Campws y Gelli Aur
Introduction
Mae’r campws yn gyfleuster a godwyd yn benodol i’r pwrpas, a dyma hefyd gartref fferm y coleg sy’n ymestyn dros 211 hectar o dir. Prif ffocws y campws, a leolir yng nghanol ffrwythlondeb Dyffryn Tywi, dair milltir o Landeilo a 14 milltir o Gaerfyrddin, yw paratoi’r myfyrwyr ar gyfer ystod o astudiaethau ar dir a galwedigaethau peirianneg amaethyddol yng nghefn gwlad.
Lleolir y bloc addysgu drws nesaf i’r fferm mewn llecyn braf a dymunol, ac mae’r adnoddau’n cynnwys y dechnoleg TG a’r labordai gwyddoniaeth diweddaraf, a llyfrgell/canolfan ddysgu â’r holl gyfarpar angenrheidiol. Ceir yno dros 500 o wartheg, sy’n golygu bod modd gwerthuso dwy strategaeth rheoli buches ar wahân.
Ceir menter eidion fach hefyd, a phraidd o 100 o famogion bridio. Hefyd, mae’r Gelli Aur yn gartref i’r Ganolfan Ymchwil Amaethyddol, sy’n anelu at hwyluso datblygiad y diwydiant amaethyddol yng Nghymru trwy drosglwyddiad rhagweithiol technoleg, a thrwy ddarparu cyngor arbenigol.
Mae’r cyfuniad o addysgu ardderchog, ffermio masnachol a throsglwyddo technoleg wedi arwain at gydnabod y Gelli Aur fel Canolfan Ragoriaeth ar gyfer astudiaethau ar dir yng Nghymru. Golyga hyn hefyd bod y Gelli Aur yn gampws clòs a chyfeillgar iawn sy’n cynnig y gorau yn unig i’w fyfyrwyr ac i’r diwydiant amaeth yn gyffredinol.
Cyfeiriad Campws
Fferm Gelli Aur
Caerfyrddin
Sir Gâr
SA32 8NJ
01554 748000