfarfod. Cychwynnodd cyfarfod y Bwrdd am 14:39.

 

Eitem agenda 

Prif bwyntiau trafod

Cam gweithredu/penderfyniad

1

Llywodraethu’r Cyfarfod

   
 

24/08/1.1

Ymddiheuriadau am absenoldeb a datganiadau o fuddiannau

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Ni dderbyniwyd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant pellach heblaw am y rheiny oedd eisoes gan Glerc y Bwrdd.

 
 

24/08/1.2

Cymeradwyo cofnodion ANGHYFYNGEDIG y cyfarfod diwethaf:  7 Mawrth 2024

CADARNHAODD y Bwrdd gofnodion ANGHYFYNGEDIG cyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ddydd Iau 7fed Mawrth 2024 fel cofnod cywir.

 
 

24/08/1.3

Materion sy’n codi a phwyntiau gweithredu nas cwmpaswyd mewn mannau eraill ar yr agenda.

Doedd dim unrhyw faterion yn codi.

 

2

Materion i Drafod a/neu Gymeradwyo

   
 

24/09/2.1

Materion ar agenda Bwrdd Coleg Sir Gâr ar 27ain Mehefin 2024 sy’n ymwneud â Choleg Ceredigion (Llafar).

   
 

24/09/2.2

Materion eraill yn ymwneud â Choleg Ceredigion

DERBYNIODD y Bwrdd ddiweddariad am yr ymsuddiant ar Gampws Aberteifi.  NODWYD:

  • Derbyniwyd adroddiad terfynol ar yr ymsuddiant ar Gampws Aberteifi, ac mae’r  Prif Swyddog Gweithredu (COO) mewn trafodaethau gyda’r cwmni yswiriant am sut gall y coleg symud ymlaen gyda’r gwaith adferol.
  • Bydd gwaith adferol yn mynd i dendr.

DERBYNIODD y Bwrdd ddiweddariad ynghylch Menter Tyfu Canolbarth Cymru.  NODWYD:

  • Mae’r Rheolwr Prosiect ar gyfer y Bwrdd Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol (RSLP) wedi ymweld â Choleg Ceredigion, gan ganolbwyntio ar ysbrydoli sgiliau, trosolwg campws a chyffredinol, a derbyniwyd adborth da.

DERBYNIODD y Bwrdd ddiweddariad ar yr adolygiad o addysg Ôl-16 yng Ngheredigion.  NODWYD:

  • Mae arweinydd prosiect newydd, John Hayes, sydd wedi cwrdd â’r coleg, yn ei le.
  • Tynnwyd sylw at bedwar opsiwn yn yr adroddiad cychwynnol ond maen nhw bellach wedi cael eu cwtogi i ddau.  Un yw ffurfio 6ed dosbarth uwch yng Ngheredigion. Y llall yw i Goleg Ceredigion, Hyfforddiant Ceredigion, a 6ed dosbarthiadau yng Ngheredigion ddod at ei gilydd fel un endid ar un neu ddau safle gan rannu darpariaethau ôl-16.
  • Nid yw addysg uwch wedi’i chynnwys yn yr adolygiad, a oedd yn peri syndod i’r coleg.

DERBYNIODD y Bwrdd ddiweddariad ar wobrau y Gorau o’r Goreuon.  NODWYD:

  • Rhannodd y Coleg y gwobrau rhwng Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion am y tro cyntaf, gyda gwobrau Coleg Ceredigion yn cael eu cynnal yng Ngwesty’r Cliff.  Roedd yr adborth a gafwyd o’r gwobrau yn ardderchog, a gwnaed argraff dda iawn ar y myfyrwyr, staff ac aelodau’r bwrdd a’u mynychodd.
  • Mae Coleg Ceredigion yn arwain y ffordd gydag ysbrydoli a world skills, a CHYTUNWYD i’r Cadeirydd ysgrifennu at benaethiaid Aberystwyth ac Aberteifi i’w cefnogi a’u llongyfarch am eu hymdrechion.
  • Gyda llwyddiant y gwobrau eleni, gobeithiwyd cael yr Awdurdod Addysg Lleol (LEA) i chwarae mwy o ran a mynychu gwobrau y Gorau o’r Goreuon yn 2025.

DERBYNIODD y Bwrdd ddiweddariad ar werthiant tir o amgylch campws Aberystwyth.  NODWYD:

  • Nid oedd unrhyw wybodaeth yn hysbys ynghylch darpar brynwyr ar hyn o bryd.
  • Roedd yr LEA wedi bod ar y safle yn ymchwilio’r tir.

Cam Gweithredu: Y Cadeirydd i ysgrifennu at benaethiaid Aberystwyth ac Aberteifi i’w llongyfarch a chefnogi eu hymdrechion gydag ysbrydoli, sgiliau safon fyd-eang.

3

Materion i’w Cymeradwyo*

   
 

24/10/3.1

Doedd dim materion i’w cymeradwyo.

 

4

Materion er Gwybodaeth**

   
 

24/11/4.1

Doedd dim materion er gwybodaeth

 

5

Unrhyw Fater Arall

   
 

24/12/5.1

Doedd dim unrhyw fater arall.

 

6

Datganiadau o Fuddiant

   
 

24/13/6.1

I gadarnhau unrhyw wrthdaro buddiannau a all fod wedi codi yn ystod y cyfarfod

Ni dderbyniwyd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant pellach yn ystod y cyfarfod.

 

7

Dyddiad y cyfarfod nesaf

   
 

24/14/7.1

Dyddiad y cyfarfod nesaf 

Dydd Iau 17eg Hydref 2024 yn Ystafell Gynadledda Campws y Graig yn dechrau am 15:30.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 14:56.

Meeting terminated at 14:56.