Skip page header and navigation
Olga in a blue top and coat in a headshot

Yn wreiddiol, astudiodd Olga addysg gorfforol yn y brifysgol yng Ngwlad Pwyl, ond roedd ei chariad at fathemateg yn amlwg bob amser. Prawf o hyn oedd ei bod yn helpu tiwtora plant ei ffrindiau ac unrhyw un oedd angen ychydig o help ym maes rhifedd. Oherwydd, yn ogystal â bod yn alluog gyda rhifau, mae Olga yn cydnabod bod rhai pobl yn cael trafferth gyda mathemateg ac roedd hi am helpu eraill.

Pan symudodd hi i’r DU 11 o flynyddoedd yn ôl, roedd hi’n fam oedd yn aros gartref ond roedd hi am fwrw ymlaen â’i thaith fathemategol mewn rhyw ffordd. Er bod mathemateg yn iaith gyffredinol, nid yw cymwysterau a’r dull o gymhwyso bob amser yn gydnaws yn fyd-eang. 

Felly, fe wnaeth Olga, myfyrwraig hŷn, ddod ar draws cwrs TGAU mathemateg Coleg Sir Gâr a phenderfynodd roi cynnig arni, er gwaetha’r ffaith y byddai’n dysgu mathemateg mewn ail iaith. 

Meddai Olga Andersohn-Muszynska: “Roedd Aled, fy nhiwtor, yn wych ac i mi, y gwersi oedd rhan orau’r wythnos.

“Fe yn llythrennol, yw un o’r athrawon gorau rwyf i erioed wedi cael. Roedd ei agwedd tuag at ein hastudiaethau yn bositif ac roedd e’n gymwynasgar iawn.

“Weithiau doeddwn i ddim yn gyfarwydd â’r fersiwn Saesneg o beth o’r derminoleg fathemategol ond esboniwyd popeth.

“I mi, byddwn i’n dweud ei fod yn fath o seicotherapi gan ei fod yn wirioneddol dda i fy iechyd meddwl. Roedd yn ddwy awr yr wythnos o ganolbwyntio ar rywbeth roeddwn i’n mwynhau yn fawr ac felly roedd yn ymlaciol iawn i mi. 

“Roedd hefyd yn rhywbeth roeddwn i’n gwneud i mi fy hun ac i brofi i mi fy hun roeddwn i’n gallu ei wneud e.”

Mae Olga yn parhau ei hastudiaethau gydag amserlen lawn amser yng Ngholeg Sir Gâr ac mae hi wedi cofrestru ar gwrs Safon Uwch mathemateg bellach, mathemateg ychwanegol a chwrs TGAU mewn Saesneg.

Rhannwch yr eitem newyddion hon