Staff gwasanaethau TGCh o’r cyngor lleol yn rhoi cipolwg i fyfyrwyr ar weithio yn y diwydiant TG
Rhoddodd staff o dîm gwasanaethau TGCh Cyngor Sir Caerfyrddin anerchiad am eu gwaith i fyfyrwyr cyfrifiadura Coleg Sir Gâr er mwyn eu hysbrydoli i feddwl am eu gyrfaoedd yn y dyfodol gan gynnwys prentisiaethau.
Mae un o’r siaradwyr, James Fox, yn fyfyriwr rhan-amser yn y coleg ac yn brentis modern gyda Chyngor Sir Caerfyrddin.
Lynzi-Kim Reed oedd un o’r cyntaf i siarad am ei rôl mewn gwasanaethau digidol fel swyddog prosiect trawsnewid digidol.
Esboniodd hi ei gwaith mewn darpariaeth dechnegol, yn gweithio gyda thimau datrysiadau seiberddiogelwch a digidol a’r hyn mae hi’n gweithio arno ar hyn o bryd, megis y datblygiad Machynys newydd ym Mhentre Awel a system ddyddiadur cynllunydd theatr.
Fe wnaeth James Fox, prentis TGCh ar gyfer darparu gwasanaeth, esbonio sut y cyrhaeddodd e ar ei daith brentisiaeth a’r technolegau mae’n eu defnyddio sy’n cynnwys datrysiadau rheoli dyfeisiau symudol, systemau cyfeiriadur actif, asiantau CRM a systemau Cisco Meraki.
Yn ogystal mae’n cwmpasu cymorth technegol ar gyfer ysgolion yn y sir ac ar hyn o bryd mae’n adeiladu a ffurfweddu peiriannau ar gyfer lyfrgelloedd fel rhan o’i rôl.
Rhoddodd Alex Scott, sy’n ddatblygwr meddalwedd graddedig gwasanaethau digidol, gipolwg i fyfyrwyr ar weithio gyda gweinyddion SQL ac esboniodd ei waith yn creu cymwysiadau gwe ar gyfer cynnal a chadw tai ac ail-ysgrifennu a moderneiddio systemau metrig mewnol yn ogystal â dilyn cwrs gradd ôl-raddedig.
Meddai Jason Lovell, sy’n ddarlithydd cyfrifiadura yng Ngholeg Sir Gâr: “Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnig dau gyfle prentisiaeth bob blwyddyn felly roedden ni am roi cipolwg i’n myfyrwyr ar y gwaith maen nhw’n ei wneud a hoffwn i ddiolch i’r tîm am eu hamser yn rhannu eu profiadau.
“Mae’r diwydiant TG yn datblygu’n barhaus ac mae’n bwysig i golegau gadw ar y blaen a chynnig yr hyfforddiant a’r cyfleoedd gyrfaol gorau posibl i’n myfyrwyr.”
Mae lleoedd ar gael o hyd, cysylltwch â Jason.lovell@colegsirgar.ac.uk ar gyfer cyrsiau TG a David.james@colegsirgar.ac.uk ar gyfer prentisiaethau TG.