Perchennog cwmni adeiladu’n ‘rhoi nôl’ i gyn-hyfforddwr rygbi gyda phrif nawdd i holl academïau’r coleg
Hoffai Coleg Sir Gâr fynegi ei ddiolch i gwmni adeiladu Vaughan Construction am ei nawdd ar draws ei holl academïau chwaraeon fel prif noddwr academïau’r coleg.
Vaughan Construction yw cwmni Adam Jones a chwaraeodd rygbi dros Glwb Rygbi Llangennech, o lefel ieuenctid i lefel uwch ac yno, cafodd ei hyfforddi gan Euros Evans, sy’n bennaeth yr holl academïau chwaraeon yn y coleg ac yn hyfforddwr mawr iawn ei barch yn ei faes.
Trwy ddod yn brif noddwr yr academïau chwaraeon, roedd Adam yn teimlo fel petai’n gallu ‘rhoi nôl’ am y profiad cadarnhaol a gwerth chweil a dderbyniodd oddi wrth Euros a’i gefnogaeth hyfforddi.
Bu academi rygbi’r coleg yn teithio rhannau o Dde Affrica’n ddiweddar ac unwaith eto roedd cwmni Vaughan Construction wrth y llyw gyda chefnogaeth nawdd ac yn awyddus iawn i gymryd rhan fel prif noddwr ar gyfer y daith.
Yn dilyn y fath bartneriaeth gadarnhaol yn ystod yr amser hwnnw, roedd Adam wrth ei fodd yn parhau fel prif noddwr ar gyfer tymor 2024/25 y coleg.
Meddai Adam Jones o gwmni Vaughan Construction: “Rwyf wedi edmygu ethos academi chwaraeon y coleg ers llawer o flynyddoedd, sy’n cyd-fynd ag ethos fy nghwmni adeiladu, adeiladu ar sgiliau.
“Yn ystod fy amser yn chwarae rygbi profais i hyfforddiant o’r radd flaenaf gan Euros felly pan ddaeth cyfle, neidiais at y siawns i ddod yn rhan.
“Mae’r cyfleusterau a’r hyfforddi sydd ar gynnig i chwaraewyr ac athletwyr yng Ngholeg Sir Gâr heb eu hail ac rwy’n llawn cyffro i weld pob un o’r pedair academi chwaraeon yn datblygu ar hyd y tymor.”
Mae’r coleg yn cynnig academïau mewn rygbi, pêl-rwyd, pêl-droed a’r Rhaglen Perfformiwr Elit, sy’n teilwra cefnogaeth i fabolgampwyr sy’n cystadlu ar draws y coleg cyfan, o fewn eu camp ddewisol.
Meddai Euros Evans, cyn-hyfforddwr rygbi Adam Vaughan a phennaeth cyfredol yr holl academïau chwaraeon yng Ngholeg Sir Gâr: “Rydyn ni wrth ein bodd yn croesawu cwmni Vaughan Construction fel prif noddwr ein hacademïau chwaraeon.
“Bydd eu cefnogaeth nid yn unig yn gwella ein rhaglen ond bydd hefyd yn ein helpu i barhau i feithrin a datblygu‘r genhedlaeth nesaf o athletwyr.
“Mae’r bartneriaeth hon yn arwydd o ymrwymiad cryf i’r gymuned ac i dwf parhaus chwaraeon yng Ngholeg Sir Gâr.
“Hoffem estyn ein diolchgarwch diffuant hefyd i Cadog Homecare a Hygrove Homes am eu nawdd parhaus a’u cefnogaeth diwyro. Mae eu hymrwymiad wedi bod yn gyfrannog i’n helpu ni i ddarparu cyfleoedd ar y lefel uchaf i’n hathletwyr, ac rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffaith bod gennym y fath bartneriaid ymroddedig yn ein taith tuag at ragoriaeth.”