Archwilio seicoleg yn y brifysgol trwy Raglen Maes Meddygol y coleg

Cafodd myfyrwyr Safon Uwch â diddordeb yn y sector gofal iechyd fewnwelediad i astudio seicoleg gydag ymweliad â Phrifysgol Abertawe, fel rhan o bartneriaeth Rhaglen Maes Meddygol y coleg.
Dan arweiniad Dr Kyle Jones o Brifysgol Abertawe, roedd y sesiwn yn cynnwys ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ymchwil gwyddonol, damcaniaeth seicolegol a’i chymhwyso.
Ymchwiliodd hefyd i feysydd amrywiol ymchwil clinigol a seicoleg alwedigaethol gan gynnwys seicoleg seiber, milwrol a dementia.
Fel rhan o raglen ymchwil prifysgol, cymerodd myfyrwyr ran hefyd mewn Prawf Stroop sy’n brawf seicolegol sy’n mesur hyblygrwydd gwybyddol a chyflymder prosesu.
Rhoddodd cynrychiolwyr y Brifysgol hefyd gipolwg i’r grŵp ar y rhaglenni gradd sydd ar gael a pha fath o ymchwil y gallent arbenigo ynddo yn ogystal â’u gwahodd i raglen haf breswyl ddewisol.
Mae’r Rhaglen Maes Meddygol, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, wedi’i hanelu at fyfyrwyr sydd am archwilio tu hwnt i rôl draddodiadol meddyg ac edrych ar yrfaoedd yn cynnwys biocemeg, seicoleg, awdioleg, geneteg, radiograffeg a theatr.
Meddai Dr Susan Ford, darlithydd mewn cemeg yng Ngholeg Sir Gâr sy’n arwain y rhaglen: “Roedd yr ymweliad hwn, sef ein trydydd ymweliad â’r brifysgol eleni, yn gyfle amhrisiadwy i fyfyrwyr gael profiad o seicoleg mewn lleoliad prifysgol.
“Mae cael cipolwg ymarferol ar y pwnc a’i yrfaoedd a’i lwybrau addysgol cysylltiedig yn ogystal ag ymgysylltu ag arbenigwyr academaidd yn fantais enfawr i’r rhaglen hon ac i’n myfyrwyr.”


