Darlithydd Arlwyo a Lletygarwch, Huw Morgan, wedi’i Ddewis yn Feirniad ar gyfer y Gystadleuaeth Fawreddog, Young Chef Young Waiter
Mae darlithydd arlwyo a lletygarwch Coleg Ceredigion, Huw Morgan, unwaith eto wedi’i wahodd i feirniadu yn nigwyddiad mawreddog Young Chef Young Waiter Cymru. Hon fydd trydedd flwyddyn Huw yn gwasanaethu fel beirniad yn y gystadleuaeth fyd-enwog hon.
Cynhelir y gystadleuaeth yn Stadiwm Swansea.com ac mae’n agored i weithwyr proffesiynol ifanc ledled Cymru. Mae’n cynnig cyfle gwych i arddangos talent orau’r wlad, wrth i ben-cogyddion, cymysgwyr coctels, a gweinyddion gystadlu i ddangos eu sgiliau, eu creadigrwydd a’u hangerdd ar lwyfan mawr.
Bydd y rheiny fydd yn cystadlu yn dod ar draws rhai o ffigyrau lletygarwch blaenllaw Cymru ar y panel beirniadu, gan gynnwys Huw, gyda chyfle i feithrin sgiliau a gwneud cysylltiadau â diwydiant mewn amgylchedd heriol a gwerth chweil.
Bydd Huw yn goruchwylio’r gystadleuaeth Gwasanaeth Bwyty, lle bydd y goreuon sy’n cyrraedd rownd derfynol Cymru yn cystadlu dros ddeuddydd. Bydd y prif weinydd, pen-cogydd a chymysgwr coctels yn ennill y cyfle i gynrychioli Cymru yn Rownd Derfynol y Byd ym Monaco yn ddiweddarach eleni.
Mae Huw yn gyfarwydd iawn â llwyddiant mewn cystadlaethau. Ers 2019, o dan ei arweiniad arbenigol, mae myfyrwyr o gampws Aberteifi Coleg Ceredigion wedi casglu 35 o fedalau ac anrhydeddau.
Wrth fyfyrio ar ei rôl, rhannodd Huw: “Rwy’n hynod falch o fod yn feirniad yn y gystadleuaeth hon unwaith eto. Mae cynrychioli Coleg Ceredigion ar y llwyfan cenedlaethol a helpu Cymru i ddewis ei hymgeiswyr gorau ar gyfer llwyfan y byd ym Monaco yn anrhydedd gwirioneddol.”