Campws Aberteifi
Introduction
Campws Aberteifi Coleg Ceredigion yw prif leoliad y Gyfadran Sgiliau a Thechnoleg ac mae wedi’i leoli ger canol y dref gyda mynediad hawdd i’r holl gyfleusterau lleol. Mae gan yr holl ystafelloedd addysgu a TG sgriniau rhyngweithiol CTouch mawr yn ogystal ag ystod o gyfleusterau addysgu gydag adnoddau o safon diwydiant.
Mae yna Ardal Ymlacio fodern lle gall dysgwyr gymdeithasu, ymlacio neu ailfywiogi rhwng gwersi yn ogystal ag Y Cantîn, sy’n gweini brecwast a chinio. Hefyd, mae gan y campws Ganolfan Adnoddau Dysgu a Llyfrgell sydd wedi’i staffio’n llawn yn ogystal ag ardaloedd arbenigol i gefnogi addysg a hyfforddiant mewn nifer o Feysydd Cwricwlwm. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Gweithdai Gwaith Saer ac Asiedydd, Bricwaith ac amlsgiliau a adeiladwyd yn bwrpasol, sydd wedi eu cyfarparu’n llawn ag offer o safon diwydiant ar gyfer Sgiliau Adeiladu.
- Gweithdai Dylunio ac Adfer Dodrefn a Gweithdy Cerbydau Modur a adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer Sgiliau Gweithgynhyrchu a Sgiliau Peirianneg Fodurol
- Labordy cyfrifiaduron, Stiwdios Cyfrifiadura ac Animeiddio wedi eu cyfarparu’n llawn ar gyfer TG
- Bwyty hyfforddi Maes y Parc ar gyfer Lletygarwch ac Arlwyo sy’n agored i staff, myfyrwyr a’r gymuned leol
- Salon Academi Steil ar gyfer Gwallt a Harddwch sy’n agored i staff, myfyrwyr a’r gymuned leol
Mae’r campws yn hyrwyddo amgylchedd cefnogol a gofalgar gyda staff arbenigol wrth law i gynnig cyngor, cyfarwyddyd a chymorth. Mae profiad y dysgwr yn flaenllaw yn ein cymuned ddysgu. Dewch draw i ymweld â’n campws a chewch groeso cynnes ar unrhyw adeg.
Dod o hyd i gwrs ar Gampws Aberteifi
Cyfeiriad Campws
Plas y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032