Myfyrwyr Coleg Ceredigion yn Bywiogi Gŵyl Cariad gydag Arddangosfeydd Creadigol mewn Ffenestri

Bu myfyrwyr Coleg Ceredigion yn arddangos eu doniau creadigol fel rhan o’r Ŵyl Cariad fywiog, gan gydweithio â siopau lleol i greu arddangosfeydd syfrdanol mewn ffenestri sy’n dathlu ysbryd y digwyddiad.
Fel rhan o’r bartneriaeth gyffrous hon, fe wnaeth pob myfyriwr ymuno â busnes lleol i ddylunio arddangosfa unigryw a thrawiadol mewn ffenestr, yn cynnwys thema cariad, cymuned a threftadaeth leol, sy’n ganolog i’r Wŷl Cariad.
Cynigiodd y fenter gyfle gwerthfawr i fyfyrwyr gymhwyso eu sgiliau mewn sefyllfa byd go iawn tra’n cefnogi busnesau lleol yn ystod yr ŵyl hon yr oedd cryn ddisgwyl amdani.
Roedd yr arddangosfeydd mewn ffenestri’n cynnig cipolwg ar dalentau myfyrwyr Coleg Ceredigion ac amrywiaeth y maes adwerthu lleol yn Aberystwyth.
Roedd ymwelwyr i’r dref yn gallu mwynhau’r arddangosfeydd wrth archwilio’r amrywiaeth eang o weithgareddau’r ŵyl, gan gynnwys arddangosfeydd celf, perfformiadau byw, a gweithdai.
Meddai’r darlithydd Celf a Dylunio, Jess Baudey: “Mae’r myfyrwyr wedi gwneud argraff wirioneddol dda arnom, gan berfformio i’r un safon â’r holl artistiaid eraill yn yr ŵyl. Roedd eu dehongliadau o’r thema Cariad yn ystyrlon, gyda llawer yn cynnwys diwylliant a threftadaeth Cymru wrth ddatblygu’r syniad. Roedd y proffesiynoldeb a ddangoswyd ganddynt yn eu rhyngweithiadau â busnesau lleol yn nodedig - i’r fath raddau y gwnaeth sawl perchennog ofyn am gael arddangos y gwaith celf y tu hwnt i gyfnod yr ŵyl.”


