Skip page header and navigation
Paul gyda grŵp o fyfyrwyr y tu ôl iddo yn theatr y coleg

Cafodd myfyrwyr yng Ngholeg Sir Gâr gyfle i gwrdd â Paul Pugh yn ystod ei ymweliadau â thri o gampysau’r coleg i gyflwyno neges bwysig. 

Yn 2014, lansiodd Paul Addewid Paul gyda Heddlu Dyfed-Powys, sy’n ymgyrchu yn erbyn trais o ganlyniad i alcohol. 

Dioddefodd Paul ei hun drosedd erchyll yn 2007 lle cafodd ei adael mewn coma am ddeufis yn dilyn ymosodiad direswm a’i gadawodd ag anafiadau difrifol i’w ymennydd. 

Carcharwyd cyflawnwyr y drosedd ond daw neges Paul o brofiad y dioddefwr a’u teuluoedd a’r hyn y bu’n rhaid iddynt ei ddioddef o ganlyniad i’r ymosodiad. 

Yn ystod mis Rhagfyr, ymwelodd Paul â thri o gampysau’r coleg gyda’r PCSOs Dayton Hughes a Sharee Church a Thîm INTACT Heddlu Dyfed Powys. 

Mynychodd tua 450 o fyfyrwyr y pum sgwrs a gyflwynodd Paul. 

Dywedodd Jamie Davies, pennaeth cefnogi dysgwyr a lles ar gyfer Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion:  “Mae pob dysgwr yn rhoi eu sylw llawn i Paul a’r tîm yn ystod y sesiynau hyn ac yn canolbwyntio’n llwyr ar ei neges bwerus iawn. 

“Fel bob amser, mae dysgwyr pob tro yn aros ar ôl i siarad â Paul yn bersonol i ddiolch iddo ac mae o hyd mor groesawgar iddynt ac yn rhoi o’i amser yn hael. 

“Hoffwn ddiolch i Paul, Dayton a Sharee am roi o’u hamser gwerthfawr eto i gyflwyno ‘Addewid Paul’. 

“Mae Paul wedi bod yn cyflwyno’r sgyrsiau pwerus hyn i’n myfyrwyr ers dros 10 mlynedd ac yn bersonol, rwyf wedi bod yn bresennol mewn mwy nag 20 o’i gyflwyniadau ac nid yw’r effaith arnaf byth yn lleihau. 

“Siaradodd â 450 o bobl y tro hwn, ond dros y blynyddoedd, bydd wedi gweld dros 5,000 o fyfyrwyr.  Rwy’n gwybod bod ei eiriau wedi newid ymddygiad llawer ac mae ei sgyrsiau yn ddylanwadol iawn.”

Paul in the college theatre with students being hugged by a social care lecturer
Gelli Aur students in the canteen for Paul's Pledge 2024
Ammanford students in Paul's Pledge talk

Rhannwch yr eitem newyddion hon