Myfyrwyr yn plymio i fyd ymchwilio i leoliadau trosedd
Mae myfyrwyr Coleg Ceredigion wedi cael eu trwytho ym myd ymchwilio i leoliadau trosedd gyda digwyddiad arbennig a drefnwyd gan staff addysgu.
Gan fynd i’r afael â phrofiadau ymarferol a gyda chitiau fforensig proffesiynol yn eu meddiant, rhannwyd y myfyrwyr i dimau a rhoddwyd amrywiol rolau iddynt wrth weithio mewn lleoliad trosedd wedi’i efelychu.
O ddadansoddi tystiolaeth posibl megis sylweddau anhysbys a gwrthrychau oedd wedi cael eu camleoli, i lywio’u ffordd drwy’r cymhlethdodau o gasglu tystiolaeth tra’n gwisgo cyfarpar amddiffynnol llawn, cafodd y myfyrwyr brofiad uniongyrchol o heriau a gwobrau ymchwilio fforensig.
Meddai Kevin Williams, darlithydd y gwasanaethau cyhoeddus a busnes yng Ngholeg Ceredigion: “Mae’r gweithgareddau hyn nid yn unig yn darparu cipolwg i fyfyrwyr i faes gwyddoniaeth fforensig ond mae hefyd yn datblygu sgiliau hanfodol fel meddwl yn feirniadol, gwaith tîm, a chyfathrebu effeithiol, sy’n amhrisiadwy yn unrhyw yrfa o wasanaeth cyhoeddus.
“Mae’r gweithgarwch CSI ymarferol hwn ond yn un enghraifft o’r profiadau dysgu deinamig a diddorol a gynigir ar y cwrs. Rydym yn ymrwymedig i ddarparu’r wybodaeth, sgiliau a phrofiadau byd go iawn i’n myfyrwyr sydd eu hangen i ragori mewn amrywiol yrfaoedd gwasanaeth cyhoeddus, o orfodi’r gyfraith a gwasanaethau brys i ddiogelu amgylcheddol a thu hwnt.