Undeb y Myfyrwyr yn ennill Gwobr Menter y Flwyddyn yng nghynhadledd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS)
Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ennill gwobr Menter y Flwyddyn yng Nghynhadledd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) yn Aberystwyth.
Enillwyd y wobr am gynllun cyllidebu cyfranogol y coleg sy’n cynnig cronfa o £2,000 y flwyddyn i bob campws ac sydd wedi’i sbarduno gan fyfyrwyr oherwydd anghenion myfyrwyr.
Mae byrddau pŵl ar draws y campysau yn helpu ariannu’r prosiect lle caiff myfyrwyr eu hannog i awgrymu syniadau i helpu rhoi mentrau ar waith a fyddai’n fuddiol i’w lles.
Cânt y dasg o gostio eu syniadau a’u cyflwyno yng Nghynhadledd Llais y Dysgwr y coleg lle bydd myfyrwyr yn pleidleisio o blaid neu yn erbyn.
Hyd yma, mae’r fenter wedi golygu bod myfyrwyr wedi cael cit newydd ar gyfer gweithgareddau pêl-fasged, murlun paentiau chwistrell arbenigol ar ei gampws celf a chit gwyddbwyll newydd ar gyfer clwb gwyddbwyll diweddar a oedd yn defnyddio offer chwarae oedd wedi dyddio.
Meddai Debbie Williams, swyddog lles ar gyfer Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion: “Mae ein Hundeb Myfyrwyr wedi gwneud yn hynod o dda ac wedi gweithio’n galed i ymgysylltu â myfyrwyr a rhoi llais iddynt.
“Gan ystyried bod y gynhadledd hon yn cynrychioli’r holl sefydliadau addysg yng Nghymru a’i bod yn cynrychioli’r sector addysg uwch yn bennaf, mae hwn yn gyflawniad gwych. Da iawn i holl swyddogion Undeb y Myfyrwyr a’r holl staff sy’n gysylltiedig.”
Hefyd cydnabuwyd y coleg am ei fenter yng ngwobrau NUS y llynedd.
Meddai Jenna Loweth, llywydd Undeb y Myfyrwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion: “Mae’n anrhydedd i allu parhau gyda gwaith y llynedd a gwneud gwaith go iawn i helpu ein cymuned yn enwedig drwy’r cyfnodau anodd hyn.”r community especially through these difficult times.”