Skip page header and navigation
Guto Rogers and Twm Jones with Gold medals

Mae dau fyfyriwr dawnus o Gampws Aberteifi Coleg Ceredigion wedi ennill llwyddiant arbennig yn rownd derfynol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a gynhaliwyd yn Abertawe, gan ennill Medalau Aur yn eu categorïau priodol.

Meddai Twm Jones, a enillodd Aur mewn Gwaith Saer Ar Safle: “Rwy’n hynod o ddiolchgar a gwylaidd i fod wedi ennill y Fedal Aur yn y gystadleuaeth Gwaith Saer Ar Safle. Ni fyddai’r cyflawniad hwn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth fy nghyflogwr a’r coleg. Rwy’n teimlo bod fy hyder wedi tyfu’n sylweddol ers cymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau, ac fe wnaeth cael yr amser i ymarfer a gwella fy sgiliau tra yn y coleg helpu llawer. Mae fy mhrofiad fel prentis wedi darparu’r gwytnwch sy’n ofynnol i gymryd rhan mewn amgylchedd pwysau-uchel am bum awr. Rydw i’n chwyddedig gan falchder i fod wedi ennill y Fedal Aur.”

Rhannodd Guto Rogers, enillydd y Fedal Aur mewn Gwaith Asiedydd Mainc: “Tri chynnig a llwyddo! Ar ôl tair blynedd o waith caled a dyfalbarhad, mae ennill Aur mewn Gwaith Asiedydd yn gwireddu breuddwyd. Roeddwn i’n gallu cwblhau’r dasg ofynnol yn hyderus i safon uchel ac roeddwn i’n gallu mwynhau’r profiad cystadlu pum awr cyfan. Rwy’n eithriadol o ddiolchgar i fy nghyflogwr ac i’r coleg am eu cefnogaeth. Roedd fy nheulu cyfan yn hynod o falch fy mod wedi ennill y Fedal Aur, ac anghofiaf i fyth y daith gystadlu a bydda i bob amser yn edrych nôl gyda balchder.”

Y digwyddiad hwn oedd penllanw holl ddigwyddiadau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru sydd wedi’u cynnal ledled Cymru, sy’n profi sgiliau myfyrwyr mewn amrywiol sectorau, o’r celfyddydau coginiol i gyfrifeg ac adeiladu i hyfforddiant ffitrwydd personol. 

Wedi’i drefnu gan Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, cyflwynodd y digwyddiad wobrau aur, arian ac efydd i fyfyrwyr ar draws Cymru, ac i’r rheiny na allai fod yn bresennol, trefnwyd nifer o bartïon gwylio i ddilyn y digwyddiad byw.

Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru sy’n arwain y prosiect a chystadlaethau a ariennir gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob myfyriwr a phrentis yng Nghymru yn cael eu cefnogi ar hyd eu taith gystadlu.

Mae’r cystadlaethau hyn yn arwain at fod yn rhan o WorldSkills y DU lle mae rhai myfyrwyr yn cael y cyfle i gystadlu i ddod yn rhan o garfanau a thimau’r DU, gan weithio yn y pen draw tuag at gystadlu’n rhyngwladol. 

Rhannwch yr eitem newyddion hon