Taith Greadigol Gwenno yng Ngholeg Ceredigion

Mae Gwenno, myfyrwraig o Goleg Ceredigion, wedi croesawu ei hamser yn astudio ar gyfer Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, ac mae’n ddiolchgar am y cyfle roddodd iddi i arbrofi a datblygu fel artist.
A hithau’n ansicr ar y cychwyn ynghylch ei chamau nesaf, penderfynodd Gwenno gymryd y flwyddyn sylfaen er mwyn rhoi amser iddi hi ei hun archwilio ei hopsiynau. “Roeddwn i am wneud cwrs sylfaen mewn celf, a gwnes i hynny am flwyddyn yn bennaf er mwyn penderfynu beth roeddwn i am wneud, oherwydd doeddwn i ddim yn siŵr os oeddwn i am fynd i’r Brifysgol ai peidio. Felly penderfynais i astudio cwrs sylfaen i roi ychydig o amser ychwanegol i fy hun.”
I Gwenno, roedd y cwrs yn fwy na chyfle yn unig i ganolbwyntio ar beth roedd hi eisoes yn gwybod —fe wnaeth ganiatáu iddi roi cynnig ar bethau newydd a gwthio ei ffiniau. “Roedd y cyfle i arbrofi gyda gwahanol bethau yn syfrdanol. Nid am wneud beth rydych chi am wneud yn unig ydoedd. Rhoddodd gyfle am lawer o arbrofi. Roeddwn i’n gallu rhoi cynnig ar ystod o bethau yn hytrach na dim ond cadw at beth roeddwn i’n gwybod,” meddai.
Trwy gydol ei hamser yng Ngholeg Ceredigion, mae Gwenno wedi cael ei chefnogi gan diwtoriaid sydd wedi’i helpu i ddatblygu ei sgiliau ac addasu ei gwybodaeth i feysydd newydd. “Rwy’n credu bod y tiwtoriaid wedi bod yn gefnogol oherwydd maen nhw wedi gadael i mi addasu fy sgiliau i bethau newydd. Doeddwn i ddim wedi gwneud llawer o ffotograffiaeth o’r blaen mewn gwirionedd, felly cefais fy nysgu sut i ddefnyddio camera a sut i olygu ffotograffau. Hefyd gadewon nhw i mi ddatblygu pethau roeddwn i eisoes yn gwybod sut i’w gwneud,” myfyriodd.