Myfyrwyr Coleg Ceredigion yn cael eu dewis ar gyfer Carfan Shanghai 2026

Mae Tri fyfyrwraig ddawnus o Goleg Ceredigion wedi cael eu dewis i ymuno â Thîm Cymru fel rhan o Garfan arbennig Shanghai 2026.
Bydd Shannon Brown, Katy Law a Caitlin Meredith yn cynrychioli Cymru wrth iddynt gychwyn ar eu taith tuag at gystadleuaeth ryngwladol WorldSkills yn Tsieina.
Mae WorldSkills yn ddigwyddiad byd-eang sy’n rhoi llwyfan i’r talentau ifanc gorau o ran sgiliau galwedigaethol, gyda chystadleuwyr o bob rhan o’r byd yn arddangos eu harbenigedd mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau.
Mae’r ffaith bod Shannon, Katy a Caitlin wedi cael eu dewis yn dyst i’w hymroddiad, eu gwaith caled, a’r hyfforddiant o ansawdd uchel y maen nhw wedi’i gael yng Ngholeg Ceredigion.
Wrth i’r daith i Shanghai 2026 ddechrau, bydd y prosiect Ysbrydoli Sgiliau yn cynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu ychwanegol i aelodau’r garfan, gan sicrhau eu bod yn barod ar gyfer yr her sydd o’u blaenau. Bydd manylion pellach yn cael eu rhannu gyda nhw fel unigolion yn ystod yr wythnosau nesaf.
Rydym yn hynod o falch o Shannon,Katy a Caitlin, ac rydym yn dymuno pob lwc iddynt wrth iddynt gynrychioli Coleg Ceredigion a Chymru ar y llwyfan rhyngwladol!