DATGANIAD BUDD CYHOEDDUS
Mae Coleg Sir Gâr yn elusen gofrestredig (rhif elusen cofrestredig: 1152522). Datgelir aelodau’r Bwrdd Cyfarwyddwyr, sy’n ymddiriedolwyr i’r elusen, yn Adroddiad y Cyfarwyddwyr ar dudalen 16.
Wrth osod ac adolygu amcanion strategol y Coleg, mae’r Bwrdd Cyfarwyddwyr wedi ystyried canllawiau’r Comisiwn Elusennau ynglŷn â budd cyhoeddus ac yn enwedig y canllawiau atodol yn ymwneud â datblygiadau ym myd addysg. Mae’r canllawiau’n cyfeirio at yr angen i bob sefydliad sy’n dymuno cael ei gydnabod fel elusen ddangos yn glir fod eu hamcanion er budd cyhoeddus.
Amcanion Elusennol
Amcan y Coleg yw darparu addysg bellach ac uwch ac (yn unol ag unrhyw ymgynghoriad gyda’r awdurdod lleol perthnasol) addysg uwchradd (yn unol â’r diffiniad ym mhob achos yn adran 18(1) o Ddeddf Addysg Uwchradd 1992 (neu unrhyw amnewidiad ohono) ar gyfer budd cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt.
Mae’r Coleg yn ymwybodol iawn o’i gyfrifoldeb o safbwynt budd cyhoeddus ac felly’n sicrhau mai dyma sydd wrth galon ei holl weithgareddau a gwasanaeth.
Cyflawni’r amcanion elusennol
Buddiolwyr
Mae’r buddiolwyr yn briodol i’r amcanion gan mai’r myfyrwyr o fewn y sector addysg bellach, uwch ac uwchradd (sector digonol o’r cyhoedd i gyflenwi’r prawf budd cyhoeddus) yw’r buddiolwyr uniongyrchol.
Coleg addysg bellach ac addysg uwch wedi’i leoli yn Sir Gaerfyrddin yn Ne-orllewin Cymru yw Coleg Sir Gâr. Mae gan y coleg bum campws o fewn y sir: Llanelli (campws y Graig); Rhydaman; Llandeilo (campws y Gelli Aur); a Chaerfyrddin (campysau Pibwrlwyd a Ffynnon Job). Ar hyn o bryd, mae tua 9,000 o fyfyrwyr wedi cofrestru yn y Coleg ar amrywiaeth o gyrsiau yn cynnwys Safon Uwch, Cyrsiau Galwedigaethol, Tystysgrifau a Diplomâu, Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch, Graddau Sylfaen a rhaglenni Gradd.
Er mwyn cyflwyno’r cyrsiau yma, mae’r Coleg yn cyflogi tua 650 o staff dysgu a staff cefnogol. Lleolir yr holl gyrsiau, myfyrwyr a staff o fewn un o’r 8 maes cwricwlwm. Tanlinella llwyddiant myfyrwyr y Coleg fanteision yr amrywiaeth o bartneriaethau effeithiol sydd gan y Coleg.
Mae rhagoriaeth partneriaeth y Coleg gyda Rhwydwaith Dysgu 14-19 Sir Gaerfyrddin wedi’i gydnabod drwy ennill Gwobr Beacon UK. Mae partneriaethau’r Coleg gyda diwydiant o bwys mawr ac mae’r berthynas â’r diwydiant adeiladu wedi’i chydnabod trwy gyfrwng Gwobr Hyfforddiant Cenedlaethol Rhanbarthol Cymru a’r DU.
Yn ogystal â darpariaeth yn y Coleg, mae’r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth dysgu ym myd gwaith helaeth trwy gyfrwng rhaglenni Hyfforddeiaeth a Phrentisiaethau o fewn nifer helaeth o sectorau diwydiannol. Mae’r Coleg wedi buddsoddi’n helaeth dros y ddegawd ddiwethaf er mwyn cynnig yr amgylchedd dysgu gorau i fyfyrwyr. O ganlyniad, mae gan fyfyrwyr y Coleg fynediad i gyfleusterau ac adnoddau rhagorol. Mae’r Coleg hefyd yn ymhyfrydu yn y ffaith ei fod yn goleg gofalgar a diogel, gan roi buddiannau’r myfyrwyr flaenaf bob amser.
Polisi mynediad
Gweithreda’r Coleg bolisi mynediad hyblyg a chynhwysol, ac mae’n darparu ar gyfer gwahaniaethu ac anghenion unigol wrth gynllunio rhaglenni dysgu. Mae gan rai rhaglenni ofynion mynediad penodol sy’n cael eu hadolygu’n flynyddol a’u cyhoeddi ym mhrosbectws y Coleg.
Cefnogaeth i Fyfyrwyr/Bwrserí/Ysgoloriaethau
Mae gan fyfyrwyr yn y Coleg yr hawl i ymgeisio am amrywiol becynnau cefnogaeth ac ariannu yn yr un modd ag unrhyw un sy’n astudio o fewn addysg bellach neu uwch yng Nghymru.
Gall myfyrwyr addysg bellach rhwng 16 a 19 oed ymgeisio am Lwfans Cynhaliaeth Addysg, a gall myfyrwyr 19 oed neu’n hŷn ymgeisio am Grant Dysgu’r Cynulliad. Mae bwrsarïau eraill ar gael hefyd o fewn y Coleg ar gyfer myfyrwyr addysg uwch yn unol â chymhwysedd.
Mae Cronfeydd Ariannol Wrth Gefn hefyd ar gael o fewn y Coleg a gall myfyrwyr wneud cais am gymorth wrth astudio.
Ehangu Cyfranogiad
Mae gan y Coleg amrywiaeth gynhwysfawr ac eang o raglenni addysg a hyfforddiant academaidd a galwedigaethol. Mae’r rhain yn amrywio o lefel cyn-mynediad i raglenni graddedig, gan ddarparu gwasanaeth i’r gymuned ddysgu gyfan. Mae’n cynnig addysg bellach, addysg oedolion a chymunedol, addysg uwch a dysgu yn y gwaith. Mae’n darparu hefyd ar gyfer nifer fawr o ddisgyblion ysgol 14-16 oed sy’n mynychu’r Coleg neu’n cael eu dysgu gan staff y Coleg yn eu hysgolion. Mae’r Coleg yn gweithredu dros bum campws, mewn sawl lleoliad cymunedol, yn y gweithle ac ar-lein.
Ymgysylltu â’r Gymuned
Mae’r Coleg yn cynnig cyfleusterau eraill sydd ar gael ar gyfer staff, myfyrwyr ac aelodau eraill o’r cyhoedd.
Trwy orchymyn y Bwrdd
Mr John Edge, Director
ADRODDIAD STRATEGOL AR GYFER DIWEDD Y FLWYDDYN 31 GORFFENNAF 2024
-
Yn 1992, pasiwyd Deddf Addysg Bellach ac Uwch gan y Senedd ac o ganlyniad cafodd bob pob sefydliad addysg bellach blaenorol (lle’r oedd cyfanswm y cofrestriadau myfyrwyr amser llawn, rhyddhau bloc a rhyddhau rhan-amser yn FESR 1990 yn cyfateb i o leiaf 15 y cant o gyfanswm myfyrwyr y Coleg) a phob sefydliad chweched dosbarth eu hymgorffori yn y sector newydd. Ymgorfforwyd y Coleg ar 30 Medi 1992, er na ddaeth y Gorfforaeth ei hun yn sefydliad annibynnol tan 1 Ebrill 1993 (diwrnod breinio).
Ar 1 Awst 2013 daeth Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Sir Gâr (Diddymu) 2013 i rym. Diddymodd y gorchymyn hwn y gorfforaeth addysg bellach a sefydlwyd gynt gan drosglwyddo’i holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau i’r cwmni newydd, Cwmni Coleg Sir Gâr. Daeth Gorchymyn Coleg Sir Gâr (Sefydliadau Dynodedig mewn Addysg Bellach) 2013 i rym ar yr un diwrnod gan sefydlu Coleg newydd oedd yn cael ei weinyddu gan gwmni cofrestredig, cyfyngedig trwy warant. Mae’r cwmni Coleg Sir Gâr newydd hwn yn is-gwmni dan berchnogaeth gyflawn Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.
Ar 1 Awst 2017, daeth Coleg Ceredigion yn is-gwmni dan berchnogaeth gyflawn Coleg Sir Gâr, ar ôl bod yn flaenorol, yn is-gwmni uniongyrchol i’r rhiant-gwmni eithaf Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.
-
Mae Coleg Sir Gâr yn Goleg Addysg Bellach mawr, aml safle, wedi’i leoli yn Ne-orllewin Cymru a chanddo bum campws yn Llanelli (y Graig), Caerfyrddin (Pibwrlwyd a Ffynnon Job), Rhydaman a Llandeilo (y Gelli Aur). Mae ganddo ryw 9,000 o ddysgwyr a rhyw 2,500 o’r rhain yn llawn amser a dros 6,000 yn rhan-amser. Ceir tua 600 o ddysgwyr addysg uwch. Cynigia’r Coleg amrywiaeth gynhwysfawr ac eang o addysg academaidd a galwedigaethol a rhaglenni hyfforddi sy’n amrywio o lefel cyn mynediad i lefel raddedig, gan gynnig gwasanaeth i’r gymuned ddysgu gyfan. Prif weithgareddau’r Coleg yw addysg bellach, addysg uwch, dysgu yn y gweithle, darpariaeth ysgol 14-19, hyfforddiant proffesiynol, ymgynghori a chyflwyno mentrau’r Llywodraeth ym myd diwydiant. Mae’r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth ar-lein, trwy gyfrwng partneriaethau mewn lleoliadau cymunedol ac yn y gweithle.
Amrywia’r campysau o ran maint a natur gan gynnig amrywiaeth o bynciau. Mae gan y Coleg drosiant blynyddol o tua £46 m gan gyflogi tua 577 o staff. Ymysg y rhain, mae 286 yn ymwneud yn uniongyrchol ag addysgu a 291 yn cyflawni gwaith cefnogol a gweinyddol.
-
Sir wledig yw Sir Gaerfyrddin ar y cyfan gyda chadwyn o drefi marchnad yn cynnig canolbwynt gweithgaredd. Caerfyrddin yw’r dref sirol, sy’n cynnig sector fanwerthu gref a phoblogaeth sy’n ymwneud yn sylweddol â llywodraeth leol, iechyd a gweinyddiaeth.
Yn hanesyddol, mae de-ddwyrain y sir wedi’i chysylltu’n â diwydiant trwm a dyma ran fwyaf poblog y sir, gyda Llanelli fel yr anheddiad mwyaf. Er bod rhai prif gyflogwyr mawr yn dal i fod yn y rhan hon o’r sir, mae’r economi wedi arallgyfeirio i faes peirianneg ysgafn a diwydiannau technolegol newydd.
Dengys y Mynegai Amddifadedd fod yna ardaloedd dwys o amddifadedd addysgol, amddifadedd cyflogaeth ac, o ganlyniad, amddifadedd lluosog yn Ne-orllewin Cymru. Mae gan Sir Gaerfyrddin lefelau cymharol uwch o unigolion anweithgar mewn cymhariaeth â Chymru a’r DU.
-
-
Ysbrydoli dysgwyr
-
cyflawni potentsial
-
ennill rhagoriaeth
-
-
Byddwn ni’n:
- rhoi anghenion y dysgwr yn gyntaf;
- diogel, cynhwysol a gofalgar;
- byw yn ôl ein gwerthoedd a’n hymddygiadau;
- rhoi’r profiad gorau i’r dysgwyr, wedi’i gyfoethogi gan dechnoleg ddigidol;
- hwyluso datblygiad personol a dilyniant i ddysgwyr;
- annog chwilfrydedd a chreadigedd mewn addysgu a dysgu;
- datblygu cwricwlwm hyblyg, wedi’i lywio gan gyflogwyr;
- hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru;
- gweithredu rhaglen datblygu gweithlu uchelgeisiol;
- datblygu partneriaethau sy’n effeithio’n gadarnhaol ar ddysgwyr a pherfformiad busnes;
- gwella ein gwytnwch ariannol a’n heffeithlonrwydd;
- cefnogi adfywio a ffyniant yn ein cymunedau; ac yn
- creu amgylchedd cynaliadwy i ddysgwyr fod yn llwyddiannus
-
PARCH
Byddwn ni’n:- derbyn gwahaniaeth a rhoi cyfle i bawb ffynnu;
- empathig at anghenion ein gilydd;
- cwrtais a charedig i’n gilydd;
- cefnogol ac yn gofalu am ein gilydd;
- barod ac yn fodlon i ymgysylltu’n gadarnhaol.
UNDOD
Byddwn ni’n:- un tîm gyda set o gyrchnodau cyffredin a chyfeiriad unedig;
- ystyriol o’n hymddygiad a’n hiaith, a’i effaith ar eraill;
- dwyieithog o ran ein cyfathrebu ac ymgysylltu;
- integredig gyda’n cymuned a’n partneriaid;
- tryloyw ym mhob agwedd ar ein gwaith.
PROFFESIYNOLDEB
Byddwn ni’n:
- onest ac yn ymddwyn gyda chywirdeb;
- cael ein gyrru i ddarparu addysg a gwasanaeth cwsmer rhagorol;
- agored i dderbyn safbwyntiau gwahanol sy’n llywio ein penderfyniadau;
- sefydliad dysgu â natur chwilfrydig;
- cynaliadwy yn ein cynllunio a’n darpariaeth.
-
-
Addysgu a dysgu rhagorol
-
Profiad dysgwyr ysbrydoledig
-
Gwytnwch sefydliadol cynaliadwy
-
Gwaith partneriaethau ymrwymedig
-
-
Dyma amcanion ariannol y Coleg:
- llwyddo i sicrhau gwarged gweithredu blynyddol (a ddiffinnir fel gwarged cyn costau pensiwn heblaw am arian parod FRS 102) a llif arian cadarnhaol
- amrywio llif arian a lleihau dibyniaeth ar gyllid craidd
- cynhyrchu lefelau digonol o arian parod i gefnogi sylfaen asedau’r Coleg
- sicrhau sefyllfa hylifedd tymor byr llewyrchus
- cyllido buddsoddiad cyfalaf parhaus
Mae’r Datganiad Incwm Cynhwysfawr ar gyfer y cyfnod wedi’i gynnwys ar dudalen 32. Nodir uchafbwyntiau’r cyfnod yn y cyswllt hwn isod:
- Mae’r cyfanswm incwm ar gyfer y cyfnod wedi parhau’n gymharol gyson o gwmpas £46m (2023: £47m). Mae cynnal lefel sylweddol o drosiant yn tanlinellu llwyddiant parhaus y Coleg o safbwynt darparu addysg. Mae amrywiadau o safbwynt trosiant yn anorfod, ac yn gallu cael eu dylanwadau’n fawr gan lefel y gwaith prosiect a wneir.
- Mae costau staff (ac eithrio costau eithriadol) fel canran o gyfanswm yr incwm wedi parhau’n gymharol gyson ar 54.0 % (23:54 %). Parhaodd nifer cyfartalog y staff a gyflogwyd yn gymharol gyson. Cynyddodd costau gweithredu eraill fel canran o gyfanswm yr incwm o 39% i 40%, wedi’u gyrru’n bennaf gan bwysau chwyddiant uchel.
- Y gwarged am y flwyddyn oedd £ 710,000 (2023 : colled o £437,000) ar ôl addasiadau heblaw am arian parod FRS 102 o £ 619,000 cadarnhaol (2023 : £851,000 negyddol).
Y gwarged gweithredu (cyn addasiadau heblaw am arian parod FRS 102) oedd £ 91,000
( 2023 : £ 414,000). - Mae’r sefyllfa hylifedd yn parhau i fod yn foddhaol, gyda chymhareb asedau tymor byr i gredydwyr yn disgyn o fewn blwyddyn gan gyrraedd 2.6 (2023: 2.3).
- Mae asedau net wedi gwella o £ 30.3 miliwn i £ 30.4 miliwn. Mae asedau net, ar wahân i rwymedigaethau budd diffiniedig wedi cynyddu o £30.3 miliwn i £30.4 miliwn gan fod y terfyn uchaf asedau wedi’i gymhwyso i’r pensiwn gan leihau’r sefyllfa i DIM. Am wybodaeth bellach ynglŷn â’r safonau cyfrifyddu a ddefnyddiwyd i greu’r datganiadau ariannol yma, gweler Datganiad o’r Prif Bolisïau Cyfrifyddu a Thechnegau Amcangyfrif ar dudalen 37.
- Ychwanegwyd grantiau cyfalaf penodol er mwyn hybu effeithiolrwydd a darparu amgylchedd dysgu safonol yn unol â Chynllun Strategol y Coleg.
- Adolygwyd y ddarpariaeth ar gyfer pensiynau uwch yn ystod y cyfnod ac amcangyfrifwyd mai’r balans oedd ei angen ar gyfer 31 Gorffennaf 2024 oedd £530,000 (2023: £542,000).
-
Rheolaeth o lif arian, bancio, trafodion marchnad arian a chyfalaf yw rheolaeth y Trysorlys; rheolaeth effeithlon o’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r gweithgareddau hynny; a’r nod o sicrhau’r perfformiad gorau posib sy’n gyson â’r risgiau hynny.
Mae gan y Coleg bolisi ar wahân ar gyfer rheoli’r trysorlys.
Caiff benthyciadau tymor byr i ddibenion cyllid dros dro eu cadarnhau gan y Swyddog Cyfrifyddu. Yn achos pob benthyciad arall, mae angen awdurdodiad y Gorfforaeth yn unol â gofynion y Memorandwm Ariannol.
-
Mae sefyllfa llif arian gweithredol y Coleg ar gyfer y flwyddyn yn swm negyddol o £1.8 m. Gostyngodd y balansau arian parod cyffredinol £3 m (o £18.0 m i £15 m). Ysgogwyd hyn yn bennaf oherwydd ad-daliad grantiau nas defnyddiwyd o 22/23. Mae’r Coleg yn dymuno parhau i gronni balansau arian parod i ariannu datblygiadau cyfalaf sydd wedi eu cynllunio ar gyfer y dyfodol. Er mwyn cyflawni hyn, mae’r Coleg wedi parhau i hybu effeithiolrwydd o safbwynt yr addysg a’r hyfforddiant a gyflwynir. Cyflawnwyd hyn drwy adolygu darpariaeth y cwricwlwm yn drylwyr, effeithiolrwydd dosbarthiad adnoddau, a’r gwerth am arian gorau wrth brynu nwyddau a gwasanaethau, a’r un yw’r bwriad i’r dyfodol. Ymhellach, mae’r Coleg yn parhau i geisio a datblygu ffynonellau incwm eraill. Mae ail-fuddsoddiad sylweddol o ran ystadau, peiriannau a chyfarpar y Coleg yn sicrhau fod gan y dysgwyr ddarpariaeth o ansawdd i’w helpu yn eu proses addysgol. Nod y coleg yw cadw o leiaf 2 fis o wariant (£ 8 m) mewn cronfeydd arian parod wrth gefn bob amser.
-
Ceir cwricwlwm amrywiol i gyflenwi dyheadau’r dysgwyr. Mae’r cwricwlwm yn eang, yn hyblyg, yn gydlynol, ac yn hybu datblygiad. Fe’i cyflwynir mewn amrywiol ffyrdd sy’n gweddu i anghenion y dysgwyr. Ceir pwyslais galwedigaethol cryf a chaiff pob Maes Pwnc Sector Llywodraeth Cymru eu cynrychioli yn y Coleg.
Caiff y cwricwlwm ei lunio a’i adolygu mewn partneriaeth â budd-ddeiliaid y Coleg, y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol (RLSP), cyrff cynrychiadol y sector, Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, rhwydweithiau 14-19, cydweithwyr ACL, Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, diwydiant, byd busnes a chyflogwyr lleol. Ategir hyn gan ddefnyddio data arsyllfa sgiliau a ddarperir trwy’r RLSP.
Mae Tîm Cwricwlwm ac Ansawdd y Coleg yn adrodd wrth Bwyllgor Dysgwyr a Safonau’r Bwrdd. Mae hwn yn cynnig ffocws ar gyfer trafodaeth ar bolisïau cwricwlwm ac ansawdd a materion datblygu.
Mae amrediad o opsiynau ar gael ar bob lefel sy’n cynnig amrywiaeth a dewis i ddysgwyr. Cynigia rhaglen Mynediad Ieuenctid y Sir hefyd ddewis cwricwlwm arall rhannol lawn amser i ddysgwyr yn y Coleg sydd wedi wynebu heriau mewn ysgolion lleol. Mae’r cwricwlwm a gynigir gan y Coleg wedi’i achredu bron yn llwyr, gan gynnig cyfleoedd i ddysgwyr ennill cymwysterau ffurfiol.
Cynigir amrediad o ddarpariaethau achrededig pellach i ddysgwyr er mwyn cefnogi dysgu.
Gall dysgwyr hefyd gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau sy’n cyfoethogi eu hastudiaethau yn cynnwys profiadau sy’n gysylltiedig â gwaith, prosiectau byw, ymweliadau addysgiadol, ymweliadau tramor, gwaith amgylcheddol, siaradwyr gwadd, celfyddydau cymunedol, gwaith gwirfoddol a chodi arian. -
Mae gan y Coleg drefniadau partneriaeth ardderchog sy’n cyfrannu at gwricwlwm a phrofiad dysgu wedi eu cyfoethogi.
- O 1 Awst 2013, daeth y Coleg yn rhan o Grŵp Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, gan gynyddu’r cyfleoedd ar gyfer dysgwyr a rhannu gwybodaeth, profiad ac adnoddau. Yn yr un modd, daeth Coleg Ceredigion yn is-gwmni i Goleg Sir Gâr ar 1af Awst 2017.
- Drwy bartneriaethau o fewn yr awdurdod addysg a gydag ysgolion partner lleol (dros 16 o ysgolion), mae amrediad a nifer y cyfleoedd galwedigaethol ar gyfer disgyblion 14-19 yn sylweddol.
- Mae cysylltiadau â byd addysg a chyflogwyr yn ardderchog ac yn cynnwys cydweithrediad hirsefydlog y Coleg gyda CYFLE.
- Mae’r coleg yn gweithio’n helaeth wrth gyflwyno darpariaeth ar y cyd â TLC - y cwmni hyfforddi a dysgu.
- Mae’r coleg yn gweithio’n agos gydag ystod o gyflogwyr, e.e. Dŵr Cymru, Grŵp Owens, Thermal Earth, COTS, TRJ, Prince’s Gate, CM-Days, Ron Skinner a’i Fab, Castell Howell, yr AA, Serco, Remploy, Hywel Dda, e- Careers, 4DAcademy ac ati.
- Mae’r Coleg wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarth De-orllewin Cymru ac i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
- Mae partneriaeth dda yn bodoli rhwng y Coleg â Choleg Sir Benfro, colegau AB eraill a nifer o ddarparwyr hyfforddiant preifat eraill wrth ddarparu Dysgu Seiliedig ar Waith drwy’r Consortiwm B-WBL.
- Mae perthynas hir yn parhau gyda Chyngor Sir Gaerfyrddin wrth ddarparu Addysg Oedolion a Chymunedol.
- Mae perthynas waith agos yn bodoli gyda Gwasanaeth Ieuenctid yr AALl ac ysgolion lleol er mwyn cynnig cefnogaeth a chyrsiau i ddysgwyr sy’n debygol o beidio â bod mewn Cyflogaeth, Addysg na Hyfforddiant (NEET).
- Llwyddwyd i sicrhau partneriaeth waith ardderchog gyda’r Scarlets, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Gerddi Aberglasne, y mae rhai ohonynt yn gweithredu fel canolfannau cyflwyno hyfforddiant.
- Caiff y Coleg ei gynrychioli’n dda gan aelodau o adran weithredol a thîm rheoli’r Coleg ar nifer o rwydweithiau cenedlaethol; Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol; Addysg Oedolion a Chymunedol; Rhwydweithiau 14-19; Colegau Cymru a Llywodraeth Cymru.
- Mae academïau chwaraeon rhagorol mewn rygbi, pêl-droed a phêl-rwyd yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr ar lefelau elitaidd. Mae’r cyfleoedd hyn wedi deillio o bartneriaethau gwaith gydag Undeb Rygbi Cymru; y Scarlets; CBDC; Cymdeithas Bêl-rwyd Cymru, ac ati.
-
Dylid nodi fod adran nesaf yr adroddiad yn ymdrin â pherfformiad ansawdd, mesurau ac ystadegau sy’n adlewyrchu cyfuniad o ddata ar gyfer Coleg Sir Gâr a’i is-gwmni Coleg Ceredigion. Coleg Sir Gâr yw’r mwyaf o bell ffordd o ran pwysoli, gyda throsiant o tua £ 46 m o’i gymharu â £6 m ar gyfer Coleg Ceredigion (8,500 o fyfyrwyr o’i gymharu â thua 1,300 o fyfyrwyr yn ôl eu trefn).
Ym mis Mai 2022 croesawodd y Coleg Estyn a gynhaliodd arolygiad o’i ddarpariaeth addysg bellach. Roedd y fframwaith arolygu yn cwmpasu 5 prif faes: Dysgu; Llesiant ac Agweddau at Ddysgu; Profiadau Addysgu a Dysgu; Gofal, Cymorth ac Arweiniad; ac Arweinyddiaeth a Rheoli. Er nad yw Estyn yn darparu canlyniadau wedi’u graddio mwyach, roedd y canlyniad cyffredinol ar gyfer y Coleg yn gadarnhaol iawn. Mae’r nodweddion da a nodwyd yn yr adroddiad yn cynnwys:
- “Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu cefnogi’n dda yn ystod eu cyfnod yn y coleg.”
- “Mae’r coleg wedi ymgorffori ethos cadarnhaol yn llwyddiannus wedi’i seilio ar werthoedd parch, undod a phroffesiynoldeb.”
- “Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn siarad yn gadarnhaol am eu profiadau yn y coleg.”
- “Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn datblygu medrau ymarferol cymwys ac mae llawer yn cysylltu theori ag arfer yn llwyddiannus.”
- “Mae gan y coleg systemau ar waith i gynorthwyo dysgwyr yn eu dealltwriaeth o sut i gadw’n ddiogel a diogelu.”
- “Mae bron pob un o’r athrawon yn adnabod eu dysgwyr yn dda ac yn meithrin perthnasoedd sy’n annog ac yn cynorthwyo dysgwyr i wneud cynnydd.”
- “Mae’r rhan fwyaf o athrawon yn datblygu medrau digidol yn fedrus yn eu pynciau galwedigaethol neu academaidd.”
- “Mae dysgwyr yn arddangos lefelau uchel o gymhwysedd gan ddefnyddio platfformau digidol i storio, cofnodi, trefnu ac olrhain eu dysgu eu hunain.”
- “Lle bo’n briodol, mae athrawon yn cefnogi medrau Cymraeg dysgwyr trwy sgwrsio â nhw yn ystod dosbarthiadau.”
- “Mae’r Coleg wedi datblygu partneriaethau cryf ag ysgolion lleol ar gyfer darpariaeth 14-16.”
- “Ar draws bron pob un o’r cyrsiau, mae dysgwyr yn elwa ar lwybrau dilyniant clir i’r lefel nesaf neu i ddysgu yn y gwaith, addysg uwch neu gyflogaeth.”
- “Mae’r pennaeth wedi gosod gweledigaeth sy’n llywio blaenoriaethau strategol y coleg yn dda.”
- “Mae uwch reolwyr a rheolwyr canol yn dangos dealltwriaeth glir ynglŷn â sut maent yn cefnogi nod y coleg i gyflwyno ‘‘profiadau dysgu ysbrydoledig’’.
- “Yn ystod y pandemig, un o gryfderau penodol y coleg oedd ei ymrwymiad i wella medrau staff addysgu a staff cymorth i’w galluogi i gynorthwyo dysgwyr yn effeithiol i ddatblygu medrau digidol cryf ac aros ar eu cyrsiau.”
- “Mae tîm uwch reolwyr y coleg wedi bod yn effeithiol yn gwella’r profiadau dysgu a’r deilliannau mewn campysau sy’n tanberfformio.” “Ymatebont yn gyflym a rhoi gweithdrefnau gwella ansawdd trylwyr ar waith.”
- “Mae gan y coleg systemau sicrhau ansawdd cynhwysfawr ac mae’n casglu ystod eang o ddata.”
Mae’r argymhellion ar gyfer gwelliant parhaus yn cynnwys:
- Gwneud defnydd gwell o’r data helaeth sydd gan y coleg i fireinio gwerthuso effaith y ddarpariaeth a’r mentrau ymhellach.
- Cryfhau strategaethau i wella dealltwriaeth dysgwyr o radicaleiddio ac eithafiaeth.
- Sicrhau bod medrau rhifedd a medrau mathemategol ehangach dysgwyr yn cael eu datblygu’n llawn i fynd i’r afael â’r bylchau yn eu medrau.
Adroddiad Estyn Mai 2022 https://www.estyn.gov.wales/provider/f0009005
Aethpwyd i’r afael â’r holl gamau gweithredu ers hynny a’u cwblhau.
-
Addysg Bellach
Mae ‘mesurau perfformiad cyson cenedlaethol’ (CPM) 2022/23 Llywodraeth Cymru ar gyfer AB yn dangos cyfraddau cwblhau ar bob lefel y ddarpariaeth ar/neu’n uwch na’r cymharydd cenedlaethol, ac eithrio Lefel 3. Mae cwblhau llwyddiannus ar bob lefel y ddarpariaeth yn is na’r cymharydd cenedlaethol, ac eithrio Lefel 1. Bydd blaenoriaethu canlyniadau cwblhau llwyddiannus yn brif amcan i’r coleg eleni.
2021/22 2022/23 Llwyddiannus Cwblhau’n Llwyddiannus Llwyddiannus Cwblhau’n Llwyddiannus Rhaglenni Galwedigaethol Coleg Sir Gâr Canlyniadau Cendlaethol Coleg Sir Gâr Canlyniadau Cendlaethol Coleg Sir Gâr Canlyniadau Cendlaethol Coleg Sir Gâr Canlyniadau Cendlaethol Lefel 3 87% 87% 74% 74% 87% 88% 76% 79% Mynediad Lefel 3 71% 78% 69% 70% 83% 75% 62% 68% Lefel 2 86% 82% 72% 72% 86% 85% 71% 76% Lefel 1 84% 81% 76% 76% 85% 83% 77% 77% Mynediad/Cyn-mynediad 93% 84% 70% 76% 88% 86% 78% 80% *Nid yw’r canlyniadau ar gyfer 2023/24 wedi’u dilysu a’u cyhoeddi eto gan Lywodraeth Cymru.
Darperir y canlyniadau ar gyfer cymwysterau academaidd yn y tabl isod.
Canlyniadau Lefel UG (% y Graddau a Ddyfarnwyd) Blwyddyn A A-E 2024 CSG 21.0% 92.0% Cymharydd Cenedlaethol 19.8% 89.3% Canlyniadau Safon Uwch (% y Graddau a Ddyfarnwyd) Blwyddyn A* A*-A A*-E 2024 CSG 6.0% 25.0% 92.0% Cymharydd Cenedlaethol 6.6% 24.6% 89.3% Roedd y canlyniadau cyffredinol yn 2024 ar gyfer UG (A-E) a Safon Uwch (A*-E) yn rhagorol ac yn uwch na’r cymharydd cenedlaethol heblaw am ganran yr A* a ddyfarnwyd ar gyfer Safon Uwch, sydd ar 6%, ychydig yn is na’r cymharydd cenedlaethol o 6.6%.
-
Blwyddyn Prentisiaethau Sylfaen Prentisiaethau Prentisiaethau Uwch At ei gilydd 2019/20 56% 57% 39% 54% 2020/21 81% 73% 87% 79% 2021/22 71% 80% 89% 78% 2022/23 77% 63% 64% 71% *Nid yw’r canlyniadau ar gyfer 2023/24 wedi’u dilysu a’u cyhoeddi eto gan Lywodraeth Cymru.
Roedd 2022/23 yn flwyddyn heriol i DSW gyda gostyngiad mewn perfformiad mewn prentisiaethau a phrentisiaethau uwch. Fodd bynnag, mae amcanestyniad cynnar ffigurau ar gyfer 2023/24 yn galonogol iawn.
-
Blwyddyn Llawn Amser Rhan Amser 2021/22 88% 86% 2022/23 75% 84% 2023/24 78% 78% Yn hanesyddol, mae myfyrwyr addysg uwch wedi perfformio’n dda iawn yn gyson ar draws darpariaeth llawn amser a rhan-amser. Fodd bynnag, gwelodd blwyddyn academaidd 2022/23 ostyngiad anarferol, yn arbennig yng nghyfraddau llwyddiant myfyrwyr llawn amser. Mae’r data ar gyfer 2023/24, yn seiliedig ar ganlyniadau amcangyfrifedig, yn dangos sefydlogi posibl, er nad ar y lefelau uchel a welwyd yn 2021/22.
-
Mae’r Coleg yn ymrwymedig i gyflawni’r gorau ar gyfer ei ddysgwyr. Mae’n deall bod pob dysgwr yn dysgu yn ei ffordd unigryw ei hun, ac mae’n ymroddedig i ddarparu profiadau dysgu sy’n ennyn diddordeb, sy’n arloesol ac a gefnogir yn dda fel y gall pob dysgwr ffynnu a llwyddo. Mae Strategaeth Addysgu a Dysgu’r Coleg wedi’i chynllunio i rymuso staff i roi cyfle i bob un dysgwr gael llwyddo. Mewn byd sy’n newid yn barhaus, mae’n hanfodol meithrin gwytnwch ymhlith staff a dysgwyr ill dau er mwyn sicrhau eu bod yn barod i wynebu heriau’r dyfodol.
Mae ymagwedd y Coleg tuag at addysgu a dysgu, a phrofiad y dysgwr wedi’u tanategu gan ei ymrwymiad i’r holl:
- staff yn cael eu grymuso i danategu eu dewisiadau addysgeg trwy brosesau sy’n seiliedig ar ymchwil weithredu.
- amgylcheddau addysgu a dysgu sydd wedi’u galluogi’n ddigidol ac yn arloesol.
- staff yn cael eu cefnogi i gael mynediad i uwchsgilio’r diwydiant er mwyn meithrin a gwella eu proffesiynoldeb deuol.
- staff wedi’u hyfforddi a’u cefnogi i greu amgylcheddau cynhwysol a grymusol yn seiliedig ar ddiwylliant o hyfforddi.
Mae’r Coleg yn darparu cefnogaeth bwrpasol wedi’i theilwra ar gyfer yr holl ddysgwyr a staff. Cafodd y pwyslais sylweddol ar hyfforddiant, ysgogi a chefnogi staff ei gydnabod yn 2017 pan enillodd Coleg Sir Gâr Wobr Beacon Cymdeithas y Colegau (Association of Colleges Beacon Award) am ragoriaeth wrth ddatblygu staff; yn 2019 pan dderbyniodd Wobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol (Princess Royal Training Award) ac yn fwy diweddar, yn 2022, pan dderbyniodd Wobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol eto.
Mae staff yn ymgysylltu’n weithredol ag ymrwymiad cryf y Coleg i ddatblygiad proffesiynol parhaus, ac yn elwa ohono, a adlewyrchir yng nghanlyniadau dysgwyr a chanlyniadau arolygon dysgwyr. Yn sylfaen i’r broses hon, yw gwaith hunanasesu pob athro wrth ystyried eu perfformiad yn erbyn meini prawf perfformiad allweddol, sy’n helpu i greu proffil addysgu personol sy’n nodi meysydd penodol i’w datblygu. Ar ôl cyfnod o weithredu, caiff y broses hunanasesu ei hailadrodd i alluogi cymorth wedi’i deilwra a gwelliant parhaus.
Mae Tîm Addysgu a Dysgu’r Coleg yn darparu cefnogaeth ardderchog a hyfforddiant wedi’i deilwra ar gyfer aelodau newydd o staff, myfyrwyr TAR a’r staff dysgu hynny sydd angen cefnogaeth gyda rhai elfennau o’u gwaith. Caiff rhagoriaeth mewn addysgu ei werthfawrogi a’i ddathlu’n fawr trwy gyfrwng seremoni wobrwyo addysgu a dysgu flynyddol.
-
Mae’r Coleg yn ymroddedig i feithrin amgylchedd iach sy’n gwella lles dysgwyr a staff hefyd. Mewn ymateb i anghenion cynyddol, mae wedi cynyddu’r ffocws ar les ac iechyd meddwl. Mae cyfnodau cynefino, tiwtorial a gweithgareddau hyrwyddo wedi gwella dealltwriaeth dysgwyr o les yn llwyddiannus, gan adlewyrchu blaenoriaeth y Coleg ar sicrhau eu diogelwch, gan gynnwys diogelwch ar-lein.
Mae’r Coleg yn darparu cefnogaeth arbenigol ragorol o ran lles personol ac iechyd meddwl. Mae gweithdrefn atgyfeirio ac asesu newydd wedi’i chyflwyno, sy’n canolbwyntio ar sicrhau bod dysgwyr yn derbyn y gefnogaeth iawn ar yr adeg iawn. Caiff dysgwyr sy’n wynebu rhwystrau sylweddol i ddysgu eu cyfeirio at wasanaethau mentora a chwnsela. Mae adborth dysgwyr yn gadarnhaol, gyda chefnogaeth y tîm lles yn chwarae rôl hanfodol wrth helpu myfyrwyr i aros mewn addysg a llwyddo, er eu bod yn aml yn wynebu heriau personol sylweddol.
Mae pwyslais cryf ar gydraddoldeb ac amrywiaeth yn sicrhau bod yr holl ddysgwyr a staff yn cael eu trin â pharch. Cynyddwyd ymwybyddiaeth ymysgy ddau grŵp yn effeithiol drwy amrywiaeth o gyfryngau a gweithgareddau sy’n cael eu harddangos mewn mannau amlwg ar hyd a lled y campysau.
Mae mesurau effeithiol yn eu lle i ddiogelu plant ac oedolion agored i niwed gyda chefnogaeth polisïau a gweithdrefnau clir. Mae neges ‘byddwch saff’ y coleg yn pwysleisio hawliau pob dysgwr i fod yn rhydd rhag bwlio ac aflonyddu, gyda chamau pendant yn cael eu cymryd i atal ymddygiad o’r fath. Caiff diogelwch ar-lein ei gefnogi’n dda hefyd trwy weithgarwch hyrwyddo a thiwtorial pwrpasol.
-
Yn 2023/24, ffocws yr arolwg llais y dysgwr blynyddol addysg bellach oedd mesur canfyddiad y dysgwyr o addysgu a dysgu. At ei gilydd, mae canfyddiad y dysgwyr mewn perthynas â’u profiadau addysgu a dysgu yn rhagorol. Caiff gwella’r gyfradd ymateb ar gyfer dysgwyr galwedigaethol ei flaenoriaethu eleni.
Arolwg Llais y Dysgwr (Addysgu a Dysgu) 2023/24 Lefel UG a Safon Uwch Galwedigaethol Cyfradd Ymateb 85% 68% Cwestiwn Cyfradd Bodlonrwydd Ymateb yn seiliedig ar % y Dysgwyr a holwyd Cyfradd Bodlonrwydd Ymateb yn seiliedig ar % y Dysgwyr a holwyd Rwy’n teimlo bod fy ngwersi wedi’u cynllunio’n dda. 98% 100% 91% 100% Rwy’n teimlo fy mod yn cael fy herio a fy ymestyn yn fy ngwersi ac mae gen i gyfleoedd i wella a dysgu. 96% 100% 90% 100% Rwy’n teimlo bod amrywiaeth o dasgau yn fy ngwersi sy’n cadw fy niddordeb. 89% 100% 87% 100% Mae fy ngwersi’n dechrau gyda gweithgaredd i wneud i mi feddwl ac yn gorffen gyda gweithgaredd i fyfyrio ar yr hyn rwyf wedi’i ddysgu. 83% 100% 75% 100% Mae fy nhiwtor yn ystyried fy anghenion dysgu unigol yn dda wrth gynllunio a chyflwyno fy ngwersi. 92% 100% 92% 100% Mae tasgau anodd yn cael eu rhannu’n gamau llai. 93% 100% 88% 100% Defnyddir technoleg yn dda yn fy ngwersi sy’n fy helpu i ddysgu. 92% 100% 93% 100% Mae athrawon yn gofyn cwestiynau i’m hannog i gymryd rhan mewn gwersi. 96% 100% 93% 100% Pan fo angen, caiff ymddygiad gwael ei herio gyda pharch a phositifrwydd yn y dosbarth. 96% 100% 91% 100% Rwy’n cael cyfleoedd i ddefnyddio adborth athrawon a gweithgareddau hunanwerthuso er mwyn fy helpu i wella fy ngwaith. 95% 100% 93% 100% Rwy’n cael cyfleoedd i weithio gyda fy nghyd-ddysgwyr ac i roi adborth i’n gilydd ar ein gwaith. 92% 100% 93% 100% Rwy’n cael fy annog yn rheolaidd i osod targedau ac adolygu fy nghynnydd. 90% 100% 89% 100% Rwy’n cael adborth rheolaidd â ffocws i’m helpu i wella fy ngwaith. 93% 100% 91% 100% Rwy’n derbyn gwaith wedi’i farcio’n brydlon ac rwy’n gwybod ble i chwilio am fy adborth a’m graddau. 94% 100% 89% 100% Mae gan fy athrawon ddisgwyliadau uchel ohonof ac rwy’n teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi a’m herio i wneud fy ngorau bob amser. 96% 100% 92% 100% Rwy’n mwynhau dysgu ac yn cael fy ysbrydoli i lwyddo 92% 100% 91% 100%
-
Mae myfyrwyr Addysg Uwch yn eu blwyddyn astudio olaf wedi parhau i ymateb yn dda i’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, ac yn hanesyddol mae sgorau bodlonrwydd myfyrwyr rhagorol wedi’u cyflawni mewn addysgu, dysgu a phrofiadau cyffredinol yn y Coleg. Erys bodlonrwydd myfyrwyr yn uchel, gyda chyfradd bodlonrwydd cyffredinol o 85%. Er gwaethaf gostyngiadau bach, mae sgorau bodlonrwydd yn parhau yn rhagorol ac yn uwch na chyfartaleddau PCYDDS a Sector Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru yng nghategorïau allweddol yr arolwg: Adnoddau Dysgu; (93%); Cymorth Academaidd (91%); Asesu ac Adborth (90%); Addysgu (93%); a Chyfleoedd Dysgu (90%).
Boddhad Cyffredinol
Sefydliad / Blwyddyn Boddhad (%) CSG (2022) 77% CSG (2023)* 87% CSG (2024)* 85% UWTSD 83% HEIs (Cymru) 80% Addysgu
Sefydliad / Blwyddyn Boddhad (%) CSG (2022) 85% CSG (2023)* 97% CSG (2024)* 93% UWTSD 89% HEIs (Cymru) 86% Asesu ac Adborth
Sefydliad / Blwyddyn Boddhad (%) CSG (2022) 82% CSG (2023)* 95% CSG (2024)* 90% UWTSD 87% HEIs (Cymru) 80% Cefnogaeth Academaidd
Sefydliad / Blwyddyn Boddhad (%) CSG (2022) 83% CSG (2023)* 97% CSG (2024)* 91% UWTSD 89% HEIs (Cymru) 86% Trefniadaeth a Rheolaeth
Sefydliad / Blwyddyn Boddhad (%) CSG (2022) 78% CSG (2023)* 86% CSG (2024)* 79% UWTSD 81% HEIs (Cymru) 76% Adnoddau Dysgu
Sefydliad / Blwyddyn Boddhad (%) CSG (2022) 90% CSG (2023)* 90% CSG (2024)* 93% UWTSD 86% HEIs (Cymru) 87% -
Er na chafwyd unrhyw brosiectau adeiladu na chaffaeliadau mawr yn ystod y flwyddyn, bu buddsoddiad cyfalaf sylweddol mewn perthynas â chynnal a chadw adeiladau, peiriannau, cyfarpar a TG a hwyluswyd yn y coleg ar gyfer 2023/24.
-
Mae’r Coleg yn rhagweld dyfodol sicr fel rhan o grŵp Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant (“PCYDDS”) gan ymrwymo i barhau i gynnig darpariaeth addysg bellach gref ar draws y sir.
Mae’r Coleg yn wynebu nifer o heriau sylweddol yn ystod y blynyddoedd nesaf, yn cynnwys:
- Gwella canlyniadau dysgwyr
- Datblygu’r coleg fel canolfan rhagoriaeth ar gyfer addysgu a dysgu
- Wynebu heriau ‘Digital 2030’
- Cydymffurfio â gofynion y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Datblygu Cymhwyster y Fagloriaeth Gymreig ar Lefel 3
- Datblygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ymhellach
- Cynnal ac amrywio portffolio’r cwricwlwm ar draws amrywiol sectorau
- Datblygu mwy o hyfforddiant masnachol
- Datblygu strategaethau i ymdopi â phwysau nawdd cyhoeddus
- Gwella, rhesymoli a datblygu ystâd mewn partneriaeth â PCYDDS a’r Cyngor Sir.
- Hyrwyddo’r agenda cynaladwyedd ar gyllideb gyfyngedig.
-
Mae’r Coleg yn gweithredu fframwaith rheoli risg a rheolaeth fewnol gadarn fel y disgrifir yn y datganiad llywodraethiant corfforaethol isod. Cefnogir hwn gan raglen rheoli risg benodol.
Mae’r pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg yn ymgymryd ag adolygiad cynhwysfawr o bob risg posib sy’n wynebu’r Coleg, sy’n cael eu cofnodi wedyn yng nghofrestr risg y Coleg a’u sgorio yn unol â matrics penodol sy’n adnabod y tebygrwydd o’r risgiau yma’n digwydd, a’r effaith posib ar y Coleg petaent yn digwydd. Rhaid i’r pwyllgor wedyn ganfod systemau, gweithdrefnau a dulliau rheoli y gellir eu mabwysiadu i leihau’r risgiau er mwyn sicrhau y gellir eu rheoli ar lefel dderbyniol.
Ymdrinnir â phwnc rheoli risgiau ym mhob cyfarfod o’r pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg, sy’n adrodd eu canfyddiadau’n achlysurol i’r Bwrdd.
Caiff arolwg blynyddol ei gynnal er mwyn sicrhau effeithiolrwydd y system rheoli risgiau a chaiff unrhyw wendidau eu hadnabod a’u cywiro.
Isod, ceir amlinelliad o rai o’r prif risgiau sy’n wynebu’r Coleg yn y dyfodol rhagweladwy. Nid yw pob un o fewn rheolaeth y Coleg. Gall ffactorau eraill, heblaw’r rhai a restrir isod, gael effaith andwyol ar y Coleg.
-
Lleihad yn nhermau real yng nghyllid y llywodraeth
Mae’r Coleg yn dibynnu ar gyllid gan y llywodraeth, ac mae’r hinsawdd gyfredol yn golygu fod yna bwysau parhaus ar y ffrwd incwm yma.
Caiff y risg ei lleihau mewn nifer o ffyrdd:
- Ymdrech ar y cyd, ysfa a ffocws ar greu sylfaen incwm mwy amrywiol;
- Ffocws penodol ar ansawdd er mwyn sicrhau safon cyflwyniad uchel ym mhob agwedd o addysg a hyfforddiant;
- Cynnal nifer y myfyrwyr sy’n cofrestru ar gyfer addysg uwch. Mae’r Coleg eisoes yn cynnig darpariaeth sylweddol o gyrsiau addysg uwch;
- Gweithio’n agos gyda grŵp PCYDDS a Choleg Ceredigion i gysoni gweithrediadau ac osgoi dyblygu gyda’r nod o leihau costau;
- Gwaith yr Uned Datblygu Busnes sydd â phrif nod o adeiladu ffrwd incwm masnachol cynaliadwy nad yw’n dibynnu ar gyllid oddi wrth y llywodraeth;
- Canolbwyntio ar sectorau blaenoriaeth sy’n debygol o ddenu cyllid cyhoeddus;
- Tyfu a datblygu darpariaeth ddysgu seiliedig ar waith y Coleg; ac
- Adeiladu partneriaethau gydag ysgolion a busnesau
-
Methiant i recriwtio a chadw myfyrwyr
Bydd demograffeg ac amgylchedd newidiol lle credir bod cystadleuaeth yn dwysáu yn anorfod yn ei gwneud hi’n fwy anodd i recriwtio a chadw myfyrwyr. Gallai hyn gael effaith ar bob ffynhonnell ariannol.
Gellir lleihau’r risg fel a ganlyn:
- Gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion;
- Ymdrech farchnata â ffocws;
- Ffynonellau incwm amrywiol;
- Partneriaethau gyda busnesau lleol a chyrff perthnasol eraill;
- Sicrhau cyflwyno addysg a hyfforddiant o safon uchel;
- Strwythurau cefnogi dysgwyr er mwyn sicrhau fod dysgwyr yn cael eu cefnogi ar hyd y daith;
- Canolbwyntio ar ddatblygiad drwy’r lefelau.
-
Amodau Economaidd Cyffredinol : Costau cynyddol a phwysau cyflogau
Mae’r coleg yn mynd ati i edrych ar weithrediadau i sicrhau parhad llyfn gweithrediadau yn ogystal â gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod heriol parhaus hwn.
-
-
Mae’r Coleg yn falch o allu cadarnhau bod y targed o adennill costau cyn costau rhwymedigaeth budd diffiniedig wedi’i gyflawni gyda gwir alldro cyn costau rhwymedigaeth budd diffiniedig heblaw am arian parod o £ 92,000 gwarged (22/23: gwarged o £414,000). Y gwarged ar gyfer y flwyddyn wedi costau rhwymedigaeth budd diffiniedig yw £710,000 (diffyg o £437,000 yn 22/23), gydag addasiadau heblaw am arian parod £618,000 yn fudd cadarnaol anarferol (22/23: £851,000 addasiad negyddol).
Mae niferoedd myfyrwyr wedi parhau i fod yn weddol fywiog yn ystod y flwyddyn, gyda chyfanswm niferoedd myfyrwyr Addysg Bellach llawn amser ychydig yn well na’r blynyddoedd blaenorol.
Mae’r Coleg yn parhau i sicrhau safonau uchel o safbwynt ansawdd yr addysgu a dysgu, ac wedi derbyn adroddiad Estyn da adeg yr arolwg diwethaf (gweler Adroddiad Strategol). Yn yr un modd, mae adroddiadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr fel arfer yn dangos lefelau boddhad uchel ymysg y myfyrwyr.
Cafodd yr adroddiad hwn ei gymeradwyo gan y bwrdd ar 12 Rhagfyr 2024 a’i lofnodi ar ran y bwrdd gan:
Llofnod:
Mr John Edge, Director
ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AR GYFER DIWEDD Y FLWYDDYN 31 GORFFENNAF 2024
Mae’r cyfarwyddwyr yn cyflwyno eu hadroddiad a datganiadau ariannol y Cwmni wedi eu harchwilio ar gyfer diwedd y flwyddyn 31ain Gorffennaf 2024.
Canlyniadau a datblygiadau i’r dyfodol
Nodir canlyniadau’r flwyddyn, strategaeth a datblygiadau’r Cwmni i’r dyfodol yn yr Adroddiad Strategol ar dudalennau 4 i 15.
Buddrannau
Mae’r Cwmni’n gyfyngedig drwy warrant. Nid oes unrhyw fuddrannau wedi eu talu nac yn cael eu hargymell ar gyfer diwedd y flwyddyn 31 Gorffennaf 2024.
Ymgynghorwyr proffesiynol
- Archwilydd allanol: KPMG LLP, Caerdydd
- Archwilydd mewnol: Mazars LLP, Bryste
- Banciwr: Barclays Bank Plc, Llanelli
- Cyfreithwyr:Eversheds, Hepworth & Chadwick, Caerdydd
Cyfarwyddwyr
Dyma gyfarwyddwyr y Cwmni oedd yn weithredol yn ystod y flwyddyn a hyd at y dyddiad y llofnodwyd y datganiadau ariannol, oni nodir yn wahanol:
Presenoldeb y Cyfarwyddwyr mewn Cyfarfodydd
Cyfarwyddwyr | % mynychu cyfarfodydd |
---|---|
Mrs Maria Stedman *# (wedi ymddiswyddo 07/12/2023) | 100 % |
John Edge*# (Cadeirydd) | 100 % |
Mrs Abigail Salini*# (penodwyd 23/03/23) | 60 % |
Mr Huw Davies* | 60 % |
Mr Eifion Griffiths*# (wedi ymddiswyddo 31/07/2024) | 75 % |
Mr Delwyn Jones*# (wedi ymddiswyddo 31/07/2024) | 60 % |
Mr Alan Smith* | 100 % |
Ms Erica Cassin *# | 100 % |
Mr Ben Francis* | 80 % |
Mrs Jacqui Kedward*# | 100 % |
Mr Mike Theodoulou*# | 60 % |
Mrs Tracy Senchal* | 20 % |
Mr John Williams*# | 75 % |
Mr Louis Dare *# (penodwyd 06/10/22) | 75 % |
Miss Jenna Loweth *# (penodwyd 01/08/23) | 25 % |
Mr Peter Spring *# (wedi ymddiswyddo 31/07/24) | 75 % |
Andrew Cornish *# (Pennaeth) | 100 % |
(* Cyfarwyddwyr anweithredol)
(# Ymddiriedolwyr)
-
Mae gan y cyfarwyddwyr fantais o indemniad sy’n ddarpariaeth indemniad trydydd parti cymwys fel y’i diffinnir gan adran 234 o Ddeddf Cwmnïau 2006. Roedd yr indemniad yn bodoli trwy gydol y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ac mae’n dal mewn bodolaeth ar ddyddiad llofnodi’r datganiadau ariannol yma.
-
Mae’r Coleg yn dilyn y Cod Arfer Taliadau Gwell (Better Payments Practice Code) wrth ymdrin â’i gyflenwyr. Dyma bedair prif egwyddor y cod:
- cytuno ar delerau talu ar ddechrau unrhyw fargen a glynu wrth y telerau hynny;
- egluro’r gweithdrefnau talu wrth gyflenwyr;
- talu biliau yn unol ag unrhyw gytundeb a wnaed gyda’r cyflenwr, neu’n unol â’r gyfraith; a
- hysbysu cyflenwyr yn ddi-oed os oes yna anghytundeb ynglŷn ag anfoneb a setlo’r mater cyn gynted â phosib o dderbyn ymateb ffafriol.
Mae Deddf Talu Dyledion Masnachol yn Hwyr (Llog) 1998, sy’n weithredol ers 1 Tachwedd 1998, yn gofyn i Golegau, yn absenoldeb cytundeb i’r gwrthwyneb, dalu cyflenwr o fewn 30 diwrnod naill ai o ddarparu’r nwyddau neu’r gwasanaethau neu’r dyddiad y derbyniwyd yr anfoneb. 95 y cant yw’r targed a osodwyd gan y Trysorlys ar gyfer talu cyflenwyr o fewn 30 diwrnod. Dyma berfformiad y Coleg o safbwynt talu ei gyflenwyr ar ddiwedd y flwyddyn 31 Gorffennaf 2024:-
Anfoneb a Data Credydwyr Masnach
Year
rhifValue of Invoices (£000) Talwyd ar amser % o gyfanswm yr anfonebau a dderbyniwyd Credydwyr Masnachol ar 31 Gorffennaf (£000) Diwrnodau credydwyr masnachol 2024 7,454 25,852 5,809 78% 2,168 31 days 2023 6,946 24,996 5,117 74% 2,135 31 days Ni dderbyniodd y Coleg unrhyw gostau llog yn sgil Deddf Talu Dyledion Masnachol yn Hwyr (Llog) 1998.
-
Mae’r Coleg yn buddsoddi’n gyson yn y gwaith o gynnal a chadw’r ystâd trwy gyfrwng rhaglenni cynnal a chadw blynyddol sy’n cael eu gweinyddu yn ystod misoedd yr haf. Mae cyllidebau blynyddol yn cynnwys dyraniadau ar gyfer gwaith o’r fath. Ni chafwyd unrhyw brosiectau cyfalaf sylweddol yn ystod 23/24.
-
Mae’r Coleg wedi ymrwymo i sicrhau cydraddoldeb cyfleoedd ar gyfer pawb sy’n dysgu ac yn gweithio yma. Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi’n gadarnhaol y gwahaniaethau mewn hil, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, crefydd neu gred ac oed. Rydym yn ymdrechu’n daer iawn i ddileu amodau sy’n rhoi pobl dan anfantais ac rydym yn gweithredu yn erbyn rhagfarn. Mae’r modd y mae’r polisi hwn yn derbyn adnoddau, yn cael ei weithredu a’i fonitro yn cael ei gynllunio.
Mae Polisi Cydraddoldeb Strategol y Coleg, er yn gyffredinol berthnasol i weithwyr cyflogedig, yr un mor berthnasol i unigolion anabl gan y byddai’r Coleg yn darparu hyfforddiant, datblygiad gyrfa a chyfleoedd ar gyfer dyrchafiad, sydd, cyn belled â phosibl, yn union yr un fath â’r rhai ar gyfer gweithwyr cyflogedig eraill.
-
Mae gan y Coleg nifer o fudd-ddeiliaid. Mae’r rhain yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:
- Fyfyrwyr;
- Cyrff ariannu’r sector addysg;
- Staff;
- Cyflogwyr lleol (gyda chysylltiadau penodol);
- Awdurdodau lleol;
- Partneriaethau Mentrau Lleol (LEPs);
- Y gymuned leol;
- Sefydliadau Addysg Bellach eraill;
- Undebau llafur; a
- Chyrff proffesiynol.
Mae’r Coleg yn cydnabod pwysigrwydd y berthynas â’r budd-ddeiliaid yma ac yn cyfathrebu’n gyson â nhw trwy gyfrwng cyfarfodydd a gwefan y Coleg.
-
Mae’r Coleg yn darparu gwybodaeth yn systematig i weithwyr cyflogedig a staff ynglŷn â materion o bwys iddynt, gan drafod yn gyson â nhw neu â’u cynrychiolwyr, er mwyn gallu ystyried eu barn wrth wneud penderfyniadau sy’n debygol o effeithio arnynt. Cynigia strwythur y pwyllgorau y cysylltiadau cyfathrebu ffurfiol fel sy’n briodol o wahanol gategorïau cyflogaeth staff a myfyrwyr. Caiff cyfranogiad gweithwyr cyflogedig a myfyrwyr eu hannog yn y Coleg, gan fod cyflawni ymwybyddiaeth gyffredin ar ran yr holl weithwyr cyflogedig a myfyrwyr o’r ffactorau ariannol ac economaidd sy’n effeithio ar y Coleg ac yn chwarae rôl flaenllaw yn y broses o wneud penderfyniadau.
-
Mae’n ofynnol i’r Cyfarwyddwyr gyflwyno datganiadau ariannol wedi eu harchwilio ar gyfer pob blwyddyn ariannol o dan y gyfraith cwmnïau. Mae’r Cyfarwyddwyr yn gyfrifol am baratoi’r Adroddiad Strategol, Adroddiad y Cyfarwyddwyr, y Datganiad Budd Cyhoeddus a’r Datganiad o Lywodraethiant Corfforaethol a Rheolaeth Fewnol a’r datganiadau ariannol yn unol â chyfraith a rheoliadau sy’n gymwys.
Yn unol â thelerau ac amodau’r Memorandwm Ariannol rhwng Llywodraeth Cymru â’r sefydliadau addysg bellach, mae’n ofynnol i’r Cyfarwyddwyr baratoi datganiadau ariannol ac adolygiad gweithredol ac ariannol ar gyfer pob blwyddyn ariannol yn unol â’r Datganiad o’r Arfer a Argymhellir – Cyfrifyddu ar gyfer Addysg Bellach ac Uwch, y Cyfarwyddyd Cyfrifon ar gyfer Colegau Addysg Bellach yng Nghymru ac Egwyddorion Cyfrifyddu Derbyniol Cyffredinol y DU, gan gynnwys FRS 102, y Safon Adrodd Ariannol sy’n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon.
O dan gyfraith cwmnïau, rhaid i’r Cyfarwyddwyr beidio â chymeradwyo’r datganiadau ariannol oni bai eu bod yn fodlon eu bod yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa’r Coleg a’i elw neu golled am y cyfnod hwnnw.
Trosglwyddwyd y gwaith o reoleiddio’r sector Addysg Bellach yng Nghymru o Lywodraeth Cymru i Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ar 1 Awst 2024. Mae’r Cod Ymarfer Archwilio, y Cyfarwyddyd Cyfrifon ar gyfer Colegau Addysg Bellach yng Nghymru 2023/24 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru (“Cyfarwyddyd Cyfrifon 2023/24”) a’r Cod Rheoli Memorandwm Ariannol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn parhau yn eu lle hyd nes y cânt eu disodli gan gyhoeddiadau dilynol Medr.
O ystyried y trosglwyddiad hwn, dylid darllen unrhyw gyfeiriadau at Lywodraeth Cymru yn ein hadroddiad fel cyfeiriad hefyd at Medr.
Wrth lunio’r datganiadau ariannol, mae’n ofynnol i’r Cyfarwyddwyr:
- ddewis polisïau cyfrifyddu addas ac yna eu defnyddio’n gyson
- gwneud dyfarniadau ac amcangyfrifon sy’n rhesymol a darbodus;
- datgan os ydynt wedi dilyn safonau cyfrifyddu perthnasol y DU, yn unol ag unrhyw ymadawiadau perthnasol a ddatgelir ac a eglurir yn y datganiadau ariannol;
- asesu gallu’r Coleg i barhau yn fusnes gweithredol, gan nodi’r rhagdybiaethau ategol allweddol neu gamau lliniarol, fel sy’n briodol (sy’n gorfod bod yn gyson â datgeliadau eraill yn y cyfrifon); a
- defnyddio’r sail gyfrifo busnes gweithredol heblaw eu bod naill ai’n bwriadu dirwyn y Coleg i ben neu i beidio â gweithredu, neu os nad oes unrhyw ffordd realistig arall o osgoi gwneud hynny.
Disgwylir hefyd i’r Cyfarwyddwyr lunio Adroddiad Aelodau sy’n disgrifio’r hyn y mae’n ceisio’i gyflawni a sut mae cyflawni hynny, yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â statws cyfreithiol a gweinyddol y Coleg.
Mae’r Cyfarwyddwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion cyfrifyddu digonol sy’n ddigon i ddangos ac egluro trafodion y Coleg ac sy’n datgelu, gyda chywirdeb rhesymol ar unrhyw adeg, sefyllfa ariannol y Coleg ac sy’n eu galluogi i sicrhau bod y datganiadau ariannol yn cael eu paratoi yn unol â deddfwriaeth berthnasol gan gynnwys Deddf Cwmnïau 2006, Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 a Deddf Elusennau 2011, a safonau cyfrifyddu perthnasol. Maent yn gyfrifol am y cyfryw reolaeth fewnol ag y maent yn barnu sy’n angenrheidiol i alluogi paratoi datganiadau ariannol sy’n rhydd o gamddatganiadau materol, boed hynny oherwydd twyll neu gamgymeriad. Maent yn gyfrifol am gymryd camau sy’n rhesymol agored iddynt er mwyn diogelu asedau’r Coleg a rhwystro a chanfod twyll ac unrhyw afreoleidd-dra arall.
Cyfrifoldeb y Cyfarwyddwyr yw cynnal a chadw ei wefan(nau), a’i chywirdeb; nid yw’r gwaith a wneir gan archwilwyr yn cynnwys ystyriaeth o’r materion hyn, ac o’r herwydd, nid yw’r archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw newidiadau a allai fod wedi digwydd i’r datganiadau ariannol ers iddynt gael eu cyflwyno’n wreiddiol ar y wefan. Gall deddfwriaeth yn y Deyrnas Unedig sy’n ymwneud â llunio a lledaenu gwybodaeth am ddatganiadau ariannol wahaniaethu oddi wrth ddeddfwriaeth mewn awdurdodaethau eraill.
Mae’r Cyfarwyddwyr yn gyfrifol am sicrhau fod gwariant ac incwm yn cael eu defnyddio i’r dibenion a nodwyd gan Lywodraeth Cymru a bod trafodion ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu. Ymhellach, maent yn gyfrifol am sicrhau fod cyllid gan Lywodraeth Cymru, ac unrhyw arian cyhoeddus arall, yn cael ei ddefnyddio’n unol â’r Memorandwm Ariannol gyda Llywodraeth Cymru ac unrhyw amodau eraill y gellir eu mabwysiadu’n achlysurol gan Lywodraeth Cymru neu unrhyw gyllidwr cyhoeddus arall. Rhaid i’r Cyfarwyddwyr sicrhau fod dulliau rheoli ariannol a rheolaethol yn weithredol er mwyn diogelu arian y cyhoedd ac eraill gan sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n gywir. Ymhellach, y Cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am sicrhau bod adnoddau a gwariant y Coleg yn cael ei reoli’n economaidd effeithiol ac yn effeithlon rhag i’r manteision sy’n deillio o ddefnyddio cyllid cyhoeddus Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill gael eu peryglu.
-
Data allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU a defnydd ynni ar gyfer y cyfnod 1af Awst 2023 tan 31ain Gorffennaf 2024 (a’r flwyddyn flaenorol):
Blwyddyn gyfredol Blwyddyn flaenorol Defnydd ynni i gyfrifo allyriadau (kwh) 4,435,025 4,465,514 Allyriadau Cwmpas 1 mewn tunnelli metrig Co2e Nwy 595 612 Trafnidiaeth dan berchnogaeth 43 45 Cyfanswm Cwmpas 1 638 657 Allyriadau Cwmpas 2 mewn tunnelli metrig Co2e Trydan 310 300 Allyriadau Cwmpas 3 mewn tunnelli metrig Co2e Teithio busnes - Cerbydau sy’n eiddo i weithwyr 58 39 Cyfanswm Gros allyriadau mewn tunnelli metrig Co2e 1005 996 Cymhareb dwyster tunnelli Co2e fesul myfyriwr 0.141 0.166 -
Rydym wedi dilyn canllawiau Adrodd Amgylcheddol Llywodraeth Ei Mawrhydi 2019. Rydym hefyd wedi defnyddio Protocol Adrodd Nwyon Tŷ Gwydr - Safonau Corfforaethol ac wedi defnyddio ffactorau trosi Llywodraeth y DU 2024 ar gyfer Adroddiadau Cwmnïau.
-
Y gymhareb mesur dwyster a ddewiswyd yw cyfanswm yr allyriadau gros mewn tunelli metrig Co2e fesul disgybl, y gymhareb a argymhellir ar gyfer y sector.
-
Gosodwyd mesuryddion clyfar ym mhob safle. Mae paneli solar wedi eu gosod ar 3 o’n campysau mwyaf sy’n lleihau faint o ynni a brynwyd yn sylweddol. Gosodwyd bylbiau golau arbed ynni (LEDs) gymaint â phosib ac mae teithiau staff wedi lleihau yn sgil y pwyslais ar gynnal cyfarfodydd rhithiol a defnyddio meddalwedd megis Teams neu Google Meet. Mae’r coleg wedi buddsoddi’n helaeth mewn cyfleusterau storio beiciau ac mae’n gweithredu Cynllun Beicio i’r Gwaith i annog y dull glanach ac iachach hwn o deithio i’r coleg. Mae mannau gwefru EV (Cerbydau Trydan) hefyd wedi’u gosod ar bob un o’n campysau.
-
Ymgysylltu â’n budd-ddeiliaid (datganiad adran 172 (1))
Bwrdd y Cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am hybu llwyddiant y Grŵp er lles ei holl aelodau gan ystyried buddiannau ein budd-ddeiliaid (dim cyfranddalwyr gan ei fod yn gwmni cyfyngedig trwy warant), ein myfyrwyr, Llywodraeth Cymru, ein cleientiaid, ein gweithwyr cyflogedig, ein perthnasoedd â’n cyflenwyr ac effaith ein gweithrediadau ar y cymunedau yr ydym yn gweithredu ynddynt, gan sicrhau ein bod yn cynnal enw da am safonau uchel o ran ansawdd, gofal ac ymddygiad busnes.
Ein prif fudd-ddeiliaid yw ein myfyrwyr, Llywodraeth Cymru, ein cleientiaid, busnesau lleol, ein gweithwyr cyflogedig a’r cymunedau rydym yn gweithredu o’u mewn. Mae ein cyflenwyr a’n rheoleiddwyr hefyd yn fudd-ddeiliaid pwysig o fewn y grŵp. Mae pob un o brif benderfyniadau’r Bwrdd yn ystyried yr effaith ar y budd-ddeiliaid perthnasol. Yn fwyfwy, mae budd-ddeiliaid yn ceisio sicrhau dealltwriaeth o’n perfformiad yng nghyswllt nifer o feysydd o berfformiad i wasanaethau, ymgysylltiad â’r gymuned, mentergarwch, llywodraethiant, arferion yn y gweithle a dinasyddiaeth gorfforaethol. Mae’r Bwrdd yn ymdrechu i ddeall rhagdybiaethau ac agweddau pob grŵp o fudd-ddeiliaid a’r pwyslais y maent yn ei roi ar wahanol faterion. Os oes yna wahaniaethau barn rhwng gwahanol grwpiau o fudd-ddeiliaid, mae’n rhaid i’r Bwrdd benderfynu ar y ffordd orau i symud ymlaen er mwyn hybu llwyddiant hirdymor y cwmni.
-
Ein myfyrwyr sydd wrth galon ein busnes a’n gweithrediadau. Ein bwriad yw sicrhau’r safonau addysgol a hyfforddiant gorau posibl yn ogystal â darparu amgylchedd diogel, cyffrous a modern ar gyfer astudio ynddo a’r profiad gorau posib yn ystod eu cyfnod yn y coleg.
-
Fel sefydliad gwasanaeth, mae ein gweithwyr cyflogedig yn allweddol i’n busnes. Rydym yn awyddus i’n gweithwyr cyflogedig deimlo eu bod wedi ymgysylltu a bod ganddynt y gallu i sicrhau deilliannau ardderchog ar gyfer ein myfyrwyr yn ogystal â phob un o’n budd-ddeiliaid. Mae lles y staff yn hynod bwysig i’r coleg ac o ganlyniad rydym wedi penodi rheolwr lles i ymdrin yn benodol ag agenda lles ein myfyrwyr a’n staff fel ei gilydd. Ceir mecanwaith sylweddol o fewn y coleg i gefnogi ac ymdrin ag unrhyw faterion sy’n poeni’r staff, a cheir cyfle cyson ar gyfer datblygiad proffesiynol wedi’i gefnogi sydd ar gael i bawb sy’n dymuno gwneud cais. Mae’r coleg yn gweithio’n agos gyda holl undebau’r staff i sicrhau bod anghenion a phryderon staff yn derbyn y sylw priodol ac mae’n ymfalchïo yn y berthynas gadarn, gydweithredol sydd ganddynt ac yn dod â budd i’r ddwy ochr. Mae gan y staff hefyd gynrychiolydd ar Fwrdd y Cyfarwyddwyr.
-
Fel Sefydliad Addysg Bellach, mae’r Coleg yn gweithio’n agos iawn gyda Llywodraeth Cymru, sef y prif gorff ariannu ar gyfer y rhan helaethaf o incwm grant y Coleg. Cyflwynir adroddiadau meintiol ac
ariannol yn gyson ac mae llwyddiant yn dibynnu ar berthynas agored, wydn a dwyochrog.Fel cwmni ac elusen, mae’r Coleg hefyd yn adrodd drwy Dŷ’r Cwmnïau a’r comisiwn Elusennau.
-
Mae perthynas agos â Chyflenwyr yn hanfodol er mwyn sicrhau parhad ein gweithrediadau, ac felly hefyd ein gallu i wasanaethu ein budd-ddeiliaid i’r safonau uchaf posib. Mae hyn yn cynnwys cyflenwyr nwyddau a gwasanaethau ar draws ein 5 campws. Ein nod yw trin ein cyflenwyr yn deg a’u talu o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt, os nad yn gynharach na hynny, ac ymddwyn mewn modd proffesiynol ac i’r safonau uchaf posib bob amser. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n cyflenwir i sicrhau eu bod yn gweithredu rheolaethau effeithiol er mwyn amddiffyn iechyd a diogelwch ein myfyrwyr (a’n budd-ddeiliaid os yw’n berthnasol), ac yn amddiffyn preifatrwydd a diogelwch eu data.
-
Rydym yn chwarae rhan weithredol o fewn y cymunedau yr ydym yn gweithredu o’u mewn ac yn ystyrlon o’r amgylchedd. Rydym yn gwerthuso’r risgiau a’r cyfleoedd i’n busnes o safbwynt newidiadau hinsawdd, gan reoli ein heffaith ar yr amgylchedd a hybu arferion amgylcheddol cadarnhaol.
-
Mae’r cwmni’n parhau i hysbysu’r gweithwyr cyflogedig ynglŷn â materion sy’n effeithio arnynt a’r ffactorau ariannol ac economaidd sy’n effeithio ar berfformiad y cwmni. Cyflawnir hyn trwy gyfrwng ymgynghoriadau/sesiynau hyfforddi, porth staff sy’n cael ei ddiweddaru’n barhaus, e-byst, cylchlythyron a chyfryngau cymdeithasol. Rhoddir ystyriaeth lawn a theg i geisiadau am swyddi gan unigolion anabl.
Yn achos gweithwyr cyflogedig sy’n mynd yn anabl neu’n analluog i barhau â’u gwaith presennol, gwneir pob ymdrech i’w hailhyfforddi er mwyn iddynt allu parhau â’u cyflogaeth gyda’r Coleg. Polisi’r cwmni yw bod yr hyfforddiant, datblygiad gyrfa a chyfleoedd ar gyfer dyrchafiadau ar gael i bob aelod o weithwyr cyflogedig bob amser.
-
Nid yw’r Cwmni na’i is-gwmnïau wedi gwneud unrhyw gyfraniadau gwleidyddol nac wedi bod yn gyfrifol am wariant gwleidyddol yn ystod y cyfnod (2023 – cyfraniadau £dim).
-
Caiff arwydd o ddatblygiadau tebygol yn y dyfodol ym musnes a manylion digwyddiadau allweddol sydd wedi digwydd ers diwedd y flwyddyn ariannol eu cynnwys yn yr Adroddiad Strategol ar dudalennau 4 - 15.
-
Mae pob person oedd yn gyfarwyddwyr ar yr adeg pan gafodd Adroddiad y Cyfarwyddwyr ei gymeradwyo, wedi cadarnhau, cyn belled ag yr oeddent yn ymwybodol, nad oes unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol (h.y. gwybodaeth sydd ei hangen ar archwilydd y cwmni yng nghyswllt llunio ei adroddiad), nad oedd archwilwyr y cwmni’n ymwybodol ohono, ac mae’r cyfarwyddwyr wedi cymryd pob cam posib a gofynnol er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth berthnasol ac i sicrhau fod archwilwyr y cwmni’n ymwybodol o’r wybodaeth honno.
-
Yn unol ag Adran 487 Deddf Cwmnïau 2006, ystyrir bod yr archwilydd wedi’i ailbenodi ac felly y bydd KPMG LLP yn parhau i wneud y gwaith.
-
Ym mis Awst 2024, cymerodd MEDR (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil), corff hyd braich newydd, gyfrifoldeb dros ariannu a goruchwylio addysg drydyddol ac ymchwil.
Cafodd yr adroddiad hwn ei gymeradwyo gan y Bwrdd ar 12 Rhagfyr 2024 a’i lofnodi ar ran y Bwrdd gan:
Mr John Edge, Director
DATGANIAD LLYWODRAETHIANT CORFFORAETHOL A RHEOLAETH FEWNOL
Mae’r Cwmni wedi ymrwymo i weithredu’r arfer orau yng nghyswllt pob agwedd o lywodraethiant corfforaethol. Disgrifia’r crynodeb hwn y modd y mae’r Cwmni wedi gweithredu’r egwyddorion a nodwyd yng Nghod Llywodraethu Da ar gyfer Colegau yng Nghymru, a gyhoeddwyd gan Golegau Cymru. Ei ddiben yw helpu defnyddwyr datganiadau ariannol i ddeall sut mae’r egwyddorion wedi eu cymhwyso.
Ym marn y cyfarwyddwyr, mae’r Cwmni’n cydymffurfio â phob un o ddarpariaethau gorfodol y cod i’r graddau y maent yn berthnasol i’r sector addysg bellach, gan gydymffurfio trwy gydol y flwyddyn hyd at 31 Gorffennaf 2024 a hyd at ddyddiad yr adroddiad hwn.
-
Rhestrir enwau Bwrdd y Cyfarwyddwyr ar dudalen 16. Cyfrifoldeb y cyfarwyddwyr yw cyflwyno barn annibynnol yng nghyswllt materion yn ymwneud â strategaeth, perfformiad, adnoddau a safonau ymddygiad. Mae’r Cwmni’n cydnabod, fel cwmni sy’n gyfrifol am gyllid cyhoeddus a phreifat, fod ganddo gyfrifoldeb penodol dros ddilyn y safonau uchaf o safbwynt llywodraethiant corfforaethol bob amser.
Mae’r Bwrdd yn derbyn gwybodaeth gyson ac amserol yn ymwneud â pherfformiad ariannol cyffredinol y Cwmni, yn ogystal â gwybodaeth bellach megis perfformiad yn erbyn targedau ariannol, gwariant cyfalaf arfaethedig, materion yn ymwneud â safonau a phersonél megis iechyd a diogelwch a materion amgylcheddol. Mae’r Bwrdd yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn.
Cynhalia’r Cwmni ei fusnes trwy gyfrwng nifer o bwyllgorau. Mae gan bob pwyllgor gylch gorchwyl sydd wedi ei gymeradwyo gan y Bwrdd. Y pwyllgorau dan sylw yw Chwilio a Llywodraethu; Tâl; Cwricwlwm y Dysgwr a Sgiliau; Safonau; Adnoddau ac Ymgysylltu â Busnes; ac Archwilio a Rheoli Risg.
Mae’r pwyllgorau’n cynnwys cyfarwyddwyr ac aelodau cyfetholedig a ddewiswyd gan y pwyllgor chwilio a llywodraethu sy’n cynnwys cyfarwyddwyr yn unig – ar sail y wybodaeth, y sgiliau a’r profiad y gallant ei gynnig i’r pwyllgor perthnasol. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, nid yw’r aelodau cyfetholedig yn gyfarwyddwyr y Cwmni. Rhaid i bob penderfyniad a wneir gan y pwyllgorau gael eu cymeradwyo’n ffurfiol maes o law gan y Bwrdd.
Gweithreda’r pwyllgorau ar sail ymgynghorol gan adrodd yn uniongyrchol i Fwrdd y Cyfarwyddwyr. Bydd cadeirydd bob pwyllgor yn gyfarwyddwr gweithredol o leiaf. Nodir manylion yn ymwneud â chyfansoddiad bob pwyllgor o dan y penawdau perthnasol isod. Caiff agendâu ffurfiol, papurau ac adroddiadau eu dosbarthu i aelodau’r pwyllgorau a’r cyfarwyddwyr mewn da bryd, cyn y cyfarfodydd. Darperir deunydd briffio ar sail ad-hoc.
Mae elfen anweithredol annibynnol gref yn perthyn i’r Bwrdd ac nid oes unrhyw unigolyn na grŵp yn dominyddu’r broses benderfynu. Ystyria’r Cwmni fod pob aelod anweithredol yn annibynnol ar reolwyr ac yn rhydd o unrhyw berthynas fusnes neu arall, a allai amharu’n ymarferol wrth iddynt ddod i benderfyniadau annibynnol.
Ceir rhaniad cyfrifoldeb clir yn rôl y Cadeirydd (cyfarwyddwr anweithredol) a’r Pennaeth (cyfarwyddwr gweithredol) sydd ar wahân.
-
Ystyrir unrhyw benodiadau newydd i’r Bwrdd gan y Bwrdd cyfan. Y pwyllgor Chwilio sy’n gyfrifol am ddewis ac enwebu unrhyw aelod newydd i’r Bwrdd ystyried. Y Bwrdd sy’n gyfrifol am sicrhau fod hyfforddiant addas yn cael ei ddarparu yn ôl yr angen.
-
Trwy gydol y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2024, roedd pwyllgor Chwilio’r Sefydliad yn cynnwys pedwar aelod o Fwrdd y Cyfarwyddwyr. Cyfrifoldebau’r pwyllgor yw gwneud argymhellion i’r Bwrdd o ran dewis cyfarwyddwyr ac aelodau cyfetholedig, ac ar faterion llywodraethu.
-
Mae’r pwyllgor, sy’n cynnwys tri Chyfarwyddwr, yn pennu tâl ac amodau cyflogaeth deiliaid uwch swyddi, gan gynnwys y Pennaeth. Ceir manylion tâl ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2024 yn nodyn 6 y datganiadau ariannol.
-
Pedwar aelod sy’n perthyn i’r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg. Gweithreda’r pwyllgor yn unol â chylch gorchwyl ysgrifenedig wedi’i gymeradwyo gan y Bwrdd.
Mae’r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg yn cyfarfod yn dymhorol ac yn cynnig fforwm adrodd yn ôl i archwilwyr datganiad ariannol mewnol y Sefydliad, sy’n ymwneud â’r pwyllgor ar gyfer trafodaethau annibynnol heb bresenoldeb rheolwyr y Sefydliad. Mae’r pwyllgor hefyd yn derbyn ac yn ystyried adroddiadau oddi wrth Lywodraeth Cymru sy’n effeithio ar fusnes y Sefydliad.
Archwilydd mewnol y Cwmni sy’n gyfrifol am fonitro systemau rheoli mewnol, trefniadau rheoli risg a phrosesau llywodraethu yn unol â’r cynllun mewnbwn y cytunwyd arno, a chyflwyno’u canfyddiadau i reolwyr a’r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg. Yr archwilydd allanol sy’n cynnal yr archwiliad o’r Datganiadau Ariannol blynyddol ac yn adrodd yn ôl ar y canfyddiadau i’r pwyllgor. Mae’r archwilwyr mewnol ac allanol yn elfennau allweddol o’r broses archwilio a rheoli risg ac yn feysydd cyfrifoldeb allweddol i’r pwyllgor.
Y rheolwyr sy’n gyfrifol am weithredu argymhellion yr archwiliad y cytunwyd arnynt, ac mae’r archwilydd mewnol yn cynnal adolygiad dilynol cyfnodol er mwyn sicrhau fod y fath argymhellion yn cael eu gweithredu. Mae’r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg hefyd yn cynnig cyngor i’r Cwmni ynglŷn â phenodiad archwilwyr mewnol a datganiadau ariannol, a’r tâl ar gyfer gwaith archwilio a heb fod yn waith archwilio.
-
Wyth aelod sy’n perthyn i’r Pwyllgor Adnoddau a Datblygu Busnes. Gweithreda’r pwyllgor yn unol â chylch gorchwyl ysgrifenedig wedi’i gymeradwyo gan y Bwrdd. Mae’r pwyllgor yn cwrdd yn dymhorol er mwyn adolygu pob agwedd ar gynllunio a defnyddio adnoddau yn y Cwmni. Gall hyn gynnwys pennu cyllidebau, cyfrifon rheoli ac ariannol, y trysorlys a buddsoddiadau, adnoddau dynol, a datblygu’r ystâd a chynnal a chadw.
-
Wyth aelod sy’n perthyn i’r pwyllgor Dysgwyr, Cwricwlwm a Sgiliau yn ogystal â’r pwyllgor Safonau. Gweithreda’r pwyllgorau yn unol â chylch gorchwyl ysgrifenedig wedi’i gymeradwyo gan y Bwrdd.
Mae’r pwyllgorau’n cwrdd yn dymhorol i adolygu pob agwedd o ddarpariaeth y cwricwlwm, cyflwyniad a pherfformiad y Cwmni.
-
Cwmpas cyfrifoldeb
Yn y pen draw, y cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am systemau rheolaeth fewnol y Sefydliad ac am adolygu eu heffeithiolrwydd. Fodd bynnag, cynlluniwyd y fath system i reoli yn hytrach na dileu’r risg o fethiant i gyflawni amcanion busnes, a dim ond sicrwydd rhesymol yn hytrach nac absoliwt yn erbyn camddatganiad materol neu golled y gellir ei roi.
Mae’r Bwrdd wedi dirprwyo cyfrifoldeb dyddiol o gynnal system reolaeth fewnol gadarn sy’n cefnogi cyflawniad polisïau, nodau ac amcanion y Sefydliad i’r pennaeth, gan ddiogelu’r arian cyhoeddus a’r asedau y maent hwy’n bersonol gyfrifol amdanynt, yn unol â’r cyfrifoldebau a roddwyd iddynt yn y Memorandwm Ariannol rhwng Coleg Sir Gâr a Llywodraeth Cymru.
Rheolaeth fewnol (parhad)
Diben y system rheolaeth fewnol
Cynlluniwyd y system rheolaeth fewnol i gadw lefelau risg yn rhesymol yn hytrach na dileu risg yn llwyr o safbwynt methu i gyflawni polisïau, nodau ac amcanion; dim ond sicrwydd rhesymol o effeithiolrwydd yn hytrach nag absoliwt y gellir ei gynnig felly. Seilir y system rheolaeth fewnol ar broses barhaus a gynlluniwyd i adnabod a blaenoriaethu’r risgiau i gyflawni polisïau, nodau ac amcanion y Sefydliad, gwerthuso’r tebygrwydd o wireddu’r risgiau hynny a’u heffaith, a’u rheoli’n effeithiol, yn effeithlon ac o safbwynt economaidd. Mae’r system rheolaeth fewnol wedi bod yn weithredol yng Ngholeg Sir Gâr yn ystod y flwyddyn sy’n gorffen 31 Gorffennaf 2024 a hyd at ddyddiad cymeradwyo’r adroddiad blynyddol a’r datganiadau ariannol.
Capasiti i ddelio â risgiau
Adolygwyd y prif risgiau sy’n wynebu’r Sefydliad gan y Bwrdd, yn ogystal â’r rheolaethau gweithredu, ariannol a chydymffurfio sydd wedi cael eu gweithredu i leihau’r risgiau hynny. Cred y Bwrdd fod yna broses ffurfiol barhaus ar gyfer adnabod, gwerthuso a rheoli’r risgiau sylweddol sy’n wynebu’r Sefydliad, wedi bod yn weithredol yn ystod y flwyddyn sy’n gorffen 31 Gorffennaf 2024 a hyd at ddyddiad cymeradwyo’r adroddiad blynyddol a’r datganiadau ariannol. Caiff y broses hon ei hadolygu’n gyson gan y Bwrdd.
Y fframwaith risgiau a rheolaeth
Seilir y system reolaeth fewnol ar fframwaith o wybodaeth reoli gyson, gweithdrefnau gweinyddol yn cynnwys gwahanu dyletswyddau, a system ddirprwyo ac atebolrwydd. Mae hyn yn cynnwys, yn enwedig:
- Systemau cyllidebu cynhwysfawr gyda chyllideb flynyddol, sy’n cael ei hadolygu a’i chytuno gan y Bwrdd;
- Adolygiadau cyson gan y pwyllgor ymgynghori a’r Bwrdd o adroddiadau ariannol cyfnodol a blynyddol, sy’n cymharu’r perfformiad ariannol â’r rhagolygon;
- Gosod targedau er mwyn mesur perfformiad ariannol ac ati;
- Canllawiau clir ar gyfer rheoli buddsoddiad cyfalaf; a
- Mabwysiadu disgyblaethau rheoli prosiect ffurfiol, os yn briodol.
Mae Coleg Sir Gâr yn gweithio’n agos gyda chwmni o archwilwyr proffesiynol er mwyn darparu gwasanaeth archwilio mewnol, sy’n gweithredu’n unol â gofynion Llywodraeth Cymru. Caiff gwaith y gwasanaeth archwilio mewnol ei lywio gan ddadansoddiad o’r risgiau sy’n wynebu’r Sefydliad a chaiff cynlluniau ar gyfer archwiliad mewnol blynyddol eu seilio ar y dadansoddiad hwn. Caiff y dadansoddiad risg a’r cynlluniau archwilio mewnol eu hardystio gan y Bwrdd yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg. Mae’r archwilydd mewnol yn llunio adroddiad ar gyfer y Corff Llywodraethu yn ymwneud â gweithgaredd archwilio mewnol y Sefydliad o leiaf unwaith y flwyddyn. Mae’r adroddiad yn cynnwys barn annibynnol yr archwilydd mewnol ynglŷn a digonolrwydd ac effeithiolrwydd system rheolaeth risg, rheolyddion a phrosesau llywodraethiant y Sefydliad
Adolygu effeithiolrwyddY Pennaeth sy’n gyfrifol am adolygu effeithiolrwydd y system rheolaeth fewnol. Seilir ei adolygiad o effeithiolrwydd y system rheolaeth fewnol ar:
- waith yr archwilydd mewnol;
- gwaith yr uwch reolwyr o fewn y Sefydliad, sy’n gyfrifol am ddatblygu a chynnal y fframwaith rheoli mewnol; a
- sylwadau a wnaed gan archwilydd datganiadau ariannol y Sefydliad ac archwilydd Llywodraeth Cymru yn eu llythyron rheoli ac adroddiadau eraill.
Cynghorwyd y Pennaeth ynglŷn â goblygiadau canlyniad eu hadolygiad o effeithiolrwydd y system rheolaeth fewnol gan y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg, sy’n arolygu gwaith yr archwilydd mewnol, a chynllun i ymdrin â gwendidau a sicrhau bod gwelliant parhaus o fewn y system yn weithredol.
Mae’r tîm uwch reolwyr yn derbyn adroddiadau sy’n cyfeirio at brif ddangosyddion perfformiad a risg gan ystyried materion rheolaethol posib y tynnwyd eu sylw atynt gan fecanweithiau rhybudd cynnar, sydd wedi eu hymgorffori o fewn yr adrannau a’u hatgyfnerthu gan hyfforddiant ymwybyddiaeth risg. Mae’r tîm uwch reolwyr a’r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg hefyd yn derbyn adroddiadau cyson gan yr archwilydd mewnol, sy’n cynnwys argymhellion ar gyfer gwelliant. Caiff rôl y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg yn y cyswllt hwn ei chyfyngu i adolygiad lefel uchel o drefniadau rheolaeth fewnol. Mae agenda’r Bwrdd yn cynnwys eitem gyson er mwyn ystyried risgiau a rheolaeth ac mae’n derbyn adroddiadau ynglŷn â hynny oddi wrth y tîm uwch reolwyr a’r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg. Mae’r pwyslais ar ganfod y raddfa berthnasol o sicrwydd ac nid yn unig adrodd drwy eithriad. Yn ystod cyfarfod Rhagfyr 2024, cynhaliodd y Bwrdd ei asesiad blynyddol ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben ar 31 Gorffennaf 2024 drwy ystyried dogfennaeth gan y tîm uwch reolwyr a’r archwilydd mewnol, gan ystyried digwyddiadau ers 31 Gorffennaf 2024 hefyd.
Yn seiliedig ar gyngor y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg a’r Pennaeth, mae’r Bwrdd o’r farn fod gan y Cwmni fframwaith llywodraethiant a rheolaeth risg ddigonol ac effeithiol, a’i fod wedi cyflawni ei gyfrifoldebau statudol o safbwynt “defnydd effeithiol ac effeithlon o adnoddau, solfedd y sefydliad a’r corff a diogelu eu hasedau”.
Datganiad ar reoleidd-dra, priodoldeb a chydymffurfiaeth
Mae’r Corff Llywodraethu wedi ystyried ei gyfrifoldebau o ran hysbysu Llywodraeth Cymru ynglŷn ag afreoleidd-dra materol, amhriodoldeb, a methiant i gydymffurfio â thermau ac amodau cyllido, yn unol â’r memorandwm a’r cytundebau sy’n bodoli rhwng y Coleg a Llywodraeth Cymru. Fel rhan o’n hystyriaeth ni, rydym wedi rhoi sylw dyledus i ofynion y memorandwm a’r cytundebau ariannol gyda Llywodraeth Cymru.
Rydym yn cadarnhau ar ran y Corff Llywodraethu, wedi dyddiad yr ymchwiliad, a hyd eithaf ein gwybodaeth, ein bod yn gallu adnabod unrhyw anghysondebau neu ddefnydd amhriodol o gyllid gan y Coleg, neu unrhyw ddiffyg cydymffurfiaeth faterol gyda thermau ac amodau ariannu yn unol â’r memorandwm a’r cytundebau sy’n bodoli rhwng y Coleg a Llywodraeth Cymru.
Rydym yn cadarnhau na chafwyd unrhyw enghreifftiau o afreoleidd-dra materol, amhriodoldeb neu ddiffyg cydymffurfio hyd yn hyn. O ddarganfod unrhyw enghreifftiau o’r fath wedi dyddiad y datganiad hwn, hysbysir Llywodraeth Cymru o hynny.
Busnes gweithredol
Caiff gweithgareddau’r Coleg, yn ogystal â ffactorau sy’n debygol o effeithio ar ei ddatblygiad a’i berfformiad i’r dyfodol eu nodi yn yr Adroddiad Strategol. Cyflwynir sefyllfa ariannol y Coleg, ei lif arian, hylifedd a’i fenthyciadau yn y Datganiadau Ariannol a’r Nodiadau atodedig.
Lluniwyd y datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol y mae’r Cyfarwyddwyr yn ystyried i fod yn addas am y rhesymau canlynol.
Mae’r Cyfarwyddwyr wedi llunio rhagolygon llif arian ar gyfer cyfnod o 12 mis o ddyddiad cymeradwyo’r datganiadau ariannol yma. Wedi adolygu’r rhagolygon hyn, mae’r Cyfarwyddwyr o’r farn, o ystyried anawsterau difrifol ond credadwy, yn cynnwys effaith arfaethedig yr argyfwng ynni ac argyfwng costau byw, bydd gan y Coleg gronfeydd digonol i fodloni ei rwymedigaethau wrth iddynt ddod yn ddyledus dros gyfnod o 12 mis o ddyddiad cymeradwyo’r datganiadau ariannol yma (y cyfnod asesu busnes gweithredol). O ganlyniad, mae’r Cyfarwyddwyr wedi llunio’r datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol.
Hyfforddiant a Datblygiad - Bwrdd y Cyfarwyddwyr a Phenaethiaid Llywodraethu
- Hyfforddiant Prevent yn unol â Chyngor PCYDDS ym mis Medi 2023.
- Hyfforddiant ar-lein Colegau Cymru ar ADY a Chyllid AB
- Gwnaeth pob cyfarwyddwr a’r Clerc hyfforddiant ar-lein ar : Diogelu; Prevent a GDPR.
Adolygiad Allanol – Llywodraethu
Cynhelir adolygiad allanol o Lywodraethu o leiaf unwaith bob 3 blynedd. Cynhaliwyd yr adolygiad diweddaf gan y Tîm Archwilio Mewnol - Mazars LLP - ym mis Mai 2022.
Trwy orchymyn y Bwrdd
Mr John Edge, Cyfarwyddwr
ADRODDIAD YR ARCHWILYDD ANNIBYNNOL I AELODAU COLEG SIR GÂR; ADRODDIAD AR ARCHWILIAD O'R DATGANIADAU ARIANNOL
-
Rydym wedi archwilio datganiadau ariannol Coleg Sir Gâr (y “Coleg”) ar gyfer diwedd y flwyddyn 31 Gorffennaf 2024 sy’n cynnwys y Datganiad Incwm Cynhwysfawr, Datganiad o Newid mewn Cronfeydd Wrth Gefn, Mantolen, Datganiad Llif Arian a nodiadau perthnasol, yn cynnwys y Datganiad o’r Prif Bolisïau Cyfrifyddu a Thechnegau Amcangyfrif.
Yn ein barn ni, mae’r datganiadau ariannol:- yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa’r Coleg ar 31 Gorffennaf 2024 ac o’i warged ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny;
- wedi eu paratoi’n gywir yn unol â safonau cyfrifyddu’r DU, yn cynnwys FRS 102 Y Safon Adrodd Ariannol sy’n berthnasol yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon; ac
- maent wedi eu paratoi yn unol â gofynion Ddeddf Cwmnïau 2006.
-
Cynhaliwyd ein harchwiliad yn unol â Safonau Cyfrifyddu Rhyngwladol (DU) (“SCRh (DU)”) a’r gyfraith berthnasol. Disgrifir ein cyfrifoldebau isod. Rydym wedi cyflawni ein cyfrifoldebau moesol, yn annibynnol o’r Coleg yn unol â gofynion moesol y DU yn cynnwys Safon Foesol y FRC. Credwn fod y dystiolaeth a gasglwyd gennym yn ystod ein harchwiliad yn ddigonol ac yn addas ar gyfer llunio barn.
-
Mae’r Cyfarwyddwyr wedi llunio datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol am nad ydynt yn bwriadu diddymu’r Coleg na dirwyn ei weithrediadau i ben, ac oherwydd eu bod wedi dod i’r casgliad fod sefyllfa ariannol y Coleg yn golygu fod hyn yn realistig. Daethant i’r casgliad hefyd nad oes unrhyw ansicrwydd perthnasol a allai fod wedi dwyn amheuaeth sylweddol ynglŷn â’i allu i barhau fel busnes gweithredol am o leiaf blwyddyn o ddyddiad cymeradwyo’r datganiadau ariannol (“y cyfnod busnes gweithredol”).
Yn ein gwerthusiad o gasgliadau’r Cyfarwyddwyr, ystyriwyd y risgiau cynhenid i fodel busnes y Coleg, a dadansoddi sut y gallai’r risgiau hynny effeithio ar adnoddau ariannol y Coleg neu ei allu i barhau i weithredu dros y cyfnod busnes gweithredol.
Ein casgliadau ar sail y gwaith hwn:
- rydym o’r farn fod defnydd y Cyfarwyddwyr o sail busnes gweithredol ar gyfer cyfrifyddu wrth baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol; ac
- nid ydym wedi nodi, ac rydym yn cytuno ag asesiad y Cyfarwyddwyr, nad oes ansicrwydd perthnasol sy’n gysylltiedig â digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu’r Coleg i barhau’n fusnes gweithredol am y cyfnod busnes gweithredol.
Serch hynny, gan na allwn ragweld pob digwyddiad neu amodau i’r dyfodol a chan y gall digwyddiadau dilynol arwain at ganlyniadau sy’n anghyson â dyfarniadau a oedd yn rhesymol ar yr adeg y cawsant eu gwneud, nid yw’r casgliadau uchod yn warant y bydd y Coleg yn parhau i weithredu.
-
Nodi ac ymateb i risgiau o gamddatganiad perthnasol oherwydd twyll
Er mwyn nodi risgiau o gamddatganiad sylweddol oherwydd twyll (“risgiau twyll”) rydym wedi asesu digwyddiadau neu amodau a allai ddangos cymhelliad neu bwysau i gyflawni twyll neu roi cyfle i gyflawni twyll. Roedd ein gweithdrefnau asesu risg yn cynnwys:
- Holi Cyfarwyddwyr, y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg, yn ogystal ag a ydynt yn gwybod am unrhyw dwyll gwirioneddol, amheuaeth o dwyll neu dwyll honedig.
- Darllen cofnodion cyfarfodydd Bwrdd y Cyfarwyddwr a’r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg.
- Defnyddio gweithdrefnau dadansoddol i nodi unrhyw berthnasoedd anarferol neu annisgwyl.
Gwnaethom gyfleu risgiau twyll a nodwyd drwy’r tîm archwilio a gwnaethom barhau’n effro i unrhyw arwyddion o dwyll drwy gydol yr archwiliad.
Fel sy’n ofynnol gan safonau archwilio, rydym yn cyflawni gweithdrefnau i fynd i’r afael â’r risg y bydd rheolwyr yn diystyru rheolaethau a’r risg y gall rheolwyr fod mewn sefyllfa i wneud cofnodion cyfrifyddu amhriodol. Yn yr archwiliad hwn ni wnaethom nodi risg o dwyll yn ymwneud â chydnabod refeniw oherwydd y meini prawf cydnabod refeniw nad ydynt yn gymhleth, sy’n cyfyngu ar y cyfle i drin refeniw yn dwyllodrus.
Ni wnaethom nodi unrhyw risgiau twyll ychwanegol.
Wrth bennu’r gweithdrefnau archwilio, gwnaethom ystyried canlyniadau ein gwerthusiad o rai o reolaethau rheoli risg twyll ar draws y Coleg.
Hefyd, gwnaethom gyflawni gweithdrefnau gan gynnwys:
- Nodi cofnodion dyddlyfrau i’w profi ar sail meini prawf risg a chymharu’r cofnodion a nodwyd â dogfennau ategol. Roedd y rhain yn cynnwys dyddlyfrau a gofnodwyd i gyfrifon nad oeddent yn cael eu defnyddio’n aml a chofnodion dyddlyfrau heb eu mantoli.
Nodi ac ymateb i risgiau camddatganiad materol yn ymwneud â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau
Nodwyd meysydd o gyfreithiau a rheoliadau y byddai’n rhesymol disgwyl iddynt gael effaith faterol ar y datganiadau ariannol o’n profiad masnachol ac un y sector yn gyffredinol a thrwy drafod gyda’r Cyfarwyddwyr (fel sy’n ofynnol gan safonau archwilio), a thrafod gyda’r Cyfarwyddwyr y polisïau a’r gweithdrefnau ynghylch cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau.
Gwnaethom gyfleu cyfreithiau a rheoliadau a nodwyd ledled ein tîm a pharhau’n effro i unrhyw arwyddion o beidio â chydymffurfio drwy gydol yr archwiliad.
Mae effaith bosibl y cyfreithiau a’r rheoliadau hyn ar y datganiadau ariannol yn amrywio’n sylweddol.
Yn gyntaf, mae’r Coleg yn ddarostyngedig i gyfreithiau a rheoliadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y datganiadau ariannol gan gynnwys deddfwriaeth adrodd ariannol (gan gynnwys deddfwriaeth cwmnïau cysylltiedig a deddfwriaeth addysg bellach cysylltiedig, gan gynnwys y Cyfarwyddyd Cyfrifon ar gyfer Colegau Addysg Bellach yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru), deddfwriaeth elw dosbarthadwy a deddfwriaeth pensiynau ac aseswyd graddau’r cydymffurfio â’r cyfreithiau a’r rheoliadau hyn fel rhan o’n gweithdrefnau ar yr eitemau cysylltiedig ar y datganiad ariannol.
Yn ail, mae’r Coleg yn ddarostyngedig i lawer o gyfreithiau a rheoliadau eraill lle gallai canlyniadau methu â chydymffurfio gael effaith faterol ar symiau neu ddatgeliadau yn y datganiadau ariannol, er enghraifft trwy osod dirwyon neu ymgyfreitha. Fe wnaethom nodi’r meysydd canlynol fel y rheiny sydd fwyaf tebygol i gael effaith o’r fath: iechyd a diogelwch, cyfreithiau diogelu data, a chyfraith cyflogaeth, gan gydnabod natur gweithgareddau’r Coleg. Mae safonau archwilio yn cyfyngu’r gweithdrefnau archwilio gofynnol i nodi achosion o ddiffyg cydymffurfio â’r cyfreithiau a’r rheoliadau hyn i holi’r Cyfarwyddwyr ac archwilio gohebiaeth reoleiddiol a chyfreithiol, os oes o gwbl. Felly, os na fydd achos o dorri rheoliadau gweithredol yn cael ei ddatgelu i ni neu os nad yw’n amlwg mewn gohebiaeth berthnasol, ni fydd archwiliad yn canfod y torri rheolau hynny.
Cyd-destun gallu’r archwiliad i ganfod twyll neu dorcyfraith neu dorri rheoliad
Oherwydd cyfyngiadau cynhenid archwiliad, mae perygl anochel nad ydym efallai wedi canfod rhai camddatganiadau materol yn y datganiadau ariannol, er ein bod wedi cynllunio a chyflawni ein harchwiliad yn briodol yn unol â safonau archwilio. Er enghraifft, po fwyaf yw’r pellter rhwng y cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau o’r digwyddiadau a’r trafodion a adlewyrchir yn y datganiadau ariannol, lleiaf oll yw’r tebygrwydd y byddai’r gweithdrefnau cyfyngedig sy’n ofynnol gan safonau archwilio yn ei nodi.
Yn ogystal, yn yr un modd ag unrhyw archwiliad, roedd risg uwch o beidio â chanfod twyll, gan y gall twyll gynnwys cydgynllwynio, ffugio, hepgoriadau bwriadol, camliwio, neu ddiystyru rheolaethau mewnol. Mae ein gweithdrefnau archwilio wedi’u cynllunio i ganfod camddatganiad perthnasol. Nid ydym yn gyfrifol am atal diffyg cydymffurfio na thwyll ac ni ellir disgwyl i ni ganfod diffyg cydymffurfio â’r holl gyfreithiau a rheoliadau.
-
Mae’r Cyfarwyddwyr yn gyfrifol am y wybodaeth arall, sy’n cynnwys y Datganiad Budd Cyhoeddus, yr Adroddiad Strategol, Adroddiad y Cyfarwyddwyr, a’r Datganiad o Lywodraethiant Corfforaethol a’r Rheolaeth Fewnol Nid yw ein barn ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu’r wybodaeth arall ac, yn unol â hynny, nid ydym yn mynegi barn archwilio nac, ac eithrio fel y nodir yn benodol isod, unrhyw fath o gasgliad sicrwydd arno.
Ein cyfrifoldeb yw darllen y wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw’r wybodaeth honno, yn seiliedig ar ein gwaith yn archwilio’r datganiadau ariannol, wedi’i chamddatgan yn faterol neu’n anghyson â’r datganiadau ariannol neu’r wybodaeth a gawsom yn sgil archwilio. Yn seiliedig ar y gwaith hwnnw’n unig:
- nid ydym wedi canfod unrhyw gamddatganiadau materol yn y wybodaeth arall;
- yn ein barn ni, mae’r wybodaeth a roddwyd yn yr Adroddiad Strategol ac yn Adroddiad y Cyfarwyddwyr ar gyfer y flwyddyn ariannol yn gyson â’r datganiadau ariannol; ac
- yn ein barn ni, mae’r adroddiadau hynny wedi’u llunio’n unol â Deddf Cwmnïau 2006.
-
Yn unol â’r Ddeddf Cwmnïau 2006 mae’n ofynnol i ni adrodd i chi, os, yn ein barn ni:
- nad yw’r cofnodion ariannol sydd wedi eu cadw gan y Coleg yn ddigonol, neu os nad yw’r ffurflenni sy’n ddigonol ar gyfer ein harchwiliad wedi eu derbyn o’r adrannau na fuom yn ymweld â nhw;
neu - nad yw’r datganiadau ariannol y Coleg yn cyd-fynd â’r cofnodion a’r ffurflenni cyfrifyddu; neu
- nad yw rhai datgeliadau o dâl Cyfarwyddwyr a bennir gan y gyfraith wedi eu gwneud; neu
- nad ydym wedi derbyn yr holl wybodaeth ac esboniadau angenrheidiol ar gyfer ein harchwiliad.
Nid oes gennym unrhyw beth i’w adrodd yn y cyswllt hwn.
- nad yw’r cofnodion ariannol sydd wedi eu cadw gan y Coleg yn ddigonol, neu os nad yw’r ffurflenni sy’n ddigonol ar gyfer ein harchwiliad wedi eu derbyn o’r adrannau na fuom yn ymweld â nhw;
-
Fel yr eglurir yn llawnach yn eu datganiad ar dudalen 18, y Cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am: lunio’r datganiadau ariannol a bod yn hyderus eu bod yn rhoi darlun gwir a theg; rheolaeth fewnol i’r graddau sy’n angenrheidiol i’w galluogi i lunio datganiadau ariannol sy’n rhydd o gamddatganiad materol, boed hynny yn sgil twyll neu gamgymeriad; asesu gallu’r Coleg i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu, fel sy’n berthnasol, materion yn ymwneud â busnes gweithredol; a defnyddio’r sail gyfrifo busnes gweithredol heblaw eu bod naill ai’n bwriadu dirwyn y Coleg i ben neu i beidio â gweithredu, neu os nad oes unrhyw ffordd realistig arall o osgoi gwneud hynny.
-
Ein hamcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynglŷn ag os yw’r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o gamddatganiadau materol, boed hynny ar sail twyll neu gamgymeriad, ac i gynnig ein barn yn adroddiad yr archwilydd. Mae sicrwydd rhesymol yn gyfystyr â lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw’n gwarantu fod archwiliad wedi’i gynnal yn unol â ISA (DU) bob amser yn darganfod camddatganiad materol pan fydd yn bodoli. Gall camddatganiadau ddigwydd yn sgil twyll neu gamgymeriad ac fe’u hystyrir yn berthnasol, yn unigol neu ar y cyd, os gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a gymerir ar sail y datganiadau ariannol.
Mae disgrifiad llawnach o’n cyfrifoldebau i’w weld ar wefan yr FRC: www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities.
-
Mae angen i ni adrodd ar y materion canlynol yn unol â Chod Ymarfer Archwilio Addysg Bellach 2015 (a ddaeth i rym 1 Awst 2014) (“Cod Ymarfer Archwilio”) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn sgil Deddf Dysgu a Sgiliau 2000.
Trosglwyddwyd y gwaith o reoleiddio’r sector Addysg Bellach yng Nghymru o Lywodraeth Cymru i Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ar 1 Awst 2024. Mae’r Cod Ymarfer Archwilio, y Cyarwyddyd Cyfrifon ar gyfer Colegau Addysg Bellach yng Nghymru 2023/24 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru (“Cyfarwyddyd Cyfrifon 2023/24”) a’r Cod Rheoli Memorandwm Ariannol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn parhau yn eu lle ar ddyddiad ein hadroddiad. O ystyried y trosglwyddiad hwn, dylid darllen unrhyw gyfeiriadau at Lywodraeth Cymru yn ein hadroddiad fel cyfeiriad hefyd at Medr.
Yn ein barn ni, ym mhob ffordd sylweddol:
- mae arian a wariwyd o grantiau Llywodraeth Cymru a chronfeydd eraill o ba bynnag ffynhonnell a weinyddwyd gan y Coleg at ddibenion penodol wedi’u cymhwyso’n briodol at y dibenion hynny ac, os yw’n briodol, wedi eu rheoli yn unol â phob deddfwriaeth berthnasol;
- mae arian a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru (a chyrff eraill a chronfeydd cyfyngedig os yn briodol) wedi ei ddefnyddio’n unol â’r Memorandwm Ariannol rhwng Llywodraeth Cymru a sefydliadau addysg bellach; ac
- mae’r datganiadau ariannol yn bodloni gofynion y Cyfarwyddyd Cyfrifon 2023/24.
-
Cyflwynir yr adroddiad hwn i aelodau’r Coleg yn unig, fel corff, yn unol â Phennod 3 o Ran 16 o Ddeddf Cwmnïau 2006 a pharagraff 56(b) o Erthyglau Cymdeithasu’r Coleg. Cynhaliwyd ein gwaith archwilio er mwyn i ni allu hysbysu aelodau’r Coleg o’r materion hynny y mae’n ofynnol i ni eu datgan wrthynt mewn adroddiad archwilydd ac nid ar gyfer unrhyw ddiben arall. I’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, nid ydym yn derbyn nac yn cymryd cyfrifoldeb dros unrhyw un heblaw’r Coleg ac aelodau’r Coleg, fel corff, am ein gwaith archwilio, am yr adroddiad hwn, nac am y farn yr ydym wedi’i ffurfio.
Rees Batley (Uwch Archwilydd Statudol)
o blaid ac ar ran KPMG LLP, Archwilydd Statudol
DATGANIAD Y COLEG O INCWM CYNHWYSFAWR AR GYFER DIWEDD Y FLWYDDYN 31 GORFFENNAF 2024
Nodiadau | 2024 | 2023 | |
£000 | £000 | ||
Incwm | |||
Grantiau cyrff ariannu | 1 | 29,186 | 31,379 |
Ffioedd dysgu a chontractau addysg | 2 | 4,947 | 4,907 |
Incwm arall | 3 | 11,248 | 9,892 |
Incwm buddsoddi | 4 | 754 | 468 |
Cyfanswm incwm |
46,135 |
46,646 |
|
Gwariant | |||
Costau staff | 5 | 24,895 | 25,128 |
Costau ailstrwythuro sylfaenol | 5 | - | 863 |
Costau gweithredu eraill | 7 | 18,487 | 18,186 |
Dibrisiant | 11 | 2,361 | 2,611 |
Llog a chostau ariannol eraill | 9 | (330) | 288 |
Cyfanswm gwariant |
45,413 |
47,076 |
|
Gwarged/(Diffyg) cyn enillion a cholledion eraill | 722 | (430) | |
(Colled)/enillion o waredu asedau sefydlog | 0 | 0 | |
Enillion/(Colled) ar fuddsoddiadau | (12) | (7) | |
Gwarged(Diffyg) cyn treth | 710 | (437) | |
Trethiant | - | - | |
Gwarged/(Diffyg) am y flwyddyn | (618) | 15,475 | |
Cynnydd actiwaraidd/(colled) yng nghyswllt y cynllun pensiwn |
21 |
92 |
15,038 |
Cynrychiolwyd gan: | |||
Incwm cynhwysfawr anghyfyngedig | 92 | 15,038 | |
Incwm cynhwysfawr cyfyngedig | 0 | 0 | |
92 | 15,038 |
Deillia bob swm o weithrediadau parhaus.
Mae’r nodiadau cysylltiedig yn rhan annatod o’r Datganiadau Ariannol.
DATGANIAD NEWID YN YR ARIAN WRTH GEFN AR GYFER DIWEDD Y FLWYDDYN 31 GORFFENNAF 2024
Cyfrif Incwm a Gwariant | Cronfa ailbrisio | Gwaddolion | Cyfanswm | |
£000 | £000 | £000 | ||
Balans ar 31ain Gorffennaf 2022 |
13,684 |
7,957 |
22 |
21,663 |
Gwarged/(Diffyg) o’r cyfrif incwm a gwariant | (437) | - | - | (437) |
Incwm cynhwysfawr arall | 15,475 | - | - | 15,475 |
Trosglwyddiad rhwng cronfeydd ailbrisio ac incwm a gwariant |
192 | (192) | - | 0 |
Cynnydd/(colled) actiwaraidd yng nghyswllt y cynllun pensiwn | (6,410) | (6,410) | ||
Symudiad | 8,820 | (192) | - | 8,268 |
Balans ar 31ain Gorffennaf 2023 |
22,504 |
7,765 |
22 |
30,291 |
Gwarged/(Diffyg) o’r cyfrif incwm a gwariant | 710 | - | 1 | 711 |
Incwm cynhwysfawr arall | (618) | - | - | (618) |
Trosglwyddiad rhwng cronfeydd ailbrisio ac incwm a gwariant |
192 | (192) | - | 0 |
Symudiad | 284 | (192) | 1 | 93 |
Balans ar 31ain Gorffennaf 2024 |
22,788 |
7,573 |
23 |
30,384 |
MANTOLEN DYDDIEDIG 31 GORFFENNAF 2024
2024 | 2023 | ||
Nodiadau | £000 | £000 | |
Asedau anghyfredol | |||
Asedau sefydlog anniriaethol | 10 | - | - |
Asedau sefydlog diriaethol | 11 | 28,778 | 30,088 |
Buddsoddiadau | 12 | 236 | 248 |
Cyfanswm asedau sefydlog |
29,014 |
30,336 |
|
Asedau cyfredol | |||
Stociau | 14 | 184 | 155 |
Masnach a symiau derbyniadwy eraill | 15 | 3,625 | 2,013 |
Buddsoddiadau | 13 | 17 | 17 |
Arian parod a chyfwerth ag arian parod | 25 | 15,139 | 18,038 |
Cyfanswm asedau cyfredol | 18,965 | 20,223 | |
Llai: Credydwyr: symiau dyledus o fewn blwyddyn | 16 | (7,396) | (8,697) |
Asedau cyfredol net |
11,569 |
11,526 |
|
Cyfanswm asedau llai rhwymedigaethau cyfredol | 40,583 | 41,862 | |
Llai: Credydwyr: symiau dyledus wedi mwy na blwyddyn | 17 | (9,669) | (10,581) |
Llai: Darpariaethau | |||
(Rhwymedigaeth)/ased budd diffiniedig | 21 | 0 | 0 |
Darpariaethau eraill | 18 | (530) | (990) |
Cyfanswm asedau net |
30,384 |
30,291 |
|
Cronfeydd cyfyngedig: | |||
Cronfa incwm a gwariant – Cronfeydd gwaddol | 20 | 23 | 22 |
Cronfeydd anghyfyngedig : | |||
Cronfa incwm a gwariant – anghyfyngedig | 22,788 | 22,504 | |
Cronfa ailbrisio | 7,573 | 7,765 | |
Cyfanswm cronfeydd anghyfyngedig |
30,361 |
30,269 |
|
Cyfanswm cronfeydd |
30,384 |
30,291 |
Mae’r datganiadau ariannol ar dudalennau 32 i 62 wedi eu cymeradwyo a’u cadarnhau ar gyfer eu cyhoeddi gan y Bwrdd ar 12fed Rhagfyr 2024 a’u harwyddo ar ei ran ar y dyddiad hwnnw gan:
Mr John Edge - Cadeirydd
Mr Andrew Cornish - Cyfarwyddwr
DATGANIAD LLIF ARIAN AR GYFER DIWEDD Y FLWYDDYN 31 GORFFENNAF 2024
Nodiadau | 2024 | 2023 | |
£000 | £000 | ||
Mewnlif/(all-lif) arian parod net o weithgareddau gweithredol | 22 | (1,848) | 2,411 |
Llif arian o weithgareddau cyllido | 23 | 488 | 215 |
Llif arian o weithgareddau buddsoddi | 24 | (1,539) | (3,414) |
(Gostyngiad)/Cynnydd yn yr arian parod a chyfwerth ag arian parod yn ystod y cyfnod |
(2,899) |
(788) |
|
Arian parod a chyfwerth ag arian parod ar 1 Awst | 25 | 18,038 | 18,826 |
Arian parod a chyfwerth ag arian parod ar 31 Gorffennaf | 25 | 15,139 | 18,038 |
DATGANIAD PRIF BOLISÏAU CYFRIFYDDU A THECHNEGAU AMCANGYFRIFO AR GYFER DIWEDD Y FLWYDDYN 31 GORFFENNAF 2024
-
Cwmni cyfyngedig trwy warant wedi’i ymgorffori a’i leoli yn y Deyrnas Unedig yw Coleg Sir Gâr.
Lluniwyd y datganiadau ariannol hyn yn unol â’r Ddeddf Cwmnïau fel y’i haddaswyd i’r Datganiad o’r Arferion a Argymhellir: Cyfrifyddu ar gyfer Addysg Bellach ac Uwch 2019 (y SORP AB AU 2019), ac yn unol â’r Safonau Adrodd Ariannol 102 - “Y Safonau Adrodd Ariannol sy’n berthnasol yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon” (FRS 102), Deddf Cwmnïau 2006 a chyda’r Cylchlythyr LlC cymwys (2023-24). Mae Coleg Sir Gâr yn endid budd cyhoeddus ac mae felly wedi cymhwyso’r gofynion budd cyhoeddus perthnasol yn unol ag FRS 102.
Mae llunio datganiadau ariannol yn unol ag FRS 102 yn gofyn am ddefnyddio amcangyfrifon cyfrifyddu beirniadol. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r rheolwyr arfer barn wrth gymhwyso polisïau cyfrifyddu’r Coleg.
-
Caiff y datganiadau ariannol eu llunio yn unol â’r confensiwn cost hanesyddol fel y’i haddaswyd trwy ddefnyddio prisiadau blaenorol fel cost dybiedig wrth drosglwyddo i FRS 102 ar gyfer rhai asedau sefydlog fel ar 1 Awst 2014. Cafodd y rheolau cyfrifyddu a nodir isod eu defnyddio’n gyson.
Mae’r Cwmni wedi’i eithrio yn rhinwedd a400 o Ddeddf Cwmnïau 2006 o’r gofyniad i baratoi datganiadau ariannol grŵp. Mae’r datganiadau ariannol hyn yn cyflwyno gwybodaeth am y Cwmni fel ymgymeriad unigol ac nid am ei grŵp.
-
Caiff gweithgareddau’r Coleg, yn ogystal â ffactorau sy’n debygol o effeithio ar ei ddatblygiad a’i berfformiad i’r dyfodol eu nodi yn yr Adroddiad Strategol. Cyflwynir sefyllfa ariannol y Coleg, ei lif arian, hylifedd a’i fenthyciadau yn y Datganiadau Ariannol a’r Nodiadau atodedig.
Lluniwyd y datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol y mae’r Cyfarwyddwyr yn ystyried i fod yn addas am y rhesymau canlynol.
Mae’r Cyfarwyddwyr wedi llunio rhagolygon llif arian ar gyfer cyfnod o 12 mis o ddyddiad cymeradwyo’r datganiadau ariannol yma. Wedi adolygu’r rhagolygon hyn, mae’r Cyfarwyddwyr o’r farn, o ystyried anawsterau difrifol ond credadwy, yn cynnwys effaith arfaethedig costau ynni ac argyfwng costau byw, bydd gan y Coleg gronfeydd digonol i fodloni ei rwymedigaethau wrth iddynt ddod yn ddyledus dros gyfnod o 12 mis o ddyddiad cymeradwyo’r datganiadau ariannol yma (y cyfnod asesu busnes gweithredol). O ganlyniad, mae’r Cyfarwyddwyr wedi llunio’r datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol.
-
Mae grantiau refeniw’r Llywodraeth yn cynnwys grantiau cylchol corff cyllido a grantiau eraill a rhoddir cyfrif amdanynt yn unol â’r model cronni a ganiateir gan FRS 102. Mae’r grantiau cylchol gan Lywodraeth Cymru’n cynrychioli’r dyraniadau cyllid sydd i’w priodoli i’r flwyddyn ariannol gyfredol a chânt eu credydu’n uniongyrchol i’r cyfrif incwm a gwariant. Mae grantiau cylchol yn cael eu cydnabod yn unol â gweithgareddau cynlluniedig. Caiff unrhyw dangyflawni yn erbyn y gweithgaredd cynlluniedig hwn ei addasu yn ystod y flwyddyn a’i adlewyrchu yn lefel y grant cylchol a gydnabyddir yn y cyfrif incwm a gwariant.
Caiff incwm o ffioedd dysgu ei nodi fel gros a’i gydnabod yn y cyfnod y cawsant eu derbyn gan gynnwys pob ffi sy’n daladwy gan fyfyrwyr neu eu noddwyr. Mewn achosion lle mae swm y ffioedd dysgu wedi ei leihau, yn sgil disgownt am daliad prydlon, dangosir incwm derbyniadwy fel disgownt net. Mae bwrsarïau ac ysgoloriaethau’n cael eu cyfrifo ar gyfer gwariant gros ac nid yw’n cael ei dynnu o incwm.
Caiff incwm o Grantiau, contractau a gwasanaethau eraill a dderbyniwyd eu cynnwys i’r graddau y mae’r contract neu’r gwasanaeth dan sylw wedi ei gwblhau. Yn gyffredinol, mae hyn yn cyfateb i swm y gwariant perthnasol a wnaed yn ystod y flwyddyn ac unrhyw gyfraniadau cysylltiedig tuag at gostau gorbenion.
Cydnabyddir rhoddion cyfyngedig o fodloni amodau perthnasol; mewn llawer o achosion, mae hyn yn uniongyrchol gysylltiedig â’r gwariant a wnaed i ddibenion penodol. Cydnabyddir rhoddion sy’n cael eu cadw er budd y sefydliad fel gwaddol; cydnabyddir rhoddion eraill trwy eu cynnwys fel incwm arall yn y cyfrif incwm a gwariant.
Caiff pob incwm o flaendaliadau tymor byr eu credydu i’r cyfrif incwm a gwariant yn ystod y cyfnod y caiff ei ennill.
Caiff grantiau afreolaidd gan Lywodraeth Cymru neu gyrff eraill y llywodraeth a dderbynnir mewn perthynas â chaffael neu adeiladu asedau sefydlog eu trin fel grantiau cyfalaf gohiriedig a’u hamorteiddio yn unol â dibrisiant dros oes yr asedau o dan y dull cronni yn unol ag FRS 102.
Caiff incwm o werthu nwyddau neu wasanaethau ei gredydu i’r cyfrif incwm a gwariant pan gyflenwir y nwyddau neu’r gwasanaethau i’r cwsmeriaid allanol neu pan fydd telerau’r contract wedi’u bodloni.
-
Mae buddion ôl-gyflogaeth ar gyfer gweithwyr cyflogedig y Coleg yn cael eu darparu gan y Cynllun Pensiwn Athrawon (CPA) a Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL).Cynlluniau buddion diffiniedig yw’r rhain, sy’n cael eu hariannu’n allanol a’u contractio allan o’r Ail Bensiwn Gwladol.
Cynllun heb ei ariannu yw’r CPA. Caiff cyfraniadau i’r CPA eu codi i’r incwm a gwariant er mwyn lledaenu cost pensiynau dros gyfnod bywyd gwaith gweithwyr cyflogedig yn y Coleg yn y fath fodd fel bod y gost pensiwn yn ganran sylweddol ar lefel y gyflogres oed pensiwn cyfredol ac yn y dyfodol. Pennir y cyfraniadau gan actiwarïaid cymwys ar sail prisiadau bob pum mlynedd sy’n defnyddio’r dull darpar fudd. Cynllun aml-gyflogwr yw’r CPA ac ni all y Coleg nodi ei gyfran o asedau a rhwymedigaethau sylfaenol y cynllun ar sail gyson a rhesymol. Caiff y CPA felly ei drin fel cynllun cyfraniadau diffiniedig a chaiff y cyfraniadau eu nodi fel cost yn y datganiad incwm ar gyfer y cyfnodau pan fydd gweithwyr cyflogedig mewn cyflogaeth.
Cynllun wedi’i ariannu yw CPLlL. Caiff asedau CPLlL eu mesur trwy gyfrwng gwerthoedd cau teg. Mesurir rhwymedigaethau CPLlL trwy ddefnyddio’r dull rhagamcanu credyd uned wedi’i ostwng ar y gyfradd enillion cyfredol ar fond corfforaethol o ansawdd uchel o derm ac arian cyfredol cyfatebol i’r rhwymedigaethau. Ceir y prisiadau actiwaraidd o leiaf bob tair blynedd a’u diweddaru ar bob dyddiad mantolen. Y symiau a godir ar warged gweithredu yw’r costau gwasanaeth cyfredol a chostau cyflwyno’r cynllun, newidiadau i fudd-daliadau, setliadau a chwtogiadau. Fe’u cynhwysir fel rhan o gostau staff. Caiff y llog net ar yr atebolrwydd/ased budd diffiniedig net hefyd ei gydnabod yn y Datganiad Incwm Cynhwysfawr ac mae’n cynnwys y gost llog ar y rhwymedigaeth budd diffiniedig a’r incwm o log ar asedau’r cynllun, wedi’i gyfrifo trwy luosi gwerth teg asedau’r cynllun ar ddechrau’r cyfnod yn ôl y gyfradd a ddefnyddir i ostwng y rhwymedigaethau budd. Cydnabyddir y gwahaniaeth rhwng y llog ar incwm ar asedau’r cynllun â’r gwir adenillion ar asedau’r cynllun yn yr incwm cynhwysfawr arall. Caiff enillion a cholledion actiwaraidd ar rwymedigaethau hefyd eu cydnabod yn syth yn yr incwm cynhwysfawr arall. Pan fydd cyfrifiad yn arwain at ased net, mae’r cydnabod wedi’i gyfyngu i’r graddau y gall y coleg adennill y gwarged, naill ai drwy lai o gyfraniadau yn y dyfodol neu drwy ad-daliadau o’r cynllun. Mae’r cyfarwyddwyr wedi asesu na all y Cwmni adennill y gwarged naill ai drwy lai o gyfraniadau yn y dyfodol neu drwy ad-daliadau o’r cynllun, ac o’r herwydd, mae terfyn uchaf yr asedau wedi’i gymhwyso gan leihau’r gwarged i DIM.
-
Cydnabyddir buddion tymor byr megis cyflog ac absenoldeb ag iawndal (tâl gwyliau) fel cost yn ystod y flwyddyn y mae’r gweithwyr cyflogedig yn gwasanaethu’r Coleg. Caiff unrhyw fuddion sydd heb eu defnyddio eu cronni a’u mesur fel swm ychwanegol y mae’r Coleg yn disgwyl ei dalu o ganlyniad i’r hawl nas defnyddiwyd.
-
Caiff cost wirioneddol unrhyw bensiwn uwch cyfredol i gyn aelod o staff ei dalu’n flynyddol gan y Coleg. Bydd y Coleg yn talu amcangyfrif o’r gost ddisgwyliedig yn y dyfodol o unrhyw gynnydd ym mhensiwn parhaus cyn aelod o staff yn llawn yn ystod y flwyddyn y bydd yr aelod staff yn ymddeol. Yn ystod y blynyddoedd canlynol, codir tâl ar ddarpariaethau yn y fantolen gan ddefnyddio’r daenlen pensiwn uwch a ddarperir gan y cyrff cyllido.
-
Caiff asedau diriaethol sefydlog eu nodi fel cost/cost yn llai dibrisiad cronedig a cholledion amhariad cronedig. Caiff eitemau asedau sefydlog penodol sydd wedi eu hailbrisio i werth teg ar neu cyn dyddiad trosglwyddo SORP AB AU 2015, eu mesur ar sail cost dybiedig, sef y swm wedi ailbrisio ar ddyddiad yr ailbrisiad hwnnw.
(a) Tir ac adeiladau
Caiff adeiladau rhydd-ddaliad eu dibrisio dros eu cyfnod oes economaidd ddefnyddiol i’r Coleg rhwng deg a hanner can mlynedd. Dibrisir tir ac adeiladau rhydd-ddaliad dros 50 mlynedd, neu dros gyfnod y brydles, os yw honno’n fyrrach. Ni chaiff tir rhydd-ddaliad ei ddibrisio.
Pan gaiff tir ac adeiladau eu prynu gyda chymorth grantiau penodol, maent yn cael eu cyfalafu a’u dibrisio fel yr uchod. Caiff y grantiau perthnasol eu credydu i gyfrif incwm gohiriedig o fewn credydwyr a’u rhyddhau i’r cyfrif incwm a gwariant dros gyfnod oes economaidd ddefnyddiol yr ased perthnasol ar sail gyson â’r polisi dibrisio. Caiff yr incwm gohiriedig ei glustnodi rhwng credydwyr sy’n ddyledus o fewn blwyddyn a’r rhai sy’n ddyledus wedi mwy na blwyddyn.
Ni chaiff asedau sydd wrthi’n cael eu hadeiladu eu dibrisio nes i’r Coleg gael defnydd llawn o’r asedau hynny, a chânt eu dibrisio yn unol â’r polisi uchod ar ôl hynny.
Ni chaiff costau ariannol, sy’n cael eu priodoli’n uniongyrchol i adeiladu tir ac adeiladau, eu cyfalafu fel rhan o gost yr asedau hynny.
O fabwysiadu FRS 102, dilynodd y Coleg y ddarpariaeth drawsnewidiol i gadw gwerth llyfr tir ac adeiladau, a ail-brisiwyd yn 1998, fel cost dybiedig, ond nid i fabwysiadu polisi ailbrisio’r eiddo yma yn y dyfodol.
Cynhelir adolygiad o amhariad ar ased sefydlog os yw digwyddiadau neu newidiadau mewn amgylchiadau yn awgrymu efallai na fydd modd adennill swm cario unrhyw ased sefydlog. Cynhelir adolygiad blynyddol o ddangosyddion amhariad ar ddyddiad adrodd y datganiad ariannol.
(b) Cyfarpar (yn cynnwys gosodiadau a ffitiadau)
Caiff cyfarpar sy’n costio llai na £3,000 yr eitem unigol ei ddileu i’r cyfrif incwm a gwariant yn ystod y cyfnod pryniant. Caiff eitemau grŵp sydd mewn agregau uwchlaw’r trothwy ond heblaw hynny’n unigol, eu hadolygu’n arbennig cyn penderfynu ar y dull. Caiff pob cyfarpar arall ei gyfalafu ar gost prynu. Nid yw cyfarpar a etifeddwyd o’r Awdurdod Addysg Lleol wedi’i gynnwys yn y fantolen, gan ei bod yn bolisi ganddynt i godi cost prynu llawn yr ased i’r cyfrif incwm a gwariant ym mlwyddyn y pryniant.
Caiff cyfarpar ei ddibrisio dros gyfnod economaidd defnyddiol ei oes fel a ganlyn:
-
Cyfarpar cyffredinol - 5% - 25% y flwyddyn
-
Cyfarpar cyfrifiadurol - 20% - 33% y flwyddyn
-
Gosodiadau a ffitiadau - 10% - 25% y flwyddyn
Pan fydd cyfarpar yn cael ei brynu gyda chymorth grantiau penodol caiff ei gyfalafu a’i ddibrisio yn unol â’r polisi uchod. Caiff y grantiau perthnasol eu credydu i gyfrif incwm gohiriedig o fewn credydwyr a’u rhyddhau i’r cyfrif incwm a gwariant dros gyfnod oes economaidd ddefnyddiol yr ased perthnasol ar sail gyson â’r polisi dibrisio. Caiff yr incwm gohiriedig ei glustnodi rhwng credydwyr sy’n ddyledus o fewn blwyddyn a’r rhai sy’n ddyledus wedi mwy na blwyddyn.
-
-
Mae’r Coleg wedi prynu nifer o gwotâu llaeth i’w defnyddio yng nghyswllt gweithgareddau ffermio’r Coleg. Mae cost cwotâu llaeth wedi ei nodi fel ased sefydlog anniriaethol. Caiff cwotâu llaeth eu hamorteiddio dros gyfnod o 10 mlynedd ar sail llinell syth.
-
Codir costau mewn perthynas â phrydlesi gweithredu ar sail llinell syth dros dymor y brydles. Caiff unrhyw bremiymau neu gymhellion prydles cysylltiedig â phrydlesi a arwyddwyd wedi 1 Awst 2014 eu lledaenu dros isafswm cyfnod y brydles. Mae’r Coleg wedi manteisio ar eithriadau trawsnewidiol FRS 102, ac wedi cadw’r polisi o ledaenu premiymau a chymhellion prydles hyd at ddyddiad adolygiad cyntaf rhent y farchnad ar gyfer prydlesi a arwyddwyd cyn 1 Awst 2014.
Caiff cytundebau prydles sy’n trosglwyddo pob risg a budd perchnogaeth ased i’r Coleg eu trin fel petai’r ased wedi’i brynu’n llawn. Caiff y rhain eu cyfalafu ar bris teg ar ddechrau’r brydles, a’u dibrisio dros gyfnod byrrach y brydles neu’r oes economaidd ddefnyddiol ar gyfer asedau tebyg a berchnogir. Dangosir yr elfen gyfalafu sy’n ddyledus fel rhwymedigaeth o dan brydlesi cyllid.
Caiff costau cyllid eu clustnodi dros gyfnod y brydles yn gymesur â’r elfen gyfalaf sy’n ddyledus. Lle mae taliadau prydles cyllid yn cael eu hariannu’n llawn gan grantiau cyfarpar cyfalaf y cyngor cyllido, mae’r asedau cysylltiedig yn cael eu dynodi fel asedau a ariennir gan grant.
-
Caiff buddsoddiadau mewn is-gwmnïau eu cyfrif ar gost llai amhariad yn y datganiadau ariannol.
Caiff buddsoddiadau rhestredig sy’n cael eu dal fel asedau anghyfredol a buddsoddiadau, eu nodi ar werth teg, gyda symudiadau’n cael eu cofnodi yn yr Incwm Cynhwysfawr. Caiff buddsoddiadau na restrir ar gyfnewidfa stoc gydnabyddedig eu cario ar gost hanesyddol llai unrhyw ddarpariaeth ar gyfer amhariad mewn gwerth, wedi eu hamcangyfrif drwy ddefnyddio techneg brisio.
-
Caiff stociau eu nodi fel isafswm eu cost a’u gwerth net gwireddadwy.Gwneir darpariaeth ar gyfer stociau darfodedig, diffygiol ac sy’n symud yn araf, yn ôl yr angen.
-
Mae arian parod yn cynnwys arian parod mewn llaw, blaendaliadau ad-daladwy ar alw a gorddrafftiau. Mae blaendaliadau yn ad-daladwy ar alw os ydynt ar gael yn ymarferol o fewn 24 awr heb gosb.
Buddsoddiadau tymor byr hynod hylifol y gellir eu trosi’n rhwydd i symiau hysbys o arian parod sydd â risg ddibwys o newid mewn gwerth yw symiau cyfwerth ag arian parod. Mae buddsoddiad yn gymwys fel cyfwerth ag arian parod pan fydd wedi aeddfedu dros dri mis neu lai o’r dyddiad y’i cafwyd.
-
Mae gan y Coleg gynllun cynnal a chadw hir dymor treigl deng mlynedd sy’n sail i’r gwaith cynnal a chadw cyfredol ar yr ystâd. Caiff cost gwaith cynnal a chadw hir dymor a chywirol arferol ei roi yn erbyn y cyfrif incwm a gwariant yn ôl y gofyn.
-
Caiff asedau ariannol, rhwymedigaethau ac ecwiti eu dosbarthu yn unol yn ôl sylwedd rhwymedigaethau cytundebol y cyfrwng ariannol, yn hytrach na ffurf gyfreithiol y cyfrwng ariannol.
Dosberthir unrhyw fenthyciadau, buddsoddiadau a blaendaliadau tymor byr a ddelir gan y Coleg fel cyfryngau ariannol sylfaenol yn unol â FRS 102. Caiff y cyfryngau yma eu cofnodi i ddechrau ar bris trafodiad yn llai cost trafodiad (costau hanesyddol). Mae FRS 102 yn ei gwneud yn ofynnol bod cyfryngau ariannol sylfaenol yn cael eu mesur ar gost amorteiddiedig. Nid yw benthyciadau a buddsoddiadau sy’n daladwy neu’n dderbyniadwy o fewn blwyddyn yn cael eu disgowntio.
-
Caiff trafodion mewn arian tramor eu cofnodi gan ddefnyddio’r gyfradd rheoli cyfnewid ar ddyddiad y trafodiad. Mae asedau a rhwymedigaethau ariannol mewn arian tramor yn cael eu trosi ar y cyfraddau cyfnewid ar ddiwedd y cyfnod ariannol, a chymerir yr holl wahaniaethau cyfnewid sy’n deillio o hynny fel incwm yn ystod y cyfnod y maent yn digwydd.
-
Ystyrir bod y Coleg yn pasio’r profion a nodir ym Mharagraff 1 Atodlen 6 o Ddeddf Cyllid 2010 a’i fod felly’n cydymffurfio â’r diffiniad o gwmni elusennol i ddibenion treth gorfforaethol yn y DU. Yn yr un modd, mae’n bosib y gellir eithrio’r Coleg rhag treth mewn perthynas ag enillion neu enillion cyfalaf a dderbynnir o fewn categorïau a gwmpesir gan adrannau 478-488 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 neu Adran 256 o Ddeddf Trethi Enillion Trethadwy 1992, i’r graddau y mae enillion neu enillion o’r fath yn cael eu cymhwyso at ddibenion elusennol yn unig.
Nid yw’r Coleg yn derbyn unrhyw eithriad yng nghyswllt Treth Ar Werth.
Mae is-gwmni’r Coleg, CCTA Enterprises Ltd, yn talu treth gorfforaethol a TAW yn yr un modd ag unrhyw sefydliad masnachol.
-
Cydnabyddir darpariaethau pan fydd gan y Coleg rwymedigaeth gyfreithiol neu adeiladol bresennol o ganlyniad i ddigwyddiad yn y gorffennol, mae’n debygol y bydd angen trosglwyddo budd economaidd i setlo’r rhwymedigaeth a gellir gwneud amcangyfrif dibynadwy o swm y rhwymedigaeth.
-
Caiff da byw eu trin fel ased sefydlog lle y bwriedir eu defnyddio’n barhaus ar gyfer gweithgareddau’r Coleg. Caiff da byw eu hailbrisio’n flynyddol heb ychwanegu cost dibrisio. Caiff gwahaniaethau rhwng prisiadau olynol eu credydu neu eu hychwanegu neu gredydu i’r cyfrif incwm a gwariant.
-
Gweithreda’r Coleg fel asiant drwy gasglu a thalu cronfeydd ariannol wrth gefn a lwfansau cynnal a chadw addysgol. Caiff taliadau cysylltiedig a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru a thaliadau dilynol i fyfyrwyr eu heithrio oddi wrth incwm a gwariant y Coleg lle mae’r Coleg yn agored i’r risg leiaf neu’n mwynhau’r budd economaidd lleiaf posibl sy’n gysylltiedig â’r trafodiad.
-
Rhoddion a gwaddolion yw trafodion digyfnewid heb amodau yn ymwneud â pherfformiad. Caiff rhoddion a gwaddolion ag iddynt gyfyngiadau wedi eu gosod gan gyfranwyr eu cydnabod yn yr incwm pan fydd gan y Coleg hawl ar y cronfeydd hynny.
Caiff incwm ei gadw o fewn y gronfa gyfyngedig hyd nes y bydd unrhyw gyfyngiadau a osodwyd gan roddwr wrth roddion neu waddolion yn cael eu bodloni, gan arwain at ryddhau’r incwm i gronfeydd cyffredinol wrth gefn trwy drosglwyddiad wrth gefn. Ni chaiff rhoddion heb gyfyngiadau eu cydnabod fel incwm pan fydd gan y Coleg hawl ar y cyllid.
Cofnodir incwm buddsoddi a symudiadau mewn gwaddolion gwerth teg eu cofnodi fel incwm yn y flwyddyn pan godant, naill ai fel incwm cyfyngedig neu anghyfyngedig yn unol â thelerau’r cyfyngiadau a gymhwyswyd i’r cronfeydd gwaddolion unigol.
Mae tri phrif fath:
- Gwaddolion anghyfyngedig parhaol – mae’r rhoddwr wedi nodi fod y cyllid i’w fuddsoddi’n barhaol er mwyn cynhyrchu llif incwm er budd cyffredinol y sefydliad
- Gwaddolion cyfyngedig gwariadwy – mae’r rhoddwr wedi nodi amcan penodol ar wahân i brynu neu adeiladu asedau diriaethol sefydlog, a gall y sefydliad drosi swm y rhodd yn incwm
- Gwaddolion cyfyngedig parhaol – mae’r rhoddwr wedi nodi fod y gronfa i’w buddsoddi’n barhaol er mwyn cynhyrchu llif incwm i’w ddefnyddio ar gyfer nod penodol
-
Wrth baratoi’r datganiadau ariannol yma, mae’r rheolwyr wedi dod i’r casgliadau isod:
- Penderfynu os oes yna ddangosyddion amhariad o safbwynt asedau diriaethol y grŵp. Ymysg y ffactorau a ystyriwyd wrth gyrraedd y fath gasgliad roedd hyfywedd economaidd a pherfformiad ariannol tebygol yr asedau i’r dyfodol a lle mae’n rhan o uned gynhyrchu arian fwy, hyfywedd a pherfformiad disgwyliedig yr uned honno.
Prif ffynonellau eraill ansicrwydd amcangyfrif
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Dibynna gwerth presennol rhwymedigaeth budd diffiniedig Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar nifer o ffactorau sy’n cael eu penderfynu ar sail actiwaraidd gan ddefnyddio nifer o ragdybiaethau. Mae’r rhagdybiaethau a ddefnyddir i bennu’r gost net (incwm) ar gyfer pensiynau’n cynnwys y gyfradd ddisgownt. Bydd unrhyw newidiadau yn y rhagdybiaethau yma, fel y nodir yn nodyn 21, yn effeithio ar y swm cario’r rhwymedigaeth pensiwn. Ymhellach, defnyddiwyd sail rholio ymlaen sy’n rhagweld canlyniadau’r prisiad actiwaraidd llawn diweddaraf a gynhaliwyd ar 31 Mawrth 2022 gan yr actiwari wrth brisio’r rhwymedigaeth pensiwn ar 31 Gorffennaf 2024. Byddai unrhyw wahaniaethau rhwng y ffigyrau ar y sail rholio ymlaen a phrisiad actiwaraidd llawn yn effeithio ar swm cario’r rhwymedigaeth pensiwn.
NODIADAU I GYD-FYND Â’R DATGANIADAU ARIANNOL
-
2024 2023 £000 £000 Grantiau cylchol 22,224 24,313 Dysgu Seiliedig ar Waith 4,719 3,858 Grantiau penodol 923 1,735 Grantiau cyfalaf:
Adeiladau 459 460 Cyfarpar 861 1,013 29,186 31,379 -
2024 2023 £000 £000 Myfyrwyr addysg uwch y DU 3,673 3,598 Myfyrwyr addysg bellach y DU 151 33 Myfyrwyr y tu hwnt i’r UE - - Cyfanswm y ffioedd dysgu a dalwyd gan neu ar ran myfyrwyr unigol
3,824
3,631
Contractau addysg Contractau addysg uwch 620 620 Contractau eraill
503 656 4,947 4,907 -
2024 2023 £000 £000 Llety ac arlwyo 903 849 Grantiau cyfalaf heblaw am y llywodraeth - - Gweithgareddau ffermio 1,407 1,740 Gweithgareddau creu incwm eraill 3,047 1,661 Incwm grant arall: Cronfeydd Ewropeaidd - 2,515 Cronfeydd eraill 231 228 Incwm arall 11„248 9,892 -
2024 2023 £000 £000 Llog derbyniadwy 754 468 754 468 -
Cyfartaledd y nifer o bersonau (yn cynnwys personél rheoli allweddol) a gyflogwyd gan y Coleg yn ystod y flwyddyn, a fynegwyd fel bod yn gyfwerth ag amser llawn, oedd:
2024 2023 Nifer Nifer Adrannau addysgu: Staff addysgu 211 219 Staff eraill 21 21 232
240
Gwasanaethau cefnogi dysgu 13 15 Gwasanaethau cefnogi eraill 24 26 Gwasanaethau gweinyddu a chanolog 95 95 Eiddo 17 19 Gweithgareddau creu incwm eraill 88 88 Arlwyo a llety - - Fferm 10 10 479
493
Yn seiliedig ar nifer cyfartalog: Staff Addysgu 286 323 Yn seiliedig ar nifer cyfartalog: Staff Cefnogi 291 336 Costau staff ar gyfer y personau uchod:
2024 2023 £000 £000 Adrannau addysgu Staff addysgu 12,957 12,800 Staff eraill 660 655 13,617
13,455
Gwasanaethau cefnogi dysgu 552 563 Gwasanaethau cefnogi eraill 971 968 Gwasanaethau gweinyddu a chanolog 4,871 4,725 Eiddo 679 640 Gweithgareddau creu incwm eraill 4,010 3,849 Arlwyo a llety - - Fferm 351 314 Costau ailstrwythuro 34 863 Costau pensiwn 55 12 FRS 102 (Adran 28 – Costau Pensiwn) (247) 592 Croniad tâl gwyliau 2 10 24,895 25,991 2024 2023 £000 £000 Pae a chyflogau 19,042 18,752 Costau nawdd cymdeithasol 1,860 1,843 Costau pensiwn eraill 3,959 4,533 Costau ailstrwythuro 24,861 25,128 34 863 24,895 25,991 Nifer y staff, yn cynnwys personél rheoli allweddol (yn unol â diffiniad nodyn 6), a dderbyniodd enillion o fewn yr amrediadau canlynol oedd:
Band Cyflog (£) 2024 Nifer 2023 Nifer 60,001 - 65,000 3 3 65,001 - 70,000 4 4 70,001 - 75,000 2 - 75,001 - 80,000 - - 80,001 - 85,000 - - 85,001 - 90,000 - 2 90,001 - 95,000 - 1 95,001 - 100,000 2 2 100,000 - 105,000 1 - 105,000 - 110,000 - - 110,000 - 115,000 - - 175,000 - 180,000 1 1 Cyfanswm 13 13 Cymeradwyodd y Bwrdd godiad cyflog o 5 % ac fe’i talwyd o 1 Awst 2023 i’r holl staff, ac eithrio’r Pennaeth a dderbyniodd 0% (2023: 6.5 %). I’r dibenion hynny, mae enillion yn cynnwys buddion trethadwy er budd ond nid costau pensiwn cyflogwr. Doedd dim un aelod o staff o fewn yr amrediad £ 105,000 - £ 175,000.
-
Personél rheoli allweddol yw’r personau hynny â chanddynt awdurdod a chyfrifoldeb dros gynllunio, cyfarwyddo a rheoli gweithgareddau’r Coleg ac yn cael eu cynrychioli gan Dîm Rheoli’r Coleg sy’n cynnwys y Pennaeth a’r is benaethiaid.
Nifer y personél rheoli allweddol, yn cynnwys y Pennaeth, oedd 4 (2023: 4).
Band Cyflog (£) 2024 Nifer 2023 Nifer 85,001 - 90,000 - - 90,001 - 95,000 - 1 95,001 - 100,000 2 2 100,001 - 105,000 1 - 175,000 - 180,000 1 1 Cyfanswm 4 4 Dyma enillion y personél rheoli allweddol:
2024 (£) 2023 (£) Cyflogau 471,044 464,778 Buddion mewn nwyddau 4,973 3,598 476,017 468,376 Cyfraniadau pensiwn 114,196 106,424 Cyfanswm enillion 590,213 574,800 Mae’r enillion uchod yn cynnwys symiau sy’n daladwy i’r Pennaeth (sef yr aelod sy’n cael ei dalu fwyaf o blith y personél rheoli allweddol):
2024 (£) 2023 (£) Cyflogau 173,595 172,974 Buddion mewn nwyddau 4,500 3,598 178,095 176,572 Cyfraniadau pensiwn 44,000 40,960 Cyfanswm enillion 222,095 217,532 Mae’r cyfraniadau pensiwn mewn perthynas â’r Pennaeth a deiliaid swyddi uwch eraill yn ymwneud â chyfraniadau’r cyflogwr i Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a Chynllun Pensiwn Athrawon ac maent yn cael eu talu ar yr un gyfradd ag ar gyfer gweithwyr cyflogedig eraill.
Ni dderbyniodd aelodau’r Bwrdd, ar wahân i’r Pennaeth ac aelodau staff, unrhyw daliad gan y Coleg heblaw am ad-daliadau am deithio a chynhaliaeth £1,635 (2023: £497) yn sgil eu dyletswyddau.
Ni dderbyniodd y Pennaeth godiad cyflog yn 2024 (2023: 6.5%), ond derbyniodd staff eraill ar gyflogau uwch (yn cynnwys personél rheoli allweddol), godiad cyflog o 5 % yn ystod y flwyddyn (2023: 6.5%). Ni roddwyd unrhyw daliadau bonws ychwanegol nag ychwanegiadau cyflog i bersonél rheoli allweddol neu staff eraill ar gyflogau uwch (2023: dim). Cyflog y Pennaeth, fel lluosrif o ganolrif cyflog yr holl weithwyr cyflogedig (yr holl staff llawn a rhan-amser ond heb gynnwys gweithwyr asiantaeth) oedd 5.3 yn 2024 (2023: 5.5). Yn yr un modd, y lluosrif yn seiliedig ar yr holl enillion oedd 5.5 yn 2024 (2023 : 5.7).
Caiff cydnabyddiaeth y Pennaeth ei feincnodi ar sefydliadau Addysg Bellach nodweddiadol o faint a strwythur tebyg gan adlewyrchu heriau a maint y swydd. Mae Coleg Sir Gâr, ynghyd â’i is-gwmni, Coleg Ceredigion yn gwmni mawr gyda throsiant ar y cyd o dros £ 50 m gyda mwy na 650 o staff wedi eu gwasgaru dros ardal amrywiol; yn wir, dros 2 sir: Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Mae’r dasg o reoli 7 safle, mor bell wrth ei gilydd, yn gymhleth a heriol.
Ymysg y mesurau perfformiad allweddol byddai sicrhau’r safonau uchaf posib o safbwynt ein gwaith addysgu a dysgu wrth gynnig amgylchedd cyffrous, arloesol a chynhwysol ar gyfer myfyrwyr a staff, gan wneud hynny o fewn yr adnoddau a ddarperir bob amser.
Her gyson yw sicrhau effeithiolrwydd ein gweithrediadau, ochr yn ochr ag ysfa i geisio a sicrhau ffynonellau newydd o incwm os yn bosib. Cyflawnir hyn yn unig drwy weithio gyda phob un o fudd-ddeiliaid y coleg, sy’n niferus, a sicrhau amgylchedd cytûn, cydweithredol a theg i bawb.
Ymhellach, gan fod y coleg yn rhan o grŵp ehangach fel is-gwmni Prifysgol Cymru : Y Drindod Dewi Sant, mae’r Pennaeth yn chwarae rôl bwysig o safbwynt cydweithio’n agos gyda’r brifysgol i gyflawni amcanion cynlluniedig a chytûn o fudd i’r ddwy ochr, wedi eu datblygu i greu’r lefel uchaf o ansawdd addysgu a phrofiadau i’r dysgwyr wrth hwyluso diwylliant ac amgylchedd dysgu gydol oes.
Mae’r Pennaeth yn adrodd yn uniongyrchol i’r Bwrdd Cyfarwyddwyr sydd yn y pen draw’n gyfrifol am berfformiad y Coleg. Y Cyfarwyddwyr sydd hefyd yn gyfrifol am werthuso ac asesu effeithiolrwydd y Pennaeth o safbwynt rheoli’r Coleg, ac yn yr un modd, y pecyn cydnabyddiaeth ar gyfer y rôl.
Mae’r Cyfarwyddwyr wedi cynnal asesiad o gyflog y Pennaeth ac yn credu bod y cyflog yn gymesur â’r rôl y coleg. Er mwyn dod i’r casgliad hwn, byddai asesiadau o faint, cymhlethdod, heriau a chyfrifoldeb wedi eu gwneud, yn ogystal ag ymarfer meincnodi o safbwynt colegau AB eraill o faint a chymhlethdod tebyg.
Taliadau Diswyddo
Talodd y coleg 1 taliad diswyddo yn ystod y flwyddyn, a ddatgelir yn y bandiau canlynol:
Band Cyflog (£) 2024
Nifer
0 - 25,000 - 25,001 - 50,000 1 50,001 - 100,000 - 100,001 - 150,000 - 150,000 + 1 Cyfanswm 2 Wedi’i gynnwys yng nghostau ailstrwythuro staff, mae taliad diswyddo arbennig â chyfanswm o £34,000.
-
Mae Rheoliadau’r Undebau Llafur (Gofynion Cyhoeddi Amser Cyfleuster) 2017, yn ei gwneud yn ofynnol i’r coleg gyhoeddi gwybodaeth am drefniadau amser cyfleuster ar gyfer swyddogion undebau llafur yn y coleg.
Nifer y Gweithwyr Cyflogedig a oedd yn swyddogion undeb perthnasol yn ystod 23-24 : 15 (Cyfwerth â Llawn Amser (FTE) : 13.16)
Canran yr amser Nifer y Gweithwyr Canran yr amser a dreulir ar amser cyfleuster 0-1% - 1-50% 15 50-100% - Cyfanswm Amser Cyfleuster £33,579 Cyfanswm y tâl i gynrychiolwyr undeb £622,876 Canran y tâl a wariwyd ar amser cyfleuster 5.39% Amser a dreuliwyd ar weithgareddau undeb llafur â thâl fel canran o gyfanswm yr amser cyfleuster â thâl 5.39 %
-
2024 (£000) 2023 (£000) Adrannau addysgu 1,242 1,673 Gwasanaethau cefnogi addysgu – – llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau
52 52 - ffioedd arholiadau 792 643 - cludiant myfyrwyr 1,263 1,038 Gwasanaethau cefnogi eraill 46 51 Gwasanaethau gweinyddu a chanolog 8,001 7,186 Gwariant addysg gyffredinol 336 376 Adeiladau: - Costau rhedeg 1,517 1,252 - Cynnal a chadw arferol 969 1,366 - Cynnal a chadw arferol 139 152 Cynnal a chadw wedi’i gynllunio - - Gweithgareddau creu incwm eraill 32 31 Gweithrediadau arlwyo a llety 1,056 893 Gweithgareddau ffermio 910 1,135 Darpariaeth fasnachfraint 875 835 Treth ar werth anadferadwy 1,257 1,503 18,487 18,186 Mae costau gweithredu eraill yn cynnwys:
2024 (£000) 2023 (£000) Cyflog archwilydd: Archwiliad datganiadau ariannol 40 38 Gwasanaethau eraill a ddarparwyd gan yr archwilydd datganiadau ariannol (gwasanaethau dychwelyd rheoliadol)
6 6 Archwiliad mewnol 22 22 Ffioedd cofrestru 82 83 Llogi asedau eraill – prydlesi gweithredu 128 149 -
Aethpwyd i’r costau canlynol yn ystod 2023-2024 mewn perthynas â gweithgareddau tramor, a gyflawnwyd yn unol â’r strategaeth a gymeradwywyd gan y corff llywodraethu:
Teithio a Llety £ Chynhaliaeth Lletygarwch £ Arall Costau £ Nifer Ymweliadau Aelodau - - - - Personél rheoli allweddol - 190 - 4 Staff eraill - 200 - 1 - 390 - 5 -
2024 2023 £000 £000 Ar brydlesi cyllid 41 29 Costau cyllid pensiynau (gweler nodyn 21) (371) 259 (330) 288 -
Cwota llaeth (£000)
Swm(£000) Costau Ar 1 Awst 2023 a 31 Gorffennaf 2024 302 Amorteiddiad Cronedig Ar 1 Awst 2023 302 Cost ar gyfer y flwyddyn - Ar 31 Gorffennaf 2024 302 Gwerth llyfr net Ar 31 Gorffennaf 2024 - Ar 31 Gorffennaf 2023 - -
Tir ac adeiladau rhydd-ddaliad
£000
Cyfarpar
£000
Gosodiadau a Ffitiadau
£000
Da byw
£000
Cyfanswm
£000
Cost neu brisiad Ar 1 Awst 2023 43,927 9,951 3,984 381 58,243 Ychwanegiadau 52 480 400 119 1,051 Ailbrisio - - - - - Gwarediadau - - - - - Ar 31 Gorffennaf 2024 43,979 10,431 4,384 500 59,294 Dibrisiad Cronedig Ar 1 Awst 2023 16,892 7,853 3,410 - 28,155 Cost ar gyfer y flwyddyn 921 1,087 353 - 2,361 Dilëwyd wrth waredu - - - - - Ar 31 Gorffennaf 2024 17,813 8,940 3,763 - 30,516 Gwerth llyfr net Ar 31 Gorffennaf 2024 26,166 1,491 621 500 28,778 Ar 31 Gorffennaf 2023 27,035 2,098 574 381 30,088 Dadansoddiad o werth llyfr net ar 31 Gorffennaf 2024
Tir ac adeiladau rhydd-ddaliad Cyfarpar Gosodiadau a Ffitiadau Da byw Cyfanswm Etifeddwyd 7,574 - - - 7,574 Ariannwyd drwy grant cyfalaf 9,930 738 - - 10,668 Arall 8,662 753 621 500 10,536 26,166 1,491 621 500 28,778 Cafodd tir ac adeiladau eu hailbrisio yn 1998 ar gost amnewid dibrisedig gan Cooke & Arkwright, cwmni o syrfewyr siartredig annibynnol. O fabwysiadu FRS 102, mae eiddo wedi’i ailbrisio’n cael ei drin fel cost dybiedig. Dyma ddadansoddiad o gost neu brisiad yr asedau diriaethol sefydlog ar 31 Gorffennaf 2024:
Cost neu brisiad ar 31 Gorffennaf 2024 wedi’i gynrychioli gan:
Brisiad yn 1998 (gweler uchod) 19,716 - - 500 20,216 Costau 24,263 10,431 4,384 - 39,078 43,979 10,431 4,384 500 59,294 -
Cost neu brisiad Yn cael eu defnyddio i ddiben y Coleg
£000
Eiddo fel buddsoddiad
£000
Eiddo sy’n cael ei ddatblygu
£000
Cyfanswm
£000
Ar 1 Awst 2023 43,927 - - 43,927 Trosglwyddwyd yn ystod y flwyddyn - - - - Ychwanegiadau 52 - - 52 Gwarediadau - - - - Ar 31 Gorffennaf 2024 43,979 - - 43,979 Dibrisiad Cronedig Ar 1 Awst 2023 16,892 - - 16,892 Cost ar gyfer y flwyddyn 921 - - 921 Gwarediadau - - - - Ar 31 Gorffennaf 2024 17,813 - - 17,813 Gwerth llyfr net Ar 31 Gorffennaf 2024 26,166 - - 26,166 Ar 31 Gorffennaf 2023 27,035 - - 27,035 Dadansoddiad o werth llyfr net ar 31 Gorffennaf 2024 Etifeddwyd 7,574 - - 7,574 Ariannwyd drwy grant cyfalaf 9,930 - - 9,930 Arall 8,662 - - 8,662 26,166 - - 26,166 -
2024
Coleg
£000
2023
Coleg
£000
Buddsoddiad mewn is-gwmni - - Buddsoddiadau anghyfredol eraill mewn asedau 236 248 236 248 Mae’r Coleg wedi buddsoddi yn yr is-gwmnïau canlynol:
Enw’r cwmni Daliad Gwlad Ymgorffori Gweithgaredd Coleg Ceredigion Cyfyngedig trwy Warant Cymru Coleg Addysg Bellach CCTA Enterprises Limited 100% Cymru Segur Rareblend Limited 100% Cymru Segur Buddsoddiadau anghyfredol eraill mewn asedau
Buddsoddiadau
wedi eu rhestru£000
Buddsoddiadau eraill
£000
Cyfanswm
£000
Cost neu brisiad Ar 1 Awst 2023 45 203 248 Ychwanegiadau - - - Ailbrisiad (12) - (12) Ar 31 Gorffennaf 2024
33
203
236
Cost neu brisiad ar 31 Gorffennaf 2024 wedi’i gynrychioli gan: Prisiad 33 - 33 Cost - 203 203 33
203
236
-
2024
£000
2023
£000
Asedau gwaddol Balans ar 1 Awst 17 17 Cynnydd yng ngwerth buddsoddiadau - - Incwm ar gyfer y flwyddyn - - Gwariant ar gyfer y flwyddyn - - Balans ar 31 Gorffennaf
17
17
Cynrychiolwyd gan: COIF Daliadau Cronfa Buddsoddi Elusennau 17 17 17 17 -
2024
£000
2023
£000
Da byw ar gyfer gwerthu
184 155 Stoc arall - - 184 155 -
2024
£000
2023
£000
Symiau dyledus o fewn blwyddyn: Dyledwyr masnach 158 301 Symiau dyledus oherwydd ymrwymiadau grŵp: is-gwmnïau - - eraill 168 104 Blaendaliadau ac incwm cronnus 3,299 1,608 3,625 2,013 Sylwer: Mae symiau dyledus i ymrwymiadau grŵp yn ad-daladwy ar gais ac yn ddi-log. Mae arall yn cyfeirio at y rhiant gwmni PCYDDS
-
2024 (£000) 2023 (£000) Rhwymedigaethau o dan brydlesi cyllid 161 152 Taliadau a dderbyniwyd ymlaen llaw 1,320 2,593 Taladwy i fasnachwyr 1,517 1,340 Symiau sy’n ddyledus oherwydd ymrwymiadau grŵp: is-gwmnïau - 14 Symiau sy’n ddyledus oherwydd ymrwymiadau grŵp 197 106 Treth a nawdd cymdeithasol 454 689 Croniadau ac incwm gohiriedig 2,427 2,330 Incwm gohiriedig – grantiau cyfalaf y llywodraeth 1,320 1,473 7,396 8,697 -
2024
£000
2023
£000
Benthyciadau banc a gorddrafft - - Rhwymedigaethau o dan brydlesi cyllid 321 202 Incwm gohiriedig – grantiau cyfalaf y llywodraeth 9,348 10,379 Cyfanswm 9,669 10,581 Prydlesi cyllid
2024
£000
2023
£000
Dyma’r ymrwymiadau prydlesi cyllid net sydd gan y sefydliad : O fewn blwyddyn neu lai 161 152 Rhwng dwy a phum mlynedd 321 202 Ymhen pum mlynedd neu fwy - - 482 354 -
Darpariaeth Pensiwn Uwch
£000
Ffioedd AU
£000
ESF
£000
Cyfanswm
£000
Ar 1 Awst 2023 542 229 219 990 Defnyddiwyd yn y cyfnod (66) - - (66) Rhyddhawyd yn y cyfnod - (229) (219) (448) Trosglwyddwyd o’r cyfrif incwm a gwariant 54 - - 54 Ar 31 Gorffennaf 2024
530
-
-
530
methodoleg costau cyffredinol. Mae’r Ffioedd AU yn cyfeirio at ad-hawliad posibl o ffioedd cwrs gan fyfyrwyr. Mae’r ddarpariaeth pensiwn uwch yn ymwneud â staff sydd wedi gadael cyflogaeth y Coleg ac ymrwymiadau ar gyfer costau ad-drefnu na all y Coleg dynnu’n ôl yn rhesymol oddi wrthynt ar ddyddiad y fantolen.Ail-gyfrifwyd y ddarpariaeth yn unol â chylchlythyr diweddaraf Ysgol Gyllid Llundain, yr LSC.
Dyma’r prif ragdybiaethau ar gyfer y cyfrifiad hwn:
2024 2023 Cyfradd llog 4.8% 5.0% Cyfradd llog net 2.8% 2.8% -
2024
£000
2023
£000
Symiau sy’n ddyledus o fewn blwyddyn 1,320 1,473 Symiau sy’n ddyledus wedi mwy na blwyddyn 9,348 10,379 10,668 11,852 Dyma’r symudiad mewn grantiau cyfalaf:
LlC (£000) Grantiau eraill (£000) Cyfanswm (£000) Ar 1 Awst 2023 Tir ac adeiladau 8,127 2,263 10,390 Cyfarpar 1,283 179 1,462 Arian parod a dderbyniwyd Tir ac adeiladau - - - Cyfarpar 136 - 136 Released to Income and Expenditure Account Land and buildings (354) (105) (459) Equipment (706) (155) (861) Ar 31 Gorffennaf 2024 Tir ac adeiladau 7,773 2,158 9,931 Cyfarpar 713 24 737 8,486 2,182 10,668 -
Diwedd y flwyddyn 31ain Gorffennaf 2024
Anghyfyngedig Parhaol
£000
Gwariadwy Cyfyngedig
£000
Cyfyngedig Parhaol
£000
Cyfanswm Cyfyngedig
£000
Cyfa-nswm
£000
Balans ar 1 Awst 2023 Cyfalaf - 22 - 22 22 Llog cronnus - - - - - Llog cronnus - 22 - 22 22 Cynnydd yng ngwerth marchnad y buddsoddiadau - 2 - 2 2 Gwariant ar gyfer y flwyddyn - (1) - (1) (1) Balans ar 31 Gorffennaf 2024 Cyfalaf - 23 - 23 23 Llog cronnus - - - - - Cyfanswm - 23 - 23 23 Yn cynrychioli: Cronfeydd cymrodoriaeth ac ysgoloriaeth - 22 - 22 22 Cronfeydd gwobrau - 1 - 1 1 Cyfanswm - 23 - 23 23 Diwedd y flwyddyn 31ain Gorffennaf 2023
Anghyfyngedig Parhaol Gwariadwy Cyfyngedig Cyfyngedig Parhaol Cyfanswm Cyfyngedig Cyfa-nswm Balans ar 1 Awst 2022 Cyfalaf - 22 - 22 22 Llog cronnus - - - - - Cyfanswm - 22 - 22 22 Cynnydd yng ngwerth marchnad y buddsoddiadau - 1 - 1 1 Gwariant ar gyfer y flwyddyn - (1) - (1) (1) Balans ar 31 Gorffennaf 2023 Cyfalaf - 22 - 22 22 Llog cronnus - - - - - Cyfanswm - 22 - 22 22 Yn cynrychioli: Cronfeydd cymrodoriaeth ac ysgoloriaeth - 21 - 21 21 Cronfeydd gwobrau - 1 - 1 1 Cyfanswm - 22 - 22 22 -
Mae gweithwyr cyflogedig y Coleg yn perthyn i ddau brif gynllun pensiwn, Cynllun Pensiwn Athrawon (CPA) nad yw’n cael ei ariannu a Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) sy’n cael ei ariannu. Cynlluniau budd diffiniedig aml-gyflogwr yw’r ddau, a chaiff asedau’r cynlluniau eu cadw mewn cronfeydd ar wahân sy’n cael eu gweinyddu gan ymddiriedolwyr.
Cyfanswm cost pensiwn y Coleg oedd:
2024 (£000) 2023 (£000) CPA: Cyfraniadau a dalwyd 2,521 2,333 CPLlL: Cost i’r Datganiad Incwm Cynhwysfawr: Cyfraniadau a dalwyd 1,630 1,596 Cost FRS 102 (247) 592 Ailstrwythuro staff (gweler isod) 55 12 Cyfanswm cost pensiwn 3,959 4,533 Ailstrwythuro staff(£000)
2024 (£000) 2023 (£000) Buddion a ail-godwyd yn ystod y flwyddyn gan y CPLlL 67 61 Costau ailstrwythuro staff eraill (12) (49) 55 12 TCyfanswm Cyfraniadau i’r CPLlL (£000)
2024 (£000) 2023 (£000) Buddion a ail-godwyd yn ystod y flwyddyn gan y CPLlL 67 61 Cyfraniadau arferol cyflogwr 1,630 1,596 1,697 1,657 Nid oedd unrhyw gyfraniadau’n ddyledus nac wedi eu talu ymlaen llaw naill ai ar ddechrau’r flwyddyn ariannol nac ar ei diwedd.
CPLlL (Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol)
Cynhaliwyd y prisiad actiwaraidd llawn olaf ar 31 Mawrth 2022 pan oedd gwerth marchnad asedau’r cynllun yn £3,243 miliwn. Cynrychiolai gwerth actiwaraidd yr asedau 113 % o rwymedigaethau cronedig y gronfa wedi caniatáu am gynnydd mewn enillion i’r dyfodol. Mae hyn yn gyfwerth â gwarged o £372 m.
Yr amcan cyllido fel y nodwyd gan yr FSS yw cyflawni a chynnal lefel gyllido solfedd o 100 % o rwymedigaethau. Yn unol â’r FSS, lle bo diffyg ariannol yn bodoli ar ddiwrnod gweithredu’r prisiad, bydd cynllun adfer diffyg ariannol yn cael ei roi ar waith sy’n gofyn am gyfraniadau ychwanegol i unioni’r diffyg ariannol. Mae’r cyfarwyddwyr wedi asesu na all y Cwmni adennill y gwarged naill ai drwy lai o gyfraniadau yn y dyfodol neu drwy ad-daliadau o’r cynllun, ac o’r herwydd, mae terfyn uchaf yr asedau wedi’i gymhwyso gan leihau’r gwarged i DIM. Ar y prisiad hwn, y cyfnod adfer cyfartalog ar gyfer cyflogwyr sydd â diffyg ariannol yw 9 mlynedd ac ar gyfer cyflogwyr sydd â gwarged, 14 mlynedd (yn amodol ar y byffer gwarged).
Y gyfradd cyfraniadau y cytunwyd arni ar gyfer y Coleg yn dechrau ar 1 Ebrill 2024 yw 19.8% (2023: 20%), a thaliad misol sefydlog o £0 (2023 : £0 y flwyddyn). Cynhelir prisiad nesaf y cynllun ar 31ain Mawrth 2025 gyda chyfraddau cyfraniadau newydd yn berthnasol o Ebrill 2026.
Cynhaliwyd prisiad actiwaraidd o’r cynllun hefyd ar 31 Gorffennaf 2024, 31 Gorffennaf 2023 ac ar 31 Gorffennaf 2022 gan actiwari annibynnol cymwys yn defnyddio’r dull uned rhagamcanol. Y prif ragdybiaethau a ddefnyddiwyd gan yr actiwari oedd:
2024 2023 2022 Cyfradd chwyddiant - CPI 2.60% 2.70% 2.70% Cyfradd cynnydd mewn cyflogau 4.10% 4.20% 4.20% Cyfradd codiad mewn pensiynau 2.70% 2.80% 2.80% Cyfradd disgownt 4.90% 5.10% 3.50% Rhagdybiaethau Marwolaeth ôl-ymddeol
Dechrau’r cyfnod:
- Aelodau sydd heb ymddeol SAPS 3 CMI 22 (1.5%) (105% dynion, 97% menywod)
- Aelodau wedi ymddeol SAPS 3 CMI 22 (1.5%) (102% dynion, 97% menywod)
Diwedd y cyfnod:
- Aelodau sydd heb ymddeol SAPS 4 CMI 23 (1.5%) (103% dynion, 97% menywod)
- Aelodau wedi ymddeol SAPS 4 CMI 23 (1.5%) (100% dynion, 97% menywod)
Disgwyliad oes
Blynyddoedd
Blynyddoedd
Blynyddoedd
Yn Ymddeol Heddiw - Dynion 21.4 21.4 23.0 Yn Ymddeol Heddiw - Menywod 23.8 23.7 24.9 Yn ymddeol mewn 20 mlynedd - Dynion 22.8 22.8 24.4 Yn ymddeol mewn 20 mlynedd - Menywod 25.6 25.5 27.1 Amcangyfrif o Ddyraniad Asedau:
2024 Rhaniad % 2023 Rhaniad % 2022 Rhaniad % Ecwiti 73.2 73.1 70.4 Bondiau’r llywodraeth 0.0 0.2 1.4 Bondiau eraill 9.3 8.5 7.3 Adeiladau 10.8 13.2 15.8 Arian Parod/Arall 6.7 5.0 5.1 100.0 100.0 100.0 Mesurwyd y symiau canlynol ar 31 Gorffennaf 2024, 31 Gorffennaf 2023 ac ar 31 Gorffennaf 2022 yn unol â gofynion FRS 102 (sylwch fod IAS 19 wedi’i ddefnyddio i gyfrifo gwerth gwarged pensiynau i’w gydnabod ar y fantolen a ddaeth i’r casgliad y dylai’r gwarged fod yn gyfyngedig i DIM – gweler polisi CPLlL o dan polisïau ar dudalen 37 i gael rhagor o fanylion):
2024 (£000) 2023 (£000) 2022 (£000) Gwerth teg asedau’r cynllun 63,142 57,252 54,837 Rhwymedigaethau (54,255) (50,842) (63,051) Gwarged / (Diffyg) yn y cynllun 8,887 6,410 (8,214) Effaith terfyn uchaf asedau (8,887) (6,410) - Ased / (rhwymedigaeth) pensiwn cydnabyddedig - - (8,214) Gwerth Presennol rhwymedigaeth heb ei hariannu 565 603 - Rhwymedigaeth pensiwn cydnabyddedig 565 603 - Mae’r elfennau costau pensiwn canlynol wedi eu cydnabod yn y Datganiad Incwm Cynhwysfawr ar gyfer diwedd y flwyddyn 31 Gorffennaf 2024 a 31 Gorffennaf 2023:
Symiau a gafodd eu cydnabod yn y Datganiad Incwm Cynhwysfawr (£000)
2024 (£000) 2023 (£000) Symiau a gynhwyswyd yng nghostau staff Cost gwasanaeth cyfredol (1,417) (2,192) Costau gweinyddol (33) (32) - (25) Costau cwtogiad (1,450) (2,249) Dadansoddiad o symiau a godir o ariannu darpariaethau Ailfesur asedau 2,933 1,936 Llog ar rwymedigaethau pensiwn (2,562) (2,195) Cyllid net (cost)/incwm 371 (259) Symiau eraill a gydnabyddir mewn Incwm Cynhwysfawr Ailfesur asedau 2,483 (435) Effaith newidiadau yn y rhagdybiaethau sy’n sylfaenol i werth cyfredol rhwymedigaethau’r cynllun (624) 15,910 Actiwaraidd (colled)/ennill 1,859 15,475 Effaith Terfyn Uchaf (2,477) - Incwm Cynhwysfawr Arall (618) - Yn y flwyddyn flaenorol cafodd effaith terfyn uchaf yr ased o £6,410,000 ar ased pensiwn CPLlL ei gydnabod yn uniongyrchol mewn ecwiti. Dylai hyn fod wedi cael ei gydnabod o fewn incwm cynhwysfawr arall. Gan nad yw’r Cyfarwyddwyr yn ystyried yr effaith ar ddatganiadau ariannol y cyfnod blaenorol yn sylweddol, nid yw’r cymariaethau wedi’u hailddatgan ar gyfer y mater hwn. Ni chafodd y mater hwn unrhyw effaith ar y diffyg a adroddwyd yn flaenorol am y flwyddyn na chyfanswm yr asedau net.
Symudiad yng nghyfradd y Coleg o’r diffyg yn y cynllun yn ystod y flwyddyn (£000)
2024 (£000) 2023 (£000) Gwarged/(Diffyg) yn y cynllun ar 1 Awst 6,410 (8,214) Costau gweithredol (1,450) (2,249) Cyllid net (cost)/incwm 371 (259) Actiwaraidd (colled)/ennill 1,859 15,475 Cyfraniadau 1,697 1,657 Gwarged/(Diffyg) yn y cynllun ar 31 Gorffennaf 8,887 6,410 Effaith terfyn uchaf asedau (8,887) (6,410) Ased/(rhwymedigaeth) pensiwn cydnabyddedig - - Cysoniad Asedau a Rhwymedigaethau: (£000)
2024 (£000) 2023 (£000) Cysoniad Rhwymedigaethau Rhwymedigaethau ar ddechrau’r flwyddyn 50,842 63,051 Cost gwasanaeth cyfredol 1,417 2,192 Cost llog 2,562 2,195 Cyfraniad gan gyfranogwyr y cynllun 511 497 Newidiadau mewn rhagdybiaethau ariannol 937 (17,618) Newidiadau mewn rhagdybiaethau demograffig (122) (2,189) Profiad (ennill)/colled (192) 3,897 Buddion a dalwyd (1,700) (1,208) Cwtogiadau a chytundebau - 25 Rhwymedigaethau ar ddiwedd y flwyddyn 54,255 50,842 Cysoniad Asedau Asedau ar ddechrau’r flwyddyn 57,252 54,837 Ailfesur asedau 2,933 1,936 Ennill/(colled) actiwaraidd 2,482 (435) Costau gweinyddol (33) (32) Cyfraniadau gan y cyflogwr 1,697 1,657 Cyfraniadau gan gyfranogwyr y cynllun 511 497 Buddion a dalwyd (1,700) (1,208) Asedau ar ddiwedd y flwyddyn 63,142 57,252 Pennir yr enillion disgwyliedig ar asedau trwy ystyried yr enillion disgwyliedig sydd ar gael ar yr asedau sy’n sail i’r polisi buddsoddi cyfredol. Mae’r cynnydd disgwyliedig ar fuddsoddiadau llog sefydlog yn seiliedig ar enillion adbrynu gros ar ddyddiad y fantolen. Adlewyrcha’r enillion disgwyliedig ar fuddsoddiadau ecwiti gyfraddau enillion tymor hir a brofir yn y marchnadoedd priodol.
Cysoniad terfyn uchaf asedau £’000
Effaith y terfyn uchaf - dechrau’r cyfnod (7,013) P& L : Llog Net 358 OCI : Ailfesur ennill/(colled) 2,081 Effaith y terfyn uchaf - diwedd y cyfnod (9,452) Hanes profiad enillion a cholledion
2024 (£000) 2023 (£000) Ailfesur asedau: Swm (£000) 2,482 (435) Canran o asedau’r cynllun 3.9% -0.8% Profiad enillion a cholledion sy’n codi o rwymedigaethau cynllun: Swm (£000) - - Canran o rwymedigaethau’r cynllun - - Effaith newidiadau mewn rhagdybiaethau sy’n sail i werth presennol y cynllun: Swm (£000) (624) 15,910 Canran o rwymedigaethau’r cynllun (1.1%) 31.3% Cyfanswm y symiau a gydnabyddir yn y Datganiad Incwm Cynhwysfawr: Swm (£000) 1,859 15,475 Canran o rwymedigaethau’r cynllun 3.4% 30.4% Dadansoddiad Sensitifrwydd
Eitem datgelu Canolog Sensitifrwydd 1 Sensitifrwydd 2 Sensitifrwydd 3 Sensitifrwydd 4 Sensitifrwydd 5 + 0.5 % y flwyddyn disgownt +0.25 % y flwyddyn chwyddiant +0.25 % y flwyddyn twf mewn cyflog Cynnydd 1 flwyddyn mewn disgwyliad oes +/-1% newid yn adenillion buddsoddi 2023/24 :
+ 1%-1% £’000 £’000 £’000 £’000 £’000 £’000 £’000 Rhwymedigaethau 54,255 49,832 56,612 54,734 55,451 54,255 54,255 Asedau (63,142) (63,142) (63,142) (63,142) (63,142) (63,776) (62,508) Diffyg/(Gwarged) ac eithrio effaith terfyn uchaf (8,887) (13,310) (6,530) (8,408) (7,691) (9,521) (8,253) Cost gwasanaeth rhagamcanol ar gyfer blwyddyn nesaf 1,452 1,267 1,554 1,452 1,490 1,452 1,452 Cost llog net rhagamcanol ar gyfer y flwyddyn nesaf - ac eithrio effaith terfyn uchaf (477) (764) (359) (451) (416) (508) (446) “Mae’r fethodoleg ar gyfer cyfrio’r gyfradd ddisgownt wedi newid o gromlin arenillion mewnol Mercer i Gromlin Arenillion Mercer AA (gyda set ddata estynedig). Cadarnhaodd Mercer yn eu cyngor rhagdybiaethau y byddai’r gyfradd ddisgownt wedi bod 0.1% yn uwch o dan y fethodoleg flaenorol. Yn seiliedig ar y sensitifrwydd a ddatgelwyd ar gyfer y gyfradd ddisgownt, mae’r newid yn y fethodoleg yn cynyddu’r DBO tua £960k.”
Ar 25 Gorffennaf 2024, gwrthododd y Llys Apêl yr apêl yn achos Virgin Media Limited yn erbyn NTL Pension Trustees II Limited ac eraill. Cyflwynwyd yr apêl gan Virgin Media Ltd yn erbyn agweddau ar ddyfarniad yr Uchel Lys a gyflwynwyd ym mis Mehefin 2023 yn ymwneud â dilysrwydd rhai newidiadau hanesyddol i bensiynau oherwydd y diffyg cadarnhad actiwaraidd sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Cadarnhaodd y Llys Apêl ddyfarniad yr Uchel Lys. Efallai y bydd gan y dyfarniad oblygiadau i gynlluniau buddion diffiniedig eraill y DU. Deellir y gall hyn fod yn gymwys neu beidio i’r CPLlL ac mae Trysorlys EF ar hyn o bryd yn asesu’r goblygiadau i bob cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus. Nid oes unrhyw wybodaeth bellach ar gael ar hyn o bryd.”
CPA (Cynllun Pensiwn Athrawon)
Mae’r Cynllun Pensiwn Athrawon (CPA) yn gynllun budd statudol, cyfrannol, diffiniedig, sy’n cael ei reoli gan Reoliadau Cynllun Pensiwn Athrawon 2014. Mae’r rheoliadau yma’n berthnasol i athrawon mewn ysgolion a sefydliadau addysgol eraill. Mae aelodaeth yn awtomatig yn achos athrawon a darlithwyr mewn sefydliadau cymwys. Gall athrawon a darlithwyr ddewis i optio allan o’r CPA.
Cynllun sydd heb ei ariannu yw’r CPA, ac mae aelodau yn cyfrannu ar sail ‘talu-wrth-fynd’ - caiff y cyfraniadau hyn, ynghyd â’r cyfraniadau hynny a wnaed gan gyflogwyr, eu credydu i’r Trysorlys yn unol â threfniadau a reolir gan y Ddeddf uchod Telir buddion ymddeoliad a buddion pensiwn eraill gan gronfeydd cyhoeddus a ddarperir gan y Senedd.
Yn unol â’r diffiniadau a nodwyd yn FRS 102 (28.11), cynllun pensiwn aml-gyflogwr yw’r CPA. Ni all y coleg adnabod ei gyfran o asedau a rhwymedigaethau sylfaenol y cynllun.
Yn unol â hynny, mae’r coleg wedi manteisio ar eithriad mewn FRS 102 ac wedi cyfrif am ei gyfraniadau i’r cynllun fel petai’n gynllun cyfraniadau diffiniedig. Mae’r coleg wedi cyflwyno’r wybodaeth uchod sydd ar gael am y cynllun a’r goblygiadau i’r coleg yn nhermau cyfraddau cyfraniadau rhagdybiedig.
Cynhelir prisiad y CPA yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus 2013. Prisiadau sy’n credydu cyfrif pensiwn athrawon â chyfradd enillion go iawn gan dybio bod cyllid yn cael ei fuddsoddi mewn buddsoddiadau tybiannol sy’n creu’r gyfradd enillion go iawn honno.
Cynhaliwyd adolygiad actiwaraidd diweddaraf y CPA ar 31 Mawrth 2020. Cyhoeddwyd yr adroddiad prisio gan yr Adran Addysg (yr Adran) ym mis Hydref 2023. Nododd y prisiad gyfanswm rhwymedigaethau cynllun (pensiynau sy’n cael eu talu ar hyn o bryd a chost amcangyfrifedig buddion yn y dyfodol) ar gyfer gwasanaeth ar y dyddiad dod i rym o £262 biliwn, ac asedau tybiannol (cyfraniadau amcangyfrifedig yn y dyfodol ynghyd â’r buddsoddiadau tybiannol a ddelir ar ddyddiad y prisiad) o £222 biliwn sy’n rhoi diffyg gwasanaeth blaenorol tybiannol o £40 biliwn (o gymharu â £22 biliwn ym mhrisiad 2016).
O ganlyniad i’r prisiad, bydd cyfraddau cyfraniadau cyflogwyr newydd yn codi i 28.68% o fis Ebrill 2024 (o gymharu â 23.68% yn ystod 2018/9).
Mae copi llawn o’r adroddiad prisio a’r dogfennau ategol i’w gweld ar wefan Cynllun Pensiwn Athrawon.
Talwyd gwerth £2.521,000 (2023: £2,333,000) o gostau pensiwn i’r CPA yn ystod y flwyddyn
-
2024 (£000) 2023 (£000) Gwarged/(Diffyg) am y flwyddyn 711 (437) Addasiadau ar gyfer buddsoddi neu ariannu gweithgareddau: Llog a dalwyd 41 29 Llog (derbyniwyd) (754) (468) Addasiadau ar gyfer eitemau heblaw am arian parod: Dibrisiad (nodyn 11) 2,361 2,611 Cynnydd/(lleihad) yn y ddarpariaeth ar gyfer dyledion gwael ac amheus (46) (31) Gwarged o waredu asedau sefydlog - - Ailbrisio buddsoddiadau 12 7 Grantiau cyfalaf gohiriedig a ryddhawyd i incwm: LlC (nodyn 1) (1,320) (1,473) Grantiau penodol a ryddhawyd i incwm (177) (900) Costau pensiwn yn llai cyfraniadau taladwy (618) 851 (Cynnydd)/Lleihad mewn stociau (148) 85 Lleihad/ (Cynnydd) mewn dyledwyr 188 81 (Cynnydd)/Lleihad mewn blaendaliadau ac incwm cronedig (1,754) 2,006 Cynnydd/(Lleihad) mewn credydwyr 177 315 (Lleihad)/Cynnydd mewn trethiant a nawdd cymdeithasol arall (236) 263 Cynnydd/(Lleihad) mewn croniadau 175 (478) Cynnydd/(Lleihad) mewn darpariaethau (460) (50) Mewnlif/(all-lif) arian parod net o weithgareddau gweithredol (1,848) 2,411 -
2024
£000
2023
£000
Llog a dderbyniwyd 754 468 Elfen llog o daliadau rhent prydles cyllid (41) (29) Elfen gyfalaf taliadau prydles cyllid (225) (224) 488 215 -
2024
£000
2023
£000
Taliadau i brynu asedau diriaethol sefydlog (579) (967) Elw o waredu asedau diriaethol sefydlog - - Elw o waredu buddsoddiadau - - Grantiau cyfalaf gohiriedig a dderbyniwyd 136 490 Grantiau penodol heb eu gwario a ryddhawyd (1,096) (2,937) (1,539) (3,414) -
2024
£000
2023
£000
Arian mewn llaw ac yn y banc 14,903 17,814 Cyfwerth ag arian parod 236 224 Arian parod net 15,139 18,038 -
2024
£000
2023
£000
Ymrwymiadau dan gytundeb ar 31 Gorffennaf - - -
Ar 31 Gorffennaf 2024 roedd y Coleg wedi ymrwymo i wneud y taliadau prydles isaf yma yn unol â phrydlesi gweithredol na ellid eu canslo:
2024 2024 2023 2023 Tir ac adeiladau
£000
Arall
£000
Tir ac adeiladau
£000
Arall
£000
Ddim yn hwyrach na blwyddyn 49 51 42 14 Yn hwyrach na blwyddyn ond ddim yn hwyrach na phum mlynedd 16 107 16 116 Yn hwyrach na phum mlynedd - - - - 65 158 58 130 -
Mae’r Coleg yn cadw cofrestr o’i fuddiannau ar gyfer Cyfarwyddwyr y Cwmni a phersonél rheoli allweddol. Roedd y canlynol yn ddyledus/wedi eu cario ymlaen yn ystod diwedd y flwyddyn 31ain Gorffennaf 2024:
CCTA Enterprises Ltd
- £ 250 derbyniadwy (2023 : £250), £0 taladwy (2023 : £0)
- Cyfanswm incwm ar gyfer y flwyddyn £0 (2023: £0), Cyfanswm pryniannau £0 (2023: £ 0)
Coleg Ceredigion - Aelod o’r Grŵp
- £0 derbyniadwy (2023 : £0), £0 taladwy (2023 : £0)
- Cyfanswm incwm ar gyfer y flwyddyn £0 (2023: £0), cyfanswm pryniannau £28,870 (2023: £13,699
PCYDDS – Rhiant
- £167,879 derbyniadwy (2023: £104,068) , £197,136 taladwy (2023: £106,616)
- Cyfanswm incwm ar gyfer y flwyddyn £3,569,700 (2023: £3,759,092), cyfanswm pryniannau£972,966 (2023: £954,887)
Gwasanaethau Fforwm Cyf
- £0 derbyniadwy (2023 : £0), £0 taladwy (2023 : £0)
- Cyfanswm Incwm £ 23,022 ( 2023 : £ 28,594), Cyfanswm pryniannau £68,023 (2023: £65,996)
Sylwer: Ar gyfer gwasanaethau a roddir y mae trafodion ymhlith y cwmnïau grŵp. Fforwm yw’r gost tanysgrifio ar gyfer gwasanaethau Colegau Cymru a ddarperir i bob coleg AB yng Nghymru. Incwm yw tynnu grantiau i lawr.
-
Gweithreda’r Coleg fel asiant wrth weinyddu cyllid cefnogi dysgwyr sydd ar gael yn unig ar gyfer myfyrwyr. Caiff y grantiau a’r taliadau cysylltiedig eu heithrio o’r cyfrif incwm a gwariant.
2024 LIC (£000) 2024 CCAUC (£000) 2024 Cyfanswm (£000) 2023 LIC (£000) 2023 CCAUC (£000) 2023 Cyfanswm (£000) Balans heb ei wario ar 1 Awst 71 - 71 61 - 61 Grantiau a dderbyniwyd 397 - 397 431 - 431 Ar gael i’w ddosbarthu 468 - 468 492 - 492 Talwyd i fyfyrwyr (446) - (446) (410) - (410) Costau gweinyddu (11) - (11) (11) - (11) Balans heb ei wario ar 31 Gorffennaf 11 - 11 71 - 71 -
Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, Corfforaeth Addysg Uwch yw’r ymrwymiad rhiant eithaf a’r corff rheolaethol. Mae canlyniadau’r Cwmni wedi eu hymgorffori yn natganiadau ariannol cyfunol Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, sy’n ffurfio’r grŵp mwyaf a lleiaf o safbwynt cyfuno datganiadau’r Cwmni, ac mae modd cael copïau o’r cyfeiriad isod:
Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant
Caerfyrddin
SA31 3EP