Policy
Os ydych yn cofrestru fel myfyriwr, dylech ddarllen a deall y telerau cofrestru a amlinellir isod cyn llofnodi’r ffurflen gofrestru. Mae’n arbennig o bwysig eich bod yn deall eich atebolrwydd a’n polisi ynglŷn â thaliadau ac ad-daliadau. Ceir rhestr lawn o ffioedd dysgu’r Coleg yn Atodiad 1. Bydd myfyrwyr nad ydynt yn sicrhau cymorth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru yn atebol yn bersonol am dalu’r holl ffioedd dysgu.
-
Gall myfyrwyr llawn amser newydd wneud cais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu hyd at £9,000 i dalu cost eu ffioedd dysgu (£9000 i fyfyrwyr sy’n parhau). Bydd hyn yn amodol ar feini prawf cymhwyster.
Hefyd gall myfyrwyr llawn amser gael cymorth ariannol ar gyfer costau byw. Mae’r cymorth ar ffurf cyfuniad o grantiau a benthyciadau (yn dibynnu ar gymhwyster). Rhaid i fyfyrwyr fod dan 60 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs i gael mynediad i fenthyciad cynhaliaeth i israddedigion: cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk. Gall myfyrwyr sy’n 60 neu hŷn wneud cais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu a Grantiau ar gyfer Byw ond ni allant wneud cais am y benthyciad cynhaliaeth.
Gall myfyrwyr llawn amser fod yn gymwys am hyd at £12,150 y flwyddyn tuag at eu costau byw os ydynt yn byw i ffwrdd o gartref. Bydd pob myfyriwr cymwys yn derbyn grant o o leiaf £1,000 waeth beth fo incwm y cartref. Gall myfyrwyr o gartrefi ag incwm cartref is fod yn gymwys am grant o hyd at £8,100 nad oes rhaid ei ad-dalu.
Hefyd gall myfyrwyr wneud cais am Fwrsariaethau Coleg (gweler Atodiad 2), cronfa galedi’r Coleg (Atodiad 3) ac efallai eu bod yn gymwys am ystod o gymorth ychwanegol os oes ganddynt blant, oedolion dibynnol, anabledd neu gyflwr iechyd.
-
Caiff pob cais am fenthyciadau a grantiau eu trin gan Gyllid Myfyrwyr Cymru. Gellir dod o hyd i wybodaeth fanwl ynghylch sut i wneud cais a pha gymorth sydd ar gael yn cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk / Ffôn: 0300 200 4050
Dylai myfyrwyr amser llawn sy’n preswylio fel arfer yn Lloegr wneud cais am gymorth trwy Gyllid Myfyrwyr Lloegr gan fod cymorth ffioedd gwahanol ar gael Ffôn: 0845 300 5090
-
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod gennych gyllid digonol yn ei le cyn eich bod yn dechrau ar eich astudiaethau ac yn mynd i gostau ffioedd. Er mwyn sicrhau bod unrhyw gyllid rydych chi’n ei hawlio yn cael ei dalu i chi’n brydlon mae’n hanfodol eich bod yn rhoi gwybod i Gyllid Myfyrwyr Cymru/Student Finance England eich bod yn mynychu’r Coleg cywir. Mae Coleg Sir Gâr ac Ysgol Gelf Caerfyrddin i gyd yn rhan o Grŵp Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant. At ddibenion ffioedd rhaid i chi ddyfynnu: Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant ar eich holl ffurflenni wrth ddewis eich sefydliad a nodi Coleg Sir Gâr pan yn dewis eich lleoliad astudio.
Gofynnir i fyfyrwyr llawn amser ddarparu prawf o’u cyllid adeg cofrestru (gellir llwytho dogfennau i fyny). Os ydych yn parhau i fod yn y broses o hawlio cymorth gofynnir i chi ddarparu’r wybodaeth sy’n ofynnol o fewn y 28 diwrnod sy’n dilyn. Os ydych yn dal i fod heb ddarparu’r wybodaeth hon cewch eich anfonebu’n llawn am eich ffioedd er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol o’ch atebolrwydd i’r Coleg am eich ffioedd. This document is also available in English 3 Os ydych yn bwriadu talu eich ffioedd eich hun, gofynnir i chi dalu traean eich ffioedd adeg cofrestru, a chwblhau Gorchymyn Debyd Uniongyrchol ar gyfer y gweddill. Gall y Debyd Uniongyrchol hwn ddal i fod yn ei le yn ystod parhad y cwrs.
-
Os ydych yn meddwl am roi’r gorau i’ch cwrs mae’n bwysig eich bod yn ceisio cyngor ar y cyfle cyntaf er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r holl oblygiadau wrth wneud eich penderfyniad. Rhaid i chi hysbysu’ch tiwtor a’r Gofrestrfa yn ffurfiol ar unwaith os ydych yn penderfynu tynnu nôl o’ch astudiaethau neu eu gohirio, gan gadarnhau dyddiad olaf eich presenoldeb. Dylech hefyd gysylltu â Chyllid Myfyrwyr Cymru oherwydd gall y ffaith eich bod wedi tynnu nôl beryglu eich hawl i gael cymorth ariannol yn y dyfodol.
Rhoddir cyfnod gras o bythefnos o ddechrau eich cwrs pan na chodir ffioedd. Yn dilyn y cyfnod gras o bythefnos bydd y telerau canlynol yn gymwys ar gyfer taliadau yn unol â thelerau ac amodau Benthyciadau Myfyrwyr, sef:
Tymor 1: 30 Medi 2024 Tymor 2: 6 Ionawr 2025 Tymor 3: 28 Ebrill 2025 25% o’r ffi flynyddol 50% o’r ffi flynyddol 100% o’r ffi flynyddol -
Os ydych ar unrhyw adeg yn profi problemau gyda thalu ffioedd, siaradwch â’ch tiwtor neu ceisiwch gymorth gan y Swyddog Lles a leolir ar eich campws.
Ni chaniateir i unrhyw fyfyriwr sy’n cwblhau blwyddyn academaidd heb dalu ffioedd i ailgofrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, hyd nes telir yr holl ffioedd sy’n weddill yn llawn. Gall methu â thalu am unrhyw gostau a godir arnoch gan y Coleg am unrhyw nwyddau neu wasanaethau a ddarperir arwain at gymryd camau Llys Sirol i adennill y swm/symiau sy’n weddill. Gellir hefyd defnyddio Asiantaethau Adfer Dyledion trydydd parti i geisio casglu unrhyw ffioedd sy’n weddill, gyda chost gwneud hynny yn cael ei hychwanegu i’ch dyled. Os bydd angen gweithredu yn y modd hwn, gellir defnyddio Gwybodaeth Bersonol a ddarparwyd gennych er mwyn cwblhau gwiriadau gwrth-dwyll priodol. Mae’n bosibl y caiff Gwybodaeth Bersonol a ddarperir gennych ei datgelu i asiantaeth cyfeiriadau credyd neu atal twyll, ac mae’n bosibl y cedwir cofnod o’r wybodaeth honno.
-
Ffioedd Dysgu Llawn Amser AU Myfyrwyr Cartref yn unig Cwrs Ffi llawn HND, Gradd Sylfaen, BSc neu BA (Blwyddyn 1) £9,000 HND, Gradd Sylfaen, BSc neu BA (blynyddoedd yn weddill) £9,000 -
Myfyrwyr Newydd – Myfyrwyr Blwyddyn Gyntaf (Heb Fod yn Seiliedig ar Brawf Modd)
Mae’r bwrsariaethau hyn ar gael i Fyfyrwyr Newydd llawn amser – h.y. myfyrwyr blwyddyn gyntaf sy’n byw yn y Deyrnas Unedig ac sy’n cofrestru ar gwrs Addysg Uwch llawn amser yn y Coleg (h.y. Gradd, Gradd Sylfaen neu HND) ac sy’n dal i fynychu ar 1 Chwefror 2025.
Mae arian y bwrsariaethau hyn yn gyfyngedig, felly po gynharaf y gwnewch gais, gorau i gyd fydd eich siawns o gael un. Bydd myfyrwyr fel arfer yn gymwys ar gyfer hyd at un fwrsariaeth coleg yn unig. Bydd ymadawyr gofal yn gymwys ar gyfer hyd at 2 (Ymadäwr Gofal ac un arall).
Byddwch yn derbyn e-bost unwaith bod ceisiadau ar agor a byddwn yn anfon cadarnhad o gymhwyster i chi. Ni dderbynnir ceisiadau ar ôl 1 Tachwedd 2024. Mae pob bwrsariaeth yn amodol ar eich bod yn bodloni gofynion mynediad, rheolau a rheoliadau’r Coleg.
Bwrsariaeth Dilyniant Mewnol - £1000
Mae hon yn daladwy mewn dau randaliad ym mis Mawrth 2025 a mis Mehefin 2025 i fyfyrwyr sydd wedi symud ymlaen yn fewnol o gwrs lefel 3 yng Ngholeg Sir Gâr / Coleg Ceredigion.
Bwrsariaeth Dilyniant Ysgolion Partner - £300
Mae hon yn daladwy ym mis Mawrth 2025 i fyfyrwyr a symudodd ymlaen yn 2024 o Ysgol sy’n gydnabyddedig fel partner, h.y. Ysgol y mae’r Coleg yn cydweithio â hi fel rhan o’r Rhwydwaith 14-19 neu o raglenni ym Mhrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.
Bwrsariaeth Ymadawyr Gofal - £500
Mae hon yn daladwy ym mis Mawrth 2025 i fyfyriwr sydd wedi bod yng ngofal yr awdurdod lleol yn flaenorol.
Bwrsariaeth Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg - £500
Mae hon yn daladwy ym mis Mehefin 2025 i fyfyrwyr sy’n cwblhau o leiaf un modiwl o’u blwyddyn gyntaf drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bwrsariaeth Gofal Plant - £500
Mae hon yn daladwy ym mis Mawrth 2025 i fyfyrwyr sy’n rhieni â dibynyddion (o dan 16 ar 1af Medi 2024 ac mewn addysg lawn amser ) sy’n byw yn yr un cyfeiriad â nhw.
Bwrsariaeth Cwblhad Llwyddiannus - £300
Mae hon yn daladwy ym mis Mehefin 2025 i fyfyrwyr sy’n cwblhau eu hasesiadau blwyddyn gyntaf (heb unrhyw gyfeirio) ac sy’n symud ymlaen i ail flwyddyn eu Cwrs Addysg Uwch llawn amser yn y Coleg (h.y. Gradd, Gradd Sylfaen neu HND).
Bwrsariaeth Cludiant Tocyn Bws - £300
Bydd hon yn talu am bas bws y Coleg gwerth £300 i’r myfyrwyr hynny sydd ag anawsterau penodol yn ymwneud â chludiant. Bydd cludiant ar gael ar brif lwybrau teithio’r Coleg yn unig ac ni ddarperir cerbydau i gludo myfyrwyr i brif lwybrau teithio’r Coleg.
Bwrsariaeth Cit Chwaraeon - £150
Ar gael i fyfyrwyr Chwaraeon AU yn unig i ariannu anghenion cit hanfodol. Nid oes angen gwneud cais, bydd y cit yn cael ei ddarparu yn y man a’r lle gan eich Tiwtor Rhaglen.
Myfyrwyr yr Ail a’r Drydedd Flwyddyn – h.y. Myfyrwyr sy’n Parhau (Heb Fod yn Seiliedig ar Brawf Modd)
Mae nifer gyfyngedig o fwrsariaethau ar gael i fyfyrwyr yr ail a’r drydedd flwyddyn, sy’n byw yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi cofrestru ar Gwrs Addysg Uwch llawn amser yn y Coleg (h.y. Gradd, Gradd Sylfaen neu HND) ac sy’n dal i fynychu ar 1 Chwefror 2025.
Byddwch yn derbyn e-bost unwaith bod ceisiadau ar agor a byddwn yn anfon cadarnhad o gymhwyster i chi. Ni dderbynnir ceisiadau ar ôl 1 Tachwedd 2024. Mae pob bwrsariaeth yn amodol ar eich bod yn bodloni rheolau a rheoliadau’r Coleg.
Mae arian y bwrsariaethau hyn yn gyfyngedig - felly po gynharaf y gwnewch gais, gorau i gyd fydd eich siawns o gael un. Bydd myfyrwyr yn gymwys ar gyfer hyd at un fwrsariaeth goleg yn unig. Bydd ymadawyr gofal yn gymwys ar gyfer hyd at 2 (Ymadäwr Gofal ac un arall).
Bwrsariaeth Cwblhad Llwyddiannus ar gyfer myfyrwyr yr ail flwyddyn - £300
Mae hon yn daladwy ym mis Mehefin 2025 i fyfyrwyr sy’n cwblhau eu hasesiadau ail flwyddyn (heb unrhyw gyfeirio). Mae hon ar gael i fyfyrwyr ail flwyddyn yn unig.
Bwrsariaeth Ymadawyr Gofal - £500
Mae hon yn daladwy ym mis Mawrth 2025 i fyfyriwr sydd wedi bod yng ngofal yr awdurdod lleol yn flaenorol.
Bwrsariaeth Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg - £500
Mae hon yn daladwy ym mis Mehefin 2025 i fyfyrwyr sy’n cwblhau o leiaf un modiwl o’u hail neu drydedd flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bwrsariaeth Gofal Plant - £500
Mae hon yn daladwy ym mis Mawrth 2025 i fyfyrwyr sy’n rhieni â dibynyddion (o dan 16 ar 1af Medi 2024 ac mewn addysg lawn amser ) sy’n byw yn yr un cyfeiriad â nhw.
Bwrsariaeth Cludiant Tocyn Bws - £300
Bydd hon yn talu am bas bws y Coleg gwerth £300 i’r myfyrwyr hynny sydd ag anawsterau penodol yn ymwneud â chludiant. Bydd cludiant ar gael ar brif lwybrau teithio’r Coleg yn unig ac ni ddarperir cerbydau i gludo myfyrwyr i brif lwybrau teithio’r Coleg.
SUT I WNEUD CAIS
Gwnewch gais ar-lein unwaith eich bod wedi derbyn cadarnhad bod ceisiadau ar agor. Gall eich tiwtor Addysg Uwch neu swyddfa gampws leol eich helpu gyda hyn. Neu e-bostiwch registry_info@colegsirgar.ac.uk
-
Mae hon yn ffynhonnell ychwanegol o gymorth ariannol ar gyfer unrhyw fyfyriwr sydd wedi cael Benthyciad Myfyriwr (os yw’n gymwys) ac sy’n profi caledi ariannol. Rhaid i ymgeisydd hefyd ddangos ei fod ef/hi wedi edrych ar bob ffynhonnell ariannu arall, gan gynnwys eu darpariaeth gorddrafft, cyn y gellir ystyried cais.
Mae cymorth ariannol ar gael i unrhyw fyfyriwr yn y Deyrnas Unedig sy’n astudio o leiaf cyfwerth â 50% o gwrs llawn amser. Gall myfyriwr wneud cais am gyllid ar unrhyw adeg yn ystod y cwrs a gall ail-ymgeisio os yw mewn trafferthion ariannol. Fel rheol, nid oes angen ad-dalu arian. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: