Skip page header and navigation

coginio24

Cegin y Bobl

cegin y bobol logo black

Mae Cegin y Bobl yn sefydliad dielw newydd uchelgeisiol a ffurfiwyd yn hydref 2024 i barhau â gwaith llwyddiannus prosiect tair blynedd Coleg Sir Gâr, Cook24. Os hoffech chi ddysgu mwy am waith Cegin y Bobl, cyfrannu i helpu i drawsnewid perthynas Cymru â bwyd neu gael y newyddion diweddaraf am Cegin y Bobl, cysylltwch â ni

www.ceginybobl.co.uk

coginio24

Saernïo Dyfodol mewn Bwyd ac Ysbrydoli Cymunedau

cook24 logo

Croeso i coginio24

Porth i sgiliau bwyd a all newid dyfodol unigolion a’r cymunedau maen nhw’n byw ynddynt. Mae coginio24 yn cael ei gyflwyno gan weithwyr proffesiynol profiadol ac ysbrydoledig yn y diwydiant sy’n gweithio yn rhai o’r busnesau mwyaf llwyddiannus a chreadigol yng Nghymru.

 Os ydych chi’n meddwl am ddyfodol yn y sector bwyd, gallwn eich helpu i ddod o hyd i ffordd i’r byd cyffrous a chreadigol hwnnw. Os ydych chi am ddod â sgiliau coginio newydd i’ch cartref, cymuned, ysgol neu fusnes, yna rydyn ni yma i wneud i hynny ddigwydd. Mae’r cyfan yn cael ei gyflawni drwy ystod amrywiol o gyfleoedd hyfforddi hyblyg wedi’u teilwra i fod yn hygyrch ble bynnag yr ydych chi’n Sir Gaerfyrddin.

Gadewch i ni goginio!
myfyrwyr coginio24 yn gweini’r cyhoedd mewn gŵyl fwyd wib tra’n gwisgo dillad â brand coginio24

Dod yn...

Ymunwch â coginio24 i wella eich sgiliau bwyd, rhoi hwb i’ch hyder, a chychwyn ar daith drawsnewidiol ym myd bwyd a lletygarwch.

P’un a ydych chi’n ddechreuwr neu’n gogydd profiadol, byddwch chi’n gallu dod o hyd i gwrs i chi, gyda’r amrywiaeth o raglenni sydd gennym ni ar gael. Os ydych chi’n chwilio am lwybr gyrfa newydd, eisiau cymryd rhan yn eich cymuned, neu ganolbwyntio ar dwf personol, mae coginio24 yn creu cyfleoedd diddiwedd.

Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr yn y diwydiant, yn adeiladu ar sgiliau ac yn arbenigo yn eich meysydd diddordeb. Os ydych chi’n entrepreneur uchelgeisiol, rydyn ni’n darparu’r gefnogaeth a’r mentoriaeth sydd eu hangen i ddechrau eich busnes bwyd eich hun.

Byddwch yn rhan o dîm angerddol sydd am wneud newid cadarnhaol mewn cymunedau lleol a lletygarwch trwy ledaenu gwybodaeth ac angerdd am fwyd, coginio a’r diwydiant.

P’un a yw eich arbenigedd mewn coginio yn y gymuned neu giniawa moethus, mae gennym ni amrywiaeth o gyrsiau ar gael a gallwn ddod o hyd i’r un perffaith i chi ei arwain.

Ein nod yw cynnig sylfaen eang yn y technegau coginio hanfodol, wedi’u lliwio â mewnwelediadau amhrisiadwy i’r diwydiant, gan bobl sydd wedi llwyddo ar y lefel uchaf yn eu meysydd eu hunain.

Yr hyn rydym ni’n ei ddisgwyl gennych chi:

  • Bod yn fodel rôl cadarnhaol ar gyfer darpar gogyddion.
  • Gallu gweithio’n dda mewn tîm.
  • Nid oes angen cymwysterau ffurfiol mewn arlwyo nac addysgu.
  • Nid ydym yn gofyn i chi neilltuo swm penodol o oriau, mae i fyny i chi’n llwyr faint o ddyddiau yr hoffech chi weithio.

Prosiectau Blaenorol

Yn coginio24, rydym ni wedi ymrwymo i gael effaith gadarnhaol ar unigolion, teuluoedd a chymunedau trwy ein hystod amrywiol o raglenni bwyd. Mae ein mentrau wedi’u cynllunio i fynd i’r afael ag amrywiol agweddau ar addysg bwyd, o sgiliau coginio gartref i rymuso arweinwyr cymunedol a chefnogi busnesau lleol.

Amrywiol ddysgwyr coginio24 yn ystod dosbarth, pob un yn wynebu i’r un cyfeiriad, yn gwylio arddangosiad na ellir ei weld yn y llun
  • Yn 2022, derbyniodd Coleg Sir Gâr gyllid gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Adnewyddu Cymunedol, a dyma sut y cafodd coginio24 ei eni.

    Roedd coginio24 yn ymateb i’r prinder sgiliau cegin a’r nod oedd cefnogi gweithredwyr bwyd a diod bywiog a nodedig Cymru trwy gwrs rhagarweiniol dwys; wedi’i gynllunio i hyfforddi staff i bwynt lle gallant fod yn aelodau cynhyrchiol a chreadigol o dîm cegin.

     Cyflwynwyd y cwrs rhagarweiniol dwys hwn gan gogyddion enwog yn y diwydiant lletygarwch, dros gyfnod o 5 wythnos. Roedd myfyrwyr yn cael eu cadw’n brysur gan amlaf yn dysgu sgiliau coginio manwl gan gogyddion coginio24. Fodd bynnag, cawsant hefyd gyfleoedd i gymryd rhan mewn dyddiau hylendid bwyd, barista, a hyfforddiant cymorth cyntaf, blasu gwin, a diwrnodau rhwydweithio amrywiol.

    pen-cogydd coginio24, Tom Furlong, yn egluro rhywbeth i fyfyriwr yn ystod sesiwn goginio coginio24
    llun grŵp o’r rhai cyntaf erioed i gymryd rhan yn coginio24
  • Cynhaliodd coginio24 weithdy coginio cyffrous ar gyfer tîm rygbi’r Scarlets. Gwelodd y profiad unigryw hwn chwaraewyr y Scarlets yn ymdrochi i fyd coginio, o ffiledu pysgod i ddysgu ryseitiau cyfrinachol rhai o’n cogyddion. Roedd yn gyfle gwych i ddysgu sgiliau newydd, gwaith tîm ac ymchwilio i’r diwydiant lletygarwch.

    scarlets logo
    Chwaraewr y Scarlets Javan Sebastian yn coginio yn ystod sesiwn goginio coginio24 Y pen-cogydd Scott Davies yn gwylio y tu ôl i Javan
  • Mae Ymddiriedolaeth Sied Nwyddau Rheilffordd Llanelli yn grŵp sydd wedi ymrwymo i warchod treftadaeth ddiwydiannol Llanelli. Ers 2011, maen nhw wedi bod yn brysur yn adfer Sied Nwyddau’r Rheilffordd adfeiliedig yn ôl i ddefnydd.

     Yn ystod yr wythnosau cyn agor eu Caffi Cymunedol, cynhaliodd coginio24 gwrs pwrpasol ar gyfer eu staff a’u gwirfoddolwyr. Fe wnaethant roi hyfforddiant barista a chyrsiau hylendid bwyd Lefel 2. Hefyd, gan weithio gyda’n tîm o gogyddion coginio24, fe wnaethon nhw greu bwydlen, gan amlygu cynnyrch lleol a thymhorol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn galw heibio a phrynu jar o’u jam a’u siytni cartref blasus!

    goods shed logo
    llun agos o fyfyriwr coginio24 yn gwneud coffi yn ystod hyfforddiant barista
  • Mae gan ysgol gynradd Llandeilo gyfleusterau cegin newydd sbon, yn ogystal â rhandir bach, a’u banc bwyd cymunedol; Bocs Boyd.

    Defnyddiodd coginio24 hyn fel cyfle i dreialu coginio mewn ysgolion, i sbarduno diddordeb mewn cogyddion ifanc, gan eu dysgu sut i wneud prydau o gawl minestrone i gacen afal. Gan estyn allan i’r gymuned, cynhaliwyd sesiynau coginio i rieni a theuluoedd y plant ac fe wnaethon nhw hyd yn oed lwyddo i wasgu sesiwn Nadolig i mewn i’r staff.

    Logo Ysgol Gynradd Llandeilo
    Myfyrwyr ysgol gynradd Llandeilo yn gwylio'n ofalus yn ystod arddangosiad
  • Fe wnaeth coginio24 ymddangos mewn sawl gŵyl fwyd yn 2022 gan gynnal arddangosiadau coginio coginio24 gydag ymddangosiadau gan gogyddion proffesiynol lleol a myfyrwyr blaenorol coginio24.

    Roedd y digwyddiadau hyn yn cynnwys; Gŵyl Fwyd Llanbedr Pont Steffan, Gŵyl Fwyd Llanelli, Gŵyl Synhwyrau Llandeilo a Gŵyl Aeaf Gorllewin Cymru. Ein nod oedd estyn allan at gymunedau a lledaenu’r gair trwy fwyd. Roedd hyn hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymarfer y sgiliau yr oedden nhw wedi’u dysgu gan coginio24, gydag ychydig yn hysbysebu busnesau bwyd newydd oedd wedi’u creu ers cwblhau’r cwrs.

    llun agos o ddwylo pen-cogydd yn paratoi platiad o fwyd yn ystod arddangosiad coginio24
    Simon Wright yn dal meic i fyfyriwr coginio24 wrth iddynt siarad â'r dorf yn ystod arddangosiad coginio24

Testimonial

“Fe wnes i ei fwynhau’n fawr, mae’n eithaf tebyg mewn ffordd pan rydych chi’n brif gogydd mewn cegin ac yn addysgu cogyddion ifanc, felly mae’r un peth yn llythrennol ond mae gennych chi sbectrwm gwahanol o gynulleidfa. O’r bobl ifanc i’r grwpiau oedran hŷn, felly mae’n braf cael y cymysgedd amrywiol o bobl a phobl sydd â gwir ddiddordeb mewn bwyd ac eisiau dysgu mwy o sgiliau”
- Myfyriwr coginio24 Blaenorol

Proffiliau Cogyddion

pen-cogydd coginio24 Jen Goss yn ei chegin gartref

Jen Goss

Ar ôl gyrfa yn Llundain yn rheoli Gastro-dafarndai a siopau bwydydd tramor, dilynodd Jen ei breuddwyd gydol oes a symudodd gyda’i theulu i Sir Benfro i fyw ar dyddyn a’i rhedeg.

Gan ddefnyddio cynnyrch cartref, lleol a thymhorol, sefydlodd Jen ei chwmni arlwyo Our Two Acres - mae’n darparu ar gyfer digwyddiadau mawr fel y Do Lectures ac yn rhedeg clybiau a digwyddiadau swper. Wedi’i geni o’i chariad teuluol tuag at gadw, mae Jen wedi cyd-ysgrifennu Do Preserve ar gyfer y Do Book Company. Am 5 mlynedd bu’n cyd-redeg y gegin yn y becws surdoes Bara Menyn arobryn yn Aberteifi.

pen-cogydd coginio24 Scott Davis yn ystod dosbarthiadau cychwynnol coginio24 a gynhaliwyd yn Sir Gaerfyrddin

Scott Davis

Scott Davis yw un o gogyddion mwyaf medrus a phrofiadol Cymru. Dechreuodd Scott ei daith goginio yng Ngholeg Sir Gâr yng Nghaerfyrddin cyn sicrhau prentisiaeth yng Ngwesty’r Berkeley yn Knightsbridge. Yn ystod ei gyfnod yn Llundain ac Efrog Newydd cafodd y fraint o weithio dan gogyddion gwych gan gynnwys Jean-Gorges Vongerichten, Marco Pierre White, Nobu Matsuhisa, Gary Rhodes a Peter Gordon i enwi ond ychydig - pan ofynnir i Scott ddisgrifio arddull ei fwyd mae’n alw yn fwyd “o bob cwr o’r byd”.

Ar ôl dod yn ôl i Gymru a dechrau bywyd teuluol, cafodd Scott adolygiadau gwych fel prif gogydd Llys Meddyg yng Nghasnewydd ac erbyn hyn mae ganddo ei gwmni arlwyo digwyddiadau ei hun, Strawberry Shortcake.

pen-cogydd coginio24 Phil Leach yn ystod arddangosiad coginio24, yn defnyddio ei ddwylo i esbonio

Phil Leach

Dechreuodd Phil ei yrfa goginio dros 30 mlynedd yn ôl a dysgodd ei grefft yn rhai o’r ceginau gorau yn Ne Lloegr, gan gynnwys Horn of Plenty. Enillodd glod eang fel Prif Gogydd yng ngwesty Combe House, lle bu’n arwain tîm arobryn am 7 mlynedd, cyn agor Slice yn Abertawe, a enillodd y Bwyty Gorau yng Nghymru yn y Good Food Guide 2022.

Ar hyn o bryd mae Phil yn rhannu ei amser yn cynorthwyo’r timau yn Y Polyn yn Nantgaredig a The Beach House yn y Gŵyr.

pen-cogydd coginio24 Stephen Terry yn gwenu ar y camera gyda'i freichiau wedi'u croesi

Stephen Terry

Stephen yw un o’r cogyddion mwyaf dylanwadol ym maes coginio mewn bwytai modern ym Mhrydain, ac fe wnaeth hogi ei sgiliau yn nifer o fwytai gorau yn Llundain. Mae’n fwyaf adnabyddus am ei ran yn y bwyty cyntaf trawsnewidiol Marco Pierre White, Harvey’s, lle’r oedd yn ffigwr allweddol ochr yn ochr â Gordon Ramsay ifanc. Ar ôl cyfnodau yn Le Gavroche a gyda Nick Nairn yn yr Alban dychwelodd i Lundain i agor Canteen gyda White a’r actor Michael Caine. Yn Coast Oliver Peyton, enillodd Stephen seren Michelin, gan gymryd drosodd yn y Walnut Tree yn ddiweddarach lle enillodd seren Michelin unwaith eto.

Am dros 10 mlynedd bu’n brif-gogydd a pherchennog The Hardwick sydd yn enwog iawn y tu allan i’r Fenni. Fe’i gwelir yn aml ar y teledu mewn sioeau fel Great British Menu, Saturday Kitchen a James Martin’s Saturday Morning.

pen-cogydd coginio24 Tom Furlong yn ystod dosbarth coginio coginio24

Tom Furlong

Mae Tom yn berchennog ar dri busnes lletygarwch llwyddiannus yng Nghaerdydd - Milkwood (Pontcanna), The Lansdowne (Treganna) a The Grange (Caerdydd). Wedi graddio mewn Celfyddyd Gain, aeth Tom i mewn i’r sector lletygarwch gan weithio ym mlaen y tŷ ac yna yn y gegin tra oedd yn fyfyriwr.

 Mae coginio Tom bob amser wedi’i wreiddio mewn cynhwysion da wedi’u coginio’n syml ac yn dda. Ar ôl dychwelyd i fyw yng Nghaerdydd, ac yn rhwystredig oherwydd diffyg tafarndai a bwytai annibynnol o safon, agorodd Tom ei fwyty cyntaf- The Potted Pig yng Nghaerdydd, gyda’i bartner busnes Gwyn a’i wraig Cerys. Aeth y Potted Pig ymlaen i ennill llawer o glod ac adolygiadau gan gynnwys cael ei gynnwys yn y 100 bwyty gorau yn y DU yn 2012. Ers hynny, mae Tom wedi agor pum busnes arall gan sefydlu ei hun fel cogydd ac entrepreneur llwyddiannus.

Navi Mudaly, pen-cogydd coginio24, yn gwisgo ffedog ac yn edrych yn syth at y camera mewn cegin ddiwydiannol

Mae Navi yn gogydd sydd ag 20 mlynedd o brofiad aruthrol ledled y byd! Mae wedi gweithio mewn nifer o wledydd gan gynnwys Ffrainc, De Affrica, Mecsico, Y Dwyrain Canol, a’r Deyrnas Unedig!

Mae beirniaid bwyd yn ystyried Navi yn un o gogyddion ymasiad dwyreiniol gorau’r wlad ac mae wedi gweithio mewn gwestai 5* a bwytai bwyta cain ar lefel Michelin. Un o arbenigeddau coginio niferus Navishen yw coginio Japaneaidd a chyn hynny roedd yn brif gogydd yn Inamo yn Llundain. Mae hefyd wedi cael ei ganmol am ei fwydlenni arloesol sy’n cyfuno arddull cartref Japan a Indian Cuisine.

pen-cogydd coginio24 Jemma Vickers yn gwisgo ffedog goch a bandana coch, yn dal gefeiliau

Jemma Vickers

Ar ôl gweithio ym maes lletygarwch am flynyddoedd lawer ym mlaen y tŷ, prynodd fy mhartner a minnau lain rhad o dir yn Sbaen gyda gwinllan a gwindy, gan dyfu olewydd, almonau, ffrwythau a llysiau.  Fe wnaethom ddysgu sgiliau gwneud gwin ynghyd â sgiliau tyfu, coginio a chadw gyda chymorth casgliad ar hap o lyfrau, gwybodaeth leol a greddf.

Rydym bellach wedi efelychu ein teithiau gwinllan, blasu gwin a thapas yn ôl yma yng Nghymru, ochr yn ochr â chwmni arlwyo allanol ac arwain y gwaith coginio ar gyfer prosiect prydau cymunedol Cwm Arian.

Rwy’n edrych ymlaen at ymwneud â coginio24, yn enwedig ar ôl bod yn rhan o goginio cymunedol, gan rannu sgiliau a gwybodaeth gyda’r naill a’r llall. Rhywbeth i’n hatgoffa bod coginio a rhannu bwyd yn angen dynol sylfaenol ac y dylai fod yn hygyrch i bawb.

pen-cogydd coginio24 Mary-ann Wright yn sefyll yn y drws wrth edrych yn syth at y camera

Maryann Wright

Wright’s Foods yn Llanarthne, mae’n gymysgedd o siop fwyd leol a chaffi - bwyd syml wedi’i baratoi gyda llawer o ofal a chynhwysion gwych. Rydym ni’n ffodus i gael llawer o gefnogaeth yn lleol ond o ymhellach hefyd, rydym ni wedi bod yma am ddeng mlynedd ac wedi elwa yn fawr o sylw yn y wasg yn y DU a gwobrau cenedlaethol.

Rydw i wedi bod yn gwneud bywoliaeth o goginio ers i mi fod yn fy 20au, wedi bod yn fy musnes fy hun gyda fy ngŵr Simon erioed, mae o’n gwneud pethau eraill fel ysgrifennu bwyd a darlledu hefyd. Rydym ni wedi cael tri bwyty yn yr ardal. Mae Wright’s yn 10 mlwydd oed nawr, rwyf fi wedi dysgu fy hun, ond rwyf fi hefyd wedi gweithio gyda chogyddion gwych dros y blynyddoedd, does dim byd yn cymharu â’r profiad sy’n dod o goginio a gweithio gyda deunyddiau crai gwych.

Testimonial

“Fe wnes i ei fwynhau’n fawr, mae’n eithaf tebyg mewn ffordd pan rydych chi’n brif gogydd mewn cegin ac yn addysgu cogyddion ifanc, felly mae’r un peth yn llythrennol ond mae gennych chi sbectrwm gwahanol o gynulleidfa. O’r bobl ifanc i’r grwpiau oedran hŷn, felly mae’n braf cael y cymysgedd amrywiol o bobl a phobl sydd â gwir ddiddordeb mewn bwyd ac eisiau dysgu mwy o sgiliau”
- Cogydd coginio24 blaenorol

Cysylltu â Ni!

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau ynghylch prosiect coginio24, e-bostiwch katy.hodge@colegsirgar.ac.uk