Skip page header and navigation

Cludiant Myfyrwyr - Coleg Ceredigion

  • O fis Medi 2024 dim ond dysgwyr 16 i 18 oed fydd yn gymwys ar gyfer cludiant myfyrwyr
  • Cynigir cludiant am ddim ar hyd prif lwybrau i fyfyrwyr sydd ar gyrsiau 16 awr neu fwy yr wythnos.  Mae’r prif lwybrau ar gael yn y wybodaeth am amserlenni bysiau
  • Os ydych yn byw tu allan i Geredigion neu Sir Gaerfyrddin mae’n bosib gofynnir am gyfraniad o £100 tuag at gost y tocyn bws
  • Rhaid i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy’n dychwelyd gwneud cais am gludiant bob blwyddyn
  • Rhaid gwneud cais am docyn bws trwy eich cyfrif coleg fel rhan o’r proses cofrestri ar lein https://gwneudcais.ceredigion.ac.uk/
  • Os na chysylltwyd â chi ynglŷn â chofrestru, e-bostiwch derbyniadau@ceredigion.ac.uk i wirio statws eich cais am gwrs os gwelwch yn dda
  • Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e bostiwch derbyniadau@ceredigion.ac.uk os gwelwch yn dda
Pryd allaf ddefnyddio’r tocyn bws?
  • Gellir defnyddio’r tocyn bws ar y gwasanaeth a ddangosir ar y tocyn yn unig.  Gellir defnyddio’r tocynnau hyd 9.00yb a rhwng 4.00yh - 6.00yh.
Beth os nad wyf yn byw yn agos at fan codi?
  • Os ydych yn byw yng Ngheredigion ond mwy na 1.5 milltir o’r man codi agosaf, efallai y byddwch yn gymwys i hawlio costau teithio yn ôl gan yr Awdurdod Lleol. Byddwch yn cael cyfle i wneud cais am hwn ar yr un pryd â’ch tocyn bws.

Gall dysgwyr â chyflyrau meddygol, anableddau neu anawsterau dysgu fod yn gymwys i gael darpariaeth tacsi neu fws, yn amodol ar dystiolaeth ategol berthnasol. Ystyrir y ceisiadau hyn yn unigol.

Y cyswllt ar gyfer yr Awdurdod Lleol i drafod y pwyntiau uchod yw:

UCTG

Cyngor Sir Ceredigion

Canolfan Rheidol

Rhodfa Padarn

Llanbadarn Fawr

Aberystwyth

Ceredigion SY23 3UE

Ffon: 01545 570881

clic@ceredigion.gov.uk

Mae’r Prif Lwybrau a’r amserlenni yn y linciau isod.

Nodwch os gwelwch yn dda – Mae amserau teithio ar fysiau gwasanaeth yn gallu newid ar fyr rybudd. Mae hyn y tu hwnt i reolaeth Coleg Ceredigion.