Myfyrwyr yn ymweld â gweithdy gwneuthurwr enwog gitarau jazz

Cafodd myfyrwyr o adran ddodrefn Coleg Ceredigion gyfle unigryw yn ddiweddar i gamu i fyd crefftwaith offerynnol, wrth ymweld â gweithdy Jerome Duffell, gwneuthurwr enwog gitarau jazz, yn Aberteifi.
Mae Jerome, sy’n enwog am ei gitarau a lunir â llaw, wedi ennill enw da rhyngwladol, gyda cherddorion o bob rhan o’r byd yn mofyn eu hofferynnau pwrpasol.
Mae e hefyd yn cynnig profiad ymarferol prin sy’n caniatáu i gwsmeriaid dreulio mis yn ei weithdy, yn llunio eu gitarau ar fesur eu hunain dan ei wyliadwriaeth arbenigol.
Meddai darlithydd dodrefn Coleg Ceredigion, Deborah Elsaesser: “Fe wnaeth yr ymweliad adael ein myfyrwyr a’r tîm wedi’u hysbrydoli gan gelfyddydwaith Jerome, ei fanyldra, a’i frwdfrydedd mawr am ei grefft, gan amlygu’r hud a ddaw o ymroddiad a chreu â llaw - a’r cwbl yma yn Aberteifi.
“Yn ogystal tynnodd yr ymweliad sylw at werth enfawr dysgu oddi wrth weithwyr proffesiynol diwydiant ac fe wnaeth ein hatgoffa bod crefftwaith o safon y byd yn ffynnu’n lleol.”
Mae Jerome yn gwneud offerynnau sy’n cael eu canu gan artistiaid cerddorol proffesiynol sy’n perthyn i sîn jazz sinti Ffrengig Paris gyda chleientiaid mor bell i ffwrdd â’r Eidal, Norwy a Dinas Efrog Newydd.

