Skip page header and navigation
Becky a Ffion o dîm Be Ambitious yn dal tystysgrif gwobr i fyny o flaen y faner

Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi cael eu cydnabod gyda gwobr am eu gwelliant parhaus mewn dysgu ar gyfer gyrfaoedd a byd gwaith. 

Mae’r wobr yn cydnabod y prosesau ar waith sy’n galluogi staff i adolygu a gwella’n barhaus rhaglenni gyrfaoedd a chysylltiedig â gwaith, gan sicrhau profiad dysgu dengar a dynamig ar gyfer myfyrwyr.

Mae’r coleg yn darparu rhaglenni addysg gyrfaoedd a chysylltiedig â gwaith dengar a llawn gwybodaeth i’r holl ddysgwyr, gan roi iddynt sgiliau rheoli gyrfa pwysig ar gyfer ffynnu yn y gweithle modern. Bydd arweiniad gyrfaol cryf yn cynnig buddion uniongyrchol a hirdymor iddynt, o wella cymhelliant myfyrwyr i osod cyrchnodau clir ar gyfer astudiaethau yn y dyfodol a llwybrau gyrfa, gan hybu eu hunanbarch a’u synnwyr o ran cyfeiriad yn y pen draw.

Mae’r gydnabyddiaeth hon yn nodi’r ail Wobr Ddatblygu Gyrfa Cymru i Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, gan adeiladu ar eu llwyddiant blaenorol yn 2021.

Meddai Becky Pask, cydlynydd entrepreneuriaeth a chyflogadwyedd yng Ngholeg Sir Gâr: “Rydyn ni wrth ein bodd i fod wedi cael ein cydnabod gyda Gwobr Ddatblygu Gyrfa Cymru ar gyfer Gwelliant Parhaus wrth gyflwyno’r Fframwaith Gyrfaoedd a Byd Gwaith. 

“Mae’r wobr hon yn dystiolaeth i ymroddiad ein staff o ran cefnogi’r Gwobrau Byddwch yn Uchelgeisiol a ariennir gan Fiwro Cyflogaeth a Menter Llywodraeth Cymru yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wrth ddarparu addysg yrfaol o ansawdd uchel sy’n cefnogi uchelgeisiau ein dysgwyr.

“Yn yr hinsawdd economaidd heriol sydd ohoni heddiw, mae’n bwysicach nag erioed i ddarparu’r sgiliau rheoli gyrfa i fyfyrwyr sydd eu hangen i lwyddo yn y gweithlu modern. 

“Rydyn ni’n ymfalchïo yn y cyflawniad hwn a pharhawn yn ymrwymedig i wella ein darpariaeth yn barhaus er budd ein holl ddysgwyr.”

Rhannwch yr eitem newyddion hon