Skip page header and navigation

Rhagarweiniad

Mae’r flwyddyn 2022/23 wedi gweld cyfnod o newid sylweddol i’r Coleg. Mae Adroddiad Cydraddoldeb y Gweithlu yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar amrywiaeth ein gweithlu a sut rydym yn ymgysylltu â nhw i sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed.

Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn gymunedau bywiog o bobl o bob oed a chefndir ac rydym yn ymdrechu’n barhaus i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i bob unigolyn, boed yn ddysgwyr neu’n staff. Mae ein gwerthoedd o barch, undod a phroffesiynoldeb yn sylfaen i bopeth a wnawn, gydag ymrwymiad cryf i wireddu ein gwerthoedd ym mhob agwedd ar fywyd y Coleg.

Rydym wedi amlygu meysydd allweddol i’w gwella ac wedi gwneud addewid clir i ddatblygu dulliau i oresgyn yr heriau hyn. Tra ein bod yn cydnabod bod ffyrdd o wella’n barhaus a chyfoethogi ein sefyllfa fel Coleg i bawb, waeth beth fo’u nodweddion gwarchodedig neu gefndir, rydym yn falch iawn o’n cyflawniadau a phawb sydd wedi cyfrannu atynt.

Mae ein Grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn parhau i weithio ar draws y Coleg i fynd i’r afael â meysydd o anghydraddoldeb ac wedi cymryd camau penodol wrth symud yr agenda Gwrth-hiliaeth yn ei blaen. Mae meysydd datblygu
cyffrous ar y gweill ar gyfer 2023/24, gan gynnwys datblygu rhwydwaith LGBTQ+, creu gofodau aml-ffydd a chyflawni ymgysylltiad cymunedol dyfnach.

Dr Andrew Cornish
Prifathro/Prif Weithredwr

  • Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diogelu pobl yn gyfreithiol rhag gwahaniaethu yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach. Mae’n nodi’r gwahanol ffyrdd y mae’n anghyfreithlon i drin rhywun.

  • Mae’r Coleg yn casglu data gan yr holl staff a dysgwyr. Gofynnir i ddysgwyr gwblhau’r wybodaeth hon wrth gofrestru, ac am y tro cyntaf yn haf 2023, casglwyd 100% o nodweddion gwarchodedig y Dysgwyr.

    Gofynnir i staff gwblhau eu data monitro cydraddoldeb ar y pwynt cyflogaeth, yn ystod y broses gyfarwyddo. Defnyddir system ar-lein i gasglu’r data hwn, ac fe’i gwneir yn wirfoddol. Mae cyfraddau cwblhau yn is na’r targed ar hyn o bryd ac mae dulliau amrywiol wedi’u rhoi ar waith i annog mwy o’n staff i gofnodi eu gwybodaeth. Yn fwyaf diweddar, gwellwyd cyfraddau trwy gyfathrebu digidol, a arweiniodd at ychydig o gynnydd o ran cyfraddau cwblhau. Bydd gwneud y mwyaf
    o gasglu’r set ddata hon yn ein helpu i ddeall anghenion ein gweithlu yn well. Mae cynlluniau pellach ar gyfer 2023/24 yn cael eu datblygu gyda’r nod o gyrraedd targed o fwy nag 85% o’n gweithlu.

  • Rhywedd a Benodir ar Enedigaeth
    Tuedd Rhywedd
    Blwyddyn (Year) Nifer Gwryw (No. of Male) % Gwryw (% Male) Nifer Benyw (No. of Female) % Benyw (% Female) Cyfanswm y Nifer (Total Headcount)
    2022 / 23 326 38% 521 62% 847
    2021 / 22 312 37% 524 63% 836
    2020 / 21 350 41% 512 59% 862

    Mae dadansoddiad o’r data rhywedd uchod yn dangos gostyngiad yng nghyfanswm y nifer y staff ers 2020/21 a chynnydd bychan yn nifer y staff benywaidd, o 59% i 62%. Mae hyn ychydig yn uwch na’r lefelau cenedlaethol, fel yr adroddwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg (EWC) ond mae’n adlewyrchu’r darlun cenedlaethol i raddau helaeth.

    Cam Gweithredu:
    Hyrwyddo absenoldeb rhiant a rennir a’r holl bolisïau sy’n ystyriol o deuluoedd i’r holl staff.
    Cam Gweithredu:
    Dangos sut mae anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn effeithio ar bawb, nid menywod yn unig, trwy arferion gorau llunio polisïau a recriwtio.

    Tuedd Proffil Oedran
    Grŵp Oedran (Age Group) 2020/2021 % 2021/2022 % 2022/2023 %
    Dan 20 (Under 20) 0.3% 1% 1%
    20-29 11% 12% 11%
    30-39 19% 19% 17%
    40-49 24% 25% 26%
    50-59 33% 28% 29%
    60-69 9% 10% 12%
    Over 70 4% 5% 4%
    Prif Gyfanswm (Total) 100% 100% 100%

    Mae proffil oedran y gweithlu yn weddol sefydlog, gyda mân newidiadau wedi’u dangos ers 2020/21. Fel y gwelir yn y rhan fwyaf o sefydliadau AB, y grŵp oedran a gynrychiolir fwyaf yw dros 50, gyda 45% o fewn y grwpiau 50-59, 60-69 a thros 70.

    Cam Gweithredu:
    Ystyried dulliau i annog gweithwyr iau i ymuno â’r gweithlu a galluogi dull mwy strategol o gynllunio’r gweithlu, er enghraifft, drwy gyflwyno rhaglen brentisiaeth.
    Cam Gweithredu:
    Yn dilyn gweithredu’r polisi Menopos, codi ymwybyddiaeth o’i gynnwys a darparu cyfleoedd i bobl rannu eu profiadau ar draws y coleg.
    Cam Gweithredu:
    Cynllunio, datblygu a gweithredu Polisi Ymddeol ar gyfer holl staff y Coleg.

    Proffil Tarddiad Ethnig
    Tarddiad Ethnig (Ethnic Origin) Nifer (Count) Canran (Percentage)
    Affricanaidd  0 0.0%
    Arabaidd  0 0.0%
    Bangladeshaidd  0 0.0%
    Du Affricanaidd 0 0.0%
    Du Caribïaidd 0 0.0%
    Du Arall  0 0.0%
    Caribïaidd  0 0.0%
    Tsieineaidd  0 0.0%
    Sipsi 1 0.1%
    Indiaidd 3 0.4%
    Gwrthodwyd Rhoi’r Wybodaeth 47 5.5%
    Cymysg – Gwyn ac Asiaidd 0 0.0%
    Cymysg – Gwyn a Du Affricanaidd 0 0.0%
    Cymysg – Gwyn a Du Caribïaidd  0 0.0%
    Arall  3 0.4%
    Arall - Asiaidd  0 0.0%
    Grŵp Ethnig Arall 0 0.0%
    Cefndir Cymysg Arall 2 0.2%
    Pacistanaidd  0 0.0%
    Teithiwr  0 0.0%
    Gwyn  791 93.4%
    CYFANSWM  847 100%

    Er bod cryn wahaniaeth rhwng data cefndir ethnig ar sail Cymru gyfan, mae data’r coleg yn adlewyrchu data’r cyfrifiad ar gyfer y ddwy sir gyda’i gilydd.

    Mae’r coleg wedi ymrwymo i weithio ar fentrau Gwrth-hiliol ac mae wrthi’n datblygu camau gweithredu sy’n seiliedig ar wella amrywiaeth ethnig yn y sefydliad.

    Cam Gweithredu:
    Ymgysylltu â grwpiau cymunedol i hyrwyddo’r Coleg a’i frand cyflogwr

    Proffil Cyfeiriadedd Rhywiol
    Cyfeiriadedd Rhywiol  Nifer  Canran 
    Deurywiol 8 0.9%
    Hoyw 8 0.7%
    Heterorywiol  387 45.7%
    Lesbiad 0 0.0%
    Dim Ymateb  420 49.6%
    Arall  4 0.5%
    Gwell gennym Hunan-ddisgrifio  4 0.5%
    Gwell gennym beidio â dweud  18 2.1%
    CYFANSWM 847 100%

    Eto, mae’r set ddata hon yn tynnu sylw’n glir at yr angen i’r Coleg fynd i’r afael â materion
    diffyg cwblhau data a bydd yn llywio camau gweithredu yn 2023/24.

    Cam Gweithredu:
    Sefydlu rhwydwaith LGBTQ+ ar gyfer staff y Coleg a’u cefnogi i greu mentrau lles ar gyfer y gymuned

    Proffil Crefydd
    Crefydd  Nifer  Canran 
    Bwdist  4 0.5%
    Cristion  229 27.0%
    Hindŵ  0 0.0%
    Gwrthodwyd Rhoi’r Wybodaeth 11 1.3%
    Iddew  0 0.0%
    Mwslim  1 0.1%
    Dim Ymateb 430 50.8%
    Dim Crefydd  166 19.6%
    Crefydd Arall  5 0.6%
    Sîc  1 0.1%
    CYFANSWM  847 100%

    Dywedodd mwyafrif y rheiny a ymatebodd fod eu crefydd yn Gristnogol, sef 27%. Dywedodd 19.6% o ymatebwyr nad oedd ganddynt unrhyw grefydd.

    Mae’r Coleg wedi ymrwymo i groesawu staff a dysgwyr o bob crefydd a gall ddarparu gofodau pwrpasol ar gyfer gweddïo i gefnogi’r rheiny sydd ei angen.

    Cam Gweithredu:
    Creu gofodau aml-ffydd i bobl eu defnyddio
    Cam Gweithredu:
    Cyfleu neges gefnogaeth y Coleg i bob ffydd a chrefydd

    Proffil Anabledd
    Math o Anabledd Nifer Canran
    Dall/Nam ar y Golwg 17 2.0%
    Byddar/Nam ar y Clyw 5 0.6%
    Dyslecsia 9 1.1%
    Gwrthodwyd Rhoi’r Wybodaeth 9 1.1%
    Anabledd Iechyd Meddwl 4 0.5%
    Angen Cymorth Gofal Personol 0 0.0%
    Dim Ymateb 606 71.5%
    Dim Anabledd 180 21.3%
    Anabledd Arall 5 0.6%
    Anabledd Cudd 10 1.2%
    Defnyddiwr Cadair Olwyn/Anawsterau Symudedd 2 0.2%
    Cyfanswm 847 100%

    Mae’r Coleg wedi ymgymryd â nifer o fesurau i wella profiad staff ag anabledd. Er enghraifft, mae’r Coleg wedi ymrwymo i fod yn Hyderus o ran Anabledd trwy gymryd rhan weithredol mewn mentrau megis sicrhau bod ein gweithgareddau recriwtio mor gynhwysol a hygyrch â phosibl, cefnogi gweithwyr i aros yn y gwaith trwy wneud addasiadau rhesymol yn rhagweithiol ac ymgysylltu ag asiantaethau allanol er mwyn darparu profiad gwaith, cyfleoedd lleoliad a chyflogaeth i bobl ag anableddau.

    Cam Gweithredu:
    Hyrwyddo statws Hyderus o ran Anabledd y Coleg yn fewnol ac yn allanol

    Yr Iaith Gymraeg
    Sgil Uwch Canolradd Sylfaenol Mynegiadau Dim
    Siarad 20.08% 14.04% 24.44% 24.02% 17.42%
    Darllen 15.45% 16.57% 22.89% 22.61% 22.48%
    Ysgrifennu 11.94% 14.61% 20.08% 23.60% 29.77%

    Gofynnir i staff gwblhau neu ddiweddaru hunanasesiad ar-lein cyfredol ar lefel eu sgiliau Cymraeg. Cyfanswm nifer y staff ar 31.07.2023 oedd 754, sy’n cynnwys staff addysgu, rheoli a chefnogi. Ni wnaeth 42 o aelodau staff gwblhau’r asesiad. Staff ffracsiynol oedd llawer o’r rhain neu ddarlithwyr gwadd a all fod wedi eu contractio am ddiwrnod yn unig. Nid yw’r data am y rhain wedi’i gynnwys yn y wybodaeth isod.

  • Llwyddiant Cyffredinol ar gyfer Coleg Sir Gâr / Coleg Ceredigion
    2022/2023 2021/2022 2020/2021
    77.5% 75.3% 74.0%

    Mae pob gweithgaredd yn golygu pob cymhwyster / dyfarniad a gofnodwyd.

    Rhywedd
    Rhywedd 2022/2023 Gweithgareddau 2022/2023 Llwyddiant (%) 2021/2022 Gweithgareddau 2021/2022 Llwyddiant (%) 2020/2021 Gweithgareddau 2020/2021 Llwyddiant (%)
    Benyw 5,126 76.4 4,933 75.1 5,148 73.5
    Gwryw 5,251 78.6 4,610 75.5 4,304 74.5
    Arall 86 77.9 74 73.0 67 73.1

    Dros y duedd tair blynedd mae dysgwyr sy’n nodi eu bod yn Wrywod yn perfformio ychydig yn well na benywod ar draws y Coleg. Mae hyn yn wahanol i’r darlun ar lefel TGAU lle mae dysgwyr sy’n nodi eu bod yn fenywaidd yn perfformio’n well na’u cymheiriaid gwrywaidd (data gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol).

    Fodd bynnag, yn nodweddiadol, nid yw dysgwyr sy’n nodi eu bod yn ystyried eu hunain fel arall wedi perfformio cystal, ond mae hyn wedi gwella 4.9% pwynt o’r llynedd. Mae’r duedd hon hefyd yn mynd yn groes i ddadansoddiad Llywodraeth Cymru bod Dynion yn llai tebygol na merched o feddu ar unrhyw gymwysterau ffurfiol. Gellid priodoli’r
    cynnydd o ran llwyddiant i ystyried eu hunain fel ‘arall’ i ffocws a gyflwynwyd gennym sydd wedi cynnwys nifer o weithgareddau a chyfleoedd cyfoethogi gan gynnwys cymdeithas LGBTQ+ lle gall dysgwyr gwrdd, cysylltu a meithrin perthnasoedd newydd â dysgwyr eraill. Mae gan Undeb y Myfyrwyr swyddog LGBTQ+ hefyd.

    Cam Gweithredu :

    • Diweddaru’r polisi Trawsrywedd
    • Parhau i ddathlu’r digwyddiadau ymwybyddiaeth a dathlu LGBTQ+
    • Datblygu rhaglen hyfforddi ar gyfer staff ynghylch cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaethau rhywiol.
    Oedran
    Grŵp Oedran 2022/2023 Gweithgareddau 2022/2023 Llwyddiant (%) 2021/2022 Gweithgareddau 2021/2022 Llwyddiant (%) 2020/2021 Gweithgareddau 2020/2021 Llwyddiant (%)
    18 ac iau 4,944 78.2 4,678 72.1 5,095 77.3
    19 i 24 1,149 72.0 1,179 69.7 1,242 72.3
    25 i 49 3,069 75.6 2,653 78.7 2,202 68.0
    50 i 74 1,287 84.2 1,104 86.4 973 71.8
    75+ 14 92.9 3 66.7 7 85.7

    Yn 2022/2023 dangosodd bron pob un o’r categorïau oedran gynnydd mewn llwyddiant o 21/22 ac eithrio’r rheiny rhwng 25-49 oed. Yn nodedig, dangosodd y grŵp oedran 18 ac iau gynnydd o 6% i 78.2%, ac yn uwch na’r llwyddiant o 20/21.

    Yn gyson, mae dysgwyr rhwng 19-24 wedi bod yn is na chyfartaledd y Coleg. Ymhellach, profodd y grŵp oedran 25 i 49 welliant amlwg mewn cyfraddau llwyddiant o 68.0% yn 2020/2021 i 75.6% yn 2022/2023, gan ddangos newid cadarnhaol mewn canlyniadau addysgol ar gyfer unigolion o fewn yr ystod oedran hon.

    Ar y cyfan, mae dysgwyr hŷn yn dechrau cyflawni’n gyson ar yr un lefelau â dysgwyr iau, ar ôl gweld gostyngiad yng nghanol y pandemig, lle rydyn ni’n gwybod bod dysgwyr a oedd ag ymrwymiadau allanol hefyd (teuluoedd a gwaith) yn gweld ymdopi ag addysg yn heriol iawn.

    Fodd bynnag, mae’n hanfodol parhau i fonitro a deall y ffactorau sy’n cyfrannu at yr amrywiadau mewn cyfraddau llwyddo er mwyn gwella ymhellach y profiad dysgu a’r canlyniadau ar gyfer pob grŵp oedran.

    Cam Gweithredu:

    • Parhau i ddatblygu ac ymgorffori dangosfwrdd sy’n cael ei fonitro gan staff, sy’n gallu monitro KPI
      yn ôl nodweddion gwarchodedig.
    ADY: Anabledd
    Ateb 2022/2023 Gweithgareddau 2022/2023 Llwyddiant (%) 2021/2022 Gweithgareddau 2021/2022 Llwyddiant (%) 2020/2021 Gweithgareddau 2020/2021 Llwyddiant (%)
    Oes 2,320 81.2 1,946 74.4 2,136 76.9
    Na 8,143 76.5 7,671 75.5 7,383 73.1

    Mae dysgwyr sydd wedi datgan bod ganddyn nhw anabledd adeg cofrestru gan amlaf wedi perfformio 4.7% yn well na’r rheiny nad ydynt wedi datgan anabledd ar gyfer 22/23. Cododd llwyddiant i ddysgwyr ag ADY hefyd 6.8% o 21/22, a gallai hyn fod oherwydd bod llawer o ddysgwyr ag anghenion dysgu cymhleth yn ei chael yn anodd ymdopi â’r amgylchiadau addysgol newidiol a orfodwyd gan COVID-19, ond byddai hyn yn unol â’r darlun cenedlaethol ac roedd ychydig yn is na data llwyddiant y Coleg.

    Gellir priodoli llwyddiant parhaus dysgwyr ag ADY yng Ngholeg Sir Gâr / Coleg Ceredigion i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a chyffredinol ragorol a ddarperir yn y Coleg. Mae’r ddarpariaeth hon o bontio i ddilyniant, gyda sylw’n cael ei dynnu at agweddau amrywiol fel arfer da yn ystod arolwg diweddaraf ESTYN yn 2022.

    Er mwyn gwella ymhellach y darlun hwn sydd eisoes yn rhagorol, mae’r Coleg yn gweithio i sicrhau bod ADY yn gyfrifoldeb i bawb, gan weithio mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a sicrhau lle bynnag y bo’n bosibl, y caiff addasiadau rhesymol eu hymgorffori mewn arferion bob dydd, gyda hyn yn thema Datblygiad Proffesiynol ar gyfer 2023/2024.

    Cam Gweithredu:

    • Parhau i godi ymwybyddiaeth bod ADY yn gyfrifoldeb i Bawb. 
    • Sicrhau bod pob dysgwr yn cwblhau Holiaduron ADY yn ystod y cyfnod cynefino.
    • Tîm ADY i barhau i gyflwyno sesiynau DPP ar Addasiadau Rhesymol.
    Ethnigrwydd
    Ethnigrwydd 2022/2023 Gweithgareddau 2022/2023 Llwyddiant (%) 2021/2022 Gweithgareddau 2021/2022 Llwyddiant (%) 2020/2021 Gweithgareddau 2020/2021 Llwyddiant (%)
    Asiaidd 108 65.7 89 66.3 116 63.8
    Du 75 72.0 32 53.1 43 72.1
    Cyfryng 191 73.3 135 77.8 107 79.4
    Arall 94 67.0 103 80.6 98 73.5
    Anhysbys 162 66.7 62 62.9 140 41.4
    Gwyn 9,833 78.1 9,196 75.4 9,015 74.5

    Yn 2022 / 2023, nid yw dysgwyr sy’n nodi eu bod yn Ddu, Asiaidd, Cymysg neu arall - sef 6.1% o’r holl ddysgwyr, wedi bod mor llwyddiannus â dysgwyr sy’n nodi eu bod yn wyn.

    Y llynedd ni welwyd unrhyw grŵp ethnig adnabyddadwy mewn coch, ond o 21/22 bu gostyngiad bach mewn llwyddiant y dysgwyr hynny i gyd sy’n nodi eu bod yn Asiaidd, cymysg ac arall. Fodd bynnag, mae dysgwyr sy’n nodi eu bod yn ddu neu’n anhysbys ill dau wedi gweld gwell llwyddiant, gyda llwyddiant dysgwyr Du wedi cynyddu gan 18.9%.

    Gellir priodoli rhywfaint o’r llwyddiant hwn i ymrwymiad y Coleg i fod yn Goleg Gwrth-hiliol, lle rydym wedi cwblhau ein Hunanasesiad ac yn gweithio ar dri maes blaenoriaeth: Hyder, Ymrwymiad a Gweithredu. Mae gwaith sylweddol hefyd wedi cael ei wneud gyda Thiwtorial y Coleg.

    Cam Gweithredu:

    • Gwella ymhellach hyder holl gymuned y Coleg i ddeall beth yw Coleg Gwrth-hiliol.
    • Sicrhau bod arwyddion digonol ar gyfer pob ystafell weddïo aml-ffydd.
    • Parhau i ddathlu’r ystod amrywiol o grefyddau ar draws y calendr
    • Parhau i feithrin sgyrsiau gyda dysgwyr sy’n nodi eu bod yn Ddu, Asiaidd, cymysg neu arall yn seiliedig ar eu profiadau bywyd a’r hyn y gallwn ei wneud i’w cefnogi.
    • Gweithredu arferion cynhwysol ar draws yr holl weithgareddau, gan sicrhau bod gwasanaethau cefnogi, adnoddau, a dulliau addysgu yn ystyried anghenion amrywiol dysgwyr o gefndiroedd ethnig gwahanol.
    Demograffeg: Amddifadedd
    Lefel Amddifadedd 2022/2023 Gweithgareddau 2022/2023 Llwyddiant (%) 2021/2022 Gweithgareddau 2021/2022 Llwyddiant (%) 2020/2021 Gweithgareddau 2020/2021 Llwyddiant (%)
    1 (mwyaf difreintiedig) 717 77.3 705 72.8 694 74.6
    2 824 75.7 849 78.3 795 77.4
    3 1,263 75.3 1,181 75.0 1,243 77.8
    4 1,178 76.4 1,139 70.9 1,129 71.5
    Eraill 6,481 78.4 5,360 76.0 5,300 73.1

    Yn 22/23 fe wnaeth dysgwyr sy’n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig ein rhanbarth, ddangos cynnydd o 4.9% ar y flwyddyn flaenorol. Sydd yn arbennig o foddhaol gyda’r argyfwng tlodi presennol.

    Mae ein mentrau i gefnogi’r rheiny sydd â’r angen mwyaf hefyd wedi ein gweld yn cefnogi’r mentrau isod gyda dysgwyr sy’n gymwys i gael LCA hefyd yn gallu cael mynediad i’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn. Mae dysgwyr wedi gallu cyrchu cyllid i gefnogi:

    • Gofal Plant
    • Cyfarpar i gwblhau eu cwrs.
    • Cludiant
    • Costau fel DBS / Ffioedd Stiwdio
    • Lwfans cinio (newydd ar gyfer 22/23)

    Roedd ein lwfans Cinio yn gategori newydd ar gyfer 22/23 ac fe’i datblygwyd fel ymateb uniongyrchol i’r agenda tlodi a phryderon gyda 350 o ddysgwyr yn elwa’n uniongyrchol. Mae hyn wedi gweld nifer enfawr o ddysgwyr wedyn yn gallu bwyta yn y Coleg.

    Bu undeb y myfyrwyr hefyd yn helpu cefnogi dysgwyr gyda phrosiect cyllidebu cyfranogol lle gallai dysgwyr wneud cais am arian gan Undeb y Myfyrwyr i wella lles y dysgwyr yn y Coleg. Mae prosiectau llwyddiannus wedi cynnwys.

    • Sinema Awyr Agored
    • Twnnel polythen ar gyfer gardd gymunedol
    • Cyfarpar a chit chwaraeon i’r campws
    • Eitemau ymolchi ar y campws.

Cynnydd Tuag at Ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol

LLWYDDIANNAU 2023 - 2024
  • Casglu Data:

    Mae Nodweddion Gwarchodedig yr holl Fyfyrwyr bellach yn cael eu casglu’n awtomatig wrth gofrestru. Bydd systemau EBS newydd dros amser yn caniatáu i ni gael data byw a fydd yn ein galluogi i ymchwilio’n ddyfnach i’r data a gwneud addasiadau rhesymol a newidiadau i’r cwricwlwm, cefno-gaeth a systemau yn unol â beth mae ein data perfformiad allweddol yn ei ddweud wrthym. Er nad yw’r data byw ar hyn o bryd yn y byrddau adolygu Cyrsiau a’r byrddau adolygu Perfformiad, mae swyddogaethau cefnogi’r coleg bellach yn rhan o’r trafodaethau hyn sy’n caniatáu trafodaethau da ar anghenion dysgwyr sy’n eu galluogi i ffynnu.

    Mae casglu data staff wedi gwella’n sylweddol gyda’r holl staff bellach yn datgelu eu data ethnigrwydd. Mae system staff newydd yn cael ei hymchwilio ar hyn o bryd a fydd yn caniatáu i’r systemau staff alinio ar gyfer taith gyfan y staff.

    Cam Gweithredu Allweddol:

    Parhau i weithio gyda’r tîm datblygu TG sy’n datblygu systemau newydd, i sicrhau bod y systemau’n gallu defnyddio’r data a gasglwn yn well i sicrhau y gallwn wneud newidiadau pan fydd tueddiadau’n cael eu nodi.

  • Mae’r Coleg wedi bod drwy broses recriwtio llywodraethwyr yn ddiweddar ac mae 4 llywodraethwr sy’n cynrychioli 40% o’r bwrdd wedi’u penodi o ardaloedd amrywiol ein rhanbarth. Mae’r coleg wedi bod yn llwyddiannus yn dod yn goleg Amser i Siarad ym mis Ionawr 2023, fel rhan o’n hymrwymiad cafodd pob un o dimau rheoli’r coleg gyfle i gwblhau cwrs Iechyd Meddwl i reolwyr, tra bod pob dysgwr wedi cwblhau pynciau amrywiol yn eu tiwtorial i gynyddu gwytnwch.

    Cydnabyddwyd hefyd bod y Coleg yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Mae 18 o bolisïau a gweithdrefnau newydd neu bresennol hefyd wedi bod trwy broses Asesu yr Effaith ar Gydraddoldeb gadarn.

    Mae’r Coleg wedi cofrestru i fod yn Goleg Gwrth-hiliol, ac wedi cwblhau hunanwerthusiad o’i sefyllfa bresennol. Cytunwyd ar dair blaenoriaeth ar gyfer eleni sef Hyder, Ymrwymiad a Gweithredu. Mae’r Coleg yn gweithio gyda staff, dysgwyr a phartneriaid lleol i ddeall barn budd-ddeiliaid cyfredol ar feysydd y gall y Coleg eu gwella wrth iddo ymdrechu i fod yn wirioneddol wrth-hiliol. Er mwyn cefnogi staff a dysgwyr, mae’r Coleg yn gweithio gydag Apex educate i roi cefnogaeth ac arweiniad.

    Cam Gweithredu Allweddol:
    Pob rheolwr sy’n datblygu polisïau i ymgymryd â DPP ynghylch cwblhau Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb.

  • Mae’r Coleg yn dod yn Ystyriol o Drawma, ac ar ôl cwblhau’r hunanwerthusiad mae bellach yn gweithio ar gynllun DPP 5 mlynedd y cytunwyd arno ar gyfer y Coleg cyfan. Mae hyn eisoes wedi gweld 26 o staff yn cwblhau’r cwrs hyfforddi’r hyfforddwr, a threialu’r dull hwn o fewn 3 maes - ad-dysgu, meysydd swyddogaethol a chefnogi.

    Mae cod ymddygiad y dysgwr a’r cynllun ymddygiad cadarnhaol wedi’u diwygio i sicrhau eu bod yn Ystyriol o Drawma, ond hefyd i gynnwys cyfeiriad at fwlio ac aflonyddu. Mae’r polisïau staff hefyd wedi eu gwneud yn ddiweddar.

    Mae’r cynnig Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ( Darpariaeth Ychwanegol a Darpariaeth Gyffredinol ) wedi’i ddiweddaru ac mae’r Coleg wedi derbyn ei IDP cyntaf ym mis Medi 2023.

    Cam Gweithredu Allweddol:
    Gweithio gyda data llais y staff a llais y dysgwr a nodi a oes angen offeryn neu system hunan-adrodd arnom i adrodd ar wahaniaethu o unrhyw fath.

  • Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd lle mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu ac mae pawb yn cael eu trin yn deg, waeth beth fo’u rhyw, hunaniaeth rhywedd, anabledd, ethnigrwydd, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, statws priodasol neu drawsryweddol, oedran, neu genedligrwydd. 

    Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd traws-gynhwysol i’n holl staff, myfyrwyr, partneriaid ac ymwelwyr, sy’n cefnogi pobl draws, anneuaidd a phobl â hunaniaethau eraill. Byddwn yn cyflawni hyn drwy adolygu ein polisïau a’r arweiniad a’r hyfforddiant rydym yn eu darparu yn barhaus. Mae hyn yn dechrau o’r eiliad y gwnewch gais am swydd gyda’r Coleg, trwy’r broses recriwtio ac yna pan fyddwch yn dechrau ar eich gwaith. Byddwch yn dilyn proses gynefino gynhwysfawr sy’n cyn-nwys hyfforddiant gorfodol ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae’n wirioneddol bwysig i ni bod yr holl staff yn gallu deall a chydnabod ein hethos o gynhwysiant o ddechrau i ddiwedd eu taith gyflogaeth.

    Cam Gweithredu Allweddol.
    Lleihau’r Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau

  • Mae’r Coleg wedi creu tudalen wefan - sy’n dathlu’n gyhoeddus ei weithredoedd, ei wobrau a’i gydnabyddiaeth fel Coleg cynhwysol. Mae timau lles ac Adnoddau Dynol y Coleg hefyd yn cydweithio ar galendr o ddigwyddiadau ar y cyd ar themâu sy’n codi dro ar ôl tro sydd eisoes wedi cynnwys digwyddiadau a gweithgareddau sydd wedi cynnwys Mis Hanes Pobl Ddu, bord gron Gwrth-hiliaeth, diwrnod
    Amser i Siarad, mis Menopos y Byd, Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl, mis LGBTQ+, gyda Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ac wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth wedi’u cynllunio ar gyfer y misoedd nesaf.

    Wrth ysgrifennu’r Polisi Ymddygiad Cadarnhaol newydd, un o’r prif ysgogwyr oedd sicrhau ein bod yn ymgorffori addasiadau rhesymol ar gyfer yr holl fudd-ddeiliaid yn y broses, a oedd wedyn wedi’i ymgorffori ar draws y Coleg. Er mwyn cefnogi staff gyda’r nod hwn mae’r tîm ADY wedi cynnal DPP addasiadau rhesymol i’r Coleg cyfan a hyfforddiant pwrpasol lle bo angen.

    Cam Gweithredu Allweddol
    Parhau i ddeall anghenion ein cymuned yn well a chynnig DPP pwrpasol ar yr anghenion hyn.