Dyfarniad Lefel 4 ar gyfer Peilotiaid Dronau Masnachol (RQF) (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Campws y Gelli Aur
- Casnewydd
Diben y cymhwyster hwn yw rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i ddysgwyr allu hedfan system awyrennau di-griw. Mae’n cyd-fynd â’r gofynion a bennir gan y CAA ar gyfer eu Tystysgrif Llinell Olwg Weledol Gyffredinol (GVC), a bydd cynnwys y cwrs yn paratoi dysgwyr ar gyfer asesiad CAA. Mae’r cymhwyster hefyd yn addas ar gyfer dysgwyr sydd eisoes yn meddu ar eu GVC ac sy’n edrych am gydnabyddiaeth ychwanegol o’u cymhwysedd.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
£1050 (Cyllid CDP ar Gael)
Disgrifiad o'r Rhaglen
I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.
Yn ogystal, rhaid i chi fod:
● yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu
● yn hunangyflogedig neu
● yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)
Does dim cap cyflogau o ran cyllid ar gyfer y cwrs hwn.
Nod y cymhwyster hwn yw cefnogi busnesau a chyrff y llywodraeth i gael y gorau o dechnolegau systemau awyrennau di-griw. Mae angen i Beilotiaid Dronau O Bell weithredu mewn ystod o ddiwydiannau ac amgylcheddau. Mae’r cymhwyster hwn yn sail i’r cymwyseddau sydd eu hangen yn y swyddi canlynol:
- Peilotiaid Dronau o Bell
- Ffotograffwyr
- Sgaffaldwyr
- Syrfewyr
- Peirianwyr
- Towyr
- Gwasanaethau Brys
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy’n defnyddio Awyrennau Di-griw at ddibenion masnachol neu ddibenion risg ganolig mewn diwydiant penodol a rôl gysylltiedig.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus bydd dysgwyr yn gallu symud ymlaen i gymwysterau amrywiol a gynigir gennym.
Cyllid CDP
Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.
Cyllid ReAct+
Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.
Mwy o gyrsiau Cyrsiau Dronau (ASG)
Does dim cyrsiau eraill sy’n gysylltiedig â’r pwnc hwn.