Campws Rhydaman
Introduction
Mae’r gweithgarwch dysgu ar gampws Rhydaman yn canolbwyntio ar iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant, ynghyd â chrefftau’r diwydiant adeiladu. Mae’r gyfadran Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yn cynnal ystod eang o gyrsiau addysg bellach ac addysg uwch ar y campws, gan gynnwys NVQs a chyrsiau byrion mewn cynghori. Mae’r cyrsiau hyn yn boblogaidd iawn ymhlith myfyrwyr o bob cefndir sy’n creu awyrgylch arbennig ar y campws. Mae presenoldeb nifer fawr o fyfyrwyr lefel mynediad sy’n cael eu haddysgu ar gyrsiau sgiliau byw’n annibynnol yn ychwanegu at yr awyrgylch hwn. Caiff eu datblygiad ei gefnogi gan adnoddau ardderchog ar y campws megis cegin, ystafell ymolchi a gardd.
Mae’r adran adeiladu’n cyflwyno cyrsiau mewn gosod brics, gwaith plymwr, plastro, peintio, addurno, gosod trydanol a chrefftau pren. Mae poblogrwydd a llwyddiant y cyrsiau hyn yn sicrhau bod y campws bob amser yn ferw o brysurdeb. Cafodd gweithdai o’r radd flaenaf eu hadeiladu er mwyn ateb y galw am hyfforddiant ac maent yn cynnwys Canolfan Datblygu a Chynnal Technoleg Adeiladu at ddefnydd Busnesau Bach a Chanolig sy’n gweithredu o fewn yr amgylchedd adeiledig. Agwedd allweddol ar y ganolfan yw cyfleuster ynni cynaliadwy ac adnewyddadwy, a chyflwyno rhaglenni datblygiad proffesiynol parhaus mewn cydweithrediad â nifer o bartneriaid allweddol o’r sector preifat a’r sector cyhoeddus.
Mae cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol wedi dweud bod campws Rhydaman yn lle gwych i astudio ynddo gan fod ganddo awyrgylch cyfeillgar a chroesawgar sy’n gwneud profiad y myfyrwyr yn un pleserus. Caiff hyn ei adlewyrchu gan nifer o straeon am lwyddiant myfyrwyr, sydd wedi ennill clod uchel a gwobrau cenedlaethol am addysgu ar draws holl weithgareddau’r campws.
Dod o hyd i gwrs ar Gampws Rhydaman
Cyfeiriad Campws
Heol y Dyffryn
Stad Gwyn Fryn
Rhydaman
SA18 3TA
01554 748000