Skip page header and navigation

Polisi Derbyn a Dilyniant 2023 - 2026

Policy

  • Colegau addysg bellach yw Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion (y Coleg o hyn ymlaen) sy’n rhan o Grŵp Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant. Mae’r Coleg yn gweithredu ar 7 campws ar draws de orllewin Cymru ac mewn lleoliadau gweithleoedd a lleoliadau cymunedol. Mae’r Coleg yn cynnig ystod eang o addysg academaidd a galwedigaethol a rhaglenni hyfforddi sy’n amrywio o lefel Mynediad i lefel Gradd.

  • Mae’r Polisi Derbyn a Dilyniant yn nodi: 

    • yr egwyddorion a’r prosesau a ddefnyddir i dderbyn dysgwyr i raglenni astudio a’r; 
    • gofynion ar gyfer dilyniant dysgwyr unwaith maent yn y Coleg.
  • Datblygwyd y polisi hwn ar lefel Uwch Reolwyr ac fe’i cymeradwywyd gan Adran Weithredol a Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg. 

    Mae Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb a’r Effaith ar yr Iaith Gymraeg wedi cael ei wneud mewn perthynas â’r polisi hwn.

  • Cyfle Cyfartal 

    Mae’r Coleg yn ymdrechu i fod yn gwbl hygyrch a chynhwysol gan sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd am raglen astudio yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail: oedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, hil, ffydd neu gred, beichiogrwydd a mamolaeth, priodas neu bartneriaeth sifil, cyfrifoldeb am ddibynyddion, statws economaidd-gymdeithasol, neu’n cael ei roi dan anfantais gan amodau neu ofynion na ellir eu dangos bod modd eu cyfiawnhau. 

    Mae’r Coleg yn hyrwyddo darpariaeth hygyrch a hyblyg ac yn darparu cyfleoedd i bawb mewn Addysg Bellach, Addysg Uwch a Dysgu Seiliedig Ar Waith.

    Yr Iaith Gymraeg 

    Mae’r Coleg yn gweithredu yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg. 

    Mae’n croesawu ceisiadau trwy gyfrwng y Gymraeg neu Saesneg, yn cyflwyno ystod o raglenni sy’n gwasanaethu anghenion dysgwyr sydd â sgiliau iaith Gymraeg ac yn darparu ethos a diwylliant Cymreig yn y Coleg. 

    Mae’r coleg yn hyrwyddo dysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Caiff dwyieithrwydd ei adlewyrchu yn ei ethos ac yn y modd y mae’n rhedeg ei gyrsiau. Cyflwynir dysgwyr i ddwyieithrwydd ar sawl ffurf a byddant yn cael y cyfle a’u hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau dwyieithog ac asesu Cymraeg yn yr ystafell ddosbarth yn ogystal â digwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol drwy gydol y flwyddyn academaidd.

  • Caiff ceisiadau gan ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol eu hystyried ar yr un sail â phawb arall; fodd bynnag, gofynnir i ymgeiswyr drafod eu hanghenion cymorth gyda’r Coleg o flaen llaw i ganiatáu amser rhesymol i sicrhau bod unrhyw gymorth sydd ei angen yn ei le. Cyfrifoldeb y dysgwr yw rhoi gwybod i’r Coleg am unrhyw anghenion dysgu ychwanegol a/neu anableddau hysbys wrth ymgeisio, adeg cyfweliad a/neu adeg cofrestru (neu cyn gynted â cheir diagnosis yn dilyn cofrestru). Pan fydd y coleg yn derbyn y wybodaeth, asesir y wybodaeth gan y tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). O ganlyniad gellir galw cyfarfod panel ADY (Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol/ALNCO, Cydlynydd Campws ADY a rheolwr Cwricwlwm) i asesu a yw’r Coleg yn gallu bodloni anghenion dysgu ychwanegol y dysgwr naill ai gan ei Ddarpariaeth Ddysgu Gyffredinol neu Ychwanegol. Bydd y Coleg yn darparu cyngor am addasrwydd rhaglenni a’r cyfarpar a/neu’r cymorth sydd ar gael. Mewn nifer fach o achosion, gall y Coleg ofyn i ymgeiswyr sydd wedi profi problem iechyd ddiweddar, sy’n ailddigwydd, neu sy’n ddifrifol ofyn am adroddiad(au) meddygol neu adroddiad(au) eraill gan yr asiantaethau perthnasol ynglŷn â’u cyflwr, megis cynllun iechyd. Nid yw’r adroddiadau hyn yn ffurfio rhan o’r broses ddewis ac ni fyddant ar gael i unrhyw un heblaw am staff Gwasanaethau Dysgwyr y Coleg. 

    Uwch Dîm Arweinyddiaeth y Coleg sy’n gyfrifol yn y pen draw am sicrhau bod y Coleg yn medru gwneud darpariaeth ddigonol ar gyfer dysgwyr ag anghenion ychwanegol a /neu anableddau ac am gadw cofnod o’r achosion eithriadol ble gwrthodir mynediad i ymgeisydd ar y sail nad yw’r cymorth ychwanegol perthnasol ar gael.

  • Mae’r Coleg yn ymrwymedig i gefnogi lles y dysgwr a bydd yn cyfeirio at y ‘Polisi Ffitrwydd i Astudio’ pe bai yna unrhyw bryderon ynglŷn â diogelwch a lles dysgwr posibl a/neu unrhyw effaith bosibl ar ddiogelwch a lles dysgwyr posibl eraill.

    Bydd hi’n ofynnol i’r Coleg gael gwiriad ffurfiol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer ymgeiswyr i rai rhaglenni. Bydd hyn yn cael ei wneud yn hysbys i ymgeiswyr mewn da bryd. Bydd canlyniad y broses hon yn cael ei ystyried wrth ddod i benderfyniad ynglŷn â derbyn unigolyn i un o’r rhaglenni hyn.

    Mae’r Coleg yn cadw’r hawl: 

    • i ofyn am eirda ar gyfer unrhyw ddysgwr posibl. 
    • i weithredu gwiriadau heddlu ar unrhyw ymgeisydd. Bydd canlyniad proses o’r fath yn cael ei ystyried wrth ddod i benderfyniad ynglŷn â derbyn unigolyn i’r Coleg (gweler telerau ac amodau Atodiad 1). 
    • i wrthod mynediad i ymgeiswyr sydd ag euogfarnau nad ydynt wedi darfod neu na allent byth ddarfod. Gellir gweithredu’r weithdrefn hon hefyd pan fo gwybodaeth ar gael am weithgareddau sydd y tu allan i’r gyfraith neu fynegi credoau, sydd prima facie yn cyflwyno perygl neu dorcyfraith amlwg ac uniongyrchol. 
    • i wrthod mynediad i ymgeisydd sydd wedi ei wahardd gan y sefydliad addysgol hwn neu un arall yn y gorffennol 
    • i beidio â derbyn ymgeisydd sydd â dyledion heb eu talu i’r Coleg 
    • i beidio â derbyn unigolyn sydd wedi mynychu’r sefydliad addysgol hwn neu un arall yn y gorffennol, ac sydd heb gwblhau cyrsiau, gan gynnwys yr holl asesiadau allanol 
    • i beidio â derbyn ymgeisydd ble mae tystiolaeth y gallai fod yn fygythiad neu’n berygl i eraill

    Bydd ceisiadau sy’n cwympo i mewn i’r categorïau uchod yn cael eu hystyried gan Banel Derbyn sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r Uwch Reolwyr gan gynnwys cynrychiolaeth gan Gyfadrannau.

  • Mae gan y Coleg nifer cyfyngedig o leoedd ar gyfer Dysgwyr Rhyngwladol ac mae’n derbyn ceisiadau yn flynyddol. Fel rheol rhaid i ddysgwyr fod â sgôr IELTS o 4.5 neu uwch er mwyn cael eu hystyried ar gyfer mynediad ar L3 a sgôr IELTS leiafswm o 5.5 er mwyn cael eu hystyried ar gyfer mynediad ar L4 neu uwch.

    Gellir ond ystyried dysgwyr rhyngwladol ar gyfer mynediad i raglenni llawn amser eu natur ac sydd ar lefel 3 neu uwch. Rhaid i bob dysgwr rhyngwladol wneud cais i’r Coleg yn gyntaf gan ddefnyddio ffurflen gais y Coleg. Bydd dysgwyr llwyddiannus yn cael eu derbyn yn ffurfiol gan y Coleg ond, ar ôl hynny, rhaid i ddysgwyr rhyngwladol fodloni gofynion UKVI y Swyddfa Gartref er mwyn cael y fisa briodol er mwyn astudio yn y Coleg.

    Gellir defnyddio cymwysterau tramor ar gyfer mynediad, ar yr amod eu bod yn cael eu hystyried i fod yn gyfwerth â gofynion y rhaglen benodol y maent yn ymgeisio amdani. Bydd dysgwyr rhyngwladol yn derbyn gwybodaeth am ofynion ffioedd a dulliau talu mewn ffurf ysgrifenedig, mewn da bryd cyn dechrau eu rhaglen.

  • Nid fydd dysgwyr o dan 16 mlwydd oed fel rheol yn cael mynediad i gyrsiau yn y Coleg neu’r rheiny sy’n cael eu cyflwyno ar ran y Coleg o dan drefniant gyda thrydydd parti. Mae’n bosibl mai’r unig eithriadau yw lle mae dysgwyr: 

    • yn mynychu rhaglenni Partneriaeth Rhwydwaith 14-19 a gefnogir gan y Coleg, yr ysgolion lleol a’r Awdurdod Addysg Leol; 
    • rhaglenni eithriadol wedi’u cymeradwyo i’w hariannu gan Lywodraeth Cymru; neu 
    • gwrs masnachol penodol neu gwrs allgyrsiol lle telir ffïoedd sy’n caniatáu derbyn dysgwyr o dan 16 mlwydd oed.
  • Fel rheol dylid cwblhau ceisiadau ar-lein cyn gynted â phosibl o fewn y flwyddyn academaidd bresennol er mwyn cael mynediad yn y flwyddyn academaidd ddilynol. Fel rhan o’r broses ymgeisio, gofynnir i ddysgwyr gytuno i Delerau ac Amodau Derbyn y Coleg - gweler Atodiad 1. 

    Dylai darpar ddysgwyr fod yn ymwybodol bod yna alw uchel iawn am rai rhaglenni a bod nifer y lleoedd yn gyfyngedig. Bydd y rhain yn cael eu llenwi ar sail y cyntaf i’r felin. Efallai y bydd y Coleg yn sefydlu rhestrau aros ar gyfer rhaglenni penodol ac yn cynnig lleoedd fel a phan fyddant ar gael.

  • Fel rheol, bydd lefel rhaglen unigol yn pennu’r gofynion mynediad. Fodd bynnag, dylid nodi mai gofynion lleiafswm a chyffredinol yw’r rhain ac efallai bod gofynion mynediad penodol hefyd yn berthnasol, e.e. ystyried portffolio mewn Celf a Dylunio neu glyweliad ar gyfer y Celfyddydau Perfformio. Bydd ymgeiswyr yn cael eu hysbysu am unrhyw anghenion penodol ar gyfer rhaglen ar gam cynnar yn y broses ymgeisio. Mae’r wybodaeth hon hefyd ar gael ar Wefan y Coleg ac ym mhrosbectysau’r Coleg. Mewn amgylchiadau eithriadol, efallai y bydd ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni’r gofynion mynediad arferol ar gyfer cwrs arbennig yn cael lle gydag amodau penodol. Bydd yr amodau hyn yn cael eu gwneud yn eglur i’r ymgeisydd. Bydd penderfyniad i dderbyn ymgeisydd o dan yr amgylchiadau hyn fel y gwelo Tîm Rheoli’r Gyfadran berthnasol, y Pennaeth neu enwebai yn ddoeth.

  • Rhagarweiniad 

    Mae dysgwyr mewn addysg ôl-16 ar draws Cymru yn astudio rhaglenni dysgu yn hytrach na phrif gymhwyster yn unig. Mae sawl elfen i raglen ddysgu a all gynnwys: 

    • Prif Gymhwyster (Gymwysterau); 
    • Craidd (Sgiliau, TGAU neu Dystysgrif Her Sgiliau); 
    • Cymwysterau ychwanegol â ffocws ar y gymuned, y dysgwr, y diwydiant; 
    • Dysgu nad yw’n achrededig; 
    • Profiad gwaith neu Addysg Gysylltiedig â Gwaith; 

    Bydd rhaglenni dysgu unigol ar gyfer pob dysgwr a bydd cynnydd ar y rhain yn cael ei fonitro trwy diwtorialau.

    Cymwysterau 
    Cymwysterau Galwedigaethol Lefel 3 

    Fel rheol bydd disgwyl i ddysgwyr sydd am astudio cymhwyster galwedigaethol ar Lefel 3 fod wedi ennill lleiafswm o bump TGAU gradd A*-C neu fod wedi cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel 2 yn llwyddiannus ac wedi cael cyfweliad dilyniant llwyddiannus. 

    Bydd dilyniant yn dibynnu ar asesiad y Coleg o unigolyn a’i allu i lwyddo ar y cwrs. I gael mynediad i Flwyddyn 2 rhaglen ddysgu alwedigaethol Lefel 3 rhaid i ddysgwyr ddangos eu bod wedi cwblhau elfennau rhagnodedig eu rhaglen ddysgu ddewisol yn llwyddiannus fel y dynodwyd gan y gyfadran berthnasol.

    Lefel UG / Safon Uwch 

    Fel arfer bydd disgwyl i ddysgwyr sydd eisiau astudio rhaglen Uwch Gyfrannol / Safon Uwch lawn amser fod wedi ennill lleiafswm o chwech TGAU gradd A* - C sy’n cynnwys o leiaf gradd C mewn Mathemateg a Saesneg Iaith neu Gymraeg Iaith Gyntaf. Dylai dysgwyr hefyd fod yn ymwybodol o ofynion pynciau UG a Safon Uwch unigol.

    Tystysgrif Her Sgiliau Uwch (SCC)

    Mae hwn yn gwrs cyfwerth â Safon Uwch, sydd wedi’i raddio A* - E, ac mae’n cael ei astudio ochr yn ochr â phob cwrs Safon Uwch a rhai cyrsiau lefel 3 galwedigaethol. Mae ganddo’r un nifer o bwyntiau UCAS â chwrs Safon Uwch llawn ac fe’i cynlluniwyd i ddatblygu a symud sgiliau dysgwyr ymlaen mewn Llythrennedd; Rhifedd; Llythrennedd Digidol; Effeithiolrwydd Personol; Cynllunio a Threfnu; Meddwl yn Feirniadol; Creadigrwydd ac Arloesedd a Datrys Problemau. Elfen allweddol o’r cwrs SCC yw’r Astudiaeth Unigol, sy’n rhoi cyfle i’r dysgwyr gyflawni prosiect ymchwil manwl i faes sydd o ddiddordeb iddynt neu lwybr gyrfa uchelgeisiol. Mae’r SCC ar lefel 3 yn gymhwyster wedi’i raddio ac mae ganddo’r un pwyntiau UCAS â chymhwyster Safon Uwch.

    Rhaglenni Mynediad i Addysg Uwch

    Mae Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch yn darparu paratoad ar gyfer addysg uwch (AU). Maent yn mynd i’r afael â gofynion penodol oedolion sydd efallai wedi gadael yr ysgol yn gynnar neu wedi bod y tu allan i addysg am nifer o flynyddoedd. Bydd disgwyl i ddysgwyr gael cyfweliad a’u bod eisoes wedi ennill TGAU Mathemateg a Saesneg Gradd C neu uwch, a TGAU Gwyddoniaeth ar gyfer y llwybr Iechyd, neu’u bod wedi cwblhau cwrs Sgiliau at Astudio Pellach/cwrs Cyn-mynediad. Bydd yr asesiadau hyn yn dangos p’un a oes gan ddysgwr sgiliau digonol i ddechrau ar raglen fynediad neu os oes angen dilyn rhaglen baratoadol Cyn Mynediad yn gyntaf. Bydd ceisiadau gan ddysgwyr sydd eisoes wedi ennill Cymwysterau Lefel 4 yn cael eu hasesu gan y Panel Derbyn Mynediad.

    Cymwysterau Galwedigaethol Lefel 2

    Ceir gwahanol ofynion mynediad ar gyfer gwahanol raglenni dysgu ar Lefel 2. Fel rheol, bydd disgwyl i ddysgwyr sydd am astudio cymhwyster galwedigaethol ar Lefel 2 fod wedi ennill o leiaf 4 TGAU, graddau A* - D, neu fod wedi cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel 1 yn llwyddiannus. Fodd bynnag, dylid nodi nad yw ennill cymhwyster galwedigaethol ar lefel 1 yn golygu bod dysgwr yn awtomatig yn gymwys i symud ymlaen i gwrs lefel 2. Bydd dilyniant yn dibynnu hefyd ar asesiad y Coleg o unigolyn a’i allu i lwyddo ar y cwrs.

    Cymwysterau Galwedigaethol Lefel 1

    Fel rheol bydd dysgwyr sydd am astudio cymhwyster galwedigaethol llawn amser ar Lefel 1 wedi cwblhau cymhwyster lefel Mynediad yn llwyddiannus, Tystysgrif Addysg neu wedi ennill cymwysterau TGAU ar raddau D i G. Fodd bynnag, dylid nodi nad yw cyflawni unrhyw un o’r cyrsiau uchod yn golygu bod dysgwr yn awtomatig yn gymwys i symud ymlaen i gwrs lefel 1. Bydd hyn yn cael ei asesu drwy gyfweliad dilyniant. Gellir dod o hyd i’r gofynion mynediad penodol ar gyfer pob cwrs ar Wefan y Coleg.

    Cymwysterau Lefel Mynediad

    Nid oes angen cymwysterau ffurfiol. Mae mynediad yn dibynnu ar gyfweliad llwyddiannus ac ar asesiad y Coleg o unigolyn a’i allu i lwyddo ar y cwrs. Gall rhaglenni astudio annibynnol ar lefel mynediad ddarparu cyfleoedd rhagflas mewn meysydd galwedigaethol yn ogystal â datblygu sgiliau byw’n annibynnol.

    Cymwysterau Sgiliau Hanfodol (ESQs)

    Mae’r Coleg wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau bywyd ymhellach (yn enwedig mewn llythrennedd a rhifedd) er mwyn cynorthwyo dilyniant i lefelau uwch o ddysgu, cyflogaeth neu hunangyflogaeth. Mae Cymwysterau Sgiliau Hanfodol ar gael mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a Llythrennedd Digidol ac yn cael eu darparu o Lefel 1 i Lefel 3. Bydd pob dysgwr llawn amser a dysgwyr rhan-amser sylweddol (hynny yw, sy’n astudio mwy na 5 awr yr wythnos) yn ymgymryd â phrawf diagnostig sgiliau sylfaenol pan fyddant yn dechrau eu cyfnod yn y Coleg. Gall hyn arwain at brofion diagnostig pellach os oes angen.

    Lefelau

    Yn gyffredinol, mae yna nifer o wahanol gymwysterau academaidd a galwedigaethol ar gael o Lefel Mynediad i Lefel 3. Mae’r rhain yn amrywio o’r cymwysterau TGAU, Safon Uwch a Galwedigaethol traddodiadol i gymwysterau dyfarnu sy’n ymwneud â phynciau arbenigol, yn ogystal â NVQs yn y gwaith sy’n seiliedig ar gymhwysedd.

    Lefel 3 (lefel sy’n gyfwerth â Safon Uwch)

    Mae’r cyrsiau uwch hyn yn darparu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau manwl i chi mewn pwnc neu gwrs galwedigaethol sy’n ymwneud â diwydiant. Mae cyrsiau Lefel 3 wedi eu cynllunio i’ch galluogi i symud ymlaen i brifysgol neu i gyflogaeth.

    Lefel 2 (lefel sy’n gyfwerth â TGAU

    Mae cyrsiau ar y lefel hon yn adeiladu ar eich gwybodaeth a’ch sgiliau. Maent yn darparu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau da i chi mewn pwnc neu ddiwydiant.

    Lefel 1

    Dyma gyrsiau cyflwyniadol sydd yn datblygu eich sgiliau a’ch dealltwriaeth o bwnc, diwydiant neu faes gwaith. Mewn rhai meysydd, e.e. lle mae’n ofynnol i chi ddatblygu sgiliau ymarferol sylweddol, gall fod yn angenrheidiol i chi ddechrau ar lefel 1 beth bynnag yw eich canlyniadau TGAU neu Safon Uwch blaenorol.

    Lefel Mynediad

    Dyma gyrsiau sylfaenol sy’n helpu i adeiladu hyder, gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau ac a fydd yn helpu i wella eich sgiliau Saesneg a Mathemateg.

  • Caiff holl raglenni addysg uwch y Coleg eu dilysu gan Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant. Fel rhan o’r Brifysgol, mae disgwyl i’r Coleg gymhwyso egwyddorion y Polisi Derbyn Myfyrwyr Addysg Uwch; gellir dod o hyd i’r manylion am hwn ar wefan y Brifysgol. Mae’r polisi a’r gweithdrefnau cysylltiedig yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018 a GDPR 2016, deddfwriaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth berthnasol sy’n effeithio ar dderbyn dysgwyr, ac maent yn rhoi ystyriaeth i arfer gorau’r sector. 

    Rhaid i bob dysgwr fodloni’r gofynion mynediad lleiaf a bennir ar gyfer pob rhaglen addysg uwch. Mae gofynion mynediad llawn amser yn cael eu darparu’n fanwl ar wefan UCAS dan C22 Coleg Sir Gâr/Coleg Sir Gaerfyrddin hiips://www ucas com Rhaid gwneud pob cais am gwrs israddedig llawn amser drwy UCAS.

    Dylid gwneud ceisiadau am gyrsiau israddedig rhan-amser gan ddefnyddio system ymgeisio’r Coleg. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â’r gallu i gymryd rhan, ynghyd â’r diddordeb a’r cymhelliant i lwyddo mewn addysg uwch. Bydd y penderfyniad i dderbyn dysgwr yn cael ei wneud ar sail teilyngdod unigol, a gaiff ei arddangos drwy’r broses ymgeisio sy’n cynnwys: 

    • Datganiadau personol; 
    • Geirdaon priodol; 
    • Cyfweliad ac ystyried portffolio ble bo’n briodol; 
    • Potensial academaidd; 
    • Asesiad o gyflawniad blaenorol, p’un ai drwy gyfeiriad at gymwysterau academaidd neu alwedigaethol, neu brofiad blaenorol wedi ei ddisgrifio yn fwy eang; 
    • Y gallu i elwa o gymryd rhan.

    Caiff ymgeiswyr ag anawsterau dysgu penodol neu anghenion eraill eu hannog a’u cynghori i geisio cyngor pellach gan y coleg. Caiff ceisiadau eu hystyried ar sail deg, heb wahaniaethu ar sail anabledd nac unrhyw ragfarn arall gan gynnwys oedran, rhyw neu hil. Mae’r Polisi Ffitrwydd i Astudio ar gael i gyfeirio ato wrth ystyried diogelwch a lles pob ymgeisydd i raglenni Addysg Uwch.

    Mae’n ofynnol i unrhyw ymgeisydd sydd ag euogfarn droseddol berthnasol i ddatgan hyn ar ei ffurflen gais. Caiff ‘perthnasol’ ei ddiffinio fel troseddau yn erbyn person, p’un a ydynt o natur dreisgar neu rywiol, troseddau sy’n cynnwys cyffuriau Dosbarth A, a throseddau sy’n ymwneud â chyflenwi cyffuriau rheoledig neu sylweddau ble mae’r euogfarn yn ymwneud â delio â neu fasnachu cyffuriau masnachol. Ni ystyrir bod euogfarnau sydd wedi darfod (fel mae Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 yn eu diffinio) yn berthnasol. Caiff pob cais o’r fath ei asesu ar sail unigol.

  • Swydd gyda hyfforddiant yw prentisiaeth, sy’n caniatáu i ddysgwyr ennill cymwysterau cydnabyddedig a sgiliau hanfodol, tra’n gweithio ac yn ennill cyflog. Cynlluniwyd prentisiaethau gan gyflogwyr i adlewyrchu anghenion presennol y farchnad a diwydiant ac i gynnig rhaglen strwythuredig sy’n rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar brentisiaid i wneud y gwaith yn dda. Mae prentisiaid yn astudio sgiliau technegol ac yn cyflawni asesiadau ymarferol. 

    Fel gweithwyr cyflogedig, mae prentisiaid yn gweithio ochr yn ochr â staff profiadol i ennill sgiliau sy’n benodol i swydd a chael hyfforddiant, fel arfer ar sail rhyddhau diwrnod, i gwblhau cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol. Gall prentisiaethau gymryd rhwng blwyddyn a phedair blynedd i’w cwblhau yn dibynnu ar y lefel, gallu’r prentis ac anghenion y sector diwydiant. Fel rheol, telir yr isafswm cyflog i brentisiaid, fodd bynnag, mae llawer o brentisiaid yn ennill cryn dipyn yn fwy.

    Math o Brentisiaeth Cymhwyster Cyfwerth

    Beth yw manteision Prentisiaeth? 

    • Ennill cyflog tra’n hyfforddi 

    • Cael gwyliau â thâl 

    • Derbyn hyfforddiant arbenigol 

    • Ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol 

    • Datblygu sgiliau sy’n benodol i swydd 

    • Dechrau ar yrfa o’r cychwyn cyntaf

    Math Cyfwerth â
    Prentisiaeth Sylfaen Mae prentisiaid yn gweithio tuag at gymwysterau sy’n seiliedig ar wybodaeth a chymhwysedd ar Lefel 2 (megis NVQ Lefel 2) ynghyd â Sgiliau Hanfodol. FCyfwerth â phum pas TGAU da
    Prentisiaeth Mae prentisiaid yn gweithio tuag at gymwysterau sy’n seiliedig ar wybodaeth a chymhwysedd ar Lefel 3 (megis NVQ Lefel 3) ynghyd â Sgiliau Hanfodol. Cyfwerth â dau bas Safon Uwch
    Prentisiaeth Uwch Mae prentisiaid yn gweithio tuag at gymwysterau sy’n seiliedig ar wybodaeth a chymhwysedd ar Lefel 4/5 (megis NVQ Lefel 4 neu uwch) ynghyd â Sgiliau Hanfodol. Cyfwerth â HNC/HND neu lefel Gradd Sylfaen ac uwch
    Gwneud Cais 

    Gall unrhyw un sydd dros 16 oed ac nad yw mewn addysg lawn amser wneud cais, ond rhaid iddo fod â statws cyflogedig mewn swydd dan gontract am dros 30 awr yr wythnos. Rhaid i bob ymgeisydd wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr, yn union fel unrhyw swydd arall.

    Gofynion Mynediad

    Mae’r gofynion mynediad yn hyblyg oherwydd nid yw prentisiaethau wedi’u seilio ar gyflawniad academaidd yn unig. Mae sgiliau ymarferol a lefel y diddordeb a ddangosir i gyd yn cael eu hystyried. Rhaid i ymgeiswyr fod yn gweithio i ymgymryd â Phrentisiaeth; fodd bynnag, os nad yw unigolyn yn gweithio ar hyn o bryd, gall y Coleg helpu i ddod o hyd i swyddi addas drwy’r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau.

  • Bydd rhaglen Hyfforddeiaeth yn rhoi’r gefnogaeth, y sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen i gyfranogwyr i symud ymlaen i gyflogaeth, Prentisiaeth neu ddysgu ar lefel uwch. 

    Hyfforddeion: 

    • rhaid bod rhwng 16-18 oed ac wedi gadael yr ysgol; 
    • derbynnir lwfans hyfforddi ar gyfer y rhaglen Ymgysylltu a Lefel 1 (Ymgysylltu £30 yr wythnos a Lefel 1 £50 yr wythnos); 
    • rhaid mynychu Ymgysylltu am 21 awr yr wythnos i dderbyn £30 yr wythnos; 
    • rhaid mynychu Lefel 1 am 37.5 awr yr wythnos i dderbyn £50 yr wythnos; 
    • gellir derbyn cymorth gyda chostau teithio hefyd
    • mynychu sesiwn gynefino yn y Coleg i gwrdd ag ymgynghorydd hyfforddi, cytuno ar gynllun dysgu unigol a phenderfynu ar leoliad gwaith. 

    Dylai’r rheiny sydd â diddordeb yn y rhaglen Hyfforddeiaeth wneud apwyntiad yn eu swyddfa Gyrfa Cymru leol, lle byddant yn cael cyfweliad cychwynnol ac, os yn briodol, atgyfeiriad i’r rhaglen.

ATODIAD 1

  • Pan fydd ymgeisydd yn derbyn cynnig o le yng Ngholeg Sir Gâr / Coleg Ceredigion (y Coleg o hyn ymlaen) caiff contract ei ffurfio. Cyn derbyn cynnig, rhaid i ymgeiswyr ddarllen y telerau ac amodau isod.

  • Mae lle ar raglen astudio yn amodol ar yr ymgeisydd yn cwblhau’r broses derbyn a chofrestru’n llwyddiannus. Mae’r cynnig o le yn amodol ar y telerau a’r amodau a nodir yn y canlynol: 

    • y llythyr cynnig; 
    • a gwybodaeth ar wefan y Coleg ac yn ei brosbectws; a’r 
    • wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yng Nghod Ymddygiad y Myfyrwyr sydd ar gael yn: xxxxx 

    Mae’n bwysig bod ymgeiswyr yn darllen y rhain cyn derbyn cynnig ac yn cadw atynt. Gall methu â gwneud hynny arwain at dynnu cynnig yn ôl neu at derfynu cofrestriad dilynol.

  • Bydd y wybodaeth a ddarperir mewn cais yn dod yn rhan o gofnod y dysgwr. Trwy ymrwymo i gontract gyda’r Coleg, mae’r ymgeisydd yn rhoi caniatâd i’r Coleg storio a phrosesu data personol yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) 2016. Mae polisi’r Coleg ar ddiogelu data ar gael ar y wefan.

  • Rhaid i bob rhaglen astudio newydd yn y Coleg gael ei chymeradwyo gan gorff dyfarnu cyn ei chyflwyno. Os yw rhaglen yn amodol ar gymeradwyaeth, yna rhoddir gwybod i’r ymgeisydd yn ysgrifenedig pan fydd y rhaglen wedi’i chymeradwyo, a bydd hefyd yn cael gwybod am unrhyw newidiadau a wnaed i’r rhaglen. Os na chaiff y rhaglen ei chymeradwyo, bydd y Coleg yn ceisio dod o hyd i le i’r ymgeisydd ar raglen arall.

  • Bydd unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth gynnig, yn cael eu nodi yn y llythyr cynnig ac yn yr ohebiaeth a dderbynnir gan yr ymgeisydd. 

    Gall cynnig fod yn amodol neu’n ddiamod a gall yr amodau fod yn academaidd neu’n anacademaidd. Fel rheol mae amodau academaidd yn gofyn i ymgeisydd brofi ei fod wedi ennill cymwysterau penodol. Mae amodau anacademaidd yn aml yn gofyn i ymgeiswyr fodloni gofynion cyfreithiol ar gyfer mynediad i raglen, e.e. cael Datgeliad Manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) neu ddarparu tystiolaeth sy’n ofynnol gan UKVI y Swyddfa Gartref. 

    Wrth dderbyn cynnig, mae ymgeiswyr yn cytuno i delerau ac amodau’r Coleg. Ar ôl derbyn cynnig o le, bydd gan ymgeiswyr 14 diwrnod ac yn ystod yr amser hwnnw gallant wrthod eu cynnig os byddant yn newid eu meddyliau.

  • Ni fydd cael datgeliad neu gael ei wahardd yn flaenorol o’r Coleg neu ddarparwr blaenorol, o reidrwydd yn eithrio dysgwr rhag ymuno â rhaglen yn y Coleg. Fodd bynnag, bydd hyn yn dibynnu ar natur y rhaglen y gwneir cais amdani, yr amgylchiadau a chefndir y datgeliad neu’r gwaharddiad, yn ogystal ag asesiad o unrhyw risg i’r sefydliad o dan ei Ddyletswydd Gofal, Diogelu, Iechyd a Diogelwch, Polisïau Diogelwch a Pholisïau Ymddygiad Cadarnhaol. 

    Bydd yr Uwch Berson Dynodedig ar gyfer Diogelu yn fetio’r Ffurflen Ddatgelu a ddychwelwyd / Neu Wybodaeth o waharddiad / rhybudd terfynol a naill ai’n cadarnhau derbyniad posibl neu’n cyfeirio’r cais at y Panel Derbyn i’w ystyried. 

    Bydd y Panel Derbyn yn cynnwys yr Uwch Berson Dynodedig ar gyfer Diogelu (neu ddirprwy dynodedig) a Chyfarwyddwr Cynorthwyol y Cwricwlwm neu Bennaeth y Cwricwlwm a’r rheolwr Lles. 

    Bydd y Panel Derbyn yn ystyried a ddylid: 

    • derbyn yr ymgeisydd ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd; 
    • argymell gwaharddiad parhaus neu wrthod mynediad oherwydd y risgiau a gyflwynir i’r Coleg o dan ein Polisïau ‘Dyletswydd Gofal’, Diogelu, Iechyd a Diogelwch a’r Ymddygiad Cadarnhaol.
  • Ar ôl derbyn neu aildderbyn dysgwyr sydd wedi’u gwahardd neu sydd ‘mewn perygl’, bydd yr Uwch Berson Dynodedig yn sicrhau bod perfformiad y dysgwyr yn cael ei fonitro a’i adolygu’n briodol yn unol ag unrhyw amodau a osodwyd ar adeg ail-dderbyn. 

    Bydd y gwaith o fonitro a chydymffurfio â’r amodau hyn wedyn yn cael ei reoli gan aelod o staff penodedig fel y bo’n briodol (er enghraifft mentor neu arbenigwr ADY ond bydd yn ddibynnol ar angen) a fydd yn hysbysu’r Uwch Berson Dynodedig os bydd achos o dorri amodau’n digwydd. 

    Os bydd toriad o natur ddifrifol yna bydd yr ymgeisydd yn cael ei gyfeirio’n ôl i’r Panel Derbyn dan delerau’r Polisi hwn. 

    Yn dilyn cyfeirio, bydd y Panel Derbyn yn arfer yr hawl i wahardd yr ymgeisydd, yn amodol ar gadarnhad gan yr Is-Bennaeth. 

    Bydd Tîm y Gyfadran yn hysbysu’r ymgeisydd yn ysgrifenedig am y gwaharddiad

  • Bydd angen i ymgeiswyr sy’n derbyn cynnig amodol, yn dibynnu ar ennill cymwysterau penodol, ddarparu tystiolaeth o’r rheiny wrth gofrestru. Mae’r Coleg yn cadw’r hawl i dynnu ymgeiswyr yn ôl neu i ohirio eu cynnig tan y flwyddyn ganlynol, os nad yw’r amodau wedi’u bodloni erbyn yr amser hwn.

  • Oni bai ei bod yn ofynnol gwneud hynny yn ôl y gyfraith, neu i fodloni gofyniad newydd gan ddiwydiant, ni fydd telerau cynnig yn cael eu newid. Mewn achos annhebygol lle mae newid telerau’r cynnig yn angenrheidiol, rhoddir gwybod yn ysgrifenedig i’r ymgeisydd a gofynnir iddo gytuno i’r newidiadau.

  • Bydd cynnig i astudio yn y Coleg yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen astudio sydd i’w gweld ar wefan y Coleg, fel ar ddyddiad derbyn y cynnig. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen gwneud newidiadau i wybodaeth y rhaglen (gan gynnwys i’r corff dyfarnu, teitl y rhaglen, disgrifiad, cynnwys, modd astudio a/neu leoliad y cyflwyno a/neu amserlen). 

    Mae’n bosibl y bydd angen gwneud newidiadau hefyd i raglenni lle na chyrhaeddwyd y nifer lleiaf o ddysgwyr sydd eu hangen i redeg rhaglen yn effeithiol. Noder, mewn rhai amgylchiadau eithriadol, gellir tynnu rhaglenni yn ôl (cyn iddynt gychwyn) am y rheswm hwn. Os gwneir newidiadau i’ch rhaglen chi ar ôl i chi dderbyn eich cynnig, bydd y Coleg yn cymryd camau rhesymol i roi gwybod i chi am y newidiadau hynny. 

    Os tynnir eich rhaglen yn ôl, neu os bydd newidiadau sylfaenol yn cael eu gwneud ar ôl i chi dderbyn eich cynnig, bydd y Coleg yn cymryd camau rhesymol i roi rhybudd cynnar i chi a lle bo hynny’n berthnasol, bydd yn cynnig rhaglen arall addas. Yn ogystal, bydd yr hawl gennych i dynnu’n ôl o’ch rhaglen a gwneud cais am ad-daliad neu ad-daliad rhannol o unrhyw ffïoedd rydych chi wedi’u talu.

  • Dylai ymgeiswyr sicrhau bod y wybodaeth y maen nhw’n ei darparu i’r Coleg yn wir, yn gyflawn ac yn gywir. Dylai ymgeiswyr gysylltu â’r Adran Dderbyn os oes angen iddynt roi gwybod i’r Coleg am unrhyw newidiadau i’w manylion personol, megis eu henw neu eu cyfeiriad post. Ar ôl cofrestru fel dysgwr, dylid rhoi gwybod am unrhyw newid mewn manylion personol drwy’r swyddfeydd campws. 

    Os darganfyddir bod cais yn cynnwys gwybodaeth ffug, mae’r Coleg yn cadw’r hawl i beidio â chofrestru’r ymgeisydd neu ei gwneud yn ofynnol i’r dysgwr dynnu’n ôl o’r rhaglen astudio. Bydd yr un canlyniadau’n berthnasol pan fydd ymgeisydd wedi methu â datgelu unrhyw wybodaeth berthnasol a fyddai’n effeithio ar y penderfyniad i gynnig lle, megis gwybodaeth yn ymwneud ag euogfarn droseddol berthnasol sydd heb ddarfod, a amlinellir yn yr adran ar euogfarnau troseddol isod.

  • Efallai y bydd rhai rhaglenni’n gofyn i’r ymgeisydd lenwi holiadur iechyd a chael gwiriadau sgrinio iechyd fel rhan o’r broses derbyn a chofrestru. Rhoddir gwybod i ymgeiswyr yn eu llythyr cynnig os yw gofynion iechyd o’r fath yn berthnasol.

  • Er mwyn astudio yn y Coleg, rhaid i ymgeiswyr fodloni’r amodau fisa a mewnfudo sy’n ofynnol gan UKVI, y Swyddfa Gartref.

  • Anogir ymgeiswyr i ddatgelu unrhyw anabledd neu anghenion dysgu ychwanegol cyn gynted â phosibl yn ystod y broses ymgeisio a thrwy gydol eu hamser yn y Coleg. Bydd Gwasanaethau Dysgwyr yn cysylltu ag ymgeiswyr sydd wedi datgelu anabledd ar eu ffurflenni cais er mwyn trafod eu gofynion o ran cymorth. 

    Gyda chaniatâd penodol yr ymgeisydd, mae’n bosibl y bydd gwybodaeth a ddatgelir yn cael ei rhannu a’i defnyddio i bennu addasiadau rhesymol a mesurau cydadferol. Dylai dysgwyr sy’n gwrthod rhannu gwybodaeth fod yn ymwybodol y gall hyn gyfyngu ar allu’r Coleg i sicrhau bod trefniadau cymorth priodol ac amserol yn cael eu rhoi ar waith.

  • Gellir gweld gwybodaeth fanwl am ffïoedd ar wefan y Coleg. Fel rhan o’r broses gofrestru, mae’n ofynnol i ddysgwyr gadarnhau eu bod yn derbyn cyfrifoldeb am dalu ffïoedd, neu gostau eraill y gallent fynd iddynt tra’n astudio yn y Coleg. Os bydd dysgwr yn methu â thalu ffïoedd dysgu pan dônt yn ddyledus, ac yn methu gwneud trefniadau boddhaol ar gyfer talu unrhyw arian sy’n ddyledus, mae’r Coleg yn cadw’r hawl i gychwyn achos cyfreithiol er mwyn adfer y ddyled. Nid oes gan ddysgwyr sydd â dyledion ffïoedd dysgu heb eu talu hawl i symud ymlaen i’r flwyddyn astudio nesaf.

  • Bydd ymgeiswyr i’r Coleg sy’n derbyn cynnig yn cael gwahoddiad i gofrestru yn union cyn dyddiad dechrau eu cwrs. Wrth gofrestru, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu prawf adnabod ar ffurf tystysgrif geni, pasbort neu drwydded yrru; a thystiolaeth foddhaol o’u cymwysterau ar ffurf trawsgrifiad neu dystysgrif wreiddiol, neu gopi wedi’i ardystio gan y sefydliad dyfarnu.

  • Efallai y bydd achlysuron pan fydd ymgeiswyr yn dymuno gofyn am apelio eu cais neu’n dymuno gwneud cwyn am y broses dderbyn. Gellir gweld gweithdrefn gwyno’r Coleg ar y wefan.