Astudio Busnes, Cyllid a Rheolaeth yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion
Bydd astudio cwrs Busnes, Cyllid neu Reolaeth yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn rhoi set sgiliau cynhwysfawr i chi a werthfawrogir yn fawr yn y farchnad swyddi. O gorfforaethau byd-eang ac arweinwyr diwydiant i fentrau cymdeithasol a hunangyflogaeth, bydd pob math o sefydliad yn elwa ar ymgeiswyr â sgiliau busnes, sgiliau ariannol neu brofiad rheolaeth. Felly p’un a ydych yn bwriadu dringo’r ysgol gorfforaethol neu ddechrau eich busnes eich hun, bydd ein cyrsiau yn darparu’r sylfaen a’r offer sydd eu hangen arnoch i gyflawni eich cyrchnodau.
Cyrsiau busnes
Bydd ein cyrsiau busnes yn rhoi’r cyfle i chi ymgysylltu mewn profiadau dysgu ymarferol, gan gydweithio â’ch cymheiriaid a thiwtoriaid i fynd i’r afael â heriau busnes byd go iawn trwy weithgareddau megis gweithio gyda busnesau lleol, gwaith tîm a thasgau arweinyddiaeth. Hefyd gallwch chi fanteisio ar gyfleoedd profiadol fel teithiau rhyngwladol, lleoliadau gwaith a chyfarfodydd gydag arbenigwyr ymweliadol a fydd yn cyfoethogi eich dealltwriaeth o ddynameg fusnes fyd-eang.
Cyrsiau cyllid
Mae ein cyrsiau cyllid yn berffaith ar gyfer y rheiny sydd am ddilyn gyrfa mewn cyfrifeg neu gyllid. Yn agored i ystod o ddysgwyr, o’r rheiny sy’n gadael yr ysgol i rai sy’n newid gyrfa a mwy, mae ein cyrsiau wedi’u cymeradwyo gan AAT a’u cydnabod gan y diwydiant.
Cyrsiau rheolaeth
Bydd ein cyrsiau rheolaeth yn rhoi cyfle i chi ddysgu am eich arddull arweinyddiaetth a myfyrio am arddulliau rheolaeth amrywiol sefydliadau. Byddwch yn cael cyfle i fyfyrio ar yr hyn mae arweinyddiaeth yn ei olygu i chi ac i ystyried sut i gael y gorau o’ch pobl. Bydd cwblhau’r cyrsiau byr hyn yn arwain at gymwysterau ILM a gydnabyddir gan y diwydiant, gan eich helpu i gymryd y camau nesaf yn eich taith yrfaol.
Pam astudio Busnes, Cyllid a Rheolaeth gyda ni …
Past Students
Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i…
- Agor eu busnesau eu hunain, gan gynnwys siop Dillad o’r Oes a Fu, busnes gwasanaethau cartref a chwmni cyfrifeg.
- Wedi mynd ymlaen i astudiaethau pellach mewn Prifysgolion yn cynnwys Lerpwl, Caerdydd a Bryste.
- Ennill cyfleoedd cyflogaeth clodfawr yn cynnwys gweithio fel asiant Gwerthu Tir a Thai yn Dubai.
Newyddion Perthnasol...
Treuliodd myfyrwyr o Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion ddiwrnod yn archwilio bywyd prifysgol ym Mhrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant ble buont yn cystadlu mewn grwpiau i gyflwyno cynigion o’u syniadau busnes i banel prifysgol arbenigol.