Enillwyr medalau’n serennu yng nghystadleuaeth goginiol genedlaethol: Sut y gall cystadlaethau diwydiant hybu hyder a sgiliau

Mae myfyrwyr arlwyo a lletygarwch wedi bod yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o gystadlaethau lle maen nhw wedi arddangos sgiliau a diwydrwydd eithriadol, a thystiolaeth o hynny yw’r medalau maen nhw wedi’u hennill.
Dywedodd pob un o’r myfyrwyr oedd yn cymryd rhan y bydden nhw’n cystadlu mewn mwy o gystadlaethau i geisio gwella eu sgiliau eu hunain ac ennill mwy o brofiad ar gyfer eu CV, a bod bellach ganddynt gymaint yn fwy o hyder.
Dim ond dwy fedal aur gafodd eu dyfarnu yng Nghystadlaethau Cenedlaethol Cymru Her Pen-cogydd Risotto Riso Gallo yn y digwyddiad a dau fyfyriwr o Goleg Sir Gâr aeth â’r prif safleoedd.
Mae llawer o’r myfyrwyr wnaeth ennill medalau yn eu blwyddyn gyntaf o astudio cwrs arlwyo a lletygarwch lefel un, sy’n gyflawniad nodedig iawn.
Mae hyn yn cynnwys Harry Howells sydd wedi cael ei ddewis i gynrychioli Cymru yn rownd derfynol y DU Riso Gallo ym mis Mehefin. Mae e’n cystadlu am y cyfle i ennill interniaeth coginiol gyda Fabio Pisani, Alessandro Negrini a’u tîm ym mwyty dwy seren Michelin Il Luogo ym Milan. Bydd yr enillydd ail orau yn ennill interniaeth coginiol tri-diwrnod yn Llysgenhadaeth yr Eidal yn Llundain.
Bu dau fyfyriwr arall yn cystadlu yng nghategorïau Sgiliau Cynhwysol Gwasanaeth Bwyty a pharatoi bwyd Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a byddan nhw’n derbyn eu canlyniadau ym mis Mawrth.
Meddai Daniel Williams, pen-cogydd, perchennog bwyty a darlithydd Coleg Sir Gâr: “Llongyfarchiadau i bawb wnaeth gystadlu yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru a Phencampwriaethau Coginiol Cymru y mis Ionawr hwn.
“Mae dwy fedal aur, un arian a thair efydd yn ymdrech syfrdanol o’ch cystadleuaeth gyntaf. Rydyn ni’n falch iawn o’ch ymdrechion a’ch llwyddiant.
“Pob lwc i’r rheiny sy’n aros am ganlyniadau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ym mis Mawrth; mae eich gwaith caled, ymrwymiad ac ysbryd cystadleuol yn anrhydeddu Coleg Sir Gâr. Da iawn i chi gyd.”
Dewch i wybod mwy am astudio arlwyo a lletygarwch yng Ngholeg Sir Gâr a Chegin Sir Gâr.