Myfyrwyr gwneud dodrefn yn mireinio eu crefft i greu gwobrau Caru Ceredigion wedi’u gwneud â llaw
Gan gymryd ysbrydoliaeth o ddaeareg leol, tir a môr, mae myfyrwyr gwneud dodrefn yng Ngholeg Ceredigion wedi cael y dasg bwysig o greu gwobrau wedi’u gwneud â llaw ar gyfer Gwobrau Caru Ceredigion.
Mae’r gwobrau, a gynhelir gan Gyngor Sir Ceredigion, yn cydnabod cyfraniadau a chyflawniadau eithriadol busnesau, prosiectau cymunedol, ac unigolion ar draws y sir.
Creodd myfyrwyr 12 gwobr, un ar gyfer pob categori, sy’n amrywio o arloesiadau yn y gymuned, megis dod o hyd i ddefnyddiau newydd o hen adeiladau, i wobrau sy’n cydnabod entrepreneuriaid ifanc, digwyddiadau llwyddiannus a’r diwydiant twristiaeth.
Trefnwyd y digwyddiad gan Cynnal y Cardi dan faner Caru Ceredigion ac fe’i cynhaliwyd yn yr Ysgubor ar Fferm Bargoed yn The Moody Cow.
Anogir myfyrwyr gwneud dodrefn yng Ngholeg Ceredigion i gyfuno eu sgiliau gwaith coed a chreadigrwydd i greu amrywiaeth o eitemau gan ddefnyddio pren lleol amrywiol.
Mae ganddynt hefyd fynediad i Lwybrydd CNC, torrwr laser ac maen nhw’n defnyddio amrywiol ddulliau o sgiliau llaw megis gwehyddu cortyn.
Dywedodd Chloe Reynolds, darlithydd mewn dylunio a gwneud dodrefn, yng Ngholeg Ceredigion: “Cyflwynodd y dysgwyr eu syniadau i Fwrdd Caru Ceredigion, ac fe wnaethant roi adborth, mae’r canlyniad wedi bod yn broses ddatblygu ac yn benllanw ystod o syniadau gan yr holl fyfyrwyr.
“Gan ddefnyddio pren o ffynonellau lleol, cawsant eu hysbrydoli gan ddaeareg, tir a môr, gan edrych ar Bileri Triongli, Carreg Bica, Pontarfynach a’r arfordir.
“Cymerwyd y siapiau hyn a’u cynrychioli mewn pren gan ddefnyddio offer amrywiol ac mae’r canlyniad yn un a ddewiswyd gan y bwrdd, sy’n hawdd ei ailadrodd at ddibenion cynhyrchu.
“Rydym i gyd wrth ein bodd i fod yn rhan o’r prosiect hwn”.