Skip page header and navigation
Date(s)
This event has multiple dates:
  • -
  • -

Dyddiadau Graddio

Dydd Iau 3ydd Gorffennaf 2025 - Mae gwahoddiadau personol wedi’u hanfon ar e-bost at raddedigion cymwys.

Y Seremonïau Graddio yw uchafbwynt y calendr academaidd. Maent yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddathlu eu llwyddiannau gyda theulu a ffrindiau.

A family taking a celebratory selfie at graduation.
A group of 5 students in graduation caps and gown  - they are walking away from the camera in a line
a young lady getting her cap fitted for graduation

Gwybodaeth Raddio

Caniateir dau docyn gwestai i bob myfyriwr ond rydych chi’n gallu gofyn am docynnau ychwanegol drwy graduation@colegsirgar.ac.uk os dymunwch. Unwaith bod nifer y myfyrwyr sy’n graddio wedi’i gadarnhau gwneir penderfyniad ynghylch p’un a ellir dyrannu tocynnau ychwanegol. Ni wneir y penderfyniad hwn tan wythnos cyn y seremonïau felly peidiwch â ffonio i ymholi am argaeledd tocynnau ychwanegol. 

Bydd y tocynnau ar gael i’w casglu ar ddiwrnod y seremoni ond byddwch chi’n derbyn e-bost ymlaen llaw yn cadarnhau nifer y tocynnau byddwch chi’n eu derbyn. Nid yw’r seremonïau’n briodol ar gyfer plant dan bump oed oherwydd natur ffurfiol y digwyddiad.

Rydym yn cydnabod bod cyfyngu tocynnau gwesteion yn y modd hwn yn gallu achosi ychydig o siom, ond byddwch yn deall bod nifer y seddau yn y prif leoliad yn gyfyngedig.

Os ydych chi am fynychu Seremoni Raddio, mae’n ofynnol i chi wisgo gwisg academaidd lawn sy’n briodol i’r dyfarniad eich derbynnir chi iddo. Rydych chi’n gyfrifol am archebu hon eich hun yn Ede & Ravenscroft.

Dylech chi roi eich archeb o leiaf 21 diwrnod cyn y seremoni gan na all Ede & Ravenscroft warantu’r archeb os caiff ei rhoi yn hwyrach na hynny. Peidiwch ag aros nes bod y canlyniadau asesu terfynol yn hysbys. Mae ad-daliadau ar gael am unrhyw reswm os nad ydych yn gallu mynychu, ond mae rhaid i chi hysbysu Ede & Ravenscroft o fewn saith diwrnod cyn y Seremoni. Mae eu polisi canslo ar gael ar eu gwefan. Bydd Ede & Ravenscroft yn cydnabod derbyn eich archeb pan fydd wedi’i phrosesu ond efallai na fyddwch yn derbyn hyn tan ddeg diwrnod cyn y Seremoni.

I roi eich archeb nodwch ‘Coleg Sir Gar’ pan ofynnir ‘Select Your Institution’. Yn ogystal bydd angen i chi wybod cylchedd eich pen a mesuriadau eich brest a’ch taldra.

Bydd eich gynau ar gael i chi eu casglu o Theatr y Ffwrnes ar Ddiwrnod Graddio. Cofiwch ddychwelyd eich gynau ar ôl y seremoni, oni bai eich bod wedi trefnu eu llogi am gyfnod hwy.

Dylid gwneud archebion ar gyfer ffotograffau ffurfiol ymlaen llaw yn uniongyrchol drwy Ede & Ravenscroft.

Ar Ddiwrnod Graddio, bydd y stiwdios ffotograffiaeth a’r ddesg werthiannau wedi’u lleoli yn Theatr y Ffwrnes.

Maes Parcio East Gate  SA15 3YF

Taliadau’n berthnasol rhwng 8:00am - 6:00pm

Arhosiad mwyaf o 4 awr - £2.20

Maes Parcio Stryd Thomas/Edgar SA15 3JE

Taliadau’n berthnasol rhwng 8:00am - 6:00pm

Parcio trwy’r dydd - £1.90

Maes Parcio Aml Lawr Stryd Murray SA15 1DJ

Taliadau’n berthnasol rhwng 8:00am - 6:00pm

Parcio trwy’r dydd - £2.40

I gael y wybodaeth ddiweddaraf ar holl feysydd parcio Llanelli ewch i dudalen barcio’r Cyngor ar y we neu cliciwch yma.

Cwestiynau Cyffredin

  • Cysylltwch â graduation ar unwaith. Bydd y tîm yn gwirio eich cofnod ac yn e-bostio eich gwahoddiad os yn briodol.

  • Byddwch yn derbyn e-bost gyda dolen i gwblhau ‘Ffurflen mynegi diddordeb’. Bydd gwahoddiadau’n dilyn ar e-bost i‘r holl fyfyrwyr sy’n ymateb gydag ‘YDW’ i’r ffurflen. Caiff cyfarwyddiadau ar sut i gofrestru eu cynnwys yn yr e-bost.

    Archebir trwy’r wefan Ede & Ravenscroft. Byddwch chi angen eich Rhif myfyriwr coleg, cyfenw a chyfeiriad e-bost. Pan ofynnir i chi  ‘Select Your Institution’ rhowch ‘Coleg Sir Gar’.

  • Bydd angen i chi gyrraedd ddwy awr cyn i’r seremoni gychwyn er mwyn caniatáu digon o amser i chi gasglu eich gŵn, rhif eich sedd a thocynnau gwesteion.

    Bydd angen i fyfyrwyr fod yn eu seddau 30 munud cyn bod y seremoni i fod i gychwyn. Yn ystod yr amser hwnnw byddwch yn eistedd yn eich sedd neilltuedig ac yn cael eich briffio gan y Prif Farsial.

  • Os digwydd bod anabledd / gofynion mynediad penodol gennych chi neu unrhyw rai o’ch gwesteion y mae angen i ni wybod amdanynt neu nam ar y llygaid/y clyw, cysylltwch â graduation gyda manylion ac ymdrechwn i fodloni eich anghenion.

    Gwnewch staff yn ymwybodol fel y gellir darparu cymorth os yn ofynnol.

  • Caiff seddau gwesteion eu dyrannu ar ôl iddynt gyrraedd. Darperir tocynnau wrth y ddesg gofrestru.

    Bydd drysau ar agor i westeion tua 20 munud cyn dechrau’r seremoni.

  • Gallwch chi ofyn am docynnau ychwanegol trwy graduation@colegsirgar.ac.uk. Unwaith bod nifer y myfyrwyr sy’n graddio wedi’i gadarnhau gwneir penderfyniad ynghylch p’un a ellir dyrannu tocynnau ychwanegol. Ni wneir y penderfyniad hwn tan wythnos cyn y seremonïau felly peidiwch â ffonio i ymholi am argaeledd tocynnau ychwanegol.

    Fel arall, bydd ffrydio byw ar gael yn y lleoliad. Yn ogystal anfonir y ddolen allan i’r holl Ddarpar-raddedigion ychydig o ddiwrnodau cyn y seremoni.

  • Rhaid i’r Darpar-raddedigion wisgo gwisg academaidd ar gyfer eu cyflwyniad yn y cynulliad. Rydyn ni hefyd yn gofyn i chi wisgo gwisg weddol ffurfiol. Mae angen rhoi y cwfl yn sownd naill ai i siaced, crys neu flows.

  • Mae hyd y seremoni’n dibynnu ar nifer y myfyrwyr sy’n mynychu ond tua 1 awr. Ar wahân i’ch cyflwyniad, mae’n ofynnol i chi aros yn eich sedd trwy gydol y seremoni.

  • Bydd tystysgrifau’n cael eu postio i fyfyrwyr y mae eu dyfarniadau wedi’u cadarnhau mewn cyfarfod Bwrdd Dyfarnu Haf o fewn rhyw wyth wythnos i’r seremonïau graddio.

    Bydd myfyrwyr y caiff eu dyfarniadau eu cadarnhau mewn cyfarfodydd Byrddau Dyfarnu a gynhelir ar adegau eraill y flwyddyn yn derbyn eu tystysgrifau rhyw wyth wythnos ar ôl y Bwrdd. Byddwch yn derbyn gwahoddiad i ddathlu eich cyflawniad mewn seremoni raddio er gwaetha’r ffaith eich bod efallai wedi derbyn eich tystysgrif yn barod.

    Os oes gennych unrhyw ymholiad ynghylch eich tystysgrif ar ôl yr amser hwn, cysylltwch â’r Gofrestrfa.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer pob cwestiwn ac ymholiadau ynghylch Graddio, cysylltwch â’r tîm drwy graduation@colegsirgar.ac.uk

Lleoliad

The Ffwrnes Theatre
Park Street
Llanelli
SA15 3YE
Y Deyrnas Unedig

Rhannwch y digwyddiad hwn