Skip page header and navigation
Students facing the camera during their visit to London
The students in the gallery at Somerset House viewing work

Ar hyn o bryd Coleg Sir Gâr yw’r unig glwb yng Nghymru sy’n cyflwyno’r fenter, gyda’i glwb celf a dylunio, a gynhelir ar fore Sadwrn ar gyfer plant 13-16 oed ar gampws y coleg yn y Graig.

Datblygwyd y clwb tua 15 mlynedd yn ôl pan roddwyd y syniad ar waith gan y sefydlwyr Syr John Sorrell a’r Fonesig Frances Sorrell gyda chefnogaeth eu Sefydliad Sorrell. 

O ganlyniad i lwyddiant y clwb celf a dylunio gwreiddiol, nes ymlaen cafodd pynciau eraill eu datblygu yn glybiau Sadwrn ar gyfer gwyddoniaeth a pheirianneg, ffasiwn a busnes ac ysgrifennu a siarad. 

Mae Coleg Sir Gâr wedi bod yn ymwneud â’r fenter hon ers dros 10 mlynedd ac wedi cyflwyno sesiynau celf a dylunio a gweithdai diwydiannol di-rif i bobl ifanc leol. 

Yn ddiweddar, fe wnaeth yr artist teipograffeg Nadina Ali, sydd wedi’i lleoli yn Llundain ac a anwyd yn Ffrainc, deithio i’r coleg i siarad ag aelodau’r clwb am ei gwaith, ei chomisiynau a’i hysbrydoliaethau. 

Yna cafodd y grŵp gyfle i gael profiad ymarferol a chreu hysbysfyrddau teipograffeg dan arweiniad Nadina.

Aeth gweithdai diwydiannol-arbenigol blaenorol ag aelodau’r clwb celf am sesiwn dylunio gwisgoedd yn y Tŷ Opera Brenhinol a sesiwn ar ganfod graddfa mewn celf mewn cwmni pensaernïol yn Llundain.

Ar ddiwedd bob blwyddyn, mae pob grŵp yn teithio i Lundain ar gyfer digwyddiad graddio ac arddangosfa lle caiff eu gwaith ei ddangos yn Somerset House, ochr yn ochr â gwaith aelodau clybiau eraill o bob cwr o’r DU. 

Meddai Tuesday Howells, sy’n rhedeg y Clwb Sadwrn Cenedlaethol yng Ngholeg Sir Gâr: “Mae’r clwb yn cynnig y fath gyfle i bobl ifanc archwilio eu sgiliau artistig o’u gwirfodd ac ehangu eu gwybodaeth gyda mewnwelediadau ymarferol i’r diwydiant.

“Bob blwyddyn mae gennym grŵp hyfryd o fyfyrwyr ac mae hi mor braf i weld pobl ifanc o bob cwr o Sir Gaerfyrddin, sydd erioed wedi cwrdd o’r blaen, yn bondio dros eu cariad am gelf.”

Mae adolygiad blynyddol y Clwb Sadwrn Cenedlaethol wedi datgelu, ar gyfer y flwyddyn 2023/2024, enillodd 82% o aelodau well ddealltwriaeth o rolau swyddi a gyrfaoedd yn y celfyddydau creadigol, cymerodd 2,155 o bobl ifanc ran yn y clwb a dywedodd 70% o aelodau bod mynychu wedi gwella eu rhagolygon ar gyfer y dyfodol. 

Nodwyd hefyd o fewn yr un flwyddyn, bod 387 o diwtoriaid cefnogi a 175 o weithwyr proffesiynol y diwydiant ar draws y DU wedi cymryd rhan, gyda 3,023 o bobl yn ymweld â’r arddangosfa diwedd blwyddyn yn Llundain. 

Caiff y fenter hon, sy’n hollol rad ac am ddim i gyfranogwyr, ei chefnogi’n ariannol gan Ymgyrraedd yn Ehangach, Cyngor Celfyddydau Lloegr a’r Adran Addysg. 

Mae’r clwb yn rhedeg ar draws tymor blwyddyn academaidd ac fe’i cynhelir ar foreau Sadwrn o 10am i 1pm. 

Dewch i wybod mwy yma

Students under a 'congratulations' sign at the exhibition

Rhannwch yr eitem newyddion hon