Hysbysiad Preifatrwydd I Ddysgwyr
2022 - 2025
Introduction
-
Mae cymryd rhan yn y rhaglen hon yn ddibynnol ar i chi ddarparu data personol. Coleg Sir Gâr neu Goleg Ceredigion (o hyn ymlaen, y Coleg) fydd y rheolydd data ar gyfer y wybodaeth bersonol y byddwch yn ei darparu. Bydd y Coleg yn defnyddio’r wybodaeth hon i weinyddu a rheoli eich rhaglen.
Mae’n bosibl bod y rhaglen ddysgu rydych ar fin cofrestru arni yn cael ei hariannu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.
-
Bydd y Coleg yn defnyddio eich data ar gyfer gweinyddu eich rhaglen, hawlio cyllid gan Lywodraeth Cymru os yw’n briodol, casglu ffïoedd os yw’n briodol, cynhyrchu cyfrif rhwydwaith i roi mynediad i chi i wasanaethau TG megis Google a Microsoft a monitro eich cynnydd a’ch deilliannau (megis cyflawni cymwysterau). Gall hefyd gael ei ddefnyddio mewn crynodebau ystadegol a chyhoeddiadau ymchwil, lle bydd yn ddienw ac ni chewch eich adnabod. Rhoddir manylion llawn am sut yr ydym yn defnyddio eich data isod.
-
Dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) mae gennych yr hawl i:
- gael mynediad i’r data personol y mae’r Coleg yn ei gadw amdanoch chi;
- mynnu bod y Coleg yn cywiro manylion anghywir yn y data hwnnw;
- gwrthwynebu prosesu ar sail sy’n ymwneud â’ch sefyllfa benodol chi (mewn rhai amgylchiadau);
- cyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);
- cael eich data wedi’i ddileu (mewn amgylchiadau penodol);
- cyflwyno cwyn i swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
-
Disgrifiad
Cadw
Data craidd dysgwyr
O leiaf 10 mlynedd ar ôl i chi adael y Coleg ac ar hyn o bryd am gyfnod amhenodol ar Gronfeydd Data ac yn yr Archif
Deilliannau dysgwyr - pasio, cymhwyster, rhestrau dyfarniadau
10 mlynedd ar ôl i chi adael y Coleg *
Cofnodion yn ymwneud â’ch cynnydd
academaidd
6 blynedd ar ôl i chi adael y Coleg
Cofnodion yn ymwneud ag ymddygiad a materion disgyblu
6 blynedd ar ôl i chi adael y Coleg
Cofnodion yn ymwneud â materion lles/ cefnogi dysgwyr
6 blynedd ar ôl i chi adael y Coleg
Gwasanaethau Cynghori Dysgwyr
2 flynedd ar ôl i chi adael y Coleg
* Gellir cysylltu â chyrff dyfarnu am ganlyniadau a thystysgrifau cyn ac ar ôl y cyfnod cadw hwn.
-
I gael manylion am y wybodaeth y mae’r Coleg yn ei chadw a’i defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau dan y GDPR, gweler y cyswllt isod:
-
Swyddog Diogelu Data
-
Coleg Sir Gâr /Coleg Ceredigion
-
Campws y Graig
-
Heol Sandy
-
Llanelli
-
SA15 4DN
- dataprotectionofficer@colegsirgar.ac.uk
I gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, gweler y manylion isod:
-
Wycliffe House
-
Water Lane
-
Wilmslow
-
Cheshire
-
SK9 5AF
-
029 2067 8400 (llinell gymorth Cymru) neu 0303 123 1113 ((llinell gymorth y DU) Hafan / ICO
-
-
Os yw’r Coleg yn bwriadu defnyddio eich data mewn ffordd wahanol i’r hyn a nodwyd adeg ei gasglu, fe gewch eich hysbysu. Bydd holl brosesu’r Coleg yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth diogelu data gyfredol. Bydd diweddariadau i’r hysbysiad preifatrwydd ar gael ar ein gwefannau www.colegsirgar.ac.uk a www.ceredigion.ac.uk.
-
Bydd rhywfaint o’r data a gasglwyd yn ddata personol a/neu yn ddata categori arbennig fel y’i diffinnir yn y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol sy’n cynnwys:
Data Personol:
- Dynodydd unigryw’r dysgwr (a grëwyd gan Lywodraeth Cymru)
- Rhif adnabod y dysgwr (a grëwyd gan y Coleg)
- Cyfenw ac Enw(au) Cyntaf
- Cyfeiriad (Cartref ac yn Ystod y Tymor) a Chodau Post
- Gwlad Breswyl
- Rhif ffôn (Cartref a Symudol)
- Cyfeiriad e-bost
- Rhif Yswiriant Gwladol
- Rhywedd
- Cyfenw yn 16 oed
- Dyddiad geni
- Mewn Gofal / Ymadäwr Gofal
- Cofnod Troseddol
- Hunaniaeth genedlaethol
- Siaradwr Cymraeg
- Cymhwyster Uchaf yn y Gymraeg
- Dewis o ran gohebiaeth - Cymraeg / Saesneg
- Rhif cofrestru cerbyd
- Statws cyflogaeth
- Manylion cyflogwr
- Yr ysgol ddiwethaf yr aethoch iddi
- Y flwyddyn y gadawsoch yr ysgol
- Rhif dysgwr unigryw (a grëwyd gan y Gwasanaeth Cofnodion Dysgu)
- Manylion cyswllt Perthynas Agosaf
At hynny ceir data amdanoch sy’n cael ei ddiffinio fel data categori arbennig.Nid oes rhaid i chi ddarparu’r data hwn a bydd yn cynnwys:
- Ethnigrwydd
- Math o anabledd
- Cyflwr iechyd
Caiff y data personol/categori arbennig hwn ei ddefnyddio ar draws pob dysgu Ôl 16 yn y Coleg.
Hefyd, ar gyfer dysgwyr Addysg Uwch yn unig:
- Crefydd
- Cyfeiriadedd Rhywiol
Hunaniaeth o ran rhywedd - yr un fath ag a neilltuwyd ar enedigaeth - Gwlad eich Geni
- Math o lety yn ystod y tymor
- Yn derbyn Lwfans i Fyfyrwyr Anabl
- Cymhwyster Uchaf ar fynediad
-
Mae’r Coleg yn casglu llawer iawn o wybodaeth bersonol amdanoch chi ac mae hon yn cael ei rhannu gyda nifer o sefydliadau eraill fel y dangosir isod i gyflawni’r swyddogaethau y mae’n ofynnol i ni fel Coleg eu cyflawni. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae casglu’r data hwn yn orfodol - rhywbeth y mae’n rhaid i ni ei wneud. Isod rydym wedi amlinellu’r sefydliadau rydym yn rhannu eich data â nhw a’r prif resymau dros i ni wneud hyn. Gallwn eich sicrhau ein bod yn storio eich data yn ddiogel ac yn defnyddio eich data yn unig at y dibenion a amlinellir. Nid ydym yn ei drosglwyddo i unrhyw drydydd parti at ddibenion marchnata neu werthu.
Categori’r Dysgwr
Sefydliad rydym yn rhannu ag ef
Pwrpas(au) rhannu data
Addysg
Bellach
Dysgu
Seiliedig ar Waith
Addysg
Uwch
Ysgol
14-19
Llywodraeth Cymru (gan gynnwys cyrff ymchwil a gomisiynir gan LlC i gynnal dadansoddiad / gwerthusiad o raglenni / prosiectau)
Ariannu Addysg Bellach (AB); monitro cyfranogiad grwpiau
gwahanol; Taliadau Lwfans
Cynhaliaeth Addysg (LCA); monitro perfformiad myfyrwyr a cholegau.
✓
Gwasanaeth Cofnodion Dysgwyr (LRS)
Cofnodiad cenedlaethol o
gyflawniadau a chyraeddiadau myfyrwyr o’r Ysgol i’r Coleg.
✓
✓
✓
✓
Consortiwm B-WBL dan arweiniad Coleg Sir
Benfro
Ariannu ein gweithgaredd
Prentisiaeth Dysgu Seiliedig ar Waith (WBL); monitro cyfranogiad grwpiau gwahanol; monitro
perfformiad colegau; darparu data i Lywodraeth Cymru fel darparwr arweiniol ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith.
✓
Prifysgol Cymru: Y
Drindod Dewi Sant
(PCYDDS)
Ariannu ein dysgu Addysg Uwch (AU); monitro cyfranogiad grwpiau gwahanol; monitro perfformiad myfyrwyr a cholegau; dyfarnu tystysgrifau; darparu data i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) a’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (SLC).
✓
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)
Cyflenwir trwy PCYDDS
Ariannu dysgu Addysg Uwch (AU); monitro cyfranogiad grwpiau
gwahanol; monitro perfformiad colegau; darparu data i Lywodraeth Cymru.
✓
Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA)
Cyflenwir trwy PCYDDS
Casglu data ystadegol ar gyfer y sector AU i gyfrifo mesurau
perfformiad safonol.
✓
Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (SLC)
Cyflenwir trwy PCYDDS
Gweinyddu a thalu ffïoedd,
benthyciadau a bwrsariaethau i fyfyrwyr sy’n ymgymryd ag AU.
✓
Ede and Ravenscroft
I wasanaethu seremonïau Graddio – gwasanaethau gynau a
ffotograffiaeth.
✓
✓
✓
Cynghorau Sir
Gaerfyrddin / Ceredigion
Rhywfaint o ddarpariaeth a gefnogir; Rhwydwaith cludiant; tocynnau bws.
✓
✓
✓
Ysgolion Partner 14 -19
Er mwyn monitro perfformiad disgyblion ysgol sy’n mynychu rhaglenni yn y Coleg fel rhan o weithgareddau 14 -19.
✓
Cyrff Dyfarnu, e.e.
CBAC, BTEC, CGLI, CACHE, OCR ac ati
Cofrestru dysgwyr ar gyfer
dyfarniadau a rhoi tystysgrifau i’r rheiny sy’n llwyddo.
✓
✓
Tribal (WEST)
System a gaffaelwyd gan
Lywodraeth Cymru a ddefnyddir i asesu a datblygu lefelau
llythrennedd a rhifedd myfyrwyr.
✓
✓
ALPS
System gwerth ychwanegol a ddefnyddir i fonitro’r cynnydd addysgol mae myfyrwyr yn ei wneud rhwng dechrau a gadael y Coleg.
✓
Microsoft
Er mwyn i fyfyrwyr gael defnyddio’r meddalwedd.
✓
✓
✓
✓
Gwgl
Er mwyn i fyfyrwyr gael defnyddio’r meddalwedd.
✓
✓
✓
✓
Txt connect
Rhifau ffôn symudol i ganiatáu i ni anfon negeseuon testun at fyfyrwyr.
✓
✓
✓
✓
Chwaraeon Cymru
Trwy UPSHOT
Cofnodi myfyrwyr sy’n cymryd rhan mewn prosiectau a ariennir gan Chwaraeon Cymru i fonitro lefelau cyfranogiad.
✓
✓
✓
My Concern
Olrhain a monitro materion diogelu myfyrwyr.
✓
✓
✓
✓
Cynnal
Derbyn ac anfon ymlaen Cynlluniau Datblygu Unigol mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol dysgwyr.
✓
✓
✓
✓
Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Er mwyn gwirio hanes troseddol blaenorol myfyrwyr ar rai rhaglenni..
✓
✓
✓
Cyflogwyr
Monitro cynnydd Gweithwyr ar raglenni a ariennir/a gefnogir.
✓
✓
✓
Rhieni / Gwarcheidwaid os dan 18 oed
I’w galluogi i fonitro eich cynnydd yn y coleg.
✓
✓
✓
✓
-
Bydd y data y mae’r Coleg yn ei gasglu amdanoch yn cael ei storio mewn cronfa ddata ddiogel y caiff mynediad iddi ei reoli ac y caiff profion eu cynnal yn rheolaidd arni er mwyn sicrhau diogelwch ac integriti.