Skip page header and navigation

Introduction

  • Mae Coleg Sir Gâr yn elusen gofrestredig (rhif elusen cofrestredig: 1152522). Datgelir aelodau’r Bwrdd Cyfarwyddwyr, sy’n ymddiriedolwyr i’r elusen, yn Adroddiad y Cyfarwyddwyr ar dudalen 16. 

    Wrth osod ac adolygu amcanion strategol y Coleg, mae’r Bwrdd Cyfarwyddwyr wedi ystyried canllawiau’r Comisiwn Elusennau ynglŷn â budd cyhoeddus ac yn enwedig y canllawiau atodol yn ymwneud â datblygiadau ym myd addysg. Mae’r canllawiau’n cyfeirio at yr angen i bob sefydliad sy’n dymuno cael ei gydnabod fel elusen ddangos yn glir fod eu hamcanion er budd cyhoeddus. 

    Amcanion Elusennol 

    Amcan y Coleg yw darparu addysg bellach ac uwch ac (yn unol ag unrhyw ymgynghoriad gyda’r awdurdod lleol perthnasol) addysg uwchradd (yn unol â’r diffiniad ym mhob achos yn adran 18(1) o Ddeddf Addysg Uwchradd 1992 (neu unrhyw amnewidiad ohono) ar gyfer budd cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. 

    Mae’r Coleg yn ymwybodol iawn o’i gyfrifoldeb o safbwynt budd cyhoeddus ac felly‘n sicrhau mai dyma sydd wrth galon pob gweithgaredd a gwasanaeth. 

    Cyflawni’r amcanion elusennol 

    Buddiolwyr 

    Mae’r buddiolwyr yn briodol i’r amcanion gan mai’r myfyrwyr o fewn y sector addysg bellach, uwch ac uwchradd (sector digonol o’r cyhoedd i gyflenwi’r prawf budd cyhoeddus) yw’r buddiolwyr uniongyrchol. 

    Coleg addysg bellach ac addysg uwch wedi’i leoli yn Sir Gaerfyrddin yn Ne-orllewin Cymru yw Coleg Sir Gâr. Mae gan y coleg bum campws o fewn y sir: Llanelli (campws y Graig); Rhydaman; Llandeilo (campws y Gelli Aur); a Chaerfyrddin (campysau Pibwrlwyd a Ffynnon Job). Ar hyn o bryd, mae tua 9,000 o fyfyrwyr wedi cofrestru yn y Coleg ar amrywiaeth o gyrsiau yn cynnwys Safon Uwch, Cyrsiau Galwedigaethol, Tystysgrifau a Diplomâu, Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch, Graddau Sylfaen a rhaglenni Gradd. 

    Er mwyn cyflwyno’r cyrsiau yma, mae’r Coleg yn cyflogi tua 650 o staff dysgu a staff cefnogol. Lleolir yr holl gyrsiau, myfyrwyr a staff o fewn un o’r 8 maes cwricwlwm. Tanlinella llwyddiant myfyrwyr y Coleg fanteision yr amrywiaeth o bartneriaethau effeithiol sydd gan y Coleg. 

    Mae rhagoriaeth partneriaeth y Coleg gyda Rhwydwaith Dysgu 14-19 Sir Gaerfyrddin wedi’i gydnabod drwy ennill Gwobr Beacon UK. Mae partneriaethau’r Coleg gyda diwydiant o bwys mawr ac mae’r berthynas â’r diwydiant adeiladu wedi’i chydnabod trwy gyfrwng Gwobr Hyfforddiant Cenedlaethol Rhanbarthol Cymru a’r DU. 

    Yn ogystal â darpariaeth yn y Coleg, mae’r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth dysgu ym myd gwaith helaeth trwy gyfrwng rhaglenni Hyfforddeiaeth a Phrentisiaethau o fewn nifer helaeth o sectorau diwydiannol. Mae’r Coleg wedi buddsoddi’n helaeth dros y ddegawd ddiwethaf er mwyn cynnig yr amgylchedd dysgu gorau i fyfyrwyr. O ganlyniad, mae gan fyfyrwyr y Coleg fynediad i gyfleusterau ac adnoddau rhagorol. Mae’r Coleg hefyd yn ymhyfrydu yn y ffaith ei fod yn goleg gofalgar a diogel, gan roi buddiannau’r myfyrwyr flaenaf bob amser. 

    Polisi mynediad 

    Gweithreda’r Coleg bolisi mynediad hyblyg a chynhwysol, ac mae’n darparu ar gyfer gwahaniaethu ac anghenion unigol wrth gynllunio rhaglenni dysgu. Mae gan rai rhaglenni ofynion mynediad penodol sy’n cael eu hadolygu’n flynyddol a’u cyhoeddi ym mhrosbectws y Coleg.

    Cefnogaeth i Fyfyrwyr/Bwrserí/Ysgoloriaethau 

    Mae gan fyfyrwyr yn y Coleg yr hawl i ymgeisio am amrywiol becynnau cefnogaeth ac ariannu yn yr un modd ag unrhyw un sy’n astudio o fewn addysg bellach neu uwch yng Nghymru.

    Gall myfyrwyr addysg bellach rhwng 16 a 19 oed ymgeisio am Lwfans Cynhaliaeth Addysg, a gall myfyrwyr 19 oed neu’n hŷn ymgeisio am Grant Dysgu’r Cynulliad. Mae bwrsarïau eraill ar gael hefyd o fewn y Coleg ar gyfer myfyrwyr addysg uwch yn unol â chymhwysedd. 

    Mae Cronfeydd Ariannol Wrth Gefn hefyd ar gael o fewn y Coleg a gall myfyrwyr wneud cais am gymorth wrth astudio. 

    Ehangu Cyfranogiad 

    Mae gan y Coleg amrywiaeth gynhwysfawr ac eang o raglenni addysg a hyfforddiant academaidd a galwedigaethol. Mae’r rhain yn amrywio o lefel cyn-mynediad i raglenni graddedig, gan ddarparu gwasanaeth i’r gymuned ddysgu gyfan. Mae’n cynnig addysg bellach, addysg oedolion a chymunedol, addysg uwch a dysgu yn y gwaith. Mae’n darparu hefyd ar gyfer nifer fawr o ddisgyblion ysgol 14-16 oed sy’n mynychu’r Coleg neu’n cael eu dysgu gan staff y Coleg yn eu hysgolion. Mae’r Coleg yn gweithredu dros bum campws, mewn sawl lleoliad cymunedol, yn y gweithle ac ar-lein. 

    Ymgysylltu â’r Gymuned 

    Mae’r Coleg yn cynnig cyfleusterau eraill sydd ar gael ar gyfer staff, myfyrwyr ac aelodau eraill o’r cyhoedd.

  • Mae’r cyfarwyddwyr yn cyflwyno eu hadroddiad strategol ar gyfer diwedd y flwyddyn 31 Gorffennaf 2023. 

    Cefndir 

    Yn 1992, pasiwyd Deddf Addysg Bellach ac Uwch gan y Senedd ac o ganlyniad cafodd bob cyn sefydliad addysg bellach (lle’r oedd cyfanswm y cofrestriadau myfyrwyr amser llawn, rhyddhau bloc a rhyddhau rhan-amser yn FESR 1990 yn cyfateb i o leiaf 15% o gyfanswm myfyrwyr y Coleg) a phob sefydliad chweched dosbarth eu hymgorffori yn y sector newydd. Ymgorfforwyd y Coleg ar 30 Medi 1992, er na ddaeth y Gorfforaeth ei hun yn sefydliad annibynnol tan 1 Ebrill 1993 (diwrnod breinio). 

    Ar 1 Awst 2013 daeth Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Sir Gâr (Diddymu) 2013 i rym. Diddymodd y gorchymyn hwn y gorfforaeth addysg bellach a sefydlwyd gynt gan drosglwyddo’i holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau i’r cwmni newydd, Cwmni Coleg Sir Gâr. Daeth Gorchymyn Coleg Sir Gâr (Sefydliadau Dynodedig mewn Addysg Bellach) 2013 i rym ar yr un diwrnod gan sefydlu Coleg newydd oedd yn cael ei weinyddu gan gwmni cofrestredig, cyfyngedig trwy warant. Mae’r cwmni Coleg Sir Gâr newydd hwn yn is-gwmni dan berchnogaeth gyflawn Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant. 

    Ar 1 Awst 2017, daeth Coleg Ceredigion yn is-gwmni dan berchnogaeth gyflawn Coleg Sir Gâr, ar ôl bod yn is-gwmni uniongyrchol i’r uwch gwmni rhiant Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant. 

    Prif weithgareddau 

    Mae Coleg Sir Gâr yn Goleg Addysg Bellach mawr, aml safle, wedi’i leoli yn Ne-orllewin Cymru a chanddo bum campws yn Llanelli (y Graig), Caerfyrddin (Pibwrlwyd a Ffynnon Job), Rhydaman a Llandeilo (y Gelli Aur). Mae ganddo ryw 9,000 o ddysgwyr a rhyw 2,900 o’r rhain yn llawn amser a dros 6,000 yn rhan-amser. Ceir yno tua 650 o ddysgwyr addysg uwch. Cynigia’r Coleg amrywiaeth gynhwysfawr ac eang o addysg academaidd a galwedigaethol a rhaglenni hyfforddi sy’n amrywio o lefel cyn mynediad i lefel raddedig, gan gynnig gwasanaeth i’r gymuned ddysgu gyfan. Prif weithgareddau’r Coleg yw addysg bellach, addysg uwch, dysgu yn y gweithle, darpariaeth ysgol 14- 19, hyfforddiant proffesiynol, ymgynghori a chyflwyno mentrau’r Llywodraeth ym myd diwydiant. Mae’r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth ar-lein, trwy gyfrwng partneriaethau mewn lleoliadau cymunedol ac yn y gweithle. 

    Amrywia’r campysau o ran maint a natur gan gynnig amrywiaeth o bynciau. Mae gan y Coleg drosiant blynyddol o tua £47 m gan gyflogi tua 659 o staff. Ymysg y rhain, mae 323 yn ymwneud yn uniongyrchol ag addysgu a 336 yn cyflawni gwaith cefnogol a gweinyddol. 

    Y Sir 

    Sir wledig yw Sir Gaerfyrddin ar y cyfan gyda chadwyn o drefi marchnad yn cynnig canolbwynt gweithgaredd. Caerfyrddin yw’r dref sirol, sy’n cynnig sector fanwerthu gref a phoblogaeth sy’n ymwneud yn sylweddol â llywodraeth leol, iechyd a gweinyddiaeth. 

    Yn hanesyddol, mae de-ddwyrain y sir wedi’i chysylltu’n â diwydiant trwm a dyma ran fwyaf poblog y sir, gyda Llanelli fel yr anheddiad mwyaf. Er bod rhai prif gyflogwyr mawr yn dal i fod yn y rhan hon o’r sir, mae’r economi wedi arallgyfeirio i faes peirianneg ysgafn a diwydiannau technolegol newydd. 

    Dengys y Mynegai Amddifadedd fod yna ardaloedd dwys o amddifadedd addysgol, amddifadedd cyflogaeth ac, o ganlyniad, amddifadedd lluosog yn Ne-orllewin Cymru. Mae gan Sir Gaerfyrddin lefelau cymharol uwch o unigolion anweithgar mewn cymhariaeth â Chymru a’r DU.

    Perfformiad Ariannol ac Amcanion

    Dyma amcanion ariannol y Coleg:

    • Llwyddo i sicrhau gwarged gweithredu blynyddol (a ddiffinnir fel gwarged cyn costau pensiwn heblaw am arian parod FRS 102) a llif arian cadarnhaol.
    • Amrywio llif arian a lleihau dibyniaeth ar gyllid craidd.
    • Cynhyrchu lefelau digonol o arian parod i gefnogi sylfaen asedau’r Coleg.
    • Sicrhau sefyllfa hylifedd tymor byr llewyrchus.
    • Cyllido buddsoddiad cyfalaf parhaus.

    Mae’r Datganiad Incwm Cynhwysfawr ar gyfer y cyfnod wedi’i gynnwys ar dudalen 32. Nodir uchafbwyntiau’r cyfnod yn y cyswllt hwn isod:

    • Mae’r cyfanswm incwm ar gyfer y cyfnod wedi parhau’n gyson o gwmpas £47m (2022: £47m). Mae cynnal lefel sylweddol o drosiant yn tanlinellu llwyddiant parhaus y Coleg o safbwynt darparu addysg. Mae amrywiadau o safbwynt trosiant yn anorfod, ac yn gallu cael eu dylanwadau’n fawr gan lefel y gwaith prosiect a wneir.
    • Cynyddodd costau staff (ac eithrio costau eithriadol) fel canran o gyfanswm yr incwm o 53.0% i 54.0% (wedi’u gyrru’n bennaf gan godiadau cyflog o 8% am y flwyddyn). Parhaodd nifer cyfartalog y staff a gyflogwyd yn gymharol gyson. Cynyddodd costau gweithredu eraill fel canran o gyfanswm yr incwm o 38% i 39% - eto, wedi’u gyrru’n bennaf gan bwysau chwyddiant uwch na’r arfer.
    • Y golled am y flwyddyn oedd £437,000 (2022: gwarged o £1,073,000) ar ôl addasiadau heblaw am arian parod FRS 102 o £851,000 (2022: £2,353,000). Y gwarged gweithredu (cyn addasiadau heblaw am arian parod FRS 102) oedd £414,000 (2022: £3,426,000).
    • Mae’r sefyllfa hylifedd yn parhau i fod yn foddhaol, gyda chymhareb asedau tymor byr i gredydwyr yn disgyn o fewn blwyddyn gan gyrraedd 2.3 (2022: 1.8).
    • Mae asedau net wedi gwella o £21.67 miliwn i £36.70 miliwn. Mae asedau net, ar wahân i rwymedigaethau budd diffiniedig, wedi cynyddu o £29.9 miliwn i £30.29 miliwn. Am wybodaeth bellach ynglŷn â’r safonau cyfrifo a ddefnyddiwyd i greu’r datganiadau ariannol yma, gweler Datganiad o’r Prif Bolisïau Cyfrifo a Thechnegau Amcangyfrif ar dudalen 37.
    • Ychwanegwyd grantiau cyfalaf penodol er mwyn hybu effeithiolrwydd a darparu amgylchedd dysgu safonol yn unol â Chynllun Strategol y Coleg.
    • Adolygwyd y ddarpariaeth ar gyfer pensiynau uwch yn ystod y cyfnod ac amcangyfrifwyd mai’r balans oedd ei angen ar gyfer 31 Gorffennaf 2023 oedd £542,000 (2022: £592,000).

    Polisïau ac Amcanion y Trysorlys

    Rheolaeth o lif arian, bancio, trafodion marchnad arian a chyfalaf yw rheolaeth y Trysorlys; rheolaeth effeithlon o’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r gweithgareddau hynny; a’r nod o sicrhau’r perfformiad gorau posib sy’n gyson â’r risgiau hynny. Mae gan y Coleg bolisi ar wahân ar gyfer rheoli’r trysorlys. Caiff benthyciadau tymor byr i ddibenion cyllid dros dro eu cadarnhau gan y Swyddog Cyfrifyddu. Yn achos pob benthyciad arall, mae angen cadarnhad y Gorfforaeth yn unol â gofynion y Memorandwm Ariannol.
     

    Polisi llif arian, hylifedd ac arian wrth gefn

    Mae sefyllfa gweithredu llif arian y Coleg ar gyfer y flwyddyn yn un gadarnhaol o £2.4 miliwn. Gostyngodd y balansau arian parod £0.8 miliwn (o £18.8 miliwn i £18.0 miliwn). Mae’r Coleg yn dymuno parhau i gronni balansau arian parod i ariannu datblygiadau cyfalaf sydd wedi eu cynllunio ar gyfer y dyfodol. Er mwyn cyflawni hyn, mae’r Coleg wedi parhau i hybu effeithiolrwydd o safbwynt yr addysg a’r hyfforddiant a gyflwynir. Cyflawnwyd hyn drwy adolygu darpariaeth y cwricwlwm yn drylwyr, effeithiolrwydd dosbarthiad adnoddau, a’r gwerth am arian gorau wrth brynu nwyddau a gwasanaethau, a’r un yw’r bwriad i’r dyfodol. Ymhellach, mae’r Coleg yn parhau i geisio a datblygu ffynonellau incwm eraill. Mae ail-fuddsoddiad sylweddol o ran ystadau, peiriannau ac offer y Coleg yn sicrhau fod gan y dysgwyr adnoddau safonol i’w helpu gyda’r broses addysgiadol. Nod y Coleg yw cadw o leiaf 2 fis o wariant (£8 miliwn) mewn cronfeydd arian parod wrth gefn bob amser.

    Datblygu a Chyfoethogi Cwricwlwm

    Ceir cwricwlwm amrywiol i gyflenwi dyheadau’r dysgwyr. Mae’r cwricwlwm yn eang, yn hyblyg, yn gydlynol, ac yn hybu datblygiad. Fe’i cyflwynir mewn amrywiol ffyrdd sy’n gweddu i anghenion y dysgwyr. Ceir pwyslais galwedigaethol cryf a chaiff pob Maes Pwnc Sector Llywodraeth Cymru eu cynrychioli yn y Coleg.

    Caiff y cwricwlwm ei lunio a’i adolygu mewn partneriaeth â budd-ddeiliaid y Coleg, y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol (RLSP), cyrff cynrychiadol y sector, Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, rhwydweithiau 14-19, cydweithwyr ACL, Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, diwydiant, byd busnes a chyflogwyr lleol. Ategir hyn gan ddefnyddio data arsyllfa sgiliau a ddarperir trwy’r RLSP.

    Mae Tîm Cwricwlwm ac Ansawdd y Coleg yn adrodd wrth Bwyllgor Dysgwyr a Safonau’r Bwrdd. Mae hwn yn cynnig ffocws ar gyfer trafodaeth ar bolisïau cwricwlwm ac ansawdd a materion datblygu.

    Mae amrediad o opsiynau ar gael ar bob lefel sy’n cynnig amrywiaeth a dewis i ddysgwyr. Cynigia rhaglen Mynediad Ieuenctid y Sir hefyd ddewis cwricwlwm arall rhannol lawn amser i ddysgwyr yn y Coleg sydd wedi wynebu heriau mewn ysgolion lleol. Mae’r cwricwlwm a gynigir gan y Coleg wedi’i achredu bron yn llwyr, gan gynnig cyfleoedd i ddysgwyr ennill cymwysterau ffurfiol.

    Partneriaeth a Thrawsnewid

    Mae gan y Coleg drefniadau partneriaeth ardderchog sy’n cyfrannu at gwricwlwm a phrofiad dysgu wedi eu cyfoethogi.

    • O 1 Awst 2013, daeth y Coleg yn rhan o grŵp Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, gan gynyddu’r cyfleoedd ar gyfer dysgwyr a rhannu gwybodaeth, profiad ac adnoddau. Yn yr un modd, daeth Coleg Ceredigion yn is-gwmni i Goleg Sir Gâr ar 1 Awst 2017.
    • Drwy bartneriaethau o fewn yr awdurdod addysg a gydag ysgolion partner lleol (dros 16 o ysgolion), mae amrediad a nifer y cyfleoedd galwedigaethol ar gyfer disgyblion 14-19 yn sylweddol.
    • Mae cysylltiadau â byd addysg a chyflogwyr yn ardderchog ac yn cynnwys cydweithrediad hir y Coleg gyda Chymdeithas Hyfforddiant Adeiladu Sir Gaerfyrddin Cyf (CCTAL) a CYFLE.

    Polisi llif arian, hylifedd ac arian wrth gefn

    • Mae’r coleg yn gweithio’n helaeth wrth gyflwyno darpariaeth ar y cyd â TLC - y cwmni hyfforddi a dysgu.
    • Mae’r coleg yn gweithio’n agos gydag ystod o gyflogwyr, e.e. Dŵr Cymru, Grŵp Owens, Thermal Earth, COTS, TRJ, Prince’s Gate, CM-Days, Ron Skinner a’i Fab, Castell Howell, yr AA, Marine Group, Serco, Remploy, Hywel Dda, e-Careers, 4DAcademy ac ati.
    • Mae’r Coleg wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarth De-orllewin Cymru ac i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
    • Mae partneriaeth dda yn bodoli rhwng y Coleg â Choleg Sir Benfro, colegau AB eraill a nifer o ddarparwyr hyfforddiant preifat eraill wrth ddarparu Dysgu Seiliedig ar Waith drwy’r Consortiwm B-WBL.
    • Mae perthynas hir yn parhau gyda Chyngor Sir Gaerfyrddin wrth ddarparu Addysg Oedolion a Chymunedol.
    • Mae perthynas waith agos yn bodoli gyda Gwasanaeth Ieuenctid yr AALl ac ysgolion lleol er mwyn cynnig cefnogaeth a chyrsiau i ddysgwyr sy’n debygol o beidio â bod mewn Cyflogaeth, Addysg na Hyfforddiant (NEET).
    • Llwyddwyd i sicrhau partneriaeth waith ardderchog gyda’r Scarlets, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Gerddi Aberglasne, y mae rhai ohonynt yn gweithredu fel canolfannau cyflwyno hyfforddiant.
    • Caiff y Coleg ei gynrychioli’n dda gan aelodau o adran weithredol a thîm rheoli’r Coleg ar nifer o rwydweithiau cenedlaethol; Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol; Addysg Oedolion a Chymunedol; Rhwydweithiau 14-19; Colegau Cymru a Llywodraeth Cymru.
    • Mae academïau chwaraeon rhagorol mewn rygbi, pêl-droed a phêl-rwyd yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr ar lefelau elitaidd. Mae’r cyfleoedd hyn wedi deillio o bartneriaethau gwaith gydag Undeb Rygbi Cymru; y Scarlets; CBDC; Cymdeithas Bêl-rwyd Cymru, ac ati.

    Ansawdd a Safonau

    • Dylid nodi fod adran nesaf yr adroddiad yn ymdrin â pherfformiad ansawdd, mesurau ac ystadegau sy’n adlewyrchu cyfuniad o ddata ar gyfer Coleg Sir Gâr a’i is-gwmni Coleg Ceredigion. Coleg Sir Gâr yw’r mwyaf o bell ffordd o ran pwysoli, gyda throsiant o tua £47m o’i gymharu â £7m ar gyfer Coleg Ceredigion (9000 o fyfyrwyr o’i gymharu â thua 1300 o fyfyrwyr yn ôl eu trefn).
    • Ym mis Mai 2022 croesawodd y Coleg Estyn a gynhaliodd arolygiad o’i ddarpariaeth addysg bellach. Roedd y fframwaith arolygu yn cwmpasu 5 prif faes: Dysgu; Llesiant ac Agweddau at Ddysgu; Profiadau Addysgu a Dysgu; Gofal, Cymorth ac Arweiniad; ac Arweinyddiaeth a Rheoli. Er nad yw Estyn yn darparu canlyniadau wedi’u graddio mwyach, roedd y canlyniad cyffredinol ar gyfer y Coleg yn gadarnhaol iawn. Mae’r nodweddion da a nodwyd yn yr adroddiad yn cynnwys:
    • “Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu cefnogi’n dda yn ystod eu cyfnod yn y coleg.”
    • “Mae’r coleg wedi ymgorffori ethos cadarnhaol yn llwyddiannus wedi’i seilio ar werthoedd parch, undod a phroffesiynoldeb.”
    • “Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn siarad yn gadarnhaol am eu profiadau yn y coleg.”
    • “Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn datblygu medrau ymarferol cymwys ac mae llawer yn cysylltu theori ag arfer yn llwyddiannus.”
    • “Mae gan y coleg systemau ar waith i gynorthwyo dysgwyr yn eu dealltwriaeth o sut i gadw’n ddiogel a diogelu.”
    • “Mae bron pob un o’r athrawon yn adnabod eu dysgwyr yn dda ac yn meithrin perthnasoedd sy’n annog ac yn cynorthwyo dysgwyr i wneud cynnydd.”
    • “Mae’r rhan fwyaf o athrawon yn datblygu medrau digidol yn fedrus yn eu pynciau galwedigaethol neu academaidd.”
    • “Mae dysgwyr yn arddangos lefelau uchel o gymhwysedd gan ddefnyddio platfformau digidol i storio, cofnodi, trefnu ac olrhain eu dysgu eu hunain.”
    • “Lle bo’n briodol, mae athrawon yn cefnogi medrau Cymraeg dysgwyr trwy sgwrsio â nhw yn ystod dosbarthiadau.”
    • “Mae’r Coleg wedi datblygu partneriaethau cryf ag ysgolion lleol ar gyfer darpariaeth 14-16.”
    • “Ar draws bron pob un o’r cyrsiau, mae dysgwyr yn elwa ar lwybrau dilyniant clir i’r lefel nesaf neu i ddysgu yn y gwaith, addysg uwch neu gyflogaeth.”
    • “Mae’r pennaeth wedi gosod gweledigaeth sy’n llywio blaenoriaethau strategol y coleg yn dda.”
    • “Mae uwch reolwyr a rheolwyr canol yn dangos dealltwriaeth glir ynglŷn â sut maent yn cefnogi nod y coleg i gyflwyno ‘‘profiadau dysgu ysbrydoledig’’.”
    • “Yn ystod y pandemig, un o gryfderau penodol y coleg oedd ei ymrwymiad i wella medrau staff addysgu a staff cymorth i’w galluogi i gynorthwyo dysgwyr yn effeithiol i ddatblygu medrau digidol cryf ac aros ar eu cyrsiau.”
    • “Mae uwch dîm rheoli’r coleg wedi bod yn effeithiol yn gwella’r profiadau dysgu a’r deilliannau mewn campysau sy’n tanberfformio.” “Ymatebont yn gyflym a rhoi gweithdrefnau gwella ansawdd trylwyr ar waith.”
    • “Mae gan y coleg systemau sicrhau ansawdd cynhwysfawr ac mae’n casglu ystod eang o ddata.”

    Mae’r argymhellion ar gyfer gwelliant parhaus yn cynnwys:

    • Gwneud defnydd gwell o’r data helaeth sydd gan y coleg i fireinio gwerthuso effaith y ddarpariaeth a’r mentrau ymhellach.
    • Cryfhau strategaethau i wella dealltwriaeth dysgwyr o radicaleiddio ac eithafiaeth.
    • Sicrhau bod medrau rhifedd a medrau mathemategol ehangach dysgwyr yn cael eu datblygu’n llawn i fynd i’r afael â’r bylchau yn eu medrau.
    Adroddiad Estyn Mai 2022

    https://www.estyn.gov.wales/provider/f0009005

    Y safonau a gyflawnir gan ddysgwyr

    Addysg Bellach
    Yn 2021/22, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei set gyntaf o ‘fesurau perfformiad cyson cenedlaethol’ ar gyfer Addysg Bellach ers pandemig Covid. Yn ystod y cyfnod hwnnw rhoddwyd rheoliadau wrth gefn ar waith. Mae’r cyfraddau cwblhau ar bob lefel y ddarpariaeth ar/neu’n uwch na’r cymharydd cenedlaethol, ac eithrio Mynediad Lefel 3. Mae’r cyfraddau cwblhau’n llwyddiannus ar bob lefel y ddarpariaeth ar y cymharydd cenedlaethol, ac eithrio Mynediad Lefel 3 a lefelau Mynediad/Cyn-mynediad.

    2021/22 Llwyddiannus Cymharydd Cenedlaethol Cwblhau’n Llwyddiannus Cymharydd Cenedlaethol
    Rhaglenni Galwedigaethol Lefel 3 87% 87% 74% 74%
    Mynediad Lefel 3 71% 78% 69% 70%
    Rhaglenni Galwedigaethol Lefel 2 86% 82% 72% 72%
    Rhaglenni Galwedigaethol Lefel 1 84% 81% 76% 76%
    Mynediad/Cyn-mynediad 93% 84% 70% 76%

    Nid yw’r canlyniadau ar gyfer 2022/23 wedi’u dilysu a’u cyhoeddi eto gan Lywodraeth Cymru. Darperir y canlyniadau ar gyfer cymwysterau academaidd yn y tabl isod.

    Canlyniadau Lefel UG (% y Graddau a Ddyfarnwyd)

    Year A (CSG) A-E (CSG) A (National Comparator) A-E (National Comparator)
    2023 24.7% 96.6% 25.5% 90.9%
    2022 23.6% 92.9% 30.7% 92.7%
    2021 24.7% 96.0% 37.1% 96.7%

    A Level Results (% of Grades Awarded)

    Year A* (CSG) A*-A (CSG) A*-E (CSG) A* (National Comparator) A*-A (National Comparator) A*-E (National Comparator)
    2023 12.7% 29.9% 98.6% 13.5% 34.0% 97.5%
    2022 9.9% 34.0% 97.6% 17.1% 40.9% 98.0%
    2021 13.1% 36.3% 100.0% 21.3% 48.3% 99.1%

    Yn 2022/23, dychwelodd asesu cymwysterau academaidd i’r gweithdrefnau arferol llawn yn dilyn rheoliadau wrth gefn a oedd ar waith yn ystod pandemig Covid. Roedd y canlyniadau cyffredinol ar gyfer UG (A-E) a Safon Uwch (A*-E) yn rhagorol ac yn uwch na’r cymharydd cenedlaethol.

    Dysgu Seiliedig ar Waith

    Work-Based Learning Performance 2020 - 2022

    *Outcomes for 2022/23 are yet to be validated and published by the Welsh Government. Similarly, in WBL following the challenges in 2019/20, performance improved considerably in 2020/21 and 2021/22 with less disruption and improved outcomes. However, success in foundation apprenticeships fell considerably and has been a focus for improvement for 2022/23.

    The graph shows the performance of work-based learning across three academic years: 2019/20, 2020/21, and 2021/22. The performance metrics are displayed in four categories: Foundation Apprenticeships, Apprenticeships, Higher Apprenticeships, and Overall.

    • 2019/20:
      • Foundation Apprenticeships: 56%
      • Apprenticeships: 57%
      • Higher Apprenticeships: 39%
      • Overall: 54%
    • 2020/21:
      • Foundation Apprenticeships: 81%
      • Apprenticeships: 73%
      • Higher Apprenticeships: 71%
      • Overall: 79%
    • 2021/22:
      • Foundation Apprenticeships: 87%
      • Apprenticeships: 79%
      • Higher Apprenticeships: 80%
      • Overall: 78%

    The chart indicates a significant improvement in performance in the categories from 2019/20 to 2020/21, followed by a consistent performance level in 2021/22.

    Yn hanesyddol, mae myfyrwyr addysg uwch wedi perfformio’n dda iawn yn gyson. Fodd bynnag, gwelodd 2022/23 ostyngiad anarferol mewn cwblhau’n llwyddiannus yn arbennig yn y ddarpariaeth lawn amser. Bydd Uned Sicrhau Ansawdd y Coleg yn ymchwilio ymhellach i hyn yn 2023/24.

    graph 2

    The graph you provided is titled “Higher Education Performance 2021 - 2023” and shows the performance metrics for full-time and part-time higher education students across three academic years. The performance is represented as percentages, with two bars for each academic year: one for full-time students and one for part-time students.

    Graph Description:

    • 2020/21:
      • Full Time: 87%
      • Part Time: 87%
    • 2021/22:
      • Full Time: 88%
      • Part Time: 86%
    • 2022/23:
      • Full Time: 75%
      • Part Time: 84%

    Interpretation:

    • In 2020/21, both full-time and part-time students had equal performance rates of 87%.
    • In 2021/22, there was a slight increase in performance for both full-time (88%) and part-time (86%) students.
    • In 2022/23, there is a notable drop in performance for full-time students to 75%, while part-time students show an improvement to 84%.

    This graph indicates a divergence in performance trends between full-time and part-time students in the most recent academic year, with full-time student performance decreasing significantly while part-time student performance improved.

    Ansawdd Addysgu a Dysgu

    Er gwaethaf yr heriau a wynebwyd gan y Coleg dros y tair blynedd anarferol ddiwethaf, prif nod y coleg o hyd wrth iddo geisio rhagoriaeth yw gwelliant parhaus mewn profiadau addysgu a dysgu dysgwyr a chanlyniadau dysgwyr. Mae hyn wedi parhau i fod yn ffocws yn ystod y pandemig wrth i staff addasu’n gyflym ac yn llwyddiannus i’r newid sydyn i addysgu, dysgu ac asesu o bell a chyfunol. 

    Mae polisïau wedi canolbwyntio ar helpu’r Coleg i symud o fod yn dda i fod yn rhagorol. Cafodd y pwyslais sylweddol ar hyfforddiant, ysgogi a chefnogi staff ei gydnabod yn 2017 pan enillodd Coleg Sir Gâr.

     Wobr Beacon Sefydliad y Colegau (Association of Colleges Beacon Award) am ragoriaeth wrth ddatblygu staff; yn 2019 pan dderbyniodd Wobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol (Princess Royal Training Award) ac yn fwy diweddar, yn 2022, pan dderbyniodd Wobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol eto. 

    Mae’r staff i gyd, i raddau helaeth, wedi cyfranogi’n dda ac wedi elwa o ymrwymiad cryf y Coleg i ddatblygiad proffesiynol parhaus, ac mae’r effaith cadarnhaol yma i’w weld yn glir yn neilliannau llwyddiant ardderchog y dysgwyr a’r gwelliant yng nghanlyniadau arolwg y dysgwr. Gwaith hunanasesu’r athrawon wrth ystyried eu perfformiad yn erbyn meini prawf perfformiad allweddol sy’n sylfaen i’r broses hon. Yn ei dro, mae hyn yn arwain at broffil addysgu sy’n adnabod meysydd penodol ar gyfer datblygiad staff. Mae cyfraddau mynychu datblygiad staff yn uchel ac wedi cyfnod o weithredu, cynhelir hunanasesiad pellach. 

    Mae Tîm Addysgu a Dysgu’r Coleg yn cynnig cefnogaeth ardderchog a hyfforddiant wedi’i deilwra ar gyfer aelodau newydd o staff, myfyrwyr TAR a’r staff dysgu hynny sydd angen cefnogaeth gyda rhai elfennau o’u gwaith. Caiff rhagoriaeth mewn addysgu ei werthfawrogi a’i ddathlu’n fawr trwy gyfrwng seremoni wobrwyo addysgu a dysgu flynyddol. 

    Yn hydref 2021, cynhaliwyd cyfanswm o 107 o arsylwadau addysgu a dysgu ffurfiol gan aelodau’r tîm addysgu a dysgu ac arolygwyr cymheiriaid Estyn. Roedd cryfderau penodol (>90%) yn cynnwys: cyflwyno gwersi sy’n canolbwyntio ar y dysgwr; a’r gefnogaeth a ddarperir gan athrawon a’u hymateb i anghenion dysgwyr. Ar ben hynny, rheoli ymddygiad dysgwyr; y cynnydd a wna dysgwyr; gwybodaeth bynciol a thechnegol athrawon; ac roedd darparu adnoddau addysgu a dysgu o ansawdd hefyd yn dda iawn. 

    Iechyd a Lles Dysgwyr 

    Mae’r Coleg wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd iach er mwyn gwella lles yr holl fyfyrwyr a staff ac mae wedi codi proffil lles ac iechyd meddwl mewn ymateb i’r galw cynyddol.

    Mae gweithgareddau cynefino, tiwtorial a hyrwyddo wedi bod yn effeithiol o safbwynt gwella dealltwriaeth dysgwyr o faterion lles, ac wedi adlewyrchu’r pwyslais sy’n cael ei roi ar gadw dysgwyr yn ddiogel gan gynnwys diogelwch ar-lein. 

    Mae cefnogaeth arbenigol o ran lles personol ac iechyd meddwl yn rhagorol yn y coleg. Rhoddwyd gweithdrefn atgyfeirio ac asesu newydd ar waith, gyda phwyslais ar sicrhau bod dysgwyr yn derbyn y gefnogaeth iawn ar yr adeg iawn. 

    Caiff dysgwyr sy’n wynebu rhwystrau sylweddol i ddysgu eu cyfeirio at wasanaethau mentora a chynghori effeithiol, ac maen nhw’n derbyn cefnogaeth dda gan fentoriaid a chynghorwyr y coleg. Mae adborth gan ddysgwyr yn gadarnhaol ac mae’r gefnogaeth a ddarperir gan y tîm lles yn galluogi dysgwyr i aros ym myd addysg a llwyddo er gwaethaf rhwystrau personol sylweddol iawn yn aml. 

    Rhoddir cryn bwyslais ar gydraddoldeb ac amrywiaeth i sicrhau bod yr holl ddysgwyr a staff yn cael eu trin â pharch. Cynyddwyd ymwybyddiaeth ymysg dysgwyr a staff yn effeithiol drwy amrediad eang o weithgareddau a dulliau cyfathrebu sy’n cael eu harddangos mewn mannau amlwg ar hyd a lled y campysau. 

    Mae trefniadau effeithiol wedi eu mabwysiadau i ddiogelu plant ac oedolion agored i niwed gyda chefnogaeth polisïau a gweithdrefnau pendant. Mae neges ‘byddwch saff’ y coleg yn ymestyn i hyrwyddo hawliau pob dysgwr i fod yn rhydd rhag bwlio ac aflonyddu a chymerir camau pendant i atal ymddygiad o’r fath. Caiff diogelwch ar-lein ei gefnogi’n dda trwy weithgarwch hyrwyddo a thiwtorial. Mae cysylltiadau diogelu wedi eu creu ym mhob campws ac mae staff a disgyblion yn ymwybodol o brosesau cyfeirio. 

    Llais y Dysgwr (Addysg Bellach) 

    Yn 2022/23, ffocws yr arolwg llais y dysgwr blynyddol addysg bellach oedd mesur canfyddiad y dysgwyr o addysgu a dysgu. At ei gilydd, mae canfyddiad y dysgwyr mewn perthynas â’u profiadau addysgu a dysgu yn rhagorol.

    Canlyniadau Arolwg Llais y Dysgwr Galwedigaethol (Addysgu a Dysgu) 2022/23
    Cwestiwn Cyfraddau Bodlonrwydd
    Mae fy nhiwtoriaid yn defnyddio amrywiaeth o ffyrdd ac adnoddau i ennyn fy niddordeb yn fy ngwersi yn y coleg. 97%
    Rwy’n credu fy mod i’n gwneud yn dda ar y cwrs. 91%
    Rwy’n cael adborth llafar ac ysgrifenedig rheolaidd gan fy nhiwtor. 93%
    Mae fy nhiwtoriaid yn fy helpu i wella fy sgiliau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol. 87%
    Rwy’n mwynhau fy ngwersi. 93%
    Mae llawer o gyfleoedd yn fy ngwersi i ateb a gofyn cwestiynau 97%
    Rwy’n teimlo fy mod yn cael fy herio a fy ymestyn yn fy holl wersi ac rwy’n gallu cymryd cyfleoedd i wella, dysgu ac i fod yn wydn 92%
    Rwy’n teimlo bod fy llais yn cael ei glywed gan bob un o’m tiwtoriaid ac yn cael ei ddefnyddio i lunio ein profiadau dysgu. 92%
    Rwy’n teimlo fel petai fy holl wersi yn datblygu fy sgiliau ehangach megis meddwl beirniadol, creadigrwydd, datrys problemau, astudio’n annibynnol, ymwybyddiaeth gymdeithasol. 94%
    Ceir amrywiaeth o dasgau yn fy ngwersi sy’n helpu i ennyn fy sylw, cadw fy niddordeb ac sy’n fy nghadw’n weithgar yn y wers. 92%
    Mae fy nhiwtoriaid yn defnyddio technoleg i gynnal fy nghymhelliant a fy niddordeb yn y dosbarth. 93%
    Rwy’n teimlo bod fy nhiwtoriaid yn credu ynof ac yn fy nghefnogi i weithio tuag at fy mhotensial. 96%
    Os byddaf yn absennol o’r coleg, mae tiwtoriaid yn cysylltu â mi ac yn sicrhau fy mod yn gwybod sut i ddal i fyny â gwaith a gollwyd. 86%
    Rwy’n ymwybodol o fy nhargedau a’r hyn sydd angen i mi ei wneud er mwyn gweithio tuag atynt. 95%
    Canlyniadau Arolwg Llais y Dysgwr UG a Safon Uwch (Addysgu a Dysgu) 2022/23
    Cwestiwn Cyfraddau Bodlonrwydd
    Ceir amrywiaeth o dasgau yn fy ngwersi sy’n helpu i ennyn fy sylw, cadw fy niddordeb ac sy’n fy nghadw’n weithgar yn y wers 92%
    Mae llawer o gyfleoedd yn fy ngwersi i ateb a gofyn cwestiynau 98%
    Rwy’n teimlo fy mod yn cael fy herio a fy ymestyn yn fy holl wersi ac rwy’n gallu cymryd cyfleoedd i wella, dysgu ac i fod yn wydn. 95%
    Rwy’n ymwybodol o fy nhargedau a’r hyn sydd angen i mi ei wneud er mwyn gweithio tuag atynt. 95%
    Mae fy nhiwtoriaid yn fy helpu i wella fy sgiliau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol. 91%
    Rwy’n cael adborth llafar ac ysgrifenedig rheolaidd gan fy nhiwtor 93%
    Rwy’n teimlo bod fy nhiwtoriaid yn credu ynof ac yn fy nghefnogi i weithio tuag at fy mhotensial. 96%
    Rwy’n teimlo fel petai fy holl wersi yn datblygu fy sgiliau ehangach megis meddwl beirniadol, creadigrwydd, datrys problemau, astudio’n annibynnol, ymwybyddiaeth gymdeithasol. 93%
    Mae fy nhiwtoriaid yn defnyddio technoleg i gynnal fy nghymhelliant a fy niddordeb yn y dosbarth. 89%
    Rwy’n teimlo bod fy llais yn cael ei glywed gan bob un o’m tiwtoriaid ac yn cael ei ddefnyddio i lunio ein profiadau dysgu. 95%
    Llais y Dysgwr (Addysg Uwch) 

    Buddsoddiad Cyfalaf a Llety (Coleg Sir Gâr yn unig) Er na chafwyd unrhyw brosiectau adeiladu na chaffaeliadau mawr yn ystod y flwyddyn, bu buddsoddiad cyfalaf sylweddol mewn perthynas â chynnal a chadw adeiladau, peiriannau, cyfarpar a TG a hwyluswyd yn y coleg ar gyfer 2022/23. 

    Y Dyfodol 

    Mae’r Coleg yn rhagweld dyfodol sicr fel rhan o grŵp Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant (“PCYDDS”) gan ymrwymo i barhau i gynnig darpariaeth addysg bellach gref ar draws y sir. 

    Mae’r Coleg yn wynebu nifer o heriau sylweddol yn ystod y blynyddoedd nesaf, yn cynnwys: 

    • Gwella deilliannau dysgwyr 
    • Datblygu’r coleg fel canolfan rhagoriaeth ar gyfer addysgu a dysgu 
    • Wynebu heriau ‘Digital 2030’ 
    • Cydymffurfio â gofynion y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol 
    • Datblygu Cymhwyster y Fagloriaeth Gymreig ar Lefel 3 
    • Datblygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ymhellach 
    • Cynnal ac amrywio portffolio’r cwricwlwm ar draws amrywiol sectorau 
    • Datblygu mwy o hyfforddiant masnachol
    • Datblygu strategaethau i ymdopi â phwysau nawdd cyhoeddus 
    • Gwella, rhesymoli a datblygu ystâd mewn partneriaeth â PCYDDS a’r Cyngor Sir. 
    • Hyrwyddo’r agenda cynaladwyedd ar gyllideb gyfyngedig.

    Prif Risgiau ac Ansicrwydd 

    Mae’r Coleg yn gweithredu fframwaith rheoli risg a rheolaeth fewnol gadarn fel y disgrifir yn y datganiad llywodraethiant corfforaethol isod. Cefnogir hwn gan raglen rheoli risg benodol. 

    Mae’r pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg yn ymgymryd ag adolygiad cynhwysfawr o bob risg posib sy’n wynebu’r Coleg, sy’n cael eu cofnodi wedyn yng nghofrestr risg y Coleg a’u sgorio yn unol â matrics penodol sy’n adnabod y tebygrwydd o’r risgiau yma’n digwydd, a’r effaith posib ar y Coleg petaent yn digwydd. Rhaid i’r pwyllgor wedyn ganfod systemau, gweithdrefnau a dulliau rheoli y gellir eu mabwysiadu i leihau’r risgiau er mwyn sicrhau y gellir eu rheoli ar lefel dderbyniol. 

    Ymdrinnir â phwnc rheoli risgiau ym mhob cyfarfod o’r pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg, sy’n adrodd eu canfyddiadau’n achlysurol i’r Bwrdd. 

    Caiff arolwg blynyddol ei gynnal er mwyn sicrhau effeithiolrwydd y system rheoli risgiau a chaiff unrhyw wendidau eu hadnabod a’u cywiro. 

    Isod, ceir amlinelliad o rai o’r prif risgiau sy’n wynebu’r Coleg yn y dyfodol rhagweladwy. Nid yw pob un o fewn rheolaeth y Coleg. Gall ffactorau eraill, heblaw’r rhai a restrir isod, gael effaith andwyol ar y Coleg.

    1. Lleihad yn nhermau real yng nghyllid y llywodraeth

    Mae’r Coleg yn dibynnu ar gyllid gan y llywodraeth, ac mae’r hinsawdd gyfredol yn golygu fod yna bwysau parhaus ar y ffrwd incwm yma. 

    Caiff y risg ei lleihau mewn nifer o ffyrdd:

    • Ymdrech ar y cyd, ysfa a ffocws ar greu sylfaen incwm mwy amrywiol;
    • Ffocws penodol ar ansawdd er mwyn sicrhau safon cyflwyniad uchel ym mhob agwedd o addysg a hyfforddiant;
    • Cynnal nifer y myfyrwyr sy’n cofrestru ar gyfer addysg uwch. Mae’r Coleg eisoes yn cynnig darpariaeth sylweddol o gyrsiau addysg uwch;
    • Gweithio’n agos gyda grŵp PCYDDS a Choleg Ceredigion i gysoni gweithrediadau ac osgoi dyblygu gyda’r nod o leihau costau;
    • Gwaith yr Uned Datblygu Busnes sydd â phrif nod o adeiladu ffrwd incwm masnachol cynaliadwy nad yw’n dibynnu ar gyllid oddi wrth y llywodraeth;
    • Canolbwyntio ar sectorau blaenoriaeth sy’n debygol o ddenu cyllid cyhoeddus;
    • Tyfu a datblygu darpariaeth ddysgu seiliedig ar waith y Coleg; ac
    • Adeiladu partneriaethau gydag ysgolion a busnesau.

    2. Methiant i recriwtio a chadw myfyrwyr

    Bydd demograffeg ac amgylchedd newidiol lle credir bod cystadleuaeth yn dwysáu yn anorfod yn ei gwneud hi’n fwy anodd i recriwtio a chadw myfyrwyr. Gallai hyn gael effaith ar bob ffynhonnell ariannol. 

    Gellir lleihau’r risg fel a ganlyn:

    • Gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion;
    • Ymdrech farchnata â ffocws;
    • Ffynonellau incwm amrywiol;
    • Partneriaethau gyda busnesau lleol a chyrff perthnasol eraill;
    • Sicrhau cyflwyno addysg a hyfforddiant o safon uchel.
    • Strwythurau cefnogi dysgwyr er mwyn sicrhau fod dysgwyr yn cael eu cefnogi ar hyd y daith;
    • Canolbwyntio ar ddatblygiad drwy’r lefelau.

    3. Amodau Economaidd Cyffredinol : Ynni, yr Argyfwng Costau Byw, Rhyfel Wcráin, Brexit a heriau Covid-19 

    Mae’r coleg yn mynd ati i edrych ar weithrediadau i sicrhau parhad llyfn gweithrediadau yn ogystal â gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod heriol parhaus hwn.

    Dangosyddion Perfformiad Allweddol 

    Mae’r Coleg yn falch o allu cadarnhau bod y targed o adennill costau cyn costau rhwymedigaeth budd diffiniedig wedi’i gyflawni gyda gwir alldro cyn costau rhwymedigaeth budd diffiniedig heblaw am arian parod o £ 414,000 dros ben (21/22: gwarged o £3,246,000). Y diffyg ar gyfer y flwyddyn wedi costau rhwymedigaeth budd diffiniedig yw £(437,000) (gwarged o £1,073,000 yn 21/22), gydag addasiadau heblaw am arian parod yn £851,000 (21/22: £2,353,000). Sylwch fod y ffigurau uchod ar gyfer y flwyddyn gyfredol yn cynnwys tâl o £ 853,000 ar gyfer costau ailstrwythuro eithriadol. 

    Mae niferoedd myfyrwyr wedi parhau i fod yn weddol fywiog yn ystod y flwyddyn, gyda chyfanswm niferoedd dysgwyr AB lawn amser fwy neu lai yn unol â lefelau’r flwyddyn flaenorol. 

    Mae’r Coleg yn parhau i sicrhau safonau uchel o safbwynt ansawdd yr addysgu a dysgu, ac wedi derbyn adroddiad Estyn da adeg yr arolwg diwethaf (gweler Adroddiad Strategol). Yn yr un modd, mae adroddiadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr fel arfer yn dangos lefelau boddhad uchel ymysg y myfyrwyr. 

    Cafodd yr adroddiad hwn ei gymeradwyo gan y bwrdd ar 8fed Rhagfyr 2023 a’i lofnodi ar ran y bwrdd gan:

  • Mae’r cyfarwyddwyr yn cyflwyno eu hadroddiad a datganiadau ariannol y Cwmni wedi eu harchwilio ar gyfer diwedd y flwyddyn 31 Gorffennaf 2023.

    Canlyniadau a datblygiadau i’r dyfodol

    Nodir canlyniadau’r flwyddyn, strategaeth a datblygiadau’r Cwmni i’r dyfodol yn yr Adroddiad Strategol ar dudalennau 4 i 15.

    Buddrannau

    Mae’r Cwmni’n gyfyngedig drwy warrant. Nid oes unrhyw fuddrannau wedi eu talu nac yn cael eu hargymell ar gyfer diwedd y flwyddyn 31 Gorffennaf 2023.

    Ymgynghorwyr proffesiynol

    • Archwilydd allanol: KPMG LLP, 
    • Caerdydd Archwilydd mewnol: Mazars LLP, Bryste 
    • Banciwr: Barclays Bank Plc, Llanelli 
    • Cyfreithwyr: Eversheds, Hepworth & Chadwick, Caerdydd

    Cyfarwyddwyr

    Dyma gyfarwyddwyr y Cwmni oedd yn weithredol yn ystod y flwyddyn a hyd at y dyddiad y llofnodwyd y datganiadau ariannol, oni nodir yn wahanol:

    Cyfarwyddwr % Mynychu Cyfarfodydd
    Mrs Maria Stedman *# (Cadeirydd) 75%
    John Edge*# 100%
    Mr Huw Davies*# 75%
    Mrs Jayne Woods *# 100%
    Mr Eifion Griffiths*# 75%
    Mr Paul Jones*# (wedi ymddeol 31/07/23) 100%
    Mr Delwyn Jones*# 100%
    Mr Alan Smith*# (penodwyd 06/10/22) 100%
    Mr Eoghan Powell *# (wedi ymddeol 15/02/23) 50%
    Ms Erica Cassin *# 100%
    Mrs Angharad Harding*# 75%
    Mrs Abigail Salini*# (penodwyd 23/03/23) 100%
    Mr Ben Francis*# (penodwyd 23/03/23) 100%
    Mrs Jacqui Kedward*# (penodwyd 23/03/23) 50%
    Mr Mike Theodoulou*# (penodwyd 23/03/23) 100%
    Mrs Tracy Senchal*# (penodwyd 23/03/23) 0%
    Mr John Williams*# (penodwyd 06/10/22) 100%
    Mr Louis Dare*# (penodwyd 06/10/22) 100%
    Francesca Thomas*# (penodwyd 06/10/22) 75%
    Andrew Cornish *# (Pennaeth) 100%

    * Cyfarwyddwr anweithredol

    Ymddiriedolwyr

    Indemniadau Cyfarwyddwyr 

    Mae gan y cyfarwyddwyr fantais o indemniad sy’n ddarpariaeth indemniad trydydd parti cymwys fel y’i diffinnir gan adran 234 o Ddeddf Cwmnïau 2006. Roedd yr indemniad yn bodoli trwy gydol y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ac mae’n dal mewn bodolaeth ar ddyddiad llofnodi’r datganiadau ariannol yma. 

    Perfformiad taliadau 

    Mae’r Coleg yn dilyn y Cod Arfer Taliadau Gwell (Better Payments Practice Code) wrth ymdrin â’i gyflenwyr. Dyma bedair prif egwyddor y cod: 

    • cytuno ar delerau talu ar ddechrau unrhyw fargen a glynu wrth y telerau hynny; 
    • egluro’r gweithdrefnau talu wrth gyflenwyr; 
    • talu biliau yn unol ag unrhyw gytundeb a wnaed gyda’r cyflenwr, neu’n unol â’r gyfraith; a 
    • hysbysu cyflenwyr yn ddi-oed os oes yna anghytundeb ynglŷn ag anfoneb a setlo’r mater cyn gynted â phosib o dderbyn ymateb ffafriol. 

    Mae Deddf Talu Dyledion Masnachol yn Hwyr (Llog) 1998, sy’n weithredol ers 1 Tachwedd 1998, yn gofyn i Golegau, yn absenoldeb cytundeb i’r gwrthwyneb, dalu cyflenwr o fewn 30 diwrnod naill ai o ddarparu’r nwyddau neu’r gwasanaethau neu’r dyddiad y derbyniwyd yr anfoneb. 95 y cant yw’r targed a osodwyd gan y Trysorlys ar gyfer talu cyflenwyr o fewn 30 diwrnod. Dyma berfformiad y Coleg o safbwynt talu ei gyflenwyr ar ddiwedd y flwyddyn 31 Gorffennaf 2023:-

    Year No of Invoices Total Invoices Received (£000) Paid on Time % of Total Invoices Received Trade Creditors at 31 July Days Outstanding
    2023 6,946 24,996 5,117 74% 2,135 31 days
    2022 6,613 17,916 5,186 78% 1,537 31 days

    Ni dderbyniodd y Coleg unrhyw gostau llog yn sgil Deddf Talu Dyledion Masnachol yn Hwyr (Llog) 1998.

    Datblygu ystadau

    Mae’r Coleg yn buddsoddi’n gyson yn y gwaith o gynnal a chadw’r ystâd trwy gyfrwng rhaglenni cynnal a chadw blynyddol sy’n cael eu gweinyddu yn ystod misoedd yr haf. Mae cyllidebau blynyddol yn cynnwys dyraniadau ar gyfer gwaith o’r fath. Ni chafwyd unrhyw brosiectau cyfalaf sylweddol yn ystod 22/23.

    Cyfle cyfartal 

    Mae’r Coleg wedi ymrwymo i sicrhau cydraddoldeb cyfleoedd ar gyfer pawb sy’n dysgu ac yn gweithio yma. Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi’n gadarnhaol y gwahaniaethau mewn hil, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, crefydd neu gred ac oed. Rydym yn ymdrechu’n daer iawn i ddileu amodau sy’n rhoi pobl dan anfantais ac rydym yn gweithredu yn erbyn rhagfarn. Mae’r modd y mae’r polisi hwn yn derbyn adnoddau, yn cael ei weithredu a’i fonitro yn cael ei gynllunio. 

    Mae Polisi Cydraddoldeb Strategol y Coleg, er yn gyffredinol berthnasol i staff, yr un mor berthnasol i unigolion anabl gan y byddai’r Coleg yn darparu hyfforddiant, datblygiad gyrfa a chyfleoedd ar gyfer dyrchafiad, sydd, cyn belled â phosibl, yn adlewyrchu’r rhai ar gyfer aelodau eraill o staff. 

    Perthynas budd-ddeiliaid 

    Mae gan y Coleg nifer o fudd-ddeiliaid. Mae’r rhain yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i: 

    • Fyfyrwyr; 
    • Cyrff ariannu’r sector addysg; 
    • Staff; 
    • Cyflogwyr lleol (gyda chysylltiadau penodol); 
    • Awdurdodau lleol; 
    • Partneriaethau Mentrau Lleol (LEPs); 
    • Y gymuned leol; 
    • Sefydliadau Addysg Bellach eraill; 
    • Undebau llafur; a 
    • Chyrff proffesiynol. 

    Mae’r Coleg yn cydnabod pwysigrwydd y berthynas â’r budd-ddeiliaid yma ac yn cyfathrebu’n gyson â nhw trwy gyfrwng cyfarfodydd a gwefan y Coleg. 

    Cyfranogiad staff a myfyrwyr 

    Mae’r Coleg yn darparu gwybodaeth yn systematig i staff ynglŷn â materion o bwys iddynt, gan drafod yn gyson â nhw neu â’u cynrychiolwyr, er mwyn gallu ystyried eu barn wrth wneud penderfyniadau sy’n debygol o effeithio arnynt. Cynigia strwythur y pwyllgorau y cysylltiadau cyfathrebu ffurfiol fel sy’n briodol o wahanol gategorïau cyflogaeth staff a myfyrwyr. Caiff cyfranogiad staff a myfyrwyr eu hybu yn y Coleg, fel modd o greu ymwybyddiaeth gyffredin ymysg yr holl staff a’r myfyrwyr o’r ffactorau ariannol ac economaidd sy’n effeithio ar y Coleg ac yn chwarae rhan flaenllaw yn y broses o wneud penderfyniadau. 

    Datganiad o gyfrifoldebau cyfarwyddwyr 

    Mae’n ofynnol i’r Cyfarwyddwyr gyflwyno datganiadau ariannol wedi eu harchwilio ar gyfer pob blwyddyn ariannol o dan y gyfraith cwmnïau. Mae’r cyfarwyddwyr yn gyfrifol am baratoi’r Adroddiad Blynyddol, yr Adroddiad Strategol, Adroddiad y Cyfarwyddwyr a’r datganiadau ariannol yn unol â chyfraith a rheoliadau sy’n gymwys. 

    Yn unol â thelerau ac amodau’r Memorandwm Ariannol rhwng Llywodraeth Cymru â’r Cyfarwyddwyr, mae’n ofynnol iddynt baratoi datganiadau ariannol ac adolygiad gweithredol ac ariannol ar gyfer pob blwyddyn ariannol yn unol â’r Datganiad o’r Arfer a Argymhellir – Cyfrifyddu ar gyfer Addysg Bellach ac Uwch, y Cyfeiriad Cyfrifon ar gyfer Colegau Addysg Bellach yng Nghymru ac Egwyddorion Cyfrifyddu Derbyniol Cyffredinol y DU, gan gynnwys FRS 102, y Safon Adrodd Ariannol sy’n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon. O dan gyfraith cwmnïau, rhaid i’r Cyfarwyddwyr beidio â chymeradwyo’r datganiadau ariannol oni bai eu bod yn fodlon eu bod yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa’r Coleg a’i elw neu golled am y cyfnod hwnnw. 

    Wrth lunio’r datganiadau ariannol, mae’n ofynnol i’r Cyfarwyddwyr: 

    • ddewis polisïau cyfrifyddu addas a’u defnyddio’n gyson 
    • gwneud dyfarniadau ac amcangyfrifon sy’n rhesymol a darbodus
    • datgan os ydynt wedi dilyn safonau cyfrifyddu perthnasol y DU, yn unol ag unrhyw ymadawiadau perthnasol a ddatgelir ac a eglurir yn y datganiadau ariannol 
    • Asesu gallu’r Coleg i barhau yn fusnes gweithredol, gan nodi’r rhagdybiaethau ategol allweddol neu gamau lliniarol, fel sy’n briodol (sy’n gorfod bod yn gyson â datgeliadau eraill yn y cyfrifon) 
    • llunio datganiadau ariannol o safbwynt busnes gweithredol heblaw ei bod yn anaddas rhagdybio y bydd y Coleg yn parhau i weithredu.

    Disgwylir hefyd i’r Cyfarwyddwyr lunio Adroddiad Aelodau sy’n disgrifio’r hyn y mae’n ceisio’i gyflawni a sut mae cyflawni hynny, yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â statws cyfreithiol a gweinyddol y Coleg. 

    Mae’r Cyfarwyddwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion cyfrifyddu digonol sy’n ddigon i ddangos ac egluro trafodion y Coleg ac sy’n datgelu, gyda chywirdeb rhesymol ar unrhyw adeg, sefyllfa ariannol y Coleg ac sy’n eu galluogi i sicrhau bod y datganiadau ariannol yn cael eu paratoi yn unol â deddfwriaeth berthnasol gan gynnwys Deddf Cwmnïau 2006, Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 a Deddf Elusennau 2011, a safonau cyfrifyddu perthnasol. Maent yn gyfrifol am y cyfryw reolaeth fewnol ag y maent yn barnu sy’n angenrheidiol i alluogi paratoi datganiadau ariannol sy’n rhydd o gamddatganiadau materol, boed hynny oherwydd twyll neu gamgymeriad. Maent yn gyfrifol am gymryd camau sy’n rhesymol agored iddynt er mwyn diogelu asedau’r Coleg a rhwystro a chanfod twyll ac unrhyw afreoleidd-dra arall. 

    Cyfrifoldeb y Cyfarwyddwyr yw cynnal a chadw ei wefan(nau), a’i chywirdeb; nid yw’r gwaith a wneir gan archwilwyr yn cynnwys ystyriaeth o’r materion hyn, ac o’r herwydd, nid yw’r archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw newidiadau a allai fod wedi digwydd i’r datganiadau ariannol ers iddynt gael eu cyflwyno’n wreiddiol ar y wefan. Gall deddfwriaeth yn y Deyrnas Unedig sy’n ymwneud â llunio a lledaenu gwybodaeth am ddatganiadau ariannol wahaniaethu oddi wrth ddeddfwriaeth mewn awdurdodaethau eraill. 

    Mae’r Cyfarwyddwyr yn gyfrifol am sicrhau fod gwariant ac incwm yn cael eu defnyddio i’r dibenion a nodwyd gan Lywodraeth Cymru a bod trafodion ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu. Ymhellach, maent yn gyfrifol am sicrhau fod cyllid gan Lywodraeth Cymru, ac unrhyw arian cyhoeddus arall, yn cael ei ddefnyddio’n unol â’r Memorandwm Ariannol gyda Llywodraeth Cymru ac unrhyw amodau eraill y gellir eu mabwysiadu’n achlysurol gan Lywodraeth Cymru neu unrhyw gyllidwr cyhoeddus arall. Rhaid i aelodau sicrhau fod dulliau rheoli ariannol a rheolaethol yn weithredol er mwyn diogelu arian y cyhoedd ac eraill gan sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n gywir. Ymhellach, y Cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am sicrhau bod adnoddau a gwariant y Coleg yn cael ei reoli’n economaidd effeithiol ac yn effeithlon rhag i’r manteision sy’n deillio o ddefnyddio cyllid cyhoeddus Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill gael eu peryglu.

    Adrodd ar Ynni a Charbon 

    Data allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU a defnydd ynni ar gyfer y cyfnod 1af Awst 2022 tan 31ain Gorffennaf 2023 (a’r flwyddyn flaenorol):

    flaenorol Blwyddyn gyfredol Blwyddyn
    Defnydd ynni i gyfrifo allyriadau (kwh) 4,465,514 4,563,515
    Allyriadau Cwmpas 1 mewn tunnelli metrig Co2e    
    Nwy 612 647
    Trafnidiaeth dan berchnogaeth 45 40
    Cyfanswm Cwmpas 1 657 687
    Allyriadau Cwmpas 2 mewn tunnelli metrig Co2e    
    Trydan 300 264
    Allyriadau Cwmpas 3 mewn tunnelli metrig Co2e    
    Cerbydau sy’n eiddo i weithwyr busnes sy’n teithio 39 32
    Cyfanswm Gros allyriadau mewn tunnelli metrig Co2e 996 983
    Cymhareb dwyster tunnelli Co2e fesul myfyriwr 0.166 0.146

    Methodoleg cymhwyster ac adrodd

    Rydym wedi dilyn canllawiau Adrodd Amgylcheddol Llywodraeth Ei Mawrhydi 2019. Rydym hefyd wedi defnyddio Protocol Adrodd Nwyon Tŷ Gwydr – Safonau Corfforaethol ac wedi defnyddio ffactorau trosi Llywodraeth y DU 2023 ar gyfer Adroddiadau Cwmnïau.

    Mesur dwyster

    Y gymhareb mesur dwyster a ddewiswyd yw cyfanswm yr allyriadau gros mewn tunelli metrig Co2e fesul disgybl, y gymhareb a argymhellir ar gyfer y sector.

    Mesurau a gymerwyd i wella effeithiolrwydd ynni

    Gosodwyd mesuryddion clyfar ym mhob safle. Mae paneli solar wedi eu gosod ar 3 o’n campysau mwyaf sy’n lleihau faint o ynni a brynwyd yn sylweddol. Gosodwyd bylbiau golau arbed ynni (LEDs) gymaint â phosib ac mae teithiau staff wedi lleihau yn sgil y pwyslais ar gynnal cyfarfodydd rhithiol a defnyddio meddalwedd megis Teams neu Google Meet. Mae’r coleg wedi buddsoddi’n helaeth mewn cyfleusterau storio beiciau ac mae’n gweithredu Cynllun Beicio i’r Gwaith i annog y dull glanach ac iachach hwn o deithio i’r coleg. Mae mannau gwefru EV (Cerbydau Trydan) hefyd wedi’u gosod ar bob un o’n campysau.

    Datganiad cydymffurfiaeth dyletswydd y cyfarwyddwyr i hybu llwyddiant y Coleg 

    Ymgysylltu â’n budd-ddeiliaid (datganiad adran 172 (1))

    Bwrdd y Cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am hybu llwyddiant y Grŵp er lles ei holl aelodau gan ystyried buddiannau ein budd-ddeiliaid (dim cyfranddalwyr gan ei fod yn gwmni cyfyngedig trwy warant), ein myfyrwyr, Llywodraeth Cymru, ein cleientiaid, ein gweithwyr, ein perthnasoedd â’n cyflenwyr ac effaith ein gweithrediadau ar y cymunedau yr ydym yn gweithredu ynddynt, gan sicrhau ein bod yn cynnal enw da am safonau uchel o ran ansawdd, gofal ac ymddygiad busnes. 

    Ein prif fudd-ddeiliaid yw ein myfyrwyr, Llywodraeth Cymru, ein cleientiaid, busnesau lleol, ein staff a’r cymunedau rydym yn gweithredu o’u mewn. Mae ein cyflenwyr a’n rheoleiddwyr hefyd yn fuddddeiliaid pwysig o fewn y grŵp. Mae pob un o brif benderfyniadau’r Bwrdd yn ystyried yr effaith ar y budd-ddeiliaid perthnasol. Yn fwyfwy, mae budd-ddeiliaid yn ceisio sicrhau dealltwriaeth o’n perfformiad yng nghyswllt nifer o feysydd o berfformiad i wasanaethau, ymgysylltiad â’r gymuned, mentergarwch, llywodraethiant, arferion yn y gweithle a dinasyddiaeth gorfforaethol. Mae’r Bwrdd yn ymdrechu i ddeall rhagdybiaethau ac agweddau pob grŵp o fudd-ddeiliaid a’r pwyslais y maent yn ei roi ar wahanol faterion. Os oes yna wahaniaethau barn rhwng gwahanol grwpiau o fudd-ddeiliaid, mae’n rhaid i’r Bwrdd benderfynu ar y ffordd orau i symud ymlaen er mwyn hybu llwyddiant hirdymor y cwmni.

    Ein myfyrwyr

    Ein myfyrwyr sydd wrth galon ein busnes a’n gweithrediadau. Ein bwriad yw sicrhau’r safonau addysgol a hyfforddiant gorau posibl yn ogystal â darparu amgylchedd diogel, cyffrous a modern ar gyfer astudio ynddo a’r profiad gorau posib yn ystod eu cyfnod yn y coleg.

    Cyflogeion

    Fel sefydliad gwasanaeth, mae ein staff yn allweddol i’n busnes. Rydym yn awyddus i’n staff deimlo eu bod wedi ymgysylltu a bod ganddynt y gallu i sicrhau deilliannau ardderchog ar gyfer ein myfyrwyr yn ogystal â phob un o’n budd-ddeiliaid. Mae lles y staff yn hynod bwysig i’r coleg ac o ganlyniad rydym wedi penodi rheolwr lles i ymdrin yn benodol ag agenda lles ein myfyrwyr a’n staff fel ei gilydd. Ceir mecanwaith sylweddol o fewn y coleg i gefnogi ac ymdrin ag unrhyw faterion sy’n poeni’r staff, a cheir cyfle cyson ar gyfer datblygiad proffesiynol wedi’i gefnogi sydd ar gael i bawb sy’n dymuno gwneud cais. Mae’r coleg yn gweithio’n agos gyda holl undebau’r staff i sicrhau bod anghenion a phryderon staff yn derbyn y sylw priodol ac mae’n ymfalchïo yn y berthynas gadarn, gydweithredol sydd ganddynt ac yn dod â budd i’r ddwy ochr. Mae gan y staff hefyd gynrychiolydd ar Fwrdd y Cyfarwyddwyr.

    Rheoleiddwyr

    Fel Sefydliad Addysg Bellach, mae’r Coleg yn gweithio’n agos iawn gyda Llywodraeth Cymru, sef y prif gorff ariannu ar gyfer y rhan helaethaf o incwm grant y Coleg. Cyflwynir adroddiadau meintiol ac ariannol yn gyson ac mae llwyddiant yn dibynnu ar berthynas agored, wydn a dwyochrog. 

    Fel cwmni ac elusen, mae’r Coleg hefyd yn adrodd drwy Dŷ’r Cwmnïau a’r comisiwn Elusennau.

    Cyflenwyr

    Mae perthynas agos â Chyflenwyr yn hanfodol er mwyn sicrhau parhad ein gweithrediadau, ac felly hefyd ein gallu i wasanaethu ein budd-ddeiliaid i’r safonau uchaf posib. Mae hyn yn cynnwys cyflenwyr nwyddau a gwasanaethau ar draws ein 5 campws. Ein nod yw trin ein cyflenwyr yn deg a’u talu o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt, os nad yn gynharach na hynny, ac ymddwyn mewn modd proffesiynol ac i’r safonau uchaf posib bob amser. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n cyflenwir i sicrhau eu bod yn gweithredu rheolaethau effeithiol er mwyn amddiffyn iechyd a diogelwch ein myfyrwyr (a’n budd-ddeiliaid os yw’n berthnasol), ac yn amddiffyn preifatrwydd a diogelwch eu data.

    Cymunedau a’r amgylchedd

    Rydym yn chwarae rhan weithredol o fewn y cymunedau yr ydym yn gweithredu o’u mewn ac yn ystyrlon o’r amgylchedd. Rydym yn gwerthuso’r risgiau a’r cyfleoedd i’n busnes o safbwynt newidiadau hinsawdd, gan reoli ein heffaith ar yr amgylchedd a hybu arferion amgylcheddol cadarnhaol.

    Cyfranogiad Staff a Staff Anabl

    Mae’r cwmni’n parhau i hysbysu’r staff ynglŷn â materion sy’n effeithio arnynt a’r ffactorau ariannol ac economaidd sy’n effeithio ar berfformiad y cwmni. Cyflawnir hyn trwy gyfrwng ymgynghoriadau/sesiynau hyfforddi, porth staff sy’n cael ei ddiweddaru’n barhaus, e-byst, cylchlythyron a chyfryngau cymdeithasol. Rhoddir ystyriaeth lawn a theg i geisiadau am swyddi gan unigolion anabl.

    Yn achos staff sy’n mynd yn anabl neu’n analluog i barhau â’u gwaith presennol, gwneir pob ymdrech i’w hailhyfforddi er mwyn iddynt allu parhau â’u cyflogaeth gyda’r Coleg. 

    Polisi’r cwmni yw bod yr hyfforddiant, datblygiad gyrfa a chyfleoedd ar gyfer dyrchafiadau ar gael i bob aelod o staff bob amser.

    Cyfraniadau gwleidyddol

    Nid yw’r Cwmni na’i is-gwmnïau wedi gwneud unrhyw gyfraniadau gwleidyddol nac wedi bod yn gyfrifol am wariant gwleidyddol yn ystod y cyfnod (2022 – cyfraniadau £dim).

    Gwybodaeth Arall

    Caiff arwydd o ddatblygiadau tebygol yn y dyfodol ym musnes a manylion digwyddiadau allweddol sydd wedi digwydd ers diwedd y flwyddyn ariannol eu cynnwys yn yr Adroddiad Strategol ar dudalennau 4 - 15.

    Datganiad datgelu gwybodaeth i Archwilwyr

    Mae pob person oedd yn gyfarwyddwyr ar yr adeg pan gafodd Adroddiad y Cyfarwyddwyr ei gymeradwyo, wedi cadarnhau, cyn belled ag yr oeddent yn ymwybodol, nad oes unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol (h.y. gwybodaeth sydd ei hangen ar archwilydd y cwmni yng nghyswllt llunio ei adroddiad), nad oedd archwilwyr y cwmni’n ymwybodol ohono, ac mae’r cyfarwyddwyr wedi cymryd pob cam posib a gofynnol er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth berthnasol ac i sicrhau fod archwilwyr y cwmni’n ymwybodol o’r wybodaeth honno.

    Archwilydd Annibynnol

    Yn unol ag Adran 487 Deddf Cwmnïau 2006, ystyrir bod yr archwilydd wedi’i ailbenodi ac felly y bydd KPMG LLP yn parhau i wneud y gwaith.

  • Mae’r Cwmni wedi ymrwymo i weithredu’r arfer orau yng nghyswllt pob agwedd o lywodraethiant corfforaethol. Disgrifia’r crynodeb hwn y modd y mae’r Cwmni wedi gweithredu’r egwyddorion a nodwyd yng Nghod Llywodraethu Da ar gyfer Colegau yng Nghymru, a gyhoeddwyd gan Golegau Cymru. Ei ddiben yw helpu defnyddwyr datganiadau ariannol i ddeall sut mae’r egwyddorion wedi eu cymhwyso. 

    Ym marn y cyfarwyddwyr, mae’r Cwmni’n cydymffurfio â phob un o ddarpariaethau gorfodol y cod i’r graddau y maent yn berthnasol i’r sector addysg bellach, gan gydymffurfio trwy gydol y flwyddyn hyd at 31 Gorffennaf 2023 a hyd at ddyddiad yr adroddiad hwn.

    Bwrdd y Cyfarwyddwyr

    Rhestrir enwau Bwrdd y Cyfarwyddwyr ar dudalen 16. Cyfrifoldeb y cyfarwyddwyr yw cyflwyno barn annibynnol yng nghyswllt materion yn ymwneud â strategaeth, perfformiad, adnoddau a safonau ymddygiad. Mae’r Cwmni’n cydnabod, fel cwmni sy’n gyfrifol am gyllid cyhoeddus a phreifat, fod ganddo gyfrifoldeb penodol dros ddilyn y safonau uchaf o safbwynt llywodraethiant corfforaethol bob amser. 

    Mae’r Bwrdd yn derbyn gwybodaeth gyson ac amserol yn ymwneud â pherfformiad ariannol cyffredinol y Cwmni, yn ogystal â gwybodaeth bellach megis perfformiad yn erbyn targedau ariannol, gwariant cyfalaf arfaethedig, materion yn ymwneud â safonau a phersonél megis iechyd a diogelwch a materion amgylcheddol. Mae’r Bwrdd yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn. 

    Cynhalia’r Cwmni ei fusnes trwy gyfrwng nifer o bwyllgorau. Mae gan bob pwyllgor gylch gorchwyl sydd wedi ei gymeradwyo gan y Bwrdd. Y pwyllgorau dan sylw yw Chwilio a Llywodraethu; Tâl; Cwricwlwm y Dysgwr a Sgiliau; Safonau; Adnoddau ac Ymgysylltu â Busnes; ac Archwilio a Rheoli Risg. 

    Mae’r pwyllgorau’n cynnwys cyfarwyddwyr ac aelodau cyfetholedig a ddewiswyd gan y pwyllgor chwilio a llywodraethu sy’n cynnwys cyfarwyddwyr yn unig – ar sail y wybodaeth, y sgiliau a’r profiad y gallant ei gynnig i’r pwyllgor perthnasol. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, nid yw’r aelodau cyfetholedig yn gyfarwyddwyr y Cwmni. Rhaid i bob penderfyniad a wneir gan y pwyllgorau gael eu cymeradwyo’n ffurfiol maes o law gan y Bwrdd. 

    Gweithreda’r pwyllgorau ar sail ymgynghorol gan adrodd yn uniongyrchol i Fwrdd y Cyfarwyddwyr. Bydd cadeirydd bob pwyllgor yn gyfarwyddwr gweithredol o leiaf. Nodir manylion yn ymwneud â chyfansoddiad bob pwyllgor o dan y penawdau perthnasol isod. Caiff agendâu ffurfiol, papurau ac adroddiadau eu dosbarthu i aelodau’r pwyllgorau a’r cyfarwyddwyr mewn da bryd, cyn y cyfarfodydd. Darperir deunydd briffio ar sail ad-hoc. 

    Mae elfen anweithredol annibynnol gref yn perthyn i’r Bwrdd ac nid oes unrhyw unigolyn na grŵp yn dominyddu’r broses benderfynu. Ystyria’r Cwmni fod pob aelod anweithredol yn annibynnol ar reolwyr ac yn rhydd o unrhyw berthynas fusnes neu arall, a allai amharu’n ymarferol wrth iddynt ddod i benderfyniadau annibynnol. 

    Ceir rhaniad cyfrifoldeb clir yn rôl y Cadeirydd (cyfarwyddwr anweithredol) a’r Pennaeth (cyfarwyddwr gweithredol) sydd ar wahân.

    Penodiadau i Fwrdd y Cyfarwyddwyr 

    Ystyrir unrhyw benodiadau newydd i’r Bwrdd gan y Bwrdd cyfan. Y pwyllgor Chwilio sy’n gyfrifol am ddewis ac enwebu unrhyw aelod newydd i’r Bwrdd ystyried. Y Bwrdd sy’n gyfrifol am sicrhau fod hyfforddiant addas yn cael ei ddarparu yn ôl yr angen. 

    Y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu 

    Trwy gydol y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2023, roedd pwyllgor Chwilio’r Sefydliad yn cynnwys pedwar aelod o Fwrdd y Cyfarwyddwyr. Cyfrifoldebau’r pwyllgor yw gwneud argymhellion i’r Bwrdd o ran dewis cyfarwyddwyr ac aelodau cyfetholedig, ac ar faterion llywodraethu.

    Y Pwyllgor Tâl 

    Mae’r pwyllgor, sy’n cynnwys tri Chyfarwyddwr, yn pennu tâl ac amodau cyflogaeth deiliaid uwch swyddi, gan gynnwys y Pennaeth. Ceir manylion tâl ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2023 yn nodyn 6 y datganiadau ariannol.

    Y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg 

    Pedwar aelod sy’n perthyn i’r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg. Gweithreda’r pwyllgor yn unol â chylch gorchwyl ysgrifenedig wedi’i gymeradwyo gan y Bwrdd. 

    Mae’r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg yn cyfarfod yn dymhorol ac yn cynnig fforwm adrodd yn ôl i archwilwyr datganiad ariannol mewnol y Sefydliad, sy’n ymwneud â’r pwyllgor ar gyfer trafodaethau annibynnol heb bresenoldeb rheolwyr y Sefydliad. Mae’r pwyllgor hefyd yn derbyn ac yn ystyried adroddiadau oddi wrth Lywodraeth Cymru sy’n effeithio ar fusnes y Sefydliad. 

    Archwilydd mewnol y Cwmni sy’n gyfrifol am fonitro systemau rheoli mewnol, trefniadau rheoli risg a phrosesau llywodraethu yn unol â’r cynllun mewnbwn y cytunwyd arno, a chyflwyno’u canfyddiadau i reolwyr a’r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg. Yr archwilydd allanol sy’n cynnal yr archwiliad o’r Datganiadau Ariannol blynyddol ac yn adrodd yn ôl ar y canfyddiadau i’r pwyllgor. 

    Mae’r archwilwyr mewnol ac allanol yn elfennau allweddol o’r broses archwilio a rheoli risg ac yn feysydd cyfrifoldeb allweddol i’r pwyllgor. Y rheolwyr sy’n gyfrifol am weithredu argymhellion yr archwiliad y cytunwyd arnynt, ac mae’r archwilydd mewnol yn cynnal adolygiad dilynol cyfnodol er mwyn sicrhau fod y fath argymhellion yn cael eu gweithredu. Mae’r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg hefyd yn cynnig cyngor i’r Cwmni ynglŷn â phenodiad archwilwyr mewnol a datganiadau ariannol, a’r tâl ar gyfer gwaith archwilio a heb fod yn waith archwilio.

    Y Pwyllgor Adnoddau a Datblygu Busnes

    Wyth aelod sy’n perthyn i’r Pwyllgor Adnoddau a Datblygu Busnes. Gweithreda’r pwyllgor yn unol â chylch gorchwyl ysgrifenedig wedi’i gymeradwyo gan y Bwrdd. Mae’r pwyllgor yn cwrdd yn dymhorol er mwyn adolygu pob agwedd ar gynllunio a defnyddio adnoddau yn y Cwmni. Gall hyn gynnwys pennu cyllidebau, cyfrifon rheoli ac ariannol, y trysorlys a buddsoddiadau, adnoddau dynol, a datblygu’r ystâd a chynnal a chadw.

    Y Pwyllgor Dysgwyr, Cwricwlwm a Sgiliau (a Safonau)

    Wyth aelod sy’n perthyn i’r pwyllgor Dysgwyr, Cwricwlwm a Sgiliau yn ogystal â’r pwyllgor Safonau. Gweithreda’r pwyllgorau yn unol â chylch gorchwyl ysgrifenedig wedi’i gymeradwyo gan y Bwrdd. 

    Mae’r pwyllgorau’n cwrdd yn dymhorol i adolygu pob agwedd o ddarpariaeth y cwricwlwm, cyflwyniad a pherfformiad y Cwmni.

    Rheolaeth fewnol 

    Cwmpas cyfrifoldeb

    Yn y pen draw, y cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am systemau rheolaeth fewnol y Sefydliad ac am adolygu eu heffeithiolrwydd. Serch hynny, cynlluniwyd y fath system i reoli yn hytrach na dileu’r risg o fethiant i gyflawni amcanion busnes, a dim ond sicrwydd rhesymol yn hytrach nac absoliwt yn erbyn camddatganiad materol neu golled y gellir ei roi. 

    Mae’r Bwrdd wedi dirprwyo cyfrifoldebau cynnal system reolaeth fewnol gadarn sy’n cefnogi cyflawniadau polisïau ac amcanion i’r Pennaeth, gan ddiogelu’r arian cyhoeddus a’r asedau y maent hwy’n bersonol gyfrifol amdanynt, yn unol â’r cyfrifoldebau a roddwyd iddynt yn unol â’r Memorandwm Ariannol rhwng Coleg Sir Gâr a Llywodraeth Cymru. Y Pennaeth sydd hefyd yn gyfrifol am hysbysu’r Bwrdd ynglŷn â gwendidau neu fethiannau ymarferol o safbwynt rheolaeth fewnol.

    Diben y system rheolaeth fewnol

    Cynlluniwyd y system rheolaeth fewnol i gadw lefelau risg yn rhesymol yn hytrach na dileu risg yn llwyr o safbwynt methu i gyflawni polisïau, nodau ac amcanion; dim ond sicrwydd rhesymol o effeithiolrwydd yn hytrach nag absoliwt y gellir ei gynnig felly. Seilir y system rheolaeth fewnol ar broses barhaus a gynlluniwyd i adnabod a blaenoriaethu’r risgiau i gyflawni polisïau, nodau ac amcanion y Sefydliad, gwerthuso’r tebygrwydd o wireddu’r risgiau hynny a’u heffaith, a’u rheoli’n effeithiol, yn effeithlon ac o safbwynt economaidd. Mae’r system rheolaeth fewnol wedi bod yn weithredol yng Ngholeg Sir Gâr yn ystod y flwyddyn sy’n gorffen 31 Gorffennaf 2023 a hyd at ddyddiad cymeradwyo’r adroddiad blynyddol a’r datganiadau ariannol.

    Capasiti i ddelio â risgiau

    Adolygwyd y prif risgiau sy’n wynebu’r Sefydliad gan y Bwrdd, yn ogystal â’r rheolaethau gweithredu, ariannol a chydymffurfio sydd wedi cael eu gweithredu i leihau’r risgiau hynny. Cred y Bwrdd fod yna broses ffurfiol barhaus ar gyfer adnabod, gwerthuso a rheoli’r risgiau sylweddol sy’n wynebu’r Sefydliad, wedi bod yn weithredol yn ystod y flwyddyn sy’n gorffen 31 Gorffennaf 2023 a hyd at ddyddiad cymeradwyo’r adroddiad blynyddol a’r datganiadau ariannol. Caiff y broses hon ei hadolygu’n gyson gan y Bwrdd.

    Y fframwaith risgiau a rheolaeth

    Seilir y system reolaeth fewnol ar fframwaith o wybodaeth reoli gyson, gweithdrefnau gweinyddol yn cynnwys gwahanu dyletswyddau, a system ddirprwyo ac atebolrwydd. Mae hyn yn cynnwys, yn enwedig: 

    • Systemau cyllidebu cynhwysfawr gyda chyllideb flynyddol, sy’n cael ei hadolygu a’i chytuno gan y Bwrdd; 
    • Adolygiadau cyson gan y pwyllgor ymgynghori a’r Bwrdd o adroddiadau ariannol cyfnodol a blynyddol, sy’n cymharu’r perfformiad ariannol â’r rhagolygon; 
    • Gosod targedau er mwyn mesur perfformiad ariannol ac ati; 
    • Canllawiau clir ar gyfer rheoli buddsoddiad cyfalaf; a 
    • Mabwysiadu disgyblaethau rheoli prosiect ffurfiol, os yn briodol. 

    Mae Coleg Sir Gâr yn gweithio’n agos gyda chwmni o archwilwyr proffesiynol er mwyn darparu gwasanaeth archwilio mewnol, sy’n gweithredu’n unol â gofynion Llywodraeth Cymru. Caiff gwaith y gwasanaeth archwilio mewnol ei lywio gan ddadansoddiad o’r risgiau sy’n wynebu’r Sefydliad a chaiff cynlluniau ar gyfer archwiliad mewnol blynyddol eu seilio ar y dadansoddiad hwn. Caiff y dadansoddiad risg a’r cynlluniau archwilio mewnol eu hardystio gan y Bwrdd yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg. Mae’r archwilydd mewnol yn llunio adroddiad ar gyfer y Corff Llywodraethu yn ymwneud â gweithgaredd archwilio mewnol y Sefydliad o leiaf unwaith y flwyddyn. Mae’r adroddiad yn cynnwys barn annibynnol yr archwilydd mewnol ynglŷn a digonolrwydd ac effeithiolrwydd system rheolaeth risg, rheolyddion a phrosesau llywodraethiant y Sefydliad.

    Adolygu effeithiolrwydd

    Y Pennaeth sy’n gyfrifol am adolygu effeithiolrwydd y system rheolaeth fewnol. Seilir ei adolygiad o effeithiolrwydd y system rheolaeth fewnol ar: 

    • - waith yr archwilydd mewnol; 
    • - gwaith yr uwch reolwyr o fewn y Sefydliad, sy’n gyfrifol am ddatblygu a chynnal y fframwaith rheoli mewnol; a 
    • - sylwadau a wnaed gan archwilydd datganiadau ariannol y Sefydliad ac archwilydd Llywodraeth Cymru yn eu llythyron rheoli ac adroddiadau eraill. 

    Cynghorwyd y Pennaeth ynglŷn â goblygiadau canlyniadau eu hadolygiadau o effeithiolrwydd y system rheolaeth fewnol gan y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg, sy’n arolygu gwaith yr archwilydd mewnol, a chynllun i ymdrin â gwendidau er mwyn sicrhau gwelliant parhaus o fewn y system weithredol. 

    Mae’r uwch dîm rheoli’n derbyn adroddiadau sy’n cyfeirio at brif ddangosyddion perfformiad a risg gan ystyried materion rheolaethol posib y tynnwyd eu sylw atynt gan fecanweithiau rhybudd cynnar, sydd wedi eu hymgorffori o fewn yr adrannau a’u hatgyfnerthu gan hyfforddiant ymwybyddiaeth risg. Mae’r uwch dîm rheoli a’r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg hefyd yn derbyn adroddiadau cyson gan yr archwilydd mewnol, sy’n cynnwys argymhellion ar gyfer gwelliant. Caiff rôl y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg yn y cyswllt hwn ei gyfyngu i adolygiad lefel uchel o drefniadau rheolaeth fewnol. Mae agenda’r Bwrdd yn cynnwys eitem gyson er mwyn ystyried risgiau a rheolaeth ac mae’n derbyn adroddiadau ynglŷn â hynny oddi wrth yr uwch dîm rheoli a’r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg. Mae’r pwyslais ar ganfod y raddfa berthnasol o sicrwydd ac nid yn unig adrodd drwy eithriad. Yn ystod cyfarfod Rhagfyr 2023, cynhaliodd y Bwrdd ei asesiad blynyddol ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben ar 31 Gorffennaf 2023 drwy ystyried dogfennaeth gan yr uwch dîm rheoli a’r archwilydd mewnol, gan ystyried digwyddiadau ers 31 Gorffennaf 2023 hefyd. 

    Yn seiliedig ar gyngor y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg a’r Pennaeth, mae’r Bwrdd o’r farn fod gan y Cwmni fframwaith llywodraethiant a rheolaeth risg ddigonol ac effeithiol, a’i fod wedi cyflawni ei gyfrifoldebau statudol o safbwynt “defnydd effeithiol ac effeithlon o adnoddau, solfedd y sefydliad a’r corff a diogelu eu hasedau”.

    Datganiad ar reoleidd-dra, priodoldeb a chydymffurfiaeth 

    Mae’r Corff Llywodraethu wedi ystyried ei gyfrifoldebau o ran hysbysu Llywodraeth Cymru ynglŷn ag afreoleidd-dra materol, amhriodoldeb, a methiant i gydymffurfio â thermau ac amodau cyllido, yn unol â’r memorandwm a’r cytundebau sy’n bodoli rhwng y Coleg a Llywodraeth Cymru. Fel rhan o’n hystyriaeth ni, rydym wedi rhoi sylw dyledus i ofynion y memorandwm a’r cytundebau ariannol gyda Llywodraeth Cymru. 

    Rydym yn cadarnhau ar ran y Corff Llywodraethu, wedi dyddiad yr ymchwiliad, a hyd eithaf ein gwybodaeth, ein bod yn gallu adnabod unrhyw anghysondebau neu ddefnydd amhriodol o gyllid gan y Coleg, neu unrhyw ddiffyg cydymffurfiaeth faterol gyda thermau ac amodau ariannu yn unol â’r memorandwm a’r cytundebau sy’n bodoli rhwng y Coleg a Llywodraeth Cymru. 

    Rydym yn cadarnhau na chafwyd unrhyw enghreifftiau o afreoleidd-dra materol, amhriodoldeb neu ddiffyg cydymffurfio hyd yn hyn. O ddarganfod unrhyw enghreifftiau o’r fath wedi dyddiad y datganiad hwn, hysbysir Llywodraeth Cymru o hynny.

    Busnes gweithredol 

    Caiff gweithgareddau’r Coleg, yn ogystal â ffactorau sy’n debygol o effeithio ar ei ddatblygiad a’i berfformiad i’r dyfodol eu nodi yn yr Adroddiad Strategol. Cyflwynir sefyllfa ariannol y Coleg, ei lif arian, hylifedd a’i fenthyciadau yn y Datganiadau Ariannol a’r Nodiadau atodedig. 

    Lluniwyd y datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol y mae’r Cyfarwyddwyr yn ystyried i fod yn addas am y rhesymau canlynol. 

    Mae’r Cyfarwyddwyr wedi llunio rhagolygon llif arian ar gyfer cyfnod o 12 mis o ddyddiad cymeradwyo’r datganiadau ariannol yma. Wedi adolygu’r rhagolygon hyn, mae’r Cyfarwyddwyr o’r farn, o ystyried anawsterau difrifol ond credadwy, yn cynnwys effaith arfaethedig yr argyfwng ynni ac argyfwng costau byw, bydd gan y Coleg gronfeydd digonol i fodloni ei rwymedigaethau wrth iddynt ddod yn ddyledus dros gyfnod o 12 mis o ddyddiad cymeradwyo’r datganiadau ariannol yma (y cyfnod asesu busnes gweithredol). O ganlyniad, mae’r Cyfarwyddwyr wedi llunio’r datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol. 

    Hyfforddiant a Datblygiad - Bwrdd y Cyfarwyddwyr a Phenaethiaid Llywodraethu 

    • - Cyflwynwyd hyfforddiant cynefino mewnol i 5 Cyfarwyddwr newydd ym mis Mawrth. 
    • - Gwnaeth pob cyfarwyddwr a’r Clerc hyfforddiant ar-lein ar : Ddiogelu; Prevent a GDPR yn ystod y flwyddyn 

    Adolygiad Allanol 

    – Llywodraethu Cynhelir adolygiad allanol o Lywodraethu o leiaf unwaith bob 3 blynedd. Cynhaliwyd yr adolygiad diweddaf gan y Tîm Archwilio Mewnol - Mazars LLP - ym mis Mai 2022.

  • Barn

    Rydym wedi archwilio datganiadau ariannol Coleg Sir Gâr (y “Coleg”) ar gyfer diwedd y flwyddyn 31 Gorffennaf 2023 sy’n cynnwys y Datganiad Incwm Cynhwysfawr, Datganiad o Newid mewn Cronfeydd Wrth Gefn, Mantolen, Datganiad Llif Arian a nodiadau perthnasol, yn cynnwys y Datganiad o’r Prif Bolisïau Cyfrifo a Thechnegau Amcangyfrif. Yn ein barn ni, mae’r datganiadau ariannol: 

    • yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa’r Coleg ar 31 Gorffennaf 2023 ac o’i warged ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny; 
    • wedi eu paratoi’n gywir yn unol â safonau cyfrifyddu’r DU, yn cynnwys FRS 102 Y Safon Adrodd Ariannol sy’n berthnasol yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon; ac 
    • maent wedi eu paratoi yn unol â gofynion Ddeddf Cwmnïau 2006.

    Sail y farn

    Cynhaliwyd ein harchwiliad yn unol â Safonau Cyfrifyddu Rhyngwladol (DU) (“SCRh (DU)”) a’r gyfraith berthnasol. Disgrifir ein cyfrifoldebau isod. Rydym wedi cyflawni ein cyfrifoldebau moesol, yn annibynnol o’r Coleg yn unol â gofynion moesol y DU yn cynnwys Safon Foesol y FRC. Credwn fod y dystiolaeth a gasglwyd gennym yn ystod ein harchwiliad yn ddigonol ac yn addas ar gyfer llunio barn.

    Busnes gweithredol

    Mae’r Cyfarwyddwyr wedi llunio datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol am nad ydynt yn bwriadu diddymu’r Coleg na dirwyn ei weithrediadau i ben, ac oherwydd eu bod wedi dod i’r casgliad fod sefyllfa ariannol y Coleg yn golygu fod hyn yn realistig. Daethant i’r casgliad hefyd nad oes unrhyw ansicrwydd perthnasol a allai fod wedi dwyn amheuaeth sylweddol ynglŷn â’i allu i barhau fel busnes gweithredol am o leiaf blwyddyn o ddyddiad cymeradwyo’r datganiadau ariannol (“y cyfnod busnes gweithredol”). 

    Yn ein gwerthusiad o gasgliadau’r Cyfarwyddwyr, ystyriwyd y risgiau cynhenid i fodel busnes y Coleg, a dadansoddi sut y gallai’r risgiau hynny effeithio ar adnoddau ariannol y Coleg neu ei allu i barhau i weithredu dros y cyfnod busnes gweithredol. 

    Ein casgliadau ar sail y gwaith hwn: 

    • rydym o’r farn fod defnydd y Cyfarwyddwyr o sail busnes gweithredol ar gyfer cyfrifyddu wrth baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol; ac 
    • nid ydym wedi nodi, ac rydym yn cytuno ag asesiad y Cyfarwyddwyr, nad oes ansicrwydd perthnasol sy’n gysylltiedig â digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu’r Coleg i barhau’n fusnes gweithredol am y cyfnod busnes gweithredol. 

    Serch hynny, gan na allwn ragweld pob digwyddiad neu amodau i’r dyfodol a chan y gall digwyddiadau dilynol arwain at ganlyniadau sy’n anghyson â dyfarniadau a oedd yn rhesymol ar yr adeg y cawsant eu gwneud, nid yw’r casgliadau uchod yn warant y bydd y Coleg yn parhau i weithredu.

    Twyll a thorri cyfreithiau a rheoliadau – y gallu i ganfod

    Nodi ac ymateb i risgiau o gamddatganiad perthnasol oherwydd twyll 

    Er mwyn nodi risgiau o gamddatganiad sylweddol oherwydd twyll (“risgiau twyll”) rydym wedi asesu digwyddiadau neu amodau a allai ddangos cymhelliad neu bwysau i gyflawni twyll neu roi cyfle i gyflawni twyll. Roedd ein gweithdrefnau asesu risg yn cynnwys: 

    • Holi cyfarwyddwyr, y Pwyllgor Archwilio, yn ogystal ag a ydynt yn gwybod am unrhyw dwyll gwirioneddol, amheuaeth o dwyll neu dwyll honedig. 
    • Darllen cofnodion cyfarfodydd Bwrdd y Cyfarwyddwr a’r Pwyllgor Archwilio a Risg. 
    • Defnyddio gweithdrefnau dadansoddol i nodi unrhyw berthnasoedd anarferol neu annisgwyl.

    We communicated identified fraud risks throughout the audit team and remained alert to any indications of fraud throughout the audit.
    As required by auditing standards, we perform procedures to address the risk of management override of controls and the risk that management may be in a position to make inappropriate accounting entries. On this audit, we did not identify a fraud risk related to revenue recognition due to the non-complex revenue recognition criteria, which limits the opportunity to fraudulently manipulate revenue.

    We did not identify any additional fraud risks.

    In determining the audit procedures, we took into account the results of our evaluation and testing of the operating effectiveness of some of the College-wide fraud risk management controls.

    We also performed procedures including:

    • Identifying journal entries to test based on risk criteria and comparing the identified entries to supporting documentation. These included journals posted by individuals who typically do not make journal entries, revenue or cash journals made to unrelated accounts, and unbalanced journal entries.

    Nodi ac ymateb i risgiau camddatganiad materol yn ymwneud â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau

    Nodwyd meysydd o gyfreithiau a rheoliadau y byddai’n rhesymol disgwyl iddynt gael effaith faterol ar y datganiadau ariannol o’n profiad masnachol ac un y sector yn gyffredinol a thrwy drafod gyda’r cyfarwyddwyr (fel sy’n ofynnol gan safonau archwilio), a thrafod gyda’r cyfarwyddwyr y polisïau a’r gweithdrefnau ynghylch cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau. 

    Gwnaethom gyfleu cyfreithiau a rheoliadau a nodwyd ledled ein tîm a pharhau’n effro i unrhyw arwyddion o beidio â chydymffurfio drwy gydol yr archwiliad. 

    Mae effaith bosibl y cyfreithiau a’r rheoliadau hyn ar y datganiadau ariannol yn amrywio’n sylweddol. 

    Yn gyntaf, mae’r Coleg yn ddarostyngedig i gyfreithiau a rheoliadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y datganiadau ariannol gan gynnwys deddfwriaeth adrodd ariannol (gan gynnwys deddfwriaeth cwmnïau cysylltiedig a deddfwriaeth addysg bellach cysylltiedig, gan gynnwys y Cyfarwyddyd Cyfrifon ar gyfer Colegau Addysg Bellach yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru), deddfwriaeth elw dosbarthadwy a deddfwriaeth pensiynau ac aseswyd graddau’r cydymffurfio â’r cyfreithiau a’r rheoliadau hyn fel rhan o’n gweithdrefnau ar yr eitemau cysylltiedig ar y datganiad ariannol. 

    Yn ail, mae’r Coleg yn ddarostyngedig i lawer o gyfreithiau a rheoliadau eraill lle gallai canlyniadau methu â chydymffurfio gael effaith faterol ar symiau neu ddatgeliadau yn y datganiadau ariannol, er enghraifft trwy osod dirwyon neu ymgyfreitha. Fe wnaethom nodi’r meysydd canlynol fel y rheiny sydd fwyaf tebygol i gael effaith o’r fath: iechyd a diogelwch, cyfreithiau diogelu data, cyfraith cyflogaeth, gan gydnabod natur gweithgareddau’r Coleg. Mae safonau archwilio yn cyfyngu’r gweithdrefnau archwilio gofynnol i nodi achosion o ddiffyg cydymffurfio â’r cyfreithiau a’r rheoliadau hyn i holi’r cyfarwyddwyr ac archwilio gohebiaeth reoleiddiol a chyfreithiol, os oes o gwbl. Felly, os na fydd achos o dorri rheoliadau gweithredol yn cael ei ddatgelu i ni neu os nad yw’n amlwg mewn gohebiaeth berthnasol, ni fydd archwiliad yn canfod y torri rheolau hynny.

    Cyd-destun gallu’r archwiliad i ganfod twyll neu dorcyfraith neu dorri rheoliad

    Oherwydd cyfyngiadau cynhenid archwiliad, mae perygl anochel nad ydym efallai wedi canfod rhai camddatganiadau materol yn y datganiadau ariannol, er ein bod wedi cynllunio a chyflawni ein harchwiliad yn briodol yn unol â safonau archwilio. Er enghraifft, po fwyaf yw’r pellter rhwng y cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau o’r digwyddiadau a’r trafodion a adlewyrchir yn y datganiadau ariannol, lleiaf oll yw’r tebygrwydd y byddai’r gweithdrefnau cyfyngedig sy’n ofynnol gan safonau archwilio yn ei nodi. 

    Yn ogystal, yn yr un modd ag unrhyw archwiliad, roedd risg uwch o beidio â chanfod twyll, gan y gallai’r rhain gynnwys cydgynllwynio, ffugio, hepgoriadau bwriadol, camliwio, neu ddiystyru rheolaethau mewnol. Mae ein gweithdrefnau archwilio wedi’u cynllunio i ganfod camddatganiad perthnasol. Nid ydym yn gyfrifol am atal diffyg cydymffurfio na thwyll ac ni ellir disgwyl i ni ganfod diffyg cydymffurfio â’r holl gyfreithiau a rheoliadau.

    Gwybodaeth arall 

    Mae’r Cyfarwyddwyr yn gyfrifol am y wybodaeth arall, sy’n cynnwys yr Adroddiad Strategol, Adroddiad y Cyfarwyddwyr, y Datganiad Budd Cyhoeddus a’r Datganiad o Lywodraethiant Corfforaethol a Rheolaeth Fewnol. Nid yw ein barn ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu’r wybodaeth arall ac, yn unol â hynny, nid ydym yn mynegi barn archwilio nac, ac eithrio fel y nodir yn benodol isod, unrhyw fath o gasgliad sicrwydd arno. 

    Ein cyfrifoldeb yw darllen y wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw’r wybodaeth honno, yn seiliedig ar ein gwaith yn archwilio’r datganiadau ariannol, wedi’i chamddatgan yn faterol neu’n anghyson â’r datganiadau ariannol neu’r wybodaeth a gawsom yn sgil archwilio. Yn seiliedig ar y gwaith hwnnw’n unig: 

    • nid ydym wedi canfod unrhyw gamddatganiadau materol yn y wybodaeth arall; 
    • yn ein barn ni, mae’r wybodaeth a roddwyd yn yr Adroddiad Strategol ac yn Adroddiad y Cyfarwyddwyr ar gyfer y flwyddyn ariannol yn gyson â’r datganiadau ariannol; ac 
    • yn ein barn ni, mae’r adroddiadau hynny wedi’u llunio’n unol â Deddf Cwmnïau 2006

    Materion y mae’n ofynnol i ni adrodd arnynt fel eithriad

    Yn unol â’r Ddeddf Cwmnïau 2006 mae’n ofynnol i ni adrodd i chi, os, yn ein barn ni: 

    • nad yw’r cofnodion ariannol sydd wedi eu cadw gan y Coleg yn ddigonol, neu os nad yw’r ffurflenni sy’n ddigonol ar gyfer ein harchwiliad wedi eu derbyn o’r adrannau na fuom yn ymweld â nhw; neu 
    • nad yw’r datganiadau ariannol y Coleg yn cyd-fynd â’r cofnodion a’r ffurflenni cyfrifo; neu 
    • nad yw rhai datgeliadau o dâl Cyfarwyddwyr a bennir gan y gyfraith wedi eu gwneud; neu 
    • nad ydym wedi derbyn yr holl wybodaeth ac esboniadau angenrheidiol ar gyfer ein harchwiliad. Nid oes gennym unrhyw beth i’w adrodd yn y cyswllt hwn.

    Cyfrifoldebau’r Cyfarwyddwyr 

    Fel yr eglurir yn llawnach yn eu datganiad ar dudalen [X], y Cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am: lunio’r datganiadau ariannol a bod yn hyderus eu bod yn rhoi darlun gwir a theg; rheolaeth fewnol i’r graddau sy’n angenrheidiol i’w galluogi i lunio datganiadau ariannol sy’n rhydd o gamddatganiad materol, boed hynny yn sgil twyll neu gamgymeriad; asesu gallu’r Coleg i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu, fel sy’n berthnasol, materion yn ymwneud â busnes gweithredol; a defnyddio’r sail gyfrifo busnes gweithredol heblaw eu bod naill ai’n bwriadu dirwyn y Coleg i ben neu i beidio â gweithredu, neu os nad oes unrhyw ffordd realistig arall o osgoi gwneud hynny. 

    Cyfrifoldebau’r Archwilydd 

    Ein hamcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynglŷn ag os yw’r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o gamddatganiadau materol, boed hynny ar sail twyll neu gamgymeriad, ac i gynnig ein barn yn adroddiad yr archwilydd. Mae sicrwydd rhesymol yn gyfystyr â lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw’n gwarantu fod archwiliad wedi’i gynnal yn unol â ISA (DU) bob amser yn darganfod camddatganiad materol pan fydd yn bodoli. Gall camddatganiadau ddigwydd yn sgil twyll neu gamgymeriad ac fe’u hystyrir yn berthnasol, yn unigol neu ar y cyd, os gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a gymerir ar sail y datganiadau ariannol. 

    Mae disgrifiad llawnach o’n cyfrifoldebau i’w weld ar wefan yr FRC: www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. 

    ADRODDIAD AR ANGHENION CYFREITHIOL A RHEOLAETHOL ERAILL 

    Mae angen i ni adrodd ar y materion canlynol yn unol â Chod Ymarfer Archwilio Addysg Bellach 2015 (a ddaeth i rym 1 Awst 2014) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn sgil Deddf Dysgu a Sgiliau 2000.

    Yn ein barn ni, ym mhob ffordd sylweddol: 

    • mae arian a wariwyd o grantiau Llywodraeth Cymru a chronfeydd eraill o ba bynnag ffynhonnell a weinyddwyd gan y Coleg at ddibenion penodol wedi’u cymhwyso’n briodol at y dibenion hynny ac, os yw’n briodol, wedi eu rheoli yn unol â phob deddfwriaeth berthnasol; 
    • mae arian a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru (a chyrff eraill a chronfeydd cyfyngedig os yn briodol) wedi ei ddefnyddio’n unol â’r Memorandwm Ariannol rhwng Llywodraeth Cymru a sefydliadau addysg bellach; ac 
    • mae’r datganiadau ariannol yn bodloni gofynion y Cyfarwyddyd Cyfrifon ar gyfer Colegau Addysg Bellach yng Nghymru 2022/23 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. 

    DIBEN EIN GWAITH ARCHWILIO AC I BWY YR YDYM YN GYFRIFOL 

    Cyflwynir yr adroddiad hwn i aelodau’r Coleg yn unig, fel corff, yn unol â Phennod 3 o Ran 16 o Ddeddf Cwmnïau 2006 a pharagraff 56(b) o Erthyglau Cymdeithasu’r Coleg. Cynhaliwyd ein gwaith archwilio er mwyn i ni allu hysbysu aelodau’r Coleg o’r materion hynny y mae’n ofynnol i ni eu datgan wrthynt mewn adroddiad archwilydd ac nid ar gyfer unrhyw ddiben arall. I’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, nid ydym yn derbyn nac yn cymryd cyfrifoldeb dros unrhyw un heblaw’r Coleg ac aelodau’r Coleg, fel corff, am ein gwaith archwilio, am yr adroddiad hwn, nac am y farn yr ydym wedi’i ffurfio.

  • Datganiad o Incwm Cynhwysfawr

    COLLEGE STATEMENT OF COMPREHENSIVE INCOME FOR THE YEAR ENDED 31 JULY 2023
  • Statement of Changes in Reserves
  • Balance sheet
  • cash flow
  • Sail llunio

    Cwmni cyfyngedig trwy warant wedi’i ymgorffori a’i leoli yn y Deyrnas Unedig yw Coleg Sir Gâr. 

    Lluniwyd y datganiadau ariannol hyn yn unol â’r Ddeddf Cwmnïau fel y’i haddaswyd i’r Datganiad o’r Arferion a Argymhellir: Cyfrifo ar gyfer Addysg Bellach ac Uwch 2019 (y SORP AB AU 2019), ac yn unol â’r Safonau Adrodd Ariannol 102 - “Y Safonau Adrodd Ariannol sy’n berthnasol yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon” (FRS 102), Deddf Cwmnïau 2006 a chyda’r Cylchlythyr LlC cymwys (2022-23). Mae Coleg Sir Gâr yn endid budd cyhoeddus ac mae felly wedi cymhwyso’r gofynion budd cyhoeddus perthnasol yn unol ag FRS 102. 

    Mae llunio datganiadau ariannol yn unol ag FRS 102 yn gofyn am ddefnyddio amcangyfrifon cyfrifo beirniadol. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r rheolwyr arfer barn wrth gymhwyso polisïau cyfrifo’r Coleg.

    Sail cyfrifo 

    Caiff y datganiadau ariannol eu llunio yn unol â’r confensiwn cost hanesyddol fel y’i haddaswyd trwy ddefnyddio prisiadau blaenorol fel cost dybiedig wrth drosglwyddo i FRS 102 ar gyfer rhai asedau sefydlog fel ar 1 Awst 2014. Cafodd y rheolau cyfrifo a nodir isod eu defnyddio’n gyson. 

    Mae’r Cwmni wedi’i eithrio yn rhinwedd a400 o Ddeddf Cwmnïau 2006 o’r gofyniad i baratoi datganiadau ariannol grŵp. Mae’r datganiadau ariannol hyn yn cyflwyno gwybodaeth am y Cwmni fel ymgymeriad unigol ac nid am ei grŵp. 

    Busnes gweithredol 

    Caiff gweithgareddau’r Coleg, yn ogystal â ffactorau sy’n debygol o effeithio ar ei ddatblygiad a’i berfformiad i’r dyfodol eu nodi yn yr Adroddiad Strategol. Cyflwynir sefyllfa ariannol y Coleg, ei lif arian, hylifedd a’i fenthyciadau yn y Datganiadau Ariannol a’r Nodiadau atodedig. 

    Lluniwyd y datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol y mae’r Cyfarwyddwyr yn ystyried i fod yn addas am y rhesymau canlynol. 

    Mae’r Cyfarwyddwyr wedi llunio rhagolygon llif arian ar gyfer cyfnod o 12 mis o ddyddiad cymeradwyo’r datganiadau ariannol yma. Wedi adolygu’r rhagolygon hyn, mae’r Cyfarwyddwyr o’r farn, o ystyried anawsterau difrifol ond credadwy, yn cynnwys effaith arfaethedig costau ynni ac argyfwng costau byw, bydd gan y Coleg gronfeydd digonol i fodloni ei rwymedigaethau wrth iddynt ddod yn ddyledus dros gyfnod o 12 mis o ddyddiad cymeradwyo’r datganiadau ariannol yma (y cyfnod asesu busnes gweithredol). O ganlyniad, mae’r Cyfarwyddwyr wedi llunio’r datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol. 

    Cydnabyddiaeth incwm 

    Mae grantiau refeniw’r Llywodraeth yn cynnwys grantiau cylchol corff cyllido a grantiau eraill a rhoddir cyfrif amdanynt yn unol â’r model cronni a ganiateir gan FRS 102. Mae’r grantiau cylchol gan Lywodraeth Cymru’n cynrychioli’r dyraniadau cyllid sydd i’w priodoli i’r flwyddyn ariannol gyfredol a chânt eu credydu’n uniongyrchol i’r cyfrif incwm a gwariant. Mae grantiau cylchol yn cael eu cydnabod yn unol â gweithgareddau cynlluniedig. Caiff unrhyw dangyflawni yn erbyn y gweithgaredd cynlluniedig hwn ei addasu yn ystod y flwyddyn a’i adlewyrchu yn lefel y grant cylchol a gydnabyddir yn y cyfrif incwm a gwariant. 

    Caiff incwm o ffioedd dysgu ei nodi fel gros a’i gydnabod yn y cyfnod y cawsant eu derbyn gan gynnwys pob ffi sy’n daladwy gan fyfyrwyr neu eu noddwyr. Mewn achosion lle mae swm y ffioedd dysgu wedi ei leihau, yn sgil disgownt am daliad prydlon, dangosir incwm derbyniadwy fel disgownt net. Mae bwrsarïau ac ysgoloriaethau’n cael eu cyfrifo ar gyfer gwariant gros ac nid yw’n cael ei dynnu o incwm.

    Caiff incwm o grantiau, contractau a gwasanaethau eraill a dderbyniwyd eu cynnwys i’r graddau y mae’r contract neu’r gwasanaeth dan sylw wedi ei gwblhau. Yn gyffredinol, mae hyn yn cyfateb i swm y gwariant perthnasol a wnaed yn ystod y flwyddyn ac unrhyw gyfraniadau cysylltiedig tuag at gostau gorbenion. 

    Cydnabyddir rhoddion cyfyngedig o fodloni amodau perthnasol; mewn llawer o achosion, mae hyn yn uniongyrchol gysylltiedig â’r gwariant a wnaed i ddibenion penodol. Cydnabyddir rhoddion sy’n cael eu cadw er budd y sefydliad fel gwaddol; cydnabyddir rhoddion eraill trwy eu cynnwys fel incwm arall yn y cyfrif incwm a gwariant. 

    Caiff pob incwm o flaendaliadau tymor byr eu credydu i’r cyfrif incwm a gwariant yn ystod y cyfnod y caiff ei ennill. 

    Caiff grantiau afreolaidd gan Lywodraeth Cymru neu gyrff eraill y llywodraeth a dderbynnir mewn perthynas â chaffael neu adeiladu asedau sefydlog eu trin fel grantiau cyfalaf gohiriedig a’u hamorteiddio yn unol â dibrisiant dros oes yr asedau o dan y dull cronni yn unol ag FRS 102. 

    Caiff incwm o werthu nwyddau neu wasanaethau ei gredydu i’r cyfrif incwm a gwariant pan gyflenwir y nwyddau neu’r gwasanaethau i’r cwsmeriaid allanol neu pan fydd telerau’r contract wedi’u bodloni.

    Cyfrifo ar gyfer buddion ôl-gyflogaeth 

    Mae buddion ôl-gyflogaeth ar gyfer staff y Coleg yn cael eu darparu gan y Cynllun Pensiwn Athrawon (CPA) a Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL). Cynlluniau buddion diffiniedig yw’r rhain, sy’n cael eu hariannu’n allanol a’u contractio allan o’r Ail Bensiwn Gwladol. 

    Cynllun heb ei ariannu yw’r CPA. Caiff cyfraniadau i’r CPA eu codi i’r incwm a gwariant er mwyn lledaenu cost pensiynau dros gyfnod bywyd gwaith staff yn y Coleg yn y fath fodd fel bod y gost pensiwn yn ganran sylweddol ar lefel y gyflogres oed pensiwn cyfredol ac yn y dyfodol. Pennir y cyfraniadau gan actiwarïaid cymwys ar sail prisiadau bob pum mlynedd sy’n defnyddio’r dull darpar fudd. Cynllun aml-gyflogwr yw’r CPA ac ni all y Coleg nodi ei gyfran o asedau a rhwymedigaethau sylfaenol y cynllun ar sail gyson a rhesymol. Caiff y CPA felly ei drin fel cynllun cyfraniadau diffiniedig a chaiff y cyfraniadau eu nodi fel cost yn y datganiad incwm ar gyfer y cyfnodau pan fydd staff mewn cyflogaeth. 

    Cynllun wedi’i ariannu yw CPLlL. Caiff asedau CPLlL eu mesur trwy gyfrwng gwerthoedd cau teg. Mesurir rhwymedigaethau CPLlL trwy ddefnyddio’r dull rhagamcanu credyd uned wedi’i ostwng ar y gyfradd enillion cyfredol ar fond corfforaethol o ansawdd uchel o derm ac arian cyfredol cyfatebol i’r rhwymedigaethau. Ceir y prisiadau actiwaraidd o leiaf bob tair blynedd a’u diweddaru ar bob dyddiad mantolen. Y symiau a godir ar warged gweithredu yw’r costau gwasanaeth cyfredol a chostau cyflwyno’r cynllun, newidiadau i fudd-daliadau, setliadau a chwtogiadau. Fe’u cynhwysir fel rhan o gostau staff. Caiff y llog net ar yr atebolrwydd/ased budd diffiniedig net hefyd ei gydnabod yn y Datganiad Incwm Cynhwysfawr ac mae’n cynnwys y gost llog ar y rhwymedigaeth budd diffiniedig a’r incwm o log ar asedau’r cynllun, wedi’i gyfrifo trwy luosi gwerth teg asedau’r cynllun ar ddechrau’r cyfnod yn ôl y gyfradd a ddefnyddir i ostwng y rhwymedigaethau budd. Cydnabyddir y gwahaniaeth rhwng y llog ar incwm ar asedau’r cynllun â’r gwir adenillion ar asedau’r cynllun yn yr incwm cynhwysfawr arall. Caiff enillion a cholledion actiwaraidd ar rwymedigaethau hefyd eu cydnabod yn syth yn yr incwm cynhwysfawr arall. Pan fydd cyfrifiad yn arwain at ased net, mae’r cydnabod wedi’i gyfyngu i’r graddau y gall y coleg adennill y gwarged, naill ai drwy lai o gyfraniadau yn y dyfodol neu drwy ad-daliadau o’r cynllun.

    Buddion cyflogaeth tymor byr

    Cydnabyddir buddion tymor byr megis cyflog ac absenoldeb ag iawndal (tâl gwyliau) fel cost yn ystod y flwyddyn y mae’r aelod staff yn gwasanaethu’r Coleg. Caiff unrhyw fuddion sydd heb eu defnyddio eu cronni a’u mesur fel swm ychwanegol y mae’r Coleg yn disgwyl ei thalu o ganlyniad i’r hawl nas defnyddiwyd.

    Pensiwn uwch

    Caiff cost wirioneddol unrhyw bensiwn uwch cyfredol i gyn aelod o staff ei dalu’n flynyddol gan y Coleg. Bydd y Coleg yn talu amcangyfrif o’r gost ddisgwyliedig yn y dyfodol o unrhyw gynnydd ym mhensiwn parhaus cyn aelod o staff yn llawn yn ystod y flwyddyn y bydd yr aelod staff yn ymddeol. Yn ystod y blynyddoedd canlynol, codir tâl ar ddarpariaethau yn y fantolen gan ddefnyddio’r daenlen pensiwn uwch a ddarperir gan y cyrff cyllido.

    Asedau diriaethol sefydlog

    Caiff asedau diriaethol sefydlog eu nodi fel cost/cost yn llai dibrisiad cronedig a cholledion amhariad cronedig. Caiff eitemau asedau sefydlog penodol sydd wedi eu hailbrisio i werth teg ar neu cyn dyddiad trosglwyddo SORP AB AU 2015, eu mesur ar sail cost dybiedig, sef y swm wedi ailbrisio ar ddyddiad yr ailbrisiad hwnnw. 

    (a) Tir ac adeiladau 

    Caiff adeiladau rhydd-ddaliad eu dibrisio dros eu cyfnod oes economaidd ddefnyddiol i’r Coleg rhwng deg a hanner can mlynedd. Dibrisir tir ac adeiladau rhydd-ddaliad dros 50 mlynedd, neu dros gyfnod y brydles, os yw honno’n fyrrach. Ni chaiff tir rhydd-ddaliad ei ddibrisio. 

    Pan gaiff tir ac adeiladau eu prynu gyda chymorth grantiau penodol, maent yn cael eu cyfalafu a’u dibrisio fel yr uchod. Caiff y grantiau perthnasol eu credydu i gyfrif incwm gohiriedig o fewn credydwyr a’u rhyddhau i’r cyfrif incwm a gwariant dros gyfnod oes economaidd ddefnyddiol yr ased perthnasol ar sail gyson â’r polisi dibrisio. Caiff yr incwm gohiriedig ei glustnodi rhwng credydwyr sy’n ddyledus o fewn blwyddyn a’r rhai sy’n ddyledus wedi mwy na blwyddyn. 

    Ni chaiff asedau sydd wrthi’n cael eu hadeiladu eu dibrisio nes i’r Coleg gael defnydd llawn o’r asedau hynny, a chânt eu dibrisio yn unol â’r polisi uchod ar ôl hynny. 

    Ni chaiff costau ariannol, sy’n cael eu priodoli’n uniongyrchol i adeiladu tir ac adeiladau, eu cyfalafu fel rhan o gost yr asedau hynny. 

    O fabwysiadu FRS 102, dilynodd y Coleg y ddarpariaeth drawsnewidiol i gadw gwerth llyfr tir ac adeiladau, a ail-brisiwyd yn 1998, fel cost dybiedig, ond nid i fabwysiadu polisi ailbrisio’r eiddo yma yn y dyfodol. 

    Cynhelir adolygiad o amhariad ar ased sefydlog os yw digwyddiadau neu newidiadau mewn amgylchiadau yn awgrymu efallai na fydd modd adennill swm cario unrhyw ased sefydlog. Cynhelir adolygiad blynyddol o ddangosyddion amhariad ar ddyddiad adrodd y datganiad ariannol. 

    (b) Cyfarpar (yn cynnwys gosodiadau a ffitiadau) 

    Caiff offer sy’n costio llai na £3,000 yr eitem unigol ei ddileu i’r cyfrif incwm a gwariant yn ystod y cyfnod pryniant. Caiff eitemau grŵp sydd mewn agregau uwchlaw’r trothwy ond heblaw hynny’n unigol, eu hadolygu’n arbennig cyn penderfynu ar y dull. Caiff pob cyfarpar arall ei gyfalafu ar gost prynu. Nid yw cyfarpar a etifeddwyd o’r Awdurdod Addysg Lleol wedi’i gynnwys yn y fantolen, gan ei bod yn bolisi ganddynt i godi cost prynu llawn yr ased i’r cyfrif incwm a gwariant ym mlwyddyn y pryniant.

    Caiff cyfarpar ei ddibrisio dros gyfnod economaidd defnyddiol ei oes fel a ganlyn:

    • Offer cyffredinol 5% - 25% y flwyddyn 
    • Offer cyfrifiadurol 20% - 33% y flwyddyn 
    • Gosodiadau a ffitiadau 10% - 25% y flwyddyn

    Pan fydd cyfarpar yn cael ei brynu gyda chymorth grantiau penodol caiff ei gyfalafu a’i ddibrisio yn unol â’r polisi uchod. Caiff y grantiau perthnasol eu credydu i gyfrif incwm gohiriedig o fewn credydwyr a’u rhyddhau i’r cyfrif incwm a gwariant dros gyfnod oes economaidd ddefnyddiol yr ased perthnasol ar sail gyson â’r polisi dibrisio. Caiff yr incwm gohiriedig ei glustnodi rhwng credydwyr sy’n ddyledus o fewn blwyddyn a’r rhai sy’n ddyledus wedi mwy na blwyddyn.

    Asedau sefydlog anniriaethol

    Mae’r Coleg wedi prynu nifer o gwotâu llaeth i’w defnyddio yng nghyswllt gweithgareddau ffermio’r Coleg. Mae cost cwotâu llaeth wedi ei nodi fel ased sefydlog anniriaethol. Caiff cwotâu llaeth eu hamorteiddio dros gyfnod o 10 mlynedd ar sail llinell syth.

    Asedau ar brydles

    Codir costau mewn perthynas â phrydlesi gweithredu ar sail llinell syth dros dymor y brydles. Caiff unrhyw bremiymau neu gymhellion prydles cysylltiedig â phrydlesi a arwyddwyd wedi 1 Awst 2014 eu lledaenu dros isafswm cyfnod y brydles. Mae’r Coleg wedi manteisio ar eithriadau trawsnewidiol FRS 102, ac wedi cadw’r polisi o ledaenu premiymau a chymhellion prydles hyd at ddyddiad adolygiad cyntaf rhent y farchnad ar gyfer prydlesi a arwyddwyd cyn 1 Awst 2014. 

    Caiff cytundebau prydles sy’n trosglwyddo pob risg a budd perchnogaeth ased i’r Coleg eu trin fel petai’r ased wedi’i brynu’n llawn. Caiff y rhain eu cyfalafu ar bris teg ar ddechrau’r brydles, a’u dibrisio dros gyfnod byrrach y brydles neu’r oes economaidd ddefnyddiol ar gyfer asedau tebyg a berchnogir. Dangosir yr elfen gyfalafu sy’n ddyledus fel rhwymedigaeth o dan brydlesi cyllid. 

    Caiff costau cyllid eu clustnodi dros gyfnod y brydles yn gymesur â’r elfen gyfalaf sy’n ddyledus. Lle mae taliadau prydles cyllid yn cael eu hariannu’n llawn gan grantiau offer cyfalaf y cyngor cyllido, mae’r asedau cysylltiedig yn cael eu dynodi fel asedau a ariennir gan grant.

    Buddsoddiadau

    Caiff buddsoddiadau mewn is-gwmnïau eu cyfrif ar gost llai amhariad yn y datganiadau ariannol. 

    Caiff buddsoddiadau rhestredig sy’n cael eu dal fel asedau anghyfredol a buddsoddiadau, eu nodi ar werth teg, gyda symudiadau’n cael eu cofnodi yn yr Incwm Cynhwysfawr. Caiff buddsoddiadau na restrir ar gyfnewidfa stoc gydnabyddedig eu cario ar gost hanesyddol llai unrhyw ddarpariaeth ar gyfer amhariad mewn gwerth, wedi eu hamcangyfrif drwy ddefnyddio techneg brisio.

    Stociau

    Caiff stociau eu nodi fel isafswm eu cost a’u gwerth net gwireddadwy. Gwneir darpariaeth ar gyfer stociau darfodedig, diffygiol ac sy’n symud yn araf, yn ôl yr angen.

    Arian parod a chyfwerth ag arian parod

    Mae arian parod yn cynnwys arian parod mewn llaw, blaendaliadau ad-daladwy ar alw a gorddrafftiau. Mae blaendaliadau yn ad-daladwy ar alw os ydynt ar gael yn ymarferol o fewn 24 awr heb gosb. 

    Buddsoddiadau tymor byr hynod hylifol y gellir eu trosi’n rhwydd i symiau hysbys o arian parod sydd â risg ddibwys o newid mewn gwerth yw symiau cyfwerth ag arian parod. Mae buddsoddiad yn gymwys fel cyfwerth ag arian parod pan fydd wedi aeddfedu dros dri mis neu lai o’r dyddiad y’i cafwyd.

    Cynnal a chadw eiddo

    Mae gan y Coleg gynllun cynnal a chadw hir dymor treigl deng mlynedd sy’n sail i’r gwaith cynnal a chadw cyfredol ar yr ystâd. Caiff cost gwaith cynnal a chadw hir dymor a chywirol arferol ei roi yn erbyn y cyfrif incwm a gwariant yn ôl y gofyn.
     

    Asedau ariannol, rhwymedigaethau ac ecwiti

    Caiff asedau ariannol, rhwymedigaethau ac ecwiti eu dosbarthu yn unol yn ôl sylwedd rhwymedigaethau cytundebol y cyfrwng ariannol, yn hytrach na ffurf gyfreithiol y cyfrwng ariannol. 

    Dosberthir unrhyw fenthyciadau, buddsoddiadau a blaendaliadau tymor byr a ddelir gan y Coleg fel cyfryngau ariannol sylfaenol yn unol â FRS 102. Caiff y cyfryngau yma eu cofnodi i ddechrau ar bris trafodiad yn llai cost trafodiad (costau hanesyddol). Mae FRS 102 yn ei gwneud yn ofynnol bod cyfryngau ariannol sylfaenol yn cael eu mesur ar gost amorteiddiedig. Nid yw benthyciadau a buddsoddiadau sy’n daladwy neu’n dderbyniadwy o fewn blwyddyn yn cael eu disgowntio

    Cyfnewid arian tramor

    Caiff trafodion mewn arian tramor eu cofnodi gan ddefnyddio’r gyfradd rheoli cyfnewid ar ddyddiad y trafodiad. Mae asedau a rhwymedigaethau ariannol mewn arian tramor yn cael eu trosi ar y cyfraddau cyfnewid ar ddiwedd y cyfnod ariannol, a chymerir yr holl wahaniaethau cyfnewid sy’n deillio o hynny fel incwm yn ystod y cyfnod y maent yn digwydd.

    Trethiant

    Ystyrir bod y Coleg yn pasio’r profion a nodir ym Mharagraff 1 Atodlen 6 o Ddeddf Cyllid 2010 a’i fod felly’n cydymffurfio â’r diffiniad o gwmni elusennol i ddibenion treth gorfforaethol yn y DU. Yn yr un modd, mae’n bosib y gellir eithrio’r Coleg rhag treth mewn perthynas ag enillion neu enillion cyfalaf a dderbynnir o fewn categorïau a gwmpesir gan adrannau 478-488 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 neu Adran 256 o Ddeddf Trethi Enillion Trethadwy 1992, i’r graddau y mae enillion neu enillion o’r fath yn cael eu cymhwyso at ddibenion elusennol yn unig. 

    Nid yw’r Coleg yn derbyn unrhyw eithriad yng nghyswllt Treth Ar Werth. 

    Mae is-gwmni’r Coleg, CCTA Enterprises Ltd, yn talu treth gorfforaethol a TAW yn yr un modd ag unrhyw sefydliad masnachol.

    Darpariaethau

    Cydnabyddir darpariaethau pan fydd gan y Coleg rwymedigaeth gyfreithiol neu adeiladol bresennol o ganlyniad i ddigwyddiad yn y gorffennol, mae’n debygol y bydd angen trosglwyddo budd economaidd i setlo’r rhwymedigaeth a gellir gwneud amcangyfrif dibynadwy o swm y rhwymedigaeth.

    Da byw

    Caiff da byw eu trin fel ased sefydlog lle y bwriedir eu defnyddio’n barhaus ar gyfer gweithgareddau’r Coleg. Caiff da byw eu hailbrisio’n flynyddol heb ychwanegu cost dibrisio. Caiff gwahaniaethau rhwng prisiadau olynol eu credydu neu eu hychwanegu neu gredydu i’r cyfrif incwm a gwariant.

    Costau asiantaeth

    Gweithreda’r Coleg fel asiant drwy gasglu a thalu cronfeydd ariannol wrth gefn a lwfansau cynnal a chadw addysgol. Caiff taliadau cysylltiedig a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru a thaliadau dilynol i fyfyrwyr eu heithrio oddi wrth incwm a gwariant y Coleg lle mae’r Coleg yn agored i’r risg leiaf neu’n mwynhau’r budd economaidd lleiaf posibl sy’n gysylltiedig â’r trafodiad.

    Cyfrifo ar gyfer cyfraniadau elusennol a gwaddolion

    Rhoddion a gwaddolion yw trafodion digyfnewid heb amodau yn ymwneud â pherfformiad. Caiff rhoddion a gwaddolion ag iddynt gyfyngiadau wedi eu gosod gan gyfranwyr eu cydnabod yn yr incwm pan fydd gan y Coleg hawl ar y cronfeydd hynny.

    Caiff incwm ei gadw o fewn y gronfa gyfyngedig hyd nes y bydd unrhyw gyfyngiadau a osodwyd gan roddwr wrth roddion neu waddolion yn cael eu bodloni, gan arwain at ryddhau’r incwm i gronfeydd cyffredinol wrth gefn trwy drosglwyddiad wrth gefn. Ni chaiff rhoddion heb gyfyngiadau eu cydnabod fel incwm pan fydd gan y Coleg hawl ar y cyllid. 

    Cofnodir incwm buddsoddi a symudiadau mewn gwaddolion gwerth teg eu cofnodi fel incwm yn y flwyddyn pan godant, naill ai fel incwm cyfyngedig neu anghyfyngedig yn unol â thelerau’r cyfyngiadau a gymhwyswyd i’r cronfeydd gwaddolion unigol.

    Mae tri phrif fath: 

    1. Gwaddolion anghyfyngedig parhaol – mae’r rhoddwr wedi nodi fod y cyllid i’w fuddsoddi’n barhaol er mwyn cynhyrchu llif incwm er budd cyffredinol y sefydliad 
    2. Gwaddolion cyfyngedig gwariadwy – mae’r rhoddwr wedi nodi amcan penodol ar wahân i brynu neu adeiladu asedau diriaethol sefydlog, a gall y sefydliad drosi swm y rhodd yn incwm 
    3. Gwaddolion cyfyngedig parhaol – mae’r rhoddwr wedi nodi fod y gronfa i’w buddsoddi’n barhaol er mwyn cynhyrchu llif incwm i’w ddefnyddio ar gyfer nod penodol

    Dyfarniadau wrth gymhwyso polisïau cyfrifyddu a ffynonellau allweddol o ansicrwydd amcangyfrif

    Wrth baratoi’r datganiadau ariannol yma, mae’r rheolwyr wedi dod i’r casgliadau isod: 

    • Penderfynu os oes yna ddangosyddion amhariad o safbwynt asedau diriaethol y grŵp. Ymysg y ffactorau a ystyriwyd wrth gyrraedd y fath gasgliad roedd hyfywedd economaidd a pherfformiad ariannol tebygol yr asedau i’r dyfodol a lle mae’n rhan o uned gynhyrchu arian fwy, hyfywedd a pherfformiad disgwyliedig yr uned honno. 

    Prif ffynonellau eraill ansicrwydd amcangyfrif 

    • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 

    Dibynna gwerth presennol rhwymedigaeth budd diffiniedig Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar nifer o ffactorau sy’n cael eu penderfynu ar sail actiwaraidd gan ddefnyddio nifer o ragdybiaethau. Mae’r rhagdybiaethau a ddefnyddir i bennu’r gost net (incwm) ar gyfer pensiynau’n cynnwys y gyfradd ddisgownt. Bydd unrhyw newidiadau yn y rhagdybiaethau yma, fel y nodir yn nodyn 21, yn effeithio ar y swm cario’r rhwymedigaeth pensiwn. Ymhellach, defnyddiwyd sail rholio ymlaen sy’n rhagweld canlyniadau’r prisiad actiwaraidd llawn diweddaraf a gynhaliwyd ar 31 Mawrth 2023 gan yr actiwari wrth brisio’r rhwymedigaeth pensiwn ar 31 Gorffennaf 2023. Byddai unrhyw wahaniaethau rhwng y ffigyrau ar y sail rholio ymlaen a phrisiad actiwaraidd llawn yn effeithio ar swm cario’r rhwymedigaeth pensiwn.

  • notes to financial statement 1
    notes to financial statement 2
    notes to financial statement  3

    Mae’r cyfraniadau pensiwn mewn perthynas â’r Pennaeth a deiliaid swyddi uwch eraill yn ymwneud â chyfraniadau’r cyflogwr i Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a Chynllun Pensiwn Athrawon ac maent yn cael eu talu ar yr un gyfradd ag ar gyfer gweithwyr eraill. 

    Ni dderbyniodd aelodau’r Bwrdd, ar wahân i’r Pennaeth ac aelodau staff, unrhyw daliad gan y Coleg heblaw am ad-daliadau am deithio a chynhaliaeth £497 (2022: £274) yn sgil eu dyletswyddau. 

    Derbyniodd y Pennaeth godiad cyflog o tua 6.5 % (2022: 1.87 %), ond derbyniodd staff eraill ar gyflogau uchel hefyd (yn cynnwys personél rheoli allweddol), godiad cyflog o 6.5 % yn ystod y flwyddyn (2022: 1.75%). Ni roddwyd taliadau bonws ychwanegol neu ychwanegiadau cyflog eraill i bersonél rheoli allweddol neu staff eraill ar gyflogau uwch (2020: dim), heblaw am yr 1.5 % “untro” ychwanegol a dalwyd i holl staff y sefydliad fel rhan o setliad y cytunwyd arno. Cyflog y Pennaeth, fel lluosrif o ganolrif cyflog yr holl weithwyr (yr holl staff llawn a rhan-amser ond heb gynnwys gweithwyr asiantaeth) oedd 5.4 yn 2023 (2022: 5.5). Yn yr un modd, y lluosrif yn seiliedig ar yr holl enillion oedd 5.5 yn 2023 (2022 : 5.7). 

    Caiff cydnabyddiaeth y Pennaeth ei feincnodi ar sefydliadau Addysg Bellach nodweddiadol o faint a strwythur tebyg gan adlewyrchu heriau a maint y swydd. Mae Coleg Sir Gâr, ynghyd â’i is-gwmni, Coleg Ceredigion yn gwmni mawr gyda throsiant ar y cyd o dros £ 46 m gyda mwy na 650 o staff wedi eu gwasgaru dros ardal amrywiol; yn wir, dros 2 sir: Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Mae’r dasg o reoli 7 safle, mor bell wrth ei gilydd, yn gymhleth a heriol. 

    Ymysg y mesurau perfformiad allweddol byddai sicrhau’r safonau uchaf posib o safbwynt ein gwaith addysgu a dysgu wrth gynnig amgylchedd cyffrous, arloesol a chynhwysol ar gyfer myfyrwyr a staff, gan wneud hynny o fewn yr adnoddau a ddarperir bob amser. 

    Her gyson yw sicrhau effeithiolrwydd ein gweithrediadau, ochr yn ochr ag ysfa i geisio a sicrhau ffynonellau newydd o incwm os yn bosib. Cyflawnir hyn yn unig drwy weithio gyda phob un o fuddddeiliaid y coleg, sy’n niferus, a sicrhau amgylchedd cytûn, cydweithredol a theg i bawb. 

    Ymhellach, gan fod y coleg yn rhan o grŵp ehangach fel is-gwmni Prifysgol Cymru : Y Drindod Dewi Sant, mae’r Pennaeth yn chwarae rôl bwysig o safbwynt cydweithio’n agos gyda’r brifysgol i gyflawni amcanion cynlluniedig a chytûn o fudd i’r ddwy ochr, wedi eu datblygu i greu’r lefel uchaf o ansawdd addysgu a phrofiadau i’r dysgwyr wrth hwyluso diwylliant ac amgylchedd dysgu gydol oes. 

    Mae’r Pennaeth yn adrodd yn uniongyrchol i’r Bwrdd Cyfarwyddwyr sydd yn y pen draw’n gyfrifol am berfformiad y Coleg. Y Cyfarwyddwyr sydd hefyd yn gyfrifol am werthuso ac asesu effeithiolrwydd y Pennaeth o safbwynt rheoli’r Coleg, ac yn yr un modd, y pecyn cydnabyddiaeth ar gyfer y rôl. 

    Mae’r Cyfarwyddwyr wedi cynnal asesiad o gyflog y Pennaeth ac yn credu bod y cyflog yn gymesur â’r rôl y coleg. Er mwyn dod i’r casgliad hwn, byddai asesiadau o faint, cymhlethdod, heriau a chyfrifoldeb wedi eu gwneud, yn ogystal ag ymarfer meincnodi o safbwynt colegau AB eraill o faint a chymhlethdod tebyg.

    other operating expenses
    notes to financial statement 4
    notes to financial statement 5
    notes to financial statement 6
    notes to financial statement 7
    notes to financial statement 8
    notes to financial statement 9
    notes to financial statement 10
    notes to financial statement 11
    notes to financial statement 12

    CPLlL (Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol) 

    Cynhaliwyd y prisiad actiwaraidd llawn olaf ar 31 Mawrth 2022 pan oedd gwerth marchnad asedau’r cynllun yn £3,243 miliwn. Cynrychiolai gwerth actiwaraidd yr asedau 113 % o rwymedigaethau cronedig y gronfa wedi caniatáu am gynnydd mewn enillion i’r dyfodol. Mae hyn yn gyfwerth â gwarged o £372 m. 

    Yr amcan cyllido fel y nodwyd gan yr FSS yw cyflawni a chynnal lefel gyllido solfedd o 100 % o rwymedigaethau. Yn unol â’r FSS, lle bo diffyg ariannol yn bodoli ar ddiwrnod gweithredu’r prisiad, bydd cynllun adfer diffyg ariannol yn cael ei roi ar waith sy’n gofyn am gyfraniadau ychwanegol i unioni’r diffyg ariannol. Yn yr un modd, lle bo gwarged materol, fel arfer mae’n briodol gwrthbwyso hwn yn erbyn cyfraniadau ar gyfer gwasanaeth yn y dyfodol, ac os felly bydd gostyngiadau cyfrannu yn cael eu rhoi ar waith er mwyn caniatáu ar gyfer hyn. 

    Ar y prisiad hwn, y cyfnod adfer cyfartalog ar gyfer cyflogwyr sydd â diffyg ariannol yw 9 mlynedd ac ar gyfer cyflogwyr sydd â gwarged, 14 mlynedd (yn amodol ar y byffer gwarged). 

    Y gyfradd cyfraniadau y cytunwyd arni ar gyfer y Coleg yn dechrau ar 1 Ebrill 2023 yw 20% (2022: 20%), a thaliad misol sefydlog o £0 (2022 : £0 y flwyddyn).

    2023 2022 2021
    Rate of inflation - CPI 2.70% 2.70%
    Rate of increase in salaries 4.20% 4.20%
    Rate of increase in pensions 2.80% 2.80%
    Discount rate 5.10% 3.50%

    Post Retirement Mortality assumptions

    Beginning of period:

    • Non-retired members: S3PA CMI 2018 (1.75%) (100% males, 91% females)
    • Retired Members: S3PA CMI 2018 (94% males, 92% females)

    End of period:

    • Non-retired members: S3PA CMI 2021 (1.75%) (100% males, 91% females)
    • Retired members: S3PA CMI 2021 (1.75%) (94% males, 92% females)

    Life expectancy

    Years Years Years
    Retiring Today - Males 21.4 23.0
    Retiring Today - Females 23.7 24.9
    Retiring in 20 years’ time - Males 22.8 24.4
    Retiring in 20 years’ time - Females 25.5 27.1

    Asset allocation:

    2023 2022 2021
    Equities 73.1% 70.4%
    Government bonds 0.2% 1.4%
    Other bonds 8.5% 7.3%
    Property 13.2% 15.8%
    Cash/Other 5.0% 5.1%
    Total 100.0% 100.0%

    The following amounts at 31 July 2023, 31 July 2022, and at 31 July 2021 were measured in accordance with the requirements of FRS 102 (note that IAS 19 has been used to calculate the value of pension surplus to be recognised on the balance sheet which concluded that the surplus should be restricted to NIL – see LGPS Policy under policies on page 37 for more detail):

    2023 (£000) 2022 (£000) 2021 (£000)
    Fair value of plan assets 57,252 54,837
    Liabilities (50,842) (63,051)
    Surplus / (Deficit) in the scheme 6,410 (8,214)
    Effect of the asset ceiling (6,410)
    Recognised pension asset / (liability) (8,214)

    The following components of the pension charge have been recognised in the Statement of Comprehensive Income for the years ended 31 July 2023 and 31 July 2022:

    2023 (£000) 2022 (£000)
    Amounts recognised in the statement of Comprehensive Income:  
    Amounts included in staff costs  
    Current service cost (2,192)
    Administration cost (32)
    Curtailment cost (25)
    Operating cost (2,249)
    Analysis of amounts charged to financing of provisions  
    Expected return on assets 1,936
    Interest on pension liabilities (2,195)
    Net finance (cost) / income (259)
    Amounts recognised in other Comprehensive Income  
    Difference between actual and expected return on scheme assets (435)
    Effects of changes in assumptions underlying the present value of scheme liabilities 15,910
    Actuarial (loss) / gain 15,475

    Movement in the College’s share of the scheme’s deficit during the year:

    2023 (£000) 2022 (£000)
    Deficit in scheme as at 1 August (8,214)
    Operating cost (2,249)
    Net finance (cost) / income (259)
    Actuarial (loss) / gain 18,475
    Contributions 1,657
    Deficit in scheme as at 31 July 6,410
    Effect of asset ceiling (6,410)
    Recognised pension asset / (liability)

    Asset and Liability Reconciliations:

    Reconciliation of Liabilities

    2023 (£000) 2022 (£000)
    Liabilities at start of year 63,051
    Current service cost 2,192
    Interest cost 2,195
    Contribution by scheme participants 497
    Changes in financial assumptions (17,618)
    Changes in demographic assumptions (2,189)
    Experience (gain)/loss 3,897
    Benefits paid (1,208)
    Curtailments and settlements 25
    Liabilities at end of year 50,842

    Reconciliation of Assets

    2023 (£000) 2022 (£000)
    Assets at start of year 54,837
    Expected return on assets 1,936
    Actuarial gain/(loss) (435)
    Administration expenses (32)
    Contributions by the employer 1,657
    Contributions by the scheme participant 497
    Benefits paid (1,208)
    Assets at end of year 57,252
    Effect of the asset ceiling (6,410)
    Recognised value of scheme assets 50,842

    The expected return on assets is determined by considering the expected returns available on the assets underlying the current investment policy. Expected yields on fixed interest investments are based on gross redemption yields at the balance sheet date. Expected returns on equity investments reflect long-term rates of return experienced in the respective markets.


    History of experience gains and losses

    Difference between actual and expected return on scheme assets:

    2023 (£000) 2022 (£000)
    Amount (435)
    Percentage of scheme assets -0.8%

    Experience gains and losses arising on scheme liabilities:

    2023 (£000) 2022 (£000)
    Effects of changes in assumptions underlying the present value of scheme liabilities 15,910
    Percentage of scheme liabilities 31.3%

    Total of amounts recognised in the statement of Comprehensive income:

    2023 (£000) 2022 (£000)
    Amount 15,475
    Percentage of scheme liabilities 30.4%

    Recent changes in global and UK economic pressures and tightening of monetary policy have had a significant impact on asset markets and corporate bond yields, which are key to the FRS 102 assessment of the net pension asset or liability. In particular, AA corporate bond yields, used to set the FRS 102 discount rate have increased significantly, with corresponding falls in asset value. The markets have been exceptionally volatile and therefore both gross BDO’s and assets have fallen.


    TPS (Teachers Pension Scheme)

    This report sets out the results of the actuarial valuation of the combination of the Teachers’ Pension Scheme (“pre 2015 Scheme”) and the 2015 Teachers’ Pension Scheme (“2015 Scheme”). The Scheme provides pensions and other benefits to teachers who have worked in schools or other educational establishments in England and Wales. The Scheme is an unfunded statutory public service pension scheme with the benefits underwritten by the Government. The Scheme is financed by payments from the employer and from those current employees who are members of the Scheme, who pay contributions at different rates based on pay and as specified in the regulations.

    The latest actuarial valuation of the scheme was carried out as at 31 March 2016 and in accordance with The Public Service Pensions (Valuations and Employers Cost Cap) Directions 2014. The Government Actuary (GA) reported on the valuation of the Teachers’ Pension Scheme on 9 June 2014. The GA concluded that:

    • At the date of the valuation, the liabilities in the scheme were £196.1 bn and the value of the assets was £218.1 bn giving a notional past service deficit of £22 bn;
    • The total recommended rate of contribution payable by employers from 1 September 2019 is 23.6% (previously 16.4%) of salary;

    The financial assumptions adopted for the current valuation and, for comparison, those adopted for the 2012 valuation, are shown below:

    2016 Valuation 2012 Valuation
    Discount rate  
    Real 2.40%
    Nominal 4.45%
    Pensions increases 2.00%
    Long term salary growth 4.20%
    - In excess of assumed CPI 2.20%

    FRS 102 (28)

    Under the definitions set out in FRS 102 (28.11), the TPS is a multi-employer pension scheme.

    The TPS is unable to provide for the College an identification of its share of the underlying (notional) assets and liabilities of the scheme. Accordingly, the College has taken advantage of the exemption of FRS 102 and has accounted for its contributions to the scheme as if it were a defined contribution scheme. The College has set out above the information available on the scheme and the implication for the College in terms of the anticipated contribution rates.

    notes to financial statement 13
    notes to financial statement 14
    notes to financial statement 15