Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr Coleg Ceredigion wedi bod yn archwilio dylunio dodrefn yn yr Iseldiroedd gan brofi sut mae gwahanol ddeunyddiau a thechnegau gwneud yn gwahaniaethu i’w hastudiaethau eu hunain yn y grefft.

Mae’r coleg wedi partneru â ROC Ter AA, coleg yn Helmond yn ne’r Iseldiroedd sy’n arbenigo mewn gwneud dodrefn, adeiladu a pheirianneg.

Cafodd y myfyrwyr gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol yng ngweithdai gwneud dodrefn y coleg yn ogystal â mynd ar ymweliadau diwydiannol a diwylliannol.

Dysgon nhw trwy arbrofi gan ddefnyddio deunyddiau ac offer newydd yng ngweithdai’r coleg oedd wedi estyn gwahoddiad iddyn nhw.

Roedd ymweliadau â diwydiant a theithiau o gwmpas gweithdai yn cynnwys ymweld â’r dylunydd dodrefn enwog Piet Hein Eek a ffatri Gielssen, gan weld gweithgynhyrchu dodrefn uwch-dechnoleg o’r radd flaenaf drostyn nhw eu hunain.

Ar yr ochr ddiwylliannol, ymwelodd y myfyrwyr hefyd â gofod celf gyfoes Eindhoven Van Abbemuseum yn ogystal ag Amgueddfa Phillips a chawsant stop sydyn yn Amsterdam, gan gerdded o amgylch y camlesi ac edrych ar ddylunio a phensaernïaeth yn y ddinas.

Buont hefyd yn beicio i dŷ crempog gwledig Iseldirol ac yn ymweld â rownd derfynol cystadleuaeth sgiliau’r Iseldiroedd yn ‘s-Hertogenbosch a rhoi cynnig ar y danteithfwyd melys lleol Bossche Ball, sy’n debyg i brofiterole enfawr.

Dywedodd Chloe Reynolds, darlithydd mewn dylunio a gwneud dodrefn yng Ngholeg Ceredigion:  “Cawsom gymaint o fudd o’r daith hon a gwelsom gymaint o’i diwydiant ac roedd mor wahanol i’r hyn sydd gennym yng ngorllewin Cymru.

“Mae’r ffordd maen nhw’n gwneud pethau a’r deunyddiau maen nhw’n eu defnyddio yn wahanol iawn ac roedd yn ddiddorol gweld yr offer a’r technegau hyn a rhoi cynnig arnyn nhw.

“Roedd hi hefyd yn braf gweld y cyferbyniad rhwng yr hen a’r newydd, fel y felin wynt a’r ffatri uwch-dechnoleg yn Gielissen.

“Cafwyd llawer o ysbrydoliaeth dylunio, yn enwedig yn Eindhoven gan fod Piet Hein Eek yn feistr ar ailgylchu ac wedi datblygu ystod o gynhyrchion y mae galw mawr amdanynt gydag esthetig adferedig.”

Mae’r tîm yn gobeithio trefnu ymweliad arall i fyfyrwyr yn 2025 neu 2026.

Grwp o myfyrwyr yn sefyll tu allan yn y Netherlands

Rhannwch yr eitem newyddion hon