Skip page header and navigation

“Roedd Philippa yn fodel rôl gadarnhaol i’r Gymraeg i mi gan ei bod mor groesawgar a brwd dros ddysgu ei phwnc. Mae hi mor groesawgar a chadarnhaol, nes i mi deimlo wedi fy annog a’m hysgogi i astudio Cymraeg. 

A piece of Alisha's work and a picture of someone singing into a mic

Myfyrwraig Safon Uwch yw Alisha Grace a gafodd ei hysbrydoli i astudio’r Gymraeg pan wnaeth hi gwrdd â thiwtor y cwrs, Philippa Smith. 

A hithau’n mynychu noson agored i benderfynu ar ei chynlluniau ar gyfer y dyfodol, teimlodd Alisha yn gartrefol yn syth yn siarad Cymraeg gyda Philippa ac mae’n dweud bod ei hymarweddiad croesawgar a’i brwdfrydedd dros yr iaith yn ysbrydoledig. 

Mae’n mwynhau ei hastudiaethau lle mae ar hyn o bryd yn dadansoddi cyfryngau amrywiol megis cerddi, ffilmiau, teledu, dramâu llwyfan a llyfrau ac mae Alisha’n dweud bod gan ddosbarthiadau gymysgedd iach o dasgau ysgrifenedig a llafar gyda thrafodaethau yn dadansoddi pwysigrwydd cadw’r Gymraeg yn berthnasol i gymdeithas heddiw. 

Mae Alisha hefyd yn dweud bod Safon Uwch Cymraeg yn wahanol iawn i TGAU Cymraeg, meddai:  “Mae Safon Uwch Cymraeg yn fwy rhyngweithiol yn yr ystyr o gael sgyrsiau a thrafodaethau gyda chymheiriaid.

“Mae mwy o gyfle i fod yn greadigol nag yn TGAU mewn Cymraeg ysgrifenedig a llafar hefyd, ac mae trafodaethau yn rhai agored lle nad oes unrhyw syniad yn un gwael, ac mae adborth unigol yn gadarnhaol ac mae’r dosbarthiadau yn llai eu maint.

“Rydym hefyd yn gwella ein sgiliau ieithyddol a chywirdeb gramadeg mewn ysgrifennu a siarad.

Mae mwy o gyfle i fod yn greadigol nag yn TGAU mewn Cymraeg ysgrifenedig a llafar hefyd, ac mae trafodaethau yn rhai agored lle nad oes unrhyw syniad yn un gwael, ac mae adborth unigol yn gadarnhaol ac mae’r dosbarthiadau yn llai eu maint.

Roedd ganddi raddau da yn TGAU Cymraeg ac mae hi’n frwd dros ei siarad ond mae hi hefyd eisiau annog eraill i ddysgu.  “Fe es i i’r Eisteddfod eleni,” meddai Alisha.  “Yn y bôn, fi oedd y cyfieithydd ar gyfer fy nheulu lle gwnaethon ni ddathlu cerddoriaeth Gymraeg a chael ein trwytho i ddiwylliant Cymreig cwbl newydd a modern, roeddwn i wir yn teimlo fy mod i’n perthyn yno.”

”Mae Alisha eisiau aros yng Nghymru ac mae’n ystyried gyrfa mewn perfformio ar lwyfan ac ar sgrin, gan ddefnyddio’r Gymraeg neu ddwyieithrwydd i helpu dathlu’r iaith Gymraeg a’i diwylliant.

Wrth fyfyrio ar ei phenderfyniad i astudio Safon Uwch Cymraeg, dywedodd Alisha Grace:  “Pan es i ddiwrnod agored yn 2023 i ddechrau, esboniodd tiwtor y cwrs, Philippa y cwrs i fy mam a minnau. 

“Roedd yn swnio’n apelgar a chawsom sgwrs gyffredinol am fy arholiadau TGAU a chynlluniau ar gyfer y dyfodol o ran bod yn berfformiwr. 

“Roedd Philippa yn defnyddio’r Gymraeg gyda mi ar unwaith ac roeddwn i’n teimlo’n hamddenol ac yn gyfforddus i sgwrsio’n ôl, er nad oeddwn yn gwbl gyfforddus ar y pryd i siarad Cymraeg â phobl nad oeddwn yn eu hadnabod yn flaenorol. 

“Mae hi mor groesawgar a chadarnhaol, nes i mi deimlo wedi fy annog a’m hysgogi i astudio Cymraeg. 

“Roedd Philippa yn fodel rôl gadarnhaol i’r Gymraeg i mi gan ei bod mor groesawgar a brwd dros ddysgu ei phwnc. 

“Mae hi wedi creu lle diogel ar gyfer arbrofi gyda’r Gymraeg a gwella geirfa a gramadeg unigol heb farn.”

Philippa around a fire with some students looking jovial.

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau