Addysg Uwch: Polisi Ffioedd Dysgu Rhan Amser 2024 - 2025
Introduction
Os ydych yn cofrestru fel myfyriwr rhan-amser, dylech ddarllen a deall y telerau cofrestru a amlinellir isod cyn llofnodi’r ffurflen gofrestru. Mae’n arbennig o bwysig eich bod yn deall eich atebolrwydd a’n polisi ynglŷn â thaliadau ac ad-daliadau.
Ceir rhestr lawn o ffioedd dysgu’r Coleg yn Atodiad 1. Bydd myfyrwyr nad ydynt yn sicrhau cymorth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru neu’u cyflogwr yn atebol yn bersonol am dalu’r holl ffioedd dysgu.
MYFYRWYR RHAN-AMSER NEWYDD
Noder: mae’r ffioedd a restrir yn nodweddiadol o 23 - 24. Nid yw Cyllid Myfyrwyr Cymru hyd yma wedi rhyddhau cadarnhad o’r symiau cynnyddol ar gyfer 24 - 25. Cyn gynted â bod y cynnydd bychan yn cael ei gadarnhau, caiff y ddogfen hon ei diweddaru.
Gall myfyrwyr rhan-amser wneud cais am Fenthygiad Ffioedd Dysgu hyd at £2,625 i dalu cost eu ffioedd dysgu. Bydd hyn yn amodol ar feini prawf cymhwyster. Rhaid eich bod yn astudio ar ddwyster cwrs sydd o leiaf 25% i gael grant neu fenthyciad.
Hefyd gall myfyrwyr rhan-amser gael cymorth ariannol ar gyfer costau byw. Mae’r cymorth ar ffurf cyfuniad o grantiau a benthyciadau (yn dibynnu ar gymhwyster). Mae’r rhain yn cynnwys:
- Benthyciad cynhaliaeth o hyd at £5,929 (yn dibynnu ar incwm y cartref a dwyster yr astudiaeth)
- Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (WGLG) o o leiaf £250 a hyd at £4,500 (yn dibynnu ar incwm y cartref a dwyster yr astudiaeth)
Hefyd gall myfyrwyr wneud cais am gronfa galedi’r Coleg (Atodiad 2) ac efallai eu bod yn gymwys am ystod o gymorth ychwanegol os oes ganddynt blant, oedolion dibynnol, anabledd neu gyflwr iechyd.
CYLLID MYFYRWYR CYMRU
Caiff pob cais am fenthyciadau a grantiau eu trin gan Gyllid Myfyrwyr Cymru. Gellir dod o hyd i wybodaeth fanylach ynghylch sut i wneud cais a pha gymorth sydd ar gael yn cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk / Ffôn: 0300 200 4050
TALU FFIOEDD AC ATEBOLRWYDD
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod gennych gyllid digonol yn ei le cyn eich bod yn dechrau eich astudiaethau ac yn mynd i gostau ffioedd. Gofynnir i fyfyrwyr rhan-amser wrth gofrestru a ydynt:
- yn talu eu ffioedd eu hunain
- yn cael eu cefnogi gan eu cyflogwr neu
- wedi hawlio cymorth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.
Os ydych chi’n talu eich ffioedd eich hun caniateir i chi dalu ar 3 cham ar y mwyaf os yw’r ffioedd yn fwy na £400, a thrwy hyn dylid cwblhau Gorchymyn Debyd Uniongyrchol (DD) wrth gofrestru neu ei ddychwelyd i’r Gofrestrfa erbyn 30ain Hydref 2024 fan bellaf. Bydd y proffil taliadau DD fel a ganlyn:
Taliad 1 | Taliad 2 | Taliad 3 |
---|---|---|
33.3% o’r ffi | 33.3% o’r ffi | 33.3% o’r ffi |
Anfonir anfoneb atoch o leiaf 14 diwrnod cyn y taliad debyd uniongyrchol cyntaf, a fydd yn cadarnhau’r dyddiadau ar gyfer casglu’r ffioedd ynghyd â’r symiau a gaiff eu ddebydu. Bydd yr anfoneb wedi’i marcio ‘Er Gwybodaeth yn Unig’. Gwaetha’r modd, dim ond trwy Debyd Uniongyrchol y caniateir taliadau mewn camau.
Os yw eich cyflogwr yn bwriadu talu eich ffioedd yna mae rhaid i chi gael prawf o gefnogaeth ganddo ar bennaeth llythyr eich cyflogwr, yn nodi at bwy y dylid cyfeirio anfoneb ac yn nodi unrhyw rifau archeb/cyfeirnodau ac ati y mae am iddynt gael eu dyfynnu ar yr anfoneb. Fel arall, cyn cofrestru gallwch ofyn am ffurflen y coleg ‘Awdurdod i Anfonebu Cyflogwr/Noddwr am Ffioedd Cwrs’ oddi wrth y Gofrestrfa neu unrhyw Swyddfa Gampws, er mwyn i chi a’ch cyflogwr ei llenwi. Unwaith mae’r ffurflen wedi’i chwblhau dylech ei dychwelyd naill ai i’ch Swyddfa Gampws agosaf neu ei llwytho i fyny ar eich cyfrif ar-lein.
Os ydych yn hawlio cymorth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru, mae’n hanfodol eich bod yn rhoi gwybod i Gyllid Myfyrwyr Cymru eich bod yn mynychu’r Coleg cywir. Mae Coleg Sir Gâr, Coleg Ceredigion ac Ysgol Gelf Caerfyrddin i gyd yn rhan o Grŵp Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant. At ddibenion ffioedd rhaid i chi ddyfynnu: Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant ar eich holl ffurflenni wrth ddewis eich sefydliad a nodi Coleg Sir Gâr neu Goleg Ceredigion pan yn dewis eich lleoliad astudio. Gofynnir i fyfyrwyr lwytho i fyny prawf o’u cyllid adeg cofrestru. Os ydych yn parhau i fod yn y broses o hawlio cymorth gofynnir i chi ddarparu’r wybodaeth sy’n ofynnol o fewn y 28 diwrnod sy’n dilyn. Os ydych yn dal i fod heb ddarparu’r wybodaeth hon ewch anfoneb lawn am eich ffioedd er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol o’ch atebolrwydd i’r Coleg am eich ffioedd.
TYNNU NÔL AC AD-DALIADAU
Os ydych yn meddwl am roi’r gorau i’ch cwrs mae’n bwysig eich bod yn ceisio cyngor ar y cyfle cyntaf er mwyn sicrhau eich bod yn gwneud eich penderfyniad yn hollol ymwybodol o’r holl oblygiadau wrth wneud eich penderfyniad. Rhaid i chi hysbysu’ch tiwtor a’r Gofrestrfa yn ffurfiol ar unwaith os ydych yn penderfynu tynnu nôl o’ch astudiaeth neu eu gohirio, gan gadarnhau dyddiad eich presenoldeb olaf. Os ydych chi’n hawlio cymorth, dylech hefyd gysylltu â Chyllid Myfyrwyr Cymru oherwydd efallai y bydd tynnu nôl yn peryglu eich hawl i gymorth ariannol yn y dyfodol.
Rhoddirr cyfnod gras o bythefnos o ddechrau eich cwrs pan na chodir ffioedd. Yn dilyn y cyfnod gras o bythefnos bydd y telerau canlynol yn gymwys ar gyfer taliadau yn unol â thelerau ac amodau Benthyciadau Myfyrwyr, sef:
Tymor 1: 30 Medi 2024 | Tymor 2: 6 Ionawr 2025 | Tymor 3: 28 Ebrill 2025 |
---|---|---|
25% o’r ffi flynyddol | 50% o’r ffi flynyddol | 100% o’r ffi flynyddol |
PEIDIO Â THALU FFIOEDD
Os ydych ar unrhyw adeg yn profi problemau gyda thalu ffioedd, siaradwch â’ch tiwtor neu ceisiwch gymorth gan y Swyddog Lles a leolir ar eich campws.
Ni chaniateir i unrhyw fyfyriwr sy’n cwblhau blwyddyn academaidd heb dalu ffioedd i ailgofrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, hyd nes telir yr holl ffioedd sy’n weddill yn llawn. Gall methu â thalu am unrhyw gostau a godir arnoch gan y Coleg am unrhyw nwyddau neu wasanaethau a ddarperir arwain at gymryd camau Llys Sirol i adennill y swm/symiau sy’n weddill. Gellir hefyd defnyddio Asiantaethau Adfer Dyledion trydydd parti i geisio casglu unrhyw ffioedd sy’n weddill, gyda chost gwneud hynny yn cael ei hychwanegu i’ch dyled. Os bydd angen gweithredu yn y modd hwn, gellir defnyddio Gwybodaeth Bersonol a ddarparwyd gennych er mwyn cwblhau gwiriadau gwrthdwyll priodol. Mae’n bosibl y caiff Gwybodaeth Bersonol a ddarperir gennych ei datgelu i asiantaeth cyfeiriadau credyd neu atal twyll, ac mae’n bosibl y cedwir cofnod o’r wybodaeth honno.
ATODIAD 1
Ffioedd Dysgu Rhan-amser AU - Myfyrwyr Cartref yn unig
Cwrs | Ffi Lawn | Fesul credyd | Ffi Cofrestru |
---|---|---|---|
HNC blwyddyn 1af (60-80 credyd) | £2,205 | £36.75 | Yn cynnwys Ffi gofrestru |
HNC 2il flwyddyn (60+ credyd) | £2,202 | £36.70 | |
HNC 2il flwyddyn (40 credyd) | £1,468 | £36.70 | |
HND blwyddyn atodol | £2,205 | £36.75 | Yn cynnwys Ffi gofrestru |
Gradd Sylfaen blwyddyn 1af | £2,205 | £36.75 | |
Gradd Sylfaen 2il flwyddyn | £2,202 | £36.70 | |
Gradd Sylfaen 3edd flwyddyn | £2,115 | £35.25 | |
BA/BSc blwyddyn 1af | £2,205 | £36.75 | Yn cynnwys ffioedd stiwdio |
BA/BSc 2il flwyddyn | £2,202 | £36.70 | Yn cynnwys ffioedd stiwdio |
BA/BSc 3edd flwyddyn | £2,114 | £35.23 | Yn cynnwys ffioedd stiwdio |
BA/BSc 4edd flwyddyn | £2,061 | £34.35 | |
BA/BSc Blwyddyn 5-6 | £1,719 | £28.65 | Yn cynnwys ffioedd stiwdio |
Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg i Raddedigion/Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg Blwyddyn 1af | £2,205 | £36.75 | |
Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg i Raddedigion/Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg 2il flwyddyn | £2,202 | £36.70 |
ATODIAD 2 - CRONFA GALEDI ADDYSG UWCH: MYFYRWYR LLAWN A RHAN-AMSER
Mae hon yn ffynhonnell ychwanegol o gymorth ariannol ar gyfer unrhyw fyfyriwr sydd wedi cael Benthyciad Myfyriwr (os yw’n gymwys) ac sy’n profi caledi ariannol. Rhaid i ymgeisydd hefyd ddangos ei fod ef/hi wedi edrych ar bob ffynhonnell ariannu arall, gan gynnwys eu darpariaeth gorddrafft, cyn y gellir ystyried cais.
Mae cymorth ariannol ar gael i unrhyw fyfyriwr yn y Deyrnas Unedig sy’n astudio o leiaf cyfwerth â 50% o gwrs llawn amser. Gall myfyriwr wneud cais am gyllid ar unrhyw adeg yn ystod y cwrs a gall ail-ymgeisio os yw mewn trafferthion ariannol. Fel rheol, nid oes angen ad-dalu arian. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: