Skip page header and navigation

Mae Gwendoline wedi cael dwy flynedd brysur yng Ngholeg Sir Gȃr, yn astudio pum pwnc, ac mae hi wedi ennill graddau uchel mewn mathemateg, mathemateg bellach, cemeg, busnes a gwleidyddiaeth gan orffen gyda graddau  A*, A, A, B a B. 

Meddai Gwendoline: “Roedd amserlen eithaf llawn gen i. Roedd athrawon yn gefnogol yn enwedig yn y cyfnod cyn yr arholiadau eleni, pan oedd angen i mi adael gwersi i adolygu ar gyfer arholiadau eraill oherwydd roedd cymaint gen i.”

Bydd Gwendoline yn dechrau yn Ysgol Ryngddisgyblaethol Llundain ym mis Medi yn astudio problemau a dulliau rhyngddisgyblaethol. Nid eich gradd arferol. Daeth Gwendoline ar draws y brifysgol tra’n ymchwilio ar gyfer prosiect bagloriaeth Cymru ac enynnwyd ei chwilfrydedd. 

Dywedodd Gwendoline, wrth sôn am y radd mae hi ar fin cychwyn arni: “Mae’r cwrs yn gweithio ar draws pob pwnc, felly dydych chi ddim yn arbenigo ar un pwnc - rydych chi’n dod â’ch holl wybodaeth ynghyd i ddatrys problemau cymhleth”

Mae Ysgol Ryngddisgyblaethol Llundain yn brifysgol un radd (baglor neu feistr).  Mae’r radd ryngddisgyblaethol yn canolbwyntio ar broblemau cymhleth, megis AI, gwastraff plastig, anghydraddoldeb, a newid yn yr hinsawdd. Maen nhw’n ceisio herio myfyrwyr i feddwl yn wahanol am broblemau cymhleth.

Mae Carl Gombrich, Deon Ysgol Ryngddisgyblaethol Llundain yn dweud: “Nid yw’r radd hon i bawb ond mae i’r rheiny ohonoch sydd wrth eich bodd yn cael eich herio’n ddeallusol mewn llawer o wahanol ffyrdd.”

Sitting on the floor with arms in the air certificate in hand

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau