Myfyrwyr yn cyflwyno cynigion o’u syniadau busnes i banel prifysgol yn ystod ymweliad â’r campws
Treuliodd myfyrwyr o Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion ddiwrnod yn archwilio bywyd prifysgol ym Mhrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant ble buont yn cystadlu mewn grwpiau i gyflwyno cynigion o’u syniadau busnes i banel prifysgol arbenigol.
Bu myfyrwyr busnes a theithio a thwristiaeth yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Codi Herio Newid y brifysgol ble gofynnwyd i grwpiau o fyfyrwyr ymchwilio i syniadau busnes cynaliadwy a’u cyflwyno.
Roedd yr ymatebion i friff y gystadleuaeth yn cynnwys y cwmni Plannu’r Dyfodol (Planting the Future), a enillodd aur i fyfyrwyr teithio a thwristiaeth Coleg Sir Gâr ar gyfer eu pecynnau hadau arloesol y gellir eu plannu. Arian enillodd Tanwydd y Dyfodol (Future Fuel), sef menter gan fyfyrwyr busnes Coleg Sir Gâr sy’n defnyddio biodiesel ac enillodd tîm busnes Coleg Ceredigion, Instant Chef, efydd am eu hap atal gwastraff bwyd a ryseitiau.
Yn beirniadu ar banel y brifysgol roedd Dr Alex Bell, uwch-ddarlithydd mewn busnes, Jessica Shore, rheolwr y rhaglen fusnes, myfyriwr busnes a rheolaeth Harri Dendle a Dr Louise Emanuel, cyfarwyddwr academaidd ar gyfer y Sefydliad Rheolaeth ac Iechyd.
Yn ogystal rhoddodd y brifysgol gylchdeithiau o gwmpas ei champws Caerfyrddin lle bu myfyrwyr yn ymweld â’r neuaddau preswyl ac ardal ddigwyddiadau Undeb y Myfyrwyr, ble treulion nhw egwyl amser cinio gyda pizza a ddarparwyd gan PCYDDS.


