Skip page header and navigation

(Campysau Coleg Sir Gâr) Rhydaman, y Gelli Aur, y Graig, Ffynnon Job, Pibwrlwyd

    1. Diben y polisi hwn yw sicrhau bod y Coleg yn darparu gwasanaeth ar gyfer cludo myfyrwyr.
    2. Mae Coleg Sir Gâr yn gweithio ar y cyd â Chyngor Sir Caerfyrddin i ddarparu gwasanaeth cludiant i fyfyrwyr.
    3. Gellir cludo myfyrwyr i’r Coleg mewn cerbydau contract, gan gynnwys bysiau, bysiau mini, tacsis a cherbydau gwasanaeth cyhoeddus. Lle defnyddir cerbydau contract neu gerbydau gwasanaeth cyhoeddus nid yw bob amser yn bosibl trefnu bod llwybrau’r cerbydau yn pasio’n agos i gartrefi’r holl fyfyrwyr. Felly, gall fod yn ofynnol i fyfyrwyr wneud eu trefniadau eu hunain i fynd i’r ‘man codi’ agosaf ar gyfer y cerbyd ar y llwybr a bennir ac oddi yno.
    4. Caiff myfyrwyr hefyd eu cynghori i ddarllen canllawiau y Gronfa Ariannol Wrth Gefn oherwydd gall fod modd cynnig rhywfaint o gymorth i fyfyrwyr nad ydynt yn gymwys ar gyfer cludiant, ond gallent fod yn gymwys i hawlio am gymorth tuag at dalu eu costau cludiant. Caiff y cymorth ei asesu yn ôl amgylchiadau unigol. Gellir cael ffurflenni cais a chyngor gan y Gyfarwyddiaeth Profiad Dysgwyr / Swyddogion y Tîm Lles sydd wedi’u lleoli ar bob campws.
    1. Datblygwyd y polisi hwn ar lefel Rheolwyr y Coleg ac fe’i cymeradwywyd gan yr Adran Weithredol a’r Llywodraethwyr.
    2. Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb - Cwblhawyd 26ain Mehefin 2023
    3. Asesiad o’r Effaith ar yr Iaith Gymraeg - Cwblhawyd 26ain Mehefin 2023
    4. Asesiad o’r Effaith ar Breifatrwydd - Cwblhawyd 26 Mehefin 2023
    1. Bydd myfyrwyr yn gymwys ar gyfer trefniadau teithio os ydynt yn bodloni POB UN o’r meini prawf canlynol:
      • Myfyrwyr addysg bellach sy’n astudio ar gwrs llawn amser yng Ngholeg Sir Gâr.
      • Myfyrwyr addysg bellach sy’n byw dros 3 milltir o bellter cerdded o’r Campws y maent yn mynychu.
      • Ynglŷn â champws y Gelli Aur, bydd pob myfyriwr (hynny yw, myfyrwyr addysg bellach llawn amser a rhan-amser) sy’n byw dros 1 filltir o bellter cerdded o’r campws, yn gymwys am gludiant oherwydd lleoliad gwledig y campws a’r diffyg llwybrau cerdded diogel.
    2. EFALLAI y darperir cludiant hefyd ar gyfer myfyrwyr mewn amgylchiadau eithriadol am y rhesymau canlynol:
      • Cyflyrau meddygol:
      • Gellir gwneud trefniadau cludiant unigol lle mae cyflwr meddygol myfyriwr naill ai’n rhwystro’r unigolyn rhag defnyddio’r cludiant arferol neu mae’r cyflwr yn rhwystro’r unigolyn rhag cerdded 3 milltir.
      • Rhaid i unrhyw gais ar sail cyflwr meddygol gael ei gefnogi gan dystiolaeth gyfredol, wedi’i llofnodi gan weithiwr meddygol proffesiynol a chynnwys o leiaf un o’r canlynol: 
        • Llythyr oddi wrth Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) neu seicolegydd neu seiciatrydd cofrestredig Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC); 
        • Llythyr oddi wrth Ymgynghorydd Ysbyty; 
        • Llythyr oddi wrth Wasanaeth Seicoleg Addysgol Awdurdod Lleol; 
        • Llythyr oddi wrth Wasanaeth Namau Synhwyraidd Awdurdod Lleol; 
        • Llythyr oddi wrth y Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol e.e. Therapydd Galwedigaethol; 
        • Llythyr oddi wrth Therapydd Iaith a Lleferydd.
      • Bydd angen i’r dystiolaeth hon nodi’n glir yr angen am gludiant cefnogol, gyda’r myfyriwr yn methu â defnyddio rhwydwaith bysiau’r coleg.
      • Bydd y dystiolaeth ategol yn destun cyfnod o adolygu a bennir gan y Coleg a’r Cyngor.
      • Myfyrwyr Addysg Bellach ag anawsterau dysgu neu anableddau:

        Gellir gwneud trefniadau cludiant unigol os oes gan fyfyriwr anawsterau dysgu neu anableddau sy’n rhwystro’r unigolyn rhag defnyddio’r cludiant arferol neu os yw’r cyflwr yn rhwystro’r unigolyn rhag cerdded 3 milltir.

      • Rhaid i unrhyw gais ar sail anawsterau dysgu neu anabledd gael ei gefnogi gan dystiolaeth gyfredol, wedi’i llofnodi gan weithiwr meddygol neu addysgol proffesiynol a chynnwys o leiaf un o’r canlynol: 
      • Llythyr oddi wrth Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) neu seicolegydd neu seiciatrydd cofrestredig Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC); 
        1. Llythyr oddi wrth Ymgynghorydd Ysbyty; 
        2. Llythyr oddi wrth Wasanaeth Seicoleg Addysgol Awdurdod Lleol; 
        3. Llythyr oddi wrth Wasanaeth Namau Synhwyraidd Awdurdod Lleol; 
        4. Llythyr oddi wrth y Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol e.e. Therapydd Galwedigaethol; 
        5. Llythyr oddi wrth Therapydd Iaith a Lleferydd; neu
        6. Tystiolaeth Ategol Ychwanegol ar gyfer Cludiant Anghenion Ychwanegol (ANT) (Atodiad A)
      • Bydd angen i’r dystiolaeth hon nodi’n glir yr angen am gludiant cefnogol, gyda’r myfyriwr yn methu â defnyddio rhwydwaith bysiau’r coleg.
      • Bydd y dystiolaeth ategol yn destun cyfnod o adolygu a bennir gan y Coleg a’r Cyngor.
    3. Bydd angen cwblhau a chyflwyno ceisiadau am gludiant y coleg yn flynyddol.
    4. Dim ond ar sail blwyddyn academaidd y caiff ceisiadau eu cymeradwyo.
    5. Does dim sicrwydd y bydd cludiant yn cael ei ddarparu i’r coleg ac oddi yno ar y sail ei fod wedi’i ddarparu i’r ysgol ac oddi yno yn flaenorol.
    1. Bydd myfyrwyr sydd ar gwrs astudio llawn amser yn derbyn trefniadau teithio trwy gael tocyn teithio’r Coleg neu docyn tymor ar gyfer y bws perthnasol yn fuan ar ôl cofrestru - ar yr amod bod cais am gludiant wedi’i gymeradwyo gan ei fod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd.
    2. Caiff tocynnau teithio eu hanfon i’r cyfeiriad a ddarperir adeg cofrestru a bydd gan y myfyriwr hawl i deithio ar y llwybr a nodir ar ei docyn teithio yn unig.
    3. Os yw rhieni’r myfyriwr wedi gwahanu, a’i fod weithiau’n byw gyda’r ddau riant (mewn cyfeiriadau gwahanol), rhoddir tocyn teithio ar gyfer un cyfeiriad yn unig.
    4. Gall fod gan fyfyrwyr rhan-amser a myfyrwyr dysgu seiliedig ar waith sy’n astudio yn y Coleg yr hawl i gael tocyn teithio yn amodol ar fod lle ar gael, a cheisir gwneud y penderfyniad hwn yn ystod mis Tachwedd. Dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael a chaiff y rhain eu dyrannu ar sail achosion unigol, gan roi ystyriaeth i amgylchiadau unigol pan fo hynny’n bosibl.
    5. Mae rhwydwaith cludiant y Coleg yn gweithredu yn y prynhawn, gan gasglu myfyrwyr o’r Coleg am 4.30pm (16:30 awr). Mae rhai cyrsiau yn gweithredu y tu allan i ddiwrnod arferol y Coleg, ac yn yr amgylchiadau hynny, cyfrifoldeb y Myfyrwyr yw gwneud trefniadau i deithio adref.
    6. Bydd gan fyfyrwyr y ‘Rhaglen Twf Swyddi Cymru +’ yr hawl i drefniadau cludiant a rhaid iddynt lenwi’r ffurflen gais a’i hanfon i’r Uned Gludiant. Rhoddir tocynnau cludiant dros dro i fyfyrwyr ar wasanaethau contract y Coleg drwy’r Uned Gludiant wedi iddynt roi eu henw a dyddiad dechrau eu cyfnod cynefino. Bydd angen i fyfyrwyr wneud cais am docyn teithio parhaol, unwaith y mae penderfyniad wedi’i wneud o ran eu cwrs dewisol. 
    7. Does dim sicrwydd y bydd cludiant yn cael ei ddarparu i’r Coleg os oedd wedi’i ddarparu’n flaenorol ar gyfer cludiant i’r ysgol.
    1. Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn adolygu’r llwybrau a’r ddarpariaeth gludiant yn rheolaidd er mwyn gwella effeithlonrwydd. Gellir gwneud newidiadau i lwybrau yn ystod y flwyddyn academaidd. Rhoddir gwybod i fyfyrwyr yn ysgrifenedig ynghylch unrhyw newidiadau i lwybrau cyn iddynt gael eu gwneud.
    2. Nid cyfrifoldeb y Coleg yw trefnu cludiant i’r Coleg ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn gymwys ar gyfer trefniadau teithio na chost hyn ychwaith.
    3. Mae myfyrwyr yn gyfrifol am roi gwybod i Uned Gludiant y Coleg cyn unrhyw newid i’w cyfeiriad, fel bod modd ailasesu cymhwysedd ar gyfer cludiant pan fydd myfyrwyr yn newid cyfeiriad, campws neu gwrs. Rhaid i fyfyrwyr lenwi Ffurflen Newid Mewn Amgylchiadau yn nodi’r cyfeiriad newydd, y campws newydd neu’r cwrs newydd. Wrth wneud cais i newid cyfeiriad, rhaid dychwelyd yr hen docyn teithio i’r Uned Gludiant cyn y gellir prosesu’r cais.
    1. Bydd Unedau Cludiant y Coleg a’r Cyngor Sir yn ystyried nifer yr ymgeiswyr ac yn ymdrechu i ddarparu ar gyfer y myfyrwyr hyn ar wasanaethau contract presennol y Coleg. Rhoddir tocynnau teithio lle bo’n briodol.
    1. Rhaid i fyfyrwyr sy’n mynd ar fysiau’r Coleg fod wedi derbyn tocyn teithio dilys i deithio a bydd yn ofynnol iddynt ddangos eu tocyn teithio wrth gamu i’r cerbyd. Caiff mynediad i’r cerbyd ei wrthod os nad oes tocyn teithio dilys, neu os ydynt yn teithio ar gerbydau gwasanaeth cyhoeddus bydd hi’n ofynnol i fyfyrwyr dalu’r gost.
    2. Ar yr amod bod myfyrwyr wedi gwneud cais am gludiant ac yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd yna:
      1. Ar gyfer bysiau contract y coleg bydd cyfnod yn ystod mis Medi 2024 pan gall myfyrwyr gael mynediad i’r cerbydau hyn heb ddangos tocynnau. Bydd y cyfnod cyfyngedig hwn pan godir y cyfyngiad tocynnau bws yn cael ei hysbysebu ar wefan y coleg, cyfryngau cymdeithasol y coleg a cherbydau.
      2. Yn yr un modd, bydd costau teithio myfyrwyr a fyddai’n defnyddio bysiau gwasanaeth cyhoeddus yn cael eu had-dalu drwy gydol cyfnod penodol yn ystod mis Medi 2024, ar yr amod bod derbynebau dilys yn cael eu cyflwyno yn Swyddfa’r Campws a bod y meini prawf cymhwysedd yn cael eu bodloni. Bydd y cyfnod cyfyngedig hwn yn cael ei hysbysebu ar wefan y coleg, cyfryngau cymdeithasol y coleg a cherbydau.
    3. Cyfrifoldeb y cwmnïau bysiau a Chyngor Sir Caerfyrddin yw ategu’r pwynt uchod.
    4. Rhaid dangos y tocyn teithio i yrwyr y bysiau, swyddogion monitro awdurdodedig y Cyngor a staff awdurdodedig y Coleg.
    5. Bydd rhaid i fyfyrwyr sy’n colli’r bws yn y bore am ba bynnag reswm ddod o hyd i’w ffordd eu hunain i’r Coleg. Os ydynt yn colli’r bws sy’n mynd adref gyda’r hwyr, bydd angen i’r rhieni fod â threfniadau teithio brys addas ar waith er mwyn sicrhau bod y myfyriwr yn gallu cyrraedd adref yn ddiogel.
    6. Ni roddir Tocynnau Bws Dros Dro yn lle tocynnau a gollwyd/ anghofiwyd oni bai bod yna amgylchiadau cwbl eithriadol.
    1. Mae’r Coleg yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i fws y Coleg lle mae’r myfyriwr yn torri Cod Ymddygiad y Coleg neu’n peri risg i fyfyrwyr eraill.
    2. Caiff camddefnyddio tocyn teithio neu ei ddefnyddio mewn modd twyllodrus eu trin mewn modd difrifol, a gall arwain at y myfyriwr yn mynd trwy weithdrefn ddisgyblu’r Coleg ac yn ychwanegol gall arwain at y Myfyriwr yn colli ei hawl i deithio ar y bws.
    3. Caiff trefniadau teithio eu gwneud ar y ddealltwriaeth y bydd myfyrwyr yn ymddwyn mewn modd sy’n parchu cyd-fyfyrwyr, gan gynnwys gyrwyr y bysiau, eiddo a diogelwch pawb. Rhaid i bawb sy’n ymwneud â darparu a defnyddio cludiant y Coleg gadw at y “Cod Ymddygiad ar gyfer Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol/Coleg”. Mae dolen i weld y ddogfen hon wedi’i nodi yn y llythyr gyda’r tocyn bws.
    4. Gall myfyrwyr yr adroddir eu bod yn camymddwyn gael eu gwahardd dros dro rhag teithio ar fysiau contract y Coleg hyd nes bod penderfyniad ynghylch unrhyw gamau disgyblu posibl wedi’i wneud. Rhaid i fyfyrwyr sydd wedi cael eu gwahardd dros dro rhag teithio ar fysiau contract y Coleg wneud eu trefniadau teithio eu hunain er mwyn dod i’r Coleg.
    1. Rhaid cwblhau a chyflwyno cais newydd am gludiant bob blwyddyn. Mae hyn yn berthnasol i bob dysgwr sy’n dychwelyd a dysgwyr y gall fod angen cludiant tacsi arnynt.
    2. Bydd pob cais yn cael ei wneud yn ystod cofrestru. Mae rhagor o gwybodaeth ac arweiniad ar gael ar wefan y coleg.
    3. Bydd yr Uned Gludiant yn asesu cymhwysedd y cais. Os caiff y cais ei wrthod, anfonir llythyr yn ôl i’r cyfeiriad ar y ffurflen yn esbonio’r rhesymau dros wrthod.
    4. Os yw’r myfyriwr wedi cael ei dderbyn a’i gofrestru gan y Coleg ac mae’n gymwys ar gyfer cludiant, bydd y Cyngor Sir yn rhoi’r tocyn teithio.
    5. Bydd manylion y llwybrau i’w defnyddio yn cael eu nodi ar y Tocyn Teithio. Fel rheol rhoddir y Tocyn Teithio o fewn 15 diwrnod i wneud y cais; er y bydd hyn yn amrywio yn ystod cyfnodau brig.
    6. Bydd myfyrwyr yn cael gwybod pryd i gasglu tocynnau teithio o’r Coleg.
    7. Ceisiadau am Gludiant Anghenion Ychwanegol:
      1. Cysylltwch ag Uned Gludiant y Coleg i gael Ffurflen Gais a fydd yn cael ei e-bostio i’w llenwi. Dylid dychwelyd ffurflenni i’r coleg yn electronig ynghyd â thystiolaeth ategol gyfredol fel y nodwyd ym Mhwynt 3.2 ac 16.
    8. Mae ffurflenni cais mewn fformat copi caled ar gael ar gais ynghyd ag unrhyw gymorth y gall fod ei angen i gwblhau’r ddogfennaeth.
    9. Mae pob Ffurflen arall sy’n ymwneud â Chludiant ar gael yn electronig ar wefan y coleg.
    1. Os bydd unrhyw rai o fanylion y ffurflen gais yn newid yn ystod y flwyddyn academaidd, rhaid i fyfyrwyr lenwi Ffurflen Newid Amgylchiadau a’i chyflwyno i Uned Gludiant y Coleg ar unwaith fel bod modd newid y manylion ac ailasesu cymhwysedd os oes angen. Os oes angen tocyn teithio newydd, rhaid dychwelyd y tocyn teithio presennol i’r Coleg cyn y gellir rhoi un newydd.
    2. Os nad oes angen eich tocyn teithio arnoch mwyach, dychwelwch ef i Gyngor Sir Caerfyrddin neu Uned Gludiant y Coleg.
    1. Os yw myfyrwyr yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â rhoi tocyn teithio, rhaid iddynt gyflwyno apêl i Uned Gludiant y Coleg gan ddefnyddio’r ffurflen Apêl berthnasol. Mae’r Ffurflen ar gael ar wefan y coleg a dylid ei llenwi a’i chyflwyno gyda thystiolaeth ategol.
    2. Bydd panel apêl, sy’n cynnwys y Cyfarwyddwr Ystadau, y Cyfarwyddwr Profiad Dysgwyr ac o leiaf un o Swyddogion Cludiant y Cyngor Sir, yn cwrdd yn rheolaidd i ystyried apeliadau.
    3. Anfonir canlyniad y panel a’i gyfiawnhad ar ffurf ysgrifenedig at rieni/gwarcheidwaid neu fyfyrwyr o fewn 28 diwrnod i gyflwyno’r apêl; er y bydd hyn yn amrywio yn ystod cyfnodau brig.
    4. Rhaid i unrhyw apêl oherwydd rhesymau meddygol gael ei hategu gan ddatganiad cyfredol wedi’i lofnodi gan weithiwr meddygol neu addysgol proffesiynol, fel y nodir ym Mhwynt 3.2, ac mae’n rhaid iddi ddatgan yn glir nad yw’r myfyriwr yn gallu defnyddio rhwydwaith bysiau’r coleg.
    5. Mae penderfyniad y panel apêl yn derfynol.
    1. Darperir tocyn teithio i fyfyrwyr sy’n mynychu’r Coleg trwy’r Fenter Mynediad Ieuenctid. Caiff hyn ei drefnu gan y Gweithiwr Mynediad Ieuenctid fel rhan o’r broses ymgeisio. Cysylltwch â nhw i drafod gofynion cludiant.
    1. Rhaid i bob myfyriwr sy’n defnyddio Cludiant y Coleg gadw at y Cod Ymddygiad ar gyfer defnyddio Cludiant Ysgol/Coleg.
    2. Ymdrinnir â materion disgyblu drwy Weithdrefnau Disgyblu’r Coleg.
    3. Ymdrinnir â chwynion ynghylch Gwasanaethau a threfniadau Cludiant y Coleg yn unol â Pholisi Cwynion y Coleg. 
    4. Bydd Uned Gludiant y Coleg a’r Cyngor yn storio cofnodion personol ynghylch y myfyrwyr sy’n teithio ar bob llwybr yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. Mae’r rheoliadau a’r polisïau hyn ar gael gan y Cyngor a’r Coleg ar gais.
    1. Bydd yr Awdurdod a’r Contractwyr yn ceisio adennill costau am atgyweirio difrod bwriadol a wnaed i gerbydau gan fyfyrwyr a/neu eu rhieni.
    1. Bydd rhaid i fyfyrwyr sy’n colli eu tocyn, neu sy’n ei ddifrodi i’r fath raddau fel nad oes modd ei ddarllen, wneud cais am docyn yn ei le. Os oes angen tocyn yn ei le arnoch, cysylltwch â Chyngor Sir Caerfyrddin ar 01267 234567. Codir ffi o £6.00 sy’n daladwy i’r Cyngor Sir yn uniongyrchol. Cyfyngir myfyrwyr i dri thocyn newydd ar gyfer y flwyddyn academaidd.
    1. Os ydych yn meddwl nad ydych yn gallu cael mynediad i Rwydwaith Cludiant y Coleg a defnyddio bysiau’r coleg, llenwch y ffurflen Cais am Gludiant Anghenion Ychwanegol.
    2. Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i gael a / neu lenwi’r ffurflen gais, cysylltwch ag Uned Gludiant y Coleg trwy ffonio, ysgrifennu neu ymweld. Mae manylion cyswllt y Coleg i’w gweld yn 20.1.
    3. Rhaid i unrhyw gais am gludiant ar sail cyflyrau meddygol, anawsterau dysgu neu anableddau gael ei gefnogi gan dystiolaeth gyfredol, wedi’i llofnodi gan weithiwr meddygol neu addysgol proffesiynol a chynnwys o leiaf un o’r canlynol: 
      1. Llythyr oddi wrth Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) neu seicolegydd neu seiciatrydd cofrestredig Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC); 
      2. Llythyr oddi wrth Ymgynghorydd Ysbyty; 
      3. Llythyr oddi wrth Wasanaeth Seicoleg Addysgol Awdurdod Lleol; 
      4. Llythyr oddi wrth Wasanaeth Namau Synhwyraidd Awdurdod Lleol; 
      5. Llythyr oddi wrth y Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol e.e. Therapydd Galwedigaethol; 
      6. Llythyr oddi wrth Therapydd Iaith a Lleferydd; neu
      7. Tystiolaeth Ategol Ychwanegol ar gyfer Cludiant Anghenion Ychwanegol (ANT) (Atodiad A)
        • Bydd angen i’r dystiolaeth hon nodi’n glir yr angen am gludiant cefnogol, gyda’r myfyriwr yn methu â defnyddio rhwydwaith bysiau’r coleg.
        • Gellir gwneud trefniadau cludiant unigol os oes gan fyfyriwr anawsterau dysgu neu anableddau sy’n rhwystro’r unigolyn rhag defnyddio’r cludiant arferol neu os yw’r cyflwr yn rhwystro’r unigolyn rhag cerdded 3 milltir.
        • Bydd y dystiolaeth ategol yn destun cyfnod o adolygu a bennir gan y Coleg a’r Cyngor.
    4. Caiff math a natur y cludiant a ddarperir ei bennu gan Asesiad Risg a gwblheir gan y Cyngor.
    1. Gall newid yn amodau’r tywydd neu amgylchiadau eraill nad oes modd eu rhagweld beri bod y Coleg yn cau campysau ar fyr rybudd, hyd yn oed pan fydd ysgolion yn yr ardal neu gampysau eraill y Coleg yn gallu aros ar agor. Weithiau bydd mwy o amharu ar drefniadau cludiant mewn ardaloedd gwledig iawn.
    2. Rhaid i weithredwyr cerbydau cludiant y Coleg a’u gyrwyr wneud penderfyniadau ynghylch diogelwch llwybr ac a ydynt yn ystyried ei bod yn bosibl gweithredu llwybr yn llawn neu mewn rhai amgylchiadau, rhan o lwybr yn unig. Efallai na fydd rhai bysiau yn gallu rhedeg o gwbl, neu weithiau bydd bws yn dechrau casglu myfyrwyr yn y bore ond bydd rhaid iddo roi’r gorau i’r siwrne a dychwelyd y myfyrwyr i’w mannau casglu lle bo hynny’n bosibl. Efallai y bydd bysiau wedi gallu mynd â myfyrwyr i’r Coleg, ond efallai bydd rhaid i’r bws adref o’r Coleg adael yn gynnar oherwydd bod yr amodau tywydd yn gwaethygu. Mae felly’n hanfodol bod rhieni neu warcheidwaid yn gwneud yn siŵr bod trefniadau ar waith i ddiogelu’r myfyriwr yn ystod y dydd os nad ydynt gartref a bod y myfyriwr yn gwybod yn glir beth i’w wneud mewn amgylchiadau o’r fath.
    3. Mae hi’n hanfodol bod gan y Coleg rif cyswllt mewn argyfwng y myfyriwr a bod y Coleg yn cael gwybod ynghylch unrhyw newidiadau i’r rhif hwn, fel bod modd cysylltu ag ef/hi mewn sefyllfa frys.
    4. Dylai rhieni, gwarcheidwaid a myfyrwyr sicrhau eu bod wedi gwisgo’n briodol ar gyfer y tywydd oer rhag ofn bod y bws yn hwyr neu fod y daith i’r Coleg ac oddi yno yn arafach nag arfer.
    5. Os na fydd un o lwybrau cludiant y Coleg yn gweithredu yn y bore o ganlyniad i amodau tywydd garw, ond bod y rhieni/gwarcheidwaid neu’r myfyrwyr yn gwneud trefniadau eraill i deithio i’r Coleg, yna eu cyfrifoldeb hwy yw gwneud eu trefniadau eu hunain i deithio adref ar ddiwedd diwrnod y Coleg.
    6. Pe bai achosion o COVID-19 yn cynyddu neu os oes unrhyw bandemig iechyd arall, bydd cludiant y coleg yn gweithredu yn unol â Chanllawiau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru a/neu Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gallai hyn olygu newidiadau gweithredol ac o bosibl ar fyr rybudd. Byddai newidiadau o’r faith yn cael eu rhoi ar waith er mwyn lliniaru a lleihau’r risg o drosglwyddo haint.
  • Mae’r Coleg yn ymrwymedig i hyrwyddo’r Iaith Gymraeg a bydd yn ymdrechu i ymdrin ag anghenion myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a’u cefnogi. Gellir gwneud ceisiadau am gludiant naill ai’n Gymraeg neu Saesneg a bydd y ddwy iaith yn cael eu trin yn gyfartal.

    1. Pe bai myfyrwyr eraill sy’n byw y tu allan i ffiniau Sir Gaerfyrddin yn dymuno mynychu Coleg Sir Gâr (a’u bod yn gymwys ar gyfer cludiant) yna eu cyfrifoldeb hwy yw mynd eu hunain at y man codi gofynnol i gael mynediad i lwybr Cludiant y Coleg a ddarperir.
    2. Os ydych yn byw y tu allan i ffin y sir, cysylltwch â’ch awdurdod lleol, oherwydd mae’n bosibl y byddant yn gallu eich helpu gyda’ch anghenion cludiant, gan eich galluogi i ddefnyddio Cludiant y Coleg o’r mannau codi a weithredir ar gyfer y bws.
    1. Adolygir Polisi Cludiant Coleg Sir Gâr yn flynyddol.
    1. Uned Gludiant y Coleg
    2. Cyngor Sir Caerfyrddin
    3. Traveline Cymru
  • Trosolwg ar gyfer Rhieni / Gwarcheidwaid

    Os na allwch ddarparu unrhyw dystiolaeth ategol sy’n ofynnol gan Bolisi Cludiant presennol a ffurflen gais ANT Coleg Sir Gâr…

    Beth sydd angen i chi ei wneud:

    Gofynnwch i’ch lleoliadau addysg diwethaf neu bresennol (Cydlynydd ADY, SENCO, Pennaeth Blwyddyn, Pennaeth y Ganolfan) ateb y cwestiynau isod a darparu unrhyw ddogfennau ategol CYFREDOL eraill h.y. Datganiad Anghenion Addysgol, Adolygiad Blynyddol, Proffil Un Dudalen, Cynllun Ymddygiad, Asesiad Risg Unigol yn y gymuned, sy’n cefnogi’r datganiad. Caiff hyn ei asesu wedyn gan y panel cludiant, lle y cytunir iddo neu beidio ar gyfer cludiant â chymorth.