Trawsnewid Tyisha: Murluniau wedi’u hysbrydoli gan y gymuned yn dathlu treftadaeth a dechreuadau newydd

Mae prosiect celf furol ar y cyd a drefnwyd fel rhan o fenter Trawsnewid Tyisha Cyngor Sir Caerfyrddin, bellach wedi’i chwblhau’n llwyddiannus gan fyfyrwyr celf a dylunio Coleg Sir Gâr.
Ceir dau leoliad ar gyfer y murluniau sy’n cynnwys Caeadau CETMA sy’n dathlu hanes a threftadaeth leol a’r ail gyferbyn â Home Bargains, lle mae saith bwrdd mawr wedi cael eu trawsnewid i furlun eang yn cynnwys patrymau, symbolau a naratifau a ysbrydolwyd gan yr amgylchedd lleol.
Dewiswyd dyluniadau a chysyniadau’n ystyriol i adlewyrchu hunaniaeth y bobl sy’n galw Tyisha’n gartref iddynt.
Caiff y gorffennol diwydiannol ei gynrychioli gan lo, tun, dur a chopr tra bod coed yn symboleiddio’r effaith o ddiwydiant yn gadael yr ardal gyda glöwr gorawyddus sy’n rhuthro i gloddio glo mewn cyferbyniad â phresenoldeb bythol natur.
Mae’r twnnel trenau’n gyfeiriad uniongyrchol i’r rheilffordd, sy’n gofyn y cwestiwn a ydyn ni’n edrych i’r gorffennol neu’r dyfodol, llwybr anghofiedig neu daith ymlaen?
Mae robin yn symboleiddio gwytnwch, hapusrwydd, ac aileni gyda machlud a chodiad yr haul yn dynodi dechreuadau newydd.
Cynrychioli’r mudiadau gwleidyddol a chymdeithasol sydd wedi siapio Tyisha mae’r protestwyr, gan gyfeiriio at derfysgoedd Beca a therfysgoedd y trenau â neges o obaith ar gyfer mudiadau modern.
Symbol o wytnwch a thynerwch yw delwedd y llaw, gyda’r cloc o fewn y llaw yn gweithredu i’n hatgoffa bod amser o hyd yn llithro drwy’n bysedd.
Mae delweddau ar y caeadau CEMTA yn symboleiddio’r cysylltiad dwfn rhwng treftadaeth ddiwydiannol Llanelli a’i hysbryd cymunedol cryf gydag elfennau diwydiannol a wnaeth siapio’r dref a bywydau ei phobl ac sy’n ein hatgoffa o wytnwch ac ysbryd gweithgar tref Llanelli.
Mae’r galon sy’n datgloi yn cynrychioli newid a photensial cudd o fewn y gymuned, gan groesawu cynnydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae’r dysgwyr sy’n rhan o hyn yn astudio cwrs achrededig lefel tri Prifysgol y Celfyddydau Llundain ar un o gampysau Ysgol Gelf Caerfyrddin ym Mhibwrlwyd, Caerfyrddin.
Meddai Milly Walters, myfyrwraig celf a dylunio: Wrth ddechrau’r prosiect hwn, cefais fy swyno gan sut roedd Tyisha fel cymuned.
“Ar ôl gwneud llawer o ymchwil, roeddwn yn deall y cymorth roedd Tyisha ei angen, ac wrth wneud y murlun, rwy’n gobeithio y bydd yn dod â goleuni i’r gymuned. Fe wnaeth gweithio fel grŵp ar y prosiect hwn wneud i mi sylweddoli pa mor bwysig yw gwaith tîm. Ar ôl casglu syniadau a phryderon pawb o fewn Tyisha ac ar gyfer ein murlun, fe wnaethon ni gynhyrchu’r murlun eang gobeithiol, lliwgar hwn i’r gymuned ei fwynhau.”
Meddai Rebecca Sellick, darlithydd celf a dylunio yn Ysgol Gelf Caerfyrddin Coleg Sir Gâr: “Mae myfyrwyr wedi gweithio’n galed iawn ar y prosiect hwn, gan greu murlun gwrthdywydd o syniadau cychwynnol i gyflwyniad terfynol ac rydyn ni wrth ein bodd yn cael gwahoddiad i fod yn rhan o hyn.
“Mae’r murlun hwn yn deyrnged i orffennol, presennol a dyfodol Tyisha, sef dathlu ysbryd y bobl sy’n parhau i siapio ei stori.”
Meddai’r Cynghorydd Linda Davies Evans, yr Aelod Cabinet ar gyfer Cartrefi: “Rwyf wrth fy modd bod y prosiect hwn, drwy waith partneriaeth rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Choleg Sir Gâr, yn darparu cyfle i fyfyrwyr arddangos eu sgiliau artistig yn ogystal â darparu gwaith celf i gymuned Tyisha i bawb ei fwynhau.”


